Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Genesis 7

Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Noa, Dos di, a’th holl dŷ i’r arch: canys tydi a welais i yn gyfiawn ger fy mron i yn yr oes hon. O bob anifail glân y cymeri gyda thi bob yn saith, y gwryw a’i fenyw; a dau o’r anifeiliaid y rhai nid ydynt lân, y gwryw a’i fenyw: O ehediaid y nefoedd hefyd, bob yn saith, yn wryw ac yn fenyw, i gadw had yn fyw ar wyneb yr holl ddaear. Oblegid wedi saith niwrnod eto, mi a lawiaf ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos: a mi a ddileaf oddi ar wyneb y ddaear bob peth byw a’r a wneuthum i. A Noa a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd iddo. Noa hefyd oedd fab chwe chan mlwydd pan fu’r dyfroedd dilyw ar y ddaear.

A Noa a aeth i mewn, a’i feibion, a’i wraig, a gwragedd ei feibion gydag ef, i’r arch, rhag y dwfr dilyw. O anifeiliaid glân, ac o anifeiliaid y rhai nid oeddynt lân, o ehediaid hefyd, ac o’r hyn oll a ymlusgai ar y ddaear, Yr aeth i mewn at Noa i’r arch bob yn ddau, yn wryw ac yn fenyw, fel y gorchmynasai Duw i Noa. 10 Ac wedi saith niwrnod y dwfr dilyw a ddaeth ar y ddaear.

11 Yn y chwe chanfed flwyddyn o fywyd Noa, yn yr ail mis, ar yr ail dydd ar bymtheg o’r mis, ar y dydd hwnnw y rhwygwyd holl ffynhonnau y dyfnder mawr, a ffenestri’r nefoedd a agorwyd. 12 A’r glaw fu ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos. 13 O fewn corff y dydd hwnnw y daeth Noa, a Sem, a Cham, a Jaffeth, meibion Noa, a gwraig Noa, a thair gwraig ei feibion ef gyda hwynt, i’r arch; 14 Hwynt, a phob bwystfil wrth ei rywogaeth, a phob anifail wrth ei rywogaeth, a phob ymlusgiad a ymlusgai ar y ddaear wrth ei rywogaeth, a phob ehediad wrth ei rywogaeth, pob aderyn o bob rhyw. 15 A daethant at Noa i’r arch bob yn ddau, o bob cnawd a’r oedd ynddo anadl einioes. 16 A’r rhai a ddaethant, yn wryw a benyw y daethant o bob cnawd, fel y gorchmynasai Duw iddo. A’r Arglwydd a gaeodd arno ef. 17 A’r dilyw fu ddeugain niwrnod ar y ddaear; a’r dyfroedd a gynyddasant, ac a godasant yr arch, a hi a godwyd oddi ar y ddaear. 18 A’r dyfroedd a ymgryfhasant, ac a gynyddasant yn ddirfawr ar y ddaear; a’r arch a rodiodd ar wyneb y dyfroedd. 19 A’r dyfroedd a ymgryfhasant yn ddirfawr iawn ar y ddaear, a gorchuddiwyd yr holl fynyddoedd uchel oedd tan yr holl nefoedd. 20 Pymtheg cufydd yr ymgryfhaodd y dyfroedd tuag i fyny: a’r mynyddoedd a orchuddiwyd. 21 A bu farw pob cnawd a ymlusgai ar y ddaear, yn ehediaid, ac yn anifeiliaid, ac yn fwystfilod, ac yn bob rhyw ymlusgiad a ymlusgai ar y ddaear, a phob dyn hefyd. 22 Yr hyn oll yr oedd ffun anadl einioes yn ei ffroenau, o’r hyn oll oedd ar y sychdir, a fuant feirw. 23 Ac efe a ddileodd bob sylwedd byw a’r a oedd ar wyneb y ddaear, yn ddyn ac yn anifail, yn ymlusgiaid, ac yn ehediaid y nefoedd; ie, dilewyd hwynt o’r ddaear: a Noa a’r rhai oedd gydag ef yn yr arch, yn unig, a adawyd yn fyw. 24 A’r dyfroedd a ymgryfhasant ar y ddaear ddeng niwrnod a deugain a chant.

Mathew 7

Na fernwch, fel na’ch barner: Canys â pha farn y barnoch, y’ch bernir; ac â pha fesur y mesuroch, yr adfesurir i chwithau. A phaham yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun? Neu pa fodd y dywedi wrth dy frawd, Gad imi fwrw allan y brycheuyn o’th lygad; ac wele drawst yn dy lygad dy hun? O ragrithiwr, bwrw allan yn gyntaf y trawst o’th lygad dy hun; ac yna y gweli’n eglur fwrw y brycheuyn allan o lygad dy frawd.

Na roddwch y peth sydd sanctaidd i’r cŵn, ac na theflwch eich gemau o flaen y moch; rhag iddynt eu sathru dan eu traed, a throi a’ch rhwygo chwi.

Gofynnwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe agorir i chwi: Canys pob un sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; a’r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i’r hwn sydd yn curo, yr agorir. Neu a oes un dyn ohonoch, yr hwn os gofyn ei fab iddo fara, a rydd iddo garreg? 10 Ac os gofyn efe bysgodyn, a ddyry efe sarff iddo? 11 Os chwychwi gan hynny, a chwi yn ddrwg, a fedrwch roddi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd bethau da i’r rhai a ofynnant iddo? 12 Am hynny pa bethau bynnag oll a ewyllysioch eu gwneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau iddynt hwy: canys hyn yw’r gyfraith a’r proffwydi.

13 Ewch i mewn trwy’r porth cyfyng: canys eang yw’r porth, a llydan yw’r ffordd sydd yn arwain i ddistryw; a llawer yw’r rhai sydd yn myned i mewn trwyddi: 14 Oblegid cyfyng yw’r porth, a chul yw’r ffordd, sydd yn arwain i’r bywyd; ac ychydig yw’r rhai sydd yn ei chael hi.

15 Ymogelwch rhag gau broffwydi, y rhai a ddeuant atoch yng ngwisgoedd defaid, ond oddi mewn bleiddiaid rheibus ydynt hwy. 16 Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. A gasgl rhai rawnwin oddi ar ddrain, neu ffigys oddi ar ysgall? 17 Felly pob pren da sydd yn dwyn ffrwythau da; ond y pren drwg sydd yn dwyn ffrwythau drwg. 18 Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg, na phren drwg ddwyn ffrwythau da. 19 Pob pren heb ddwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân. 20 Oherwydd paham, wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt.

21 Nid pob un sydd yn dywedyd wrthyf, Arglwydd, Arglwydd, a ddaw i mewn i deyrnas nefoedd; ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. 22 Llawer a ddywedant wrthyf yn y dydd hwnnw, Arglwydd, Arglwydd, oni phroffwydasom yn dy enw di? ac oni fwriasom allan gythreuliaid yn dy enw di? ac oni wnaethom wyrthiau lawer yn dy enw di? 23 Ac yna yr addefaf wrthynt, Nid adnabûm chwi erioed: ewch ymaith oddi wrthyf, chwi weithredwyr anwiredd.

24 Gan hynny pwy bynnag sydd yn gwrando fy ngeiriau hyn, ac yn eu gwneuthur, mi a’i cyffelybaf ef i ŵr doeth, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y graig: 25 A’r glaw a ddisgynnodd, a’r llifeiriaint a ddaethant, a’r gwyntoedd a chwythasant, ac a ruthrasant ar y tŷ hwnnw; ac ni syrthiodd: oblegid sylfaenesid ef ar y graig. 26 A phob un a’r sydd yn gwrando fy ngeiriau hyn, ac heb eu gwneuthur, a gyffelybir i ŵr ffôl, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y tywod: 27 A’r glaw a ddisgynnodd, a’r llifddyfroedd a ddaethant, a’r gwyntoedd a chwythasant, ac a gurasant ar y tŷ hwnnw; ac efe a syrthiodd, a’i gwymp a fu fawr. 28 A bu, wedi i’r Iesu orffen y geiriau hyn, y torfeydd a synasant wrth ei ddysgeidiaeth ef: 29 Canys yr oedd efe yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion.

Esra 7

Ac wedi y pethau hyn, yn nheyrnasiad Artacsercses brenin Persia, Esra, mab Seraia, fab Asareia, fab Hilceia, Fab Salum, fab Sadoc, fab Ahitub, Fab Amareia, fab Asareia, fab Meraioth, Fab Seraheia, fab Ussi, fab Bucci, Fab Abisua, fab Phinees, fab Eleasar, fab Aaron yr offeiriad pennaf: Yr Esra hwn a aeth i fyny o Babilon; ac efe oedd ysgrifennydd cyflym yng nghyfraith Moses, yr hon a roddasai Arglwydd Dduw Israel: a’r brenin a roddes iddo ef ei holl ddymuniad, fel yr ydoedd llaw yr Arglwydd ei Dduw arno ef. A rhai a aethant i fyny o feibion Israel, ac o’r offeiriaid, a’r Lefiaid, a’r cantorion, a’r porthorion, a’r Nethiniaid, i Jerwsalem, yn y seithfed flwyddyn i’r brenin Artacsercses. Ac efe a ddaeth i Jerwsalem yn y pumed mis, yr hwn oedd yn y seithfed flwyddyn i’r brenin. Canys ar y dydd cyntaf o’r mis cyntaf y dechreuodd efe fyned i fyny o Babilon; ac ar y dydd cyntaf o’r pumed mis y daeth efe i Jerwsalem, fel yr oedd daionus law ei Dduw gydag ef. 10 Canys Esra a baratoesai ei galon i geisio cyfraith yr Arglwydd, ac i’w gwneuthur, ac i ddysgu yn Israel ddeddfau a barnedigaethau.

11 A dyma ystyr y llythyr a roddodd y brenin Artacsercses i Esra yr offeiriad a’r ysgrifennydd, sef ysgrifennydd geiriau gorchmynion yr Arglwydd, a’i ddeddfau ef i Israel. 12 Artacsercses brenin y brenhinoedd at Esra yr offeiriad, ysgrifennydd deddf Duw y nefoedd, perffaith dangnefedd, a’r amser a’r amser. 13 Myfi a osodais orchymyn, fod i bwy bynnag yn fy nheyrnas i o bobl Israel, ac o’i offeiriaid ef, a’i Lefiaid, sydd ewyllysgar i fyned i Jerwsalem, gael myned gyda thi. 14 Oherwydd dy anfon di oddi wrth y brenin, a’i saith gynghoriaid, i ymweled â Jwda ac â Jerwsalem, wrth gyfraith dy Dduw yr hon sydd yn dy law di; 15 Ac i ddwyn yr arian a’r aur a offrymodd y brenin a’i gynghoriaid, ohonynt eu hunain, i Dduw Israel, yr hwn y mae ei breswylfa yn Jerwsalem, 16 A’r holl arian a’r aur a fedrych ei gael yn holl dalaith Babilon, gydag offrymau gwirfodd y bobl a’r offeiriaid, y rhai a offrymant ohonynt eu hunain tuag at dŷ eu Duw yn Jerwsalem: 17 Fel y prynych yn ebrwydd â’r arian hynny ychen, hyrddod, ŵyn, a’u bwyd‐offrymau, a’u diod‐offrymau, a’u hoffrwm hwynt ar allor tŷ eich Duw yn Jerwsalem. 18 A’r hyn a fyddo da gennyt ti, a chan dy frodyr, ei wneuthur â’r rhan arall o’r arian a’r aur, gwnewch yn ôl ewyllys eich Duw. 19 A’r llestri, y rhai a roddwyd i ti i wasanaeth tŷ dy Dduw, dod adref o flaen dy Dduw yn Jerwsalem. 20 A pheth bynnag ychwaneg a fyddo anghenraid i dŷ dy Dduw, yr hyn a ddigwyddo i ti ei roddi, a roddi di o drysordy y brenin. 21 A minnau y brenin Artacsercses ydwyf yn gosod gorchymyn i holl drysorwyr y tu hwnt i’r afon, beth bynnag a geisio Esra, offeiriad, ac ysgrifennydd deddf Duw y nefoedd, gennych, gwneler yn ebrwydd; 22 Hyd gan talent o arian, a hyd gan corus o wenith, a hyd gan bath o win, a hyd gan bath o olew, a halen heb fesur. 23 Beth bynnag yw gorchymyn Duw y nefoedd, gwneler yn ddyfal i dŷ Duw y nefoedd: canys paham y byddai llidiowgrwydd yn erbyn teyrnas y brenin a’i feibion? 24 Yr ydym yn hysbysu i chwi hefyd, am yr holl offeiriaid, a’r Lefiaid, cantorion, porthorion, Nethiniaid, a gweinidogion y tŷ Dduw hwn, na ellir bwrw arnynt doll, na theyrnged, na threth. 25 Tithau, Esra, yn ôl doethineb dy Dduw, yr hwn sydd yn dy law, gosod swyddogion a barnwyr, i farnu yr holl bobl o’r tu hwnt i’r afon, y rhai oll a fedrant gyfraith dy Dduw; a dysgwch y rhai nis medrant. 26 A phwy bynnag ni wnelo gyfraith dy Dduw, a chyfraith y brenin, gwneler barn yn ebrwydd arno ef, pa un bynnag ai i farwolaeth, ai i’w ddeol, ai i ddirwy o dda, ai i garchar.

27 Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw ein tadau, yr hwn a roddes fel hyn yng nghalon y brenin, i harddu tŷ yr Arglwydd yr hwn sydd yn Jerwsalem: 28 Ac a barodd i mi drugaredd o flaen y brenin a’i gynghoriaid, ac o flaen holl gedyrn dywysogion y brenin. A mi a gynorthwywyd, fel yr oedd llaw yr Arglwydd fy Nuw arnaf fi, a chesglais o Israel benaethiaid i fyned i fyny gyda mi.

Actau 7

Yna y dywedodd yr archoffeiriad, A ydyw’r pethau hyn felly? Yntau a ddywedodd, Ha wŷr, frodyr, a thadau, gwrandewch: Duw y gogoniant a ymddangosodd i’n tad Abraham, pan oedd efe ym Mesopotamia, cyn iddo drigo yn Charran; Ac a ddywedodd wrtho, Dos allan o’th wlad, ac oddi wrth dy dylwyth, a thyred i’r tir a ddangoswyf i ti. Yna y daeth efe allan o dir y Caldeaid, ac y preswyliodd yn Charran: ac oddi yno, wedi marw ei dad, efe a’i symudodd ef i’r tir yma, yn yr hwn yr ydych chwi yn preswylio yr awr hon. Ac ni roes iddo etifeddiaeth ynddo, naddo led troed; ac efe a addawodd ei roddi iddo i’w feddiannu, ac i’w had ar ei ôl, pryd nad oedd plentyn iddo. A Duw a lefarodd fel hyn; Dy had di a fydd ymdeithydd mewn gwlad ddieithr, a hwy a’i caethiwant ef, ac a’i drygant, bedwar can mlynedd. Eithr y genedl yr hon a wasanaethant hwy, a farnaf fi, medd Duw: ac wedi hynny y deuant allan, ac a’m gwasanaethant i yn y lle hwn. Ac efe a roddes iddo gyfamod yr enwaediad. Felly Abraham a genhedlodd Isaac, ac a enwaedodd arno yr wythfed dydd: ac Isaac a genhedlodd Jacob; a Jacob a genhedlodd y deuddeg patriarch. A’r patrieirch, gan genfigennu, a werthasant Joseff i’r Aifft: ond yr oedd Duw gydag ef, 10 Ac a’i hachubodd ef o’i holl orthrymderau, ac a roes iddo hawddgarwch a doethineb yng ngolwg Pharo brenin yr Aifft; ac efe a’i gosododd ef yn llywodraethwr ar yr Aifft, ac ar ei holl dŷ. 11 Ac fe ddaeth newyn dros holl dir yr Aifft a Chanaan, a gorthrymder mawr; a’n tadau ni chawsant luniaeth. 12 Ond pan glybu Jacob fod ŷd yn yr Aifft, efe a anfonodd ein tadau ni allan yn gyntaf. 13 A’r ail waith yr adnabuwyd Joseff gan ei frodyr; a chenedl Joseff a aeth yn hysbys i Pharo. 14 Yna yr anfonodd Joseff, ac a gyrchodd ei dad Jacob, a’i holl genedl, pymtheg enaid a thrigain. 15 Felly yr aeth Jacob i waered i’r Aifft, ac a fu farw, efe a’n tadau hefyd. 16 A hwy a symudwyd i Sichem, ac a ddodwyd yn y bedd a brynasai Abraham er arian gan feibion Emor tad Sichem. 17 A phan nesaodd amser yr addewid, yr hwn a dyngasai Duw i Abraham, y bobl a gynyddodd ac a amlhaodd yn yr Aifft, 18 Hyd oni chyfododd brenin arall, yr hwn nid adwaenai mo Joseff. 19 Hwn a fu ddichellgar wrth ein cenedl ni, ac a ddrygodd ein tadau, gan beri iddynt fwrw allan eu plant, fel nad epilient. 20 Ar yr hwn amser y ganwyd Moses; ac efe oedd dlws i Dduw, ac a fagwyd dri mis yn nhŷ ei dad. 21 Ac wedi ei fwrw ef allan, merch Pharo a’i cyfododd ef i fyny, ac a’i magodd ef yn fab iddi ei hun. 22 A Moses oedd ddysgedig yn holl ddoethineb yr Eifftiaid, ac oedd nerthol mewn geiriau ac mewn gweithredoedd. 23 A phan oedd efe yn llawn deugain mlwydd oed, daeth i’w galon ef ymweled â’i frodyr plant yr Israel. 24 A phan welodd efe un yn cael cam, efe a’i hamddiffynnodd ef, ac a ddialodd gam yr hwn a orthrymid, gan daro’r Eifftiwr. 25 Ac efe a dybiodd fod ei frodyr yn deall, fod Duw yn rhoddi iachawdwriaeth iddynt trwy ei law ef; eithr hwynt‐hwy ni ddeallasant. 26 A’r dydd nesaf yr ymddangosodd efe iddynt, a hwy yn ymrafaelio, ac a’u hanogodd hwynt i heddychu, gan ddywedyd, Ha wŷr, brodyr ydych chwi; paham y gwnewch gam â’ch gilydd? 27 Ond yr hwn oedd yn gwneuthur cam â’i gymydog, a’i cilgwthiodd ef, gan ddywedyd, Pwy a’th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr arnom ni? 28 A leddi di fi, y modd y lleddaist yr Eifftiwr ddoe? 29 A Moses a ffodd ar y gair hwn, ac a fu ddieithr yn nhir Midian; lle y cenhedlodd efe ddau o feibion. 30 Ac wedi cyflawni deugain mlynedd, yr ymddangosodd iddo yn anialwch mynydd Seina, angel yr Arglwydd mewn fflam dân mewn perth. 31 A Moses, pan welodd, a fu ryfedd ganddo y golwg: a phan nesaodd i ystyried, daeth llef yr Arglwydd ato, gan ddywedyd, 32 Myfi yw Duw dy dadau, Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob. A Moses, wedi myned yn ddychrynedig, ni feiddiai ystyried. 33 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrtho, Datod dy esgidiau oddi am dy draed; canys y lle yr wyt yn sefyll ynddo sydd dir sanctaidd. 34 Gan weled y gwelais ddrygfyd fy mhobl y rhai sydd yn yr Aifft, a mi a glywais eu griddfan, ac a ddisgynnais i’w gwared hwy. Ac yn awr tyred, mi a’th anfonaf di i’r Aifft. 35 Y Moses yma, yr hwn a wrthodasant hwy, gan ddywedyd, Pwy a’th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr? hwn a anfonodd Duw yn llywydd ac yn waredwr, trwy law yr angel, yr hwn a ymddangosodd iddo yn y berth. 36 Hwn a’u harweiniodd hwynt allan, gan wneuthur rhyfeddodau ac arwyddion yn nhir yr Aifft, ac yn y môr coch, ac yn y diffeithwch ddeugain mlynedd.

37 Hwn yw’r Moses a ddywedodd i feibion Israel, Proffwyd a gyfyd yr Arglwydd eich Duw i chwi o’ch brodyr fel myfi: arno ef y gwrandewch. 38 Hwn yw efe a fu yn yr eglwys yn y diffeithwch, gyda’r angel a ymddiddanodd ag ef ym mynydd Seina, ac â’n tadau ni; yr hwn a dderbyniodd ymadroddion bywiol i’w rhoddi i ni. 39 Yr hwn ni fynnai ein tadau fod yn ufudd iddo, eithr cilgwthiasant ef, a throesant yn eu calonnau i’r Aifft, 40 Gan ddywedyd wrth Aaron, Gwna i ni dduwiau i’n blaenori: oblegid y Moses yma, yr hwn a’n dug ni allan o dir yr Aifft, ni wyddom ni beth a ddigwyddodd iddo. 41 A hwy a wnaethant lo yn y dyddiau hynny, ac a offrymasant aberth i’r eilun, ac a ymlawenhasant yng ngweithredoedd eu dwylo eu hun. 42 Yna y trodd Duw, ac a’u rhoddes hwy i fyny i wasanaethu llu’r nef; fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr y proffwydi, A offrymasoch i mi laddedigion ac aberthau ddeugain mlynedd yn yr anialwch, chwi tŷ Israel? 43 A chwi a gymerasoch babell Moloch, a seren eich duw Remffan, lluniau y rhai a wnaethoch i’w haddoli: minnau a’ch symudaf chwi tu hwnt i Fabilon. 44 Tabernacl y dystiolaeth oedd ymhlith ein tadau yn yr anialwch, fel y gorchmynasai yr hwn a ddywedai wrth Moses, am ei wneuthur ef yn ôl y portreiad a welsai. 45 Yr hwn a ddarfu i’n tadau ni ei gymryd, a’i ddwyn i mewn gydag Iesu i berchenogaeth y Cenhedloedd, y rhai a yrrodd Duw allan o flaen ein tadau, hyd yn nyddiau Dafydd; 46 Yr hwn a gafodd ffafr gerbron Duw, ac a ddymunodd gael tabernacl i Dduw Jacob. 47 Eithr Solomon a adeiladodd dŷ iddo ef. 48 Ond nid yw’r Goruchaf yn trigo mewn temlau o waith dwylo; fel y mae’r proffwyd yn dywedyd, 49 Y nef yw fy ngorseddfainc, a’r ddaear yw troedfainc fy nhraed. Pa dŷ a adeiledwch i mi? medd yr Arglwydd; neu pa le fydd i’m gorffwysfa i? 50 Onid fy llaw i a wnaeth hyn oll?

51 Chwi rai gwargaled, a dienwaededig o galon ac o glustiau, yr ydych chwi yn wastad yn gwrthwynebu’r Ysbryd Glân: megis eich tadau, felly chwithau. 52 Pa un o’r proffwydi ni ddarfu i’ch tadau chwi ei erlid? a hwy a laddasant y rhai oedd yn rhagfynegi dyfodiad y Cyfiawn, i’r hwn yr awron y buoch chwi fradwyr a llofruddion: 53 Y rhai a dderbyniasoch y gyfraith trwy drefniad angylion, ac nis cadwasoch.

54 A phan glywsant hwy’r pethau hyn, hwy a ffromasant yn eu calonnau, ac a ysgyrnygasant ddannedd arno. 55 Ac efe, yn gyflawn o’r Ysbryd Glân, a edrychodd yn ddyfal tua’r nef; ac a welodd ogoniant Duw, a’r Iesu yn sefyll ar ddeheulaw Duw. 56 Ac efe a ddywedodd, Wele, mi a welaf y nefoedd yn agored, a Mab y dyn yn sefyll ar ddeheulaw Duw. 57 Yna y gwaeddasant â llef uchel, ac a gaeasant eu clustiau, ac a ruthrasant yn unfryd arno, 58 Ac a’i bwriasant allan o’r ddinas, ac a’i llabyddiasant: a’r tystion a ddodasant eu dillad wrth draed dyn ieuanc a elwid Saul. 59 A hwy a labyddiasant Steffan, ac efe yn galw ar Dduw, ac yn dywedyd, Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd. 60 Ac efe a ostyngodd ar ei liniau, ac a lefodd â llef uchel, Arglwydd, na ddod y pechod hwn yn eu herbyn. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a hunodd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.