M’Cheyne Bible Reading Plan
38 Ac efe a wnaeth allor y poethoffrwm o goed Sittim: o bum cufydd ei hyd, a phum cufydd ei lled, yn bedeirongl; ac yn dri chufydd ei huchder. 2 Gwnaeth hefyd ei chyrn hi ar ei phedair congl: ei chyrn hi oedd o’r un; ac efe a’i gwisgodd hi â phres. 3 Efe a wnaeth hefyd holl lestri yr allor, y crochanau, a’r rhawiau, a’r cawgiau, a’r cigweiniau, a’r pedyll tân: ei holl lestri hi a wnaeth efe o bres. 4 Ac efe a wnaeth i’r allor alch bres, ar waith rhwyd, dan ei chwmpas oddi tanodd hyd ei hanner hi. 5 Ac efe a fwriodd bedair modrwy i bedwar cwr yr alch bres, i fyned am drosolion. 6 Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim; ac a’u gwisgodd hwynt â phres. 7 Ac efe a dynnodd y trosolion trwy’r modrwyau ar ystlysau yr allor, i’w dwyn hi arnynt: yn gau y gwnaeth efe hi ag ystyllod.
8 Ac efe a wnaeth noe bres, a’i throed o bres, o ddrychau gwragedd, y rhai a ymgasglent yn finteioedd at ddrws pabell y cyfarfod.
9 Ac efe a wnaeth y cynteddfa: ar yr ystlys deau, tua’r deau, llenni’r cynteddfa oedd o liain main cyfrodedd, o gan cufydd: 10 A’u hugain colofn, ac a’u hugain mortais, o bres: a phennau’r colofnau a’u cylchau, o arian yr oeddynt. 11 Ac ar du’r gogledd, y llenni oedd gan cufydd; eu hugain colofn, a’u hugain mortais, o bres: a phennau’r colofnau a’u cylchau o arian. 12 Ac o du’r gorllewin, llenni o ddeg cufydd a deugain: eu deg colofn, a’u deg mortais, a phennau’r colofnau, a’u cylchau, o arian. 13 Ac i du’r dwyrain tua’r dwyrain yr oedd llenni o ddeg cufydd a deugain. 14 Llenni o bymtheg cufydd a wnaeth efe o’r naill du i’r porth; eu tair colofn, a’u tair mortais. 15 Ac efe a wnaeth ar yr ail ystlys, oddeutu drws porth y cynteddfa, lenni o bymtheg cufydd; eu tair colofn, a’u tair mortais. 16 Holl lenni’r cynteddfa o amgylch a wnaeth efe o liain main cyfrodedd. 17 A morteisiau’r colofnau, oedd o bres; pennau’r colofnau, a’u cylchau, o arian; a gwisg eu pennau, o arian; a holl golofnau’r cynteddfa oedd wedi eu cylchu ag arian. 18 A chaeadlen drws y cynteddfa ydoedd waith edau a nodwydd o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd; ac yn ugain cufydd o hyd, a’i huchder o’i lled yn bum cufydd, ar gyfer llenni’r cynteddfa. 19 Eu pedair colofn hefyd, a’u pedair mortais, oedd o bres; a’u pennau o arian; gwisg eu pennau hefyd a’u cylchau oedd arian. 20 A holl hoelion y tabernacl, a’r cynteddfa oddi amgylch, oedd bres.
21 Dyma gyfrif perthynasau y tabernacl, sef tabernacl y dystiolaeth, y rhai a gyfrifwyd wrth orchymyn Moses, i wasanaeth y Lefiaid, trwy law Ithamar, mab Aaron yr offeiriad. 22 A Besaleel, mab Uri, mab Hur, o lwyth Jwda, a wnaeth yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses. 23 A chydag ef yr ydoedd Aholïab, mab Achisamach, o lwyth Dan, saer cywraint, a gwniedydd mewn sidan glas, ac mewn porffor, ac mewn ysgarlad, ac mewn lliain main. 24 Yr holl aur a weithiwyd yn y gwaith, sef yn holl waith y cysegr, sef aur yr offrwm, ydoedd naw talent ar hugain, a saith gan sicl a deg ar hugain, yn ôl sicl y cysegr. 25 Ac arian y rhai a gyfrifwyd o’r gynulleidfa, oedd gan talent, a mil a saith gant a phymtheg sicl a thrigain, yn ôl sicl y cysegr. 26 Beca am bob pen; sef hanner sicl, yn ôl sicl y cysegr, am bob un a elai heibio dan rif, o fab ugeinmlwydd ac uchod: sef am chwe chan mil a thair mil a phum cant a deg a deugain. 27 Ac o’r can talent arian y bwriwyd morteisiau’r cysegr, a morteisiau’r wahanlen; can mortais o’r can talent, talent i bob mortais. 28 Ac o’r mil a saith gant a phymtheg sicl a thrigain, y gwnaeth efe bennau’r colofnau; ac y gwisgodd eu pennau, ac y cylchodd hwynt. 29 A phres yr offrwm oedd ddeg talent a thrigain, a dwy fil a phedwar cant o siclau. 30 Ac efe a wnaeth o hynny forteisiau drws pabell y cyfarfod, a’r allor bres, a’r alch bres yr hon oedd iddi, a holl lestri’r allor; 31 A morteisiau’r cynteddfa o amgylch, a morteisiau porth y cynteddfa, a holl hoelion y tabernacl, a holl hoelion y cynteddfa o amgylch.
17 Y pethau hyn a lefarodd yr Iesu, ac efe a gododd ei lygaid i’r nef, ac a ddywedodd, Y Tad, daeth yr awr; gogonedda dy Fab, fel y gogoneddo dy Fab dithau: 2 Megis y rhoddaist iddo awdurdod ar bob cnawd, fel am y cwbl a roddaist iddo, y rhoddai efe iddynt fywyd tragwyddol. 3 A hyn yw’r bywyd tragwyddol; iddynt dy adnabod di yr unig wir Dduw, a’r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist. 4 Mi a’th ogoneddais di ar y ddaear; mi a gwblheais y gwaith a roddaist i mi i’w wneuthur. 5 Ac yr awron, O Dad, gogonedda di fyfi gyda thi dy hun, â’r gogoniant oedd i mi gyda thi cyn bod y byd. 6 Mi a eglurais dy enw i’r dynion a roddaist i mi allan o’r byd: eiddot ti oeddynt, a thi a’u rhoddaist hwynt i mi; a hwy a gadwasant dy air di. 7 Yr awron y gwybuant mai oddi wrthyt ti y mae’r holl bethau a roddaist i mi: 8 Canys y geiriau a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy; a hwy a’u derbyniasant, ac a wybuant yn wir mai oddi wrthyt ti y deuthum i allan, ac a gredasant mai tydi a’m hanfonaist i. 9 Drostynt hwy yr wyf fi yn gweddïo: nid dros y byd yr wyf yn gweddïo, ond dros y rhai a roddaist i mi; canys eiddot ti ydynt. 10 A’r eiddof fi oll sydd eiddot ti, a’r eiddot ti sydd eiddof fi: a mi a ogoneddwyd ynddynt. 11 Ac nid wyf mwyach yn y byd, ond y rhai hyn sydd yn y byd, a myfi sydd yn dyfod atat ti. Y Tad sancteiddiol, cadw hwynt trwy dy enw, y rhai a roddaist i mi; fel y byddont un, megis ninnau. 12 Tra fûm gyda hwynt yn y byd, mi a’u cedwais yn dy enw: y rhai a roddaist i mi, a gedwais, ac ni chollwyd ohonynt ond mab y golledigaeth; fel y cyflawnid yr ysgrythur. 13 Ac yr awron yr wyf yn dyfod atat: a’r pethau hyn yr wyf yn eu llefaru yn y byd, fel y caffont fy llawenydd i yn gyflawn ynddynt eu hunain. 14 Myfi a roddais iddynt hwy dy air di: a’r byd a’u casaodd hwynt, oblegid nad ydynt o’r byd, megis nad ydwyf finnau o’r byd. 15 Nid wyf yn gweddïo ar i ti eu cymryd hwynt allan o’r byd, eithr ar i ti eu cadw hwynt rhag y drwg. 16 O’r byd nid ydynt, megis nad wyf finnau o’r byd. 17 Sancteiddia hwynt yn dy wirionedd: dy air sydd wirionedd. 18 Fel yr anfonaist fi i’r byd, felly yr anfonais innau hwythau i’r byd. 19 Ac er eu mwyn hwy yr wyf yn fy sancteiddio fy hun, fel y byddont hwythau wedi eu sancteiddio yn y gwirionedd. 20 Ac nid wyf yn gweddïo dros y rhai hyn yn unig, eithr dros y rhai hefyd a gredant ynof fi trwy eu hymadrodd hwynt: 21 Fel y byddont oll yn un; megis yr wyt ti, y Tad, ynof fi, a minnau ynot ti; fel y byddont hwythau un ynom ni: fel y credo’r byd mai tydi a’m hanfonaist i. 22 A’r gogoniant a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy: fel y byddont un, megis yr ydym ni yn un: 23 Myfi ynddynt hwy, a thithau ynof fi; fel y byddont wedi eu perffeithio yn un, ac fel y gwypo’r byd mai tydi a’m hanfonaist i, a charu ohonot hwynt, megis y ceraist fi. 24 Y Tad, y rhai a roddaist i mi, yr wyf yn ewyllysio, lle yr wyf fi, fod ohonynt hwythau hefyd gyda myfi; fel y gwelont fy ngogoniant a roddaist i mi: oblegid ti a’m ceraist cyn seiliad y byd. 25 Y Tad cyfiawn, nid adnabu’r byd dydi: eithr mi a’th adnabûm, a’r rhai hyn a wybu mai tydi a’m hanfonaist i. 26 Ac mi a hysbysais iddynt dy enw, ac a’i hysbysaf: fel y byddo ynddynt hwy y cariad â’r hwn y ceraist fi, a minnau ynddynt hwy.
14 Gwraig ddoeth a adeilada ei thŷ: ond y ffolog a’i tyn ef i lawr â’i dwylo. 2 Yr hwn sydd yn rhodio yn ei unionder, sydd yn ofni yr Arglwydd; a’r hwn sydd gyndyn yn ei ffyrdd, sydd yn ei ddirmygu ef. 3 Yng ngenau y ffôl y mae gwialen balchder: ond gwefusau y doethion a’u ceidw hwynt. 4 Lle nid oes ychen, glân yw y preseb: ond llawer o gnwd sydd yn dyfod trwy nerth yr ych. 5 Tyst ffyddlon ni ddywed gelwydd; ond gau dyst a draetha gelwyddau. 6 Y gwatwarwr a gais ddoethineb, ac nis caiff: ond gwybodaeth sydd hawdd i’r deallus. 7 Dos ymaith oddi wrth ŵr ffôl pan wypech nad oes ganddo wefusau gwybodaeth. 8 Doethineb y call yw deall ei ffordd ei hun: ond ffolineb y ffyliaid yw twyll. 9 Y ffyliaid a ymhyfrydant mewn camwedd: ond ymhlith y rhai uniawn y mae ewyllys da. 10 Y galon sydd yn gwybod chwerwder ei henaid ei hun: a’r dieithr ni bydd gyfrannog o’i llawenydd hi. 11 Tŷ yr annuwiolion a ddinistrir: ond pabell y rhai uniawn a flodeua. 12 Y mae ffordd sydd uniawn yng ngolwg dyn: ond ei diwedd hi yw ffyrdd angau. 13 Ie, wrth chwerthin y bydd blin ar y galon; a diwedd y llawenydd hwnnw yw tristwch. 14 Y gwrthnysig o galon a gaiff ddigon o’i ffyrdd ei hun: ond y gŵr daionus a gilia oddi wrtho ef. 15 Yr ehud a goelia bob gair: a’r call a ddeil ar ei gamre. 16 Y doeth sydd yn ofni, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni: ond y ffôl sydd ffrom a hyderus. 17 Gŵr dicllon a wna ffolineb: a chas yw y gŵr dichellgar. 18 Y rhai ehud a etifeddant ffolineb: ond y rhai call a goronir â gwybodaeth. 19 Y rhai drygionus a ymostyngant gerbron y daionus: a’r annuwiol ym mhyrth y cyfiawn. 20 Y tlawd a gaseir, ie, gan ei gymydog ei hun: ond llawer fydd yn caru y cyfoethog. 21 A ddirmygo ei gymydog, sydd yn pechu: ond y trugarog wrth y tlawd, gwyn ei fyd ef. 22 Onid ydyw y rhai a ddychmygant ddrwg yn cyfeiliorni? eithr trugaredd a gwirionedd a fydd i’r sawl a ddychmygant ddaioni. 23 Ym mhob llafur y mae elw: ond o eiriau gwefusau nid oes dim ond tlodi. 24 Coron y doethion yw eu cyfoeth: ond ffolineb y ffyliaid sydd ffolineb. 25 Tyst ffyddlon a weryd eneidiau: ond y twyllodrus a ddywed gelwyddau. 26 Yn ofn yr Arglwydd y mae gobaith cadarn: ac i’w blant ef y bydd noddfa. 27 Ofn yr Arglwydd yw ffynnon y bywyd, i ddianc rhag maglau angau. 28 Mewn amlder y bobl y mae anrhydedd y brenin: ac o ddiffyg pobl y dinistrir y tywysog. 29 Y diog i ddigofaint sydd yn llawn o synnwyr: ond y dicllon ei ysbryd a ddyrchafa ynfydrwydd. 30 Calon iach yw bywyd y cnawd: ond cenfigen a bydra yr esgyrn. 31 Y neb a orthryma y tlawd, a gywilyddia ei Greawdydd: ond y neb a drugarhao wrth yr anghenus, a’i hanrhydedda ef. 32 Y drygionus a yrrir ymaith yn ei ddrygioni: ond y cyfiawn a obeithia pan fyddo yn marw. 33 Doethineb sydd yn gorffwys yng nghalon y call: ond yr hyn sydd yng nghalon ffyliaid a wybyddir. 34 Cyfiawnder a ddyrchafa genedl: ond cywilydd pobloedd yw pechod. 35 Ewyllys da y brenin sydd ar ei was synhwyrol: ond ei ddigofaint a fydd ar was gwaradwyddus.
1 Paul a Thimotheus, gweision Iesu Grist, at yr holl saint yng Nghrist Iesu y rhai sydd yn Philipi, gyda’r esgobion a’r diaconiaid: 2 Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad ni, a’r Arglwydd Iesu Grist. 3 I’m Duw yr ydwyf yn diolch ym mhob coffa amdanoch, 4 Bob amser ym mhob deisyfiad o’r eiddof drosoch chwi oll, gan wneuthur fy neisyfiad gyda llawenydd, 5 Oblegid eich cymdeithas chwi yn yr efengyl, o’r dydd cyntaf hyd yr awr hon; 6 Gan fod yn hyderus yn hyn, y bydd i’r hwn a ddechreuodd ynoch waith da, ei orffen hyd ddydd Iesu Grist: 7 Megis y mae’n iawn i mi synied hyn amdanoch oll, am eich bod gennyf yn fy nghalon, yn gymaint â’ch bod chwi oll, yn gystal yn fy rhwymau, ag yn fy amddiffyn a chadarnhad yr efengyl, yn gyfranogion â mi o ras. 8 Canys Duw sydd dyst i mi, mor hiraethus wyf amdanoch oll yn ymysgaroedd Iesu Grist. 9 A hyn yr wyf yn ei weddïo, ar amlhau o’ch cariad chwi eto fwyfwy mewn gwybodaeth a phob synnwyr; 10 Fel y profoch y pethau sydd â gwahaniaeth rhyngddynt; fel y byddoch bur a didramgwydd hyd ddydd Crist; 11 Wedi eich cyflawni â ffrwythau cyfiawnder, y rhai sydd trwy Iesu Grist, er gogoniant a moliant i Dduw. 12 Ac mi a ewyllysiwn i chwi wybod, frodyr, am y pethau a ddigwyddodd i mi, ddyfod ohonynt yn hytrach er llwyddiant i’r efengyl; 13 Yn gymaint â bod fy rhwymau i yng Nghrist yn eglur yn yr holl lys, ac ym mhob lle arall; 14 Ac i lawer o’r brodyr yn yr Arglwydd fyned yn hyderus wrth fy rhwymau i, a bod yn hyach o lawer i draethu’r gair yn ddi‐ofn. 15 Y mae rhai yn wir yn pregethu Crist trwy genfigen ac ymryson; a rhai hefyd o ewyllys da. 16 Y naill sydd yn pregethu Crist o gynnen, nid yn bur, gan feddwl dwyn mwy o flinder i’m rhwymau i: 17 A’r lleill o gariad, gan wybod mai er amddiffyn yr efengyl y’m gosodwyd. 18 Beth er hynny? eto ym mhob modd, pa un bynnag ai mewn rhith, ai mewn gwirionedd, yr ydys yn pregethu Crist: ac yn hyn yr ydwyf fi yn llawen, ie, a llawen fyddaf. 19 Canys mi a wn y digwydd hyn i mi er iachawdwriaeth, trwy eich gweddi chwi, a chynhorthwy Ysbryd Iesu Grist, 20 Yn ôl fy awyddfryd a’m gobaith, na’m gwaradwyddir mewn dim, eithr mewn pob hyder, fel bob amser, felly yr awron hefyd, y mawrygir Crist yn fy nghorff i, pa un bynnag ai trwy fywyd, ai trwy farwolaeth. 21 Canys byw i mi yw Crist, a marw sydd elw. 22 Ac os byw fyddaf yn y cnawd, hyn yw ffrwyth fy llafur: a pha beth a ddewisaf, nis gwn. 23 Canys y mae’n gyfyng arnaf o’r ddeutu, gan fod gennyf chwant i’m datod, ac i fod gyda Christ; canys llawer iawn gwell ydyw. 24 Eithr aros yn y cnawd sydd fwy angenrheidiol o’ch plegid chwi. 25 A chennyf yr hyder hwn, yr wyf yn gwybod yr arhosaf ac y cyd‐drigaf gyda chwi oll, er cynnydd i chwi, a llawenydd y ffydd; 26 Fel y byddo eich gorfoledd chwi yn helaethach yng Nghrist Iesu o’m plegid i, trwy fy nyfodiad i drachefn atoch. 27 Yn unig ymddygwch yn addas i efengyl Crist; fel pa un bynnag a wnelwyf ai dyfod a’ch gweled chwi, ai bod yn absennol, y clywyf oddi wrth eich helynt chwi, eich bod yn sefyll yn un ysbryd, ag un enaid, gan gydymdrech gyda ffydd yr efengyl; 28 Ac heb eich dychrynu mewn un dim, gan eich gwrthwynebwyr: yr hyn iddynt hwy yn wir sydd arwydd sicr o golledigaeth, ond i chwi o iachawdwriaeth, a hynny gan Dduw. 29 Canys i chwi y rhoddwyd, bod i chwi er Crist, nid yn unig gredu ynddo ef, ond hefyd ddioddef erddo ef; 30 Gan fod i chwi yr un ymdrin ag a welsoch ynof fi, ac yr awron a glywch ei fod ynof fi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.