Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Exodus 11:1-12:21

11 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Un pla eto a ddygaf ar Pharo, ac ar yr Aifft; wedi hynny efe a’ch gollwng chwi oddi yma: pan y’ch gollyngo, gan wthio efe a’ch gwthia chwi oddi yma yn gwbl. Dywed yn awr lle y clywo y bobl; a benthycied pob gŵr gan ei gymydog, a phob gwraig gan ei chymdoges, ddodrefn arian, a dodrefn aur. A’r Arglwydd a roddodd i’r bobl ffafr yng ngolwg yr Eifftiaid: ac yr oedd Moses yn ŵr mawr iawn yng ngwlad yr Aifft, yng ngolwg gweision Pharo, ac yng ngolwg y bobl. Moses hefyd a ddywedodd, Fel hyn y llefarodd yr Arglwydd; Ynghylch hanner nos yr af fi allan i ganol yr Aifft. A phob cyntaf‐anedig yng ngwlad yr Aifft a fydd marw, o gyntaf‐anedig Pharo, yr hwn sydd yn eistedd ar ei deyrngadair, hyd gyntaf‐anedig y wasanaethferch sydd ar ôl y felin; a phob cyntaf‐anedig o anifail. A bydd gweiddi mawr trwy holl wlad yr Aifft, yr hwn ni bu ei fath, ac ni bydd mwyach ei gyffelyb. Ond yn erbyn neb o blant Israel ni symud ci ei dafod, ar ddyn nac anifail; fel y gwypoch fod yr Arglwydd yn gwneuthur rhagor rhwng yr Eifftiaid ac Israel. A’th holl weision hyn a ddeuant i waered ataf fi, ac a ymgrymant i mi, gan ddywedyd, Dos allan, a’r holl bobl sydd ar dy ôl; ac wedi hynny yr af fi allan. Felly efe a aeth allan oddi wrth Pharo mewn dicllonedd llidiog. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Ni wrendy Pharo arnoch; fel yr amlhaer fy rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft. 10 A Moses ac Aaron a wnaethant yr holl ryfeddodau hyn gerbron Pharo: a’r Arglwydd a galedodd galon Pharo, fel na ollyngai efe feibion Israel allan o’i wlad.

12 Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses ac Aaron yn nhir yr Aifft, gan ddywedyd, Y mis hwn fydd i chwi yn ddechreuad y misoedd: cyntaf fydd i chwi o fisoedd y flwyddyn.

Lleferwch wrth holl gynulleidfa Israel, gan ddywedyd, Ar y degfed dydd o’r mis hwn cymerant iddynt bob un oen, yn ôl teulu eu tadau, sef oen dros bob teulu. Ond os y teulu fydd ry fychan i’r oen, efe a’i gymydog nesaf i’w dŷ a’i cymer, wrth y rhifedi o ddynion; pob un yn ôl ei fwyta a gyfrifwch at yr oen. Bydded yr oen gennych yn berffaith‐gwbl, yn wryw, ac yn llwdn blwydd: o’r defaid, neu o’r geifr, y cymerwch ef. A bydded yng nghadw gennych hyd y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis hwn: a lladded holl dyrfa cynulleidfa Israel ef yn y cyfnos. A chymerant o’r gwaed, a rhoddant ar y ddau ystlysbost, ac ar gapan drws y tai y bwytânt ef ynddynt. A’r cig a fwytânt y nos honno, wedi ei rostio wrth dân, a bara croyw; gyda dail surion y bwytânt ef. Na fwytewch ohono yn amrwd, na chwaith wedi ei ferwi mewn dwfr, eithr wedi ei rostio wrth dân; ei ben gyda’i draed a’i ymysgaroedd. 10 Ac na weddillwch ddim ohono hyd y bore: a’r hyn fydd yng ngweddill ohono erbyn y bore, llosgwch yn tân.

11 Ac fel hyn y bwytewch ef; wedi gwregysu eich lwynau, a’ch esgidiau am eich traed, a’ch ffyn yn eich dwylo: a bwytewch ef ar ffrwst; Pasg yr Arglwydd ydyw efe. 12 Oherwydd mi a dramwyaf trwy wlad yr Aifft y nos hon, ac a drawaf bob cyntaf‐anedig o fewn tir yr Aifft, yn ddyn ac yn anifail; a mi a wnaf farn yn erbyn holl dduwiau yr Aifft: myfi yw yr Arglwydd. 13 A’r gwaed fydd i chwi yn arwydd ar y tai lle byddoch chwi; a phan welwyf y gwaed, yna yr af heibio i chwi, ac ni bydd pla dinistriol arnoch chwi, pan drawyf dir yr Aifft. 14 A’r dydd hwn fydd yn goffadwriaeth i chwi; a chwi a’i cedwch ef yn ŵyl i’r Arglwydd trwy eich cenedlaethau: cedwch ef yn ŵyl trwy ddeddf dragwyddol. 15 Saith niwrnod y bwytewch fara croyw; y dydd cyntaf y bwriwch surdoes allan o’ch tai: oherwydd pwy bynnag a fwytao fara lefeinllyd o’r dydd cyntaf hyd y seithfed dydd, yr enaid hwnnw a dorrir ymaith oddi wrth Israel. 16 Ar y dydd cyntaf hefyd y bydd i chwi gymanfa sanctaidd, a chymanfa sanctaidd ar y seithfed dydd: dim gwaith ni wneir ynddynt, onid yr hyn a fwyty pob dyn, hynny yn unig a ellwch ei wneuthur. 17 Cedwch hefyd ŵyl y bara croyw; oherwydd o fewn corff y dydd hwn y dygaf eich lluoedd chwi allan o wlad yr Aifft: am hynny cedwch y dydd hwn yn eich cenedlaethau, trwy ddeddf dragwyddol.

18 Yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis yn yr hwyr, y bwytewch fara croyw, hyd yr unfed dydd ar hugain o’r mis yn yr hwyr. 19 Na chaffer surdoes yn eich tai saith niwrnod: canys pwy bynnag a fwytao fara lefeinllyd, yr enaid hwnnw a dorrir ymaith o gynulleidfa Israel, yn gystal y dieithr a’r priodor. 20 Na fwytewch ddim lefeinllyd: bwytewch fara croyw yn eich holl drigfannau.

21 A galwodd Moses am holl henuriaid Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Tynnwch a chymerwch i chwi oen yn ôl eich teuluoedd, a lleddwch y Pasg.

Luc 14

14 Bu hefyd, pan ddaeth efe i dŷ un o benaethiaid y Phariseaid ar y Saboth, i fwyta bara, iddynt hwythau ei wylied ef. Ac wele, yr oedd ger ei fron ef ryw ddyn yn glaf o’r dropsi. A’r Iesu gan ateb a lefarodd wrth y cyfreithwyr a’r Phariseaid, gan ddywedyd, Ai rhydd iacháu ar y Saboth? A thewi a wnaethant. Ac efe a’i cymerodd ato, ac a’i hiachaodd ef, ac a’i gollyngodd ymaith; Ac a atebodd iddynt hwythau, ac a ddywedodd, Asyn neu ych pa un ohonoch a syrth i bwll, ac yn ebrwydd nis tyn ef allan ar y dydd Saboth? Ac ni allent roi ateb yn ei erbyn ef am y pethau hyn.

Ac efe a ddywedodd wrth y gwahoddedigion ddameg, pan ystyriodd fel yr oeddynt yn dewis yr eisteddleoedd uchaf; gan ddywedyd wrthynt, Pan y’th wahodder gan neb i neithior, nac eistedd yn y lle uchaf, rhag bod un anrhydeddusach na thi wedi ei wahodd ganddo; Ac i hwn a’th wahoddodd di ac yntau ddyfod, a dywedyd wrthyt, Dyro le i hwn; ac yna dechrau ohonot ti trwy gywilydd gymryd y lle isaf. 10 Eithr pan y’th wahodder, dos ac eistedd yn y lle isaf; fel pan ddelo’r hwn a’th wahoddodd di, y gallo efe ddywedyd wrthyt, Y cyfaill, eistedd yn uwch i fyny: yna y bydd i ti glod yng ngŵydd y rhai a eisteddant gyda thi ar y bwrdd. 11 Canys pob un a’r a’i dyrchafo ei hun, a ostyngir; a’r hwn sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyrchefir.

12 Ac efe a ddywedodd hefyd wrth yr hwn a’i gwahoddasai ef, Pan wnelych ginio neu swper, na alw dy gyfeillion, na’th frodyr, na’th geraint, na’th gymdogion goludog; rhag iddynt hwythau eilchwyl dy wahodd dithau, a gwneuthur taledigaeth i ti. 13 Eithr pan wnelych wledd, galw’r tlodion, yr efryddion, y cloffion, y deillion: 14 A dedwydd fyddi; am nad oes ganddynt ddim i dalu i ti: canys fe a delir i ti yn atgyfodiad y rhai cyfiawn.

15 A phan glywodd rhyw un o’r rhai oedd yn eistedd ar y bwrdd y pethau hyn, efe a ddywedodd wrtho, Gwyn ei fyd y neb a fwytao fara yn nheyrnas Dduw. 16 Ac yntau a ddywedodd wrtho, Rhyw ŵr a wnaeth swper mawr, ac a wahoddodd lawer: 17 Ac a ddanfonodd ei was bryd swper, i ddywedyd wrth y rhai a wahoddasid, Deuwch; canys weithian y mae pob peth yn barod. 18 A hwy oll a ddechreuasant yn unfryd ymesgusodi. Y cyntaf a ddywedodd wrtho, Mi a brynais dyddyn, ac y mae’n rhaid i mi fyned a’i weled: atolwg i ti, cymer fi yn esgusodol. 19 Ac arall a ddywedodd, Mi a brynais bum iau o ychen, ac yr ydwyf yn myned i’w profi hwynt: atolwg i ti, cymer fi yn esgusodol. 20 Ac arall a ddywedodd, Mi a briodais wraig; ac am hynny nis gallaf fi ddyfod. 21 A’r gwas hwnnw, pan ddaeth adref, a fynegodd y pethau hyn i’w arglwydd. Yna gŵr y tŷ, wedi digio, a ddywedodd wrth ei was, Dos allan ar frys i heolydd ac ystrydoedd y ddinas, a dwg i mewn yma y tlodion, a’r anafus, a’r cloffion, a’r deillion. 22 A’r gwas a ddywedodd, Arglwydd, gwnaethpwyd fel y gorchmynnaist; ac eto y mae lle. 23 A’r arglwydd a ddywedodd wrth y gwas, Dos allan i’r priffyrdd a’r caeau, a chymell hwynt i ddyfod i mewn, fel y llanwer fy nhŷ. 24 Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, na chaiff yr un o’r gwŷr hynny a wahoddwyd, brofi o’m swper i.

25 A llawer o bobl a gydgerddodd ag ef: ac efe a droes, ac a ddywedodd wrthynt, 26 Os daw neb ataf fi, ac ni chasao ei dad, a’i fam, a’i wraig, a’i blant, a’i frodyr, a’i chwiorydd, ie, a’i einioes ei hun hefyd, ni all efe fod yn ddisgybl i mi. 27 A phwy bynnag ni ddyco ei groes, a dyfod ar fy ôl i, ni all efe fod yn ddisgybl i mi.

28 Canys pwy ohonoch chwi â’i fryd ar adeiladu tŵr, nid eistedd yn gyntaf, a bwrw’r draul, a oes ganddo a’i gorffenno? 29 Rhag wedi iddo osod y sail, ac heb allu ei orffen, ddechrau o bawb a’i gwelant ei watwar ef, 30 Gan ddywedyd, Y dyn hwn a ddechreuodd adeiladu, ac ni allodd ei orffen. 31 Neu pa frenin yn myned i ryfel yn erbyn brenin arall, nid eistedd yn gyntaf, ac ymgynghori a all efe â deng mil gyfarfod â’r hwn sydd yn dyfod yn ei erbyn ef ag ugain mil? 32 Ac os amgen, tra fyddo efe ymhell oddi wrtho, efe a enfyn genadwri, ac a ddeisyf amodau heddwch. 33 Felly hefyd, pob un ohonoch chwithau nid ymwrthodo â chymaint oll ag a feddo, ni all fod yn ddisgybl i mi.

34 Da yw’r halen: eithr o bydd yr halen yn ddiflas, â pha beth yr helltir ef? 35 Nid yw efe gymwys nac i’r tir, nac i’r domen; ond ei fwrw ef allan y maent. Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.

Job 29

29 Yna Job a barablodd drachefn, ac a ddywedodd, O na bawn i fel yn y misoedd o’r blaen, fel yn y dyddiau pan gadwai Duw fi; Pan wnâi efe i’w oleuni lewyrchu ar fy mhen, wrth oleuni yr hwn y rhodiwn trwy dywyllwch; Pan oeddwn yn nyddiau fy ieuenctid, a dirgelwch Duw ar fy mhabell; Pan oedd yr Hollalluog eto gyda mi, a’m plant o’m hamgylch; Pan olchwn fy nghamre ag ymenyn, a phan dywalltai y graig i mi afonydd o olew! Pan awn i allan i’r porth trwy y dref; pan baratown fy eisteddfa yn yr heol, Llanciau a’m gwelent, ac a ymguddient; a henuriaid a gyfodent, ac a safent i fyny. Tywysogion a atalient eu hymadroddion, ac a osodent eu llaw ar eu genau. 10 Pendefigion a dawent â sôn, a’u tafod a lynai wrth daflod eu genau. 11 Pan y’m clywai clust, hi a’m bendithiai; a phan y’m gwelai llygad, efe a dystiolaethai gyda mi: 12 Am fy mod yn gwaredu’r tlawd a fyddai yn gweiddi, a’r amddifad, a’r hwn ni byddai gynorthwywr iddo. 13 Bendith yr hwn oedd ar ddarfod amdano a ddeuai arnaf; a gwnawn i galon y wraig weddw lawenychu. 14 Gwisgwn gyfiawnder, a hithau a wisgai amdanaf fi: a’m barn fyddai fel mantell a choron. 15 Llygaid oeddwn i’r dall; a thraed oeddwn i’r cloff. 16 Tad oeddwn i’r anghenog; a’r cwyn ni wyddwn a chwiliwn allan. 17 Drylliwn hefyd gilddannedd yr anghyfiawn, ac a dynnwn yr ysglyfaeth allan o’i ddannedd ef. 18 Yna y dywedwn, Byddaf farw yn fy nyth; a byddaf mor aml fy nyddiau â’r tywod. 19 Fy ngwreiddyn oedd yn ymdaenu wrth y dyfroedd; a’r gwlith a arhosodd ar hyd nos ar fy mrig. 20 Fy ngogoniant oedd ir ynof fi; a’m bwa a adnewyddai yn fy llaw. 21 Hwy a wrandawent arnaf, ac a ddisgwylient; distawent wrth fy nghyngor. 22 Ar ôl fy ymadrodd ni ddywedent hwy eilwaith; a’m hymadrodd a ddiferai arnynt hwy. 23 A hwy a ddisgwylient amdanaf fel am y glaw; ac a ledent eu genau fel am y diweddar‐law. 24 Os chwarddwn arnynt hwy, ni chredent; ac ni wnaent hwy i lewyrch fy wyneb syrthio. 25 Dewiswn eu ffordd hwynt, eisteddwn yn bennaf, a thrigwn fel brenin mewn llu, megis yr hwn a gysura rai galarus.

1 Corinthiaid 15

15 Hefyd yr ydwyf yn hysbysu i chwi, frodyr, yr efengyl a bregethais i chwi, yr hon hefyd a dderbyniasoch, ac yn yr hon yr ydych yn sefyll; Trwy yr hon y’ch cedwir hefyd, os ydych yn dal yn eich cof â pha ymadrodd yr efengylais i chwi, oddieithr darfod i chwi gredu yn ofer. Canys mi a draddodais i chwi ar y cyntaf yr hyn hefyd a dderbyniais, farw o Grist dros ein pechodau ni, yn ôl yr ysgrythurau; A’i gladdu, a’i gyfodi y trydydd dydd, yn ôl yr ysgrythurau; A’i weled ef gan Ceffas, yna gan y deuddeg. Wedi hynny y gwelwyd ef gan fwy na phum cant brodyr ar unwaith: o’r rhai y mae’r rhan fwyaf yn aros hyd yr awron; eithr rhai a hunasant. Wedi hynny y gwelwyd ef gan Iago; yna gan yr holl apostolion. Ac yn ddiwethaf oll y gwelwyd ef gennyf finnau hefyd, megis gan un annhymig. Canys myfi yw’r lleiaf o’r apostolion, yr hwn nid wyf addas i’m galw yn apostol, am i mi erlid eglwys Dduw. 10 Eithr trwy ras Duw yr ydwyf yr hyn ydwyf: a’i ras ef, yr hwn a roddwyd i mi, ni bu yn ofer; ond mi a lafuriais yn helaethach na hwynt oll: ac nid myfi chwaith, ond gras Duw, yr hwn oedd gyda mi. 11 Am hynny, pa un bynnag ai myfi ai hwynt‐hwy, felly yr ydym yn pregethu, ac felly y credasoch chwi. 12 Ac os pregethir Crist, ei gyfodi ef o feirw; pa fodd y dywed rhai yn eich plith chwi, nad oes atgyfodiad y meirw? 13 Eithr onid oes atgyfodiad y meirw, ni chyfodwyd Crist chwaith: 14 Ac os Crist ni chyfodwyd, ofer yn wir yw ein pregeth ni, ac ofer hefyd yw eich ffydd chwithau. 15 Fe a’n ceir hefyd yn gau dystion i Dduw; canys ni a dystiasom am Dduw, ddarfod iddo gyfodi Crist: yr hwn nis cyfododd efe, os y meirw ni chyfodir. 16 Canys os y meirw ni chyfodir, ni chyfodwyd Crist chwaith. 17 Ac os Crist ni chyfodwyd, ofer yw eich ffydd chwi; yr ydych eto yn eich pechodau. 18 Yna hefyd y cyfrgollwyd y rhai a hunasant yng Nghrist. 19 Os yn y byd yma yn unig y gobeithiwn yng Nghrist, truanaf o’r holl ddynion ydym ni. 20 Eithr yn awr Crist a gyfodwyd oddi wrth y meirw, ac a wnaed yn flaenffrwyth y rhai a hunasant. 21 Canys gan fod marwolaeth trwy ddyn, trwy ddyn hefyd y mae atgyfodiad y meirw. 22 Oblegid megis yn Adda y mae pawb yn meirw, felly hefyd yng Nghrist y bywheir pawb. 23 Eithr pob un yn ei drefn ei hun: y blaenffrwyth yw Crist; wedi hynny y rhai ydynt eiddo Crist yn ei ddyfodiad ef. 24 Yna y bydd y diwedd, wedi y rhoddo efe y deyrnas i Dduw a’r Tad: wedi iddo ddileu pob pendefigaeth, a phob awdurdod a nerth. 25 Canys rhaid iddo deyrnasu, hyd oni osodo ei holl elynion dan ei draed. 26 Y gelyn diwethaf a ddinistrir yw yr angau. 27 Canys efe a ddarostyngodd bob peth dan ei draed ef. Eithr pan yw yn dywedyd fod pob peth wedi eu darostwng, amlwg yw mai oddieithr yr hwn a ddarostyngodd bob peth iddo. 28 A phan ddarostynger pob peth iddo, yna y Mab ei hun hefyd a ddarostyngir i’r hwn a ddarostyngodd bob peth iddo ef, fel y byddo Duw oll yn oll. 29 Os amgen, beth a wna’r rhai a fedyddir dros y meirw, os y meirw ni chyfodir ddim? paham ynteu y bedyddir hwy dros y meirw? 30 A phaham yr ydym ninnau mewn perygl bob awr? 31 Yr ydwyf beunydd yn marw, myn eich gorfoledd yr hon sydd gennyf yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. 32 Os yn ôl dull dyn yr ymleddais ag anifeiliaid yn Effesus, pa lesâd sydd i mi, oni chyfodir y meirw? Bwytawn ac yfwn; canys yfory marw yr ydym. 33 Na thwyller chwi: y mae ymddiddanion drwg yn llygru moesau da. 34 Deffrowch yn gyfiawn, ac na phechwch: canys nid oes gan rai wybodaeth am Dduw: er cywilydd i chwi yr wyf yn dywedyd hyn. 35 Eithr fe a ddywed rhyw un, Pa fodd y cyfodir y meirw? ac â pha ryw gorff y deuant? 36 O ynfyd, y peth yr wyt ti yn ei hau, ni fywheir oni bydd efe marw. 37 A’r peth yr wyt yn ei hau, nid y corff a fydd yr ydwyt yn ei hau, ond gronyn noeth, ysgatfydd o wenith, neu o ryw rawn arall. 38 Eithr Duw sydd yn rhoddi iddo gorff fel y mynnodd efe, ac i bob hedyn ei gorff ei hun. 39 Nid yw pob cnawd unrhyw gnawd: eithr arall yw cnawd dynion, ac arall yw cnawd anifeiliaid, a chnawd arall sydd i bysgod, ac arall i adar. 40 Y mae hefyd gyrff nefol, a chyrff daearol: ond arall yw gogoniant y rhai nefol, ac arall y rhai daearol. 41 Arall yw gogoniant yr haul, ac arall yw gogoniant y lloer, ac arall yw gogoniant y sêr: canys y mae rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant. 42 Felly hefyd y mae atgyfodiad y meirw. Efe a heuir mewn llygredigaeth, ac a gyfodir mewn anllygredigaeth: 43 Efe a heuir mewn amarch, ac a gyfodir mewn gogoniant: efe a heuir mewn gwendid, ac a gyfodir mewn nerth: efe a heuir yn gorff anianol, ac a gyfodir yn gorff ysbrydol. 44 Y mae corff anianol, ac y mae corff ysbrydol. 45 Felly hefyd y mae yn ysgrifenedig, Y dyn cyntaf Adda a wnaed yn enaid byw, a’r Adda diwethaf yn ysbryd yn bywhau. 46 Eithr nid cyntaf yr ysbrydol, ond yr anianol; ac wedi hynny yr ysbrydol. 47 Y dyn cyntaf o’r ddaear, yn daearol; yr ail dyn, yr Arglwydd o’r nef. 48 Fel y mae y daearol, felly y mae y rhai daearol hefyd; ac fel y mae y nefol, felly y mae y rhai nefol hefyd. 49 Ac megis y dygasom ddelw y daearol, ni a ddygwn hefyd ddelw y nefol. 50 Eithr hyn meddaf, O frodyr, na ddichon cig a gwaed etifeddu teyrnas Dduw; ac nad yw llygredigaeth yn etifeddu anllygredigaeth. 51 Wele, yr wyf yn dywedyd i chwi ddirgelwch: Ni hunwn ni oll, eithr ni a newidir oll mewn moment, ar drawiad llygad, wrth yr utgorn diwethaf: 52 Canys yr utgorn a gân, a’r meirw a gyfodir yn anllygredig, a ninnau a newidir. 53 Oherwydd rhaid i’r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i’r marwol hwn wisgo anfarwoldeb. 54 A phan ddarffo i’r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i’r marwol hwn wisgo anfarwoldeb, yna y bydd yr ymadrodd a ysgrifennwyd, Angau a lyncwyd mewn buddugoliaeth. 55 O angau, pa le mae dy golyn? O uffern, pa le mae dy fuddugoliaeth? 56 Colyn angau yw pechod, a grym pechod yw’r gyfraith. 57 Ond i Dduw y byddo’r diolch, yr hwn sydd yn rhoddi i ni fuddugoliaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist. 58 Am hynny, fy mrodyr annwyl, byddwch sicr, a diymod, a helaethion yng ngwaith yr Arglwydd yn wastadol; a chwi yn gwybod nad yw eich llafur chwi yn ofer yn yr Arglwydd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.