M’Cheyne Bible Reading Plan
20 A Duw a lefarodd yr holl eiriau hyn, gan ddywedyd, 2 Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a’th ddug di allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed. 3 Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i. 4 Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a’r y sydd yn y nefoedd uchod, nac a’r y sydd yn y ddaear isod, nac a’r sydd yn y dwfr tan y ddaear. 5 Nac ymgryma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw, wyf Dduw eiddigus; yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai a’m casânt; 6 Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o’r rhai a’m carant, ac a gadwant fy ngorchmynion. 7 Na chymer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer: canys nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymero ei enw ef yn ofer. 8 Cofia y dydd Saboth, i’w sancteiddio ef. 9 Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith: 10 Ond y seithfed dydd yw Saboth yr Arglwydd dy Dduw: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na’th fab, na’th ferch, na’th wasanaethwr, na’th wasanaethferch, na’th anifail, na’th ddieithr ddyn a fyddo o fewn dy byrth: 11 Oherwydd mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y nefoedd a’r ddaear, y môr, a’r hyn oll sydd ynddynt; ac a orffwysodd y seithfed dydd: am hynny y bendithiodd yr Arglwydd y dydd Saboth, ac a’i sancteiddiodd ef.
12 Anrhydedda dy dad a’th fam; fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti. 13 Na ladd. 14 Na wna odineb. 15 Na ladrata. 16 Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymydog. 17 Na chwennych dŷ dy gymydog, na chwennych wraig dy gymydog, na’i wasanaethwr, na’i wasanaethferch, na’i ych, na’i asyn, na dim a’r sydd eiddo dy gymydog.
18 A’r holl bobl a welsant y taranau, a’r mellt, a sain yr utgorn, a’r mynydd yn mygu: a phan welodd y bobl, ciliasant, a safasant o hirbell. 19 A dywedasant wrth Moses, Llefara di wrthym ni, a nyni a wrandawn: ond na lefared Duw wrthym, rhag i ni farw. 20 A dywedodd Moses wrth y bobl, Nac ofnwch; oherwydd i’ch profi chwi y daeth Duw, ac i fod ei ofn ef ger eich bronnau, fel na phechech. 21 A safodd y bobl o hirbell; a nesaodd Moses i’r tywyllwch, lle yr ydoedd Duw.
22 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Fel hyn y dywedi wrth feibion Israel; Chwi a welsoch mai o’r nefoedd y lleferais wrthych. 23 Na wnewch gyda mi dduwiau arian, ac na wnewch i chwi dduwiau aur.
24 Gwna i mi allor bridd, ac abertha arni dy boethebyrth a’th offrymau hedd, dy ddefaid, a’th eidionau: ym mhob man lle y rhoddwyf goffadwriaeth o’m henw, y deuaf atat, ac y’th fendithiaf. 25 Ond os gwnei i mi allor gerrig, na wna hi o gerrig nadd: pan gotech dy forthwyl arni, ti a’i halogaist hi. 26 Ac na ddos i fyny ar hyd grisiau i’m hallor; fel nad amlyger dy noethni wrthi.
23 A’r holl liaws ohonynt a gyfodasant, ac a’i dygasant ef at Peilat: 2 Ac a ddechreuasant ei gyhuddo ef, gan ddywedyd, Ni a gawsom hwn yn gŵyrdroi’r bobl, ac yn gwahardd rhoi teyrnged i Gesar, gan ddywedyd mai efe ei hun yw Crist Frenin. 3 A Pheilat a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? Ac efe a atebodd iddo, ac a ddywedodd, Yr wyt ti yn dywedyd. 4 A dywedodd Peilat wrth yr archoffeiriaid a’r bobl, Nid wyf fi yn cael dim bai ar y dyn hwn. 5 A hwy a fuant daerach, gan ddywedyd, Y mae efe yn cyffroi’r bobl, gan ddysgu trwy holl Jwdea, wedi dechrau o Galilea hyd yma. 6 A phan glybu Peilat sôn am Galilea, efe a ofynnodd ai Galilead oedd y dyn. 7 A phan wybu efe ei fod ef o lywodraeth Herod, efe a’i hanfonodd ef at Herod, yr hwn oedd yntau yn Jerwsalem y dyddiau hynny.
8 A Herod, pan welodd yr Iesu, a lawenychodd yn fawr: canys yr oedd efe yn chwennych er ys talm ei weled ef, oblegid iddo glywed llawer amdano ef; ac yr ydoedd yn gobeithio cael gweled gwneuthur rhyw arwydd ganddo ef. 9 Ac efe a’i holodd ef mewn llawer o eiriau; eithr efe nid atebodd ddim iddo. 10 A’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a safasant, gan ei gyhuddo ef yn haerllug. 11 A Herod a’i filwyr, wedi iddo ei ddiystyru ef, a’i watwar, a’i wisgo â gwisg glaerwen, a’i danfonodd ef drachefn at Peilat.
12 A’r dwthwn hwnnw yr aeth Peilat a Herod yn gyfeillion: canys yr oeddynt o’r blaen mewn gelyniaeth â’i gilydd.
13 A Pheilat, wedi galw ynghyd yr archoffeiriaid, a’r llywiawdwyr, a’r bobl, 14 A ddywedodd wrthynt, Chwi a ddygasoch y dyn hwn ataf fi, fel un a fyddai’n gŵyrdroi’r bobl: ac wele, myfi a’i holais ef yn eich gŵydd chwi, ac ni chefais yn y dyn hwn ddim bai, o ran y pethau yr ydych chwi yn ei gyhuddo ef amdanynt: 15 Na Herod chwaith: canys anfonais chwi ato ef; ac wele, dim yn haeddu marwolaeth nis gwnaed iddo. 16 Am hynny mi a’i ceryddaf ef, ac a’i gollyngaf ymaith. 17 Canys yr ydoedd yn rhaid iddo ollwng un yn rhydd iddynt ar yr ŵyl. 18 A’r holl liaws a lefasant ar unwaith, gan ddywedyd, Bwrw hwn ymaith, a gollwng i ni Barabbas yn rhydd: 19 (Yr hwn, am ryw derfysg a wnaethid yn y ddinas, a llofruddiaeth, oedd wedi ei daflu i garchar.) 20 Am hynny Peilat a ddywedodd wrthynt drachefn, gan ewyllysio gollwng yr Iesu yn rhydd. 21 Eithr hwy a lefasant arno, gan ddywedyd, Croeshoelia, croeshoelia ef. 22 Ac efe a ddywedodd wrthynt y drydedd waith, Canys pa ddrwg a wnaeth efe? ni chefais i ddim achos marwolaeth ynddo; am hynny mi a’i ceryddaf ef, ac a’i gollyngaf yn rhydd. 23 Hwythau a fuont daerion â llefau uchel, gan ddeisyfu ei groeshoelio ef. A’u llefau hwynt a’r archoffeiriaid a orfuant. 24 A Pheilat a farnodd wneuthur eu deisyfiad hwynt. 25 Ac efe a ollyngodd yn rhydd iddynt yr hwn am derfysg a llofruddiaeth a fwriasid yng ngharchar, yr hwn a ofynasant: eithr yr Iesu a draddododd efe i’w hewyllys hwynt. 26 Ac fel yr oeddynt yn ei arwain ef ymaith, hwy a ddaliasant un Simon o Cyrene, yn dyfod o’r wlad, ac a ddodasant y groes arno ef, i’w dwyn ar ôl yr Iesu.
27 Ac yr oedd yn ei ganlyn ef liaws mawr o bobl, ac o wragedd, y rhai hefyd oedd yn cwynfan ac yn galaru o’i blegid ef. 28 A’r Iesu, wedi troi atynt, a ddywedodd, Merched Jerwsalem, nac wylwch o’m plegid i: eithr wylwch o’ch plegid eich hunain, ac oblegid eich plant. 29 Canys wele, y mae’r dyddiau yn dyfod, yn y rhai y dywedant, Gwyn eu byd y rhai amhlantadwy, a’r crothau nid epiliasant, a’r bronnau ni roesant sugn. 30 Yna y dechreuant ddywedyd wrth y mynyddoedd, Syrthiwch arnom; ac wrth y bryniau, Cuddiwch ni. 31 Canys os gwnânt hyn yn y pren ir, pa beth a wneir yn y crin? 32 Ac arweiniwyd gydag ef hefyd ddau eraill, drwgweithredwyr, i’w rhoi i’w marwolaeth. 33 A phan ddaethant i’r lle a elwir Calfaria, yno y croeshoeliasant ef, a’r drwgweithredwyr; un ar y llaw ddeau, a’r llall ar yr aswy.
34 A’r Iesu a ddywedodd, O Dad, maddau iddynt: canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur. A hwy a ranasant ei ddillad ef, ac a fwriasant goelbren. 35 A’r bobl a safodd yn edrych. A’r penaethiaid hefyd gyda hwynt a watwarasant, gan ddywedyd, Eraill a waredodd efe; gwareded ef ei hun, os hwn yw Crist, etholedig Duw. 36 A’r milwyr hefyd a’i gwatwarasant ef, gan ddyfod ato, a chynnig iddo finegr, 37 A dywedyd, Os tydi yw Brenin yr Iddewon, gwared dy hun. 38 Ac yr ydoedd hefyd arysgrifen wedi ei hysgrifennu uwch ei ben ef, â llythrennau Groeg, a Lladin, a Hebraeg, HWN YW BRENIN YR IDDEWON.
39 Ac un o’r drwgweithredwyr a grogasid a’i cablodd ef, gan ddywedyd, Os tydi yw Crist, gwared dy hun a ninnau. 40 Eithr y llall a atebodd, ac a’i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Onid wyt ti yn ofni Duw, gan dy fod dan yr un ddamnedigaeth? 41 A nyni yn wir yn gyfiawn; canys yr ydym yn derbyn yr hyn a haeddai’r pethau a wnaethom: eithr hwn ni wnaeth ddim allan o’i le. 42 Ac efe a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, cofia fi pan ddelych i’th deyrnas. 43 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir meddaf i ti, Heddiw y byddi gyda mi ym mharadwys. 44 Ac yr ydoedd hi ynghylch y chweched awr, a thywyllwch a fu ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr. 45 A’r haul a dywyllwyd, a llen y deml a rwygwyd yn ei chanol.
46 A’r Iesu, gan lefain â llef uchel, a ddywedodd, O Dad, i’th ddwylo di y gorchmynnaf fy ysbryd. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a drengodd. 47 A’r canwriad, pan welodd y peth a wnaethpwyd, a ogoneddodd Dduw, gan ddywedyd, Yn wir yr oedd hwn yn ŵr cyfiawn. 48 A’r holl bobloedd y rhai a ddaethent ynghyd i edrych hyn, wrth weled y pethau a wnaethpwyd, a ddychwelasant, gan guro eu dwyfronnau. 49 A’i holl gydnabod ef a safasant o hirbell, a’r gwragedd y rhai a’i canlynasent ef o Galilea, yn edrych ar y pethau hyn.
50 Ac wele, gŵr a’i enw Joseff, yr hwn oedd gynghorwr, gŵr da a chyfiawn: 51 (Hwn ni chytunasai â’u cyngor ac â’u gweithred hwynt;) o Arimathea, dinas yr Iddewon, yr hwn oedd yntau yn disgwyl hefyd am deyrnas Dduw; 52 Hwn a ddaeth at Peilat, ac a ofynnodd gorff yr Iesu. 53 Ac efe a’i tynnodd i lawr, ac a’i hamdôdd mewn lliain main, ac a’i rhoddes mewn bedd wedi ei naddu mewn carreg, yn yr hwn ni roddasid dyn erioed. 54 A’r dydd hwnnw oedd ddarpar‐ŵyl, a’r Saboth oedd yn nesáu. 55 A’r gwragedd hefyd, y rhai a ddaethent gydag ef o Galilea, a ganlynasant, ac a welsant y bedd, a pha fodd y dodwyd ei gorff ef. 56 A hwy a ddychwelasant, ac a baratoesant beraroglau ac ennaint; ac a orffwysasant ar y Saboth, yn ôl y gorchymyn.
38 Yna yr Arglwydd a atebodd Job allan o’r corwynt, ac a ddywedodd, 2 Pwy yw hwn sydd yn tywyllu cyngor ag ymadroddion heb wybodaeth. 3 Gwregysa dy lwynau yn awr fel gŵr; a mynega i mi yr hyn a ofynnwyf i ti. 4 Pa le yr oeddit ti pan sylfaenais i y ddaear? mynega, os medri ddeall. 5 Pwy a osododd ei mesurau hi, os gwyddost? neu pwy a estynnodd linyn arni hi? 6 Ar ba beth y sicrhawyd ei sylfeini hi? neu pwy a osododd ei chonglfaen hi, 7 Pan gydganodd sêr y bore, ac y gorfoleddodd holl feibion Duw? 8 A phwy a gaeodd y môr â dorau, pan ruthrodd efe allan megis pe delai allan o’r groth? 9 Pan osodais i y cwmwl yn wisg iddo, a niwl tew yn rhwymyn iddo, 10 Pan osodais fy ngorchymyn arno, a phan osodais drosolion a dorau, 11 Gan ddywedyd, Hyd yma y deui, ac nid ymhellach; ac yma yr atelir ymchwydd dy donnau di. 12 A orchmynnaist ti y bore er dy ddyddiau? a ddangosaist ti i’r wawrddydd ei lle, 13 I ymaflyd yn eithafoedd y ddaear, fel yr ysgydwer yr annuwiol allan ohoni hi? 14 Canys hi a ymnewidia fel clai y sêl; a hwy a safant fel dillad. 15 Ac atelir eu goleuni oddi wrth yr annuwiol: dryllir y braich dyrchafedig. 16 A ddaethost ti i eigion y môr? ac a rodiaist ti yng nghilfachau y dyfnder? 17 A agorwyd pyrth marwolaeth i ti? neu a welaist ti byrth cysgod angau? 18 A ystyriaist ti led y ddaear? mynega, os adwaenost ti hi i gyd. 19 Pa ffordd yr eir lle y trig goleuni? a pha le y mae lle y tywyllwch, 20 Fel y cymerit ef hyd ei derfyn, ac y medrit y llwybrau i’w dŷ ef? 21 A wyddit ti yna y genid tydi? ac y byddai rhifedi dy ddyddiau yn fawr? 22 A aethost ti i drysorau yr eira? neu a welaist ti drysorau y cenllysg, 23 Y rhai a gedwais i hyd amser cyfyngder, hyd ddydd ymladd a rhyfel? 24 Pa ffordd yr ymranna goleuni, yr hwn a wasgar y dwyreinwynt ar y ddaear? 25 Pwy a rannodd ddyfrlle i’r llifddyfroedd? a ffordd i fellt y taranau, 26 I lawio ar y ddaear lle ni byddo dyn; ar yr anialwch, sydd heb ddyn ynddo? 27 I ddigoni y tir diffaith a gwyllt, ac i beri i gnwd o laswellt dyfu? 28 A oes dad i’r glaw? neu pwy a genhedlodd ddefnynnau y gwlith? 29 O groth pwy y daeth yr iâ allan? a phwy a genhedlodd lwydrew y nefoedd? 30 Y dyfroedd a guddir megis â charreg, ac wyneb y dyfnder a rewodd. 31 A rwymi di hyfrydwch Pleiades? neu a ddatodi di rwymau Orion? 32 A ddygi di allan Massaroth yn eu hamser? neu a dywysi di Arcturus a’i feibion? 33 A adwaenost ti ordeiniadau y nefoedd? a osodi di ei lywodraeth ef ar y ddaear? 34 A ddyrchefi di dy lef ar y cwmwl, fel y gorchuddio helaethrwydd o ddyfroedd dydi? 35 A ddanfoni di fellt allan, fel yr elont, ac y dywedont wrthyt, Wele ni? 36 Pwy a osododd ddoethineb yn yr ymysgaroedd? neu pwy a roddodd ddeall i’r galon? 37 Pwy a gyfrif y cymylau trwy ddoethineb? a phwy a all atal costrelau y nefoedd. 38 Pan droer y llwch yn dom, fel y glyno y priddellau ynghyd? 39 A elli di hela ysglyfaeth i’r llew? neu a elli di lenwi gwanc cenawon y llewod, 40 Pan ymgrymant yn eu llochesau, pan eisteddant mewn ffau i gynllwyn? 41 Pwy a ddarpar i’r gigfran ei bwyd? pan lefo ei chywion ar Dduw, gwibiant o eisiau bwyd.
8 Yr ydym ni hefyd yn hysbysu i chwi, frodyr, y gras Duw a roddwyd yn eglwysi Macedonia; 2 Ddarfod, mewn mawr brofiad cystudd, i helaethrwydd eu llawenydd hwy a’u dwfn dlodi, ymhelaethu i gyfoeth eu haelioni hwy. 3 Oblegid yn ôl eu gallu, yr wyf fi yn dyst, ac uwchlaw eu gallu, yr oeddynt yn ewyllysgar ohonynt eu hunain; 4 Gan ddeisyfu arnom trwy lawer o ymbil, ar dderbyn ohonom ni y rhodd, a chymdeithas gweinidogaeth y saint. 5 A hyn a wnaethant, nid fel yr oeddem ni yn gobeithio, ond hwy a’u rhoddasant eu hunain yn gyntaf i’r Arglwydd, ac i ninnau trwy ewyllys Duw: 6 Fel y dymunasom ni ar Titus, megis y dechreuasai efe o’r blaen, felly hefyd orffen ohono yn eich plith chwi y gras hwn hefyd. 7 Eithr fel yr ydych ym mhob peth yn helaeth, mewn ffydd, a gair, a gwybodaeth, a phob astudrwydd, ac yn eich cariad tuag atom ni; edrychwch ar fod ohonoch yn y gras hwn hefyd yn ehelaeth. 8 Nid trwy orchymyn yr ydwyf yn dywedyd, ond oblegid diwydrwydd rhai eraill, a chan brofi gwirionedd eich cariad chwi. 9 Canys chwi a adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist, iddo ef, ac yntau’n gyfoethog, fyned er eich mwyn chwi yn dlawd, fel y cyfoethogid chwi trwy ei dlodi ef. 10 Ac yr ydwyf yn rhoddi cyngor yn hyn: canys hyn sydd dda i chwi, y rhai a ragddechreuasoch, nid yn unig wneuthur, ond hefyd ewyllysio er y llynedd. 11 Ac yn awr gorffennwch wneuthur hefyd; fel megis ag yr oedd y parodrwydd i ewyllysio, felly y byddo i gwblhau hefyd o’r hyn sydd gennych. 12 Canys os bydd parodrwydd meddwl o’r blaen, yn ôl yr hyn sydd gan un, y mae yn gymeradwy, nid yn ôl yr hyn nid oes ganddo. 13 Ac nid fel y byddai esmwythdra i eraill, a chystudd i chwithau; 14 Eithr o gymhwystra: y pryd hwn bydded eich helaethrwydd chwi yn diwallu eu diffyg hwy, fel y byddo eu helaethrwydd hwythau yn diwallu eich diffyg chwithau; fel y byddo cymhwystra: 15 Megis y mae yn ysgrifenedig, Yr hwn a gasglodd lawer, nid oedd ganddo weddill; ac a gasglodd ychydig, nid oedd arno eisiau. 16 Eithr i Dduw y byddo’r diolch, yr hwn a roddodd yr un diwydrwydd trosoch yng nghalon Titus. 17 Oblegid yn wir efe a dderbyniodd y dymuniad; a chan fod yn fwy diwyd, a aeth atoch o’i wirfodd ei hun. 18 Ni a anfonasom hefyd gydag ef y brawd, yr hwn y mae ei glod yn yr efengyl trwy’r holl eglwysi; 19 Ac nid hynny yn unig, eithr hefyd a ddewiswyd gan yr eglwysi i gydymdaith â ni â’r gras hwn, yr hwn a wasanaethir gennym er gogoniant i’r Arglwydd ei hun, ac i amlygu parodrwydd eich meddwl chwi: 20 Gan ochelyd hyn, rhag i neb feio arnom yn yr helaethrwydd yma, yr hwn a wasanaethir gennym: 21 Y rhai ydym yn rhagddarpar pethau onest, nid yn unig yng ngolwg yr Arglwydd, ond hefyd yng ngolwg dynion. 22 Ac ni a anfonasom gyda hwynt ein brawd, yr hwn a brofasom mewn llawer o bethau, lawer gwaith, ei fod ef yn ddyfal, ac yn awr yn ddyfalach o lawer, am y mawr ymddiried y sydd gennyf ynoch. 23 Os gofynnir am Titus, fy nghydymaith yw, a chyd-weithydd tuag atoch chwi; neu am ein brodyr, cenhadau’r eglwysi ydynt, a gogoniant Crist. 24 Am hynny dangoswch iddynt hwy hysbysrwydd o’ch cariad, ac o’n bost ninnau amdanoch chwi, yng ngolwg yr eglwysi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.