M’Cheyne Bible Reading Plan
10 Yna Nadab ac Abihu, meibion Aaron, a gymerasant bob un ei thuser, ac a roddasant dân ynddynt, ac a osodasant arogl‐darth ar hynny; ac a offrymasant gerbron yr Arglwydd dân dieithr yr hwn ni orchmynasai efe iddynt. 2 A daeth tân allan oddi gerbron yr Arglwydd, ac a’u difaodd hwynt; a buant feirw gerbron yr Arglwydd. 3 A dywedodd Moses wrth Aaron, Dyma’r hyn a lefarodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, Mi a sancteiddir yn y rhai a nesânt ataf, a cherbron yr holl bobl y’m gogoneddir. A thewi a wnaeth Aaron. 4 A galwodd Moses Misael ac Elsaffan, meibion Ussiel, ewythr Aaron, a dywedodd wrthynt, Deuwch yn nes; dygwch eich brodyr oddi gerbron y cysegr, allan o’r gwersyll. 5 A nesáu a wnaethant, a’u dwyn hwynt yn eu peisiau allan o’r gwersyll; fel y llefarasai Moses. 6 A dywedodd Moses wrth Aaron, ac wrth Eleasar ac wrth Ithamar ei feibion, Na ddiosgwch oddi am eich pennau, ac na rwygwch eich gwisgoedd: rhag i chwi farw, a dyfod digofaint ar yr holl gynulleidfa: ond wyled eich brodyr chwi, holl dŷ Israel, am y llosgiad a losgodd yr Arglwydd. 7 Ac nac ewch allan o ddrws pabell y cyfarfod; rhag i chwi farw: oherwydd bod olew eneiniad yr Arglwydd arnoch chwi. A gwnaethant fel y llefarodd Moses.
8 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Aaron, gan ddywedyd, 9 Gwin a diod gadarn nac yf di, na’th feibion gyda thi, pan ddeloch i babell y cyfarfod; fel na byddoch feirw. Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau fydd hyn: 10 A hynny er gwahanu rhwng cysegredig a digysegredig, a rhwng aflan a glân; 11 Ac i ddysgu i feibion Israel yr holl ddeddfau a lefarodd yr Arglwydd wrthynt trwy law Moses.
12 A llefarodd Moses wrth Aaron, ac wrth Eleasar ac wrth Ithamar, y rhai a adawsid o’i feibion ef, Cymerwch y bwyd‐offrwm sydd yng ngweddill o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, a bwytewch yn groyw gerllaw yr allor: oherwydd sancteiddiolaf yw. 13 A bwytewch ef yn y lle sanctaidd: oherwydd dy ran di, a rhan dy feibion di, o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, yw hyn: canys fel hyn y’m gorchmynnwyd. 14 Y barwyden gyhwfan hefyd, a’r ysgwyddog ddyrchafael, a fwytewch mewn lle glân; tydi, a’th feibion, a’th ferched, ynghyd â thi: oherwydd hwynt a roddwyd yn rhan i ti, ac yn rhan i’th feibion di, o ebyrth hedd meibion Israel. 15 Yr ysgwyddog ddyrchafael, a’r barwyden gyhwfan, a ddygant ynghyd ag ebyrth tanllyd o’r gwêr, i gyhwfanu offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd: a bydded i ti, ac i’th feibion gyda thi, yn rhan dragwyddol; fel y gorchmynnodd yr Arglwydd.
16 A Moses a geisiodd yn ddyfal fwch yr aberth dros bechod; ac wele ef wedi ei losgi: ac efe a ddigiodd wrth Eleasar ac Ithamar, y rhai a adawsid o feibion Aaron, gan ddywedyd, 17 Paham na fwytasoch yr aberth dros bechod yn y lle sanctaidd; oherwydd sancteiddiolaf yw, a Duw a’i rhoddodd i chwi, i ddwyn anwiredd y gynulleidfa, gan wneuthur cymod drostynt, gerbron yr Arglwydd? 18 Wele, ni ddygwyd ei waed ef i fewn y cysegr: ei fwyta a ddylasech yn y cysegr; fel y gorchmynnais. 19 A dywedodd Aaron wrth Moses, Wele, heddiw yr offrymasant eu haberth dros bechod, a’u poethoffrwm, gerbron yr Arglwydd; ac fel hyn y digwyddodd i mi; am hynny os bwytawn aberth dros bechod heddiw, a fyddai hynny dda yng ngolwg yr Arglwydd? 20 A phan glybu Moses hynny, efe a fu fodlon.
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
11 Yn yr Arglwydd yr wyf yn ymddiried: pa fodd y dywedwch wrth fy enaid, Eheda i’ch mynydd fel aderyn? 2 Canys wele, y drygionus a anelant fwa, paratoesant eu saethau ar y llinyn; i saethu yn ddirgel y rhai uniawn o galon. 3 Canys y seiliau a ddinistriwyd; pa beth a wna y cyfiawn? 4 Yr Arglwydd sydd yn nheml ei sancteiddrwydd; gorseddfa yr Arglwydd sydd yn y nefoedd: y mae ei lygaid ef yn gweled, ei amrantau yn profi meibion dynion. 5 Yr Arglwydd a brawf y cyfiawn: eithr cas gan ei enaid ef y drygionus, a’r hwn sydd hoff ganddo drawster. 6 Ar yr annuwiolion y glawia efe faglau, tân a brwmstan, a phoethwynt ystormus: dyma ran eu ffiol hwynt. 7 Canys yr Arglwydd cyfiawn a gâr gyfiawnder: ei wyneb a edrych ar yr uniawn.
I’r Pencardd ar Seminith, Salm Dafydd.
12 Achub, Arglwydd; canys darfu y trugarog: oherwydd pallodd y ffyddloniaid o blith meibion dynion. 2 Oferedd a ddywedant bob un wrth ei gymydog: â gwefus wenieithgar, ac â chalon ddauddyblyg, y llefarant. 3 Torred yr Arglwydd yr holl wefusau gweneithus,a’r tafod a person ddywedo fawrhydi: 4 Y rhai a ddywedant, Â’n tafod y gorfyddwn; ein gwefusau a sydd eiddom ni: pwy sydd arglwydd arnom ni? 5 Oherwydd anrhaith y rhai cystuddiedig, oherwydd uchenaid y tlodion, y cyfodaf yn awr, medd yr Arglwydd; rhoddaf mewn iachawdwriaeth yr hwn y magler iddo. 6 Geiriau yr Arglwydd ydynt eiriau purion; fel arian wedi ei goethi mewn ffwrn bridd, wedi ei buro seithwaith. 7 Ti, Arglwydd, a’u cedwi hwynt: cedwi hwynt rhag y genhedlaeth hon yn dragywydd. 8 Yr annuwiolion a rodiant o amgylch, pan ddyrchafer y gwaelaf o feibion dynion.
25 Dyma hefyd ddiarhebion Solomon, y rhai a gasglodd gwŷr Heseceia brenin Jwda. 2 Anrhydedd Duw yw dirgelu peth: ond anrhydedd brenin yw chwilio peth allan. 3 Y nefoedd am uchder, y ddaear am ddyfnder, a chalon brenhinoedd, ni ellir eu chwilio. 4 Tyn yr amhuredd oddi wrth yr arian, a daw i’r gof arian lestr. 5 Tyn yr annuwiol o olwg y brenin, a’i orseddfa ef a gadarnheir trwy gyfiawnder. 6 Nac ymogonedda gerbron y brenin; ac na saf yn lle gwŷr mawr: 7 Canys gwell i ti ddywedyd wrthyt, Tyred yma i fyny, na’th fwrw yn is gerbron pendefig yr hwn a welodd dy lygaid. 8 Na ddos allan i gynhennu ar frys: rhag na wypych beth a wnelych yn ei diwedd, wedi dy gywilyddio gan dy gymydog. 9 Ymresyma â’th gymydog ei hun: ond na ddatguddia gyfrinach i arall: 10 Rhag i’r neb a fyddo yn gwrando ddwyn gwarth arnat ti; ac i’th gywilydd na thro ymaith. 11 Gair a ddyweder mewn amser sydd megis afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig. 12 Ceryddwr doeth i’r glust a wrandawo, sydd fel anwyldlws euraid, a gwisg o aur rhagorol. 13 Megis oerder eira yn amser cynhaeaf, yw cennad ffyddlon i’r rhai a’i gyrrant: canys efe a lawenycha enaid ei feistriaid. 14 Y neb a ymffrostio o achos gau rodd, sydd gyffelyb i gymylau a gwynt heb law. 15 Trwy hirymaros y bodlonir pendefig: a thafod esmwyth a dyr asgwrn. 16 Pan gaffech fêl, bwyta a’th wasanaetho: rhag wedi dy lenwi ohono, i ti ei chwydu ef. 17 Cadw dy droed allan o dŷ dy gymydog: rhag iddo flino arnat, a’th gasáu. 18 Y neb a ddygo gamdystiolaeth yn erbyn ei gymydog, sydd megis gordd, a chleddyf, a saeth lem. 19 Hyder ar ffalswr yn nydd cyfyngder, sydd megis dant wedi ei dorri, a throed wedi tyrfu. 20 Fel yr hwn a ddygo ymaith wisg yn amser oerfel, ac fel finegr ar nitr, felly y mae yr hwn sydd yn canu caniadau i galon drist. 21 Os dy elyn a newyna, portha ef â bara; ac os sycheda, dod iddo ddiod i’w hyfed: 22 Canys marwor a bentyrri ar ei ben ef; a’r Arglwydd a dâl i ti. 23 Gwynt y gogledd a yrr y glaw ymaith: felly y gyr wynepryd dicllon dafod athrotgar. 24 Gwell yw trigo mewn congl yn nen tŷ, na chyda gwraig anynad mewn tŷ eang. 25 Fel dyfroedd oerion i enaid sychedig, yw newyddion da o wlad bell. 26 Gŵr cyfiawn wedi syrthio i lawr gerbron y drygionus, sydd megis ffynnon wedi ei chymysgu â gofer budr. 27 Nid da bwyta llawer o fêl: ac felly chwilio eu hanrhydedd, nid anrhydedd yw. 28 Y neb ni byddo ganddo atal ar ei ysbryd ei hun, sydd megis dinas ddrylliog heb gaer.
4 Ymhellach gan hynny, frodyr, yr ydym yn atolwg i chwi, ac yn deisyf yn yr Arglwydd Iesu, megis y derbyniasoch gennym pa fodd y dylech rodio a bodloni Duw, ar i chwi gynyddu fwyfwy. 2 Canys chwi a wyddoch pa orchmynion a roddasom i chwi trwy’r Arglwydd Iesu. 3 Canys hyn yw ewyllys Duw, sef eich sancteiddiad chwi, ar ymgadw ohonoch rhag godineb: 4 Ar fedru o bob un ohonoch feddiannu ei lestr ei hun mewn sancteiddrwydd a pharch; 5 Nid mewn gwŷn trachwant, megis y Cenhedloedd y rhai nid adwaenant Dduw: 6 Na byddo i neb orthrymu na thwyllo ei frawd mewn dim: canys dialydd yw’r Arglwydd ar y rhai hyn oll, megis y dywedasom i chwi o’r blaen, ac y tystiasom. 7 Canys ni alwodd Duw nyni i aflendid, ond i sancteiddrwydd. 8 Am hynny y neb sydd yn dirmygu, nid dyn y mae yn ei ddirmygu, ond Duw, yr hwn hefyd a roddes ei Ysbryd Glân ynom ni. 9 Ond am frawdgarwch, nid rhaid i chwi ysgrifennu ohonof atoch: canys yr ydych chwi eich hunain wedi eich dysgu gan Dduw i garu eich gilydd. 10 Oblegid yr ydych yn gwneuthur hyn i bawb o’r brodyr y rhai sydd trwy holl Facedonia: ond yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, gynyddu ohonoch fwyfwy; 11 A rhoddi ohonoch eich bryd ar fod yn llonydd, a gwneuthur eich gorchwylion eich hunain, a gweithio â’ch dwylo eich hunain, (megis y gorchmynasom i chwi;) 12 Fel y rhodioch yn weddaidd tuag at y rhai sydd oddi allan, ac na byddo arnoch eisiau dim. 13 Ond ni ewyllysiwn, frodyr, i chwi fod heb wybod am y rhai a hunasant, na thristaoch, megis eraill y rhai nid oes ganddynt obaith. 14 Canys os ydym yn credu farw Iesu, a’i atgyfodi; felly y rhai a hunasant yn yr Iesu, a ddwg Duw hefyd gydag ef. 15 Canys hyn yr ydym yn ei ddywedyd wrthych yng ngair yr Arglwydd, na bydd i ni’r rhai byw, y rhai a adewir hyd ddyfodiad yr Arglwydd, ragflaenu’r rhai a hunasant. 16 Oblegid yr Arglwydd ei hun a ddisgyn o’r nef gyda bloedd, â llef yr archangel, ac ag utgorn Duw: a’r meirw yng Nghrist a gyfodant yn gyntaf: 17 Yna ninnau’r rhai byw, y rhai a adawyd, a gipir i fyny gyda hwynt yn y cymylau, i gyfarfod â’r Arglwydd yn yr awyr: ac felly y byddwn yn wastadol gyda’r Arglwydd. 18 Am hynny diddenwch eich gilydd â’r ymadroddion hyn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.