M’Cheyne Bible Reading Plan
11 A’r holl ddaear ydoedd o un iaith, ac o un ymadrodd. 2 A bu, a hwy yn ymdaith o’r dwyrain, gael ohonynt wastadedd yn nhir Sinar; ac yno y trigasant. 3 A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Deuwch, gwnawn briddfeini, a llosgwn yn boeth: ac yr ydoedd ganddynt briddfeini yn lle cerrig, a chlai oedd ganddynt yn lle calch. 4 A dywedasant, Moeswch, adeiladwn i ni ddinas, a thŵr, a’i nen hyd y nefoedd, a gwnawn i ni enw, rhag ein gwasgaru ar hyd wyneb yr holl ddaear. 5 A’r Arglwydd a ddisgynnodd i weled y ddinas a’r tŵr a adeiladai meibion dynion. 6 A dywedodd yr Arglwydd, Wele y bobl yn un, ac un iaith iddynt oll, a dyma eu dechreuad hwynt ar weithio: ac yr awr hon nid oes rwystr arnynt am ddim oll a’r a amcanasant ei wneuthur. 7 Deuwch, disgynnwn, a chymysgwn yno eu hiaith hwynt, fel na ddeallont iaith ei gilydd. 8 Felly yr Arglwydd a’u gwasgarodd hwynt oddi yno ar hyd wyneb yr holl ddaear; a pheidiasant ag adeiladu’r ddinas. 9 Am hynny y gelwir ei henw hi Babel; oblegid yno y cymysgodd yr Arglwydd iaith yr holl ddaear, ac oddi yno y gwasgarodd yr Arglwydd hwynt ar hyd wyneb yr holl ddaear.
10 Dyma genedlaethau Sem: Sem ydoedd fab can mlwydd, ac a genhedlodd Arffacsad ddwy flynedd wedi’r dilyw. 11 A Sem a fu fyw wedi iddo genhedlu Arffacsad, bum can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 12 Arffacsad hefyd a fu fyw bymtheng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Sela. 13 Ac Arffacsad a fu fyw gwedi iddo genhedlu Sela, dair o flynyddoedd a phedwar can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 14 Sela hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Heber. 15 A Sela a fu fyw wedi iddo genhedlu Heber, dair o flynyddoedd a phedwar can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 16 Heber hefyd a fu fyw bedair blynedd ar ddeg ar hugain, ac a genhedlodd Peleg. 17 A Heber a fu fyw wedi iddo genhedlu Peleg, ddeng mlynedd ar hugain a phedwar can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 18 Peleg hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Reu. 19 A Pheleg a fu fyw gwedi iddo genhedlu Reu, naw o flynyddoedd a dau can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 20 Reu hefyd a fu fyw ddeuddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Serug. 21 A Reu a fu fyw wedi iddo genhedlu Serug, saith o flynyddoedd a dau can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 22 Serug hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Nachor. 23 A Serug a fu fyw wedi iddo genhedlu Nachor, ddau can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 24 Nachor hefyd a fu fyw naw mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Tera. 25 A Nachor a fu fyw wedi iddo genhedlu Tera, onid un flwyddyn chwech ugain mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 26 Tera hefyd a fu fyw ddeng mlynedd a thrigain, ac a genhedlodd Abram, Nachor, a Haran.
27 A dyma genedlaethau Tera: Tera a genhedlodd Abram, Nachor, a Haran; a Haran a genhedlodd Lot. 28 A Haran a fu farw o flaen Tera ei dad, yng ngwlad ei enedigaeth, o fewn Ur y Caldeaid. 29 Yna y cymerodd Abram a Nachor iddynt wragedd: enw gwraig Abram oedd Sarai; ac enw gwraig Nachor, Milca, merch Haran, tad Milca, a thad Isca. 30 A Sarai oedd amhlantadwy, heb blentyn iddi. 31 A Thera a gymerodd Abram ei fab, a Lot fab Haran, mab ei fab, a Sarai ei waudd, gwraig Abram ei fab; a hwy a aethant allan ynghyd o Ur y Caldeaid, i fyned i dir Canaan; ac a ddaethant hyd yn Haran, ac a drigasant yno. 32 A dyddiau Tera oedd bum mlynedd a dau can mlynedd: a bu farw Tera yn Haran.
10 Ac wedi galw ei ddeuddeg disgybl ato, efe a roddes iddynt awdurdod yn erbyn ysbrydion aflan, i’w bwrw hwynt allan, ac i iacháu pob clefyd a phob afiechyd. 2 Ac enwau’r deuddeg apostolion yw’r rhai hyn: Y cyntaf, Simon, yr hwn a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd; Iago mab Sebedeus, ac Ioan ei frawd; 3 Philip, a Bartholomeus; Thomas, a Mathew y publican; Iago mab Alffeus, a Lebeus, yr hwn a gyfenwid Thadeus; 4 Simon y Canaanead, a Jwdas Iscariot, yr hwn hefyd a’i bradychodd ef. 5 Y deuddeg hyn a anfonodd yr Iesu, ac a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Nac ewch i ffordd y Cenhedloedd, ac i ddinas y Samariaid nac ewch i mewn: 6 Eithr ewch yn hytrach at gyfrgolledig ddefaid tŷ Israel. 7 Ac wrth fyned, pregethwch, gan ddywedyd, Fod teyrnas nefoedd yn nesáu. 8 Iachewch y cleifion, glanhewch y rhai gwahanglwyfus, cyfodwch y meirw, bwriwch allan gythreuliaid: derbyniasoch yn rhad, rhoddwch yn rhad. 9 Na feddwch aur, nac arian, nac efydd i’ch pyrsau; 10 Nac ysgrepan i’r daith, na dwy bais, nac esgidiau, na ffon: canys teilwng i’r gweithiwr ei fwyd. 11 Ac i ba ddinas bynnag neu dref yr eloch, ymofynnwch pwy sydd deilwng ynddi; ac yno trigwch hyd onid eloch ymaith. 12 A phan ddeloch i dŷ, cyferchwch well iddo. 13 Ac os bydd y tŷ yn deilwng, deued eich tangnefedd arno: ac oni bydd yn deilwng, dychweled eich tangnefedd atoch. 14 A phwy bynnag ni’ch derbynio chwi, ac ni wrandawo eich geiriau, pan ymadawoch o’r tŷ hwnnw, neu o’r ddinas honno, ysgydwch y llwch oddi wrth eich traed. 15 Yn wir meddaf i chwi, Esmwythach fydd i dir y Sodomiaid a’r Gomoriaid yn nydd y farn, nag i’r ddinas honno.
16 Wele, yr ydwyf fi yn eich danfon fel defaid yng nghanol bleiddiaid; byddwch chwithau gall fel y seirff, a diniwed fel y colomennod. 17 Eithr ymogelwch rhag dynion; canys hwy a’ch rhoddant chwi i fyny i’r cynghorau, ac a’ch ffrewyllant chwi yn eu synagogau. 18 A chwi a ddygir at lywiawdwyr a brenhinoedd o’m hachos i, er tystiolaeth iddynt hwy ac i’r Cenhedloedd. 19 Eithr pan y’ch rhoddant chwi i fyny, na ofelwch pa fodd neu pa beth a lefaroch: canys rhoddir i chwi yn yr awr honno pa beth a lefaroch. 20 Canys nid chwychwi yw’r rhai sydd yn llefaru, ond Ysbryd eich Tad yr hwn sydd yn llefaru ynoch. 21 A brawd a rydd frawd i fyny i farwolaeth, a thad ei blentyn: a phlant a godant i fyny yn erbyn eu rhieni, ac a barant eu marwolaeth hwynt. 22 A chas fyddwch gan bawb er mwyn fy enw i: ond yr hwn a barhao hyd y diwedd, efe fydd cadwedig. 23 A phan y’ch erlidiant yn y ddinas hon, ffowch i un arall: canys yn wir y dywedaf wrthych, Na orffennwch ddinasoedd Israel, nes dyfod Mab y dyn. 24 Nid yw’r disgybl yn uwch na’i athro, na’r gwas yn uwch na’i arglwydd. 25 Digon i’r disgybl fod fel ei athro, a’r gwas fel ei arglwydd. Os galwasant berchen y tŷ yn Beelsebub, pa faint mwy ei dylwyth ef? 26 Am hynny nac ofnwch hwynt: oblegid nid oes dim cuddiedig, a’r nas datguddir; na dirgel, a’r nas gwybyddir. 27 Yr hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthych chwi yn y tywyllwch, dywedwch yn y goleuni: a’r hyn a glywch yn y glust, pregethwch ar bennau’r tai. 28 Ac nac ofnwch rhag y rhai a laddant y corff, ac ni allant ladd yr enaid; eithr yn hytrach ofnwch yr hwn a ddichon ddistrywio enaid a chorff yn uffern. 29 Oni werthir dau aderyn y to er ffyrling? ac ni syrth un ohonynt ar y ddaear heb eich Tad chwi. 30 Ac y mae, ie, holl wallt eich pen wedi eu cyfrif. 31 Nac ofnwch gan hynny: chwi a delwch fwy na llawer o adar y to. 32 Pwy bynnag gan hynny a’m cyffeso i yng ngŵydd dynion, minnau a’i cyffesaf yntau yng ngŵydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd: 33 A phwy bynnag a’m gwado i yng ngŵydd dynion, minnau a’i gwadaf yntau yng ngŵydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. 34 Na thybygwch fy nyfod i ddanfon tangnefedd ar y ddaear: ni ddeuthum i ddanfon tangnefedd, ond cleddyf. 35 Canys mi a ddeuthum i osod dyn i ymrafaelio yn erbyn ei dad, a’r ferch yn erbyn ei mam, a’r waudd yn erbyn ei chwegr. 36 A gelynion dyn fydd tylwyth ei dŷ ei hun. 37 Yr hwn sydd yn caru tad neu fam yn fwy na myfi, nid yw deilwng ohonof fi: a’r neb sydd yn caru mab neu ferch yn fwy na myfi, nid yw deilwng ohonof fi. 38 A’r hwn nid yw yn cymryd ei groes, ac yn canlyn ar fy ôl i, nid yw deilwng ohonof fi. 39 Y neb sydd yn cael ei einioes, a’i cyll: a’r neb a gollo ei einioes o’m plegid i, a’i caiff hi.
40 Y neb sydd yn eich derbyn chwi, sydd yn fy nerbyn i; a’r neb sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a’m danfonodd i. 41 Y neb sydd yn derbyn proffwyd yn enw proffwyd, a dderbyn wobr proffwyd; a’r neb sydd yn derbyn un cyfiawn yn enw un cyfiawn, a dderbyn wobr un cyfiawn. 42 A phwy bynnag a roddo i’w yfed i un o’r rhai bychain hyn ffiolaid o ddwfr oer yn unig yn enw disgybl, yn wir meddaf i chwi, Ni chyll efe ei wobr.
10 Ac wedi i Esra weddïo a chyffesu, gan wylo a syrthio i lawr o flaen tŷ Dduw, tyrfa fawr o Israel a ymgasglasant ato ef, yn wŷr, ac yn wragedd, ac yn blant: canys y bobl a wylasant ag wylofain mawr. 2 Yna y llefarodd Sechaneia mab Jehiel, o feibion Elam, ac a ddywedodd wrth Esra, Ni a bechasom yn erbyn ein Duw, ac a gytaliasom â gwragedd dieithr o bobl y wlad: eto yn awr y mae gobaith i Israel am hyn. 3 Yn awr, gan hynny, gwnawn gyfamod â’n Duw, ar fwrw allan yr holl wragedd, a’u plant, wrth gyngor yr Arglwydd, a’r rhai a ofnant orchmynion ein Duw: a gwneler yn ôl y gyfraith. 4 Cyfod; canys arnat ti y mae y peth: a ni a fyddwn gyda thi: ymwrola, a gwna. 5 Yna y cyfododd Esra, ac a dyngodd benaethiaid yr offeiriaid a’r Lefiaid, a holl Israel, ar wneuthur yn ôl y peth hyn. A hwy a dyngasant.
6 Yna y cyfododd Esra o flaen tŷ Dduw, ac a aeth i ystafell Johanan mab Eliasib: a phan ddaeth yno, ni fwytaodd fara, ac nid yfodd ddwfr; canys galaru yr oedd am gamwedd y gaethglud. 7 A chyhoeddasant yn Jwda a Jerwsalem, ar i holl feibion y gaethglud ymgasglu i Jerwsalem; 8 A phwy bynnag ni ddelai o fewn tridiau, yn ôl cyngor y penaethiaid a’r henuriaid, efe a gollai ei holl olud, ac yntau a ddidolid oddi wrth gynulleidfa y rhai a gaethgludasid.
9 Felly holl wŷr Jwda a Benjamin a ymgasglasant i Jerwsalem o fewn tridiau: hynny oedd y nawfed mis, ar yr ugeinfed dydd o’r mis; a’r holl bobl a eisteddasant yn heol tŷ Dduw, yn crynu o achos y peth hyn, ac o achos y glawogydd. 10 Ac Esra yr offeiriad a gyfododd, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a bechasoch, ac a gytaliasoch â gwragedd dieithr, gan ychwanegu ar bechod Israel. 11 Ac yn awr rhoddwch foliant i Arglwydd Dduw eich tadau, a gwnewch ei ewyllys ef; ac ysgerwch oddi wrth bobl y tir, ac oddi wrth y gwragedd dieithr. 12 A holl dyrfa Israel a atebasant, ac a ddywedasant â llef uchel, Yn ôl dy air di y mae arnom ni wneuthur. 13 Eithr y bobl sydd lawer, a’r amser yn lawog, ac ni ellir sefyll allan, ac nid gwaith un diwrnod na dau ydyw: canys pechasom yn ddirfawr yn y peth hyn. 14 Safed yn awr ein penaethiaid o’r holl dyrfa, a deued y rhai o’n dinasoedd a gytaliasant â gwragedd dieithr, ar amseroedd gosodedig, a henuriaid pob dinas, a’u barnwyr gyda hwynt, nes troi dicter ein Duw oddi wrthym am y peth hyn.
15 Yn unig Jonathan mab Asahel, a Jahaseia mab Ticfa, a osodwyd ar hyn: Mesulam hefyd a Sabbethai y Lefiad a’u cynorthwyasant hwy. 16 A meibion y gaethglud a wnaethant felly. Ac Esra yr offeiriad, a’r gwŷr oedd bennau‐cenedl tŷ eu tadau, a hwynt oll wrth eu henwau, a neilltuwyd, ac a eisteddasant ar y dydd cyntaf o’r degfed mis, i ymofyn am y peth hyn. 17 A hwy a wnaethant ben â’r holl wŷr a gytaliasent â gwragedd dieithr, erbyn y dydd cyntaf o’r mis cyntaf.
18 A chafwyd o feibion yr offeiriaid, y rhai a gytaliasent â gwragedd dieithr: o feibion Jesua mab Josadac, a’i frodyr; Maaseia, ac Elieser, a Jarib, a Gedaleia. 19 A hwy a roddasant eu dwylo ar fwrw allan eu gwragedd; a chan iddynt bechu, a offrymasant hwrdd o’r praidd dros eu camwedd. 20 Ac o feibion Immer; Hanani, a Sebadeia. 21 Ac o feibion Harim; Maaseia, ac Eleia, a Semaia, a Jehiel, ac Usseia. 22 Ac o feibion Pasur; Elioenai, Maaseia, Ismael, Nethaneel, Josabad, ac Elasa. 23 Ac o’r Lefiaid; Josabad, a Simei, a Chelaia, (hwnnw yw Celita,) Pethaheia, Jwda, ac Elieser. 24 Ac o’r cantorion; Eliasib: ac o’r porthorion; Salum, a Thelem, ac Uri. 25 Ac o Israel: o feibion Paros; Rameia, a Jeseia, a Malcheia, a Miamin, ac Eleasar, a Malcheia, a Benaia. 26 Ac o feibion Elam; Mataneia, Sechareia, a Jehiel, ac Abdi, a Jeremoth, ac Eleia. 27 Ac o feibion Sattu; Elioenai, Eliasib, Mataneia, a Jeremoth, a Sabad, ac Asisa. 28 Ac o feibion Bebai; Jehohanan, Hananeia, Sabbai, ac Athlai. 29 Ac o feibion Bani; Mesulam, Maluch, ac Adaia, Jasub, a Seal, a Ramoth. 30 Ac o feibion Pahath‐Moab; Adna, a Chelal, Benaia, Maaseia, Mataneia, Besaleel, a Binnui, a Manasse. 31 Ac o feibion Harim; Elieser, Isia, Malcheia, Semaia, Simeon, 32 Benjamin, Maluch, a Semareia. 33 O feibion Hasum; Matenai, Matatha, Sabad, Eliffelet, Jeremai, Manasse, a Simei. 34 O feibion Bani; Maadai, Amram, ac Uel, 35 Benaia, Bedeia, Celu, 36 Faneia, Meromoth, Eliasib, 37 Mataneia, Matenai, a Jaasau, 38 A Bani, a Binnui, Simei, 39 A Selemeia, a Nathan, ac Adaia, 40 Machnadebai, Sasai, Sarai, 41 Asareel, a Selemeia, a Semareia, 42 Salum, Amareia, a Joseff. 43 O feibion Nebo; Jeiel, Matitheia, Sabad, Sebina, Jadua, a Joel, a Benaia. 44 Y rhai hyn oll a gymerasent wragedd dieithr: ac yr oedd i rai ohonynt wragedd a ddygasai blant iddynt.
10 Yr oedd rhyw ŵr yn Cesarea, a’i enw Cornelius, canwriad o’r fyddin a elwid yr Italaidd; 2 Gŵr defosiynol, ac yn ofni Duw, ynghyd â’i holl dŷ, ac yn gwneuthur llawer o elusennau i’r bobl, ac yn gweddïo Duw yn wastadol. 3 Efe a welodd mewn gweledigaeth yn eglur, ynghylch y nawfed awr o’r dydd, angel Duw yn dyfod i mewn ato, ac yn dywedyd wrtho, Cornelius. 4 Ac wedi iddo graffu arno, a myned yn ofnus, efe a ddywedodd, Beth sydd, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd wrtho, Dy weddïau di a’th elusennau a ddyrchafasant yn goffadwriaeth gerbron Duw. 5 Ac yn awr anfon wŷr i Jopa, a gyr am Simon, yr hwn a gyfenwir Pedr: 6 Y mae efe yn lletya gydag un Simon, barcer; tŷ’r hwn sydd wrth y môr: efe a ddywed i ti pa beth sydd raid i ti ei wneuthur. 7 A phan ymadawodd yr angel oedd yn ymddiddan â Chornelius, efe a alwodd ar ddau o dylwyth ei dŷ, a milwr defosiynol o’r rhai oedd yn aros gydag ef: 8 Ac wedi iddo fynegi iddynt y cwbl, efe a’u hanfonodd hwynt i Jopa.
9 A thrannoeth, fel yr oeddynt hwy yn ymdeithio, ac yn nesáu at y ddinas, Pedr a aeth i fyny ar y tŷ i weddïo, ynghylch y chweched awr. 10 Ac fe ddaeth arno newyn mawr, ac efe a chwenychai gael bwyd. Ac a hwynt yn paratoi iddo, fe syrthiodd arno lewyg: 11 Ac efe a welai y nef yn agored, a rhyw lestr yn disgyn arno, fel llenlliain fawr, wedi rhwymo ei phedair congl, a’i gollwng i waered hyd y ddaear: 12 Yn yr hon yr oedd pob rhyw bedwarcarnolion y ddaear, a gwylltfilod, ac ymlusgiaid, ac ehediaid y nef. 13 A daeth llef ato, Cyfod, Pedr; lladd, a bwyta. 14 A Phedr a ddywedodd, Nid felly, Arglwydd: canys ni fwyteais i erioed ddim cyffredin neu aflan. 15 A’r llef drachefn a ddywedodd wrtho yr ail waith, Y pethau a lanhaodd Duw, na alw di yn gyffredin. 16 A hyn a wnaed dair gwaith: a’r llestr a dderbyniwyd drachefn i fyny i’r nef. 17 Ac fel yr oedd Pedr yn amau ynddo’i hun beth oedd y weledigaeth a welsai; wele, y gwŷr a anfonasid oddi wrth Cornelius, wedi ymofyn am dŷ Simon, oeddynt yn sefyll wrth y porth. 18 Ac wedi iddynt alw, hwy a ofynasant a oedd Simon, yr hwn a gyfenwid Pedr, yn lletya yno.
19 Ac fel yr oedd Pedr yn meddwl am y weledigaeth, dywedodd yr Ysbryd wrtho, Wele dri wŷr yn dy geisio di. 20 Am hynny cyfod, disgyn, a dos gyda hwynt, heb amau dim: oherwydd myfi a’u hanfonais hwynt. 21 A Phedr, wedi disgyn at y gwŷr a anfonasid oddi wrth Cornelius ato, a ddywedodd, Wele, myfi yw’r hwn yr ydych chwi yn ei geisio: beth yw yr achos y daethoch o’i herwydd? 22 Hwythau a ddywedasant, Cornelius y canwriad, gŵr cyfiawn, ac yn ofni Duw, ac â gair da iddo gan holl genedl yr Iddewon, a rybuddiwyd gan angel sanctaidd, i ddanfon amdanat ti i’w dŷ, ac i wrando geiriau gennyt. 23 Am hynny efe a’u galwodd hwynt i mewn, ac a’u lletyodd hwy. A thrannoeth yr aeth Pedr ymaith gyda hwy, a rhai o’r brodyr o Jopa a aeth gydag ef. 24 A thrannoeth yr aethant i mewn i Cesarea. Ac yr oedd Cornelius yn disgwyl amdanynt; ac efe a alwasai ei geraint a’i annwyl gyfeillion ynghyd. 25 Ac fel yr oedd Pedr yn dyfod i mewn, Cornelius a gyfarfu ag ef, ac a syrthiodd wrth ei draed, ac a’i haddolodd ef. 26 Eithr Pedr a’i cyfododd ef i fyny, gan ddywedyd, Cyfod; dyn wyf finnau hefyd. 27 A than ymddiddan ag ef, efe a ddaeth i mewn, ac a gafodd lawer wedi ymgynnull ynghyd. 28 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch mai anghyfreithlon yw i ŵr o Iddew ymwasgu neu ddyfod at alltud: eithr Duw a ddangosodd i mi na alwn neb yn gyffredin neu yn aflan. 29 O ba herwydd, ie, yn ddi‐nag, y deuthum, pan anfonwyd amdanaf: yr wyf gan hynny yn gofyn am ba achos y danfonasoch amdanaf. 30 A Chornelius a ddywedodd, Er ys pedwar diwrnod i’r awr hon o’r dydd yr oeddwn yn ymprydio, ac ar y nawfed awr yn gweddïo yn fy nhŷ: ac wele, safodd gŵr ger fy mron mewn gwisg ddisglair, 31 Ac a ddywedodd, Cornelius, gwrandawyd dy weddi di, a’th elusennau a ddaethant mewn coffa gerbron Duw. 32 Am hynny anfon i Jopa, a galw am Simon, yr hwn a gyfenwir Pedr: y mae efe yn lletya yn nhŷ Simon, barcer, yng nglan y môr; yr hwn, pan ddelo atat, a lefara wrthyt. 33 Am hynny yn ddi‐oed myfi a anfonais atat; a thi a wnaethost yn dda ddyfod. Yr awron, gan hynny, yr ŷm ni oll yn bresennol gerbron Duw, i wrando’r holl bethau a orchmynnwyd i ti gan Dduw.
34 Yna yr agorodd Pedr ei enau, ac a ddywedodd, Yr wyf yn deall mewn gwirionedd, nad ydyw Duw dderbyniwr wyneb: 35 Ond ym mhob cenedl, y neb sydd yn ei ofni ef, ac yn gweithredu cyfiawnder, sydd gymeradwy ganddo ef. 36 Y gair yr hwn a anfonodd Duw i blant Israel, gan bregethu tangnefedd trwy Iesu Grist: (efe yw Arglwydd pawb oll:) 37 Chwychwi a wyddoch y gair a fu yn holl Jwdea, gan ddechrau o Galilea, wedi’r bedydd a bregethodd Ioan: 38 Y modd yr eneiniodd Duw Iesu o Nasareth â’r Ysbryd Glân, ac â nerth; yr hwn a gerddodd o amgylch gan wneuthur daioni, ac iacháu pawb a’r oedd wedi eu gorthrymu gan ddiafol: oblegid yr oedd Duw gydag ef. 39 A ninnau ydym dystion o’r pethau oll a wnaeth efe yng ngwlad yr Iddewon, ac yn Jerwsalem; yr hwn a laddasant, ac a groeshoeliasant ar bren: 40 Hwn a gyfododd Duw y trydydd dydd, ac a’i rhoddes ef i’w wneuthur yn amlwg; 41 Nid i’r bobl oll, eithr i’r tystion etholedig o’r blaen gan Dduw, sef i ni, y rhai a fwytasom ac a yfasom gydag ef wedi ei atgyfodi ef o feirw. 42 Ac efe a orchmynnodd i ni bregethu i’r bobl, a thystiolaethu, mai efe yw’r hwn a ordeiniwyd gan Dduw yn Farnwr byw a meirw. 43 I hwn y mae’r holl broffwydi yn dwyn tystiolaeth, y derbyn pawb a gredo ynddo ef faddeuant pechodau trwy ei enw ef.
44 A Phedr eto yn llefaru’r geiriau hyn, syrthiodd yr Ysbryd Glân ar bawb a oedd yn clywed y gair. 45 A’r rhai o’r enwaediad a oeddynt yn credu, cynifer ag a ddaethent gyda Phedr, a synasant, am dywallt dawn yr Ysbryd Glân ar y Cenhedloedd hefyd. 46 Canys yr oeddynt yn eu clywed hwy yn llefaru â thafodau, ac yn mawrygu Duw. Yna yr atebodd Pedr, 47 A all neb luddias dwfr, fel na fedyddier y rhai hyn, y rhai a dderbyniasant yr Ysbryd Glân fel ninnau? 48 Ac efe a orchmynnodd eu bedyddio hwynt yn enw yr Arglwydd. Yna y deisyfasant arno aros dros ennyd o ddyddiau.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.