M’Cheyne Bible Reading Plan
16 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, wedi marwolaeth dau fab Aaron, pan offrymasant gerbron yr Arglwydd, ac y buant feirw; 2 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Llefara wrth Aaron dy frawd, na ddelo bob amser i’r cysegr o fewn y wahanlen, gerbron y drugareddfa sydd ar yr arch; fel na byddo efe farw: oherwydd mi a ymddangosaf ar y drugareddfa yn y cwmwl. 3 A hyn y daw Aaron i’r cysegr: â bustach ieuanc yn bech‐aberth, ac â hwrdd yn boethoffrwm. 4 Gwisged bais liain sanctaidd, a bydded llodrau lliain am ei gnawd, a gwregyser ef â gwregys lliain, a gwisged feitr lliain: gwisgoedd sanctaidd yw y rhai hyn; golched yntau ei gnawd mewn dwfr, pan wisgo hwynt. 5 A chymered gan gynulleidfa meibion Israel ddau lwdn gafr yn bech‐aberth, ac un hwrdd yn boethoffrwm. 6 Ac offrymed Aaron fustach y pech‐aberth a fyddo drosto ei hun, a gwnaed gymod drosto ei hun, a thros ei dŷ. 7 A chymered y ddau fwch, a gosoded hwynt gerbron yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod. 8 A rhodded Aaron goelbrennau ar y ddau fwch; un coelbren dros yr Arglwydd, a’r coelbren arall dros y bwch dihangol. 9 A dyged Aaron y bwch y syrthiodd coelbren yr Arglwydd arno, ac offrymed ef yn bech‐aberth. 10 A’r bwch y syrthiodd arno y coelbren i fod yn fwch dihangol, a roddir i sefyll yn fyw gerbron yr Arglwydd, i wneuthur cymod ag ef, ac i’w ollwng i’r anialwch yn fwch dihangol. 11 A dyged Aaron fustach y pech‐aberth a fyddo drosto ei hun, a gwnaed gymod drosto ei hun, a thros ei dŷ; a lladded fustach y pech‐aberth a fyddo drosto ei hun: 12 A chymered lonaid thuser o farwor tanllyd oddi ar yr allor, oddi gerbron yr Arglwydd, a llonaid ei ddwylo o arogl‐darth peraidd mân, a dyged o fewn y wahanlen: 13 A rhodded yr arogl‐darth ar y tân, gerbron yr Arglwydd; fel y cuddio mwg yr arogl‐darth y drugareddfa, yr hon sydd ar y dystiolaeth, ac na byddo efe farw: 14 A chymered o waed y bustach, a thaenelled â’i fys ar y drugareddfa tua’r dwyrain: a saith waith y taenella efe o’r gwaed â’i fys o flaen y drugareddfa.
15 Yna lladded fwch y pech‐aberth fydd dros y bobl, a dyged ei waed ef o fewn y wahanlen; a gwnaed â’i waed ef megis ag y gwnaeth â gwaed y bustach, a thaenelled ef ar y drugareddfa, ac o flaen y drugareddfa: 16 A glanhaed y cysegr oddi wrth aflendid meibion Israel, ac oddi wrth eu hanwireddau, yn eu holl bechodau: a gwnaed yr un modd i babell y cyfarfod, yr hon sydd yn aros gyda hwynt, ymysg eu haflendid hwynt. 17 Ac na fydded un dyn ym mhabell y cyfarfod, pan ddelo efe i mewn i wneuthur cymod yn y cysegr, hyd oni ddelo efe allan, a gwneuthur ohono ef gymod drosto ei hun, a thros ei dŷ, a thros holl gynulleidfa Israel. 18 Ac aed efe allan at yr allor sydd gerbron yr Arglwydd, a gwnaed gymod arni; a chymered o waed y bustach, ac o waed y bwch, a rhodded ar gyrn yr allor oddi amgylch. 19 A thaenelled arni o’r gwaed seithwaith â’i fys, a glanhaed hi, a sancteiddied hi oddi wrth aflendid meibion Israel.
20 A phan ddarffo iddo lanhau y cysegr, a phabell y cyfarfod, a’r allor, dyged y bwch byw: 21 A gosoded Aaron ei ddwylo ar ben y bwch byw, a chyffesed arno holl anwiredd meibion Israel, a’u holl gamweddau hwynt yn eu holl bechodau; a rhodded hwynt ar ben y bwch, ac anfoned ef ymaith yn llaw gŵr cymwys i’r anialwch. 22 A’r bwch a ddwg eu holl anwiredd hwynt arno, i dir neilltuaeth: am hynny hebrynged efe y bwch i’r anialwch. 23 Yna deued Aaron i babell y cyfarfod, a diosged y gwisgoedd lliain a wisgodd efe wrth ddyfod i’r cysegr, a gadawed hwynt yno. 24 A golched ei gnawd mewn dwfr yn y lle sanctaidd, a gwisged ei ddillad, ac aed allan, ac offrymed ei boethoffrwm ei hun, a phoethoffrwm y bobl, a gwnaed gymod drosto ei hun, a thros y bobl. 25 A llosged wêr y pech‐aberth ar yr allor. 26 A golched yr hwn a anfonodd y bwch i fod yn fwch dihangol, ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr; ac yna deued i’r gwersyll. 27 A bustach y pech‐aberth, a bwch y pech‐aberth, y rhai y dygwyd eu gwaed i wneuthur cymod yn y cysegr, a ddwg un i’r tu allan i’r gwersyll; a hwy a losgant eu crwyn hwynt, a’u cnawd, a’u biswail, yn tân. 28 A golched yr hwn a’u llosgo hwynt ei ddillad, golched hefyd ei gnawd mewn dwfr; wedi hynny deued i’r gwersyll.
29 A bydded hyn yn ddeddf dragwyddol i chwi: y seithfed mis, ar y degfed dydd o’r mis, y cystuddiwch eich eneidiau, a dim gwaith nis gwnewch, y priodor a’r dieithr a fyddo yn ymdaith yn eich plith. 30 Oherwydd y dydd hwnnw y gwna yr offeiriad gymod drosoch, i’ch glanhau o’ch holl bechodau, fel y byddoch lân gerbron yr Arglwydd. 31 Saboth gorffwystra yw hwn i chwi; yna cystuddiwch eich eneidiau, trwy ddeddf dragwyddol. 32 A’r offeiriad, yr hwn a eneinio efe, a’r hwn a gysegro efe, i offeiriadu yn lle ei dad, a wna’r cymod, ac a wisg y gwisgoedd lliain, sef y gwisgoedd sanctaidd: 33 Ac a lanha’r cysegr sanctaidd, ac a lanha babell y cyfarfod, a’r allor; ac a wna gymod dros yr offeiriaid, a thros holl bobl y gynulleidfa. 34 A bydded hyn yn ddeddf dragwyddol i chwi, i wneuthur cymod dros feibion Israel, am eu pechodau oll, un waith yn y flwyddyn. Ac efe a wnaeth megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
19 Y Nefoedd sydd yn datgan gogoniant Duw; a’r ffurfafen sydd yn mynegi gwaith ei ddwylo ef. 2 Dydd i ddydd a draetha ymadrodd, a nos i nos a ddengys wybodaeth. 3 Nid oes iaith nac ymadrodd, lle ni chlybuwyd eu lleferydd hwynt. 4 Eu llinyn a aeth trwy yr holl ddaear, a’u geiriau hyd eithafoedd byd: i’r haul y gosododd efe babell ynddynt; 5 Yr hwn sydd fel gŵr priod yn dyfod allan o’i ystafell: ac a ymlawenha fel cawr i redeg gyrfa. 6 O eithaf y nefoedd y mae ei fynediad ef allan, a’i amgylchiad hyd eu heithafoedd hwynt: ac nid ymgudd dim oddi wrth ei wres ef. 7 Cyfraith yr Arglwydd sydd berffaith, yn troi yr enaid: tystiolaeth yr Arglwydd sydd sicr, ac yn gwneuthur y gwirion yn ddoeth. 8 Deddfau yr Arglwydd sydd uniawn, yn llawenhau y galon: gorchymyn yr Arglwydd sydd bur, yn goleuo y llygaid. 9 Ofn yr Arglwydd sydd lân, yn parhau yn dragywydd; barnau yr Arglwydd ydynt wirionedd, cyfiawn ydynt i gyd. 10 Mwy dymunol ŷnt nag aur, ie, nag aur coeth lawer: melysach hefyd na’r mêl, ac na diferiad diliau mêl. 11 Ynddynt hwy hefyd y rhybuddir dy was: o’u cadw y mae gwobr lawer. 12 Pwy a ddeall ei gamweddau? glanha fi oddi wrth fy meiau cuddiedig. 13 Atal hefyd dy was oddi wrth bechodau rhyfygus: na arglwyddiaethont arnaf: yna y’m perffeithir, ac y’m glanheir oddi wrth anwiredd lawer. 14 Bydded ymadroddion fy ngenau, a myfyrdod fy nghalon, yn gymeradwy ger dy fron, O Arglwydd, fy nghraig a’m prynwr.
30 Geiriau Agur mab Jace, sef y broffwydoliaeth: y gŵr a lefarodd wrth Ithiel, wrth Ithiel, meddaf, ac Ucal. 2 Yn wir yr ydwyf yn ffolach na neb, ac nid oes deall dyn gennyf. 3 Ni ddysgais ddoethineb, ac nid oes gennyf wybodaeth y sanctaidd. 4 Pwy a esgynnodd i’r nefoedd, neu a ddisgynnodd? pwy a gasglodd y gwynt yn ei ddyrnau? pwy a rwymodd y dyfroedd mewn dilledyn? pwy a gadarnhaodd holl derfynau y ddaear? beth yw ei enw ef, a pheth yw enw ei fab, os gwyddost? 5 Holl air Duw sydd bur: tarian yw efe i’r neb a ymddiriedant ynddo. 6 Na ddyro ddim at ei eiriau ef, rhag iddo dy geryddu, a’th gael yn gelwyddog. 7 Dau beth yr ydwyf yn eu gofyn gennyt, na omedd hwynt i mi cyn fy marw. 8 Tyn ymhell oddi wrthyf wagedd a chelwydd; na ddyro i mi na thlodi na chyfoeth; portha fi â’m digonedd o fara. 9 Rhag i mi ymlenwi, a’th wadu di, a dywedyd, Pwy yw yr Arglwydd? a rhag i mi fyned yn dlawd, a lladrata, a chymryd enw fy Nuw yn ofer. 10 Nac achwyn ar was wrth ei feistr, rhag iddo dy felltithio, a’th gael yn euog. 11 Y mae cenhedlaeth a felltithia ei thad, a’i mam ni fendithia. 12 Y mae cenhedlaeth lân yn ei golwg ei hun, er nas glanhawyd oddi wrth ei haflendid. 13 Y mae cenhedlaeth, O mor uchel yw ei llygaid! a’i hamrantau a ddyrchafwyd. 14 Y mae cenhedlaeth a’i dannedd yn gleddyfau, a’i childdannedd yn gyllyll, i ddifa y tlodion oddi ar y ddaear, a’r anghenus o blith dynion. 15 I’r gele y mae dwy ferch, yn llefain, Moes, moes. Tri pheth ni ddiwellir: ie, pedwar peth ni ddywedant byth, Digon: 16 Y bedd; y groth amhlantadwy; y ddaear ni ddiwellir â dyfroedd; a’r tân ni ddywed, Digon. 17 Llygad yr hwn a watwaro ei dad, ac a ddiystyro ufuddhau ei fam, a dynn cigfrain y dyffryn, a’r cywion eryrod a’i bwyty. 18 Tri pheth sydd guddiedig i mi; ie, pedwar peth nid adwaen: 19 Ffordd eryr yn yr awyr, ffordd neidr ar graig, ffordd llong yng nghanol y môr, a ffordd gŵr gyda morwyn. 20 Felly y mae ffordd merch odinebus; hi a fwyty, ac a sych ei safn, ac a ddywed, Ni wneuthum i anwiredd. 21 Oherwydd tri pheth y cynhyrfir y ddaear, ac oherwydd pedwar, y rhai ni ddichon hi eu dioddef: 22 Oherwydd gwas pan deyrnaso; ac un ffôl pan lanwer ef o fwyd; 23 Oherwydd gwraig atgas pan brioder hi; a llawforwyn a elo yn aeres i’w meistres. 24 Y mae pedwar peth bychain ar y ddaear, ac eto y maent yn ddoeth iawn: 25 Nid yw y morgrug bobl nerthol, eto y maent yn darparu eu lluniaeth yr haf; 26 Y cwningod nid ydynt bobl rymus, eto hwy a wnânt eu tai yn y graig; 27 Y locustiaid nid oes brenin iddynt, eto hwy a ânt allan yn dorfeydd; 28 Y pryf copyn a ymafaela â’i ddwylo, ac y mae yn llys y brenin. 29 Y mae tri pheth a gerddant yn hardd, ie, pedwar peth a rodiant yn weddus: 30 Llew cryf ymhlith anifeiliaid, ni thry yn ei ôl er neb; 31 Milgi cryf yn ei feingefn, a bwch, a brenin, yr hwn ni chyfyd neb yn ei erbyn. 32 Os buost ffôl yn ymddyrchafu, ac os meddyliaist ddrwg, dyro dy law ar dy enau. 33 Yn ddiau corddi llaeth a ddwg allan ymenyn, a gwasgu ffroenau a dynn allan waed: felly cymell llid a ddwg allan gynnen.
1 Paul, apostol Iesu Grist, yn ôl gorchymyn Duw ein Hiachawdwr, a’r Arglwydd Iesu Grist, ein gobaith: 2 At Timotheus, fy mab naturiol yn y ffydd: Gras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a Crist Iesu ein Harglwydd. 3 Megis y deisyfais arnat aros yn Effesus, pan euthum i Facedonia, fel y gellit rybuddio rhai na ddysgont ddim amgen, 4 Ac na ddaliont ar chwedlau, ac achau anorffen, y rhai sydd yn peri cwestiynau yn hytrach nag adeiladaeth dduwiol, yr hon sydd trwy ffydd; gwna felly. 5 Eithr diwedd y gorchymyn yw cariad o galon bur, a chydwybod dda, a ffydd ddiragrith: 6 Oddi wrth yr hyn bethau y gŵyrodd rhai, ac y troesant heibio at ofer siarad; 7 Gan ewyllysio bod yn athrawon o’r ddeddf, heb ddeall na pha bethau y maent yn eu dywedyd, nac am ba bethau y maent yn taeru. 8 Eithr nyni a wyddom mai da yw’r gyfraith, os arfer dyn hi yn gyfreithlon; 9 Gan wybod hyn, nad i’r cyfiawn y rhoddwyd y gyfraith, eithr i’r rhai digyfraith ac anufudd, i’r rhai annuwiol a phechaduriaid, i’r rhai disanctaidd a halogedig, i dad‐leiddiaid a mam‐leiddiaid, i leiddiaid dynion, 10 I buteinwyr, i wryw‐gydwyr, i ladron dynion, i gelwyddwyr, i anudonwyr, ac os oes dim arall yn wrthwyneb i athrawiaeth iachus; 11 Yn ôl efengyl gogoniant y bendigedig Dduw, am yr hon yr ymddiriedwyd i mi. 12 Ac yr ydwyf yn diolch i’r hwn a’m nerthodd i, sef Crist Iesu ein Harglwydd, am iddo fy nghyfrif yn ffyddlon, gan fy ngosod yn y weinidogaeth; 13 Yr hwn oeddwn o’r blaen yn gablwr, ac yn erlidiwr, ac yn drahaus: eithr mi a gefais drugaredd, am i mi yn ddiarwybod ei wneuthur trwy anghrediniaeth. 14 A gras ein Harglwydd ni a dra-amlhaodd gyda ffydd a chariad, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu. 15 Gwir yw’r gair, ac yn haeddu pob derbyniad, ddyfod Crist Iesu i’r byd i gadw pechaduriaid; o ba rai, pennaf ydwyf i. 16 Eithr o achos hyn y cefais drugaredd, fel y dangosai Iesu Grist ynof fi yn gyntaf bob hiroddef, er siampl i’r rhai a gredant rhag llaw ynddo ef i fywyd tragwyddol. 17 Ac i’r Brenin tragwyddol, anfarwol, anweledig, i’r Duw unig ddoeth, y byddo anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd. Amen. 18 Y gorchymyn hwn yr ydwyf yn ei roddi i ti, fy mab Timotheus, yn ôl y proffwydoliaethau a gerddasant o’r blaen amdanat, ar filwrio ohonot ynddynt filwriaeth dda; 19 Gan fod gennyt ffydd, a chydwybod dda; yr hon a wrthododd rhai, ac a wnaethant longddrylliad am y ffydd: 20 O ba rai y mae Hymeneus ac Alexander; y rhai a roddais i Satan, fel y dysgent na chablent.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.