M’Cheyne Bible Reading Plan
4 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, 2 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan becho dyn mewn anwybod yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd, a gwneuthur yn erbyn un ohonynt y pethau ni ddylid eu gwneuthur: 3 Os offeiriad eneiniog a becha yn ôl pechod y bobl; offrymed, dros ei bechod a wnaeth, fustach ieuanc perffaith‐gwbl, yn aberth dros bechod i’r Arglwydd. 4 A dyged y bustach i ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr Arglwydd, a gosoded ei law ar ben y bustach, a lladded y bustach gerbron yr Arglwydd. 5 A chymered yr offeiriad eneiniog o waed y bustach, a dyged ef i babell y cyfarfod. 6 A throched yr offeiriad ei fys yn y gwaed, a thaenelled o’r gwaed gerbron yr Arglwydd seithwaith, o flaen gwahanlen y cysegr. 7 A gosoded yr offeiriad beth o’r gwaed gerbron yr Arglwydd ar gyrn allor yr arogl‐darth peraidd, yr hon sydd ym mhabell y cyfarfod; a thywallted holl waed arall y bustach wrth droed allor y poethoffrwm, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod. 8 A thynned holl wêr bustach yr aberth dros bechod oddi wrtho; y weren fol, a’r holl wêr fyddo ar y perfedd; 9 A’r ddwy aren, a’r gwêr a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a’r rhwyden oddi ar yr afu, a dynn efe ymaith, ynghyd â’r arennau; 10 Megis y tynnodd o fustach yr aberth hedd: a llosged yr offeiriad hwynt ar allor y poethoffrwm. 11 Ond croen y bustach, a’i holl gig, ynghyd â’i ben, a’i draed, a’i berfedd, a’i fiswail, 12 A’r holl fustach hefyd, a ddwg efe allan i’r tu allan i’r gwersyll, i le glân, wrth dywalltfa’r lludw; ac a’i llysg ar goed yn tân; wrth dywalltfa’r lludw y llosgir ef.
13 Ac os holl gynulleidfa Israel a becha mewn anwybod, a’r peth yn guddiedig o olwg y gynulleidfa, a gwneuthur ohonynt yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd, ddim o’r hyn ni ddylid eu gwneuthur, a myned yn euog: 14 Pan wypir y pechod y pechasant ynddo; yna offrymed y gynulleidfa fustach ieuanc dros y pechod, a dygant ef o flaen pabell y cyfarfod. 15 A gosoded henuriaid y gynulleidfa eu dwylo ar ben y bustach gerbron yr Arglwydd, a lladdant y bustach gerbron yr Arglwydd. 16 A dyged yr offeiriad eneiniog o waed y bustach i babell y cyfarfod. 17 A throched yr offeiriad ei fys yn y gwaed, a thaenelled gerbron yr Arglwydd seithwaith, o flaen y wahanlen. 18 A gosoded o’r gwaed ar gyrn yr allor sydd gerbron yr Arglwydd, sef yr hon sydd ym mhabell y cyfarfod; a thywallted yr holl waed arall wrth waelod allor y poethoffrwm, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod. 19 A thynned ei holl wêr allan ohono, a llosged ar yr allor. 20 A gwnaed i’r bustach hwn megis y gwnaeth i fustach y pech‐aberth; felly gwnaed iddo: a’r offeiriad a wna gymod drostynt; ac fe a faddeuir iddynt. 21 A dyged y bustach allan i’r tu allan i’r gwersyll, a llosged ef fel y llosgodd y bustach cyntaf. Dyma aberth dros bechod y gynulleidfa.
22 Os pecha pennaeth, a gwneuthur mewn anwybod yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd ei Dduw, ddim o’r hyn ni ddylid eu gwneuthur, a bod yn euog; 23 Neu os daw i wybod ei fai yr hwn a wnaeth: dyged ei offrwm o lwdn gafr gwryw perffaith‐gwbl. 24 A gosoded ei law ar ben y llwdn, a lladded ef yn y lle y lleddir y poethoffrwm, gerbron yr Arglwydd. Dyma aberth dros bechod. 25 A chymered yr offeiriad o waed yr aberth dros bechod â’i fys, a gosoded ar gyrn allor y poethoffrwm, a thywallted ei waed ef wrth waelod allor y poethoffrwm. 26 A llosged ei holl wêr ar yr allor, fel gwêr yr aberth hedd: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei bechod; a maddeuir iddo.
27 Ac os pecha neb o bobl y wlad mewn anwybod, gan wneuthur yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd, ddim o’r pethau ni ddylid eu gwneuthur, a bod yn euog; 28 Neu os ei bechod yr hwn a bechodd a ddaw i’w wybodaeth ef: yna dyged ei offrwm o lwdn gafr fenyw berffaith‐gwbl dros ei bechod a bechodd efe. 29 A gosoded ei law ar ben yr aberth dros bechod, a lladded yr aberth dros bechod yn y lle y lleddir y poethoffrwm. 30 A chymered yr offeiriad o’i gwaed hi â’i fys, a rhodded ar gyrn allor y poethoffrwm, a thywallted ei holl waed hi wrth waelod yr allor. 31 A thynned ei holl wêr hi, fel y tynnir y gwêr oddi ar yr aberth hedd; a llosged yr offeiriad ef ar yr allor, yn arogl peraidd i’r Arglwydd: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto; a maddeuir iddo. 32 Ac os dwg efe ei offrwm dros bechod o oen, dyged hi yn fenyw berffaith‐gwbl. 33 A gosoded ei law ar ben yr aberth dros bechod, a lladded hi dros bechod yn y lle y lleddir y poethoffrwm. 34 A chymered yr offeiriad â’i fys o waed yr aberth dros bechod, a gosoded ar gyrn allor y poethoffrwm, a thywallted ei holl waed hi wrth waelod yr allor. 35 A thynned ei holl wêr hi, fel y tynnir gwêr oen yr aberth hedd; a llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor, fel aberth tanllyd i’r Arglwydd: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei bechod yr hwn a bechodd; a maddeuir iddo.
1 Gwyn ei fyd y gŵr ni rodia yng nghyngor yr annuwiolion, ac ni saif yn ffordd pechaduriaid, ac nid eistedd yn eisteddfa gwatwarwyr. 2 Ond sydd â’i ewyllys yng nghyfraith yr Arglwydd; ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos. 3 Ac efe a fydd fel pren wedi ei blannu ar lan afonydd dyfroedd, yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei bryd; a’i ddalen ni wywa; a pha beth bynnag a wnêl, efe a lwydda. 4 Nid felly y bydd yr annuwiol; ond fel mân us yr hwn a chwâl y gwynt ymaith. 5 Am hynny yr annuwiolion ni safant yn y farn, na phechaduriaid yng nghynulleidfa y rhai cyfiawn. 6 Canys yr Arglwydd a edwyn ffordd y rhai cyfiawn: ond ffordd yr annuwiolion a ddifethir.
2 Paham y terfysga y cenhedloedd, ac y myfyria y bobloedd beth ofer? 2 Y mae brenhinoedd y ddaear yn ymosod, a’r penaethiaid yn ymgynghori ynghyd, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef, gan ddywedyd, 3 Drylliwn eu rhwymau hwy, a thaflwn eu rheffynnau oddi wrthym. 4 Yr hwn sydd yn preswylio yn y nefoedd a chwardd: yr Arglwydd a’u gwatwar hwynt. 5 Yna y llefara efe wrthynt yn ei lid, ac yn ei ddicllonrwydd y dychryna efe hwynt. 6 Minnau a osodais fy Mrenin ar Seion fy mynydd sanctaidd. 7 Mynegaf y ddeddf: dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Fy Mab ydwyt ti; myfi heddiw a’th genhedlais. 8 Gofyn i mi, a rhoddaf y cenhedloedd yn etifeddiaeth i ti, a therfynau y ddaear i’th feddiant. 9 Drylli hwynt â gwialen haearn; maluri hwynt fel llestr pridd. 10 Gan hynny yr awr hon, frenhinoedd, byddwch synhwyrol: barnwyr y ddaear, cymerwch ddysg. 11 Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn ofn, ac ymlawenhewch mewn dychryn. 12 Cusenwch y Mab, rhag iddo ddigio, a’ch difetha chwi o’r ffordd, pan gyneuo ei lid ef ond ychydig. Gwyn eu byd pawb a ymddiriedant ynddo ef.
19 Gwell yw y tlawd a rodio yn ei uniondeb, na’r traws ei wefusau, ac yntau yn ffôl. 2 Hefyd, bod yr enaid heb wybodaeth, nid yw dda; a’r hwn sydd brysur ei draed a becha. 3 Ffolineb dyn a ŵyra ei ffordd ef: a’i galon a ymddigia yn erbyn yr Arglwydd. 4 Cyfoeth a chwanega lawer o gyfeillion: ond y tlawd a ddidolir oddi wrth ei gymydog. 5 Tyst celwyddog ni bydd dieuog: a lluniwr celwyddau ni ddianc. 6 Llawer a ymbiliant o flaen pendefig: a phawb sydd gyfaill i’r hael. 7 Holl frodyr y tlawd a’i casânt ef: pa faint mwy yr ymbellha ei gyfeillion oddi wrtho? er maint a ymnheddo, ni throant ato. 8 A gaffo ddoethineb a gâr ei enaid: a gadwo ddeall a ennill ddaioni. 9 Tyst celwyddog ni bydd dieuog; a thraethwr celwyddau a ddifethir. 10 Nid gweddaidd i ffôl hyfrydwch: anweddeiddiach o lawer i was arglwyddiaethu ar benaethiaid. 11 Synnwyr dyn a oeda ei ddigofaint ef: a harddwch yw iddo fyned dros gamwedd. 12 Llid y brenin sydd megis rhuad llew ieuanc: ond ei ffafr ef sydd megis gwlith ar laswellt. 13 Mab ffôl sydd orthrymder i’w dad: ac ymserth gwraig sydd megis defni parhaus. 14 Tŷ a chyfoeth ŷnt etifeddiaeth y tadau: ond rhodd yr Arglwydd yw gwraig bwyllog. 15 Syrthni a bair drymgwsg: ac enaid twyllodrus a newyna. 16 Y neb a gadwo y gorchymyn a geidw ei enaid: a’r neb a esgeulusa ei ffyrdd fydd farw. 17 Y neb a gymero drugaredd ar y tlawd, sydd yn rhoddi echwyn i’r Arglwydd; a’i rodd a dâl efe iddo drachefn. 18 Cerydda dy fab tra fyddo gobaith; ac nac arbeded dy enaid ef, i’w ddifetha. 19 Y mawr ei ddig a ddwg gosbedigaeth: canys os ti a’i gwaredi, rhaid i ti wneuthur hynny drachefn. 20 Gwrando gyngor, a chymer addysg; fel y byddych ddoeth yn dy ddiwedd. 21 Bwriadau lawer sydd yng nghalon dyn: ond cyngor yr Arglwydd, hwnnw a saif. 22 Deisyfiad dyn yw ei drugaredd ef: a gwell yw y dyn tlawd na’r gŵr celwyddog. 23 Ofn yr Arglwydd a dywys i fywyd: a’r neb y byddo ganddo a erys yn ddiwall, heb i ddrwg ymweled ag ef. 24 Y dyn swrth a gudd ei law yn ei fynwes, ac ni estyn hi at ei enau. 25 Taro watwarwr, a’r ehud fydd gyfrwysach: a phan geryddych y deallus, efe a ddeall wybodaeth. 26 Mab gwaradwyddus gwarthus a anrheithia ei dad ac a yrr ei fam ar grwydr. 27 Fy mab, paid â gwrando yr addysg a bair i ti gyfeiliorni oddi wrth eiriau gwybodaeth. 28 Tyst y fall a watwar farn: a genau y drygionus a lwnc anwiredd. 29 Barn sydd barod i’r gwatwarwyr, a chleisiau i gefn y ffyliaid.
2 Canys mi a ewyllysiwn i chwi wybod pa faint o ymdrech sydd arnaf er eich mwyn chwi, a’r rhai yn Laodicea, a chynifer ag ni welsant fy wyneb i yn y cnawd; 2 Fel y cysurid eu calonnau hwy, wedi eu cydgysylltu mewn cariad, ac i bob golud sicrwydd deall, i gydnabyddiaeth dirgelwch Duw, a’r Tad, a Christ; 3 Yn yr hwn y mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig. 4 A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, fel na thwyllo neb chwi ag ymadrodd hygoel. 5 Canys er fy mod i yn absennol yn y cnawd, er hynny yr ydwyf gyda chwi yn yr ysbryd, yn llawenychu, ac yn gweled eich trefn chwi, a chadernid eich ffydd yng Nghrist. 6 Megis gan hynny y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd, felly rhodiwch ynddo; 7 Wedi eich gwreiddio a’ch adeiladu ynddo ef, a’ch cadarnhau yn y ffydd, megis y’ch dysgwyd, gan gynyddu ynddi mewn diolchgarwch. 8 Edrychwch na bo neb yn eich anrheithio trwy philosophi a gwag dwyll, yn ôl traddodiad dynion, yn ôl egwyddorion y byd, ac nid yn ôl Crist. 9 Oblegid ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio yn gorfforol. 10 Ac yr ydych chwi wedi eich cyflawni ynddo ef, yr hwn yw pen pob tywysogaeth ac awdurdod: 11 Yn yr hwn hefyd y’ch enwaedwyd ag enwaediad nid o waith llaw, trwy ddiosg corff pechodau’r cnawd, yn enwaediad Crist: 12 Wedi eich cydgladdu ag ef yn y bedydd, yn yr hwn hefyd y’ch cyd-gyfodwyd trwy ffydd gweithrediad Duw yr hwn a’i cyfododd ef o feirw. 13 A chwithau, pan oeddech yn feirw mewn camweddau, a dienwaediad eich cnawd, a gydfywhaodd efe gydag ef, gan faddau i chwi yr holl gamweddau; 14 Gan ddileu ysgrifen‐law yr ordeiniadau, yr hon oedd i’n herbyn ni, yr hon oedd yng ngwrthwyneb i ni, ac a’i cymerodd hi oddi ar y ffordd, gan ei hoelio wrth y groes; 15 Gan ysbeilio’r tywysogaethau a’r awdurdodau, efe a’u harddangosodd hwy ar gyhoedd, gan ymorfoleddu arnynt arni hi. 16 Am hynny na farned neb arnoch chwi am fwyd, neu am ddiod, neu o ran dydd gŵyl, neu newyddloer, neu Sabothau: 17 Y rhai ydynt gysgod pethau i ddyfod; ond y corff sydd o Grist. 18 Na thwylled neb chwi am eich gwobr, wrth ei ewyllys, mewn gostyngeiddrwydd, ac addoliad angylion, gan ruthro i bethau nis gwelodd, wedi ymchwyddo yn ofer gan ei feddwl cnawdol ei hun; 19 Ac heb gyfatal y Pen, o’r hwn y mae’r holl gorff, trwy’r cymalau a’r cysylltiadau, yn derbyn lluniaeth, ac wedi ei gydgysylltu, yn cynyddu gan gynnydd Duw. 20 Am hynny, os ydych wedi marw gyda Christ oddi wrth egwyddorion y byd, paham yr ydych, megis petech yn byw yn y byd, yn ymroi i ordeiniadau, 21 (Na chyffwrdd; ac nac archwaetha; ac na theimla; 22 Y rhai ydynt oll yn llygredigaeth wrth eu harfer;) yn ôl gorchmynion ac athrawiaethau dynion? 23 Yr hyn bethau sydd ganddynt rith doethineb mewn ewyllys‐grefydd, a gostyngeiddrwydd, a bod heb arbed y corff, nid mewn bri i ddigoni’r cnawd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.