Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Lefiticus 1

A’r Arglwydd a alwodd ar Moses, ac a lefarodd wrtho o babell y cyfarfod, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddygo dyn ohonoch offrwm i’r Arglwydd, o anifail, sef o’r eidionau, neu o’r praidd, yr offrymwch eich offrwm. Os poethoffrwm o eidion fydd ei offrwm ef, offrymed ef yn wryw perffaith‐gwbl; a dyged ef o’i ewyllys ei hun i ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr Arglwydd. A gosoded ei law ar ben y poethoffrwm; ac fe a’i cymerir ef yn gymeradwy ganddo, i wneuthur cymod drosto. Lladded hefyd yr eidion gerbron yr Arglwydd; a dyged meibion Aaron, yr offeiriaid, y gwaed, a thaenellant y gwaed o amgylch ar yr allor, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod. A blinged y poethoffrwm, a thorred ef yn ei ddarnau. A rhodded meibion Aaron yr offeiriad dân ar yr allor, a gosodant goed mewn trefn ar y tân. A gosoded meibion Aaron, yr offeiriaid, y darnau, y pen, a’r braster, mewn trefn ar y coed a fyddant ar y tân sydd ar yr allor. Ond ei berfedd a’i draed a ylch efe mewn dwfr: a’r offeiriad a lysg y cwbl ar yr allor, yn boethoffrwm, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.

10 Ac os o’r praidd, sef o’r defaid, neu o’r geifr, yr offryma efe boethoffrwm; offrymed ef yn wryw perffaith‐gwbl. 11 A lladded ef gerbron yr Arglwydd, o du’r gogledd i’r allor; a thaenelled meibion Aaron, yr offeiriaid, ei waed ef ar yr allor o amgylch. 12 A thorred ef yn ei ddarnau, gyda’i ben a’i fraster; a gosoded yr offeiriad hwynt ar y coed a fyddant ar y tân sydd ar yr allor. 13 Ond golched y perfedd a’r traed mewn dwfr: a dyged yr offeiriad y cwbl, a llosged ar yr allor. Hwn sydd boethoffrwm, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.

14 Ac os poethoffrwm o aderyn fydd ei offrwm ef i’r Arglwydd; yna dyged ei offrwm o durturau, neu o gywion colomennod. 15 A dyged yr offeiriad ef at yr allor, a thorred ei ben ef, a llosged ef ar yr allor; a gwasger ei waed ef ar ystlys yr allor. 16 A thynned ymaith ei grombil ef ynghyd â’i blu, a bwried hwynt gerllaw yr allor, o du’r dwyrain, i’r lle y byddo y lludw. 17 Hollted ef, a’i esgyll hefyd; eto na wahaned ef: a llosged yr offeiriad ef ar yr allor, ar y coed a fyddant ar y tân. Dyma boethoffrwm, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.

Ioan 20

20 Y dydd cyntaf o’r wythnos, Mair Magdalen a ddaeth y bore, a hi eto’n dywyll, at y bedd; ac a welodd y maen wedi ei dynnu ymaith oddi ar y bedd. Yna y rhedodd hi, ac a ddaeth at Simon Pedr, a’r disgybl arall yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu, ac a ddywedodd wrthynt, Hwy a ddygasant yr Arglwydd ymaith o’r bedd, ac ni wyddom ni pa le y dodasant ef. Yna Pedr a aeth allan, a’r disgybl arall, a hwy a ddaethant at y bedd; Ac a redasant ill dau ynghyd: a’r disgybl arall a redodd o’r blaen yn gynt na Phedr, ac a ddaeth yn gyntaf at y bedd. Ac wedi iddo grymu, efe a ganfu’r llieiniau wedi eu gosod: er hynny nid aeth efe i mewn. Yna y daeth Simon Pedr yn ei ganlyn ef, ac a aeth i mewn i’r bedd, ac a ganfu’r llieiniau wedi eu gosod; A’r napgyn a fuasai am ei ben ef, wedi ei osod, nid gyda’r llieiniau, ond o’r neilltu wedi ei blygu mewn lle arall. Yna yr aeth y disgybl arall hefyd i mewn, yr hwn a ddaethai yn gyntaf at y bedd; ac a welodd, ac a gredodd. Canys hyd yn hyn ni wyddent yr ysgrythur, fod yn rhaid iddo gyfodi o feirw. 10 Yna y disgyblion a aethant ymaith drachefn at yr eiddynt.

11 Ond Mair a safodd wrth y bedd oddi allan, yn wylo: ac fel yr oedd hi yn wylo, hi a ymostyngodd i’r bedd; 12 Ac a ganfu ddau angel mewn gwisgoedd gwynion, yn eistedd, un wrth ben, ac un wrth draed y lle y dodasid corff yr Iesu. 13 A hwy a ddywedasant wrthi, O wraig, paham yr wyt ti yn wylo? Hithau a ddywedodd wrthynt, Am ddwyn ohonynt hwy fy Arglwydd i ymaith, ac nas gwn pa le y dodasant ef. 14 Ac wedi dywedyd ohoni hyn, hi a droes drach ei chefn, ac a welodd yr Iesu yn sefyll: ac nis gwyddai hi mai yr Iesu oedd efe. 15 Yr Iesu a ddywedodd wrthi, O wraig, paham yr wyt ti yn wylo? pwy yr wyt ti yn ei geisio? Hithau, yn tybied mai’r garddwr oedd efe, a ddywedodd wrtho, Syr, os tydi a’i dygaist ef, dywed i mi pa le y dodaist ef, a myfi a’i cymeraf ef ymaith. 16 Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Mair. Hithau a droes, ac a ddywedodd wrtho, Rabboni; yr hyn yw dywedyd, Athro. 17 Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Na chyffwrdd â mi; oblegid ni ddyrchefais i eto at fy Nhad: eithr dos at fy mrodyr, a dywed wrthynt, Yr wyf yn dyrchafu at fy Nhad i a’ch Tad chwithau, a’m Duw i a’ch Duw chwithau. 18 Mair Magdalen a ddaeth ac a fynegodd i’r disgyblion, weled ohoni hi yr Arglwydd, a dywedyd ohono y pethau hyn iddi.

19 Yna, a hi yn hwyr y dydd cyntaf hwnnw o’r wythnos, a’r drysau yn gaead lle yr oedd y disgyblion wedi ymgasglu ynghyd rhag ofn yr Iddewon, daeth yr Iesu, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi. 20 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylo a’i ystlys. Yna y disgyblion a lawenychasant pan welsant yr Arglwydd. 21 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt drachefn, Tangnefedd i chwi: megis y danfonodd y Tad fi, yr wyf finnau yn eich danfon chwi. 22 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a anadlodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Derbyniwch yr Ysbryd Glân. 23 Pwy bynnag y maddeuoch eu pechodau, maddeuir iddynt; a’r eiddo pwy bynnag a atalioch, hwy a ataliwyd.

24 Eithr Thomas, un o’r deuddeg, yr hwn a elwir Didymus, nid oedd gyda hwynt pan ddaeth yr Iesu. 25 Y disgyblion eraill gan hynny a ddywedasant wrtho, Ni a welsom yr Arglwydd. Yntau a ddywedodd wrthynt, Oni chaf weled yn ei ddwylo ef ôl yr hoelion, a dodi fy mys yn ôl yr hoelion, a dodi fy llaw yn ei ystlys ef, ni chredaf fi.

26 Ac wedi wyth niwrnod drachefn yr oedd ei ddisgyblion ef i mewn, a Thomas gyda hwynt. Yna yr Iesu a ddaeth, a’r drysau yn gaead, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd, Tangnefedd i chwi. 27 Wedi hynny y dywedodd efe wrth Thomas, Moes yma dy fys, a gwêl fy nwylo; ac estyn dy law, a dod yn fy ystlys: ac na fydd anghredadun, ond credadun. 28 A Thomas a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Fy Arglwydd, a’m Duw. 29 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Am i ti fy ngweled, Thomas, y credaist: bendigedig yw y rhai ni welsant, ac a gredasant.

30 A llawer hefyd o arwyddion eraill a wnaeth yr Iesu yng ngŵydd ei ddisgyblion, y rhai nid ydynt ysgrifenedig yn y llyfr hwn. 31 Eithr y pethau hyn a ysgrifennwyd, fel y credoch chwi mai yr Iesu yw Crist, Mab Duw; a chan gredu, y caffoch fywyd yn ei enw ef.

Diarhebion 17

17 Gwell yw tamaid sych a llonyddwch gydag ef, na thŷ yn llawn o aberthau gydag ymryson. Gwas synhwyrol a feistrola ar fab gwaradwyddus; ac a gaiff ran o’r etifeddiaeth ymhlith y brodyr. Y tawddlestr sydd i’r arian, a’r ffwrn i’r aur: ond yr hwn a brawf y calonnau yw yr Arglwydd. Y drygionus a wrendy ar wefus anwir: a’r celwyddog a rydd glust i dafod drwg. Y neb a watwaro y tlawd, sydd yr gwaradwyddo ei Wneuthurwr ef: a’r neb a ymddigrifo mewn cystudd, ni bydd dieuog. Coron yr hynafgwyr yw eu hwyrion: ac anrhydedd y plant yw eu tadau. Anweddaidd yw i ffôl ymadrodd rhagorol; mwy o lawer i bendefig wefusau celwyddog. Maen gwerthfawr yw anrheg yng ngolwg ei pherchennog: pa le bynnag y tro, hi a ffynna. Y neb a guddia bechod, sydd yn ceisio cariad: ond y neb a adnewydda fai, sydd yn neilltuo tywysogion. 10 Un sen a ofna y call yn fwy na phe baeddid y ffôl ganwaith. 11 Y dyn drwg sydd â’i fryd ar derfysg yn unig: a chennad greulon a anfonir yn ei erbyn ef. 12 Gwell i ŵr gyfarfod ag arthes wedi colli ei chenawon, nag â’r ffôl yn ei ffolineb. 13 Y neb a dalo ddrwg dros dda, nid ymedy drwg â’i dŷ ef. 14 Pen y gynnen sydd megis ped agorid argae: am hynny gad ymaith ymryson cyn ymyrryd arni. 15 Y neb a gyfiawnhao y drygionus, ac a gondemnio y gwirion; ffiaidd gan yr Arglwydd ydynt ill dau. 16 Paham y bydd gwerth yn llaw y ffôl i berchenogi doethineb, ac yntau heb galon ganddo? 17 Cydymaith a gâr bob amser: a brawd a anwyd erbyn caledi. 18 Dyn heb bwyll a dery ei law, ac a fachnïa o flaen ei gyfaill. 19 Y neb sydd hoff ganddo ymsennu, sydd hoff ganddo bechod; a’r hwn sydd yn gwneuthur ei ddrws yn uchel, sydd yn ceisio niwed. 20 Y cyndyn ei galon ni chaiff ddaioni: a’r hwn sydd drofaus yn ei dafod, a syrth i ddrwg. 21 Y neb a genhedlo un ffôl, a ennill iddo ei hun dristwch: ac ni bydd lawen tad yr ynfyd. 22 Calon lawen a wna les fel meddyginiaeth: ond meddwl trwm a sych yr esgyrn. 23 Yr annuwiol a dderbyn rodd o’r fynwes, i gamdroi llwybrau barn. 24 Doethineb sydd yn wyneb y deallgar: ond llygaid y ffyliaid sydd yng nghyrrau y byd. 25 Mab ffôl a bair ddicllonedd i’w dad, a chwerwder i’w fam. 26 Hefyd nid da cosbi y cyfiawn, na tharo penaethiaid, pan fyddant ar yr iawn. 27 Gŵr synhwyrol a atal ei ymadroddion: a gŵr pwyllog sydd ymarhous ei ysbryd. 28 Y ffôl, tra tawo, a gyfrifir yn ddoeth; a’r neb a gaeo ei wefusau, yn ddeallus.

Philipiaid 4

Am hynny, fy mrodyr annwyl a hoff, fy llawenydd a’m coron, felly sefwch yn yr Arglwydd, anwylyd. Yr ydwyf yn atolwg i Euodias, ac yn atolwg i Syntyche, synied yr un peth yn yr Arglwydd. Ac yr ydwyf yn dymuno arnat tithau, fy ngwir gymar, cymorth y gwragedd hynny y rhai yn yr efengyl a gydlafuriasant â mi, ynghyd â Chlement hefyd, a’m cyd‐weithwyr eraill, y rhai y mae eu henwau yn llyfr y bywyd. Llawenhewch yn yr Arglwydd yn wastadol: a thrachefn meddaf, Llawenhewch. Bydded eich arafwch yn hysbys i bob dyn. Y mae’r Arglwydd yn agos. Na ofelwch am ddim: eithr ym mhob peth mewn gweddi ac ymbil gyda diolchgarwch, gwneler eich deisyfiadau chwi yn hysbys gerbron Duw. A thangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall, a geidw eich calonnau a’ch meddyliau yng Nghrist Iesu. Yn ddiwethaf, frodyr, pa bethau bynnag sydd wir, pa bethau bynnag sydd onest, pa bethau bynnag sydd gyfiawn, pa bethau bynnag sydd bur, pa bethau bynnag sydd hawddgar, pa bethau bynnag sydd ganmoladwy, od oes un rhinwedd, ac od oes dim clod, meddyliwch am y pethau hyn. Y rhai a ddysgasoch, ac a dderbyniasoch, ac a glywsoch, ac a welsoch ynof fi, y pethau hyn gwnewch: a Duw’r heddwch a fydd gyda chwi. 10 Mi a lawenychais hefyd yn yr Arglwydd yn fawr, oblegid i’ch gofal chwi amdanaf fi yr awr hon o’r diwedd adnewyddu; yn yr hyn y buoch ofalus hefyd, ond eisiau amser cyfaddas oedd arnoch. 11 Nid am fy mod yn dywedyd oherwydd eisiau: canys myfi a ddysgais ym mha gyflwr bynnag y byddwyf, fod yn fodlon iddo. 12 Ac mi a fedraf ymostwng, ac a fedraf ymhelaethu: ym mhob lle ac ym mhob peth y’m haddysgwyd, i fod yn llawn ac i fod yn newynog, i fod mewn helaethrwydd ac i fod mewn prinder. 13 Yr wyf yn gallu pob peth trwy Grist, yr hwn sydd yn fy nerthu i. 14 Er hynny, da y gwnaethoch gydgyfrannu â’m gorthrymder i. 15 A chwithau, Philipiaid, hefyd a wyddoch yn nechreuad yr efengyl, pan euthum i ymaith o Facedonia, na chyfrannodd un eglwys â mi o ran rhoddi a derbyn, ond chwychwi yn unig. 16 Oblegid yn Thesalonica hefyd yr anfonasoch i mi unwaith ac eilwaith wrth fy anghenraid. 17 Nid oherwydd fy mod i yn ceisio rhodd: eithr yr ydwyf yn ceisio ffrwyth yn amlhau erbyn eich cyfrif chwi. 18 Ond y mae gennyf bob peth, ac y mae gennyf helaethrwydd: mi a gyflawnwyd, wedi i mi dderbyn gan Epaffroditus y pethau a ddaethant oddi wrthych chwi; sef arogl peraidd, aberth cymeradwy, bodlon gan Dduw. 19 A’m Duw i a gyflawna eich holl raid chwi yn ôl ei olud ef mewn gogoniant, yng Nghrist Iesu. 20 Ond i Dduw a’n Tad ni y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen. 21 Anerchwch yr holl saint yng Nghrist Iesu. Y mae’r brodyr sydd gyda mi yn eich annerch. 22 Y mae’r saint oll yn eich annerch chwi, ac yn bennaf y rhai sydd o deulu Cesar. 23 Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi oll. Amen.

At y Philipiaid yr ysgrifennwyd o Rufain gydag Epaffroditus.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.