M’Cheyne Bible Reading Plan
5 Os pecha dyn, a chlywed llais llw, ac yntau yn dyst, naill ai yn gweled ai yn gwybod; oni fynega, yna efe a ddwg ei anwiredd. 2 Os dyn a gyffwrdd â dim aflan, pa un bynnag ai burgyn bwystfil aflan, ai burgyn anifail aflan, ai burgyn ymlusgiad aflan; er bod y peth yn guddiedig oddi wrtho ef, aflan ac euog yw efe. 3 Neu pan gyffyrddo ag aflendid dyn, pa aflendid bynnag iddo, yr hwn y bydd efe aflan o’i blegid, a’r peth yn guddiedig rhagddo; pan gaffo wybod, yna euog yw. 4 Neu os dyn a dwng, gan draethu â’r gwefusau ar wneuthur drwg, neu wneuthur da; beth bynnag a draetho dyn trwy lw, a’r peth yn guddiedig rhagddo; pan gaffo efe wybod, euog yw o un o hyn. 5 A phan fyddo efe euog o un o hyn; yna cyffesed yr hyn y pechodd ynddo: 6 A dyged i’r Arglwydd ei offrwm dros gamwedd am ei bechod yr hwn a bechodd; sef benyw o’r praidd, oen neu fyn gafr, yn aberth dros bechod; a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei bechod. 7 Ond os ei law ni chyrraedd werth oen, dyged i’r Arglwydd, am ei gamwedd yr hwn a bechodd, ddwy durtur, neu ddau gyw colomen; y naill yn aberth dros bechod, a’r llall yn boethoffrwm. 8 A dyged hwynt at yr offeiriad; ac offrymed efe yr hwn sydd dros bechod yn gyntaf, a thorred ei ben wrth ei wegil; ond na thorred ef ymaith. 9 A thaenelled o waed yr aberth dros bechod ar ystlys yr allor; a gwasger y rhan arall o’r gwaed wrth waelod yr allor. Dyma aberth dros bechod. 10 A’r ail a wna efe yn offrwm poeth, yn ôl y ddefod: a’r offeiriad a wna gymod drosto am ei bechod yr hwn a bechodd; a maddeuir iddo.
11 Ac os ei law ni chyrraedd ddwy durtur, neu ddau gyw colomen; yna dyged yr hwn a bechodd ei offrwm o ddegfed ran effa o beilliaid yn aberth dros bechod: na osoded olew ynddo, ac na rodded thus arno; canys aberth dros bechod yw. 12 A dyged hynny at yr offeiriad: a chymered yr offeiriad ohono lonaid ei law yn goffadwriaeth, a llosged ar yr allor, fel ebyrth tanllyd i’r Arglwydd. Dyma aberth dros bechod. 13 A gwnaed yr offeiriad gymod drosto ef am ei bechod a bechodd efe yn un o’r rhai hyn, a maddeuir iddo: a bydded i’r offeiriad y gweddill, megis o’r bwyd‐offrwm.
14 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 15 Os gwna dyn gamwedd, a phechu trwy amryfusedd, yn y pethau a gysegrwyd i’r Arglwydd; yna dyged i’r Arglwydd dros ei gamwedd, hwrdd perffaith‐gwbl o’r praidd, gyda’th bris di o siclau arian, yn ôl sicl y cysegr, yn aberth dros gamwedd. 16 A thaled am y niwed a wnaeth yn y peth cysegredig, a rhodded ei bumed ran yn ychwaneg ato, a rhodded ef at yr offeiriad: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto â hwrdd yr offrwm dros gamwedd; a maddeuir iddo.
17 Ac os pecha enaid, a gwneuthur yn erbyn gorchmynion yr Arglwydd, ddim o’r hyn ni ddylid eu gwneuthur; er na wyddai, eto euog fydd, a’i anwiredd a ddwg. 18 A dyged hwrdd perffaith‐gwbl o’r praidd, gyda’th bris di, at yr offeiriad, yn offrwm dros gamwedd: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei amryfusedd a gamgymerodd efe, ac yntau heb wybod; a maddeuir iddo. 19 Aberth dros gamwedd yw hyn: camwedd a wnaeth yn ddiau yn erbyn yr Arglwydd.
Salm Dafydd, pan ffodd efe rhag Absalom ei fab.
3 Arglwydd, mor aml yw fy nhrallodwyr! llawer yw y rhai sydd yn codi i’m herbyn. 2 Llawer yw y rhai sydd yn dywedyd am fy enaid, Nid oes iachawdwriaeth iddo yn ei Dduw. Sela. 3 Ond tydi, Arglwydd, ydwyt darian i mi; fy ngogoniant, a dyrchafydd fy mhen. 4 A’m llef y gelwais ar yr Arglwydd, ac efe a’m clybu o’i fynydd sanctaidd. Sela. 5 Mi a orweddais, ac a gysgais, ac a ddeffroais: canys yr Arglwydd a’m cynhaliodd. 6 Nid ofnaf fyrddiwn o bobl, y rhai o amgylch a ymosodasant i’m herbyn. 7 Cyfod, Arglwydd; achub fi, fy Nuw: canys trewaist fy holl elynion ar gar yr ên; torraist ddannedd yr annuwiolion. 8 Iachawdwriaeth sydd eiddo yr Arglwydd: dy fendith sydd ar dy bobl. Sela.
I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm Dafydd.
4 Gwrando fi pan alwyf, O Dduw fy nghyfiawnder: mewn cyfyngder yr ehengaist arnaf; trugarha wrthyf, ac erglyw fy ngweddi. 2 O feibion dynion, pa hyd y trowch fy ngogoniant yn warth? yr hoffwch wegi, ac yr argeisiwch gelwydd? Sela. 3 Ond gwybyddwch i’r Arglwydd neilltuo y duwiol iddo ei hun: yr Arglwydd a wrendy pan alwyf arno. 4 Ofnwch, ac na phechwch: ymddiddenwch â’ch calon ar eich gwely, a thewch. Sela. 5 Aberthwch ebyrth cyfiawnder; a gobeithiwch yn yr Arglwydd. 6 Llawer sydd yn dywedyd, Pwy a ddengys i ni ddaioni? Arglwydd, dyrcha arnom lewyrch dy wyneb. 7 Rhoddaist lawenydd yn fy nghalon, mwy na’r amser yr amlhaodd eu hŷd a’u gwin hwynt. 8 Mewn heddwch hefyd y gorweddaf, ac yr hunaf: canys ti, Arglwydd, yn unig a wnei i mi drigo mewn diogelwch.
20 Gwatwarus yw gwin, a therfysgaidd yw diod gadarn: pwy bynnag a siomir ynddi, nid yw ddoeth. 2 Megis rhuad llew ieuanc yw ofn y brenin: y mae y neb a’i cyffrô ef i ddigofaint yn pechu yn erbyn ei enaid ei hun. 3 Anrhydeddus yw i ŵr beidio ag ymryson: ond pob ffôl a fyn ymyrraeth. 4 Y diog nid ardd, oherwydd oerder y gaeaf; am hynny y cardota efe y cynhaeaf, ac ni chaiff ddim. 5 Megis dyfroedd dyfnion yw pwyll yng nghalon gŵr: eto y gŵr call a’i tyn allan. 6 Llawer dyn a gyhoedda ei drugarowgrwydd ei hun: ond pwy a gaiff ŵr ffyddlon? 7 Y cyfiawn a rodia yn ei uniondeb: gwyn eu byd ei blant ar ei ôl ef. 8 Brenin yn eistedd ar orsedd barn, a wasgar â’i lygaid bob drwg. 9 Pwy a ddichon ddywedyd, Mi a lanheais fy nghalon, glân wyf oddi wrth fy mhechod? 10 Amryw bwysau, ac amryw fesurau, ffiaidd gan yr Arglwydd bob un o’r ddau. 11 Bachgen a adwaenir wrth ei waith, ai pur ai uniawn yw ei waith. 12 Y glust yn clywed, a’r llygad yn gweled, yr Arglwydd a wnaeth bob un o’r ddau. 13 Na châr gysgu, rhag dy fyned yn dlawd: agor dy lygaid, fel y’th ddigoner â bara. 14 Drwg, drwg, medd y prynwr: ond pan êl o’r neilltu, efe a ymffrostia. 15 Y mae aur, a gemau lawer: ond gwefusau gwybodaeth sydd ddodrefnyn gwerthfawr. 16 Cymer wisg y gŵr a fachnïo dros estron; a chymer wystl ganddo dros estrones. 17 Melys gan ŵr fara trwy ffalsedd: ond o’r diwedd ei enau a lenwir â graean. 18 Bwriadau a sicrheir trwy gyngor: a thrwy gyngor diesgeulus dos i ryfela. 19 Y neb a fyddo athrodwr a ddatguddia gyfrinach: am hynny nac ymyrr â’r hwn a wenieithio â’i wefusau. 20 Y neb a felltithio ei dad neu ei fam, ei gannwyll a ddiffoddir yn y tywyllwch du. 21 Etifeddiaeth a geir ar frys yn y dechreuad; ond ei diwedd ni fendithir. 22 Na ddywed, Mi a dalaf ddrwg: disgwyl wrth yr Arglwydd, ac efe a’th achub. 23 Ffiaidd gan yr Arglwydd amryw bwysau; a chlorian twyllodrus nid yw dda. 24 Oddi wrth yr Arglwydd y mae cerddediad gŵr: ond beth a ddeall dyn o’i ffordd ei hun? 25 Magl yw i ŵr lyncu peth cysegredig; ac wedi addunedu, ymofyn. 26 Brenin doeth a wasgar yr annuwiol, ac a dry yr olwyn arnynt. 27 Cannwyll yr Arglwydd yw ysbryd dyn, yn chwilio holl gelloedd y bol. 28 Trugaredd a ffyddlondeb a gadwant y brenin; a’i orseddfa a gadarnheir trwy drugaredd. 29 Gogoniant gwŷr ieuainc yw eu nerth; a harddwch hynafgwyr yw gwallt gwyn. 30 Cleisiau briw a lanha ddrwg: felly y gwna dyrnodiau gelloedd y bol.
3 Am hynny os cydgyfodasoch gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod, lle mae Crist yn eistedd ar ddeheulaw Duw. 2 Rhoddwch eich serch ar bethau sydd uchod, nid ar bethau sydd ar y ddaear. 3 Canys meirw ydych, a’ch bywyd a guddiwyd gyda Christ yn Nuw. 4 Pan ymddangoso Crist ein bywyd ni, yna hefyd yr ymddangoswch chwithau gydag ef mewn gogoniant. 5 Marwhewch gan hynny eich aelodau, y rhai sydd ar y ddaear; godineb, aflendid, gwŷn, drygchwant, a chybydd‐dod, yr hon sydd eilun‐addoliaeth: 6 O achos yr hyn bethau y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufudd‐dod: 7 Yn y rhai hefyd y rhodiasoch chwithau gynt, pan oeddech yn byw ynddynt. 8 Ond yr awron rhoddwch chwithau ymaith yr holl bethau hyn; dicter, llid, drygioni, cabledd, serthedd, allan o’ch genau. 9 Na ddywedwch gelwydd wrth eich gilydd, gan ddarfod i chwi ddiosg yr hen ddyn ynghyd â’i weithredoedd; 10 A gwisgo’r newydd, yr hwn a adnewyddir mewn gwybodaeth, yn ôl delw yr hwn a’i creodd ef: 11 Lle nid oes na Groegwr nac Iddew, enwaediad na dienwaediad, Barbariad na Scythiad, caeth na rhydd: ond Crist sydd bob peth, ac ym mhob peth. 12 Am hynny, (megis etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl,) gwisgwch amdanoch ymysgaroedd trugareddau, cymwynasgarwch, gostyngeiddrwydd, addfwynder, ymaros; 13 Gan gyd‐ddwyn â’ch gilydd, a maddau i’ch gilydd, os bydd gan neb gweryl yn erbyn neb: megis ag y maddeuodd Crist i chwi, felly gwnewch chwithau. 14 Ac am ben hyn oll, gwisgwch gariad, yr hwn yw rhwymyn perffeithrwydd. 15 A llywodraethed tangnefedd Duw yn eich calonnau, i’r hwn hefyd y’ch galwyd yn un corff; a byddwch ddiolchgar. 16 Preswylied gair Crist ynoch yn helaeth ym mhob doethineb; gan ddysgu a rhybuddio bawb eich gilydd mewn salmau, a hymnau, ac odlau ysbrydol, gan ganu trwy ras yn eich calonnau i’r Arglwydd. 17 A pha beth bynnag a wneloch, ar air neu ar weithred, gwnewch bob peth yn enw’r Arglwydd Iesu, gan ddiolch i Dduw a’r Tad trwyddo ef. 18 Y gwragedd, ymostyngwch i’ch gwŷr priod, megis y mae yn weddus yn yr Arglwydd. 19 Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, ac na fyddwch chwerwon wrthynt. 20 Y plant, ufuddhewch i’ch rhieni ym mhob peth: canys hyn sydd yn rhyngu bodd i’r Arglwydd yn dda. 21 Y tadau, na chyffrowch eich plant, fel na ddigalonnont. 22 Y gweision, ufuddhewch ym mhob peth i’ch meistriaid yn ôl y cnawd; nid â llygad‐wasanaeth, fel bodlonwyr dynion, eithr mewn symlrwydd calon, yn ofni Duw: 23 A pha beth bynnag a wneloch, gwnewch o’r galon, megis i’r Arglwydd, ac nid i ddynion; 24 Gan wybod mai gan yr Arglwydd y derbyniwch daledigaeth yr etifeddiaeth: canys yr Arglwydd Crist yr ydych yn ei wasanaethu. 25 Ond yr hwn sydd yn gwneuthur cam, a dderbyn am y cam a wnaeth: ac nid oes derbyn wyneb.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.