M’Cheyne Bible Reading Plan
2 Pan offrymo dyn fwyd‐offrwm i’r Arglwydd, bydded ei offrwm ef o beilliaid; a thywallted olew arno, a rhodded thus arno. 2 A dyged ef at feibion Aaron, yr offeiriaid: a chymered efe oddi yno lonaid ei law o’i beilliaid, ac o’i olew, ynghyd â’i holl thus; a llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ar yr allor, yn offrwm tanllyd o arogl peraidd i’r Arglwydd. 3 A bydded gweddill y bwyd‐offrwm i Aaron ac i’w feibion: sancteiddbeth o danllyd offrymau yr Arglwydd ydyw.
4 Hefyd pan offrymech fwyd‐offrwm, wedi ei bobi mewn ffwrn, teisen beilliaid groyw, wedi ei chymysgu trwy olew, neu afrllad croyw wedi eu heneinio ag olew, a fydd.
5 Ond os bwyd‐offrwm ar radell fydd dy offrwm di, bydded o beilliaid wedi ei gymysgu yn groyw trwy olew. 6 Tor ef yn ddarnau, a thywallt arno olew; bwyd‐offrwm yw.
7 Ac os bwyd‐offrwm padell fydd dy offrwm, gwneler o beilliaid trwy olew. 8 A dwg i’r Arglwydd y bwyd‐offrwm, yr hwn a wneir o’r rhai hyn: ac wedi y dyger at yr offeiriad, dyged yntau ef at yr allor. 9 A choded yr offeiriad ei goffadwriaeth o’r bwyd‐offrwm, a llosged ef ar yr allor; yn offrwm tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd. 10 A bydded i Aaron ac i’w feibion weddill y bwyd‐offrwm: sancteiddbeth o danllyd offrymau yr Arglwydd ydyw. 11 Na wneler yn lefeinllyd ddim bwyd‐offrwm a offrymoch i’r Arglwydd; canys dim surdoes, na mêl, ni losgwch yn offrwm tanllyd i’r Arglwydd.
12 Offrymwch i’r Arglwydd offrwm y blaenffrwyth; ond na losger hwynt ar yr allor yn arogl peraidd. 13 Dy holl fwyd‐offrwm hefyd a hellti di â halen; ac na phalled halen cyfamod dy Dduw o fod ar dy fwyd‐offrwm: offryma halen ar bob offrwm i ti. 14 Ac os offrymi i’r Arglwydd fwyd‐offrwm y ffrwythau cyntaf; tywysennau irion wedi eu crasu wrth y tân, sef ŷd a gurir allan o’r dywysen lawn, a offrymi di yn fwyd‐offrwm dy ffrwythau cyntaf. 15 A dod olew arno, a gosod thus arno: bwyd‐offrwm yw. 16 A llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ef o’i ŷd wedi ei guro allan, ac o’i olew, ynghyd â’i holl thus: offrwm tanllyd i’r Arglwydd yw.
3 Ac os aberth hedd fydd ei offrwm ef, pan offrymo efe eidion, offrymed ef gerbron yr Arglwydd yn berffaith‐gwbl; pa un bynnag ai yn wryw ai yn fenyw. 2 A rhodded ei law ar ben ei offrwm, a lladded ef wrth ddrws pabell y cyfarfod: a thaenelled meibion Aaron, yr offeiriaid, y gwaed ar yr allor o amgylch. 3 Ac offrymed o’r aberth hedd aberth tanllyd i’r Arglwydd; sef y weren fol, a’r holl wêr a fydd ar y perfedd; 4 A’r ddwy aren, a’r gwêr a fyddo arnynt hyd y tenewyn, a’r rhwyden hefyd a fydd oddi ar yr afu, a dynn efe ymaith, ynghyd â’r arennau. 5 A llosged meibion Aaron hynny ar yr allor, ynghyd â’r offrwm poeth sydd ar y coed a fyddant ar y tân, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
6 Ac os o’r praidd y bydd yr hyn a offrymo efe yn hedd‐aberth i’r Arglwydd, offrymed ef yn wryw neu yn fenyw perffaith‐gwbl. 7 Os oen a offryma efe yn ei offrwm; yna dyged gerbron yr Arglwydd. 8 A gosoded ei law ar ben ei offrwm, a lladded ef o flaen pabell y cyfarfod; a thaenelled meibion Aaron ei waed ef ar yr allor oddi amgylch. 9 Ac offrymed o’r aberth hedd yn aberth tanllyd i’r Arglwydd; ei weren, a’r gloren i gyd: torred hi ymaith wrth asgwrn y cefn, ynghyd â’r weren fol, a’r holl wêr a fyddo ar y perfedd; 10 A’r ddwy aren, a’r gwêr a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a’r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â’r arennau, a dynn efe ymaith. 11 A llosged yr offeiriad hyn ar yr allor: bwyd‐aberth tanllyd i’r Arglwydd ydyw.
12 Ac os gafr fydd ei offrwm ef; dyged hi gerbron yr Arglwydd. 13 A gosoded ei law ar ei phen, a lladded hi o flaen pabell y cyfarfod; a thaenelled meibion Aaron ei gwaed hi ar yr allor o amgylch. 14 Ac offrymed o hynny ei offrwm o aberth tanllyd i’r Arglwydd; sef y weren fol, a’r holl wêr a fyddo ar y perfedd; 15 A’r ddwy aren, a’r gwêr a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a’r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â’r arennau, a dynn efe ymaith. 16 A llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor: bwyd‐aberth tanllyd o arogl peraidd ydyw. Yr holl wêr sydd eiddo yr Arglwydd. 17 Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau yn eich holl anheddau, yw: na fwytaoch ddim gwêr, na dim gwaed.
21 Gwedi’r pethau hyn, yr Iesu a ymddangosodd drachefn i’w ddisgyblion wrth fôr Tiberias: ac fel hyn yr ymddangosodd. 2 Yr oedd ynghyd Simon Pedr, a Thomas yr hwn a elwir Didymus, a Nathanael o Gana yng Ngalilea, a meibion Sebedeus, a dau eraill o’i ddisgyblion ef. 3 Dywedodd Simon Pedr wrthynt, Yr wyf fi yn myned i bysgota. Dywedasant wrtho, Yr ydym ninnau hefyd yn dyfod gyda thi. A hwy a aethant allan, ac a ddringasant i long yn y man: a’r nos honno ni ddaliasant ddim. 4 A phan ddaeth y bore weithian, safodd yr Iesu ar y lan; eithr y disgyblion ni wyddent mai yr Iesu ydoedd. 5 Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, O blant, a oes gennych ddim bwyd? Hwythau a atebasant iddo, Nac oes. 6 Yntau a ddywedodd wrthynt, Bwriwch y rhwyd i’r tu deau i’r llong, a chwi a gewch. Hwy a fwriasant gan hynny; ac ni allent bellach ei thynnu, gan y lliaws pysgod. 7 Am hynny y disgybl hwnnw yr oedd yr Iesu yn ei garu a ddywedodd wrth Pedr, Yr Arglwydd yw. Yna Simon Pedr, pan glybu mai yr Arglwydd oedd, a wregysodd ei amwisg, (canys noeth oedd efe,) ac a’i bwriodd ei hun i’r môr. 8 Eithr y disgyblion eraill a ddaethant mewn llong (oblegid nid oeddynt bell oddi wrth dir, ond megis dau can cufydd,) dan lusgo’r rhwyd â’r pysgod. 9 A chyn gynted ag y daethant i dir, hwy a welent dân o farwor wedi ei osod, a physgod wedi eu dodi arno, a bara. 10 Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Dygwch o’r pysgod a ddaliasoch yr awron. 11 Simon Pedr a esgynnodd, ac a dynnodd y rhwyd i dir, yn llawn o bysgod mawrion, cant a thri ar ddeg a deugain: ac er bod cymaint, ni thorrodd y rhwyd. 12 Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Deuwch, ciniewch. Eithr ni feiddiai neb o’r disgyblion ofyn iddo, Pwy wyt ti? am eu bod yn gwybod mai yr Arglwydd oedd. 13 Yna y daeth yr Iesu, ac a gymerth fara, ac a’i rhoddes iddynt, a’r pysgod yr un modd. 14 Y drydedd waith hon yn awr yr ymddangosodd yr Iesu i’w ddisgyblion, wedi iddo gyfodi o feirw.
15 Yna gwedi iddynt giniawa, yr Iesu a ddywedodd wrth Simon Pedr, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i yn fwy na’r rhai hyn? Dywedodd yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd; ti a wyddost fy mod yn dy garu di. Dywedodd yntau wrtho, Portha fy ŵyn. 16 Efe a ddywedodd wrtho drachefn yr ail waith, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i? Dywedodd yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd; ti a wyddost fy mod yn dy garu di. Dywedodd yntau wrtho, Bugeilia fy nefaid. 17 Efe a ddywedodd wrtho’r drydedd waith, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i? Pedr a dristaodd am iddo ddywedyd wrtho y drydedd waith, A wyt ti yn fy ngharu i? Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, ti a wyddost bob peth; ti a wyddost fy mod i yn dy garu di. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Portha fy nefaid. 18 Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Pan oeddit ieuanc, ti a’th wregysaist dy hun, ac a rodiaist lle y mynnaist: eithr pan elech yn hen, ti a estynni dy ddwylo, ac arall a’th wregysa, ac a’th arwain lle ni fynnit. 19 A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo trwy ba fath angau y gogoneddai efe Dduw. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddywedodd wrtho, Canlyn fi.
20 A Phedr a drodd, ac a welodd y disgybl yr oedd yr Iesu yn ei garu, yn canlyn, (yr hwn hefyd a bwysasai ar ei ddwyfron ef ar swper, ac a ddywedasai, Pwy, Arglwydd, yw’r hwn a’th fradycha di?) 21 Pan welodd Pedr hwn, efe a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, ond beth a wna hwn? 22 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os mynnaf iddo aros hyd oni ddelwyf, beth yw hynny i ti? canlyn di fyfi. 23 Am hynny yr aeth y gair yma allan ymhlith y brodyr, na fyddai’r disgybl hwnnw farw: ac ni ddywedasai yr Iesu wrtho na fyddai efe farw; ond, Os mynnaf iddo aros hyd oni ddelwyf, beth yw hynny i ti? 24 Hwn yw’r disgybl sydd yn tystiolaethu am y pethau hyn, ac a ysgrifennodd y pethau hyn; ac ni a wyddom fod ei dystiolaeth ef yn wir. 25 Ac y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth yr Iesu, y rhai ped ysgrifennid hwy bob yn un ac un, nid wyf yn tybied y cynhwysai’r byd y llyfrau a ysgrifennid. Amen.
18 Y Neilltuol a gais wrth ei ddeisyfiad ei hun, ac a ymyrra â phob peth. 2 Y ffôl nid hoff ganddo ddeall; ond bod i’w galon ei datguddio ei hun. 3 Wrth ddyfodiad y drygionus y daw diystyrwch, a chyda gogan, gwaradwydd. 4 Geiriau yng ngenau gŵr sydd fel dyfroedd dyfnion; a ffynnon doethineb sydd megis afon yn llifo. 5 Nid da derbyn wyneb yr annuwiol, i ddymchwelyd y cyfiawn mewn barn. 6 Gwefusau y ffôl a ânt i mewn i gynnen, a’i enau a eilw am ddyrnodiau. 7 Genau y ffôl yw ei ddinistr, a’i wefusau sydd fagl i’w enaid. 8 Geiriau yr hustyngwr sydd megis archollion, ac a ddisgynnant i gilfachau y bol. 9 Y neb a fyddo diog yn ei waith, sydd frawd i’r treulgar. 10 Tŵr cadarn yw enw yr Arglwydd: ato y rhed y cyfiawn, ac y mae yn ddiogel. 11 Cyfoeth y cyfoethog sydd iddo yn ddinas gadarn, ac yn fur uchel, yn ei dyb ei hun. 12 Cyn dinistr y balchïa calon gŵr; a chyn anrhydedd y bydd gostyngeiddrwydd. 13 Y neb a atebo beth cyn ei glywed, ffolineb a chywilydd fydd iddo. 14 Ysbryd gŵr a gynnal ei glefyd ef: ond ysbryd cystuddiedig pwy a’i cyfyd? 15 Calon y pwyllog a berchenoga wybodaeth; a chlust y doethion a gais wybodaeth. 16 Rhodd dyn a ehanga arno, ac a’i dwg ef gerbron penaethiaid. 17 Y cyntaf yn ei hawl a dybir ei fod yn gyfiawn: ond ei gymydog a ddaw ac a’i chwilia ef. 18 Y coelbren a wna i gynhennau beidio, ac a athrywyn rhwng cedyrn. 19 Anos yw ennill ewyllys da brawd pan ddigier, na dinas gadarn: a’u hymryson sydd megis trosol castell. 20 A ffrwyth genau gŵr y diwellir ei fol; ac o ffrwyth y gwefusau y digonir ef. 21 Angau a bywyd sydd ym meddiant y tafod: a’r rhai a’i hoffant ef a fwytânt ei ffrwyth ef. 22 Y neb sydd yn cael gwraig, sydd yn cael peth daionus, ac yn cael ffafr gan yr Arglwydd. 23 Y tlawd a ymbil; a’r cyfoethog a etyb yn erwin. 24 Y neb y mae iddo gyfeillion, cadwed gariad: ac y mae cyfaill a lŷn wrthyt yn well na brawd.
1 Paul, apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, a Thimotheus ein brawd, 2 At y saint a’r ffyddlon frodyr yng Nghrist y rhai sydd yng Ngholosa: Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist. 3 Yr ydym yn diolch i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, gan weddïo drosoch chwi yn wastadol, 4 Er pan glywsom am eich ffydd yng Nghrist Iesu, ac am y cariad sydd gennych tuag at yr holl saint; 5 Er mwyn y gobaith a roddwyd i gadw i chwi yn y nefoedd, am yr hon y clywsoch o’r blaen yng ngair gwirionedd yr efengyl: 6 Yr hon sydd wedi dyfod atoch chwi, megis ag y mae yn yr holl fyd; ac sydd yn dwyn ffrwyth, megis ag yn eich plith chwithau, er y dydd y clywsoch, ac y gwybuoch ras Duw mewn gwirionedd: 7 Megis ag y dysgasoch gan Epaffras ein hannwyl gyd‐was, yr hwn sydd drosoch chwi yn ffyddlon weinidog i Grist; 8 Yr hwn hefyd a amlygodd i ni eich cariad chwi yn yr Ysbryd. 9 Oherwydd hyn ninnau hefyd, er y dydd y clywsom, nid ydym yn peidio â gweddïo drosoch, a deisyf eich cyflawni chwi â gwybodaeth ei ewyllys ef ym mhob doethineb a deall ysbrydol; 10 Fel y rhodioch yn addas i’r Arglwydd i bob rhyngu bodd, gan ddwyn ffrwyth ym mhob gweithred dda, a chynyddu yng ngwybodaeth am Dduw; 11 Wedi eich nerthu â phob nerth yn ôl ei gadernid gogoneddus ef, i bob dioddefgarwch a hirymaros gyda llawenydd; 12 Gan ddiolch i’r Tad, yr hwn a’n gwnaeth ni yn gymwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni: 13 Yr hwn a’n gwaredodd ni allan o feddiant y tywyllwch, ac a’n symudodd i deyrnas ei annwyl Fab: 14 Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau: 15 Yr hwn yw delw y Duw anweledig, cyntaf‐anedig pob creadur: 16 Canys trwyddo ef y crewyd pob dim a’r sydd yn y nefoedd, ac sydd ar y ddaear, yn weledig ac yn anweledig, pa un bynnag ai thronau, ai arglwyddiaethau, ai tywysogaethau, ai meddiannau; pob dim a grewyd trwyddo ef, ac erddo ef. 17 Ac y mae efe cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll. 18 Ac efe yw pen corff yr eglwys; efe, yr hwn yw’r dechreuad, y cyntaf‐anedig oddi wrth y meirw; fel y byddai efe yn blaenori ym mhob peth. 19 Oblegid rhyngodd bodd i’r Tad drigo o bob cyflawnder ynddo ef; 20 Ac, wedi iddo wneuthur heddwch trwy waed ei groes ef, trwyddo ef gymodi pob peth ag ef ei hun; trwyddo ef, meddaf, pa un bynnag ai pethau ar y ddaear, ai pethau yn y nefoedd. 21 A chwithau, y rhai oeddech ddieithriaid, a gelynion mewn meddwl trwy weithredoedd drwg, yr awr hon hefyd a gymododd efe, 22 Yng nghorff ei gnawd ef trwy farwolaeth, i’ch cyflwyno chwi yn sanctaidd, ac yn ddifeius, ac yn ddiargyhoedd, ger ei fron ef: 23 Os ydych yn parhau yn y ffydd, wedi eich seilio a’ch sicrhau, ac heb eich symud oddi wrth obaith yr efengyl, yr hon a glywsoch, ac a bregethwyd ymysg pob creadur a’r sydd dan y nef; i’r hon y’m gwnaethpwyd i Paul yn weinidog: 24 Yr hwn ydwyf yn awr yn llawenychu yn fy nioddefiadau drosoch, ac yn cyflawni’r hyn sydd yn ôl o gystuddiau Crist yn fy nghnawd i, er mwyn ei gorff ef, yr hwn yw’r eglwys: 25 I’r hon y’m gwnaethpwyd i yn weinidog, yn ôl goruchwyliaeth Duw, yr hon a roddwyd i mi tuag atoch chwi, i gyflawni gair Duw; 26 Sef y dirgelwch oedd guddiedig er oesoedd ac er cenedlaethau, ond yr awr hon a eglurwyd i’w saint ef: 27 I’r rhai yr ewyllysiodd Duw hysbysu beth yw golud gogoniant y dirgelwch hwn ymhlith y Cenhedloedd; yr hwn yw Crist ynoch chwi, gobaith y gogoniant: 28 Yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu, gan rybuddio pob dyn, a dysgu pob dyn ym mhob doethineb; fel y cyflwynom bob dyn yn berffaith yng Nghrist Iesu: 29 Am yr hyn yr ydwyf hefyd yn llafurio, gan ymdrechu yn ôl ei weithrediad ef, yr hwn sydd yn gweithio ynof fi yn nerthol.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.