M’Cheyne Bible Reading Plan
5 Dyma lyfr cenedlaethau Adda: yn y dydd y creodd Duw ddyn, ar lun Duw y gwnaeth efe ef. 2 Yn wryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt: ac efe a’u bendithiodd hwynt, ac a alwodd eu henw hwynt Adda, ar y dydd y crewyd hwynt.
3 Ac Adda a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain a chant, ac a genhedlodd fab ar ei lun a’i ddelw ei hun, ac a alwodd ei enw ef Seth. 4 A dyddiau Adda, wedi iddo genhedlu Seth, oedd wyth gan mlynedd, ac efe a genhedlodd feibion a merched. 5 A holl ddyddiau Adda, y rhai y bu efe fyw, oedd naw can mlynedd a deng mlynedd ar hugain; ac efe a fu farw.
6 Seth hefyd a fu fyw bum mlynedd a chan mlynedd, ac a genhedlodd Enos. 7 A Seth a fu fyw wedi iddo genhedlu Enos, saith mlynedd ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 8 A holl ddyddiau Seth oedd ddeuddeng mlynedd a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.
9 Ac Enos a fu fyw ddeng mlynedd a phedwar ugain, ac a genhedlodd Cenan. 10 Ac Enos a fu fyw wedi iddo genhedlu Cenan, bymtheng mlynedd ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 11 A holl ddyddiau Enos oedd bum mlynedd a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.
12 Cenan hefyd a fu fyw ddeng mlynedd a thrigain, ac a genhedlodd Mahalaleel. 13 A bu Cenan fyw wedi iddo genhedlu Mahalaleel ddeugain mlynedd ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 14 A holl ddyddiau Cenan oedd ddeng mlynedd a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.
15 A Mahalaleel a fu fyw bum mlynedd a thrigain mlynedd, ac a genhedlodd Jered. 16 A Mahalaleel a fu fyw wedi iddo genhedlu Jered, ddeng mlynedd ar hugain ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 17 A holl ddyddiau Mahalaleel oedd bymtheng mlynedd a phedwar ugain ac wyth gan mlynedd; ac efe a fu farw.
18 A Jered a fu fyw ddwy flynedd a thrigain a chan mlynedd, ac a genhedlodd Enoch. 19 A Jered a fu fyw wedi iddo genhedlu Enoch wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 20 A holl ddyddiau Jered oedd ddwy flynedd a thrigain a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.
21 Enoch hefyd a fu fyw bum mlynedd a thrigain, ac a genhedlodd Methwsela. 22 Ac Enoch a rodiodd gyda Duw wedi iddo genhedlu Methwsela, dri chant o flynyddoedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 23 A holl ddyddiau Enoch oedd bum mlynedd a thrigain a thri chant o flynyddoedd. 24 A rhodiodd Enoch gyda Duw, ac ni welwyd ef; canys Duw a’i cymerodd ef.
25 Methwsela hefyd a fu fyw saith mlynedd a phedwar ugain a chant, ac a genhedlodd Lamech. 26 A Methwsela a fu fyw wedi iddo genhedlu Lamech, ddwy flynedd a phedwar ugain a saith gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 27 A holl ddyddiau Methwsela oedd naw mlynedd a thrigain a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.
28 Lamech hefyd a fu fyw ddwy flynedd a phedwar ugain a chan mlynedd, ac a genhedlodd fab; 29 Ac a alwodd ei enw ef Noa, gan ddywedyd, Hwn a’n cysura ni am ein gwaith, a llafur ein dwylo, oherwydd y ddaear yr hon a felltigodd yr Arglwydd. 30 A Lamech a fu fyw wedi iddo genhedlu Noa, bymtheng mlynedd a phedwar ugain a phum can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 31 A holl ddyddiau Lamech oedd ddwy flynedd ar bymtheg a thrigain a saith gan mlynedd; ac efe a fu farw. 32 A Noa ydoedd fab pum can mlwydd; a Noa a genhedlodd Sem, Cham, a Jaffeth.
5 A phan welodd yr Iesu y tyrfaoedd, efe a esgynnodd i’r mynydd: ac wedi iddo eistedd, ei ddisgyblion a ddaethant ato. 2 Ac efe a agorodd ei enau, ac a’u dysgodd hwynt, gan ddywedyd, 3 Gwyn eu byd y tlodion yn yr ysbryd: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd. 4 Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru: canys hwy a ddiddenir. 5 Gwyn eu byd y rhai addfwyn: canys hwy a etifeddant y ddaear. 6 Gwyn eu byd y rhai sydd arnynt newyn a syched am gyfiawnder: canys hwy a ddiwellir. 7 Gwyn eu byd y rhai trugarogion: canys hwy a gânt drugaredd. 8 Gwyn eu byd y rhai pur o galon: canys hwy a welant Dduw. 9 Gwyn eu byd y tangnefeddwyr: canys hwy a elwir yn blant i Dduw. 10 Gwyn eu byd y rhai a erlidir o achos cyfiawnder: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd. 11 Gwyn eich byd pan y’ch gwaradwyddant, ac y’ch erlidiant, ac y dywedant bob drygair yn eich erbyn er fy mwyn i, a hwy yn gelwyddog. 12 Byddwch lawen a hyfryd: canys mawr yw eich gwobr yn y nefoedd: oblegid felly yr erlidiasant hwy’r proffwydi a fu o’ch blaen chwi.
13 Chwi yw halen y ddaear: eithr o diflasodd yr halen, â pha beth yr helltir ef? ni thâl efe mwy ddim ond i’w fwrw allan, a’i sathru gan ddynion. 14 Chwi yw goleuni’r byd. Dinas a osodir ar fryn, ni ellir ei chuddio. 15 Ac ni oleuant gannwyll, a’i dodi dan lestr, ond mewn canhwyllbren; a hi a oleua i bawb sydd yn y tŷ. 16 Llewyrched felly eich goleuni gerbron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd.
17 Na thybiwch fy nyfod i dorri’r gyfraith, neu’r proffwydi: ni ddeuthum i dorri, ond i gyflawni. 18 Canys yn wir meddaf i chwi, Hyd onid êl y nef a’r ddaear heibio, nid â un iod nac un tipyn o’r gyfraith heibio, hyd oni chwblhaer oll. 19 Pwy bynnag gan hynny a dorro un o’r gorchmynion lleiaf hyn, ac a ddysgo i ddynion felly, lleiaf y gelwir ef yn nheyrnas nefoedd: ond pwy bynnag a’u gwnelo, ac a’u dysgo i eraill, hwn a elwir yn fawr yn nheyrnas nefoedd. 20 Canys meddaf i chwi, Oni bydd eich cyfiawnder yn helaethach na chyfiawnder yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid, nid ewch i mewn i deyrnas nefoedd.
21 Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na ladd; a phwy bynnag a laddo, euog fydd o farn: 22 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, Pob un a ddigio wrth ei frawd heb ystyr, a fydd euog o farn: a phwy bynnag a ddywedo wrth ei frawd, Raca, a fydd euog o gyngor: a phwy bynnag a ddywedo, O ynfyd, a fydd euog o dân uffern. 23 Gan hynny, os dygi dy rodd i’r allor, ac yno dyfod i’th gof fod gan dy frawd ddim yn dy erbyn; 24 Gad yno dy rodd gerbron yr allor, a dos ymaith: yn gyntaf cymoder di â’th frawd, ac yna tyred ac offrwm dy rodd. 25 Cytuna â’th wrthwynebwr ar frys, tra fyddech ar y ffordd gydag ef; rhag un amser i’th wrthwynebwr dy roddi di yn llaw’r barnwr, ac i’r barnwr dy roddi at y swyddog, a’th daflu yng ngharchar. 26 Yn wir meddaf i ti, Ni ddeui di allan oddi yno, hyd oni thalech y ffyrling eithaf.
27 Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na wna odineb; 28 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi fod pob un sydd yn edrych ar wraig i’w chwenychu hi, wedi gwneuthur eisoes odineb â hi yn ei galon. 29 Ac os dy lygad deau a’th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o’th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i uffern. 30 Ac os dy law ddeau a’th rwystra, tor hi ymaith, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o’th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i uffern. 31 A dywedwyd, Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, rhoed iddi lythyr ysgar: 32 Ond yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, fod pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, ond o achos godineb, yn peri iddi wneuthur godineb: a phwy bynnag a briodo’r hon a ysgarwyd, y mae efe yn gwneuthur godineb.
33 Trachefn, clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na thwng anudon; eithr tâl dy lwon i’r Arglwydd: 34 Ond yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na thwng ddim: nac i’r nef; canys gorseddfa Duw ydyw: 35 Nac i’r ddaear; canys troedfainc ei draed ydyw: nac i Jerwsalem; canys dinas y brenin mawr ydyw. 36 Ac na thwng i’th ben; am na elli wneuthur un blewyn yn wyn, neu yn ddu. 37 Eithr bydded eich ymadrodd chwi, Ie, ie; Nage, nage; oblegid beth bynnag sydd dros ben hyn, o’r drwg y mae.
38 Clywsoch ddywedyd, Llygad am lygad, a dant am ddant: 39 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na wrthwynebwch ddrwg: ond pwy bynnag a’th drawo ar dy rudd ddeau, tro’r llall iddo hefyd. 40 Ac i’r neb a fynno ymgyfreithio â thi, a dwyn dy bais, gad iddo dy gochl hefyd. 41 A phwy bynnag a’th gymhello un filltir, dos gydag ef ddwy. 42 Dyro i’r hwn a ofynno gennyt; ac na thro oddi wrth yr hwn sydd yn ewyllysio echwynna gennyt.
43 Clywsoch ddywedyd, Câr dy gymydog, a chasâ dy elyn. 44 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a’ch melltithiant, gwnewch dda i’r sawl a’ch casânt, a gweddïwch dros y rhai a wnêl niwed i chwi, ac a’ch erlidiant; 45 Fel y byddoch blant i’ch Tad yr hwn sydd yn y nefoedd: canys y mae efe yn peri i’w haul godi ar y drwg a’r da, ac yn glawio ar y cyfiawn a’r anghyfiawn. 46 Oblegid os cerwch y sawl a’ch caro, pa wobr sydd i chwi? oni wna’r publicanod hefyd yr un peth? 47 Ac os cyferchwch well i’ch brodyr yn unig, pa ragoriaeth yr ydych chwi yn ei wneuthur? onid ydyw’r publicanod hefyd yn gwneuthur felly? 48 Byddwch chwi gan hynny yn berffaith, fel y mae eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd yn berffaith.
5 Yna y proffwydi, Haggai y proffwyd, a Sechareia mab Ido, a broffwydasant i’r Iddewon oedd yn Jwda ac yn Jerwsalem; yn enw Duw Israel y proffwydasant iddynt. 2 Yna Sorobabel mab Salathiel, a Jesua mab Josadac, a godasant, ac a ddechreuasant adeiladu tŷ Dduw yr hwn sydd yn Jerwsalem: a phroffwydi Duw oedd gyda hwynt yn eu cynorthwyo.
3 Y pryd hwnnw y daeth atynt hwy Tatnai tywysog y tu yma i’r afon, a Setharbosnai, a’u cyfeillion, ac fel hyn y dywedasant wrthynt; Pwy a roddes i chwi orchymyn i adeiladu y tŷ hwn, ac i sylfaenu y muriau hyn? 4 Yna fel hyn y dywedasom wrthynt; Beth yw enwau y gwŷr a adeiladant yr adeiladaeth yma? 5 A golwg eu Duw oedd ar henuriaid yr Iddewon, fel na wnaethant iddynt beidio, nes dyfod yr achos at Dareius: ac yna yr atebasant trwy lythyr am hyn.
6 Ystyr y llythyr a anfonodd Tatnai tywysog y tu yma i’r afon, a Setharbosnai, a’i gyfeillion yr Affarsachiaid, y rhai oedd o’r tu yma i’r afon, at y brenin Dareius: 7 Anfonasant lythyr ato ef, ac fel hyn yr ysgrifenasid ynddo; Pob heddwch i’r brenin Dareius. 8 Bydded hysbys i’r brenin, fyned ohonom ni i dalaith Jwdea, i dŷ y Duw mawr, a bod yn ei adeiladu ef â meini mawr, a bod yn gosod coed yn ei barwydydd ef; a bod y gwaith yn myned rhagddo ar frys, a’i fod yn llwyddo yn eu dwylo hwynt. 9 Yna y gofynasom i’r henuriaid hynny, ac a ddywedasom wrthynt fel hyn; Pwy a roddes i chwi orchymyn i adeiladu y tŷ hwn, ac i sylfaenu y mur yma? 10 Gofynasom hefyd iddynt eu henwau, fel yr hysbysem i ti, ac fel yr ysgrifennem enwau y gwŷr oedd yn bennau iddynt. 11 A’r geiriau hyn a atebasant hwy i ni, gan ddywedyd, Nyni ydym weision Duw nef a daear, ac yn adeiladu y tŷ yr hwn a adeiladwyd cyn hyn lawer o flynyddoedd; a brenin mawr o Israel a’i hadeiladodd, ac a’i seiliodd ef. 12 Eithr wedi i’n tadau ni ddigio Duw y nefoedd, efe a’u rhoddes hwynt yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, y Caldead; a’r tŷ hwn a ddinistriodd efe, ac a gaethgludodd y bobl i Babilon. 13 Ond yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Babilon y rhoddes y brenin Cyrus orchymyn i adeiladu y tŷ Dduw hwn. 14 A llestri tŷ Dduw hefyd o aur ac arian, y rhai a ddygasai Nebuchodonosor o’r deml yn Jerwsalem, ac a’u dygasai i deml Babilon, y rhai hynny a ddug y brenin Cyrus allan o deml Babilon, a rhoddwyd hwynt i un Sesbassar wrth ei enw, yr hwn a osodasai efe yn dywysog; 15 Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer y llestri hyn, dos, dwg hwynt i’r deml yn Jerwsalem, ac adeilader tŷ Dduw yn ei le. 16 Yna y daeth y Sesbassar hwnnw, ac a osododd sylfeini tŷ Dduw yn Jerwsalem. Ac o’r pryd hwnnw hyd yr awr hon yr ydys yn ei adeiladu, ac nis gorffennwyd ef. 17 Ac yn awr, os da gan y brenin, ceisier yn nhrysordy y brenin yna yn Babilon, a ddarfu i’r brenin Cyrus osod gorchymyn am adeiladu y tŷ Dduw hwn yn Jerwsalem; ac anfoned y brenin ei ewyllys atom am y peth hyn.
5 Eithr rhyw ŵr a’i enw Ananeias gyda Saffira ei wraig, a werthodd dir, 2 Ac a ddarnguddiodd beth o’r gwerth, a’i wraig hefyd o’r gyfrinach, ac a ddug ryw gyfran, ac a’i gosododd wrth draed yr apostolion. 3 Eithr Pedr a ddywedodd, Ananeias, paham y llanwodd Satan dy galon di i ddywedyd celwydd wrth yr Ysbryd Glân, ac i ddarnguddio peth o werth y tir? 4 Tra ydoedd yn aros, onid i ti yr oedd yn aros? ac wedi ei werthu, onid oedd yn dy feddiant di? Paham y gosodaist y peth hwn yn dy galon? ni ddywedaist ti gelwydd wrth ddynion, ond wrth Dduw. 5 Ac Ananeias, pan glybu’r geiriau hyn, a syrthiodd i lawr, ac a drengodd. A daeth ofn mawr ar bawb a glybu’r pethau hyn. 6 A’r gwŷr ieuainc a gyfodasant, ac a’i cymerasant ef, ac a’i dygasant allan, ac a’i claddasant. 7 A bu megis ysbaid tair awr, a’i wraig ef, heb wybod y peth a wnaethid, a ddaeth i mewn. 8 A Phedr a atebodd iddi, Dywed di i mi, Ai er cymaint y gwerthasoch chwi y tir? Hithau a ddywedodd, Ie, er cymaint. 9 A Phedr a ddywedodd wrthi, Paham y cytunasoch i demtio Ysbryd yr Arglwydd? wele draed y rhai a gladdasant dy ŵr di wrth y drws, a hwy a’th ddygant dithau allan. 10 Ac yn y man hi a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a drengodd: a’r gwŷr ieuainc wedi dyfod i mewn, a’i cawsant hi yn farw; ac wedi iddynt ei dwyn hi allan, hwy a’i claddasant hi yn ymyl ei gŵr. 11 A bu ofn mawr ar yr holl eglwys, ac ar bawb oll a glybu’r pethau hyn.
12 A thrwy ddwylo’r apostolion y gwnaed arwyddion a rhyfeddodau lawer ymhlith y bobl; (ac yr oeddynt oll yn gytûn ym mhorth Solomon. 13 Eithr ni feiddiai neb o’r lleill ymgysylltu â hwynt: ond y bobl oedd yn eu mawrhau. 14 A chwanegwyd atynt rai yn credu yn yr Arglwydd, lliaws o wŷr a gwragedd hefyd:) 15 Hyd oni ddygent y rhai cleifion allan ar hyd yr heolydd, a’u gosod ar welyau a glythau, fel o’r hyn lleiaf y cysgodai cysgod Pedr, pan ddelai heibio, rai ohonynt. 16 A lliaws a ddaeth hefyd ynghyd o’r dinasoedd o amgylch Jerwsalem, gan ddwyn rhai cleifion, a rhai a drallodid gan ysbrydion aflan; y rhai a iachawyd oll.
17 A’r archoffeiriad a gyfododd, a’r holl rai oedd gydag ef, yr hon yw heresi’r Sadwceaid, ac a lanwyd o genfigen, 18 Ac a ddodasant eu dwylo ar yr apostolion, ac a’u rhoesant yn y carchar cyffredin. 19 Eithr angel yr Arglwydd o hyd nos a agorodd ddrysau’r carchar, ac a’u dug hwynt allan, ac a ddywedodd, 20 Ewch, sefwch a lleferwch yn y deml wrth y bobl holl eiriau’r fuchedd hon. 21 A phan glywsant, hwy a aethant yn fore i’r deml, ac a athrawiaethasant. Eithr daeth yr archoffeiriad, a’r rhai oedd gydag ef, ac a alwasant ynghyd y cyngor, a holl henuriaid plant yr Israel, ac a ddanfonasant i’r carchar i’w dwyn hwy gerbron. 22 A’r swyddogion, pan ddaethant, ni chawsant hwynt yn y carchar; eithr hwy a ddychwelasant, ac a fynegasant, 23 Gan ddywedyd, Yn wir ni a gawsom y carchar wedi ei gau o’r fath sicraf, a’r ceidwaid yn sefyll allan o flaen y drysau; eithr pan agorasom, ni chawsom neb i mewn. 24 A phan glybu’r archoffeiriad, a blaenor y deml, a’r offeiriaid pennaf, yr ymadroddion hyn, amau a wnaethant yn eu cylch hwy beth a ddeuai o hyn. 25 Yna y daeth un, ac a fynegodd iddynt, gan ddywedyd, Wele, y mae’r gwŷr a ddodasoch chwi yng ngharchar, yn sefyll yn y deml, ac yn dysgu y bobl. 26 Yna y blaenor, gyda’r swyddogion, a aeth, ac a’u dug hwy heb drais; oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl, rhag eu llabyddio; 27 Ac wedi eu dwyn, hwy a’u gosodasant o flaen y cyngor: a’r archoffeiriad a ofynnodd iddynt, 28 Gan ddywedyd, Oni orchmynasom ni, gan orchymyn i chwi nad athrawiaethech yn yr enw hwn? ac wele, chwi a lanwasoch Jerwsalem â’ch athrawiaeth, ac yr ydych yn ewyllysio dwyn arnom ni waed y dyn hwn.
29 A Phedr a’r apostolion a atebasant ac a ddywedasant, Rhaid yw ufuddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion. 30 Duw ein tadau ni a gyfododd i fyny Iesu, yr hwn a laddasoch chwi, ac a groeshoeliasoch ar bren. 31 Hwn a ddyrchafodd Duw â’i ddeheulaw, yn Dywysog, ac yn Iachawdwr, i roddi edifeirwch i Israel, a maddeuant pechodau. 32 A nyni ydym ei dystion ef o’r pethau hyn, a’r Ysbryd Glân hefyd, yr hwn a roddes Duw i’r rhai sydd yn ufuddhau iddo ef.
33 A phan glywsant hwy hynny, hwy a ffromasant, ac a ymgyngorasant am eu lladd hwynt. 34 Eithr rhyw Pharisead a’i enw Gamaliel, doctor o’r gyfraith, parchedig gan yr holl bobl, a gyfododd i fyny yn y cyngor, ac a archodd yrru’r apostolion allan dros ennyd fechan; 35 Ac a ddywedodd wrthynt, Ha wŷr o Israel, edrychwch arnoch eich hunain, pa beth yr ydych ar fedr ei wneuthur am y dynion hyn. 36 Canys o flaen y dyddiau hyn cyfododd Theudas i fyny, gan ddywedyd ei fod ef yn rhyw un; wrth yr hwn y glynodd rhifedi o wŷr, ynghylch pedwar cant: yr hwn a laddwyd, a chynifer oll a ufuddhasant iddo a wasgarwyd, ac a wnaed yn ddiddim. 37 Ar ôl hwn y cyfododd Jwdas y Galilead, yn nyddiau’r dreth; ac efe a drodd bobl lawer ar ei ôl: ac yntau hefyd a ddarfu amdano, a chynifer oll a ufuddhasant iddo a wasgarwyd. 38 Ac yr awron meddaf i chwi, Ciliwch oddi wrth y dynion hyn, a gadewch iddynt: oblegid os o ddynion y mae’r cyngor hwn, neu’r weithred hon, fe a ddiddymir; 39 Eithr os o Dduw y mae, ni ellwch chwi ei ddiddymu, rhag eich cael yn ymladd yn erbyn Duw. 40 A chytuno ag ef a wnaethant. Ac wedi iddynt alw’r apostolion atynt, a’u curo, hwy a orchmynasant iddynt na lefarent yn enw yr Iesu, ac a’u gollyngasant ymaith.
41 A hwy a aethant allan o olwg y cyngor yn llawen, am eu cyfrif hwynt yn deilwng i ddioddef amarch o achos ei enw ef. 42 A beunydd yn y deml, ac o dŷ i dŷ, ni pheidiasant â dysgu a phregethu Iesu Grist.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.