Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
2 Cronicl 34

34 Mab wyth mlwydd oedd Joseia pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, ac a rodiodd yn ffyrdd Dafydd ei dad, ac ni ogwyddodd ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy.

Canys yn yr wythfed flwyddyn o’i deyrnasiad, tra yr ydoedd efe eto yn fachgen, efe a ddechreuodd geisio Duw Dafydd ei dad: ac yn y ddeuddegfed flwyddyn efe a ddechreuodd lanhau Jwda a Jerwsalem oddi wrth yr uchelfeydd, a’r llwyni, a’r delwau cerfiedig, a’r delwau toddedig. Distrywiasant hefyd yn ei ŵydd ef allorau Baalim; a’r delwau y rhai oedd i fyny oddi arnynt hwy a dorrodd efe: y llwyni hefyd, a’r delwau cerfiedig, a’r delwau toddedig, a ddrylliodd efe, ac a faluriodd, taenodd hefyd eu llwch hwy ar hyd wyneb beddau y rhai a aberthasent iddynt hwy. Ac esgyrn yr offeiriaid a losgodd efe ar eu hallorau, ac a lanhaodd Jwda a Jerwsalem. Felly y gwnaeth efe yn ninasoedd Manasse, ac Effraim, a Simeon, a hyd Nafftali, â’u ceibiau oddi amgylch. A phan ddinistriasai efe yr allorau a’r llwyni, a dryllio ohono y delwau cerfiedig, gan eu malurio yn llwch, a thorri yr eilunod i gyd trwy holl wlad Israel, efe a ddychwelodd i Jerwsalem.

Ac yn y ddeunawfed flwyddyn o’i deyrnasiad ef, wedi glanhau y wlad, a’r tŷ, efe a anfonodd Saffan mab Asaleia, a Maaseia tywysog y ddinas, a Joa mab Joahas y cofiadur, i gyweirio tŷ yr Arglwydd ei Dduw. A phan ddaethant hwy at Hilceia yr archoffeiriad, hwy a roddasant yr arian a ddygasid i dŷ Dduw, y rhai a gasglasai y Lefiaid oedd yn cadw y drysau, o law Manasse ac Effraim, ac oddi gan holl weddill Israel, ac oddi ar holl Jwda a Benjamin, a hwy a ddychwelasant i Jerwsalem. 10 A hwy a’i rhoddasant yn llaw y gweithwyr, y rhai oedd oruchwylwyr ar dŷ yr Arglwydd: hwythau a’i rhoddasant i wneuthurwyr y gwaith, y rhai oedd yn gweithio yn nhŷ yr Arglwydd, i gyweirio ac i gadarnhau y tŷ. 11 Rhoddasant hefyd i’r seiri ac i’r adeiladwyr, i brynu cerrig nadd, a choed tuag at y cysylltiadau, ac i fyrddio y tai a ddinistriasai brenhinoedd Jwda. 12 A’r gwŷr oedd yn gweithio yn y gwaith yn ffyddlon: ac arnynt hwy yn olygwyr yr oedd Jahath, ac Obadeia, y Lefiaid, o feibion Merari; a Sechareia, a Mesulam, o feibion y Cohathiaid, i’w hannog: ac o’r Lefiaid, pob un a oedd gyfarwydd ar offer cerdd. 13 Yr oeddynt hefyd ar y cludwyr, ac yn olygwyr ar yr holl rai oedd yn gweithio ym mhob rhyw waith: ac o’r Lefiaid yr oedd ysgrifenyddion, a swyddogion, a phorthorion.

14 A phan ddygasant hwy allan yr arian a ddygasid i dŷ yr Arglwydd, Hilceia yr offeiriad a gafodd lyfr cyfraith yr Arglwydd, yr hwn a roddasid trwy law Moses. 15 A Hilceia a atebodd ac a ddywedodd wrth Saffan yr ysgrifennydd, Cefais lyfr y gyfraith yn nhŷ yr Arglwydd. A Hilceia a roddodd y llyfr at Saffan: 16 A Saffan a ddug y llyfr at y brenin, ac a ddug air drachefn i’r brenin, gan ddywedyd, Yr hyn oll a roddwyd yn llaw dy weision di, y maent hwy yn ei wneuthur. 17 Casglasant hefyd yr arian a gafwyd yn nhŷ yr Arglwydd, a rhoddasant hwynt yn llaw y golygwyr, ac yn llaw y gweithwyr. 18 Saffan yr ysgrifennydd a fynegodd hefyd i’r brenin, gan ddywedyd, Hilceia yr offeiriad a roddodd i mi lyfr. A Saffan a ddarllenodd ynddo ef gerbron y brenin. 19 A phan glybu y brenin eiriau y gyfraith, efe a rwygodd ei ddillad. 20 A’r brenin a orchmynnodd i Hilceia, ac i Ahicam mab Saffan, ac i Abdon mab Micha, ac i Saffan yr ysgrifennydd, ac i Asaia gwas y brenin, gan ddywedyd, 21 Ewch, ymofynnwch â’r Arglwydd drosof fi, a thros y gweddill yn Israel ac yn Jwda, am eiriau y llyfr a gafwyd: canys mawr yw llid yr Arglwydd a dywalltodd efe arnom ni, oblegid na chadwodd ein tadau ni air yr Arglwydd, gan wneuthur yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn. 22 Yna yr aeth Hilceia, a’r rhai a yrrodd y brenin, at Hulda y broffwydes, gwraig Salum mab Ticfath, fab Hasra, ceidwad y gwisgoedd; (a hi oedd yn aros yn Jerwsalem yn yr ysgoldy;) ac a ymddiddanasant â hi felly.

23 A hi a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel, Dywedwch i’r gŵr a’ch anfonodd chwi ataf fi, 24 Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Wele fi yn dwyn drwg ar y lle hwn, ac ar ei drigolion, sef yr holl felltithion sydd ysgrifenedig yn y llyfr a ddarllenasant hwy gerbron brenin Jwda: 25 Am iddynt fy ngwrthod i, ac arogldarthu i dduwiau dieithr, i’m digio i â holl waith eu dwylo; am hynny yr ymdywallt fy llid i ar y lle hwn, ac nis diffoddir ef. 26 Ond am frenin Jwda, yr hwn a’ch anfonodd chwi i ymofyn â’r Arglwydd, fel hyn y dywedwch wrtho, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel am y geiriau a glywaist; 27 Oblegid i’th galon feddalhau, ac i tithau ymostwng o flaen Duw, pan glywaist ei eiriau ef yn erbyn y fan hon ac yn erbyn ei thrigolion, ac ymostwng ohonot ger fy mron, a rhwygo dy ddillad, ac wylo o’m blaen i; am hynny y gwrandewais innau, medd yr Arglwydd. 28 Wele, mi a’th gymeraf di ymaith at dy dadau, a thi a ddygir ymaith i’r bedd mewn heddwch, fel na welo dy lygaid di yr holl ddrwg yr ydwyf fi yn ei ddwyn ar y fan hon, ac yn erbyn ei phreswylwyr. Felly hwy a ddygasant air i’r brenin drachefn.

29 Yna y brenin a anfonodd, ac a gynullodd holl henuriaid Jwda a Jerwsalem. 30 A’r brenin a aeth i fyny i dŷ yr Arglwydd, a holl wŷr Jwda, a thrigolion Jerwsalem, yr offeiriaid hefyd a’r Lefiaid, a’r holl bobl o fawr i fychan; ac efe a ddarllenodd, lle y clywsant hwy, holl eiriau llyfr y cyfamod, yr hwn a gawsid yn nhŷ yr Arglwydd. 31 A’r brenin a safodd yn ei le, ac a wnaeth gyfamod gerbron yr Arglwydd, ar rodio ar ôl yr Arglwydd, ac ar gadw ei orchmynion ef, a’i dystiolaethau, a’i ddefodau, â’i holl galon, ac â’i holl enaid; i gwblhau geiriau y cyfamod y rhai sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwnnw. 32 Ac efe a wnaeth i bawb a’r a gafwyd yn Jerwsalem, ac yn Benjamin, sefyll wrth yr amod: trigolion Jerwsalem hefyd a wnaethant yn ôl cyfamod Duw, sef Duw eu tadau. 33 Felly Joseia a dynnodd ymaith y ffieidd-dra i gyd o’r holl wledydd y rhai oedd eiddo meibion Israel, ac efe a wnaeth i bawb a’r a gafwyd yn Israel wasanaethu, sef gwasanaethu yr Arglwydd eu Duw. Ac yn ei holl ddyddiau ef ni throesant hwy oddi ar ôl Arglwydd Dduw eu tadau.

Datguddiad 20

20 Ac mi a welais angel yn disgyn o’r nef, a chanddo agoriad y pydew diwaelod, a chadwyn fawr yn ei law. Ac efe a ddaliodd y ddraig, yr hen sarff, yr hon yw Diafol a Satan, ac a’i rhwymodd ef dros fil o flynyddoedd, Ac a’i bwriodd ef i’r pydew diwaelod, ac a gaeodd arno, ac a seliodd arno ef, fel na thwyllai efe’r cenhedloedd mwyach, nes cyflawni’r mil o flynyddoedd: ac ar ôl hynny rhaid yw ei ollwng ef yn rhydd dros ychydig amser. Ac mi a welais orseddfeinciau, a hwy a eisteddasant arnynt, a barn a roed iddynt hwy: ac mi a welais eneidiau’r rhai a dorrwyd eu pennau am dystiolaeth Iesu, ac am air Duw, a’r rhai nid addolasent y bwystfil na’i ddelw ef, ac ni dderbyniasent ei nod ef ar eu talcennau, neu ar eu dwylo; a hwy a fuant fyw ac a deyrnasasant gyda Christ fil o flynyddoedd. Eithr y lleill o’r meirw ni fuant fyw drachefn, nes cyflawni’r mil blynyddoedd. Dyma’r atgyfodiad cyntaf. Gwynfydedig a sanctaidd yw’r hwn sydd â rhan iddo yn yr atgyfodiad cyntaf: y rhai hyn nid oes i’r ail farwolaeth awdurdod arnynt, eithr hwy a fyddant offeiriaid i Dduw ac i Grist, ac a deyrnasant gydag ef fil o flynyddoedd. A phan gyflawner y mil blynyddoedd, gollyngir Satan allan o’i garchar; Ac efe a â allan i dwyllo’r cenhedloedd sydd ym mhedair congl y ddaear, Gog a Magog, i’w casglu hwy ynghyd i ryfel; rhif y rhai sydd fel tywod y môr. A hwy a aethant i fyny ar led y ddaear, ac a amgylchasant wersyll y saint, a’r ddinas annwyl: a thân a ddaeth oddi wrth Dduw i waered o’r nef, ac a’u hysodd hwynt. 10 A diafol, yr hwn oedd yn eu twyllo hwynt, a fwriwyd i’r llyn o dân a brwmstan, lle y mae’r bwystfil a’r gau broffwyd; a hwy a boenir ddydd a nos, yn oes oesoedd. 11 Ac mi a welais orseddfainc wen fawr, a’r hwn oedd yn eistedd arni, oddi wrth wyneb yr hwn y ffodd y ddaear a’r nef; a lle ni chafwyd iddynt. 12 Ac mi a welais y meirw, fychain a mawrion, yn sefyll gerbron Duw; a’r llyfrau a agorwyd: a llyfr arall a agorwyd, yr hwn yw llyfr y bywyd: a barnwyd y meirw wrth y pethau oedd wedi eu hysgrifennu yn y llyfrau, yn ôl eu gweithredoedd. 13 A rhoddodd y môr i fyny y meirw oedd ynddo; a marwolaeth ac uffern a roddasant i fyny y meirw oedd ynddynt hwythau: a hwy a farnwyd bob un yn ôl eu gweithredoedd. 14 A marwolaeth ac uffern a fwriwyd i’r llyn o dân. Hon yw’r ail farwolaeth. 15 A phwy bynnag ni chafwyd wedi ei ysgrifennu yn llyfr y bywyd, bwriwyd ef i’r llyn o dân.

Malachi 2

Ac yr awr hon, chwi offeiriaid, i chwi y mae y gorchymyn hwn. Oni wrandewch, ac oni ystyriwch, i roddi anrhydedd i’m henw i, medd Arglwydd y lluoedd; yna mi a anfonaf felltith arnoch chwi, ac a felltithiaf eich bendithion chwi: ie, myfi a’u melltithiais eisoes, am nad ydych yn ystyried. Wele fi yn llygru eich had chwi, a thaenaf dom ar eich wynebau, sef tom eich uchel wyliau; ac un a’ch cymer chwi ato ef. Hefyd cewch wybod mai myfi a anfonais atoch y gorchymyn hwn, fel y byddai fy nghyfamod â Lefi, medd Arglwydd y lluoedd. Fy nghyfamod ag ef oedd am fywyd a heddwch; a mi a’u rhoddais hwynt iddo am yr ofn â’r hwn y’m hofnodd, ac yr arswydodd o flaen fy enw. Cyfraith gwirionedd oedd yn ei enau ef, ac anwiredd ni chafwyd yn ei wefusau: mewn hedd ac uniondeb y rhodiodd gyda mi, a llaweroedd a drodd efe oddi wrth anwiredd. Canys gwefusau yr offeiriad a gadwant wybodaeth, a’r gyfraith a geisiant o’i enau ef: oherwydd cennad Arglwydd y lluoedd yw efe. Ond chwi a giliasoch allan o’r ffordd, ac a barasoch i laweroedd dramgwyddo wrth y gyfraith: llygrasoch gyfamod Lefi, medd Arglwydd y lluoedd. Am hynny minnau hefyd a’ch gwneuthum chwi yn ddirmygus ac yn ddiystyr gan yr holl bobl; megis na chadwasoch fy ffyrdd i, ond bod yn derbyn wynebau yn y gyfraith. 10 Onid un Tad sydd i ni oll? onid un Duw a’n creodd ni? paham y gwnawn yn anffyddlon bob un yn erbyn ei frawd, gan halogi cyfamod ein tadau?

11 Jwda a wnaeth yn anffyddlon, a ffieidd-dra a wnaethpwyd yn Israel ac yn Jerwsalem: canys Jwda a halogodd sancteiddrwydd yr Arglwydd, yr hwn a hoffasai, ac a briododd ferch duw dieithr. 12 Yr Arglwydd a dyr ymaith y gŵr a wnêl hyn; yr athro a’r disgybl o bebyll Jacob, ac offrymydd offrwm i Arglwydd y lluoedd. 13 Hyn hefyd eilwaith a wnaethoch, gan orchuddio â dagrau allor yr Arglwydd trwy wylofain a gweiddi; fel nad edrych efe mwyach ar yr offrwm, ac na chymer ef yn fodlon o’ch llaw chwi.

14 Er hynny chwi a ddywedwch, Pa herwydd? Oherwydd mai yr Arglwydd a fu dyst rhyngot ti a rhwng gwraig dy ieuenctid, yr hon y buost anffyddlon iddi; er ei bod yn gymar i ti, ac yn wraig dy gyfamod. 15 Onid un a wnaeth efe? a’r ysbryd yng ngweddill ganddo. A phaham un? I geisio had duwiol. Am hynny gwyliwch ar eich ysbryd, ac na fydded neb anffyddlon yn erbyn gwraig ei ieuenctid. 16 Pan gasaech di hi, gollwng hi ymaith, medd yr Arglwydd, Duw Israel: canys gorchuddio y mae efe drais â’i wisg, medd Arglwydd y lluoedd: gan hynny gwyliwch ar eich ysbryd, na fyddoch anffyddlon.

17 Blinasoch yr Arglwydd â’ch geiriau: a chwi a ddywedwch, Ym mha beth y blinasom ef? Am i chwi ddywedyd, Pob gwneuthurwr drwg sydd dda yng ngolwg yr Arglwydd, ac iddynt y mae efe yn fodlon; neu, Pa le y mae Duw y farn?

Ioan 19

19 Yna gan hynny y cymerodd Peilat yr Iesu, ac a’i fflangellodd ef. A’r milwyr a blethasant goron o ddrain, ac a’i gosodasant ar ei ben ef, ac a roesant wisg o borffor amdano; Ac a ddywedasant, Henffych well, Brenin yr Iddewon; ac a roesant iddo gernodiau. Peilat gan hynny a aeth allan drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, Wele yr wyf fi yn ei ddwyn ef allan i chwi, fel y gwypoch nad wyf fi yn cael ynddo ef un bai. Yna y daeth yr Iesu allan, yn arwain y goron ddrain, a’r wisg borffor. A Pheilat a ddywedodd wrthynt, Wele’r dyn. Yna yr archoffeiriaid a’r swyddogion, pan welsant ef, a lefasant, gan ddywedyd, Croeshoelia, croeshoelia ef. Peilat a ddywedodd wrthynt, Cymerwch chwi ef, a chroeshoeliwch: canys nid wyf fi yn cael dim bai ynddo. Yr Iddewon a atebasant iddo, Y mae gennym ni gyfraith, ac wrth ein cyfraith ni efe a ddylai farw, am iddo ei wneuthur ei hun yn Fab Duw.

A phan glybu Peilat yr ymadrodd hwnnw, efe a ofnodd yn fwy; Ac a aeth drachefn i’r dadleudy, ac a ddywedodd wrth yr Iesu, O ba le yr wyt ti? Ond ni roes yr Iesu ateb iddo. 10 Yna Peilat a ddywedodd wrtho, Oni ddywedi di wrthyf fi? oni wyddost ti fod gennyf awdurdod i’th groeshoelio di, a bod gennyf awdurdod i’th ollwng yn rhydd? 11 Yr Iesu a atebodd, Ni byddai i ti ddim awdurdod arnaf fi, oni bai ei fod wedi ei roddi i ti oddi uchod: am hynny yr hwn a’m traddodes i ti, sydd fwy ei bechod. 12 O hynny allan y ceisiodd Peilat ei ollwng ef yn rhydd: ond yr Iddewon a lefasant, gan ddywedyd, Os gollyngi di hwn yn rhydd, nid wyt ti yn garedig i Gesar. Pwy bynnag a’i gwnelo ei hun yn frenin, y mae yn dywedyd yn erbyn Cesar. 13 Yna Peilat, pan glybu’r ymadrodd hwn, a ddug allan yr Iesu; ac a eisteddodd ar yr orseddfainc, yn y lle a elwir y Palmant, ac yn Hebraeg, Gabbatha. 14 A darpar‐ŵyl y pasg oedd hi, ac ynghylch y chweched awr: ac efe a ddywedodd wrth yr Iddewon, Wele eich Brenin. 15 Eithr hwy a lefasant, Ymaith ag ef, ymaith ag ef, croeshoelia ef. Peilat a ddywedodd wrthynt, A groeshoeliaf fi eich Brenin chwi? A’r archoffeiriaid a atebasant, Nid oes i ni frenin ond Cesar. 16 Yna gan hynny efe a’i traddodes ef iddynt i’w groeshoelio. A hwy a gymerasant yr Iesu, ac a’i dygasant ymaith. 17 Ac efe gan ddwyn ei groes, a ddaeth i le a elwid Lle’r benglog, ac a elwir yn Hebraeg, Golgotha: 18 Lle y croeshoeliasant ef, a dau eraill gydag ef, un o bob tu, a’r Iesu yn y canol.

19 A Pheilat a ysgrifennodd deitl, ac a’i dododd ar y groes. A’r ysgrifen oedd, IESU O NASARETH, BRENIN YR IDDEWON. 20 Y teitl hwn gan hynny a ddarllenodd llawer o’r Iddewon; oblegid agos i’r ddinas oedd y fan lle y croeshoeliwyd yr Iesu: ac yr oedd wedi ei ysgrifennu yn Hebraeg, Groeg, a Lladin. 21 Yna archoffeiriaid yr Iddewon a ddywedasant wrth Peilat, Nac ysgrifenna Brenin yr Iddewon; eithr dywedyd ohono ef, Brenin yr Iddewon ydwyf fi. 22 Peilat a atebodd, Yr hyn a ysgrifennais, a ysgrifennais.

23 Yna y milwyr, wedi iddynt groeshoelio’r Iesu, a gymerasant ei ddillad ef, ac a wnaethant bedair rhan, i bob milwr ran; a’i bais ef: a’i bais ef oedd ddiwnïad, wedi ei gwau o’r cwr uchaf trwyddi oll. 24 Hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd, Na thorrwn hi, ond bwriwn goelbrennau amdani, eiddo pwy fydd hi: fel y cyflawnid yr ysgrythur sydd yn dywedyd, Rhanasant fy nillad yn eu mysg, ac am fy mhais y bwriasant goelbrennau. A’r milwyr a wnaethant y pethau hyn.

25 Ac yr oedd yn sefyll wrth groes yr Iesu, ei fam ef, a chwaer ei fam ef, Mair gwraig Cleoffas, a Mair Magdalen. 26 Yr Iesu gan hynny, pan welodd ei fam, a’r disgybl yr hwn a garai efe yn sefyll gerllaw, a ddywedodd wrth ei fam, O wraig, wele dy fab. 27 Gwedi hynny y dywedodd wrth y disgybl, Wele dy fam. Ac o’r awr honno allan y cymerodd y disgybl hi i’w gartref.

28 Wedi hynny yr Iesu, yn gwybod fod pob peth wedi ei orffen weithian, fel y cyflawnid yr ysgrythur, a ddywedodd, Y mae syched arnaf. 29 Yr oedd gan hynny lestr wedi ei osod yn llawn o finegr; a hwy a lanwasant ysbwng o finegr, ac a’i rhoddasant ynghylch isop, ac a’i dodasant wrth ei enau ef. 30 Yna pan gymerodd yr Iesu’r finegr, efe a ddywedodd, Gorffennwyd: a chan ogwyddo ei ben, efe a roddes i fyny yr ysbryd. 31 Yr Iddewon gan hynny, fel nad arhoai’r cyrff ar y groes ar y Saboth, oherwydd ei bod yn ddarpar‐ŵyl, (canys mawr oedd y dydd Saboth hwnnw,) a ddeisyfasant ar Peilat gael torri eu hesgeiriau hwynt, a’u tynnu i lawr. 32 Yna y milwyr a ddaethant, ac a dorasant esgeiriau’r cyntaf, a’r llall yr hwn a groeshoeliasid gydag ef. 33 Eithr wedi iddynt ddyfod at yr Iesu, pan welsant ef wedi marw eisoes, ni thorasant ei esgeiriau ef. 34 Ond un o’r milwyr a wanodd ei ystlys ef â gwaywffon: ac yn y fan daeth allan waed a dwfr. 35 A’r hwn a’i gwelodd, a dystiolaethodd; a gwir yw ei dystiolaeth: ac efe a ŵyr ei fod yn dywedyd gwir, fel y credoch chwi. 36 Canys y pethau hyn a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr ysgrythur, Ni thorrir asgwrn ohono. 37 A thrachefn, ysgrythur arall sydd yn dywedyd, Hwy a edrychant ar yr hwn a wanasant.

38 Ac ar ôl hyn, Joseff o Arimathea (yr hwn oedd ddisgybl i’r Iesu, eithr yn guddiedig, rhag ofn yr Iddewon) a ddeisyfodd ar Peilat, gael tynnu i lawr gorff yr Iesu: a Pheilat a ganiataodd iddo. Yna y daeth efe ac a ddug ymaith gorff yr Iesu. 39 A daeth Nicodemus hefyd, (yr hwn ar y cyntaf a ddaethai at yr Iesu o hyd nos,) ac a ddug fyrr ac aloes yng nghymysg, tua chan pwys. 40 Yna y cymerasant gorff yr Iesu, ac a’i rhwymasant mewn llieiniau, gydag aroglau, fel y mae arfer yr Iddewon ar gladdu. 41 Ac yn y fangre lle y croeshoeliasid ef, yr oedd gardd; a bedd newydd yn yr ardd, yn yr hwn ni ddodasid dyn erioed. 42 Ac yno, rhag nesed oedd darpar‐ŵyl yr Iddewon, am fod y bedd hwnnw yn agos, y rhoddasant yr Iesu.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.