M’Cheyne Bible Reading Plan
14 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, 2 Dyma gyfraith y gwahanglwyfus, y dydd y glanheir ef. Dyger ef at yr offeiriad: 3 A’r offeiriad a ddaw allan o’r gwersyll; ac edryched yr offeiriad: ac wele, os pla’r gwahanglwyf a iachaodd ar y gwahanglwyfus; 4 Yna gorchmynned yr offeiriad i’r hwn a lanheir, gymryd dau aderyn y to, byw a glân, a choed cedr, ac ysgarlad, ac isop. 5 A gorchmynned yr offeiriad ladd y naill aderyn y to mewn llestr pridd, oddi ar ddwfr rhedegog. 6 A chymered efe yr aderyn byw, a’r coed cedr, a’r ysgarlad, a’r isop, a throched hwynt a’r aderyn byw hefyd yng ngwaed yr aderyn a laddwyd oddi ar y dwfr rhedegog. 7 A thaenelled seithwaith ar yr hwn a lanheir oddi wrth y gwahanglwyf, a barned ef yn lân; yna gollynged yr aderyn byw yn rhydd ar wyneb y maes. 8 A golched yr hwn a lanheir ei ddillad, ac eillied ei holl flew, ac ymolched mewn dwfr; a glân fydd: a deued wedi hynny i’r gwersyll, a thriged o’r tu allan i’w babell saith niwrnod. 9 A’r seithfed dydd bydded iddo eillio ei holl flew, sef ei ben, a’i farf, ac aeliau ei lygaid; ie, eillied ei holl flew; a golched ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr; a glân fydd. 10 A’r wythfed dydd cymered ddau oen perffaith‐gwbl, ac un hesbin flwydd berffaith‐gwbl, a thair degfed ran o beilliaid, yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, ac un log o olew. 11 A gosoded yr offeiriad a lanhao, y gŵr a lanheir, a hwynt hefyd, gerbron yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod. 12 A chymered yr offeiriad un hesbwrn, ac offrymed ef yn aberth dros gamwedd, a’r log o olew, a chyhwfaned hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd. 13 A lladded ef yr oen yn y lle y lladder y pech‐aberth, a’r poethoffrwm; sef yn y lle sanctaidd: oherwydd yr aberth dros gamwedd sydd eiddo’r offeiriad, yn gystal â’r pech‐aberth: sancteiddiolaf yw. 14 A chymered yr offeiriad o waed yr aberth dros gamwedd, a rhodded yr offeiriad ef ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau ef. 15 A chymered yr offeiriad o’r log olew, a thywallted ar gledr ei law aswy ei hun: 16 A gwlyched yr offeiriad ei fys deau yn yr olew fyddo ar ei law aswy, a thaenelled o’r olew â’i fys seithwaith gerbron yr Arglwydd. 17 Ac o weddill yr olew fyddo ar ei law, y dyd yr offeiriad ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau, ar waed yr offrwm dros gamwedd. 18 A’r rhan arall o’r olew fyddo ar law yr offeiriad, a rydd efe ar ben yr hwn a lanheir; a gwnaed yr offeiriad gymod drosto gerbron yr Arglwydd. 19 Ie, offrymed yr offeiriad aberth dros bechod, a gwnaed gymod dros yr hwn a lanheir oddi wrth ei aflendid; ac wedi hyny lladded y poethoffrwm. 20 Ac aberthed yr offeiriad y poethoffrwm, a’r bwyd‐offrwm, ar yr allor; a gwnaed yr offeiriad gymod drosto; a glân fydd. 21 Ond os tlawd fydd, a’i law heb gyrhaeddyd hyn; yna cymered un oen, yn aberth dros gamwedd, i’w gyhwfanu, i wneuthur cymod drosto, ac un ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew yn fwyd‐offrwm, a log o olew; 22 A dwy durtur, neu ddau gyw colomen, y rhai a gyrhaeddo ei law: a bydded un yn bech‐aberth, a’r llall yn boethoffrwm. 23 A dyged hwynt yr wythfed dydd i’w lanhau ef at yr offeiriad, wrth ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr Arglwydd. 24 A chymered yr offeiriad oen yr offrwm dros gamwedd, a’r log olew, a chyhwfaned yr offeiriad hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd. 25 A lladded oen yr offrwm dros gamwedd; a chymered yr offeiriad o waed yr offrwm dros gamwedd, a rhodded ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau. 26 A thywallted yr offeiriad o’r olew ar gledr ei law aswy ei hun: 27 Ac â’i fys deau taenelled yr offeiriad o’r olew fyddo ar gledr ei law aswy, seithwaith gerbron yr Arglwydd. 28 A rhodded yr offeiriad o’r olew a fyddo ar gledr ei law, ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau, ar y man y byddo gwaed yr offrwm dros gamwedd. 29 A’r rhan arall o’r olew fyddo ar gledr llaw yr offeiriad, a rydd efe ar ben yr hwn a lanheir, i wneuthur cymod drosto gerbron yr Arglwydd. 30 Yna offrymed un o’r turturau, neu o’r cywion colomennod, sef o’r rhai a gyrhaeddo ei law ef; 31 Y rhai, meddaf, a gyrhaeddo ei law ef, un yn bech‐aberth, ac un yn boethoffrwm, ynghyd â’r bwyd‐offrwm: a gwnaed yr offeiriad gymod dros yr hwn a lanheir gerbron yr Arglwydd. 32 Dyma gyfraith yr un y byddo pla’r gwahanglwyf arno, yr hwn ni chyrraedd ei law yr hyn a berthyn i’w lanhad.
33 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd, 34 Pan ddeloch i dir Canaan, yr hwn yr ydwyf yn ei roddi i chwi yn feddiant, os rhoddaf bla gwahanglwyf ar dŷ o fewn tir eich meddiant; 35 A dyfod o’r hwn biau’r tŷ, a dangos i’r offeiriad, gan ddywedyd, Gwelaf megis pla yn y tŷ: 36 Yna gorchmynned yr offeiriad iddynt arloesi’r tŷ, cyn dyfod yr offeiriad i weled y pla; fel na haloger yr hyn oll a fyddo yn tŷ: ac wedi hynny deued yr offeiriad i edrych y tŷ; 37 Ac edryched ar y pla: ac wele, os y pla fydd ym mharwydydd y tŷ, yn agennau gwyrddleision neu gochion, a’r olwg arnynt yn is na’r pared; 38 Yna aed yr offeiriad allan o’r tŷ, i ddrws y tŷ, a chaeed y tŷ saith niwrnod. 39 A’r seithfed dydd deued yr offeiriad drachefn, ac edryched: ac os lledodd y pla ym mharwydydd y tŷ; 40 Yna gorchmynned yr offeiriad iddynt dynnu’r cerrig y byddo y pla arnynt, a bwriant hwynt allan o’r ddinas i le aflan. 41 A phared grafu’r tŷ o’i fewn o amgylch; a thywalltant y llwch a grafont, o’r tu allan i’r ddinas i le aflan. 42 A chymerant gerrig eraill, a gosodant yn lle y cerrig hynny; a chymered bridd arall, a phridded y tŷ. 43 Ond os daw’r pla drachefn, a tharddu yn y tŷ, wedi tynnu’r cerrig, ac wedi crafu’r tŷ, ac wedi priddo; 44 Yna doed yr offeiriad, ac edryched: ac wele, os lledodd y pla yn y tŷ, gwahanglwyf ysol yw hwnnw yn y tŷ: aflan yw efe. 45 Yna tynned y tŷ i lawr, ei gerrig, a’i goed, a holl bridd y tŷ; a bwried i’r tu allan i’r ddinas i le aflan. 46 A’r hwn a ddêl i’r tŷ yr holl ddyddiau y parodd efe ei gau, efe a fydd aflan hyd yr hwyr. 47 A’r hwn a gysgo yn y tŷ, golched ei ddillad: felly yr hwn a fwytao yn y tŷ, golched ei ddillad. 48 Ac os yr offeiriad gan ddyfod a ddaw, ac a edrych; ac wele, ni ledodd y pla yn y tŷ, wedi priddo’r tŷ: yna barned yr offeiriad y tŷ yn lân, oherwydd iacháu y pla. 49 A chymered i lanhau y tŷ ddau aderyn y to, a choed cedr ac ysgarlad, ac isop. 50 A lladded y naill aderyn mewn llestr pridd, oddi ar ddwfr rhedegog. 51 A chymered y coed cedr, a’r isop, a’r ysgarlad, a’r aderyn byw, a throched hwynt yng ngwaed yr aderyn a laddwyd, ac yn y dwfr rhedegog, a thaenelled ar y tŷ seithwaith. 52 A glanhaed y tŷ â gwaed yr aderyn, ac â’r dwfr rhedegog, ac â’r aderyn byw, ac â’r coed cedr, ac â’r isop, ac â’r ysgarlad. 53 A gollynged yr aderyn byw allan o’r ddinas ar wyneb y maes, a gwnaed gymod dros y tŷ; a glân fydd. 54 Dyma gyfraith am bob pla’r clwyf gwahanol, ac am y ddufrech, 55 Ac am wahanglwyf gwisg, a thŷ, 56 Ac am chwydd, a chramen, a disgleirdeb; 57 I ddysgu pa bryd y bydd aflan, a pha bryd yn lân. Dyma gyfraith y gwahanglwyf.
Gweddi Dafydd.
17 Clyw, Arglwydd, gyfiawnder, ystyria fy lefain, gwrando fy ngweddi o wefusau didwyll. 2 Deued fy marn oddi ger dy fron: edryched dy lygaid ar uniondeb. 3 Profaist fy nghalon; gofwyaist fi y nos; chwiliaist fi, ac ni chei ddim: bwriedais na throseddai fy ngenau. 4 Tuag at am weithredoedd dynion, wrth eiriau dy wefusau yr ymgedwais rhag llwybrau yr ysbeilydd. 5 Cynnal fy ngherddediad yn dy lwybrau, fel na lithro fy nhraed. 6 Mi a elwais arnat; canys gwrandewi arnaf fi, O Dduw: gostwng dy glust ataf, ac erglyw fy ymadrodd. 7 Dangos dy ryfedd drugareddau,O Achubydd y rhai a ymddiriedant ynot, rhag y sawl a ymgyfodant yn erbyn dy ddeheulaw. 8 Cadw fi fel cannwyll llygad: cudd fi dan gysgod dy adenydd, 9 Rhag yr annuwiolion, y rhai a’m gorthrymant, rhag fy ngelynion marwol, y rhai a’m hamgylchant. 10 Caesant gan eu braster: â’u genau y llefarant mewn balchder. 11 Ein cyniweirfa ni a glychynasant hwy yr awron: gosodasant eu llygaid i dynnu i lawr i’r ddaear. 12 Eu dull sydd fel llew a chwenychai ysglyfaethu, ac megis llew ieuanc yn aros mewn leoedd dirgel. 13 cyfod, Arglwydd, achub ei flaen ef, cwympa ef: gwared fy enaid rhag yr annuwio, yr hwn yw dy gleddyf di; 14 Rhag dynion, y rhai yw dy law, O Arglwydd, rhag dynion y byd, y rhai y mae eu rhan yn y bywyd yma, a’r rhai y llenwaist eu boliau â’th guddiedig drysor: llawn ydynt o feibion, a gadawant eu gweddill i’w rhai bychain. 15 Myfi a edrychaf ar dy wyneb mewn cyfiawnder: digonir fi, pan ddihunwyf, â’th ddelw di.
28 Yr annuwiol a ffy heb neb yn ei erlid: ond y rhai cyfiawn sydd hy megis llew. 2 Oherwydd camwedd gwlad, aml fydd ei phenaethiaid: ond lle y byddo gŵr pwyllog synhwyrol, y pery hi yn hir. 3 Gŵr tlawd yn gorthrymu tlodion, sydd debyg i lifddwfr yr hwn ni ad luniaeth. 4 Y rhai a ymadawant â’r gyfraith, a ganmolant yr annuwiol: ond y neb a gadwant y gyfraith, a ymladd â hwynt. 5 Dynion annuwiol ni ddeallant farn: ond y neb a geisiant yr Arglwydd, a ddeallant bob peth. 6 Gwell yw y tlawd a rodio yn ei uniondeb, na’r traws ei ffyrdd, er ei fod yn gyfoethog. 7 Y neb a gadwo y gyfraith, sydd fab deallus: ond y neb a fyddo gydymaith i loddestwyr, a gywilyddia ei dad. 8 Y neb a chwanego ei gyfoeth trwy usuriaeth ac ocraeth, sydd yn casglu i’r neb a fydd trugarog wrth y tlawd. 9 Y neb a dry ei glust ymaith rhag gwrando’r gyfraith, fydd ffiaidd ei weddi hefyd. 10 Y neb a ddeno y cyfiawn i ffordd ddrwg, a syrth yn ei bydew ei hun: ond y cyfiawn a feddianna ddaioni. 11 Gŵr cyfoethog sydd ddoeth yn ei olwg ei hun: ond y tlawd deallus a’i chwilia ef allan. 12 Pan fyddo llawen y cyfiawn, y mae anrhydedd mawr: ond pan ddyrchafer yr annuwiolion, y chwilir am ddyn. 13 Y neb a guddio ei bechodau, ni lwydda: ond y neb a’u haddefo, ac a’u gadawo, a gaiff drugaredd. 14 Gwyn ei fyd y dyn a ofno yn wastadol: ond y neb a galedo ei galon, a ddigwydda i ddrwg. 15 Fel y llew rhuadus, a’r arth wancus, yw llywydd annuwiol i bobl dlodion. 16 Penadur heb ddeall sydd yn fawr ei drawsedd: ond y neb a gasao gybydd‐dra, a estyn ei ddyddiau. 17 Dyn a wnelo drawsedd i waed neb, a ffy i’r pwll; nac atalied neb ef. 18 Y neb a rodio yn uniawn, a waredir: ond y neb a fyddo traws ei ffyrdd, a syrth ar unwaith. 19 Y neb a lafurio ei dir, a ddigonir o fara: ond y neb a ganlyno oferwyr, a gaiff ddigon o dlodi. 20 Gŵr ffyddlon a fydd aml ei fendithion: ond y neb a brysuro i fod yn gyfoethog, ni bydd digerydd. 21 Nid da derbyn wyneb: canys y cyfryw ŵr am damaid o fara a wna gam. 22 Gŵr drwg ei lygad a brysura i ymgyfoethogi: ond bychan y gŵyr efe y daw tlodi arno. 23 Y neb a geryddo ddyn, a gaiff yn y diwedd fwy o ffafr na’r neb a draetho weniaith â’i dafod. 24 Y neb a ysbeilio ei dad neu ei fam, ac a ddywed, Nid yw hyn gamwedd, sydd gymar i ddinistriwr. 25 Gŵr uchel ei feddwl a ennyn gynnen: ond y neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd, a wneir yn fras. 26 Y neb a ymddiriedo yn ei galon ei hun, sydd ffôl: ond y neb a rodio yn bwyllog, a achubir. 27 Y neb a roddo i’r tlawd, ni bydd angen arno: ond y neb a guddio ei lygaid, a gaiff lawer o felltithion. 28 Pan ddyrchafer yr annuwiol, dynion a ymguddia: ond wedi darfod amdanynt, yr amlheir y cyfiawn.
2 Ac yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, er dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, a’n cydgynulliad ninnau ato ef, 2 Na’ch sigler yn fuan oddi wrth eich meddwl, ac na’ch cynhyrfer, na chan ysbryd, na chan air, na chan lythyr, megis oddi wrthym ni, fel pe bai dydd Crist yn gyfagos. 3 Na thwylled neb chwi mewn un modd: oblegid ni ddaw’r dydd hwnnw hyd oni ddêl ymadawiad yn gyntaf, a datguddio’r dyn pechod, mab y golledigaeth; 4 Yr hwn sydd yn gwrthwynebu, ac yn ymddyrchafu goruwch pob peth a elwir yn Dduw, neu a addolir; hyd onid yw efe, megis Duw, yn eistedd yn nheml Duw, ac yn ei ddangos ei hun mai Duw ydyw. 5 Onid cof gennych chwi, pan oeddwn i eto gyda chwi, ddywedyd ohonof y pethau hyn i chwi? 6 Ac yr awron chwi a wyddoch yr hyn sydd yn atal, fel y datguddier ef yn ei bryd ei hun. 7 Canys y mae dirgelwch yr anwiredd yn gweithio eisoes: yn unig yr hwn sydd yr awron yn atal, a etyl nes ei dynnu ymaith. 8 Ac yna y datguddir yr Anwir hwnnw, yr hwn a ddifetha’r Arglwydd ag ysbryd ei enau, ac a ddilea â disgleirdeb ei ddyfodiad: 9 Sef yr hwn y mae ei ddyfodiad yn ôl gweithrediad Satan, gyda phob nerth, ac arwyddion, a rhyfeddodau gau, 10 A phob dichell anghyfiawnder yn y rhai colledig; am na dderbyniasant gariad y gwirionedd, fel y byddent gadwedig. 11 Ac am hynny y denfyn Duw iddynt hwy amryfusedd cadarn, fel y credont gelwydd: 12 Fel y barner yr holl rai nid oeddynt yn credu i’r gwirionedd, ond yn ymfodloni mewn anghyfiawnder. 13 Eithr nyni a ddylem ddiolch yn wastad i Dduw drosoch chwi, frodyr caredig gan yr Arglwydd, oblegid i Dduw o’r dechreuad eich ethol chwi i iachawdwriaeth, trwy sancteiddiad yr Ysbryd, a ffydd i’r gwirionedd: 14 I’r hyn y galwodd efe chwi trwy ein hefengyl ni, i feddiannu gogoniant ein Harglwydd Iesu Grist. 15 Am hynny, frodyr, sefwch, a deliwch y traddodiadau a ddysgasoch, pa un bynnag ai trwy ymadrodd, ai trwy ein hepistol ni. 16 A’n Harglwydd Iesu Grist ei hun, a Duw a’n Tad, yr hwn a’n carodd ni, ac a roddes inni ddiddanwch tragwyddol, a gobaith da trwy ras, 17 A ddiddano eich calonnau chwi, ac a’ch sicrhao ym mhob gair a gweithred dda.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.