M’Cheyne Bible Reading Plan
37 A Besaleel a wnaeth yr arch o goed Sittim; o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled, a chufydd a hanner ei huchder. 2 Ac a’i gwisgodd hi ag aur pur o fewn ac oddi allan; ac a wnaeth iddi goron o aur o amgylch. 3 Ac a fwriodd iddi bedair modrwy o aur ar ei phedair congl: sef dwy fodrwy ar ei naill ystlys, a dwy fodrwy ar ei hystlys arall. 4 Efe a wnaeth hefyd drosolion o goed Sittim, ac a’u gwisgodd hwynt ag aur. 5 Ac a osododd y trosolion trwy’r modrwyau ar ystlysau yr arch, i ddwyn yr arch.
6 Ac efe a wnaeth y drugareddfa o aur coeth; o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled. 7 Ac efe a wnaeth ddau geriwb aur: o un dryll cyfan y gwnaeth efe hwynt, ar ddau ben y drugareddfa; 8 Un ceriwb ar y pen o’r tu yma, a cheriwb arall ar y pen o’r tu arall: o’r drugareddfa y gwnaeth efe y ceriwbiaid, ar ei dau ben hi. 9 A’r ceriwbiaid oeddynt, gan ledu esgyll tuag i fyny, a’u hesgyll yn gorchuddio’r drugareddfa, a’u hwynebau bob un at ei gilydd: wynebau’r ceriwbiaid oedd tuag at y drugareddfa.
10 Ac efe a wnaeth fwrdd o goed Sittim: dau gufydd ei hyd, a chufydd ei led, a chufydd a hanner ei uchder. 11 Ac a osododd aur pur drosto, ac a wnaeth iddo goron o aur o amgylch. 12 Gwnaeth hefyd iddo gylch o amgylch o led llaw; ac a wnaeth goron o aur ar ei gylch o amgylch. 13 Ac efe a fwriodd iddo bedair modrwy o aur; ac a roddodd y modrwyau wrth ei bedair congl, y rhai oedd yn ei bedwar troed. 14 Ar gyfer y cylch yr oedd y modrwyau, yn lle i’r trosolion i ddwyn y bwrdd. 15 Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim, ac a’u gwisgodd hwynt ag aur i ddwyn y bwrdd. 16 Efe a wnaeth hefyd y llestri fyddai ar y bwrdd, ei ddysglau ef, a’i lwyau, a’i ffiolau, a’i gaeadau i gau â hwynt, o aur pur.
17 Ac efe a wnaeth ganhwyllbren o aur coeth; o un dryll cyfan y gwnaeth efe y canhwyllbren, ei baladr, ei geinciau, ei bedyll, ei gnapiau, a’i flodau, oedd o’r un. 18 A chwech o geinciau yn myned allan o’i ystlysau: tair cainc o’r canhwyllbren o un ystlys, a thair cainc o’r canhwyllbren o’r ystlys arall. 19 Tair padell ar waith almonau, cnap a blodeuyn oedd ar un gainc; a thair padell o waith almonau, cnap a blodeuyn ar gainc arall: yr un modd yr oedd ar y chwe chainc, y rhai oedd yn dyfod allan o’r canhwyllbren. 20 Ac ar y canhwyllbren yr oedd pedair padell o waith almonau, ei gnapiau a’i flodau. 21 A chnap dan ddwy gainc ohono, a chnap dan ddwy gainc ohono, a chnap dan ddwy gainc ohono; yn ôl y chwe chainc oedd yn dyfod allan ohono. 22 Eu cnapiau a’u ceinciau oedd o’r un: y cwbl ohono ydoedd un dryll cyfan o aur coeth. 23 Ac efe a wnaeth ei saith lamp ef, a’i efeiliau, a’i gafnau, o aur pur. 24 O dalent o aur coeth y gwnaeth efe ef, a’i holl lestri.
25 Gwnaeth hefyd allor yr arogldarth o goed Sittim: o gufydd ei hyd, a chufydd ei lled, yn bedeirongl: ac o ddau gufydd ei huchder: ei chyrn oedd o’r un. 26 Ac efe a’i gwisgodd hi ag aur coeth, ei chaead, a’i hystlysau o amgylch, a’i chyrn; ac efe a wnaeth iddi goron o aur o amgylch. 27 Ac efe a wnaeth iddi ddwy fodrwy o aur wrth ei dwy gongl, ar ei dau ystlys, oddi tan ei choron, i fyned am drosolion i’w dwyn arnynt. 28 Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim; ac a’u gwisgodd hwynt ag aur.
29 Ac efe a wnaeth olew yr eneiniad sanctaidd, a’r arogl‐darth llysieuog pur, o waith yr apothecari.
16 Y pethau hyn a ddywedais i chwi, fel na rwystrer chwi. 2 Hwy a’ch bwriant chwi allan o’r synagogau: ac y mae’r awr yn dyfod, y tybia pwy bynnag a’ch lladdo, ei fod yn gwneuthur gwasanaeth i Dduw. 3 A’r pethau hyn a wnânt i chwi, oblegid nad adnabuant y Tad, na myfi. 4 Eithr y pethau hyn a ddywedais i chwi, fel pan ddêl yr awr, y cofioch hwynt, ddarfod i mi ddywedyd i chwi: a’r pethau hyn ni ddywedais i chwi o’r dechreuad, am fy mod gyda chwi. 5 Ac yn awr yr wyf yn myned at yr hwn a’m hanfonodd; ac nid yw neb ohonoch yn gofyn i mi, I ba le yr wyt ti’n myned? 6 Eithr am i mi ddywedyd y pethau hyn i chwi, tristwch a lanwodd eich calon. 7 Ond yr wyf fi yn dywedyd gwirionedd i chwi; Buddiol yw i chwi fy myned i ymaith: canys onid af fi, ni ddaw’r Diddanydd atoch; eithr os mi a af, mi a’i hanfonaf ef atoch. 8 A phan ddêl, efe a argyhoedda’r byd o bechod, ac o gyfiawnder, ac o farn: 9 O bechod, am nad ydynt yn credu ynof fi: 10 O gyfiawnder, am fy mod yn myned at fy Nhad, ac ni’m gwelwch i mwyach; 11 O farn, oblegid tywysog y byd hwn a farnwyd. 12 Y mae gennyf eto lawer o bethau i’w dywedyd i chwi, ond ni ellwch eu dwyn yr awron. 13 Ond pan ddêl efe, sef Ysbryd y gwirionedd, efe a’ch tywys chwi i bob gwirionedd: canys ni lefara ohono’i hun; ond pa bethau bynnag a glywo, a lefara efe: a’r pethau sydd i ddyfod, a fynega efe i chwi. 14 Efe a’m gogonedda i: canys efe a gymer o’r eiddof, ac a’i mynega i chwi. 15 Yr holl bethau sydd eiddo’r Tad, ydynt eiddof fi: oherwydd hyn y dywedais, mai o’r eiddof fi y cymer, ac y mynega i chwi. 16 Ychydig ennyd, ac ni’m gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a’m gwelwch: am fy mod yn myned at y Tad. 17 Am hynny y dywedodd rhai o’i ddisgyblion wrth ei gilydd, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd wrthym, Ychydig ennyd, ac ni’m gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a’m gwelwch: ac, Am fy mod yn myned at y Tad? 18 Am hynny hwy a ddywedasant, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd, Ychydig ennyd? ni wyddom ni beth y mae efe yn ei ddywedyd. 19 Yna y gwybu’r Iesu eu bod hwy yn ewyllysio gofyn iddo; ac a ddywedodd wrthynt, Ai ymofyn yr ydych â’ch gilydd am hyn, oblegid i mi ddywedyd, Ychydig ennyd, ac ni’m gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a’m gwelwch? 20 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Chwi a wylwch ac a alerwch, a’r byd a lawenycha: eithr chwi a fyddwch dristion; ond eich tristwch a droir yn llawenydd. 21 Gwraig wrth esgor sydd mewn tristwch, am ddyfod ei hawr: eithr wedi geni’r plentyn, nid yw hi’n cofio’i gofid mwyach, gan lawenydd geni dyn i’r byd. 22 A chwithau am hynny ydych yr awron mewn tristwch: eithr mi a ymwelaf â chwi drachefn, a’ch calon a lawenycha, a’ch llawenydd ni ddwg neb oddi arnoch. 23 A’r dydd hwnnw ni ofynnwch ddim i mi. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pa bethau bynnag a ofynnoch i’r Tad yn fy enw, efe a’u rhydd i chwi. 24 Hyd yn hyn ni ofynasoch ddim yn fy enw i: gofynnwch, a chwi a gewch; fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn. 25 Y pethau hyn a leferais wrthych mewn damhegion: eithr y mae’r awr yn dyfod, pan na lefarwyf wrthych mewn damhegion mwyach, eithr y mynegaf i chwi yn eglur am y Tad. 26 Y dydd hwnnw y gofynnwch yn fy enw: ac nid wyf yn dywedyd i chwi, y gweddïaf fi ar y Tad trosoch: 27 Canys y Tad ei hun sydd yn eich caru chwi, am i chwi fy ngharu i, a chredu fy nyfod i allan oddi wrth Dduw. 28 Mi a ddeuthum allan oddi wrth y Tad, ac a ddeuthum i’r byd: trachefn yr wyf yn gadael y byd, ac yn myned at y Tad. 29 Ei ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Wele, yr wyt ti yn awr yn dywedyd yn eglur, ac nid wyt yn dywedyd un ddameg. 30 Yn awr y gwyddom y gwyddost bob peth, ac nid rhaid i ti ymofyn o neb â thi: wrth hyn yr ydym yn credu ddyfod ohonot allan oddi wrth Dduw. 31 Yr Iesu a’u hatebodd hwynt, A ydych chwi yn awr yn credu? 32 Wele, y mae’r awr yn dyfod, ac yr awron hi a ddaeth, y gwasgerir chwi bob un at yr eiddo, ac y gadewch fi yn unig: ac nid wyf yn unig, oblegid y mae’r Tad gyda myfi. 33 Y pethau hyn a ddywedais wrthych fel y caffech dangnefedd ynof. Yn y byd gorthrymder a gewch: eithr cymerwch gysur, myfi a orchfygais y byd.
13 Mab doeth a wrendy ar athrawiaeth ei dad: ond gwatwarwr ni wrendy ar gerydd. 2 Gŵr a fwynha ddaioni o ffrwyth ei enau: ac enaid yr anghyfiawn a fwynha drawsedd. 3 Y neb a geidw ei enau, a geidw ei einioes: ond y neb a ledo ei wefusau, a ddinistrir. 4 Enaid y diog a ddeisyf, ac ni chaiff ddim: ond enaid y diwyd a wneir yn fras. 5 Cas gan y cyfiawn gelwydd: ond y drygionus sydd ffiaidd, ac a ddaw i gywilydd. 6 Cyfiawnder a geidw y perffaith yn ei ffordd: ond annuwioldeb a ddymchwel y pechadur. 7 Rhyw un a ymffrostia ei fod yn gyfoethog, ac heb ddim ganddo: ac arall ei fod yn dlawd, a chyfoeth lawer iddo. 8 Iawn am einioes gŵr yw ei dda: ond y tlawd ni chlyw gerydd. 9 Goleuni y cyfiawn a lawenha: ond cannwyll y drygionus a ddiffoddir. 10 Trwy falchedd yn unig y cyffry cynnen: ond gyda’r pwyllog y mae doethineb. 11 Golud a gasgler trwy oferedd, a leiheir; ond y neb a gasglo â’i law a chwanega. 12 Gobaith a oeder a wanha y galon: ond pren y bywyd yw deisyfiad, pan ddêl i ben. 13 Yr hwn a ddirmygo y gair, a ddifethir: ond yr hwn sydd yn ofni y gorchymyn, a obrwyir. 14 Cyfraith y doeth sydd ffynnon bywyd, i gilio oddi wrth faglau angau. 15 Deall da a ddyry ras: ond ffordd troseddwyr sydd galed. 16 Pob call a wna bethau trwy wybodaeth: ond yr ynfyd a ddengys ynfydrwydd. 17 Cennad annuwiol a syrth i ddrygioni; ond cennad ffyddlon sydd iechyd. 18 Tlodi a gwaradwydd fydd i’r hwn a wrthodo addysg: ond yr hwn a gadwo gerydd, a anrhydeddir. 19 Dymuniad wedi ei gyflawni, sydd felys gan yr enaid: ond ffiaidd gan ynfydion gilio oddi wrth ddrygioni. 20 Yr hwn a rodia gyda doethion, fydd doeth: ond yr hwn sydd gyfaill i ynfydion, a gystuddir. 21 Drygfyd a erlyn bechaduriaid: ond daioni a delir i’r rhai cyfiawn. 22 Y gŵr daionus a ad etifeddiaeth i feibion ei feibion: a golud y pechadur a roddwyd i gadw i’r cyfiawn. 23 Llawer o ymborth sydd ym maes y tlodion: ond y mae a ddinistrir o eisiau barn. 24 Yr hwn a arbedo y wialen, sydd yn casáu ei fab: ond yr hwn a’i câr ef, a’i cerydda mewn amser. 25 Y cyfiawn a fwyty hyd oni ddigoner ei enaid: ond bol yr annuwiolion fydd mewn eisiau.
6 Y plant, ufuddhewch i’ch rhieni yn yr Arglwydd: canys hyn sydd gyfiawn. 2 Anrhydedda dy dad a’th fam, (yr hwn yw’r gorchymyn cyntaf mewn addewid;) 3 Fel y byddo yn dda i ti, ac fel y byddech hir‐hoedlog ar y ddaear. 4 A chwithau dadau, na yrrwch eich plant i ddigio; ond maethwch hwynt yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. 5 Y gweision, ufuddhewch i’r rhai sydd arglwyddi i chwi yn ôl y cnawd, gydag ofn a dychryn, yn symlrwydd eich calon, megis i Grist; 6 Nid â golwg‐wasanaeth, fel bodlonwyr dynion, ond fel gweision Crist, yn gwneuthur ewyllys Duw o’r galon; 7 Trwy ewyllys da yn gwneuthur gwasanaeth, megis i’r Arglwydd, ac nid i ddynion: 8 Gan wybod mai pa ddaioni bynnag a wnelo pob un, hynny a dderbyn efe gan yr Arglwydd, pa un bynnag ai caeth ai rhydd fyddo. 9 A chwithau feistriaid, gwnewch yr un pethau tuag atynt hwy, gan roddi bygwth heibio: gan wybod fod eich Arglwydd chwi a hwythau yn y nefoedd; ac nid oes derbyn wyneb gydag ef. 10 Heblaw hyn, fy mrodyr, ymnerthwch yn yr Arglwydd, ac yng nghadernid ei allu ef. 11 Gwisgwch holl arfogaeth Duw, fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion diafol. 12 Oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn tywysogaethau, yn erbyn awdurdodau, yn erbyn bydol lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn, yn erbyn drygau ysbrydol yn y nefolion leoedd. 13 Am hynny cymerwch atoch holl arfogaeth Duw, fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg; ac wedi gorffen pob peth, sefyll. 14 Sefwch gan hynny, wedi amgylchwregysu eich lwynau â gwirionedd, a gwisgo dwyfronneg cyfiawnder; 15 A gwisgo am eich traed esgidiau paratoad efengyl tangnefedd: 16 Uwchlaw pob dim, wedi cymryd tarian y ffydd, â’r hon y gellwch ddiffoddi holl bicellau tanllyd y fall. 17 Cymerwch hefyd helm yr iachawdwriaeth, a chleddyf yr Ysbryd, yr hwn yw gair Duw: 18 Gan weddïo bob amser â phob rhyw weddi a deisyfiad yn yr Ysbryd, a bod yn wyliadwrus at hyn yma, trwy bob dyfalbara, a deisyfiad dros yr holl saint; 19 A throsof finnau, fel y rhodder i mi ymadrodd, trwy agoryd fy ngenau yn hy, i hysbysu dirgelwch yr efengyl; 20 Dros yr hon yr wyf yn gennad mewn cadwyn: fel y traethwyf yn hy amdani, fel y perthyn imi draethu. 21 Ond fel y gwypoch chwithau hefyd fy helynt, beth yr wyf yn ei wneuthur, Tychicus, y brawd annwyl a’r gweinidog ffyddlon yn yr Arglwydd, a hysbysa i chwi bob peth: 22 Yr hwn a anfonais atoch er mwyn hyn yma; fel y caech wybod ein helynt ni, ac fel y diddanai efe eich calonnau chwi. 23 Tangnefedd i’r brodyr, a chariad gyda ffydd, oddi wrth Dduw Dad, a’r Arglwydd Iesu Grist. 24 Gras fyddo gyda phawb sydd yn caru ein Harglwydd Iesu Grist mewn purdeb. Amen.
At yr Effesiaid yr ysgrifennwyd o Rufain, gyda Thychicus.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.