M’Cheyne Bible Reading Plan
19 Yn y trydydd mis, wedi dyfod meibion Israel allan o wlad yr Aifft, y dydd hwnnw y daethant i anialwch Sinai. 2 Canys hwy a aethant o Reffidim, ac a ddaethant i anialwch Sinai; gwersyllasant hefyd yn yr anialwch: ac yno y gwersyllodd Israel ar gyfer y mynydd. 3 A Moses a aeth i fyny at Dduw: a’r Arglwydd a alwodd arno ef o’r mynydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedi wrth dŷ Jacob, ac y mynegi wrth feibion Israel; 4 Chwi a welsoch yr hyn a wneuthum i’r Eifftiaid; y modd y codais chwi ar adenydd eryrod, ac y’ch dygais ataf fi fy hun. 5 Yn awr, gan hynny, os gan wrando y gwrandewch ar fy llais, a chadw fy nghyfamod, chwi a fyddwch yn drysor priodol i mi o flaen yr holl bobloedd: canys eiddof fi yr holl ddaear. 6 A chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid, ac yn genhedlaeth sanctaidd. Dyma’r geiriau a leferi di wrth feibion Israel.
7 A daeth Moses, ac a alwodd am henuriaid y bobl; ac a osododd ger eu bron hwynt yr holl eiriau hyn a orchmynasai yr Arglwydd iddo. 8 A’r holl bobl a gydatebasant, ac a ddywedasant, Nyni a wnawn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd. A Moses a ddug drachefn eiriau y bobl at yr Arglwydd. 9 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Wele, mi a ddeuaf atat mewn cwmwl tew, fel y clywo’r bobl pan ymddiddanwyf â thi, ac fel y credont i ti byth. A Moses a fynegodd eiriau y bobl i’r Arglwydd.
10 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dos at y bobl, a sancteiddia hwynt heddiw ac yfory; a golchant eu dillad, 11 A byddant barod erbyn y trydydd dydd: oherwydd y trydydd dydd y disgyn yr Arglwydd yng ngolwg yr holl bobl ar fynydd Sinai. 12 A gosod derfyn i’r bobl o amgylch, gan ddywedyd, Gwyliwch arnoch, rhag myned i fyny i’r mynydd, neu gyffwrdd â’i gwr ef: pwy bynnag a gyffyrddo â’r mynydd a leddir yn farw. 13 Na chyffyrdded llaw ag ef, ond gan labyddio llabyddier ef, neu gan saethu saether ef; pa un bynnag ai dyn ai anifail fyddo, ni chaiff fyw: pan gano’r utgorn yn hirllaes, deuant i’r mynydd.
14 A Moses a ddisgynnodd o’r mynydd at y bobl, ac a sancteiddiodd y bobl; a hwy a olchasant eu dillad. 15 Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, Byddwch barod erbyn y trydydd dydd; nac ewch yn agos at eich gwragedd. 16 A’r trydydd dydd, ar y boreddydd, yr oedd taranau, a mellt, a chwmwl tew ar y mynydd, a llais yr utgorn ydoedd gryf iawn; fel y dychrynodd yr holl bobl oedd yn y gwersyll. 17 A Moses a ddug y bobl allan o’r gwersyll i gyfarfod â Duw; a hwy a safasant yng ngodre’r mynydd. 18 A mynydd Sinai oedd i gyd yn mygu, oherwydd disgyn o’r Arglwydd arno mewn tân: a’i fwg a ddyrchafodd fel mwg ffwrn, a’r holl fynydd a grynodd yn ddirfawr. 19 Pan ydoedd llais yr utgorn yn hir, ac yn cryfhau fwyfwy, Moses a lefarodd; a Duw a atebodd mewn llais. 20 A’r Arglwydd a ddisgynnodd ar fynydd Sinai, ar ben y mynydd: a galwodd yr Arglwydd Moses i ben y mynydd; a Moses a aeth i fyny. 21 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dos i waered, gorchymyn i’r bobl; rhag iddynt ruthro at yr Arglwydd i hylltremu, a chwympo llawer ohonynt. 22 Ac ymsancteiddied yr offeiriaid hefyd, y rhai a nesânt at yr Arglwydd; rhag i’r Arglwydd ruthro arnynt. 23 A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd, Ni ddichon y bobl ddyfod i fyny i fynydd Sinai: oblegid ti a dystiolaethaist wrthym, gan ddywedyd, Gosod derfyn ynghylch y mynydd, a sancteiddia ef. 24 A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dos, cerdda i waered; a thyred i fyny, ac Aaron gyda thi: ond na ruthred yr offeiriaid a’r bobl, i ddyfod i fyny at yr Arglwydd; rhag iddo yntau ruthro arnynt hwy. 25 Yna yr aeth Moses i waered at y bobl, ac a ddywedodd wrthynt.
22 A nesaodd gŵyl y bara croyw, yr hon a elwir y pasg. 2 A’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y difethent ef: oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl.
3 A Satan a seth i mewn i Jwdas, yr hwn a gyfenwid Iscariot, yr hwn oedd o rifedi’r deuddeg. 4 Ac efe a aeth ymaith, ac a ymddiddanodd â’r archoffeiriaid a’r blaenoriaid, pa fodd y bradychai efe ef iddynt. 5 Ac yr oedd yn llawen ganddynt: a hwy a gytunasant ar roddi arian iddo. 6 Ac efe a addawodd, ac a geisiodd amser cyfaddas i’w fradychu ef iddynt yn absen y bobl.
7 A daeth dydd y bara croyw, ar yr hwn yr oedd rhaid lladd y pasg. 8 Ac efe a anfonodd Pedr ac Ioan, gan ddywedyd, Ewch, paratowch i ni’r pasg, fel y bwytaom. 9 A hwy a ddywedasant wrtho, Pa le y mynni baratoi ohonom? 10 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Wele, pan ddeloch i mewn i’r ddinas, cyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr: canlynwch ef i’r tŷ lle yr êl efe i mewn. 11 A dywedwch wrth ŵr y tŷ, Y mae’r Athro yn dywedyd wrthyt, Pa le y mae’r llety, lle y gallwyf fwyta’r pasg gyda’m disgyblion? 12 Ac efe a ddengys i chwi oruwchystafell fawr, wedi ei thaenu: yno paratowch. 13 A hwy a aethant, ac a gawsant fel y dywedasai efe wrthynt; ac a baratoesant y pasg. 14 A phan ddaeth yr awr, efe a eisteddodd i lawr, a’r deuddeg apostol gydag ef. 15 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mi a chwenychais yn fawr fwyta’r pasg hwn gyda chwi cyn dioddef ohonof. 16 Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Ni fwytâf fi mwyach ohono, hyd oni chyflawner yn nheyrnas Dduw. 17 Ac wedi iddo gymryd y cwpan, a rhoddi diolch, efe a ddywedodd, Cymerwch hwn, a rhennwch yn eich plith: 18 Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o ffrwyth y winwydden, hyd oni ddêl teyrnas Dduw.
19 Ac wedi iddo gymryd bara, a rhoi diolch, efe a’i torrodd, ac a’i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Hwn yw fy nghorff yr hwn yr ydys yn ei roddi drosoch: gwnewch hyn er coffa amdanaf. 20 Yr un modd y cwpan hefyd wedi swperu, gan ddywedyd, Y cwpan hwn yw’r testament newydd yn fy ngwaed i, yr hwn yr ydys yn ei dywallt drosoch.
21 Eithr wele law yr hwn sydd yn fy mradychu gyda mi ar y bwrdd. 22 Ac yn wir y mae Mab y dyn yn myned, megis y mae wedi ei luniaethu: eithr gwae’r dyn hwnnw, trwy’r hwn y bradychir ef! 23 Hwythau a ddechreuasant ymofyn yn eu plith eu hunain, pwy ohonynt oedd yr hwn a wnâi hynny.
24 A bu ymryson yn eu plith, pwy ohonynt a dybygid ei fod yn fwyaf. 25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae brenhinoedd y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt; a’r rhai sydd mewn awdurdod arnynt, a elwir yn bendefigion. 26 Ond na fyddwch chwi felly: eithr y mwyaf yn eich plith chwi, bydded megis yr ieuangaf; a’r pennaf, megis yr hwn sydd yn gweini. 27 Canys pa un fwyaf, ai’r hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd, ai’r hwn sydd yn gwasanaethu? onid yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd? eithr yr ydwyf fi yn eich mysg fel un yn gwasanaethu. 28 A chwychwi yw’r rhai a arosasoch gyda mi yn fy mhrofedigaethau. 29 Ac yr wyf fi yn ordeinio i chwi deyrnas, megis yr ordeiniodd fy Nhad i minnau; 30 Fel y bwytaoch ac yr yfoch ar fy mwrdd i yn fy nheyrnas, ac yr eisteddoch ar orseddfeydd, yn barnu deuddeg llwyth Israel.
31 A’r Arglwydd a ddywedodd, Simon, Simon, wele, Satan a’ch ceisiodd chwi, i’ch nithio fel gwenith: 32 Eithr mi a weddïais drosot, na ddiffygiai dy ffydd di: tithau pan y’th droer, cadarnha dy frodyr. 33 Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, yr ydwyf fi yn barod i fyned gyda thi i garchar, ac i angau. 34 Yntau a ddywedodd, Yr wyf yn dywedyd i ti, Pedr, Na chân y ceiliog heddiw, nes i ti wadu dair gwaith yr adwaeni fi. 35 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan y’ch anfonais heb na phwrs, na chod, nac esgidiau, a fu arnoch eisiau dim? A hwy a ddywedasant, Naddo ddim. 36 Yna y dywedodd wrthynt, Ond yn awr y neb sydd ganddo bwrs, cymered; a’r un modd god: a’r neb nid oes ganddo, gwerthed ei bais, a phryned gleddyf. 37 Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, fod yn rhaid eto gyflawni ynof fi y peth hwn a ysgrifennwyd; sef, A chyda’r anwir y cyfrifwyd ef; canys y mae diben i’r pethau amdanaf fi. 38 A hwy a ddywedasant, Arglwydd, wele ddau gleddyf yma. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Digon yw.
39 Ac wedi iddo fyned allan, efe a aeth, yn ôl ei arfer, i fynydd yr Olewydd; a’i ddisgyblion hefyd a’i canlynasant ef. 40 A phan ddaeth efe i’r man, efe a ddywedodd wrthynt, Gweddïwch nad eloch mewn profedigaeth. 41 Ac efe a dynnodd oddi wrthynt tuag ergyd carreg; ac wedi iddo fyned ar ei liniau, efe a weddïodd, 42 Gan ddywedyd, O Dad, os ewyllysi droi heibio y cwpan hwn oddi wrthyf: er hynny nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti a wneler. 43 Ac angel o’r nef a ymddangosodd iddo, yn ei nerthu ef. 44 Ac efe mewn ymdrech meddwl, a weddïodd yn ddyfalach: a’i chwys ef oedd fel defnynnau gwaed yn disgyn ar y ddaear. 45 A phan gododd efe o’i weddi, a dyfod at ei ddisgyblion, efe a’u cafodd hwynt yn cysgu gan dristwch; 46 Ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn cysgu? codwch, a gweddïwch nad eloch mewn profedigaeth.
47 Ac efe eto yn llefaru, wele dyrfa; a’r hwn a elwir Jwdas, un o’r deuddeg, oedd yn myned o’u blaen hwynt, ac a nesaodd at yr Iesu, i’w gusanu ef. 48 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Jwdas, ai â chusan yr wyt ti yn bradychu Mab y dyn? 49 A phan welodd y rhai oedd yn ei gylch ef y peth oedd ar ddyfod, hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, a drawn ni â chleddyf?
50 A rhyw un ohonynt a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ddeau ef. 51 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Goddefwch hyd yn hyn. Ac efe a gyffyrddodd â’i glust, ac a’i hiachaodd ef. 52 A’r Iesu a ddywedodd wrth yr archoffeiriaid, a blaenoriaid y deml, a’r henuriaid, y rhai a ddaethent ato, Ai fel at leidr y daethoch chwi allan, â chleddyfau ac â ffyn? 53 Pan oeddwn beunydd gyda chwi yn y deml, nid estynasoch ddwylo i’m herbyn: eithr hon yw eich awr chwi, a gallu’r tywyllwch.
54 A hwy a’i daliasant ef, ac a’i harweiniasant, ac a’i dygasant i mewn i dŷ’r archoffeiriad. A Phedr a ganlynodd o hirbell. 55 Ac wedi iddynt gynnau tân yng nghanol y neuadd, a chydeistedd ohonynt, eisteddodd Pedr yntau yn eu plith hwynt. 56 A phan ganfu rhyw lances ef yn eistedd wrth y tân, a dal sylw arno, hi a ddywedodd, Yr oedd hwn hefyd gydag ef. 57 Yntau a’i gwadodd ef, gan ddywedyd, O wraig, nid adwaen i ef. 58 Ac ychydig wedi, un arall a’i gwelodd ef, ac a ddywedodd, Yr wyt tithau hefyd yn un ohonynt. A Phedr a ddywedodd, O ddyn, nid ydwyf. 59 Ac ar ôl megis ysbaid un awr, rhyw un arall a daerodd, gan ddywedyd, Mewn gwirionedd yr oedd hwn hefyd gydag ef: canys Galilead yw. 60 A Phedr a ddywedodd, Y dyn, nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac yn y man, ac efe eto yn llefaru, canodd y ceiliog. 61 A’r Arglwydd a drodd, ac a edrychodd ar Pedr. A Phedr a gofiodd ymadrodd yr Arglwydd, fel y dywedasai efe wrtho, Cyn canu o’r ceiliog, y gwedi fi deirgwaith. 62 A Phedr a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw‐dost.
63 A’r gwŷr oedd yn dal yr Iesu, a’i gwatwarasant ef, gan ei daro. 64 Ac wedi iddynt guddio ei lygaid ef, hwy a’i trawsant ef ar ei wyneb, ac a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Proffwyda, pwy yw’r hwn a’th drawodd di? 65 A llawer o bethau eraill, gan gablu, a ddywedasant yn ei erbyn ef.
66 A phan aeth hi yn ddydd, ymgynullodd henuriaid y bobl, a’r archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, ac a’i dygasant ef i’w cyngor hwynt, 67 Gan ddywedyd, Ai ti yw Crist? dywed i ni. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Os dywedaf i chwi, ni chredwch ddim: 68 Ac os gofynnaf hefyd i chwi, ni’m hatebwch, ac ni’m gollyngwch ymaith. 69 Ar ôl hyn y bydd Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw gallu Duw. 70 A hwy oll a ddywedasant, Ai Mab Duw gan hynny ydwyt ti? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yr ydych chwi yn dywedyd fy mod. 71 Hwythau a ddywedasant, Pa raid i ni mwyach wrth dystiolaeth? canys clywsom ein hunain o’i enau ef ei hun.
37 Wrth hyn hefyd y crŷn fy nghalon, ac y dychlama hi o’i lle. 2 Gan wrando gwrandewch ar sŵn ei lef, ac ar y sain a ddaw allan o’i enau ef. 3 Efe a’i hyfforddia dan yr holl nefoedd, a’i fellt hyd eithafoedd y ddaear. 4 Sŵn a rua ar ei ôl ef: efe a wna daranau â llais ei odidowgrwydd, ac ni oeda efe hwynt, pan glywir ei dwrf ef. 5 Duw a wna daranau â’i lais yn rhyfedd: y mae yn gwneuthur pethau mwy nag a wyddom ni. 6 Canys efe a ddywed wrth yr eira, Bydd ar y ddaear; ac wrth gawod o law, ac wrth law mawr ei nerth ef. 7 Efe a selia law pob dyn, fel yr adwaeno pawb ei waith ef. 8 Yna yr â y bwystfil i’w loches, ac y trig yn ei le. 9 O’r deau y daw corwynt; ac oerni oddi wrth y gogledd. 10 Â’i wynt y rhydd Duw rew: a lled y dyfroedd a gyfyngir. 11 Hefyd efe a flina gwmwl yn dyfrhau; efe a wasgar ei gwmwl golau. 12 Ac y mae hwnnw yn ymdroi oddi amgylch wrth ei lywodraeth ef: fel y gwnelont hwy beth bynnag a orchmynno efe iddynt, ar hyd wyneb y byd ar y ddaear. 13 Pa un bynnag ai yn gosbedigaeth, ai i’w ddaear, ai er daioni, efe a bair iddo ddyfod. 14 Gwrando hyn, Job; saf, ac ystyria ryfeddodau Duw. 15 A wyddost ti pa bryd y dosbarthodd Duw hwynt, ac y gwnaeth efe i oleuni ei gwmwl lewyrchu? 16 A wyddost ti oddi wrth bwysau y cymylau, rhyfeddodau yr hwn sydd berffaith‐gwbl o wybodaeth? 17 Pa fodd y mae dy ddillad yn gynnes, pan baro efe y ddaear yn dawel â’r deheuwynt? 18 A daenaist ti gydag ef yr wybren, yr hon a sicrhawyd fel drych toddedig? 19 Gwna i ni wybod pa beth a ddywedwn wrtho: ni fedrwn ni gyfleu ein geiriau gan dywyllwch. 20 A fynegir iddo ef os llefaraf? os dywed neb, diau y llyncir ef. 21 Ac yn awr, ni wêl neb y goleuni disglair sydd yn y cymylau: ond myned y mae y gwynt, a’u puro hwynt. 22 O’r gogleddwynt y daw hindda: y mae yn Nuw ogoniant mwy ofnadwy. 23 Am yr Hollalluog, ni allwn ni mo’i gael ef: ardderchog yw o nerth, a barn, a helaethrwydd cyfiawnder: ni chystuddia efe. 24 Am hynny yr ofna dynion ef: nid edrych efe ar neb doeth eu calon.
7 Am hynny gan fod gennym yr addewidion hyn, anwylyd, ymlanhawn oddi wrth bob halogrwydd cnawd ac ysbryd, gan berffeithio sancteiddrwydd yn ofn Duw. 2 Derbyniwch ni. Ni wnaethom gam i neb; ni lygrasom neb; nid ysbeiliasom neb. 3 Nid i’ch condemnio yr wyf yn dywedyd: canys mi a ddywedais o’r blaen eich bod chwi yn ein calonnau ni, i farw ac i fyw gyda chwi. 4 Y mae hyfder fy ymadrodd yn fawr wrthych. Y mae gennyf orfoledd mawr o’ch plegid chwi: yr wyf yn llawn o ddiddanwch, yn dra chyflawn o lawenydd yn ein holl orthrymder. 5 Canys wedi ein dyfod ni i Facedonia, ni chafodd ein cnawd ni ddim llonydd; eithr ym mhob peth cystuddiedig fuom: oddi allan yr oedd ymladdau, oddi fewn ofnau. 6 Eithr Duw, yr hwn sydd yn diddanu y rhai cystuddiedig, a’n diddanodd ni wrth ddyfodiad Titus. 7 Ac nid yn unig wrth ei ddyfodiad ef, ond hefyd wrth y diddanwch â’r hwn y diddanwyd ef ynoch chwi, pan fynegodd efe i ni eich awyddfryd chwi, eich galar chwi, eich sêl tuag ataf fi; fel y llawenheais i yn fwy. 8 Canys er i mi eich tristáu chwi mewn llythyr, nid yw edifar gennyf, er bod yn edifar gennyf; canys yr wyf yn gweled dristáu o’r llythyr hwnnw chwi, er nad oedd ond dros amser. 9 Yn awr yr ydwyf yn llawen, nid am eich tristáu chwi, ond am eich tristáu i edifeirwch: canys tristáu a wnaethoch yn dduwiol, fel na chaech golled mewn dim oddi wrthym ni. 10 Canys duwiol dristwch sydd yn gweithio edifeirwch er iachawdwriaeth ni bydd edifeirwch ohoni: eithr tristwch y byd sydd yn gweithio angau. 11 Canys wele hyn yma, eich tristáu chwi yn dduwiol, pa astudrwydd ei faint a weithiodd ynoch, ie, pa amddiffyn, ie, pa soriant, ie, pa ofn, ie, pa awyddfryd, ie, pa sêl, ie, pa ddial! Ym mhob peth y dangosasoch eich bod yn bur yn y peth hwn. 12 Oherwydd paham, er ysgrifennu ohonof atoch, nid ysgrifennais o’i blegid ef a wnaethai’r cam, nac oblegid yr hwn a gawsai gam, ond er mwyn bod yn eglur i chwi ein gofal drosoch gerbron Duw. 13 Am hynny nyni a ddiddanwyd yn eich diddanwch chwi: a mwy o lawer y buom lawen am lawenydd Titus, oblegid esmwytháu ar ei ysbryd ef gennych chwi oll. 14 Oblegid os bostiais ddim wrtho ef amdanoch, ni’m cywilyddiwyd: eithr megis y dywedasom wrthych bob dim mewn gwirionedd, felly hefyd gwirionedd oedd ein bost ni, yr hwn a fu wrth Titus. 15 Ac y mae ei ymysgaroedd ef yn helaethach tuag atoch, wrth gofio ohono eich ufudd-dod chwi oll, pa fodd trwy ofn a dychryn y derbyniasoch ef. 16 Am hynny llawen wyf, am fod i mi hyder arnoch ym mhob dim.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.