M’Cheyne Bible Reading Plan
18 A’r Arglwydd a ymddangosodd iddo ef yng ngwastadedd Mamre, ac efe yn eistedd wrth ddrws y babell, yng ngwres y dydd. 2 Ac efe a gododd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele driwyr yn sefyll ger ei fron: a phan eu gwelodd, efe a redodd o ddrws y babell i’w cyfarfod hwynt, ac a ymgrymodd tua’r ddaear, 3 Ac a ddywedodd, Fy Arglwydd, os cefais yn awr ffafr yn dy olwg di, na ddos heibio, atolwg, oddi wrth dy was. 4 Cymerer, atolwg, ychydig ddwfr, a golchwch eich traed, a gorffwyswch dan y pren; 5 Ac mi a ddygaf damaid o fara, a chryfhewch eich calon; wedi hynny y cewch fyned ymaith: oherwydd i hynny y daethoch at eich gwas. A hwy a ddywedasant, Gwna felly, fel y dywedaist. 6 Ac Abraham a frysiodd i’r babell at Sara, ac a ddywedodd, Paratoa ar frys dair ffiolaid o flawd peilliaid, tylina, a gwna yn deisennau. 7 Ac Abraham a redodd at y gwartheg, ac a gymerodd lo tyner a da, ac a’i rhoddodd at y llanc, yr hwn a frysiodd i’w baratoi ef. 8 Ac efe a gymerodd ymenyn, a llaeth, a’r llo a baratoesai efe, ac a’i rhoddes o’u blaen hwynt: ac efe a safodd gyda hwynt tan y pren; a hwy a fwytasant.
9 A hwy a ddywedasant wrtho ef, Mae Sara dy wraig? Ac efe a ddywedodd, Wele hi yn y babell. 10 Ac un a ddywedodd, Gan ddychwelyd y dychwelaf atat ynghylch amser bywoliaeth; ac wele fab i Sara dy wraig. A Sara oedd yn clywed wrth ddrws y babell, yr hwn oedd o’i ôl ef. 11 Abraham hefyd a Sara oedd hen, wedi myned mewn oedran; a pheidiasai fod i Sara yn ôl arfer gwragedd. 12 Am hynny y chwarddodd Sara rhyngddi a hi ei hun, gan ddywedyd, Ai gwedi fy heneiddio y bydd i mi drythyllwch, a’m harglwydd yn hen hefyd? 13 A dywedodd yr Arglwydd wrth Abraham, Paham y chwarddodd Sara fel hyn, gan ddywedyd, A blantaf finnau yn wir, wedi fy heneiddio? 14 A fydd dim yn anodd i’r Arglwydd? Ar yr amser nodedig y dychwelaf atat, ynghylch amser bywoliaeth, a mab fydd i Sara. 15 A Sara a wadodd, gan ddywedyd, Ni chwerddais i: oherwydd hi a ofnodd. Yntau a ddywedodd, Nage, oblegid ti a chwerddaist.
16 A’r gwŷr a godasant oddi yno, ac a edrychasant tua Sodom: ac Abraham a aeth gyda hwynt, i’w hanfon hwynt. 17 A’r Arglwydd a ddywedodd, A gelaf fi rhag Abraham yr hyn a wnaf? 18 Canys Abraham yn ddiau a fydd yn genhedlaeth fawr a chref, ac ynddo ef y bendithir holl genhedloedd y ddaear. 19 Canys mi a’i hadwaen ef, y gorchymyn efe i’w blant, ac i’w dylwyth ar ei ôl, gadw ohonynt ffordd yr Arglwydd, gan wneuthur cyfiawnder a barn; fel y dygo’r Arglwydd ar Abraham yr hyn a lefarodd efe amdano. 20 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd, Am fod gwaedd Sodom a Gomorra yn ddirfawr, a’u pechod hwynt yn drwm iawn; 21 Disgynnaf yn awr, ac edrychaf, ai yn ôl eu gwaedd a ddaeth ataf fi, y gwnaethant yn hollol: ac onid e, mynnaf wybod. 22 A’r gwŷr a droesant oddi yno, ac a aethant tua Sodom: ac Abraham yn sefyll eto gerbron yr Arglwydd.
23 Abraham hefyd a nesaodd, ac a ddywedodd, A ddifethi di y cyfiawn hefyd ynghyd â’r annuwiol? 24 Ond odid y mae deg a deugain o rai cyfiawn yn y ddinas: a ddifethi di hwynt hefyd, ac nid arbedi y lle er mwyn y deg a deugain cyfiawn sydd o’i mewn hi? 25 Na byddo i ti wneuthur y cyfryw beth, gan ladd y cyfiawn gyda’r annuwiol, fel y byddo’r cyfiawn megis yr annuwiol: na byddo hynny i ti: oni wna Barnydd yr holl ddaear farn? 26 A dywedodd yr Arglwydd, Os caf fi yn Sodom ddeg a deugain yn gyfiawn o fewn y ddinas, mi a arbedaf yr holl fangre er eu mwyn hwynt. 27 Ac Abraham a atebodd, ac a ddywedodd, Wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Arglwydd, a mi yn llwch ac yn lludw. 28 Ond odid bydd pump yn eisiau o’r deg a deugain cyfiawn: a ddifethi di yr holl ddinas er pump? Yntau a ddywedodd, Na ddifethaf, os caf yno bump a deugain. 29 Ac efe a chwanegodd lefaru wrtho ef eto, ac a ddywedodd, Ond odid ceir yno ddeugain. Yntau a ddywedodd, Nis gwnaf er mwyn y deugain. 30 Ac efe a ddywedodd, O na ddigied fy Arglwydd os llefaraf: Ceir yno ond odid ddeg ar hugain. Yntau a ddywedodd, Nis gwnaf os caf yno ddeg ar hugain. 31 Yna y dywedodd efe, Wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Arglwydd: Ond odid ceir yno ugain. Yntau a ddywedodd, Nis difethaf er mwyn ugain. 32 Yna y dywedodd, O na ddigied fy Arglwydd, a llefaraf y waith hon yn unig: Ond odid ceir yno ddeg. Yntau a ddywedodd, Nis difethaf er mwyn deg. 33 A’r Arglwydd a aeth ymaith pan ddarfu iddo ymddiddan ag Abraham: ac Abraham a ddychwelodd i’w le ei hun.
17 Ac ar ôl chwe diwrnod y cymerodd yr Iesu Pedr, ac Iago, ac Ioan ei frawd, ac a’u dug hwy i fynydd uchel o’r neilltu; 2 A gweddnewidiwyd ef ger eu bron hwy: a’i wyneb a ddisgleiriodd fel yr haul, a’i ddillad oedd cyn wynned â’r goleuni. 3 Ac wele, Moses ac Eleias a ymddangosodd iddynt, yn ymddiddan ag ef. 4 A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu, O Arglwydd, da yw i ni fod yma: os ewyllysi, gwnawn yma dair pabell; un i ti, ac un i Moses, ac un i Eleias. 5 Ac efe eto yn llefaru, wele, cwmwl golau a’u cysgododd hwynt: ac wele, lef o’r cwmwl, yn dywedyd, Hwn yw fy annwyl Fab, yn yr hwn y’m bodlonwyd: gwrandewch arno ef. 6 A phan glybu’r disgyblion hynny: hwy a syrthiasant ar eu hwyneb, ac a ofnasant yn ddirfawr. 7 A daeth yr Iesu, ac a gyffyrddodd â hwynt, ac a ddywedodd, Cyfodwch, ac nac ofnwch. 8 Ac wedi iddynt ddyrchafu eu llygaid, ni welsant neb ond yr Iesu yn unig. 9 Ac fel yr oeddynt yn disgyn o’r mynydd, gorchmynnodd yr Iesu iddynt, gan ddywedyd, Na ddywedwch y weledigaeth i neb, hyd oni atgyfodo Mab y dyn o feirw. 10 A’i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Paham gan hynny y mae’r ysgrifenyddion yn dywedyd, fod yn rhaid dyfod o Eleias yn gyntaf? 11 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Eleias yn wir a ddaw yn gyntaf, ac a adfer bob peth. 12 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, ddyfod o Eleias eisoes: ac nad adnabuant hwy ef, ond gwneuthur ohonynt iddo beth bynnag a fynasant: felly y bydd hefyd i Fab y dyn ddioddef ganddynt hwy. 13 Yna y deallodd y disgyblion mai am Ioan Fedyddiwr y dywedasai efe wrthynt.
14 Ac wedi eu dyfod hwy at y dyrfa, daeth ato ryw ddyn, ac a ostyngodd iddo ar ei liniau, 15 Ac a ddywedodd, Arglwydd, trugarha wrth fy mab, oblegid y mae efe yn lloerig, ac yn flin arno: canys y mae efe yn syrthio yn y tân yn fynych, ac yn y dwfr yn fynych. 16 Ac mi a’i dygais ef at dy ddisgyblion di, ac ni allent hwy ei iacháu ef. 17 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlon a throfaus, pa hyd y byddaf gyda chwi? pa hyd y dioddefaf chwi? dygwch ef yma ataf fi. 18 A’r Iesu a geryddodd y cythraul; ac efe a aeth allan ohono: a’r bachgen a iachawyd o’r awr honno. 19 Yna y daeth y disgyblion at yr Iesu o’r neilltu, ac y dywedasant, Paham na allem ni ei fwrw ef allan? 20 A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Oblegid eich anghrediniaeth: canys yn wir y dywedaf i chwi, Pe bai gennych ffydd megis gronyn o had mwstard, chwi a ddywedech wrth y mynydd hwn, Symud oddi yma draw; ac efe a symudai: ac ni bydd dim amhosibl i chwi. 21 Eithr nid â’r rhywogaeth hyn allan, ond trwy weddi ac ympryd.
22 Ac fel yr oeddynt hwy yn aros yng Ngalilea, dywedodd yr Iesu wrthynt, Mab y dyn a draddodir i ddwylo dynion: 23 A hwy a’i lladdant; a’r trydydd dydd y cyfyd efe. A hwy a aethant yn drist iawn.
24 Ac wedi dyfod ohonynt i Gapernaum, y rhai oedd yn derbyn arian y deyrnged a ddaethant at Pedr, ac a ddywedasant, Onid yw eich athro chwi yn talu teyrnged? 25 Yntau a ddywedodd, Ydyw. Ac wedi ei ddyfod ef i’r tŷ, yr Iesu a achubodd ei flaen ef, gan ddywedyd, Beth yr wyt ti yn ei dybied, Simon? gan bwy y cymer brenhinoedd y ddaear deyrnged neu dreth? gan eu plant eu hun, ynteu gan estroniaid? 26 Pedr a ddywedodd wrtho, Gan estroniaid. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Gan hynny y mae’r plant yn rhyddion. 27 Er hynny, rhag i ni eu rhwystro hwy, dos i’r môr, a bwrw fach, a chymer y pysgodyn a ddêl i fyny yn gyntaf; ac wedi iti agoryd ei safn, ti a gei ddarn o arian: cymer hwnnw, a dyro iddynt drosof fi a thithau.
7 Ac wedi adeiladu y mur, a chyfodi ohonof y dorau, a gosod y porthorion, a’r cantorion, a’r Lefiaid; 2 Yna mi a orchmynnais i Hanani fy mrawd, ac i Hananeia tywysog y palas yn Jerwsalem, canys efe oedd ŵr ffyddlon, ac yn ofni Duw yn fwy na llawer: 3 A mi a ddywedais wrthynt, Nac agorer pyrth Jerwsalem nes gwresogi yr haul; a thra fyddont hwy yn sefyll yno, caeant y drysau, a phreniant: a mi a osodais wylwyr o drigolion Jerwsalem, pob un yn ei wyliadwriaeth, a phob un ar gyfer ei dŷ. 4 A’r ddinas oedd eang a mawr; ac ychydig bobl ynddi: a’r tai nid oeddynt wedi eu hadeiladu.
5 A’m Duw a roddodd yn fy nghalon gynnull y pendefigion, y tywysogion hefyd, a’r bobl, i’w cyfrif wrth eu hachau. A mi a gefais lyfr achau y rhai a ddaethai i fyny yn gyntaf, a chefais yn ysgrifenedig ynddo, 6 Dyma feibion y dalaith, y rhai a ddaeth i fyny o gaethiwed y gaethglud a gaethgludasai Nebuchodonosor brenin Babilon, ac a ddychwelasant i Jerwsalem, ac i Jwda, pob un i’w ddinas ei hun; 7 Y rhai a ddaethant gyda Sorobabel: Jesua, Nehemeia, Asareia, Raamia, Nahamani, Mordecai, Bilsan, Mispereth, Bigfai, Nehum, Baana. Dyma rifedi dynion pobl Israel; 8 Meibion Paros, dwy fil cant a deuddeg a thrigain. 9 Meibion Seffatia, tri chant a deuddeg a thrigain. 10 Meibion Ara, chwe chant a deuddeg a deugain. 11 Meibion Pahath‐Moab, o feibion Jesua a Joab, dwy fil ac wyth gant a thri ar bymtheg. 12 Meibion Elam, mil dau cant a phedwar ar ddeg a deugain. 13 Meibion Sattu, wyth gant a phump a deugain. 14 Meibion Saccai, saith gant a thrigain. 15 Meibion Binnui, chwe chant ac wyth a deugain. 16 Meibion Bebai, chwe chant ac wyth ar hugain. 17 Meibion Asgad, dwy fil tri chant a dau ar hugain. 18 Meibion Adonicam, chwe chant a saith a thrigain. 19 Meibion Bigfai, dwy fil a saith a thrigain. 20 Meibion Adin, chwe chant a phymtheg a deugain. 21 Meibion Ater o Heseceia, tri ar bymtheg a phedwar ugain. 22 Meibion Hasum, tri chant ac wyth ar hugain. 23 Meibion Besai, tri chant a phedwar ar hugain. 24 Meibion Hariff, cant a deuddeg. 25 Meibion Gibeon, pymtheg a phedwar ugain. 26 Gwŷr Bethlehem a Netoffa, cant ac wyth a phedwar ugain. 27 Gwŷr Anathoth, cant ac wyth ar hugain. 28 Gwŷr Beth‐asmafeth, dau a deugain. 29 Gwŷr Ciriath‐jearim, Ceffira, a Beeroth, saith gant a thri a deugain. 30 Gwŷr Rama a Gaba, chwe chant ac un ar hugain. 31 Gwŷr Michmas, cant a dau ar hugain. 32 Gwŷr Bethel ac Ai, cant a thri ar hugain. 33 Gwŷr Nebo arall, deuddeg a deugain. 34 Meibion Elam arall, mil dau cant a phedwar ar ddeg a deugain. 35 Meibion Harim, tri chant ac ugain. 36 Meibion Jericho, tri chant a phump a deugain. 37 Meibion Lod, Hadid, ac Ono, saith gant ac un ar hugain. 38 Meibion Senaa, tair mil naw cant a deg ar hugain.
39 Yr offeiriaid: meibion Jedaia, o dŷ Jesua, naw cant a thri ar ddeg a thrigain. 40 Meibion Immer, mil a deuddeg a deugain. 41 Meibion Pasur, mil dau cant a saith a deugain. 42 Meibion Harim, mil a dau ar bymtheg.
43 Y Lefiaid: meibion Jesua, o Cadmiel, ac o feibion Hodefa, pedwar ar ddeg a thrigain.
44 Y cantorion: meibion Asaff, cant ac wyth a deugain.
45 Y porthorion: meibion Salum, meibion Ater, meibion Talmon, meibion Accub, meibion Hatita, meibion Sobai, cant a thri ar bymtheg ar hugain.
46 Y Nethiniaid: meibion Siha, meibion Hasuffa, meibion Tabbaoth, 47 Meibion Ceros, meibion Sïa, meibion Padon, 48 Meibion Lebana, meibion Hagaba, meibion Salmai, 49 Meibion Hanan, meibion Gidel, meibion Gahar, 50 Meibion Reaia, meibion Resin, meibion Necoda, 51 Meibion Gassam, meibion Ussa, meibion Phasea, 52 Meibion Besai, meibion Meunim, meibion Neffisesim, 53 Meibion Bacbuc, meibion Hacuffa, meibion Harhur, 54 Meibion Baslith, meibion Mehida, meibion Harsa, 55 Meibion Barcos, meibion Sisera, meibion Thama, 56 Meibion Neseia, meibion Hatiffa.
57 Meibion gweision Solomon: meibion Sotai, meibion Soffereth, meibion Perida, 58 Meibion Jaala, meibion Darcon, meibion Gidel, 59 Meibion Seffatia, meibion Hattil, meibion Pochereth o Sebaim, meibion Amon. 60 Yr holl Nethiniaid, a meibion gweision Solomon, oedd dri chant a deuddeg a phedwar ugain. 61 A’r rhai hyn a ddaethant i fyny o Tel‐mela, Tel‐haresa, Cerub, Adon, ac Immer: ond ni fedrent ddangos tŷ eu tadau, na’u hiliogaeth, ai o Israel yr oeddynt. 62 Meibion Delaia, meibion Tobeia, meibion Necoda, chwe chant a dau a deugain.
63 Ac o’r offeiriaid: meibion Habaia, meibion Cos, meibion Barsilai, yr hwn a gymerth un o ferched Barsilai y Gileadiad yn wraig, ac a alwyd ar eu henw hwynt. 64 Y rhai hyn a geisiasant eu hysgrifen ymhlith yr achau, ond nis cafwyd: am hynny y bwriwyd hwynt allan o’r offeiriadaeth. 65 A’r Tirsatha a ddywedodd wrthynt, na fwytaent o’r pethau sancteiddiolaf, hyd oni chyfodai offeiriaid ag Urim ac â Thummim.
66 Yr holl gynulleidfa ynghyd oedd ddwy fil a deugain tri chant a thrigain. 67 Heblaw eu gweision hwynt a’u morynion, y rhai hynny oedd saith mil tri chant a dau ar bymtheg ar hugain: a chanddynt hwy yr oedd dau cant a phump a deugain o gantorion ac o gantoresau. 68 Eu meirch hwynt oedd saith gant ac un ar bymtheg ar hugain; a’u mulod yn ddau cant a phump a deugain; 69 Y camelod oedd bedwar cant a phymtheg ar hugain; yr asynnod oedd chwe mil saith gant ac ugain.
70 A rhai o’r tadau pennaf a roddasant tuag at y gwaith. Y Tirsatha a roddodd i’r trysor fil o ddracmonau aur, deg a deugain o ffiolau, pum cant a deg ar hugain o wisgoedd offeiriaid. 71 A rhai o’r tadau pennaf a roddasant i drysor y gwaith ugain mil o ddracmonau aur, a dwy fil a deucant o bunnau o arian. 72 A’r hyn a roddodd y rhan arall o’r bobl oedd ugain mil o ddracmonau aur, a dwy fil o bunnau yn arian, a saith a thrigain o wisgoedd offeiriaid. 73 A’r offeiriaid, a’r Lefiaid, a’r porthorion, a’r cantorion, a rhai o’r bobl, a’r Nethiniaid, a holl Israel, a drigasant yn eu dinasoedd. A phan ddaeth y seithfed mis, yr oedd meibion Israel yn eu dinasoedd.
17 Gwedi iddynt dramwy trwy Amffipolis ac Apolonia, hwy a ddaethant i Thesalonica, lle yr oedd synagog i’r Iddewon. 2 A Phaul, yn ôl ei arfer, a aeth i mewn atynt, a thros dri Saboth a ymresymodd â hwynt allan o’r ysgrythurau, 3 Gan egluro a dodi ger eu bronnau, mai rhaid oedd i Grist ddioddef, a chyfodi oddi wrth y meirw; ac mai hwn yw’r Crist Iesu, yr hwn yr wyf fi yn ei bregethu i chwi. 4 A rhai ohonynt a gredasant, ac a ymwasgasant â Phaul a Silas, ac o’r Groegwyr crefyddol liaws mawr, ac o’r gwragedd pennaf nid ychydig.
5 Eithr yr Iddewon y rhai oedd heb gredu, gan genfigennu, a gymerasant atynt ryw ddynion drwg o grwydriaid; ac wedi casglu tyrfa, hwy a wnaethant gyffro yn y ddinas, ac a osodasant ar dŷ Jason, ac a geisiasant eu dwyn hwynt allan at y bobl. 6 A phan na chawsant hwynt, hwy a lusgasant Jason, a rhai o’r brodyr, at benaethiaid y ddinas, gan lefain, Y rhai sydd yn aflonyddu’r byd, y rhai hynny a ddaethant yma hefyd; 7 Y rhai a dderbyniodd Jason: ac y mae’r rhai hyn oll yn gwneuthur yn erbyn ordeiniadau Cesar, gan ddywedyd fod brenin arall, sef Iesu. 8 A hwy a gyffroesant y dyrfa, a llywodraethwyr y ddinas hefyd, wrth glywed y pethau hyn. 9 Ac wedi iddynt gael sicrwydd gan Jason a’r lleill, hwy a’u gollyngasant hwynt ymaith.
10 A’r brodyr yn ebrwydd o hyd nos a anfonasant Paul a Silas i Berea: y rhai wedi eu dyfod yno, a aethant i synagog yr Iddewon. 11 Y rhai hyn oedd foneddigeiddiach na’r rhai oedd yn Thesalonica, y rhai a dderbyniasant y gair gyda phob parodrwydd meddwl, gan chwilio beunydd yr ysgrythurau, a oedd y pethau hyn felly. 12 Felly llawer ohonynt a gredasant, ac o’r Groegesau parchedig, ac o wŷr, nid ychydig. 13 A phan wybu’r Iddewon o Thesalonica fod gair Duw yn ei bregethu gan Paul yn Berea hefyd, hwy a ddaethant yno hefyd, gan gyffroi’r dyrfa. 14 Ac yna yn ebrwydd y brodyr a anfonasant Paul ymaith, i fyned megis i’r môr: ond Silas a Thimotheus a arosasant yno. 15 A chyfarwyddwyr Paul a’i dygasant ef hyd Athen; ac wedi derbyn gorchymyn at Silas a Thimotheus, ar iddynt ddyfod ato ar ffrwst, hwy a aethant ymaith.
16 A thra ydoedd Paul yn aros amdanynt yn Athen, ei ysbryd a gynhyrfwyd ynddo, wrth weled y ddinas wedi ymroi i eilunod. 17 Oherwydd hynny yr ymresymodd efe yn y synagog â’r Iddewon, ac â’r rhai crefyddol, ac yn y farchnad beunydd â’r rhai a gyfarfyddent ag ef. 18 A rhai o’r philosophyddion o’r Epicuriaid, ac o’r Stoiciaid, a ymddadleuasant ag ef; a rhai a ddywedasant, Beth a fynnai’r siaradwr hwn ei ddywedyd? a rhai, Tebyg yw ei fod ef yn mynegi duwiau dieithr: am ei fod yn pregethu’r Iesu, a’r atgyfodiad, iddynt. 19 A hwy a’i daliasant ef, ac a’i dygasant i Areopagus, gan ddywedyd, A allwn ni gael gwybod beth yw’r ddysg newydd hon, a draethir gennyt? 20 Oblegid yr wyt ti yn dwyn rhyw bethau dieithr i’n clustiau ni: am hynny ni a fynnem wybod beth a allai’r pethau hyn fod. 21 (A’r holl Atheniaid, a’r dieithriaid y rhai oedd yn ymdeithio yno, nid oeddynt yn cymryd hamdden i ddim arall, ond i ddywedyd neu i glywed rhyw newydd.)
22 Yna y safodd Paul yng nghanol Areopagus, ac a ddywedodd, Ha wŷr Atheniaid, mi a’ch gwelaf chwi ym mhob peth yn dra choelgrefyddol: 23 Canys wrth ddyfod heibio, ac edrych ar eich defosiynau, mi a gefais allor yn yr hon yr ysgrifenasid, I’R DUW NID ADWAENIR. Yr hwn gan hynny yr ydych chwi heb ei adnabod yn ei addoli, hwnnw yr wyf fi yn ei fynegi i chwi. 24 Y Duw a wnaeth y byd, a phob peth sydd ynddo, gan ei fod yn Arglwydd nef a daear, nid yw yn trigo mewn temlau o waith dwylo: 25 Ac nid â dwylo dynion y gwasanaethir ef, fel pe bai arno eisiau dim; gan ei fod ef yn rhoddi i bawb fywyd, ac anadl, a phob peth oll. 26 Ac efe a wnaeth o un gwaed bob cenedl o ddynion, i breswylio ar holl wyneb y ddaear, ac a bennodd yr amseroedd rhagosodedig, a therfynau eu preswylfod hwynt; 27 Fel y ceisient yr Arglwydd, os gallent ymbalfalu amdano ef, a’i gael, er nad yw efe yn ddiau nepell oddi wrth bob un ohonom: 28 Oblegid ynddo ef yr ydym ni yn byw, yn symud, ac yn bod; megis y dywedodd rhai o’ch poëtau chwi eich hunain, Canys ei hiliogaeth ef hefyd ydym ni. 29 Gan ein bod ni gan hynny yn hiliogaeth Duw, ni ddylem ni dybied fod y Duwdod yn debyg i aur, neu arian, neu faen, o gerfiad celfyddyd a dychymyg dyn. 30 A Duw, wedi esgeuluso amseroedd yr anwybodaeth hon, sydd yr awron yn gorchymyn i bob dyn ym mhob man edifarhau: 31 Oherwydd iddo osod diwrnod yn yr hwn y barna efe y byd mewn cyfiawnder, trwy y gŵr a ordeiniodd efe; gan roddi ffydd i bawb, oherwydd darfod iddo ei gyfodi ef oddi wrth y meirw.
32 A phan glywsant sôn am atgyfodiad y meirw, rhai a watwarasant; a rhai a ddywedasant, Ni a’th wrandawn drachefn am y peth hwn. 33 Ac felly Paul a aeth allan o’u plith hwynt. 34 Eithr rhai gwŷr a lynasant wrtho, ac a gredasant: ymhlith y rhai yr oedd Dionysius yr Areopagiad, a gwraig a’i henw Damaris, ac eraill gyda hwynt.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.