M’Cheyne Bible Reading Plan
9 Yna y bu, ar yr wythfed dydd, i Moses alw Aaron a’i feibion, a henuriaid Israel; 2 Ac efe a ddywedodd wrth Aaron, Cymer i ti lo ieuanc yn aberth dros bechod, a hwrdd yn boethoffrwm, o rai perffaith‐gwbl, a dwg hwy gerbron yr Arglwydd. 3 Llefarodd hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Cymerwch fyn gafr, yn aberth dros bechod; a llo, ac oen, blwyddiaid, perffaith‐gwbl, yn boethoffrwm; 4 Ac eidion, a hwrdd, yn aberth hedd, i aberthu gerbron yr Arglwydd; a bwyd‐offrwm wedi ei gymysgu trwy olew: oherwydd heddiw yr ymddengys yr Arglwydd i chwi.
5 A dygasant yr hyn a orchmynnodd Moses gerbron pabell y cyfarfod: a’r holl gynulleidfa a ddaethant yn agos, ac a safasant gerbron yr Arglwydd. 6 A dywedodd Moses, Dyma’r peth a orchmynnodd yr Arglwydd i chwi ei wneuthur; ac ymddengys gogoniant yr Arglwydd i chwi. 7 Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, Dos at yr allor, ac abertha dy aberth dros bechod a’th boethoffrwm, a gwna gymod drosot dy hun, a thros y bobl; ac abertha offrwm y bobl, a gwna gymod drostynt; fel y gorchmynnodd yr Arglwydd.
8 Yna y nesaodd Aaron at yr allor, ac a laddodd lo yr aberth dros bechod, yr hwn oedd drosto ef ei hun. 9 A meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato: ac efe a wlychodd ei fys yn y gwaed, ac a’i gosododd ar gyrn yr allor, ac a dywalltodd y gwaed arall wrth waelod yr allor. 10 Ond efe a losgodd ar yr allor o’r aberth dros bechod y gwêr a’r arennau, a’r rhwyden oddi ar yr afu; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses. 11 A’r cig a’r croen a losgodd efe yn tân, o’r tu allan i’r gwersyll. 12 Ac efe a laddodd y poethoffrwm: a meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato; ac efe a’i taenellodd ar yr allor o amgylch. 13 A dygasant y poethoffrwm ato, gyda’i ddarnau, a’i ben hefyd; ac efe a’u llosgodd hwynt ar yr allor. 14 Ac efe a olchodd y perfedd a’r traed, ac a’u llosgodd hwynt ynghyd â’r offrwm poeth ar yr allor.
15 Hefyd efe a ddug offrwm y bobl; ac a gymerodd fwch yr aberth dros bechod y bobl, ac a’i lladdodd, ac a’i hoffrymodd dros bechod, fel y cyntaf. 16 Ac efe a ddug y poethoffrwm, ac a’i hoffrymodd yn ôl y ddefod. 17 Ac efe a ddug y bwyd‐offrwm: ac a lanwodd ei law ohono, ac a’i llosgodd ar yr allor, heblaw poethoffrwm y bore. 18 Ac efe a laddodd y bustach a’r hwrdd, yn aberth hedd, yr hwn oedd dros y bobl: a meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato; ac efe a’i taenellodd ar yr allor o amgylch. 19 Dygasant hefyd wêr y bustach a’r hwrdd, y gloren, a’r weren fol, a’r arennau, a’r rhwyden oddi ar yr afu. 20 A gosodasant y gwêr ar y parwydennau; ac efe a losgodd y gwêr ar yr allor. 21 Y parwydennau hefyd, a’r ysgwyddog ddeau, a gyhwfanodd Aaron yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd; fel y gorchmynnodd Moses. 22 A chododd Aaron ei law tuag at y bobl, ac a’u bendithiodd; ac a ddaeth i waered o wneuthur yr aberth dros bechod, a’r poethoffrwm, a’r ebyrth hedd. 23 A Moses ac Aaron a aethant i babell y cyfarfod; a daethant allan, ac a fendithiasant y bobl: a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd i’r holl bobl. 24 A daeth tân allan oddi gerbron yr Arglwydd, ac a ysodd y poethoffrwm, a’r gwêr, ar yr allor: a gwelodd yr holl bobl; a gwaeddasant, a chwympasant ar eu hwynebau.
10 Paham, Arglwydd, y sefi o bell? yr ymguddi yn amser cyfyngder? 2 Yr annuwiol mewn balchder a erlid y tlawd: dalier hwynt yn y bwriadau a ddychmygasant. 3 Canys yr annuwiol a ymffrostia am ewyllys ei galon; ac a fendithia y cybydd, yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei ffieiddio. 4 Yr annuwiol, gan uchder ei ffroen, ni chais Dduw: nid yw Duw yn ei holl feddyliau ef. 5 Ei ffyrdd sydd flin bob amser; uchel yw dy farnedigaethau allan o’i olwg ef: chwythu y mae yn erbyn ei holl elynion. 6 Dywedodd yn ei galon, Ni’m symudir: oherwydd ni byddaf mewn drygfyd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth. 7 Ei enau sydd yn llawn melltith, a dichell, a thwyll: dan ei dafod y mae camwedd ac anwiredd. 8 Y mae efe yn eistedd yng nghynllwynfa y pentrefi: mewn cilfachau y lladd efe y gwirion: ei lygaid a dremiant yn ddirgel ar y tlawd. 9 Efe a gynllwyna mewn dirgelwch megis llew yn ei ffau: cynllwyn y mae i ddal y tlawd: efe a ddeil y tlawd, gan ei dynnu i’w rwyd. 10 Efe a ymgryma, ac a ymostwng, fel y cwympo tyrfa trueiniaid gan ei gedyrn ef. 11 Dywedodd yn ei galon, Anghofiodd Duw: cuddiodd ei wyneb; ni wêl byth. 12 Cyfod, Arglwydd; O Dduw, dyrcha dy law: nac anghofia y cystuddiol. 13 Paham y dirmyga yr annuwiol Dduw? dywedodd yn ei galon, Nid ymofynni. 14 Gwelaist hyn; canys ti a ganfyddi anwiredd a cham, i roddi tâl â’th ddwylo dy hun: arnat ti y gedy y tlawd; ti yw cynorthwywr yr amddifad. 15 Tor fraich yr annuwiol a’r drygionus: cais ei ddrygioni ef hyd na chaffech ddim. 16 Yr Arglwydd sydd frenin byth ac yn dragywydd: difethwyd y cenhedloedd allan o’i dir ef. 17 Arglwydd, clywaist ddymuniad y tlodion: paratôi eu calon hwynt, gwrendy dy glust arnynt; 18 I farnu yr amddifad a’r gorthrymedig, fel na chwanego dyn daearol beri ofn mwyach.
24 Na chenfigenna wrth wŷr annuwiol; ac na chwennych fod gyda hwynt: 2 Canys eu calon a fyfyria anrhaith, a’u gwefusau a draetha flinder. 3 Trwy ddoethineb yr adeiledir tŷ, a thrwy ddeall y sicrheir ef: 4 A thrwy wybodaeth y llenwir y celloedd o bob golud gwerthfawr a hyfryd. 5 Gŵr doeth sydd nerthol; a gŵr pwyllog a chwanega ei nerth. 6 Canys trwy gyngor doeth y gwnei dy ryfel: a thrwy lawer o gynghorwyr y bydd diogelwch. 7 Rhy uchel yw doethineb i ffôl; ni egyr efe ei enau yn y porth. 8 Y neb a fwriada ddrygau, a elwir yn ysgeler. 9 Bwriad y ffôl sydd bechod; a ffiaidd gan ddynion y gwatwarus. 10 Os llwfrhei mewn amser cyfyngder, bychan yw dy nerth. 11 Gwared y rhai a lusgir i angau: a ymadawit â’r neb sydd barod i’w lladd? 12 Os dywedi, Wele, ni wyddom ni hyn: onid yw pwyswr y calonnau yn deall? a’r hwn sydd yn cadw dy enaid, oni ŵyr efe? ac oni thâl efe i bob un yn ôl ei weithred? 13 Fy mab, bwyta fêl, canys da yw; a’r dil mêl, canys melys yw i’th enau. 14 Felly y bydd gwybodaeth doethineb i’th enaid: os cei di hi, yn ddiau fe fydd gwobr, a’th obaith ni phalla. 15 Na chynllwyn di, O annuwiol, wrth drigfa y cyfiawn; na anrheithia ei orffwysfa ef. 16 Canys seithwaith y syrth y cyfiawn, ac efe a gyfyd drachefn: ond yr annuwiolion a syrthiant mewn drygioni. 17 Pan syrthio dy elyn, na lawenycha: a phan dramgwyddo, na orfoledded dy galon: 18 Rhag i’r Arglwydd weled, a bod hynny yn ddrwg yn ei olwg ef, ac iddo droi ei ddig oddi wrtho ef atat ti. 19 Nac ymddigia oherwydd y drwgweithredwyr; na chenfigenna wrth yr annuwiolion: 20 Canys ni bydd gwobr i’r drygionus: cannwyll yr annuwiolion a ddiffoddir. 21 Fy mab, ofna yr Arglwydd a’r brenin, ac nac ymyrr â’r rhai anwastad: 22 Canys yn ddisymwth y cyfyd eu distryw hwy: a phwy a ŵyr eu dinistr hwy ill dau?
23 Dyma hefyd bethau doethion. Nid da derbyn wyneb mewn barn. 24 Y neb a ddywedo wrth yr annuwiol, Cyfiawn wyt; y bobl a’i melltithiant ef, cenhedloedd a’i ffieiddiant ef: 25 Ond i’r neb a’i ceryddo, y bydd hyfrydwch; a bendith dda a ddigwydd iddynt. 26 Pawb a gusana wefusau y neb a atebo eiriau uniawn. 27 Darpara dy orchwyl oddi allan, a dosbartha ef i ti yn y maes: ac wedi hynny adeilada dy dŷ. 28 Na fydd dyst heb achos yn erbyn dy gymydog: ac na huda â’th wefusau. 29 Na ddywed, Mi a wnaf iddo ef fel y gwnaeth yntau i minnau; mi a dalaf i’r gŵr yn ôl ei weithred. 30 Mi a euthum heibio i faes y dyn diog, a heibio i winllan yr angall; 31 Ac wele, codasai drain ar hyd-ddo oll; danadl a guddiasai ei wyneb ef; a’i fagwyr gerrig a syrthiasai i lawr. 32 Gwelais hyn, a mi a ystyriais yn ddwys; edrychais arno, a chymerais addysg. 33 Ychydig gysgu, ychydig hepian, ychydig wasgu dwylo i gysgu: 34 Felly y daw dy dlodi megis ymdeithydd, a’th angen fel gŵr arfog.
3 Am hynny, gan na allem ymatal yn hwy, ni a welsom yn dda ein gadael ni ein hunain yn Athen; 2 Ac a ddanfonasom Timotheus, ein brawd, a gweinidog Duw, a’n cyd-weithiwr yn efengyl Crist, i’ch cadarnhau chwi, ac i’ch diddanu ynghylch eich ffydd; 3 Fel na chynhyrfid neb yn y gorthrymderau hyn: canys chwychwi eich hunain a wyddoch mai i hyn y’n gosodwyd ni. 4 Canys yn wir pan oeddem gyda chwi, ni a ragddywedasom i chwi y gorthrymid ni; megis y bu, ac y gwyddoch chwi. 5 Oherwydd hyn, minnau, heb allu ymatal yn hwy, a ddanfonais i gael gwybod eich ffydd chwi; rhag darfod i’r temtiwr eich temtio chwi, a myned ein llafur ni yn ofer. 6 Eithr yr awron, wedi dyfod Timotheus atom oddi wrthych, a dywedyd i ni newyddion da am eich ffydd chwi a’ch cariad, a bod gennych goffa da amdanom ni yn wastadol, gan hiraethu am ein gweled ni, megis yr ydym ninnau am eich gweled chwithau; 7 Am hynny y cawsom gysur, frodyr, amdanoch chwi, yn ein holl orthrymder a’n hangenoctid, trwy eich ffydd chwi. 8 Oblegid yr awron byw ydym ni, os ydych chwi yn sefyll yn yr Arglwydd. 9 Canys pa ddiolch a allwn ni ei ad-dalu i Dduw amdanoch chwi, am yr holl lawenydd â’r hwn yr ydym ni yn llawen o’ch achos chwi gerbron ein Duw ni, 10 Gan weddïo mwy na mwy, nos a dydd, ar gael gweled eich wyneb chwi, a chyflawni diffygion eich ffydd chwi? 11 A Duw ei hun a’n Tad ni, a’n Harglwydd Iesu Grist, a gyfarwyddo ein ffordd ni atoch chwi. 12 A’r Arglwydd a’ch lluosogo, ac a’ch chwanego ym mhob cariad i’ch gilydd, ac i bawb, megis ag yr ydym ninnau i chwi: 13 I gadarnhau eich calonnau chwi yn ddiargyhoedd mewn sancteiddrwydd gerbron Duw a’n Tad, yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist gyda’i holl saint.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.