Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Genesis 41

41 Yna ymhen dwy flynedd lawn, y bu i Pharo freuddwydio; ac wele efe yn sefyll wrth yr afon. Ac wele, yn esgyn o’r afon, saith o wartheg teg yr olwg, a thewion o gig; ac mewn gweirglodd‐dir y porent. Wele hefyd, saith o wartheg eraill yn esgyn ar eu hôl hwynt o’r afon, yn ddrwg yr olwg, ac yn gulion o gig; a hwy a safasant yn ymyl y gwartheg eraill, ar lan yr afon. A’r gwartheg drwg yr olwg, a chulion o gig, a fwytasant y saith gwartheg teg yr olwg, a breision. Yna y dihunodd Pharo. Ac efe a gysgodd, ac a freuddwydiodd eilwaith: ac wele, saith o dywysennau yn tyfu ar un gorsen, o rai breisgion a da. Wele hefyd, saith o dywysennau teneuon, ac wedi deifio gan wynt y dwyrain, yn tarddu allan ar eu hôl hwynt. A’r tywysennau teneuon a lyncasant y saith dywysen fraisg a llawn. A deffrôdd Pharo; ac wele breuddwyd oedd. A’r bore y bu i’w ysbryd ef gynhyrfu; ac efe a anfonodd, ac a alwodd am holl ddewiniaid yr Aifft a’i holl ddoethion hi: a Pharo a fynegodd iddynt hwy ei freuddwydion; ond nid oedd a’u dehonglai hwynt i Pharo.

Yna y llefarodd y pen‐trulliad wrth Pharo, gan ddywedyd, Yr wyf fi yn cofio fy meiau heddiw. 10 Llidio a wnaethai Pharo wrth ei weision; ac efe a’m rhoddes mewn carchar yn nhŷ’r distain, myfi a’r pen‐pobydd. 11 A ni a freuddwydiasom freuddwyd yn yr un nos, mi ac efe: breuddwydiasom bob un ar ôl dehongliad ei freuddwyd. 12 Ac yr oedd yno gyda nyni fab ieuanc o Hebread, gwas i’r distain; a ni a fynegasom iddo ef: yntau a ddehonglodd i ni ein breuddwydion; i bob un yn ôl ei freuddwyd y dehonglodd efe. 13 A darfu, fel y dehonglodd i ni, felly y bu: rhodd fi eilwaith i’m swydd; ac yntau a grogodd efe.

14 Pharo, gan hynny, a anfonodd ac a alwodd am Joseff: hwythau ar redeg a’i cyrchasant ef o’r carchar: yntau a eilliodd ei wallt, ac a newidiodd ei ddillad, ac a ddaeth at Pharo. 15 A Pharo a ddywedodd wrth Joseff, Breuddwydiais freuddwyd, ac nid oes a’i dehonglo: a myfi a glywais ddywedyd amdanat ti, y medri ddeall breuddwyd i’w ddehongli. 16 A Joseff a atebodd Pharo, gan ddywedyd, Nid myfi; Duw a etyb lwyddiant i Pharo. 17 A Pharo a ddywedodd wrth Joseff, Wele fi yn fy mreuddwyd yn sefyll ar fin yr afon. 18 Ac wele yn esgyn o r afon saith o wartheg tewion o gig, a theg yr olwg; ac mewn gweirglodd‐dir y porent. 19 Wele hefyd saith o wartheg eraill yn esgyn ar eu hôl hwynt, truain, a drwg iawn yr olwg, ac yn gulion o gig: ni welais rai cynddrwg â hwynt yn holl dir yr Aifft. 20 A’r gwartheg culion a drwg a fwytasant y saith muwch tewion cyntaf. 21 Ac er eu myned i’w boliau, ni wyddid iddynt fyned i’w boliau; ond yr olwg arnynt oedd ddrwg, megis yn y dechreuad. Yna mi a ddeffroais. 22 Gwelais hefyd yn fy mreuddwyd, ac wele saith dywysen lawn a theg yn cyfodi o’r un gorsen. 23 Ac wele saith o dywys mân, teneuon, wedi deifio gan ddwyreinwynt, yn tyfu ar eu hôl hwynt. 24 A’r tywysennau teneuon a lyncasant y saith dywysen dda; a mi a ddywedais hyn wrth y dewiniaid; ond nid oedd a’i dehonglai i mi.

25 A dywedodd Joseff wrth Pharo, Breuddwyd Pharo sydd un yr hyn y mae Duw yn ei wneuthur a fynegodd efe i Pharo. 26 Y saith o wartheg teg, saith mlynedd ydynt; a’r saith dywysen deg, saith mlynedd ydynt y breuddwyd un yw. 27 Hefyd y saith muwch culion a drwg, y rhai oedd yn esgyn ar eu hôl hwynt, saith mlynedd ydynt; a’r saith dywysen wag wedi deifio gan y dwyreinwynt, a fyddant saith mlynedd o newyn. 28 Hyn yw’r peth a ddywedais i wrth Pharo: Yr hyn a wna Duw, efe a’i dangosodd i Pharo. 29 Wele y mae saith mlynedd yn dyfod o amldra mawr, trwy holl wlad yr Aifft. 30 Ond ar eu hôl hwynt y cyfyd saith mlynedd o newyn; ac anghofir yr holl amlder trwy wlad yr Aifft: a’r newyn a ddifetha’r wlad. 31 Ac ni wybyddir oddi wrth yr amldra yn y wlad, oherwydd y newyn hwnnw wedi hynny: oblegid trwm iawn fydd. 32 Hefyd am ddyblu’r breuddwyd i Pharo ddwywaith, hynny a fu oblegid sicrhau’r peth gan Dduw, a bod Duw yn brysio i’w wneuthur. 33 Yn awr, gan hynny, edryched Pharo am ŵr deallgar a doeth, a gosoded ef ar wlad yr Aifft. 34 Gwnaed Pharo hyn, a gosoded olygwyr ar y wlad, a chymered bumed ran cnwd gwlad yr Aifft dros saith mlynedd yr amldra. 35 A chasglant holl ymborth y blynyddoedd daionus sydd ar ddyfod, a chasglant ŷd dan law Pharo, a chadwant ymborth yn y dinasoedd. 36 A bydded yr ymborth yng nghadw i’r wlad dros y saith mlynedd newyn, y rhai fyddant yng ngwlad yr Aifft, fel na ddifether y wlad gan y newyn.

37 A’r peth oedd dda yng ngolwg Pharo, ac yng ngolwg ei holl weision. 38 A dywedodd Pharo wrth ei weision, A gaem ni ŵr fel hwn, yr hwn y mae ysbryd Duw ynddo? 39 Dywedodd Pharo hefyd wrth Joseff, Gan wneuthur o Dduw i ti wybod hyn oll, nid mor ddeallgar a doeth neb â thydi. 40 Tydi a fyddi ar fy nhŷ, ac wrth dy air di y llywodraethir fy mhobl oll: yn y deyrngadair yn unig y byddaf fwy na thydi. 41 Yna y dywedodd Pharo wrth Joseff, Edrych, gosodais di ar holl wlad yr Aifft. 42 A thynnodd Pharo ei fodrwy oddi ar ei law, ac a’i rhoddes hi ar law Joseff, ac a’i gwisgodd ef mewn gwisgoedd sidan, ac a osododd gadwyn aur am ei wddf ef; 43 Ac a wnaeth iddo farchogaeth yn yr ail gerbyd oedd ganddo; a llefwyd o’i flaen ef, Abrec: felly y gosodwyd ef ar holl wlad yr Aifft. 44 Dywedodd Pharo hefyd wrth Joseff, Myfi yw Pharo, ac hebot ti ni chyfyd gŵr ei law na’i droed, trwy holl wlad yr Aifft. 45 A Pharo a alwodd enw Joseff, Saffnath‐Panea; ac a roddes iddo Asnath, merch Potiffera offeiriad On, yn wraig: yna yr aeth Joseff allan dros wlad yr Aifft.

46 A Joseff ydoedd fab deng mlwydd ar hugain pan safodd efe gerbron Pharo brenin yr Aifft: a Joseff a aeth allan o ŵydd Pharo, ac a dramwyodd trwy holl wlad yr Aifft. 47 A’r ddaear a gnydiodd dros saith mlynedd yr amldra yn ddyrneidiau. 48 Yntau a gasglodd holl ymborth y saith mlynedd a fu yng ngwlad yr Aifft, ac a roddes ymborth i gadw yn y dinasoedd: ymborth y maes, yr hwn fyddai o amgylch pob dinas, a roddes efe i gadw ynddi. 49 A Joseff a gynullodd ŷd fel tywod y môr, yn dra lluosog, hyd oni pheidiodd â’i rifo: oblegid yr ydoedd heb rifedi. 50 Ond cyn dyfod blwyddyn o newyn, y ganwyd i Joseff ddau fab, y rhai a ymddûg Asnath, merch Potiffera offeiriad On, iddo ef. 51 A Joseff a alwodd enw ei gyntaf‐anedig, Manasse: Oblegid (eb efe) Duw a wnaeth i mi anghofio fy llafur oll, a thylwyth fy nhad oll. 52 Ac efe a alwodd enw yr ail, Effraim: Oblegid (eb efe) Duw a’m ffrwythlonodd i yng ngwlad fy ngorthrymder.

53 Darfu’r saith mlynedd o amldra, y rhai a fu yng ngwlad yr Aifft. 54 A’r saith mlynedd newyn a ddechreuasant ddyfod, fel y dywedasai Joseff: ac yr oedd newyn yn yr holl wledydd; ond yn holl wlad yr Aifft yr ydoedd bara. 55 A phan newynodd holl wlad yr Aifft, y bobl a waeddodd ar Pharo am fara: a Pharo a ddywedodd wrth yr holl Eifftiaid, Ewch at Joseff; yr hyn a ddywedo efe wrthych, gwnewch. 56 Y newyn hefyd ydoedd ar holl wyneb y ddaear: a Joseff a agorodd yr holl leoedd yr ydoedd ŷd ynddynt, ac a werthodd i’r Eifftiaid; oblegid y newyn oedd drwm yng ngwlad yr Aifft. 57 A daeth yr holl wledydd i’r Aifft at Joseff i brynu; oherwydd y newyn oedd drwm yn yr holl wledydd.

Marc 11

11 Ac wedi eu dyfod yn agos i Jerwsalem, i Bethffage a Bethania, hyd fynydd yr Olewydd, efe a anfonodd ddau o’i ddisgyblion, Ac a ddywedodd wrthynt, Ewch ymaith i’r pentref sydd gyferbyn â chwi: ac yn y man wedi y deloch i mewn iddo, chwi a gewch ebol wedi ei rwymo, ar yr hwn nid eisteddodd neb; gollyngwch ef yn rhydd, a dygwch ymaith. Ac os dywed neb wrthych, Paham y gwnewch hyn? dywedwch, Am fod yn rhaid i’r Arglwydd wrtho; ac yn ebrwydd efe a’i denfyn yma. A hwy a aethant ymaith, ac a gawsant yr ebol yn rhwym wrth y drws oddi allan, mewn croesffordd; ac a’i gollyngasant ef yn rhydd. A rhai o’r rhai oedd yn sefyll yno a ddywedasant wrthynt, Beth a wnewch chwi, yn gollwng yr ebol yn rhydd? A hwy a ddywedasant wrthynt fel y gorchmynasai yr Iesu: a hwy a adawsant iddynt fyned ymaith. A hwy a ddygasant yr ebol at yr Iesu, ac a fwriasant eu dillad arno; ac efe a eisteddodd arno. A llawer a daenasant eu dillad ar hyd y ffordd; ac eraill a dorasant gangau o’r gwŷdd, ac a’u taenasant ar y ffordd. A’r rhai oedd yn myned o’r blaen, a’r rhai oedd yn dyfod ar ôl, a lefasant, gan ddywedyd, Hosanna; Bendigedig fyddo’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd: 10 Bendigedig yw’r deyrnas sydd yn dyfod yn enw Arglwydd ein tad Dafydd: Hosanna yn y goruchaf. 11 A’r Iesu a aeth i mewn i Jerwsalem, ac i’r deml: ac wedi iddo edrych ar bob peth o’i amgylch, a hi weithian yn hwyr, efe a aeth allan i Fethania gyda’r deuddeg.

12 A thrannoeth, wedi iddynt ddyfod allan o Fethania, yr oedd arno chwant bwyd. 13 Ac wedi iddo ganfod o hirbell ffigysbren ag arno ddail, efe a aeth i edrych a gaffai ddim arno. A phan ddaeth ato, ni chafodd efe ddim ond y dail: canys nid oedd amser ffigys. 14 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Na fwytaed neb ffrwyth ohonot byth mwy. A’i ddisgyblion ef a glywsant.

15 A hwy a ddaethant i Jerwsalem. A’r Iesu a aeth i’r deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai a werthent ac a brynent yn y deml; ac a ymchwelodd drestlau’r arianwyr, a chadeiriau’r gwerthwyr colomennod: 16 Ac ni adawai efe i neb ddwyn llestr trwy’r deml. 17 Ac efe a’u dysgodd, gan ddywedyd wrthynt, Onid yw’n ysgrifenedig, Y gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi i’r holl genhedloedd? ond chwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron. 18 A’r ysgrifenyddion a’r archoffeiriaid a glywsant hyn, ac a geisiasant pa fodd y difethent ef: canys yr oeddynt yn ei ofni ef, am fod yr holl bobl yn synnu oblegid ei athrawiaeth ef. 19 A phan aeth hi yn hwyr, efe a aeth allan o’r ddinas.

20 A’r bore, wrth fyned heibio, hwy a welsant y ffigysbren wedi crino o’r gwraidd. 21 A Phedr wedi atgofio, a ddywedodd wrtho, Athro, wele y ffigysbren a felltithiaist, wedi crino. 22 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Bydded gennych ffydd yn Nuw: 23 Canys yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, Pwy bynnag a ddywedo wrth y mynydd hwn, Tynner di ymaith, a bwrier di i’r môr; ac nid amheuo yn ei galon, ond credu y daw i ben y pethau a ddywedo efe; beth bynnag a ddywedo, a fydd iddo. 24 Am hynny meddaf i chwi, Beth bynnag oll a geisioch wrth weddïo credwch y derbyniwch, ac fe fydd i chwi. 25 A phan safoch i weddïo, maddeuwch, o bydd gennych ddim yn erbyn neb; fel y maddeuo eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd i chwithau eich camweddau: 26 Ond os chwi ni faddeuwch, eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd ni faddau chwaith eich camweddau chwithau.

27 A hwy a ddaethant drachefn i Jerwsalem: ac fel yr oedd efe yn rhodio yn y deml, yr archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a’r henuriaid, a ddaethant ato, 28 Ac a ddywedasant wrtho, Trwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy a roddes i ti yr awdurdod hon i wneuthur y pethau hyn? 29 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A minnau a ofynnaf i chwithau un gair; ac atebwch fi, a mi a ddywedaf i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn. 30 Bedydd Ioan, ai o’r nef yr oedd, ai o ddynion? atebwch fi. 31 Ac ymresymu a wnaethant wrthynt eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O’r nef; efe a ddywed, Paham gan hynny na chredech iddo? 32 Eithr os dywedwn, O ddynion; yr oedd arnynt ofn y bobl: canys pawb oll a gyfrifent Ioan mai proffwyd yn ddiau ydoedd. 33 A hwy a atebasant ac a ddywedasant wrth yr Iesu, Ni wyddom ni. A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwythau, Ac ni ddywedaf finnau i chwithau trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

Job 7

Onid oes amser terfynedig i ddyn ar y ddaear? onid yw ei ddyddiau ef megis dyddiau gwas cyflog? Megis y dyhea gwas am gysgod, ac y disgwyl cyflogddyn wobr ei waith: Felly y gwnaethpwyd i mi feddiannu misoedd o oferedd, a nosweithiau blinion a osodwyd i mi. Pan orweddwyf, y dywedaf, Pa bryd y codaf, ac yr ymedy y nos? canys caf ddigon o ymdroi hyd y cyfddydd. Fy nghnawd a wisgodd bryfed a thom priddlyd: fy nghroen a agennodd, ac a aeth yn ffiaidd. Fy nyddiau sydd gynt na gwennol gwehydd, ac a ddarfuant heb obaith. Cofia mai gwynt yw fy hoedl: ni wêl fy llygad ddaioni mwyach. Y llygad a’m gwelodd, ni’m gwêl mwyach: dy lygaid sydd arnaf, ac nid ydwyf. Fel y derfydd y cwmwl, ac yr â ymaith: felly yr hwn sydd yn disgyn i’r bedd, ni ddaw i fyny mwyach. 10 Ni ddychwel mwy i’w dŷ: a’i le nid edwyn ef mwy. 11 Gan hynny ni warafunaf i’m genau; mi a lefaraf yng nghyfyngdra fy ysbryd; myfi a gwynaf yn chwerwder fy enaid. 12 Ai môr ydwyf, neu forfil, gan dy fod yn gosod cadwraeth arnaf? 13 Pan ddywedwyf, Fy ngwely a’m cysura, fy ngorweddfa a esmwythâ fy nghwynfan; 14 Yna y’m brawychi â breuddwydion, ac y’m dychryni â gweledigaethau: 15 Am hynny y dewisai fy enaid ymdagu, a marwolaeth yn fwy na’m hoedl. 16 Ffieiddiais einioes, ni fynnwn fyw byth: paid â mi, canys oferedd ydyw fy nyddiau. 17 Pa beth ydyw dyn, pan fawrheit ef? a phan osodit dy feddwl arno? 18 Ac ymweled ag ef bob bore, a’i brofi ar bob moment? 19 Pa hyd y byddi heb gilio oddi wrthyf, ac na adewi fi yn llonydd tra llyncwyf fy mhoeryn? 20 Myfi a bechais; beth a wnaf i ti, O geidwad dyn? paham y gosodaist fi yn nod i ti, fel yr ydwyf yn faich i mi fy hun? 21 A phaham na faddeui fy nghamwedd, ac na fwri heibio fy anwiredd? canys yn awr yn y llwch y gorweddaf, a thi a’m ceisi yn fore, ond ni byddaf.

Rhufeiniaid 11

11 Am hynny meddaf, A wrthododd Duw ei bobl? Na ato Duw. Canys yr wyf finnau hefyd yn Israeliad, o had Abraham, o lwyth Benjamin. Ni wrthododd Duw ei bobl, yr hwn a adnabu efe o’r blaen. Oni wyddoch chwi pa beth y mae’r ysgrythur yn ei ddywedyd am Eleias? pa fodd y mae efe yn erfyn ar Dduw yn erbyn Israel, gan ddywedyd, O Arglwydd, hwy a laddasant dy broffwydi, ac a gloddiasant dy allorau i lawr; ac myfi a adawyd yn unig, ac y maent yn ceisio fy einioes innau. Eithr pa beth y mae ateb Duw yn ei ddywedyd wrtho? Mi a adewais i mi fy hun saith mil o wŷr, y rhai ni phlygasant eu gliniau i Baal. Felly gan hynny y pryd hwn hefyd y mae gweddill yn ôl etholedigaeth gras. Ac os o ras, nid o weithredoedd mwyach: os amgen, nid yw gras yn ras mwyach. Ac os o weithredoedd, nid yw o ras mwyach: os amgen, nid yw gweithred yn weithred mwyach. Beth gan hynny? Ni chafodd Israel yr hyn y mae yn ei geisio: eithr yr etholedigaeth a’i cafodd, a’r lleill a galedwyd; (Megis y mae yn ysgrifenedig, Rhoddes Duw iddynt ysbryd trymgwsg, llygaid fel na welent, a chlustiau fel na chlywent;) hyd y dydd heddiw. Ac y mae Dafydd yn dywedyd, Bydded eu bord hwy yn rhwyd, ac yn fagl, ac yn dramgwydd, ac yn daledigaeth iddynt: 10 Tywyller eu llygaid hwy, fel na welant, a chydgryma di eu cefnau hwy bob amser. 11 Gan hynny meddaf, A dramgwyddasant hwy fel y cwympent? Na ato Duw: eithr trwy eu cwymp hwy y daeth iachawdwriaeth i’r Cenhedloedd, i yrru eiddigedd arnynt. 12 Oherwydd paham, os ydyw eu cwymp hwy yn olud i’r byd, a’u lleihad hwy yn olud i’r Cenhedloedd; pa faint mwy y bydd eu cyflawnder hwy? 13 Canys wrthych chwi y Cenhedloedd yr wyf yn dywedyd, yn gymaint â’m bod i yn apostol y Cenhedloedd, yr wyf yn mawrhau fy swydd; 14 Os gallaf ryw fodd yrru eiddigedd ar fy nghig a’m gwaed fy hun, ac achub rhai ohonynt. 15 Canys os yw eu gwrthodiad hwy yn gymod i’r byd, beth fydd eu derbyniad hwy ond bywyd o feirw? 16 Canys os sanctaidd y blaenffrwyth, y mae’r clamp toes hefyd yn sanctaidd: ac os sanctaidd y gwreiddyn, y mae’r canghennau hefyd felly. 17 Ac os rhai o’r canghennau a dorrwyd ymaith, a thydi yn olewydden wyllt a impiwyd i mewn yn eu plith hwy, ac a’th wnaethpwyd yn gyfrannog o’r gwreiddyn, ac o fraster yr olewydden; 18 Na orfoledda yn erbyn y canghennau. Ac os gorfoleddi, nid tydi sydd yn dwyn y gwreiddyn, eithr y gwreiddyn dydi. 19 Ti a ddywedi gan hynny, Torrwyd y canghennau ymaith, fel yr impid fi i mewn. 20 Da; trwy anghrediniaeth y torrwyd hwynt ymaith, a thithau sydd yn sefyll trwy ffydd. Na fydd uchelfryd, eithr ofna. 21 Canys onid arbedodd Duw y canghennau naturiol, gwylia rhag nad arbedo dithau chwaith. 22 Gwêl am hynny ddaioni a thoster Duw: sef i’r rhai a gwympasant, toster; eithr daioni i ti, os arhosi yn ei ddaioni ef: os amgen, torrir dithau hefyd ymaith. 23 A hwythau, onid arhosant yn anghrediniaeth, a impir i mewn: canys fe all Duw eu himpio hwy i mewn drachefn. 24 Canys os tydi a dorrwyd ymaith o’r olewydden yr hon oedd wyllt wrth naturiaeth, a’th impio yn erbyn naturiaeth mewn gwir olewydden; pa faint mwy y caiff y rhai hyn sydd wrth naturiaeth, eu himpio i mewn yn eu holewydden eu hun? 25 Canys nid ewyllysiwn, frodyr, eich bod heb wybod y dirgelwch hwn, (fel na byddoch ddoethion yn eich golwg eich hun,) ddyfod dallineb o ran i Israel, hyd oni ddêl cyflawnder y Cenhedloedd i mewn. 26 Ac felly holl Israel a fydd cadwedig; fel y mae yn ysgrifenedig, Y Gwaredwr a ddaw allan o Seion, ac a dry ymaith annuwioldeb oddi wrth Jacob. 27 A hyn yw’r amod sydd iddynt gennyf fi, pan gymerwyf ymaith eu pechodau hwynt. 28 Felly o ran yr efengyl, gelynion ydynt o’ch plegid chwi: eithr o ran yr etholedigaeth, caredigion ydynt oblegid y tadau. 29 Canys diedifarus yw doniau a galwedigaeth Duw. 30 Canys megis y buoch chwithau gynt yn anufudd i Dduw, eithr yr awron a gawsoch drugaredd trwy anufudd‐dod y rhai hyn; 31 Felly hwythau hefyd yr awron a anufuddhasant, fel y caent hwythau drugaredd trwy eich trugaredd chwi. 32 Canys Duw a’u caeodd hwynt oll mewn anufudd‐dod, fel y trugarhâi wrth bawb. 33 O ddyfnder golud doethineb a gwybodaeth Duw! mor anchwiliadwy yw ei farnau ef! a’i ffyrdd, mor anolrheinadwy ydynt! 34 Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd? neu pwy a fu gynghorwr iddo ef? 35 Neu pwy a roddes iddo ef yn gyntaf, ac fe a delir iddo drachefn? 36 Canys ohono ef, a thrwyddo ef, ac iddo ef, y mae pob peth. Iddo ef y byddo gogoniant yn dragywydd. Amen.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.