Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Genesis 2

Felly y gorffennwyd y nefoedd a’r ddaear, a’u holl lu hwynt. Ac ar y seithfed dydd y gorffennodd Duw ei waith, yr hwn a wnaethai efe, ac a orffwysodd ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith, yr hwn a wnaethai efe. A Duw a fendigodd y seithfed dydd, ac a’i sancteiddiodd ef: oblegid ynddo y gorffwysasai oddi wrth ei holl waith, yr hwn a greasai Duw i’w wneuthur.

Dyma genedlaethau y nefoedd a’r ddaear, pan grewyd hwynt, yn y dydd y gwnaeth yr Arglwydd Dduw ddaear a nefoedd, A phob planhigyn y maes cyn ei fod yn y ddaear, a phob llysieuyn y maes cyn tarddu allan: oblegid ni pharasai yr Arglwydd Dduw lawio ar y ddaear, ac nid ydoedd dyn i lafurio’r ddaear. Ond tarth a esgynnodd o’r ddaear, ac a ddyfrhaodd holl wyneb y ddaear. A’r Arglwydd Dduw a luniasai y dyn o bridd y ddaear, ac a anadlasai yn ei ffroenau ef anadl einioes: a’r dyn a aeth yn enaid byw.

Hefyd yr Arglwydd Dduw a blannodd ardd yn Eden, o du’r dwyrain, ac a osododd yno y dyn a luniasai efe. A gwnaeth yr Arglwydd Dduw i bob pren dymunol i’r golwg, a daionus yn fwyd, ac i bren y bywyd yng nghanol yr ardd, ac i bren gwybodaeth da a drwg, dyfu allan o’r ddaear. 10 Ac afon a aeth allan o Eden, i ddyfrhau yr ardd, ac oddi yno hi a rannwyd, ac a aeth yn bedwar pen. 11 Enw y gyntaf yw Pison: hon sydd yn amgylchu holl wlad Hafila, lle y mae yr aur: 12 Ac aur y wlad honno sydd dda: yno mae bdeliwm a’r maen onics. 13 Ac enw yr ail afon yw Gihon: honno sydd yn amgylchu holl wlad Ethiopia. 14 Ac enw y drydedd afon yw Hidecel: honno sydd yn myned o du’r dwyrain i Asyria: a’r bedwaredd afon yw Ewffrates. 15 A’r Arglwydd Dduw a gymerodd y dyn, ac a’i gosododd ef yng ngardd Eden, i’w llafurio ac i’w chadw hi. 16 A’r Arglwydd Dduw a orchmynnodd i’r dyn, gan ddywedyd, O bob pren o’r ardd gan fwyta y gelli fwyta: 17 Ond o bren gwybodaeth da a drwg, na fwyta ohono; oblegid yn y dydd y bwytei di ohono, gan farw y byddi farw.

18 Hefyd yr Arglwydd Dduw a ddywedodd, Nid da bod y dyn ei hunan; gwnaf iddo ymgeledd cymwys iddo. 19 A’r Arglwydd Dduw a luniodd o’r ddaear holl fwystfilod y maes, a holl ehediaid y nefoedd, ac a’u dygodd at Adda, i weled pa enw a roddai efe iddynt hwy: a pha fodd bynnag yr enwodd y dyn bob peth byw, hynny fu ei enw ef. 20 Ac Adda a enwodd enwau ar yr holl anifeiliaid, ac ar ehediaid y nefoedd, ac ar holl fwystfilod y maes: ond ni chafodd efe i Adda ymgeledd cymwys iddo. 21 A’r Arglwydd Dduw a wnaeth i drymgwsg syrthio ar Adda, ac efe a gysgodd: ac efe a gymerodd un o’i asennau ef, ac a gaeodd gig yn ei lle hi. 22 A’r Arglwydd Dduw a wnaeth yr asen a gymerasai efe o’r dyn, yn wraig, ac a’i dug at y dyn. 23 Ac Adda a ddywedodd, Hon weithian sydd asgwrn o’m hesgyrn i, a chnawd o’m cnawd i: hon a elwir gwraig, oblegid o ŵr y cymerwyd hi. 24 Oherwydd hyn yr ymedy gŵr â’i dad, ac â’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig: a hwy a fyddant yn un cnawd. 25 Ac yr oeddynt ill dau yn noethion, Adda a’i wraig, ac nid oedd arnynt gywilydd.

Mathew 2

Ac wedi geni’r Iesu ym Methlehem Jwdea, yn nyddiau Herod frenin, wele, doethion a ddaethant o’r dwyrain i Jerwsalem, Gan ddywedyd, Pa le y mae’r hwn a anwyd yn Frenin yr Iddewon? canys gwelsom ei seren ef yn y dwyrain, a daethom i’w addoli ef. Ond pan glybu Herod frenin, efe a gyffrowyd, a holl Jerwsalem gydag ef. A chwedi dwyn ynghyd yr holl archoffeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, efe a ymofynnodd â hwynt pa le y genid Crist. A hwy a ddywedasant wrtho, Ym Methlehem Jwdea: canys felly yr ysgrifennwyd trwy’r proffwyd; A thithau, Bethlehem, tir Jwda, nid lleiaf wyt ymhlith tywysogion Jwda: canys ohonot ti y daw Tywysog, yr hwn a fugeilia fy mhobl Israel. Yna Herod, wedi galw y doethion yn ddirgel, a’u holodd hwynt yn fanwl am yr amser yr ymddangosasai y seren. Ac wedi eu danfon hwy i Fethlehem, efe a ddywedodd, Ewch, ac ymofynnwch yn fanwl am y mab bychan; a phan gaffoch ef, mynegwch i mi, fel y gallwyf finnau ddyfod a’i addoli ef. Hwythau, wedi clywed y brenin, a aethant; ac wele, y seren a welsent yn y dwyrain a aeth o’u blaen hwy, hyd oni ddaeth hi a sefyll goruwch y lle yr oedd y mab bychan. 10 A phan welsant y seren, llawenychasant â llawenydd mawr dros ben.

11 A phan ddaethant i’r tŷ, hwy a welsant y mab bychan gyda Mair ei fam; a hwy a syrthiasant i lawr, ac a’i haddolasant ef: ac wedi agoryd eu trysorau, a offrymasant iddo anrhegion; aur, a thus, a myrr. 12 Ac wedi eu rhybuddio hwy gan Dduw trwy freuddwyd, na ddychwelent at Herod, hwy a aethant drachefn i’w gwlad ar hyd ffordd arall. 13 Ac wedi iddynt ymado, wele angel yr Arglwydd yn ymddangos i Joseff mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Cyfod, cymer y mab bychan a’i fam, a ffo i’r Aifft, a bydd yno hyd oni ddywedwyf i ti: canys ceisio a wna Herod y mab bychan i’w ddifetha ef. 14 Ac yntau pan gyfododd, a gymerth y mab bychan a’i fam o hyd nos, ac a giliodd i’r Aifft; 15 Ac a fu yno hyd farwolaeth Herod: fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy’r proffwyd, gan ddywedyd, O’r Aifft y gelwais fy mab.

16 Yna Herod, pan weles ei siomi gan y doethion, a ffromodd yn aruthr, ac a ddanfonodd, ac a laddodd yr holl fechgyn oedd ym Methlehem, ac yn ei holl gyffiniau, o ddwyflwydd oed a than hynny, wrth yr amser yr ymofynasai efe yn fanwl â’r doethion. 17 Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedasid gan Jeremeias y proffwyd, gan ddywedyd, 18 Llef a glybuwyd yn Rama, galar, ac wylofain, ac ochain mawr, Rachel yn wylo am ei phlant; ac ni fynnai ei chysuro, am nad oeddynt.

19 Ond wedi marw Herod, wele angel yr Arglwydd mewn breuddwyd yn ymddangos i Joseff yn yr Aifft, 20 Gan ddywedyd, Cyfod, a chymer y mab bychan a’i fam, a dos i dir Israel: canys y rhai oedd yn ceisio einioes y mab bychan a fuant feirw. 21 Ac wedi ei gyfodi, efe a gymerth y mab bychan a’i fam, ac a ddaeth i dir Israel. 22 Eithr pan glybu efe fod Archelaus yn teyrnasu ar Jwdea yn lle ei dad Herod, efe a ofnodd fyned yno. Ac wedi ei rybuddio gan Dduw mewn breuddwyd, efe a giliodd i barthau Galilea. 23 A phan ddaeth, efe a drigodd mewn dinas a elwid Nasareth: fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy’r proffwydi, Y gelwid ef yn Nasaread.

Esra 2

A dyma feibion y dalaith y rhai a ddaeth i fyny o gaethiwed y gaethglud, yr hon a gaethgludasai Nebuchodonosor brenin Babilon i Babilon, ac a ddychwelasant i Jerwsalem a Jwda, pob un i’w ddinas ei hun; Y rhai a ddaeth gyda Sorobabel: Jesua, Nehemeia, Seraia, Reelaia, Mordecai, Bilsan, Mispar, Bigfai, Rehum, Baana. Rhifedi gwŷr pobl Israel: Meibion Paros, dwy fil a deuddeg ac wyth ugain. Meibion Seffatia, tri chant a deuddeg a thrigain. Meibion Ara, saith gant a phymtheg a thrigain. Meibion Pahath‐Moab, o feibion Jesua a Joab, dwy fil wyth gant a deuddeg. Meibion Elam, mil dau cant a phedwar ar ddeg a deugain. Meibion Sattu, naw cant a phump a deugain. Meibion Saccai, saith gant a thrigain. 10 Meibion Bani, chwe chant a dau a deugain. 11 Meibion Bebai, chwe chant a thri ar hugain. 12 Meibion Asgad, mil dau cant a dau ar hugain. 13 Meibion Adonicam, chwe chant a chwech a thrigain. 14 Meibion Bigfai, dwy fil ac onid pedwar trigain. 15 Meibion Adin, pedwar cant a phedwar ar ddeg a deugain. 16 Meibion Ater o Heseceia, onid dau pum ugain. 17 Meibion Besai, tri chant a thri ar hugain. 18 Meibion Jora, cant a deuddeg. 19 Meibion Hasum, dau cant a thri ar hugain. 20 Meibion Gibbar, pymtheg a phedwar ugain. 21 Meibion Bethlehem, cant a thri ar hugain. 22 Gwŷr Netoffa, onid pedwar trigain. 23 Gwŷr Anathoth, cant ac wyth ar hugain. 24 Meibion Asmafeth, dau a deugain. 25 Meibion Ciriath‐arim, Ceffira, a Beeroth, saith gant a thri a deugain. 26 Meibion Rama a Gaba, chwe chant ac un ar hugain. 27 Gwŷr Michmas, cant a dau ar hugain. 28 Gwŷr Bethel ac Ai, dau cant a thri ar hugain. 29 Meibion Nebo, deuddeg a deugain. 30 Meibion Magbis, cant ac onid pedwar trigain. 31 Meibion Elam arall, mil dau cant a phedwar ar ddeg a deugain. 32 Meibion Harim, tri chant ac ugain. 33 Meibion Lod, Hadid, ac Ono, saith gant a phump ar hugain. 34 Meibion Jericho, tri chant a phump a deugain. 35 Meibion Senaa, tair mil a chwe chant a deg ar hugain.

36 Yr offeiriaid: meibion Jedaia, o dŷ Jesua, naw cant deg a thrigain a thri. 37 Meibion Immer, mil a deuddeg a deugain. 38 Meibion Pasur, mil dau cant a saith a deugain. 39 Meibion Harim, mil a dau ar bymtheg.

40 Y Lefiaid: meibion Jesua a Chadmiel, o feibion Hodafia, pedwar ar ddeg a thrigain.

41 Y cantoriaid: meibion Asaff, cant ac wyth ar hugain.

42 Meibion y porthorion: sef meibion Salum, meibion Ater, meibion Talmon, meibion Accub, meibion Hatita, meibion Sobai, oedd oll gant ac onid un deugain.

43 Y Nethiniaid: meibion Siha, meibion Hasuffa, meibion Tabbaoth, 44 Meibion Ceros, meibion Sïaha, meibion Padon, 45 Meibion Lebana, meibion Hagaba, meibion Accub, 46 Meibion Hagab, meibion Samlai, meibion Hanan, 47 Meibion Gidel, meibion Gahar, meibion Reaia, 48 Meibion Resin, meibion Necoda, meibion Gassam, 49 Meibion Ussa, meibion Pasea, meibion Besai, 50 Meibion Asna, meibion Mehunim, meibion Neffusim, 51 Meibion Bacbuc, meibion Hacuffa, meibion Harhur, 52 Meibion Basluth, meibion Mehida, meibion Harsa, 53 Meibion Barcos, meibion Sisera, meibion Thama, 54 Meibion Neseia, meibion Hatiffa.

55 Meibion gweision Solomon: meibion Sotai meibion Soffereth, meibion Peruda, 56 Meibion Jaala, meibion Darcon, meibion Gidel, 57 Meibion Seffatia, meibion Hattil, meibion Pochereth o Sebaim, meibion Ami. 58 Yr holl Nethiniaid, a meibion gweision Solomon, oedd dri chant deuddeg a phedwar ugain. 59 A’r rhai hyn a aethant i fyny o Tel‐mela, Tel‐harsa, Cerub, Adan, ac Immer: ond ni fedrent ddangos tŷ eu tadau, na’u hiliogaeth, ai o Israel yr oeddynt: 60 Meibion Delaia, meibion Tobeia, meibion Necoda, chwe chant a deuddeg a deugain.

61 A meibion yr offeiriaid: meibion Habaia, meibion Cos, meibion Barsilai; yr hwn a gymerasai wraig o ferched Barsilai y Gileadiad, ac a alwasid ar eu henw hwynt. 62 Y rhai hyn a geisiasant eu hysgrifen ymhlith yr achau, ond ni chafwyd hwynt: am hynny y bwriwyd hwynt allan o’r offeiriadaeth. 63 A’r Tirsatha a ddywedodd wrthynt, na fwytaent o’r pethau sancteiddiaf, hyd oni chyfodai offeiriad ag Urim ac â Thummim.

64 Yr holl dyrfa ynghyd, oedd ddwy fil a deugain tri chant a thrigain: 65 Heblaw eu gweision a’u morynion; y rhai hynny oedd saith mil tri chant a dau ar bymtheg ar hugain: ac yn eu mysg yr oedd dau cant yn gantorion ac yn gantoresau. 66 Eu meirch oedd saith gant ac onid pedwar deugain; eu mulod yn ddau cant ac yn bump a deugain; 67 Eu camelod yn bedwar cant ac yn bymtheg ar hugain; eu hasynnod yn chwe mil saith gant ac ugain.

68 Ac o’r pennau‐cenedl pan ddaethant i dŷ yr Arglwydd, yr hwn oedd yn Jerwsalem, rhai a offrymasant o’u gwaith eu hun tuag at dŷ yr Arglwydd, i’w gyfodi yn ei le. 69 Rhoddasant yn ôl eu gallu i drysordy y gwaith, un fil a thrigain o ddracmonau aur, a phum mil o bunnoedd o arian, a chant o wisgoedd offeiriaid. 70 Yna yr offeiriaid a’r Lefiaid, a rhai o’r bobl, a’r cantorion, a’r porthorion, a’r Nethiniaid, a drigasant yn eu dinasoedd; a holl Israel yn eu dinasoedd.

Actau 2

Ac wedi dyfod dydd y Pentecost, yr oeddynt hwy oll yn gytûn yn yr un lle. Ac yn ddisymwth y daeth sŵn o’r nef, megis gwynt nerthol yn rhuthro, ac a lanwodd yr holl dŷ lle yr oeddynt yn eistedd. Ac ymddangosodd iddynt dafodau gwahanedig megis o dân, ac efe a eisteddodd ar bob un ohonynt. A hwy oll a lanwyd â’r Ysbryd Glân, ac a ddechreuasant lefaru â thafodau eraill, megis y rhoddes yr Ysbryd iddynt ymadrodd. Ac yr oedd yn trigo yn Jerwsalem. Iddewon, gwŷr bucheddol, o bob cenedl dan y nef. Ac wedi myned y gair o hyn, daeth y lliaws ynghyd, ac a drallodwyd, oherwydd bod pob un yn eu clywed hwy yn llefaru yn ei iaith ei hun. Synnodd hefyd ar bawb, a rhyfeddu a wnaethant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Wele, onid Galileaid yw’r rhai hyn oll sydd yn llefaru? A pha fodd yr ydym ni yn eu clywed hwynt bob un yn ein hiaith ein hun, yn yr hon y’n ganed ni? Parthiaid, a Mediaid, ac Elamitiaid, a thrigolion Mesopotamia, a Jwdea, a Chapadocia, Pontus, ac Asia, 10 Phrygia, a Phamffylia, yr Aifft, a pharthau Libya, yr hon sydd gerllaw Cyrene, a dieithriaid o Rufeinwyr, Iddewon, a phroselytiaid, 11 Cretiaid, ac Arabiaid, yr ydym ni yn eu clywed hwynt yn llefaru yn ein hiaith ni fawrion weithredoedd Duw. 12 A synasant oll, ac a ameuasant, gan ddywedyd y naill wrth y llall, Beth a all hyn fod? 13 Ac eraill, gan watwar, a ddywedasant, Llawn o win melys ydynt.

14 Eithr Pedr, yn sefyll gyda’r un ar ddeg, a gyfododd ei leferydd, ac a ddywedodd wrthynt, O wŷr o Iddewon, a chwi oll sydd yn trigo yn Jerwsalem, bydded hysbysol hyn i chwi, a chlustymwrandewch â’m geiriau: 15 Canys nid yw’r rhai hyn yn feddwon, fel yr ydych chwi yn tybied; oblegid y drydedd awr o’r dydd yw hi. 16 Eithr hyn yw’r peth a ddywedwyd trwy’r proffwyd Joel; 17 A bydd yn y dyddiau diwethaf, medd Duw, y tywalltaf o’m Hysbryd ar bob cnawd: a’ch meibion chwi a’ch merched a broffwydant, a’ch gwŷr ieuainc a welant weledigaethau, a’ch hynafgwyr a freuddwydiant freuddwydion: 18 Ac ar fy ngweision ac ar fy llawforynion y tywalltaf o’m Hysbryd yn y dyddiau hynny; a hwy a broffwydant: 19 A mi a roddaf ryfeddodau yn y nef uchod, ac arwyddion yn y ddaear isod; gwaed, a thân, a tharth mwg. 20 Yr haul a droir yn dywyllwch, a’r lloer yn waed, cyn i ddydd mawr ac eglur yr Arglwydd ddyfod. 21 A bydd, pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd, a fydd cadwedig. 22 Ha wŷr Israel, clywch y geiriau hyn; Iesu o Nasareth, gŵr profedig gan Dduw yn eich plith chwi, trwy nerthoedd a rhyfeddodau ac arwyddion, y rhai a wnaeth Duw trwyddo ef yn eich canol chwi, megis ag y gwyddoch chwithau: 23 Hwn, wedi ei roddi trwy derfynedig gyngor a rhagwybodaeth Duw, a gymerasoch chwi, a thrwy ddwylo anwir a groeshoeliasoch, ac a laddasoch: 24 Yr hwn a gyfododd Duw, gan ryddhau gofidiau angau: canys nid oedd bosibl ei atal ef ganddo. 25 Canys Dafydd sydd yn dywedyd amdano, Rhagwelais yr Arglwydd ger fy mron yn wastad; canys ar fy neheulaw y mae, fel na’m hysgoger. 26 Am hynny y llawenychodd fy nghalon, ac y gorfoleddodd fy nhafod; ie, a’m cnawd hefyd a orffwys mewn gobaith: 27 Am na adewi fy enaid yn uffern, ac na oddefi i’th Sanct weled llygredigaeth. 28 Gwnaethost yn hysbys i mi ffyrdd y bywyd: ti a’m cyflawni o lawenydd â’th wynepryd. 29 Ha wŷr frodyr, y mae’n rhydd i mi ddywedyd yn hy wrthych am y patriarch Dafydd, ei farw ef a’i gladdu, ac y mae ei feddrod ef gyda ni hyd y dydd hwn. 30 Am hynny, ac efe yn broffwyd, yn gwybod dyngu o Dduw iddo trwy lw, Mai o ffrwyth ei lwynau ef o ran y cnawd, y cyfodai efe Grist i eistedd ar ei orseddfa ef: 31 Ac efe yn rhagweled, a lefarodd am atgyfodiad Crist, na adawyd ei enaid ef yn uffern, ac na welodd ei gnawd ef lygredigaeth. 32 Yr Iesu hwn a gyfododd Duw i fyny; o’r hyn yr ydym ni oll yn dystion. 33 Am hynny, wedi ei ddyrchafu ef trwy ddeheulaw Duw, ac iddo dderbyn gan y Tad yr addewid o’r Ysbryd Glân, efe a dywalltodd y peth yma yr ydych chwi yr awron yn ei weled ac yn ei glywed. 34 Oblegid ni ddyrchafodd Dafydd i’r nefoedd: ond y mae efe yn dywedyd ei hun, Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, 35 Hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed. 36 Am hynny gwybydded holl dŷ Israel yn ddiogel, ddarfod i Dduw wneuthur yn Arglwydd ac yn Grist, yr Iesu hwn a groeshoeliasoch chwi.

37 Hwythau, wedi clywed hyn, a ddwysbigwyd yn eu calon, ac a ddywedasant wrth Pedr, a’r apostolion eraill, Ha wŷr frodyr, beth a wnawn ni? 38 A Phedr a ddywedodd wrthynt, Edifarhewch, a bedyddier pob un ohonoch yn enw Iesu Grist, er maddeuant pechodau; a chwi a dderbyniwch ddawn yr Ysbryd Glân. 39 Canys i chwi y mae’r addewid, ac i’ch plant, ac i bawb ymhell, cynifer ag a alwo’r Arglwydd ein Duw ni ato. 40 Ac â llawer o ymadroddion eraill y tystiolaethodd ac y cynghorodd efe, gan ddywedyd, Ymgedwch rhag y genhedlaeth drofaus hon.

41 Yna y rhai a dderbyniasant ei air ef yn ewyllysgar a fedyddiwyd; a chwanegwyd atynt y dwthwn hwnnw ynghylch tair mil o eneidiau. 42 Ac yr oeddynt yn parhau yn athrawiaeth ac yng nghymdeithas yr apostolion, ac yn torri bara, ac mewn gweddïau. 43 Ac ofn a ddaeth ar bob enaid: a llawer o ryfeddodau ac arwyddion a wnaethpwyd gan yr apostolion. 44 A’r rhai a gredent oll oeddynt yn yr un man, a phob peth ganddynt yn gyffredin; 45 A hwy a werthasant eu meddiannau a’u da, ac a’u rhanasant i bawb, fel yr oedd yr eisiau ar neb. 46 A hwy beunydd yn parhau yn gytûn yn y deml, ac yn torri bara o dŷ i dŷ, a gymerasant eu lluniaeth mewn llawenydd a symledd calon, 47 Gan foli Duw, a chael ffafr gan yr holl bobl. A’r Arglwydd a chwanegodd beunydd at yr eglwys y rhai fyddent gadwedig.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.