Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Exodus 35

35 Casglodd Moses hefyd holl gynulleidfa meibion Israel, a dywedodd wrthynt, Dyma’r pethau a orchmynnodd yr Arglwydd eu gwneuthur. Chwe diwrnod y gwneir gwaith; ar y seithfed dydd y bydd i chwi ddydd sanctaidd, Saboth gorffwys i’r Arglwydd: llwyr rodder i farwolaeth pwy bynnag a wnelo waith arno. Na chyneuwch dân yn eich holl anheddau ar y dydd Saboth.

A Moses a lefarodd wrth holl gynulleidfa meibion Israel, gan ddywedyd, Dyma’r peth a orchmynnodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, Cymerwch o’ch plith offrwm yr Arglwydd: pob un ewyllysgar ei galon dyged hyn yn offrwm i’r Arglwydd; aur, ac arian, a phres, A sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, a blew geifr, A chrwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a chrwyn daearfoch, a choed Sittim, Ac olew i’r goleuni, a llysiau i olew yr ennaint, ac i’r arogl‐darth peraidd, A meini onics, a meini i’w gosod yn yr effod, ac yn y ddwyfronneg. 10 A phob doeth ei galon yn eich plith, deuant a gweithiant yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd; 11 Y tabernacl, ei babell‐len a’i do, ei fachau a’i ystyllod, ei farrau, ei golofnau, a’i forteisiau, 12 Yr arch, a’i throsolion, y drugareddfa, a’r wahanlen, yr hon a’i gorchuddia, 13 Y bwrdd, a’i drosolion, a’i holl lestri, a’r bara dangos, 14 A chanhwyllbren y goleuni, a’i offer, a’i lampau, ac olew y goleuni, 15 Ac allor yr arogl‐darth, a’i throsolion, ac olew yr eneiniad, a’r arogl‐darth peraidd, a chaeadlen y drws i fyned i’r tabernacl, 16 Allor y poethoffrwm a’i halch bres, ei throsolion, a’i holl lestri, y noe a’i throed, 17 Llenni’r cynteddfa, ei golofnau, a’i forteisiau, caeadlen porth y cynteddfa, 18 Hoelion y tabernacl, a hoelion y cynteddfa, a’u rhaffau hwynt, 19 A gwisgoedd y weinidogaeth i weini yn y cysegr, sanctaidd wisgoedd Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef, i offeiriadu ynddynt.

20 A holl gynulleidfa meibion Israel a aethant allan oddi gerbron Moses. 21 A phob un yr hwn y cynhyrfodd ei galon ef, a phob un yr hwn y gwnaeth ei ysbryd ef yn ewyllysgar, a ddaethant, ac a ddygasant offrwm i’r Arglwydd, tuag at waith pabell y cyfarfod, a thuag at ei holl wasanaeth hi, a thuag at y gwisgoedd sanctaidd. 22 A daethant yn wŷr ac yn wragedd; pob un a’r a oedd ewyllysgar ei galon a ddygasant freichledau, a chlustlysau, a modrwyau, a chadwynau, pob math ar dlysau aur; a phob gŵr a’r a offrymodd offrwm, a offrymodd aur i’r Arglwydd. 23 A phob un a’r y caed gydag ef sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, a blew geifr, a chrwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a chrwyn daearfoch, a’u dygasant. 24 Pob un a’r a offrymodd offrwm o arian a phres, a ddygasant offrwm i’r Arglwydd: a phob un a’r y caed gydag ef goed Sittim i ddim o waith y gwasanaeth a’i dygasant. 25 A phob gwraig ddoeth o galon a nyddodd â’i dwylo; ac a ddygasant yr edafedd sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main. 26 A’r holl wragedd y rhai y cynhyrfodd eu calonnau hwynt mewn cyfarwyddyd, a nyddasant flew geifr. 27 A’r penaethiaid a ddygasant feini onics, a meini i’w gosod ar yr effod, ac ar y ddwyfronneg; 28 A llysiau, ac olew i’r goleuni, ac i olew yr ennaint, ac i’r arogl‐darth peraidd. 29 Holl blant Israel, yn wŷr ac yn wragedd, y rhai a glywent ar eu calon offrymu tuag at yr holl waith a orchmynasai’r Arglwydd trwy law Moses ei wneuthur, a ddygasant i’r Arglwydd offrwm ewyllysgar.

30 A dywedodd Moses wrth feibion Israel, Gwelwch, galwodd yr Arglwydd erbyn ei enw, Besaleel, fab Uri, fab Hur, o lwyth Jwda: 31 Ac a’i llanwodd ef ag ysbryd Duw, mewn cyfarwyddyd, mewn deall, ac mewn gwybodaeth, ac mewn pob gwaith; 32 I ddychmygu cywreinrwydd, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pres, 33 Ac mewn cyfarwyddyd i osod meini, ac mewn saernïaeth pren, i weithio ym mhob gwaith cywraint. 34 Ac efe a roddodd yn ei galon ef ddysgu eraill; efe, ac Aholïab, mab Achisamach, o lwyth Dan. 35 Efe a’u llanwodd hwynt â doethineb calon, i wneuthur pob gwaith saer a chywreinwaith, a gwaith edau a nodwydd, mewn sidan glas, ac mewn porffor, ac mewn ysgarlad, ac mewn lliain main, ac i wau, gan wneuthur pob gwaith, a dychmygu cywreinrwydd.

Ioan 14

14 Na thralloder eich calon: yr ydych yn credu yn Nuw, credwch ynof finnau hefyd. Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau: a phe amgen, mi a ddywedaswn i chwi. Yr wyf fi yn myned i baratoi lle i chwi. Ac os myfi a af, ac a baratoaf le i chwi, mi a ddeuaf drachefn, ac a’ch cymeraf chwi ataf fy hun; fel lle yr wyf fi, y byddoch chwithau hefyd. Ac i ba le yr wyf fi yn myned, chwi a wyddoch, a’r ffordd a wyddoch. Dywedodd Thomas wrtho, Arglwydd, ni wyddom ni i ba le yr wyt ti yn myned; a pha fodd y gallwn wybod y ffordd? Yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, Myfi yw’r ffordd, a’r gwirionedd, a’r bywyd: nid yw neb yn dyfod at y Tad, ond trwof fi. Ped adnabuasech fi, fy Nhad hefyd a adnabuasech: ac o hyn allan yr adwaenoch ef, a chwi a’i gwelsoch ef. Dywedodd Philip wrtho, Arglwydd, dangos i ni y Tad, a digon yw i ni. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, A ydwyf gyhyd o amser gyda chwi, ac nid adnabuost fi, Philip? Y neb a’m gwelodd i, a welodd y Tad: a pha fodd yr wyt ti yn dywedyd, Dangos i ni y Tad? 10 Onid wyt ti yn credu fy mod i yn y Tad, a’r Tad ynof finnau? Y geiriau yr wyf fi yn eu llefaru wrthych, nid ohonof fy hun yr wyf yn eu llefaru; ond y Tad yr hwn sydd yn aros ynof, efe sydd yn gwneuthur y gweithredoedd. 11 Credwch fi, fy mod i yn y Tad, a’r Tad ynof finnau: ac onid e, credwch fi er mwyn y gweithredoedd eu hunain. 12 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur, yntau hefyd a’u gwna, a mwy na’r rhai hyn a wna efe: oblegid yr wyf fi yn myned at fy Nhad. 13 A pha beth bynnag a ofynnoch yn fy enw i, hynny a wnaf; fel y gogonedder y Tad yn y Mab. 14 Os gofynnwch ddim yn fy enw i, mi a’i gwnaf.

15 O cherwch fi, cedwch fy ngorchmynion. 16 A mi a weddïaf ar y Tad, ac efe a rydd i chwi Ddiddanydd arall, fel yr arhoso gyda chwi yn dragwyddol; 17 Ysbryd y gwirionedd, yr hwn ni ddichon y byd ei dderbyn, am nad yw yn ei weled, nac yn ei adnabod ef: ond chwi a’i hadwaenoch ef; oherwydd y mae yn aros gyda chwi, ac ynoch y bydd efe. 18 Ni’ch gadawaf chwi yn amddifaid: mi a ddeuaf atoch chwi. 19 Eto ennyd bach, a’r byd ni’m gwêl mwy; eithr chwi a’m gwelwch: canys byw wyf fi, a byw fyddwch chwithau hefyd. 20 Y dydd hwnnw y gwybyddwch fy mod i yn fy Nhad, a chwithau ynof fi, a minnau ynoch chwithau. 21 Yr hwn sydd â’m gorchmynion i ganddo, ac yn eu cadw hwynt, efe yw’r hwn sydd yn fy ngharu i: a’r hwn sydd yn fy ngharu i, a gerir gan fy Nhad i: a minnau a’i caraf ef, ac a’m hegluraf fy hun iddo. 22 Dywedodd Jwdas wrtho, (nid yr Iscariot,) Arglwydd, pa beth yw’r achos yr wyt ar fedr dy eglurhau dy hun i ni, ac nid i’r byd? 23 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Os câr neb fi, efe a geidw fy ngair; a’m Tad a’i câr yntau, a nyni a ddeuwn ato, ac a wnawn ein trigfa gydag ef. 24 Yr hwn nid yw yn fy ngharu i, nid yw yn cadw fy ngeiriau: a’r gair yr ydych yn ei glywed, nid eiddof fi ydyw, ond eiddo’r Tad a’m hanfonodd i. 25 Y pethau hyn a ddywedais wrthych, a mi yn aros gyda chwi. 26 Eithr y Diddanydd, yr Ysbryd Glân, yr hwn a enfyn y Tad yn fy enw i, efe a ddysg i chwi’r holl bethau, ac a ddwg ar gof i chwi’r holl bethau a ddywedais i chwi. 27 Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; fy nhangnefedd yr ydwyf yn ei roddi i chwi: nid fel y mae y byd yn rhoddi, yr wyf fi yn rhoddi i chwi. Na thralloder eich calon, ac nac ofned. 28 Clywsoch fel y dywedais wrthych, Yr wyf yn myned ymaith, ac mi a ddeuaf atoch. Pe carech fi, chwi a lawenhaech am i mi ddywedyd, Yr wyf yn myned at y Tad: canys y mae fy Nhad yn fwy na myfi. 29 Ac yr awron y dywedais i chwi cyn ei ddyfod, fel pan ddêl, y credoch. 30 Nid ymddiddanaf â chwi nemor bellach: canys tywysog y byd hwn sydd yn dyfod, ac nid oes iddo ddim ynof fi. 31 Ond fel y gwypo’r byd fy mod i yn caru’r Tad, ac megis y gorchmynnodd y Tad i mi, felly yr wyf yn gwneuthur. Codwch, awn oddi yma.

Diarhebion 11

11 Cloriannau anghywir sydd ffiaidd gan yr Arglwydd: ond carreg uniawn sydd fodlon ganddo ef. Pan ddêl balchder, fe ddaw gwarth: ond gyda’r gostyngedig y mae doethineb. Perffeithrwydd yr uniawn a’u tywys hwynt: ond trawsedd yr anffyddloniaid a’u difetha hwynt. Ni thycia cyfoeth yn nydd digofaint: ond cyfiawnder a wared rhag angau. Cyfiawnder y perffaith a’i hyfforddia ef: ond o achos ei ddrygioni y syrth y drygionus. Cyfiawnder y cyfiawn a’u gwared hwynt: ond troseddwyr a ddelir yn eu drygioni. Pan fyddo marw dyn drygionus, fe a ddarfu am ei obaith ef: a gobaith y traws a gyfrgollir. Y cyfiawn a waredir o gyfyngder, a’r drygionus a ddaw yn ei le ef. Rhagrithiwr â’i enau a lygra ei gymydog: ond y cyfiawn a waredir trwy wybodaeth. 10 Yr holl ddinas a ymlawenha oherwydd llwyddiant y cyfiawn: a phan gyfrgoller y drygionus, y bydd gorfoledd. 11 Trwy fendith y cyfiawn y dyrchefir y ddinas: ond trwy enau y drygionus y dinistrir hi. 12 Y neb sydd ddisynnwyr a ddiystyra ei gymydog; ond y synhwyrol a dau â sôn. 13 Yr hwn a rodia yn athrodwr, a ddatguddia gyfrinach: ond y ffyddlon ei galon a gela y peth. 14 Lle ni byddo cyngor, y bobl a syrthiant: ond lle y byddo llawer o gynghorwyr, y bydd diogelwch. 15 Blinder mawr a gaiff y neb a fachnïo dros ddieithrddyn: ond y neb a gasao fachnïaeth, fydd ddiogel. 16 Gwraig rasol a gaiff anrhydedd; a’r galluog a gânt gyfoeth. 17 Gŵr trugarog sydd dda wrth ei enaid ei hun: ond y creulon a flina ei gnawd ei hun. 18 Y drygionus a wna waith twyllodrus: ond i’r neb a heuo gyfiawnder, y bydd gwobr sicr. 19 Fel yr arwain cyfiawnder i fywyd: felly dilyn drygioni a dywys i angau. 20 Ffiaidd gan yr Arglwydd y neb sydd gyndyn eu calonnau: eithr hoff ganddo ef y rhai sydd berffaith yn eu ffyrdd. 21 Er maint fyddo cymorth, y drygionus ni bydd ddieuog: ond had y cyfiawn a waredir. 22 Fel modrwy aur yn nhrwyn hwch, yw benyw lân heb synnwyr. 23 Deisyfiad y cyfiawn sydd ar ddaioni yn unig: ond gobaith y drygionus sydd ddicter. 24 Rhyw un a wasgar ei dda, ac efe a chwanegir iddo: a rhyw un arall a arbed mwy nag a weddai, ac a syrth i dlodi. 25 Yr enaid hael a fraseir: a’r neb a ddyfrhao, a ddyfrheir yntau hefyd. 26 Y neb a atalio ei ŷd, y bobl a’i melltithia: ond bendith a fydd ar ben y neb a’i gwertho. 27 Y neb a ddyfal geisio ddaioni, a ennill ewyllys da: ond y neb a geisio ddrwg, iddo ei hun y daw. 28 Y neb a roddo ei oglyd ar ei gyfoeth, a syrth: ond y cyfiawn a flodeuant megis cangen. 29 Y neb a flino ei dŷ ei hun, a berchenoga y gwynt: a’r ffôl a fydd gwas i’r synhwyrol ei galon. 30 Ffrwyth y cyfiawn sydd megis pren y bywyd: a’r neb a enillo eneidiau, sydd ddoeth. 31 Wele, telir i’r cyfiawn ar y ddaear: pa faint mwy i’r drygionus a’r pechadur?

Effesiaid 4

Deisyf gan hynny arnoch yr wyf fi, y carcharor yn yr Arglwydd, ar rodio ohonoch yn addas i’r alwedigaeth y’ch galwyd iddi, Gyda phob gostyngeiddrwydd ac addfwynder, ynghyd â hirymaros, gan oddef eich gilydd mewn cariad; Gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr Ysbryd yng nghwlwm tangnefedd. Un corff sydd, ac un Ysbryd, megis ag y’ch galwyd yn un gobaith eich galwedigaeth; Un Arglwydd, un ffydd, un bedydd, Un Duw a Thad oll, yr hwn sydd goruwch oll, a thrwy oll, ac ynoch oll. Eithr i bob un ohonom y rhoed gras, yn ôl mesur dawn Crist. Oherwydd paham y mae efe yn dywedyd, Pan ddyrchafodd i’r uchelder, efe a gaethiwodd gaethiwed, ac a roddes roddion i ddynion. (Eithr efe a ddyrchafodd, beth yw ond darfod iddo hefyd ddisgyn yn gyntaf i barthau isaf y ddaear? 10 Yr hwn a ddisgynnodd, yw’r hwn hefyd a esgynnodd goruwch yr holl nefoedd, fel y cyflawnai bob peth.) 11 Ac efe a roddes rai yn apostolion, a rhai yn broffwydi, a rhai yn efengylwyr, a rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon; 12 I berffeithio’r saint, i waith y weinidogaeth, i adeilad corff Crist: 13 Hyd onid ymgyfarfyddom oll yn undeb ffydd, a gwybodaeth Mab Duw, yn ŵr perffaith, at fesur oedran cyflawnder Crist: 14 Fel na byddom mwyach yn blantos, yn bwhwman, ac yn ein cylcharwain â phob awel dysgeidiaeth, trwy hoced dynion, trwy gyfrwystra i gynllwyn i dwyllo: 15 Eithr, gan fod yn gywir mewn cariad, cynyddu ohonom iddo ef ym mhob peth, yr hwn yw’r pen, sef Crist: 16 O’r hwn y mae’r holl gorff wedi ei gydymgynnull a’i gydgysylltu, trwy bob cymal cynhaliaeth, yn ôl y nerthol weithrediad ym mesur pob rhan, yn gwneuthur cynnydd y corff, i’w adeiladu ei hun mewn cariad. 17 Hyn gan hynny yr wyf yn ei ddywedyd, ac yn ei dystiolaethu yn yr Arglwydd, na rodioch chwi mwyach fel y mae’r Cenhedloedd eraill yn rhodio, yn oferedd eu meddwl, 18 Wedi tywyllu eu deall, wedi ymddieithrio oddi wrth fuchedd Dduw, trwy’r anwybodaeth sydd ynddynt, trwy ddallineb eu calon: 19 Y rhai wedi diddarbodi, a ymroesant i drythyllwch, i wneuthur pob aflendid yn unchwant. 20 Eithr chwychwi, nid felly y dysgasoch Grist; 21 Os bu i chwi ei glywed ef, ac os dysgwyd chwi ynddo, megis y mae’r gwirionedd yn yr Iesu: 22 Dodi ohonoch heibio, o ran yr ymarweddiad cyntaf, yr hen ddyn, yr hwn sydd lygredig yn ôl y chwantau twyllodrus; 23 Ac ymadnewyddu yn ysbryd eich meddwl; 24 A gwisgo’r dyn newydd, yr hwn yn ôl Duw a grewyd mewn cyfiawnder a gwir sancteiddrwydd. 25 Oherwydd paham, gan fwrw ymaith gelwydd, dywedwch y gwir bob un wrth ei gymydog: oblegid aelodau ydym i’n gilydd. 26 Digiwch, ac na phechwch: na fachluded yr haul ar eich digofaint chwi: 27 Ac na roddwch le i ddiafol. 28 Yr hwn a ladrataodd, na ladrated mwyach: eithr yn hytrach cymered boen, gan weithio â’i ddwylo yr hyn sydd dda; fel y byddo ganddo beth i’w gyfrannu i’r hwn y mae angen arno. 29 Na ddeued un ymadrodd llygredig allan o’ch genau chwi, ond y cyfryw un ag a fyddo da i adeiladu yn fuddiol, fel y paro ras i’r gwrandawyr. 30 Ac na thristewch Lân Ysbryd Duw, trwy’r hwn y’ch seliwyd hyd ddydd prynedigaeth. 31 Tynner ymaith oddi wrthych bob chwerwedd, a llid, a dig, a llefain, a chabledd, gyda phob drygioni: 32 A byddwch gymwynasgar i’ch gilydd, yn dosturiol, yn maddau i’ch gilydd, megis y maddeuodd Duw er mwyn Crist i chwithau.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.