Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Genesis 21

21 A’r Arglwydd a ymwelodd â Sara fel y dywedasai, a gwnaeth yr Arglwydd i Sara fel y llefarasai. Oherwydd Sara a feichiogodd, ac a ymddûg i Abraham fab yn ei henaint, ar yr amser nodedig y dywedasai Duw wrtho ef. Ac Abraham a alwodd enw ei fab a anesid iddo (yr hwn a ymddygasai Sara iddo ef) Isaac. Ac Abraham a enwaedodd ar Isaac ei fab, yn wyth niwrnod oed; fel y gorchmynasai Duw iddo ef. Ac Abraham oedd fab can mlwydd, pan anwyd iddo ef Isaac ei fab.

A Sara a ddywedodd, Gwnaeth Duw i mi chwerthin; pob un a glywo a chwardd gyda mi. Hi a ddywedodd hefyd, Pwy a ddywedasai i Abraham y rhoesai Sara sugn i blant? canys mi a esgorais ar fab yn ei henaint ef. A’r bachgen a gynyddodd, ac a ddiddyfnwyd: ac Abraham a wnaeth wledd fawr ar y dydd y diddyfnwyd Isaac.

A Sara a welodd fab Agar yr Eifftes, yr hwn a ddygasai hi i Abraham, yn gwatwar. 10 A hi a ddywedodd wrth Abraham, Bwrw allan y gaethforwyn hon a’i mab; oherwydd ni chaiff mab y gaethes hon gydetifeddu â’m mab i Isaac. 11 A’r peth hyn fu ddrwg iawn yng ngolwg Abraham, er mwyn ei fab.

12 A Duw a ddywedodd wrth Abraham, Na fydded drwg yn dy olwg am y llanc, nac am dy gaethforwyn; yr hyn oll a ddywedodd Sara wrthyt, gwrando ar ei llais: oherwydd yn Isaac y gelwir i ti had. 13 Ac am fab y forwyn gaeth hefyd, mi a’i gwnaf ef yn genhedlaeth, oherwydd dy had di ydyw ef. 14 Yna y cododd Abraham yn fore, ac a gymerodd fara, a chostrel o ddwfr, ac a’i rhoddes at Agar, gan osod ar ei hysgwydd hi hynny, a’r bachgen hefyd, ac efe a’i gollyngodd hi ymaith: a hi a aeth, ac a grwydrodd yn anialwch Beer‐seba. 15 A darfu’r dwfr yn y gostrel; a hi a fwriodd y bachgen dan un o’r gwŷdd. 16 A hi a aeth, ac a eisteddodd ei hunan ymhell ar ei gyfer, megis ergyd bwa: canys dywedasai, Ni allaf fi edrych ar y bachgen yn marw. Felly hi a eisteddodd ar ei gyfer, ac a ddyrchafodd ei llef, ac a wylodd. 17 A Duw a wrandawodd ar lais y llanc; ac angel Duw a alwodd ar Agar o’r nefoedd, ac a ddywedodd wrthi, Beth a ddarfu i ti, Agar? nac ofna, oherwydd Duw a wrandawodd ar lais y llanc lle y mae efe. 18 Cyfod, cymer y llanc, ac ymafael ynddo â’th law; oblegid myfi a’i gwnaf ef yn genhedlaeth fawr. 19 A Duw a agorodd ei llygaid hi, a hi a ganfu bydew dwfr; a hi a aeth, ac a lanwodd y gostrel o’r dwfr, ac a ddiododd y llanc. 20 Ac yr oedd Duw gyda’r llanc; ac efe a gynyddodd, ac a drigodd yn yr anialwch, ac a aeth yn berchen bwa. 21 Ac yn anialwch Paran y trigodd efe; a’i fam a gymerodd iddo ef wraig o wlad yr Aifft.

22 Ac yn yr amser hwnnw, Abimelech, a Phichol tywysog ei lu ef, a ymddiddanasant ag Abraham, gan ddywedyd, Duw sydd gyda thi yn yr hyn oll yr ydwyt yn ei wneuthur. 23 Yn awr gan hynny, twng wrthyf fi yma i Dduw, na fyddi anffyddlon i mi, nac i’m mab, nac i’m hŵyr: yn ôl y drugaredd a wneuthum â thi y gwnei di â minnau, ac â’r wlad yr ymdeithiaist ynddi. 24 Ac Abraham a ddywedodd, Mi a dyngaf. 25 Ac Abraham a geryddodd Abimelech, o achos y pydew dwfr a ddygasai gweision Abimelech trwy drais. 26 Ac Abimelech a ddywedodd, Nis gwybûm i pwy a wnaeth y peth hyn: tithau hefyd ni fynegaist i mi, a minnau ni chlywais hynny hyd heddiw. 27 Yna y cymerodd Abraham ddefaid a gwartheg, ac a’u rhoddes i Abimelech; a hwy a wnaethant gynghrair ill dau. 28 Ac Abraham a osododd saith o hesbinod o’r praidd wrthynt eu hunain. 29 Yna y dywedodd Abimelech wrth Abraham, Beth a wna y saith hesbin hyn a osodaist wrthynt eu hunain? 30 Ac yntau a ddywedodd, Canys ti a gymeri y saith hesbin o’m llaw, i fod yn dystiolaeth mai myfi a gloddiais y pydew hwn. 31 Am hynny efe a alwodd enw y lle hwnnw Beer‐seba: oblegid yno y tyngasant ill dau. 32 Felly y gwnaethant gynghrair yn Beer‐seba: a chyfododd Abimelech, a Phichol tywysog ei lu ef, ac a ddychwelasant i dir y Philistiaid.

33 Ac yntau a blannodd goed yn Beer‐seba, ac a alwodd yno ar enw yr Arglwydd Dduw tragwyddol. 34 Ac Abraham a ymdeithiodd ddyddiau lawer yn nhir y Philistiaid.

Mathew 20

20 Canys teyrnas nefoedd sydd debyg i ŵr o berchen tŷ, yr hwn a aeth allan a hi yn dyddhau, i gyflogi gweithwyr i’w winllan. Ac wedi cytuno â’r gweithwyr er ceiniog y dydd, efe a’u hanfonodd hwy i’w winllan. Ac efe a aeth allan ynghylch y drydedd awr, ac a welodd eraill yn sefyll yn segur yn y farchnadfa; Ac a ddywedodd wrthynt, Ewch chwithau i’r winllan; a pha beth bynnag a fyddo cyfiawn, mi a’i rhoddaf i chwi. A hwy a aethant ymaith. Ac efe a aeth allan drachefn ynghylch y chweched a’r nawfed awr, ac a wnaeth yr un modd. Ac efe a aeth allan ynghylch yr unfed awr ar ddeg, ac a gafodd eraill yn sefyll yn segur, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y sefwch chwi yma ar hyd y dydd yn segur? Dywedasant wrtho, Am na chyflogodd neb nyni. Dywedodd yntau wrthynt, Ewch chwithau i’r winllan; a pha beth bynnag fyddo cyfiawn, chwi a’i cewch. A phan aeth hi yn hwyr, arglwydd y winllan a ddywedodd wrth ei oruchwyliwr, Galw’r gweithwyr, a dyro iddynt eu cyflog, gan ddechrau o’r rhai diwethaf hyd y rhai cyntaf. A phan ddaeth y rhai a gyflogasid ynghylch yr unfed awr ar ddeg, hwy a gawsant bob un geiniog. 10 A phan ddaeth y rhai cyntaf, hwy a dybiasant y caent fwy; a hwythau a gawsant bob un geiniog. 11 Ac wedi iddynt gael, grwgnach a wnaethant yn erbyn gŵr y tŷ, 12 Gan ddywedyd, Un awr y gweithiodd y rhai olaf hyn, a thi a’u gwnaethost hwynt yn gystal â ninnau, y rhai a ddygasom bwys y dydd, a’r gwres. 13 Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrth un ohonynt, Y cyfaill, nid ydwyf yn gwneuthur cam â thi: onid er ceiniog y cytunaist â mi? 14 Cymer yr hyn sydd eiddot, a dos ymaith: yr ydwyf yn ewyllysio rhoddi i’r olaf hwn megis i tithau. 15 Onid cyfreithlon i mi wneuthur a fynnwyf â’r eiddof fy hun? neu a ydyw dy lygad di yn ddrwg, am fy mod i yn dda? 16 Felly y rhai olaf fyddant yn flaenaf, a’r rhai blaenaf yn olaf: canys llawer sydd wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis.

17 Ac a’r Iesu yn myned i fyny i Jerwsalem, efe a gymerth y deuddeg disgybl o’r neilltu ar y ffordd, ac a ddywedodd wrthynt, 18 Wele, yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem; a Mab y dyn a draddodir i’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, a hwy a’i condemniant ef i farwolaeth, 19 Ac a’i traddodant ef i’r Cenhedloedd, i’w watwar, ac i’w fflangellu, ac i’w groeshoelio: a’r trydydd dydd efe a atgyfyd.

20 Yna y daeth mam meibion Sebedeus ato gyda’i meibion, gan addoli, a deisyf rhyw beth ganddo. 21 Ac efe a ddywedodd wrthi, Pa beth a fynni? Dywedodd hithau wrtho, Dywed am gael o’m dau fab hyn eistedd, y naill ar dy law ddeau, a’r llall ar dy law aswy, yn dy frenhiniaeth. 22 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Ni wyddoch chwi beth yr ydych yn ei ofyn. A ellwch chwi yfed o’r cwpan yr ydwyf fi ar yfed ohono, a’ch bedyddio â’r bedydd y bedyddir fi? Dywedasant wrtho, Gallwn. 23 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Diau yr yfwch o’m cwpan, ac y’ch bedyddir â’r bedydd y’m bedyddir ag ef: eithr eistedd ar fy llaw ddeau ac ar fy llaw aswy, nid eiddof ei roddi; ond i’r sawl y darparwyd gan fy Nhad. 24 A phan glybu’r deg hyn, hwy a sorasant wrth y ddau frodyr. 25 A’r Iesu a’u galwodd hwynt ato, ac a ddywedodd, Chwi a wyddoch fod penaethiaid y Cenhedloedd yn tra‐arglwyddiaethu arnynt, a’r rhai mawrion yn tra‐awdurdodi arnynt hwy. 26 Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynnag a fynno fod yn fawr yn eich plith chwi, bydded yn weinidog i chwi; 27 A phwy bynnag a fynno fod yn bennaf yn eich plith, bydded yn was i chwi: 28 Megis na ddaeth Mab y dyn i’w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roddi ei einioes yn bridwerth dros lawer.

29 Ac a hwy yn myned allan o Jericho, tyrfa fawr a’i canlynodd ef. 30 Ac wele, dau ddeillion yn eistedd ar fin y ffordd, pan glywsant fod yr Iesu yn myned heibio, a lefasant, gan ddywedyd, Arglwydd, fab Dafydd, trugarha wrthym. 31 A’r dyrfa a’u ceryddodd hwynt, fel y tawent: hwythau a lefasant fwyfwy, gan ddywedyd, Arglwydd, fab Dafydd, trugarha wrthym. 32 A’r Iesu a safodd, ac a’u galwodd hwynt, ac a ddywedodd, Pa beth a ewyllysiwch ei wneuthur ohonof i chwi? 33 Dywedasant wrtho, Arglwydd, agoryd ein llygaid ni. 34 A’r Iesu a dosturiodd wrthynt, ac a gyffyrddodd â’u llygaid: ac yn ebrwydd y cafodd eu llygaid olwg, a hwy a’i canlynasant ef.

Nehemeia 10

10 A’r rhai a seliodd oedd, Nehemeia y Tirsatha, mab Hachaleia, a Sidcia, Seraia, Asareia, Jeremeia, Pasur, Amareia, Malcheia, Hattus, Sebaneia, Maluch, Harim, Meremoth, Obadeia, Daniel, Ginnethon, Baruch, Mesulam, Abeia, Miamin, Maaseia, Bilgai, Semaia: dyma yr offeiriaid. A’r Lefiaid: Jesua mab Asaneia, Binnui o feibion Henadad, Cadmiel; 10 A’u brodyr hwynt; Sebaneia, Hodeia, Celita, Pelaia, Hanan, 11 Micha, Rehob, Hasabeia, 12 Saccur, Serebeia, Sebaneia, 13 Hodeia, Bani, Beninu. 14 Penaethiaid y bobl; Paros, Pahath‐Moab, Elam, Sattu, Bani, 15 Bunni, Asgad, Bebai, 16 Adoneia, Bigfai, Adin, 17 Ater, Hisceia, Assur, 18 Hodeia, Hasum, Besai, 19 Hariff, Anathoth, Nebai, 20 Magpias, Mesulam, Hesir, 21 Mesesabeel, Sadoc, Jadua, 22 Pelatia, Hanan, Anaia, 23 Hosea, Hananeia, Hasub, 24 Halohes, Pileha, Sobec, 25 Rehum, Hasabna, Maaseia, 26 Ac Ahïa, Hanan, Anan, 27 Maluch, Harim, Baana.

28 A’r rhan arall o’r bobl, yr offeiriaid, y Lefiaid, y porthorion, y cantorion, y Nethiniaid, a phawb a’r a ymneilltuasent oddi wrth bobl y gwledydd at gyfraith Dduw, eu gwragedd hwynt, eu meibion, a’u merched, pawb a’r a oedd â gwybodaeth ac â deall ganddo; 29 Hwy a lynasant wrth eu brodyr, eu penaethiaid, ac a aethant mewn rhaith a llw ar rodio yng nghyfraith Dduw, yr hon a roddasid trwy law Moses gwas Duw: ac ar gadw ac ar wneuthur holl orchmynion yr Arglwydd ein Harglwydd ni, a’i farnedigaethau, a’i ddeddfau: 30 Ac ar na roddem ein merched i bobl y wlad: ac na chymerem eu merched hwy i’n meibion ni: 31 Ac o byddai pobl y tir yn dwyn marchnadoedd, neu ddim lluniaeth ar y dydd Saboth i’w werthu, na phrynem ddim ganddynt ar y Saboth, neu ar y dydd sanctaidd; ac y gadawem heibio y seithfed flwyddyn, a chodi pob dyled. 32 A ni a osodasom arnom ddeddfau, ar i ni roddi traean sicl yn y flwyddyn, tuag at wasanaeth tŷ ein Duw ni, 33 A thuag at y bara gosod, a’r bwyd‐offrwm gwastadol, a thuag at y poethoffrwm gwastadol, y Sabothau, y newyddloerau, a’r gwyliau arbennig, a thuag at y cysegredig bethau, a thuag at y pech-ebyrth, i wneuthur cymod dros Israel; a thuag at holl waith tŷ ein Duw. 34 A ni a fwriasom goelbrennau yr offeiriaid, y Lefiaid, a’r bobl, am goed yr offrwm, fel y dygent hwynt i dŷ ein Duw ni, yn ôl tai ein tadau ni, ar amserau nodedig, o flwyddyn i flwyddyn, i’w llosgi ar allor yr Arglwydd ein Duw, fel y mae yn ysgrifenedig yn y gyfraith: 35 Ac i ddwyn blaenffrwyth ein tir, a blaenffrwyth o bob ffrwyth o bob pren, o flwyddyn i flwyddyn, i dŷ yr Arglwydd: 36 A’r rhai cyntaf‐anedig o’n meibion, ac o’n hanifeiliaid, fel y mae yn ysgrifenedig yn y gyfraith, a chyntaf‐anedigion ein gwartheg a’n defaid, i’w dwyn i dŷ ein Duw, at yr offeiriaid sydd yn gwasanaethu yn nhŷ ein Duw ni. 37 A blaenion ein toes, a’n hoffrymau, a ffrwyth pob pren, gwin ac olew, a ddygem at yr offeiriaid i gelloedd tŷ ein Duw, a degwm ein tir i’r Lefiaid; fel y câi y Lefiaid hwythau ddegwm trwy holl ddinasoedd ein llafur ni. 38 A bydd yr offeiriad, mab Aaron, gyda’r Lefiaid, pan fyddo’r Lefiaid yn degymu: a dyged y Lefiaid i fyny ddegfed ran y degwm i dŷ ein Duw ni, i’r celloedd yn y trysordy. 39 Canys meibion Israel a meibion Lefi a ddygant offrwm yr ŷd, y gwin, a’r olew, i’r ystafelloedd, lle y mae llestri’r cysegr, a’r offeiriaid sydd yn gweini, a’r porthorion, a’r cantorion; ac nac ymwrthodwn â thŷ ein Duw.

Actau 20

20 Ac ar ôl gostegu’r cythrwfl, Paul, wedi galw’r disgyblion ato, a’u cofleidio, a ymadawodd i fyned i Facedonia. Ac wedi iddo fyned dros y parthau hynny, a’u cynghori hwynt â llawer o ymadrodd, efe a ddaeth i dir Groeg. Ac wedi aros dri mis, a gwneuthur o’r Iddewon gynllwyn iddo, fel yr oedd ar fedr morio i Syria, efe a arfaethodd ddychwelyd trwy Facedonia. A chydymdeithiodd ag ef hyd yn Asia, Sopater o Berea; ac o’r Thesaloniaid, Aristarchus a Secundus; a Gaius o Derbe, a Timotheus; ac o’r Asiaid, Tychicus a Troffimus. Y rhai hyn a aethant o’r blaen, ac a arosasant amdanom yn Nhroas. A ninnau a fordwyasom ymaith oddi wrth Philipi, ar ôl dyddiau’r bara croyw, ac a ddaethom atynt hwy i Droas mewn pum niwrnod; lle yr arosasom saith niwrnod. Ac ar y dydd cyntaf o’r wythnos, wedi i’r disgyblion ddyfod ynghyd i dorri bara, Paul a ymresymodd â hwynt, ar fedr myned ymaith drannoeth; ac efe a barhaodd yn ymadrodd hyd hanner nos. Ac yr oedd llawer o lampau yn y llofft lle yr oeddynt wedi ymgasglu. A rhyw ŵr ieuanc, a’i enw Eutychus, a eisteddai mewn ffenestr: ac efe a syrthiodd mewn trymgwsg, tra oedd Paul yn ymresymu yn hir, wedi ei orchfygu gan gwsg, ac a gwympodd i lawr o’r drydedd lofft; ac a gyfodwyd i fyny yn farw. 10 A Phaul a aeth i waered, ac a syrthiodd arno ef, a chan ei gofleidio, a ddywedodd, Na chyffroed arnoch: canys y mae ei enaid ynddo ef. 11 Ac wedi iddo ddyfod i fyny, a thorri bara, a bwyta, ac ymddiddan llawer hyd doriad y dydd; felly efe a aeth ymaith. 12 A hwy a ddygasant y llanc yn fyw, ac a gysurwyd yn ddirfawr.

13 Ond nyni a aethom o’r blaen i’r llong, ac a hwyliasom i Asos; ar fedr oddi yno dderbyn Paul: canys felly yr oedd efe wedi ordeinio, ar fedr myned ei hun ar ei draed. 14 A phan gyfarfu efe â ni yn Asos, nyni a’i derbyniasom ef i mewn, ac a ddaethom i Mitylene. 15 A morio a wnaethom oddi yno, a dyfod drannoeth gyferbyn â Chios; a thradwy y tiriasom yn Samos, ac a arosasom yn Trogylium; a’r ail dydd y daethom i Miletus. 16 Oblegid Paul a roddasai ei fryd ar hwylio heibio i Effesus, fel na byddai iddo dreulio amser yn Asia. Canys brysio yr oedd, os bai bosibl iddo, i fod yn Jerwsalem erbyn dydd y Sulgwyn.

17 Ac o Miletus efe a anfonodd i Effesus, ac a alwodd ato henuriaid yr eglwys. 18 A phan ddaethant ato, efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch, er y dydd cyntaf y deuthum i Asia, pa fodd y bûm i gyda chwi dros yr holl amser; 19 Yn gwasanaethu’r Arglwydd gyda phob gostyngeiddrwydd, a llawer o ddagrau, a phrofedigaethau, y rhai a ddigwyddodd i mi trwy gynllwynion yr Iddewon: 20 Y modd nad ateliais ddim o’r pethau buddiol heb eu mynegi i chwi, a’ch dysgu ar gyhoedd, ac o dŷ i dŷ; 21 Gan dystiolaethu i’r Iddewon, ac i’r Groegiaid hefyd, yr edifeirwch sydd tuag at Dduw, a’r ffydd sydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist. 22 Ac yn awr, wele fi yn rhwym yn yr ysbryd yn myned i Jerwsalem, heb wybod y pethau a ddigwydd imi yno: 23 Eithr bod yr Ysbryd Glân yn tystio i mi ym mhob dinas, gan ddywedyd, fod rhwymau a blinderau yn fy aros. 24 Ond nid wyf fi yn gwneuthur cyfrif o ddim, ac nid gwerthfawr gennyf fy einioes fy hun, os gallaf orffen fy ngyrfa trwy lawenydd, a’r weinidogaeth a dderbyniais gan yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu efengyl gras Duw. 25 Ac yr awron, wele, mi a wn na chewch chwi oll, ymysg y rhai y bûm i yn tramwy yn pregethu teyrnas Dduw, weled fy wyneb i mwyach. 26 Oherwydd paham yr ydwyf yn tystio i chwi y dydd heddiw, fy mod i yn lân oddi wrth waed pawb oll: 27 Canys nid ymateliais rhag mynegi i chwi holl gyngor Duw.

28 Edrychwch gan hynny arnoch eich hunain, ac ar yr holl braidd, ar yr hwn y gosododd yr Ysbryd Glân chwi yn olygwyr, i fugeilio eglwys Dduw, yr hon a bwrcasodd efe â’i briod waed. 29 Canys myfi a wn hyn, y daw, ar ôl fy ymadawiad i, fleiddiau blinion i’ch plith, heb arbed y praidd. 30 Ac ohonoch chwi eich hunain y cyfyd gwŷr yn llefaru pethau gŵyrdraws, i dynnu disgyblion ar eu hôl. 31 Am hynny gwyliwch, a chofiwch, dros dair blynedd na pheidiais i nos a dydd â rhybuddio pob un ohonoch â dagrau. 32 Ac yr awron, frodyr, yr ydwyf yn eich gorchymyn i Dduw, ac i air ei ras ef, yr hwn a all adeiladu ychwaneg, a rhoddi i chwi etifeddiaeth ymhlith yr holl rai a sancteiddiwyd. 33 Arian, neu aur, neu wisg neb, ni chwenychais: 34 Ie, chwi a wyddoch eich hunain, ddarfod i’r dwylo hyn wasanaethu i’m cyfreidiau i, ac i’r rhai oedd gyda mi. 35 Mi a ddangosais i chwi bob peth, mai wrth lafurio felly y mae yn rhaid cynorthwyo’r gweiniaid; a chofio geiriau yr Arglwydd Iesu, ddywedyd ohono ef, mai Dedwydd yw rhoddi yn hytrach na derbyn.

36 Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, efe a roddodd ei liniau i lawr, ac a weddïodd gyda hwynt oll. 37 Ac wylo yn dost a wnaeth pawb: a hwy a syrthiasant ar wddf Paul, ac a’i cusanasant ef; 38 Gan ofidio yn bennaf am y gair a ddywedasai efe, na chaent weled ei wyneb ef mwy. A hwy a’i hebryngasant ef i’r llong.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.