M’Cheyne Bible Reading Plan
50 Yna y syrthiodd Joseff ar wyneb ei dad, ac a wylodd arno ef, ac a’i cusanodd ef. 2 Gorchmynnodd Joseff hefyd i’w weision, y meddygon, berarogli ei dad ef: felly y meddygon a beraroglasant Israel. 3 Pan gyflawnwyd iddo ddeugain niwrnod, (canys felly y cyflawnir dyddiau y rhai a beraroglir,) yna yr Eifftiaid a’i harwylasant ef ddeng niwrnod a thrigain. 4 Pan aeth dyddiau ei arwyl ef heibio, yna y llefarodd Joseff wrth deulu Pharo, gan ddywedyd, Os cefais yr awr hon ffafr yn eich golwg, lleferwch wrth Pharo, atolwg, gan ddywedyd, 5 Fy nhad a’m tyngodd, gan ddywedyd, Wele fi yn marw: yn fy medd yr hwn a gloddiais i mi yng ngwlad Canaan, yno y’m cleddi. Ac yr awr hon caffwyf fyned i fyny, atolwg, fel y claddwyf fy nhad; yna mi a ddychwelaf. 6 A dywedodd Pharo, Dos i fyny, a chladd dy dad, fel y’th dyngodd.
7 A Joseff a aeth i fyny i gladdu ei dad: a holl weision Pharo, sef henuriaid ei dŷ ef, a holl henuriaid gwlad yr Aifft, a aethant i fyny gydag ef, 8 A holl dŷ Joseff, a’i frodyr, a thŷ ei dad: eu rhai bach yn unig, a’u defaid, a’u gwartheg, a adawsant yn nhir Gosen. 9 Ac aeth i fyny gydag ef gerbydau, a gwŷr meirch hefyd: ac yr oedd yn llu mawr iawn. 10 A hwy a ddaethant hyd lawr dyrnu Atad, yr hwn sydd dros yr Iorddonen; ac a alarasant yno alar mawr, a thrwm iawn: canys gwnaeth alar dros ei dad saith niwrnod. 11 Pan welodd y Canaaneaid, y rhai oedd yn preswylio yn y wlad, y galar yn llawr dyrnu Atad; yna y dywedasant, Dyma alar trwm gan yr Eifftiaid: am hynny y galwasant ei enw Abel‐Misraim, yr hwn sydd dros yr Iorddonen. 12 A’i feibion a wnaethant iddo megis y gorchmynasai efe iddynt. 13 Canys ei feibion a’i dygasant ef i wlad Canaan, ac a’i claddasant ef yn ogof maes Machpela: yr hon a brynasai Abraham gyda’r maes, yn feddiant beddrod, gan Effron yr Hethiad, o flaen Mamre.
14 A dychwelodd Joseff i’r Aifft, efe, a’i frodyr, a’r rhai oll a aethant i fyny gydag ef i gladdu ei dad, wedi iddo gladdu ei dad.
15 Pan welodd brodyr Joseff farw o’u tad, hwy a ddywedasant, Joseff ond odid a’n casâ ni, a chan dalu a dâl i ni yr holl ddrwg a wnaethom ni iddo ef. 16 A hwy a anfonasant at Joseff i ddywedyd, Dy dad a orchmynnodd o flaen ei farw, gan ddywedyd, 17 Fel hyn y dywedwch wrth Joseff; Atolwg, maddau yr awr hon gamwedd dy frodyr, a’u pechod hwynt; canys gwnaethant i ti ddrwg: ond yr awr hon, maddau, atolwg, gamwedd gweision Duw dy dad. Ac wylodd Joseff pan lefarasant wrtho. 18 A’i frodyr a ddaethant hefyd, ac a syrthiasant ger ei fron ef; ac a ddywedasant, Wele ni yn weision i ti. 19 A dywedodd Joseff wrthynt, Nac ofnwch; canys a ydwyf fi yn lle Duw? 20 Chwi a fwriadasoch ddrwg i’m herbyn; ond Duw a’i bwriadodd i ddaioni, i ddwyn i ben, fel y gwelir heddiw, i gadw yn fyw bobl lawer. 21 Am hynny, nac ofnwch yr awr hon: myfi a’ch cynhaliaf chwi, a’ch rhai bach. Ac efe a’u cysurodd hwynt, ac a lefarodd wrth fodd eu calon.
22 A Joseff a drigodd yn yr Aifft, efe, a theulu ei dad: a bu Joseff fyw gan mlynedd a deg. 23 Gwelodd Joseff hefyd, o Effraim, orwyrion: maethwyd hefyd blant Machir, fab Manasse, ar liniau Joseff. 24 A dywedodd Joseff wrth ei frodyr, Myfi sydd yn marw: a Duw gan ymweled a ymwêl â chwi, ac a’ch dwg chwi i fyny o’r wlad hon, i’r wlad a dyngodd efe i Abraham, i Isaac, ac i Jacob. 25 A thyngodd Joseff feibion Israel, gan ddywedyd, Duw gan eich gofwyo a’ch gofwya chwi; dygwch chwithau fy esgyrn i fyny oddi yma. 26 A Joseff a fu farw yn fab deng mlwydd a chant: a hwy a’i peraroglasant ef; ac efe a osodwyd mewn arch yn yr Aifft.
3 Yn y bymthegfed flwyddyn o ymerodraeth Tiberius Cesar, a Phontius Peilat yn rhaglaw Jwdea, a Herod yn detrarch Galilea, a’i frawd Philip yn detrarch Iturea a gwlad Trachonitis, a Lysanias yn detrarch Abilene, 2 Dan yr archoffeiriaid Annas a Chaiaffas, y daeth gair Duw at Ioan, mab Sachareias, yn y diffeithwch. 3 Ac efe a ddaeth i bob goror ynghylch yr Iorddonen, gan bregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau; 4 Fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr ymadroddion Eseias y proffwyd, yr hwn sydd yn dywedyd, Llef un yn llefain yn y diffeithwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, gwnewch ei lwybrau ef yn union. 5 Pob pant a lenwir, a phob mynydd a bryn a ostyngir, a’r gŵyrgeimion a wneir yn union, a’r geirwon yn ffyrdd gwastad: 6 A phob cnawd a wêl iachawdwriaeth Duw. 7 Am hynny efe a ddywedodd wrth y bobl oedd yn dyfod i’w bedyddio ganddo, O genhedlaeth gwiberod, pwy a’ch rhagrybuddiodd chwi i ffoi oddi wrth y digofaint sydd ar ddyfod? 8 Dygwch gan hynny ffrwythau addas i edifeirwch; ac na ddechreuwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae gennym ni Abraham yn dad: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw o’r cerrig hyn godi plant i Abraham. 9 Ac yr awr hon y mae’r fwyell wedi ei gosod ar wreiddyn y prennau: pob pren gan hynny a’r nid yw yn dwyn ffrwyth da, a gymynir i lawr, ac a fwrir yn tân. 10 A’r bobloedd a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Pa beth gan hynny a wnawn ni? 11 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Y neb sydd ganddo ddwy bais, rhodded i’r neb sydd heb yr un; a’r neb sydd ganddo fwyd, gwnaed yr un modd. 12 A’r publicanod hefyd a ddaethant i’w bedyddio, ac a ddywedasant wrtho, Athro, beth a wnawn ni? 13 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na cheisiwch ddim mwy nag sydd wedi ei osod i chwi. 14 A’r milwyr hefyd a ofynasant iddo, gan ddywedyd, A pha beth a wnawn ninnau? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na fyddwch draws wrth neb, ac na cham-achwynwch ar neb; a byddwch fodlon i’ch cyflogau. 15 Ac fel yr oedd y bobl yn disgwyl, a phawb yn meddylied yn eu calonnau am Ioan, ai efe oedd y Crist; 16 Ioan a atebodd, gan ddywedyd wrthynt oll, Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi â dwfr: ond y mae un cryfach na myfi yn dyfod, yr hwn nid wyf fi deilwng i ddatod carrai ei esgidiau: efe a’ch bedyddia chwi â’r Ysbryd Glân, ac â thân. 17 Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr lanha ei lawr dyrnu, ac a gasgl y gwenith i’w ysgubor; ond yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy. 18 A llawer o bethau eraill a gynghorodd efe, ac a bregethodd i’r bobl. 19 Ond Herod y tetrarch, pan geryddwyd ef ganddo am Herodias gwraig Philip ei frawd, ac am yr holl ddrygioni a wnaethai Herod, 20 A chwanegodd hyn hefyd heblaw’r cwbl, ac a gaeodd ar Ioan yn y carchar.
21 A bu, pan oeddid yn bedyddio’r holl bobl, a’r Iesu yn ei fedyddio hefyd, ac yn gweddïo, agoryd y nef, 22 A disgyn o’r Ysbryd Glân mewn rhith corfforol, megis colomen, arno ef; a dyfod llef o’r nef yn dywedyd, Ti yw fy annwyl Fab; ynot ti y’m bodlonwyd. 23 A’r Iesu ei hun oedd ynghylch dechrau ei ddengmlwydd ar hugain oed, mab (fel y tybid) i Joseff, fab Eli, 24 Fab Mathat, fab Lefi, fab Melchi, fab Janna, fab Joseff, 25 Fab Matathias, fab Amos, fab Naum, fab Esli, fab Naggai, 26 Fab Maath, fab Matathias, fab Semei, fab Joseff, fab Jwda, 27 Fab Joanna, fab Rhesa, fab Sorobabel, fab Salathiel, fab Neri, 28 Fab Melchi, fab Adi, fab Cosam, fab Elmodam, fab Er, 29 Fab Jose, fab Elieser, fab Jorim, fab Mathat, fab Lefi, 30 Fab Simeon, fab Jwda, fab Joseff, fab Jonan, fab Eliacim, 31 Fab Melea, fab Mainan, fab Matatha, fab Nathan, fab Dafydd, 32 Fab Jesse, fab Obed, fab Boos, fab Salmon, fab Naason, 33 Fab Aminadab, fab Aram, fab Esrom, fab Phares, fab Jwda, 34 Fab Jacob, fab Isaac, fab Abraham, fab Thara, fab Nachor, 35 Fab Saruch, fab Ragau, fab Phalec, fab Heber, fab Sala, 36 Fab Cainan, fab Arffacsad, fab Sem, fab Noe, fab Lamech, 37 Fab Mathwsala, fab Enoch, fab Jared, fab Maleleel, fab Cainan, 38 Fab Enos, fab Seth, fab Adda, fab Duw.
16 Ajob a atebodd ac a ddywedodd, 2 Clywais lawer o’r fath hyn: cysurwyr gofidus ydych chwi oll. 3 Oni cheir diwedd ar eiriau ofer? neu pa beth sydd yn dy gryfhau di i ateb? 4 Mi a fedrwn ddywedyd fel chwithau: pe byddai eich enaid chwi yn lle fy enaid i, medrwn bentyrru geiriau i’ch erbyn, ac ysgwyd fy mhen arnoch. 5 Ond mi a’ch cryfhawn chwi â’m genau; a symudiad fy ngwefusau a esmwythâi eich gofid. 6 Os llefaraf fi, nid esmwytha fy nolur; ac os peidiaf, ai llai fy ngofid? 7 Ond yn awr efe a’m blinodd i; anrheithiaist fy holl gynulleidfa: 8 A chroengrychaist fi, a hynny sydd dystiolaeth: a’m culni yn codi ynof, a dystiolaetha yn fy wyneb. 9 Yn ei ddicllondeb y’m rhwyga yr hwn a’m casâ: efe a ysgyrnyga ddannedd arnaf; fy ngwrthwynebwr a flaenllymodd ei lygaid yn fy erbyn. 10 Hwy a ledasant eu safnau arnaf; trawsant fy nghernau yn ddirmygus; ymgasglasant ynghyd yn fy erbyn. 11 Duw a’m rhoddes i’r anwir; ac a’m trodd i ddwylo yr annuwiolion. 12 Yr oeddwn yn esmwyth; ond efe a’m drylliodd, ac a ymaflodd yn fy ngwddf, ac a’m drylliodd yn chwilfriw, ac a’m cododd yn nod iddo ei hun. 13 Ei saethyddion ef sydd yn fy amgylchu; y mae efe yn hollti fy arennau, ac nid ydyw yn arbed; y mae yn tywallt fy mustl ar y ddaear. 14 Y mae yn fy rhwygo â rhwygiad ar rwygiad: y mae efe yn rhedeg arnaf fel cawr. 15 Gwnïais sachlen ar fy nghroen, a halogais fy nghorn yn y llwch. 16 Fy wyneb sydd fudr gan wylo, a chysgod marwolaeth sydd ar fy amrantau: 17 Er nad oes gamwedd yn fy nwylo; a bod fy ngweddi yn bur. 18 O ddaearen, na orchuddia fy ngwaed, ac na fydded lle i’m gwaedd. 19 Wele hefyd yn awr fy nhyst yn y nefoedd; a’m tystiolaeth yn yr uchelder. 20 Fy nghyfeillion sydd yn fy ngwawdio: fy llygad a ddiferodd ddagrau wrth Dduw. 21 O na châi un ymddadlau â Duw dros ddyn, fel mab dyn dros ei gymydog! 22 Canys pan ddêl ychydig flynyddoedd, yna mi a rodiaf lwybr ar hyd yr hwn ni ddychwelaf.
17 Fy anadl a lygrwyd, fy nyddiau a ddiffoddwyd, beddau sydd barod i mi. 2 Onid oes watwarwyr gyda mi? ac onid yw fy llygad yn aros yn eu chwerwedd hwynt? 3 Dyro i lawr yn awr, dyro i mi feichiau gyda thi: pwy ydyw efe a dery ei law yn fy llaw i? 4 Canys cuddiaist eu calon hwynt oddi wrth ddeall: am hynny ni ddyrchefi di hwynt. 5 Yr hwn a ddywed weniaith i’w gyfeillion, llygaid ei feibion ef a ballant. 6 Yn ddiau efe a’m gosododd yn ddihareb i’r bobl, ac o’r blaen yr oeddwn megis tympan iddynt. 7 Am hynny y tywyllodd fy llygad gan ddicllonedd, ac y mae fy aelodau oll fel cysgod. 8 Y rhai uniawn a synnant am hyn; a’r diniwed a ymgyfyd yn erbyn y rhagrithiwr. 9 Y cyfiawn hefyd a ddeil ei ffordd; a’r glân ei ddwylo a chwanega gryfder. 10 Ond chwi oll, dychwelwch, a deuwch yn awr: am na chaf fi ŵr doeth yn eich plith chwi. 11 Fy nyddiau a aeth heibio, fy amcanion a dynned ymaith; sef meddyliau fy nghalon. 12 Gwnânt y nos yn ddydd: byr yw y goleuni, oherwydd tywyllwch. 13 Os disgwyliaf, y bedd sydd dŷ i mi: mewn tywyllwch y cyweiriais fy ngwely. 14 Gelwais ar y pwll, Tydi yw fy nhad: ar y pryf, Fy mam a’m chwaer wyt. 15 A pha le yn awr y mae fy ngobaith? pwy hefyd a genfydd fy ngobaith? 16 Disgynnant i farrau y pwll, pan fyddo ein cydorffwysfa yn y llwch.
4 Felly cyfrifed dyn nyni, megis gweinidogion i Grist, a goruchwylwyr ar ddirgeledigaethau Duw. 2 Am ben hyn, yr ydys yn disgwyl mewn goruchwylwyr, gael un yn ffyddlon. 3 Eithr gennyf fi bychan iawn yw fy marnu gennych chwi, neu gan farn dyn: ac nid wyf chwaith yn fy marnu fy hun. 4 Canys ni wn i ddim arnaf fy hun; ond yn hyn ni’m cyfiawnhawyd: eithr yr Arglwydd yw’r hwn sydd yn fy marnu. 5 Am hynny na fernwch ddim cyn yr amser, hyd oni ddelo’r Arglwydd, yr hwn a oleua ddirgelion y tywyllwch, ac a eglura fwriadau’r calonnau: ac yna y bydd y glod i bob un gan Dduw. 6 A’r pethau hyn, frodyr, mewn cyffelybiaeth a fwriais i ataf fy hun ac at Apolos, o’ch achos chwi: fel y gallech ddysgu ynom ni, na synier mwy nag sydd ysgrifenedig, fel na byddoch y naill dros y llall yn ymchwyddo yn erbyn arall. 7 Pwy sydd yn gwneuthur rhagor rhyngot ti ac arall? a pha beth sydd gennyt a’r nas derbyniaist? ac os derbyniaist, paham yr wyt ti yn gorfoleddu, megis pe bait heb dderbyn? 8 Yr ydych chwi yr awron wedi eich diwallu, yr ydych chwi yr awron wedi eich cyfoethogi, chwi a deyrnasasoch hebom ni: ac och Dduw na baech yn teyrnasu, fel y caem ninnau deyrnasu gyda chwi. 9 Canys tybied yr wyf ddarfod i Dduw ein dangos ni, yr apostolion diwethaf, fel rhai wedi eu bwrw i angau: oblegid nyni a wnaethpwyd yn ddrych i’r byd, ac i’r angylion, ac i ddynion. 10 Yr ydym ni yn ffyliaid er mwyn Crist, a chwithau yn ddoethion yng Nghrist; nyni yn weiniaid, a chwithau yn gryfion; chwychwi yn anrhydeddus, a ninnau yn ddirmygus. 11 Hyd yr awr hon yr ydym ni yn dwyn newyn a syched, ac yr ydym ni yn noethion, ac yn cael cernodiau, ac yn grwydraidd; 12 Ac yr ydym yn llafurio, gan weithio â’n dwylo’n hunain. Pan y’n difenwir, yr ydym yn bendithio; pan y’n herlidir, yr ydym yn ei ddioddef; 13 Pan y’n ceblir, yr ydym yn gweddïo: fel ysgubion y byd y gwnaethpwyd ni, a sorod pob dim, hyd yn hyn. 14 Nid i’ch gwaradwyddo chwi yr ydwyf yn ysgrifennu’r pethau hyn; ond eich rhybuddio yr wyf fel fy mhlant annwyl. 15 Canys pe byddai i chwi ddeng mil o athrawon yng Nghrist, er hynny nid oes i chwi nemor o dadau: canys myfi a’ch cenhedlais chwi yng Nghrist Iesu trwy’r efengyl. 16 Am hynny yr wyf yn atolwg i chwi, byddwch ddilynwyr i mi. 17 Oblegid hyn yr anfonais atoch Timotheus, yr hwn yw fy annwyl fab, a ffyddlon yn yr Arglwydd; yr hwn a ddwg ar gof i chwi fy ffyrdd i yng Nghrist, megis yr wyf ym mhob man yn athrawiaethu ym mhob eglwys. 18 Ac y mae rhai wedi ymchwyddo, fel pe bawn i heb fod ar fedr dyfod atoch chwi. 19 Eithr mi a ddeuaf atoch ar fyrder, os yr Arglwydd a’i myn; ac a fynnaf wybod, nid ymadrodd y rhai sydd wedi chwyddo, ond eu gallu. 20 Canys nid mewn ymadrodd y mae teyrnas Dduw; eithr mewn gallu. 21 Beth a fynnwch chwi? ai dyfod ohonof fi atoch chwi â gwialen, ynteu mewn cariad, ac ysbryd addfwynder?
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.