M’Cheyne Bible Reading Plan
22 Ac wedi’r pethau hyn y bu i Dduw brofi Abraham, a dywedyd wrtho, Abraham. Yntau a ddywedodd, Wele fi. 2 Yna y dywedodd Duw, Cymer yr awr hon dy fab, sef dy unig fab Isaac, yr hwn a hoffaist, a dos rhagot i dir Moreia, ac offryma ef yno yn boethoffrwm ar un o’r mynyddoedd yr hwn a ddywedwyf wrthyt.
3 Ac Abraham a foregododd, ac a gyfrwyodd ei asyn, ac a gymerodd ei ddau lanc gydag ef, ac Isaac ei fab; ac a holltodd goed y poethoffrwm, ac a gyfododd, ac a aeth i’r lle a ddywedasai Duw wrtho. 4 Ac ar y trydydd dydd y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac efe a welai’r lle o hirbell. 5 Ac Abraham a ddywedodd wrth ei lanciau, Arhoswch chwi yma gyda’r asyn; a mi a’r llanc a awn hyd acw, ac a addolwn, ac a ddychwelwn atoch. 6 Yna y cymerth Abraham goed y poethoffrwm, ac a’i gosododd ar Isaac ei fab; ac a gymerodd y tân, a’r gyllell yn ei law ei hun: a hwy a aethant ill dau ynghyd. 7 A llefarodd Isaac wrth Abraham ei dad, ac a ddywedodd, Fy nhad. Yntau a ddywedodd, Wele fi, fy mab. Yna eb efe, Wele dân a choed; ond mae oen y poethoffrwm? 8 Ac Abraham a ddywedodd, Fy mab, Duw a edrych iddo ei hun am oen y poethoffrwm. Felly yr aethant ill dau ynghyd: 9 Ac a ddaethant i’r lle a ddywedasai Duw wrtho ef; ac yno yr adeiladodd Abraham allor, ac a osododd y coed mewn trefn, ac a rwymodd Isaac ei fab, ac a’i gosododd ef ar yr allor, ar uchaf y coed. 10 Ac Abraham a estynnodd ei law, ac a gymerodd y gyllell i ladd ei fab; 11 Ac angel yr Arglwydd a alwodd arno ef o’r nefoedd, ac a ddywedodd, Abraham, Abraham. Yntau a ddywedodd, Wele fi. 12 Ac efe a ddywedodd, Na ddod dy law ar y llanc, ac na wna ddim iddo: oherwydd gwn weithian i ti ofni Duw, gan nad ateliaist dy fab, dy unig fab, oddi wrthyf fi. 13 Yna y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele o’i ôl ef hwrdd, wedi ei ddal erbyn ei gyrn mewn drysni: ac Abraham a aeth ac a gymerth yr hwrdd, ac a’i hoffrymodd yn boethoffrwm yn lle ei fab. 14 Ac Abraham a alwodd enw y lle hwnnw JEHOFAH‐jire; fel y dywedir heddiw, Ym mynydd yr Arglwydd y gwelir.
15 Ac angel yr Arglwydd a alwodd ar Abraham yr ail waith o’r nefoedd; 16 Ac a ddywedodd, I mi fy hun y tyngais, medd yr Arglwydd, oherwydd gwneuthur ohonot y peth hyn, ac nad ateliaist dy fab, dy unig fab: 17 Mai gan fendithio y’th fendithiaf, a chan amlhau yr amlhaf dy had, fel sêr y nefoedd, ac fel y tywod yr hwn sydd ar lan y môr; a’th had a feddianna borth ei elynion; 18 Ac yn dy had di y bendithir holl genhedloedd y ddaear: o achos gwrando ohonot ar fy llais i. 19 Yna Abraham a ddychwelodd at ei lanciau; a hwy a godasant, ac a aethant ynghyd i Beer‐seba: ac Abraham a drigodd yn Beer‐seba.
20 Darfu hefyd, wedi’r pethau hyn, fynegi i Abraham, gan ddywedyd, Wele, dug Milca hithau hefyd blant i Nachor dy frawd; 21 Hus ei gyntaf‐anedig, a Bus ei frawd; Cemuel hefyd tad Aram, 22 A Chesed, a Haso, a Phildas, ac Idlaff, a Bethuel. 23 A Bethuel a genhedlodd Rebeca: yr wyth hyn a blantodd Milca i Nachor brawd Abraham. 24 Ei ordderchwraig hefyd, a’i henw Reuma, a esgorodd hithau hefyd ar Teba, a Gaham, a Thahas, a Maacha.
21 Aphan ddaethant yn gyfagos i Jerwsalem, a’u dyfod hwy i Bethffage, i fynydd yr Olewydd, yna yr anfonodd yr Iesu ddau ddisgybl, 2 Gan ddywedyd wrthynt, Ewch i’r pentref sydd ar eich cyfer, ac yn y man chwi a gewch asen yn rhwym, ac ebol gyda hi: gollyngwch hwynt, a dygwch ataf fi. 3 Ac os dywed neb ddim wrthych, dywedwch, Y mae’n rhaid i’r Arglwydd wrthynt: ac yn y man efe a’u denfyn hwynt. 4 A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy’r proffwyd, yn dywedyd, 5 Dywedwch i ferch Seion, Wele, dy frenin yn dyfod i ti, yn addfwyn, ac yn eistedd ar asen, ac ebol llwdn asen arferol â’r iau. 6 Y disgyblion a aethant, ac a wnaethant fel y gorchmynasai’r Iesu iddynt. 7 A hwy a ddygasant yr asen a’r ebol, ac a ddodasant eu dillad arnynt, ac a’i gosodasant ef i eistedd ar hynny. 8 A thyrfa ddirfawr a daenasant eu dillad ar y ffordd; eraill a dorasant gangau o’r gwŷdd, ac a’u taenasant ar hyd y ffordd. 9 A’r torfeydd, y rhai oedd yn myned o’r blaen, a’r rhai oedd yn dyfod ar ôl, a lefasant, gan ddywedyd, Hosanna i fab Dafydd: Bendigedig yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd: Hosanna yn y goruchafion. 10 Ac wedi ei ddyfod ef i mewn i Jerwsalem, y ddinas oll a gynhyrfodd, gan ddywedyd, Pwy yw hwn? 11 A’r torfeydd a ddywedasant, Hwn yw Iesu y proffwyd o Nasareth yng Ngalilea.
12 A’r Iesu a aeth i mewn i deml Dduw, ac a daflodd allan bawb a’r oedd yn gwerthu ac yn prynu yn y deml, ac a ddymchwelodd i lawr fyrddau’r newidwyr arian, a chadeiriau’r rhai oedd yn gwerthu colomennod: 13 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ysgrifennwyd, Tŷ gweddi y gelwir fy nhŷ i; eithr chwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron. 14 A daeth y deillion a’r cloffion ato yn y deml; ac efe a’u hiachaodd hwynt. 15 A phan welodd yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion y rhyfeddodau a wnaethai efe, a’r plant yn llefain yn y deml, ac yn dywedyd, Hosanna i fab Dafydd; hwy a lidiasant, 16 Ac a ddywedasant wrtho, A wyt ti yn clywed beth y mae’r rhai hyn yn ei ddywedyd? A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ydwyf. Oni ddarllenasoch chwi erioed, O enau plant bychain a rhai yn sugno y perffeithiaist foliant?
17 Ac efe a’u gadawodd hwynt, ac a aeth allan o’r ddinas i Fethania, ac a letyodd yno. 18 A’r bore, fel yr oedd efe yn dychwelyd i’r ddinas, yr oedd arno chwant bwyd. 19 A phan welodd efe ffigysbren ar y ffordd, efe a ddaeth ato, ac ni chafodd ddim arno, ond dail yn unig: ac efe a ddywedodd wrtho, Na thyfed ffrwyth arnat byth mwyach. Ac yn ebrwydd y crinodd y ffigysbren. 20 A phan welodd y disgyblion, hwy a ryfeddasant, gan ddywedyd, Mor ddisymwth y crinodd y ffigysbren! 21 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Os bydd gennych ffydd, ac heb amau, ni wnewch yn unig hyn a wneuthum i i’r ffigysbren, eithr hefyd os dywedwch wrth y mynydd hwn, Coder di i fyny, a bwrier di i’r môr; hynny a fydd. 22 A pha beth bynnag a ofynnoch mewn gweddi, gan gredu, chwi a’i derbyniwch.
23 Ac wedi ei ddyfod ef i’r deml, yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl a ddaethant ato, fel yr oedd efe yn athrawiaethu, gan ddywedyd, Trwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy a roddes i ti yr awdurdod hon? 24 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Minnau a ofynnaf i chwithau un gair, yr hwn os mynegwch i mi, minnau a fynegaf i chwithau trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn. 25 Bedydd Ioan, o ba le yr oedd? ai o’r nef, ai o ddynion? A hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O’r nef; efe a ddywed wrthym, Paham gan hynny nas credasoch ef? 26 Ond os dywedwn, O ddynion; y mae arnom ofn y bobl: canys y mae pawb yn cymryd Ioan megis proffwyd. 27 A hwy a atebasant i’r Iesu, ac a ddywedasant, Ni wyddom ni. Ac yntau a ddywedodd wrthynt, Nid wyf finnau yn dywedyd i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
28 Ond beth dybygwch chwi? Yr oedd gan ŵr ddau fab: ac efe a ddaeth at y cyntaf, ac a ddywedodd, Fy mab, dos, gweithia heddiw yn fy ngwinllan. 29 Ac yntau a atebodd ac a ddywedodd, Nid af: ond wedi hynny efe a edifarhaodd, ac a aeth. 30 A phan ddaeth efe at yr ail, efe a ddywedodd yr un modd. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Myfi a af, arglwydd; ac nid aeth efe. 31 Pa un o’r ddau a wnaeth ewyllys y tad? Dywedasant wrtho, Y cyntaf. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, yr â’r publicanod a’r puteiniaid i mewn i deyrnas Dduw o’ch blaen chwi. 32 Canys daeth Ioan atoch yn ffordd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef; ond y publicanod a’r puteiniaid a’i credasant ef: chwithau, yn gweled, nid edifarhasoch wedi hynny, fel y credech ef.
33 Clywch ddameg arall. Yr oedd rhyw ddyn o berchen tŷ, yr hwn a blannodd winllan, ac a osododd gae yn ei chylch hi, ac a gloddiodd ynddi winwryf, ac a adeiladodd dŵr, ac a’i gosododd hi allan i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref. 34 A phan nesaodd amser ffrwythau, efe a ddanfonodd ei weision at y llafurwyr, i dderbyn ei ffrwythau hi. 35 A’r llafurwyr a ddaliasant ei weision ef, ac un a gurasant, ac arall a laddasant, ac arall a labyddiasant. 36 Trachefn, efe a anfonodd weision eraill, fwy na’r rhai cyntaf: a hwy a wnaethant iddynt yr un modd. 37 Ac yn ddiwethaf oll, efe a anfonodd atynt ei fab ei hun, gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab i. 38 A phan welodd y llafurwyr y mab, hwy a ddywedasant yn eu plith eu hun, Hwn yw’r etifedd; deuwch, lladdwn ef, a daliwn ei etifeddiaeth ef. 39 Ac wedi iddynt ei ddal, hwy a’i bwriasant ef allan o’r winllan, ac a’i lladdasant. 40 Am hynny pan ddêl arglwydd y winllan, pa beth a wna efe i’r llafurwyr hynny? 41 Hwy a ddywedasant wrtho, Efe a ddifetha yn llwyr y dynion drwg hynny, ac a esyd y winllan i lafurwyr eraill, y rhai a dalant iddo’r ffrwythau yn eu hamserau. 42 Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch chwi erioed yn yr ysgrythurau, Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a wnaethpwyd yn ben congl: gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni? 43 Am hynny meddaf i chwi, Y dygir teyrnas Dduw oddi arnoch chwi, ac a’i rhoddir i genedl a ddygo ei ffrwythau. 44 A phwy bynnag a syrthio ar y maen hwn, efe a ddryllir: ac ar bwy bynnag y syrthio, efe a’i mâl ef yn chwilfriw. 45 A phan glybu’r archoffeiriaid a’r Phariseaid ei ddamhegion ef, hwy a wybuant mai amdanynt hwy y dywedai efe. 46 Ac a hwy yn ceisio ei ddala, hwy a ofnasant y torfeydd; am eu bod yn ei gymryd ef fel proffwyd.
11 A thywysogion y bobl a drigasant yn Jerwsalem: a’r rhan arall o’r bobl a fwriasant goelbrennau i ddwyn un o’r deg i drigo yn Jerwsalem y ddinas sanctaidd, a naw rhan i fod yn y dinasoedd eraill. 2 A’r bobl a fendithiasant yr holl wŷr a ymroddasent yn ewyllysgar i breswylio yn Jerwsalem.
3 A dyma benaethiaid y dalaith, y rhai a drigasant yn Jerwsalem: ond yn ninasoedd Jwda pawb a drigasant yn eu meddiant o fewn eu dinasoedd, sef Israel, yr offeiriaid, a’r Lefiaid, a’r Nethiniaid, a meibion gweision Solomon. 4 A rhai o feibion Jwda ac o feibion Benjamin a drigasant yn Jerwsalem. O feibion Jwda; Athaia mab Usseia, fab Sechareia, fab Amareia, fab Seffatia, fab Mahalaleel, o feibion Peres; 5 Maaseia hefyd mab Baruch, fab Col‐hose, fab Hasaia, fab Adaia, fab Joiarib, fab Sechareia, fab Siloni. 6 Holl feibion Peres y rhai oedd yn trigo yn Jerwsalem, oedd bedwar cant ac wyth a thrigain o wŷr grymus. 7 A dyma feibion Benjamin; Salu mab Mesulam, fab Joed, fab Pedaia, fab Colaia, fab Maaseia, fab Ithiel, fab Jesaia. 8 Ac ar ei ôl ef Gabai, Salai; naw cant ac wyth ar hugain. 9 A Joel mab Sichri oedd swyddog arnynt hwy: a Jwda mab Senua yn ail ar y ddinas. 10 O’r offeiriaid: Jedaia mab Joiarib, Jachin. 11 Seraia mab Hilceia, fab Mesulam, fab Sadoc, fab Meraioth, fab Ahitub, blaenor tŷ Dduw. 12 A’u brodyr y rhai oedd yn gweithio gwaith y tŷ, oedd wyth cant a dau ar hugain: ac Adaia mab Jeroham, fab Pelalia, fab Amsi, fab Sechareia, fab Pasur, fab Malcheia, 13 A’i frodyr, pennau‐cenedl, dau cant a dau a deugain: ac Amasai mab Asareel, fab Ahasai, fab Mesilemoth, fab Immer, 14 A’u brodyr hwynt, yn gedyrn o nerth, oedd gant ac wyth ar hugain: a Sabdiel mab Haggedolim yn swyddog arnynt. 15 Ac o’r Lefiaid: Semaia mab Hasub, fab Asricam, fab Hasabeia fab Bunni. 16 Sabbethai hefyd, a Josabad, o benaethiaid y Lefiaid, oedd oruchaf ar y gwaith o’r tu allan i dŷ Dduw. 17 Mataneia hefyd mab Micha, fab Sabdi, fab Asaff, oedd bennaf i ddechrau tâl diolch mewn gweddi: a Bacbuceia yn ail o’i frodyr; ac Abda mab Sammua, fab Galal, fab Jedwthwn. 18 Yr holl Lefiaid yn y ddinas sanctaidd, oedd ddau cant a phedwar a phedwar ugain. 19 A’r porthorion, Accub, Talmon, a’u brodyr yn cadw y pyrth, oedd gant a deuddeg a thrigain.
20 A’r rhan arall o Israel, o’r offeiriaid ac o’r Lefiaid a drigent yn holl ddinasoedd Jwda, pob un yn ei etifeddiaeth. 21 Ond y Nethiniaid oeddynt yn aros yn y tŵr: Siha a Gispa oedd ar y Nethiniaid. 22 A swyddog y Lefiaid yn Jerwsalem, oedd Ussi mab Bani, fab Hasabeia, fab Mataneia, fab Micha: o feibion Asaff, y cantorion oedd ar waith tŷ Dduw. 23 Canys gorchymyn y brenin amdanynt hwy oedd, fod ordinhad safadwy i’r cantorion, dogn dydd yn ei ddydd. 24 A Phethaheia mab Mesesabeel, o feibion Sera mab Jwda, oedd wrth law y brenin ym mhob peth a berthynai i’r bobl. 25 Ac am y trefydd a’u meysydd, rhai o feibion Jwda a drigasant yng Nghaer‐Arba a’i phentrefi, ac yn Dibon a’i phentrefi, ac yn Jecabseel a’i phentrefi, 26 Ac yn Jesua, ac ym Molada, ac yn Beth‐phelet, 27 Ac yn Hasar‐sual, ac yn Beerseba a’i phentrefi, 28 Ac yn Siclag, ac ym Mechona ac yn ei phentrefi, 29 Ac yn En‐rimmon, ac yn Sarea, ac yn Jarmuth, 30 Sanoa, Adulam, a’u trefydd, Lachis a’i meysydd, yn Aseca a’i phentrefi. A hwy a wladychasant o Beerseba hyd ddyffryn Hinnom. 31 A meibion Benjamin o Geba a drigasant ym Michmas, ac Aia, a Bethel, a’u pentrefi, 32 Yn Anathoth, Nob, Ananeia, 33 Hasor, Rama, Gittaim, 34 Hadid, Seboim, Nebalat, 35 Lod, ac Ono, glyn y crefftwyr. 36 Ac o’r Lefiaid yr oedd rhannau yn Jwda, ac yn Benjamin.
21 A digwyddodd, wedi i ni osod allan, ac ymadael â hwynt, ddyfod ohonom ag uniongyrch i Coos, a thrannoeth i Rodes; ac oddi yno i Patara. 2 A phan gawsom long yn hwylio trosodd i Phenice, ni a ddringasom iddi, ac a aethom ymaith. 3 Ac wedi ymddangos o Cyprus i ni, ni a’i gadawsom hi ar y llaw aswy, ac a hwyliasom i Syria, ac a diriasom yn Nhyrus: canys yno yr oedd y llong yn dadlwytho y llwyth. 4 Ac wedi i ni gael disgyblion, nyni a arosasom yno saith niwrnod: y rhai a ddywedasant i Paul, trwy yr Ysbryd, nad elai i fyny i Jerwsalem. 5 A phan ddarfu i ni orffen y dyddiau, ni a ymadawsom, ac a gychwynasom; a phawb, ynghyd â’r gwragedd a’r plant, a’n hebryngasant ni hyd allan o’r ddinas: ac wedi i ni ostwng ar ein gliniau ar y traeth, ni a weddiasom. 6 Ac wedi i ni ymgyfarch â’n gilydd, ni a ddringasom i’r llong; a hwythau a ddychwelasant i’w cartref. 7 Ac wedi i ni orffen hwylio o Dyrus, ni a ddaethom i Ptolemais: ac wedi inni gyfarch y brodyr, ni a drigasom un diwrnod gyda hwynt. 8 A thrannoeth, y rhai oedd ynghylch Paul a ymadawsant, ac a ddaethant i Cesarea. Ac wedi i ni fyned i mewn i dŷ Philip yr efengylwr, (yr hwn oedd un o’r saith,) ni a arosasom gydag ef. 9 Ac i hwn yr oedd pedair merched o forynion, yn proffwydo. 10 Ac fel yr oeddem yn aros yno ddyddiau lawer, daeth i waered o Jwdea broffwyd a’i enw Agabus. 11 Ac wedi dyfod atom, a chymryd gwregys Paul, a rhwymo ei ddwylo ef a’i draed, efe a ddywedodd, Hyn a ddywed yr Ysbryd Glân; Y gŵr biau y gwregys hwn a rwym yr Iddewon fel hyn yn Jerwsalem, ac a’i traddodant i ddwylo y Cenhedloedd. 12 A phan glywsom y pethau hyn, nyni, a’r rhai oedd o’r fan honno hefyd, a ddeisyfasom nad elai efe i fyny i Jerwsalem. 13 Eithr Paul a atebodd, Beth a wnewch chwi yn wylo, ac yn torri fy nghalon i? canys parod wyf fi nid i’m rhwymo yn unig, ond i farw hefyd yn Jerwsalem, er mwyn enw yr Arglwydd Iesu. 14 A chan na ellid ei berswadio, ni a beidiasom, gan ddywedyd, Ewyllys yr Arglwydd a wneler. 15 Hefyd, ar ôl y dyddiau hynny, ni a gymerasom ein beichiau, ac a aethom i fyny i Jerwsalem. 16 A rhai o’r disgyblion o Cesarea a ddaeth gyda ni, gan ddwyn un Mnason o Cyprus, hen ddisgybl, gyda’r hwn y lletyem. 17 Ac wedi ein dyfod i Jerwsalem, y brodyr a’n derbyniasant yn llawen. 18 A’r dydd nesaf yr aeth Paul gyda ni i mewn at Iago: a’r holl henuriaid a ddaethant yno. 19 Ac wedi iddo gyfarch gwell iddynt, efe a fynegodd iddynt, bob yn un ac un, bob peth a wnaethai Duw ymhlith y Cenhedloedd trwy ei weinidogaeth ef. 20 A phan glywsant, hwy a ogoneddasant yr Arglwydd, ac a ddywedasant wrtho, Ti a weli, frawd, pa sawl myrddiwn sydd o’r Iddewon y rhai a gredasant; ac y maent oll yn dwyn sêl i’r ddeddf. 21 A hwy a glywsant amdanat ti, dy fod di yn dysgu’r Iddewon oll, y rhai sydd ymysg y Cenhedloedd, i ymwrthod â Moses; ac yn dywedyd, na ddylent hwy enwaedu ar eu plant, na rhodio yn ôl y defodau. 22 Pa beth gan hynny? nid oes fodd na ddêl y lliaws ynghyd: canys hwy a gânt glywed dy ddyfod di. 23 Gwna gan hynny yr hyn a ddywedwn wrthyt; Y mae gennym ni bedwar gwŷr a chanddynt adduned arnynt: 24 Cymer y rhai hyn, a glanhaer di gyda hwynt, a gwna draul arnynt, fel yr eilliont eu pennau: ac y gwypo pawb am y pethau a glywsant amdanat ti, nad ydynt ddim, ond dy fod di dy hun hefyd yn rhodio, ac yn cadw y ddeddf. 25 Eithr am y Cenhedloedd y rhai a gredasant, ni a ysgrifenasom, ac a farnasom, na bo iddynt gadw dim o’r cyfryw beth; eithr iddynt ymgadw oddi wrth y pethau a aberthwyd i eilunod, a gwaed, a rhag peth tagedig, a rhag puteindra. 26 Yna Paul a gymerth y gwŷr; a thrannoeth, gwedi iddo ymlanhau gyda hwynt, efe a aeth i mewn i’r deml; gan hysbysu cyflawni dyddiau’r glanhad, hyd oni offrymid offrwm dros bob un ohonynt. 27 A phan oedd y saith niwrnod ar ddarfod, yr Iddewon oeddynt o Asia, pan welsant ef yn y deml, a derfysgasant yr holl bobl, ac a ddodasant ddwylo arno, 28 Gan lefain, Ha wŷr Israeliaid, cynorthwywch. Dyma’r dyn sydd yn dysgu pawb ym mhob man yn erbyn y bobl, a’r gyfraith, a’r lle yma: ac ymhellach, y Groegiaid hefyd a ddug efe i mewn i’r deml, ac a halogodd y lle sanctaidd hwn. 29 Canys hwy a welsent o’r blaen Troffimus yr Effesiad yn y ddinas gydag ef, yr hwn yr oeddynt hwy yn tybied ddarfod i Paul ei ddwyn i mewn i’r deml. 30 A chynhyrfwyd y ddinas oll, a’r bobl a redodd ynghyd: ac wedi ymaelyd yn Paul, hwy a’i tynasant ef allan o’r deml: ac yn ebrwydd caewyd y drysau. 31 Ac fel yr oeddynt hwy yn ceisio ei ladd ef, daeth y gair at ben‐capten y fyddin, fod Jerwsalem oll mewn terfysg. 32 Yr hwn allan o law a gymerodd filwyr, a chanwriaid, ac a redodd i waered atynt: hwythau, pan welsant y pen‐capten a’r milwyr, a beidiasant â churo Paul. 33 Yna y daeth y pen‐capten yn nes, ac a’i daliodd ef, ac a archodd ei rwymo ef â dwy gadwyn; ac a ymofynnodd pwy oedd efe, a pha beth a wnaethai. 34 Ac amryw rai a lefent amryw beth yn y dyrfa: ac am nas gallai wybod hysbysrwydd oherwydd y cythrwfl, efe a orchmynnodd ei ddwyn ef i’r castell. 35 A phan oedd efe ar y grisiau, fe a ddigwyddodd gorfod ei ddwyn ef gan y milwyr, o achos trais y dyrfa. 36 Canys yr oedd lliaws y bobl yn canlyn, gan lefain, Ymaith ag ef. 37 A phan oedd Paul ar ei ddwyn i mewn i’r castell, efe a ddywedodd wrth y pen‐capten, Ai rhydd i mi ddywedyd peth wrthyt? Ac efe a ddywedodd, A fedri di Roeg? 38 Onid tydi yw yr Eifftwr, yr hwn o flaen y dyddiau hyn a gyfodaist derfysg, ac a arweiniaist i’r anialwch bedair mil o wŷr llofruddiog? 39 A Phaul a ddywedodd, Gŵr ydwyf fi yn wir o Iddew, un o Darsus, dinesydd o ddinas nid anenwog, o Cilicia; ac yr wyf yn deisyf arnat ti, dyro gennad i mi i lefaru wrth y bobl. 40 Ac wedi iddo roi cennad iddo, Paul a safodd ar y grisiau, ac a amneidiodd â llaw ar y bobl. Ac wedi gwneuthur distawrwydd mawr, efe a lefarodd wrthynt yn Hebraeg, gan ddywedyd,
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.