Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Deuteronomium 30

30 A phan ddelo yr holl bethau hyn arnat, sef y fendith a’r felltith, y rhai a roddais o’th flaen, ac atgofio ohonot hwynt ymysg yr holl genhedloedd y rhai y’th yrrodd yr Arglwydd dy Dduw di atynt; A dychwelyd ohonot at yr Arglwydd dy Dduw, a gwrando ar ei lais ef, yn ôl yr hyn oll yr ydwyf yn ei orchymyn i ti heddiw, ti a’th blant, â’th holl galon, ac â’th holl enaid: Yna y dychwel yr Arglwydd dy Dduw dy gaethiwed, ac y cymer drugaredd arnat, ac y try, ac a’th gasgl o fysg yr holl bobloedd lle y’th wasgaro yr Arglwydd dy Dduw di. Pe y’th wthid i eithaf y nefoedd, oddi yno y’th gasglai yr Arglwydd dy Dduw, ac oddi yno y’th gymerai. A’r Arglwydd dy Dduw a’th ddwg i’r tir a feddiannodd dy dadau, a thithau a’i meddienni: ac efe a fydd dda wrthyt, ac a’th wna yn amlach na’th dadau. A’r Arglwydd dy Dduw a enwaeda dy galon, a chalon dy had, i garu yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, er mwyn cael ohonot fyw. A’r Arglwydd dy Dduw a rydd yr holl felltithion hyn ar dy elynion, ac ar dy gaseion, y rhai a’th erlidiant di. Tithau a ddychweli, ac a wrandewi ar lais yr Arglwydd, ac a wnei ei holl orchmynion ef, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw. A’r Arglwydd dy Dduw a wna i ti lwyddo yn holl waith dy law, yn ffrwyth dy fru, ac yn ffrwyth dy anifeiliaid, ac yn ffrwyth dy dir, er daioni: canys try yr Arglwydd i lawenychu ynot, i wneuthur daioni i ti, fel y llawenychodd yn dy dadau; 10 Os gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, i gadw ei orchmynion ef a’i ddeddfau y rhai sydd ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith hon; os dychweli at yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid.

11 Oherwydd y gorchymyn yma, yr ydwyf yn ei orchymyn i ti heddiw, nid yw guddiedig oddi wrthyt, ac nid yw bell. 12 Nid yn y nefoedd y mae, i ddywedyd ohonot, Pwy a ddring drosom i’r nefoedd, ac a’i dwg i ni, fel y clywom, ac y gwnelom ef? 13 Ac nid o’r tu hwnt i’r môr y mae, i ddywedyd ohonot, Pwy a dramwya drosom ni i’r tu hwnt i’r môr, ac a’i dwg ef i ni, fel y clywom, ac y gwnelom ef? 14 Canys y gair sydd agos iawn atat, yn dy enau, ac yn dy galon, i’w wneuthur ef.

15 Wele, rhoddais o’th flaen heddiw einioes a daioni, ac angau a drygioni: 16 Lle yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti heddiw garu yr Arglwydd dy Dduw, i rodio yn ei ffyrdd ef, ac i gadw ei orchmynion a’i ddeddfau, a’i farnedigaethau ef; fel y byddych fyw, ac y’th amlhaer, ac y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw yn y tir yr wyt ti yn myned iddo i’w feddiannu. 17 Ond os try dy galon ymaith, fel na wrandawech, a’th yrru i ymgrymu i dduwiau dieithr, a’u gwasanaethu hwynt; 18 Yr wyf yn mynegi i chwi heddiw, y difethir chwi yn ddiau, ac nad estynnwch ddyddiau yn y tir yr ydwyt yn myned dros yr Iorddonen i fyned i mewn iddo i’w berchenogi. 19 Galw yr wyf yn dyst i’th erbyn heddiw y nefoedd a’r ddaear, roddi ohonof o’th flaen di einioes ac angau, fendith a melltith: dewis dithau yr einioes, fel y byddych fyw, ti a’th had; 20 I garu ohonot yr Arglwydd dy Dduw, a gwrando ar ei lais ef, a glynu wrtho, (canys efe yw dy einioes di, ac estyniad dy ddyddiau,) fel y trigych yn y tir a dyngodd yr Arglwydd wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob, ar ei roddi iddynt.

Salmau 119:73-96

73 Dy ddwylo a’m gwnaethant, ac a’m lluniasant: pâr i mi ddeall, fel y dysgwyf dy orchmynion. 74 Y rhai a’th ofnant a’m gwelant, ac a lawenychant; oblegid gobeithio ohonof yn dy air di. 75 Gwn, Arglwydd, mai cyfiawn yw dy farnedigaethau; ac mai mewn ffyddlondeb y’m cystuddiaist. 76 Bydded, atolwg, dy drugaredd i’m cysuro, yn ôl dy air i’th wasanaethwr. 77 Deued i mi dy drugareddau, fel y byddwyf byw; oherwydd dy gyfraith yw fy nigrifwch. 78 Cywilyddier y beilchion, canys gwnânt gam â mi yn ddiachos: ond myfi a fyfyriaf yn dy orchmynion di. 79 Troer ataf fi y rhai a’th ofnant di, a’r rhai a adwaenant dy dystiolaethau. 80 Bydded fy nghalon yn berffaith yn dy ddeddfau; fel na’m cywilyddier.

CAFF

81 Diffygiodd fy enaid am dy iachawdwriaeth: wrth dy air yr ydwyf yn disgwyl. 82 Y mae fy llygaid yn pallu am dy air, gan ddywedyd, Pa bryd y’m diddeni? 83 Canys ydwyf fel costrel mewn mwg; ond nid anghofiais dy ddeddfau. 84 Pa nifer yw dyddiau dy was? pa bryd y gwnei farn ar y rhai a’m herlidiant? 85 Y beilchion a gloddiasant byllau i mi, yr hyn nid yw wrth dy gyfraith di. 86 Dy holl orchmynion ydynt wirionedd: ar gam y’m herlidiasant; cymorth fi. 87 Braidd na’m difasant ar y ddaear; minnau ni adewais dy orchmynion. 88 Bywha fi yn ôl dy drugaredd; felly y cadwaf dystiolaeth dy enau.

LAMED

89 Yn dragywydd, O Arglwydd, y mae dy air wedi ei sicrhau yn y nefoedd. 90 Dy wirionedd sydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth: seiliaist y ddaear, a hi a saif. 91 Wrth dy farnedigaethau y safant heddiw: canys dy weision yw pob peth. 92 Oni bai fod dy ddeddf yn hyfrydwch i mi, darfuasai yna amdanaf yn fy nghystudd. 93 Byth nid anghofiaf dy orchmynion: canys â hwynt y’m bywheaist. 94 Eiddot ti ydwyf, cadw fi: oherwydd dy orchmynion a geisiais. 95 Yr rhai annuwiol a ddisgwyliasant amdanaf i’m difetha: ond dy dystiolaethau di a ystyriaf fi. 96 Yr ydwyf yn gweled diwedd ar bob perffeithrwydd: ond dy orchymyn di sydd dra eang.

MEM

Eseia 57

57 Darfu am y cyfiawn, ac ni esyd neb at ei galon; a’r gwŷr trugarog a gymerir ymaith, heb neb yn deall mai o flaen drygfyd y cymerir y cyfiawn ymaith. Efe a â i dangnefedd: hwy a orffwysant yn eu hystafelloedd, sef pob un a rodia yn ei uniondeb.

Nesewch yma, meibion yr hudoles, had y godinebus a’r butain. Yn erbyn pwy yr ymddigrifwch? yn erbyn pwy y lledwch safn, ac yr estynnwch dafod? onid meibion camwedd a had ffalsedd ydych chwi? Y rhai a ymwresogwch ag eilunod dan bob pren deiliog, gan ladd y plant yn y glynnoedd dan gromlechydd y creigiau. Yng nghabolfeini yr afon y mae dy ran; hwynt‐hwy yw dy gwtws: iddynt hwy hefyd y tywelltaist ddiod‐offrwm, ac yr offrymaist fwyd‐offrwm. Ai yn y rhai hyn yr ymgysurwn? Ar fynydd uchel a dyrchafedig y gosodaist dy wely: dringaist hefyd yno i aberthu aberth. Yng nghil y drysau hefyd a’r pyst y gosodaist dy goffadwriaeth: canys ymddinoethaist i arall heb fy llaw i, a dringaist; helaethaist dy wely, ac a wnaethost amod rhyngot a hwynt; ti a hoffaist eu gorweddle hwynt pa le bynnag y gwelaist. Cyfeiriaist hefyd at y brenin ag ennaint, ac amlheaist dy beraroglau: anfonaist hefyd dy genhadau i bell, ac ymostyngaist hyd uffern. 10 Ym maint dy ffordd yr ymflinaist; ac ni ddywedaist, Nid oes obaith: cefaist fywyd dy law; am hynny ni chlefychaist. 11 Pwy hefyd a arswydaist ac a ofnaist, fel y dywedaist gelwydd, ac na chofiaist fi, ac nad ystyriaist yn dy galon? oni thewais i â sôn er ys talm, a thithau heb fy ofni? 12 Myfi a fynegaf dy gyfiawnder, a’th weithredoedd: canys ni wnânt i ti les.

13 Pan waeddech, gwareded dy gynulleidfaoedd di: eithr y gwynt a’u dwg hwynt ymaith oll; oferedd a’u cymer hwynt: ond yr hwn a obeithia ynof fi a etifedda y tir, ac a feddianna fynydd fy sancteiddrwydd. 14 Ac efe a ddywed, Palmentwch, palmentwch, paratowch y ffordd, cyfodwch y rhwystr o ffordd fy mhobl. 15 Canys fel hyn y dywed y Goruchel a’r dyrchafedig, yr hwn a breswylia dragwyddoldeb, ac y mae ei enw yn Sanctaidd, Y goruchelder a’r cysegr a breswyliaf; a chyda’r cystuddiedig a’r isel o ysbryd, i fywhau y rhai isel o ysbryd, ac i fywhau calon y rhai cystuddiedig. 16 Canys nid byth yr ymrysonaf, ac nid yn dragywydd y digiaf: oherwydd yr ysbryd a ballai o’m blaen i, a’r eneidiau a wneuthum i. 17 Am anwiredd ei gybydd‐dod ef y digiais, ac y trewais ef: ymguddiais, a digiais, ac efe a aeth rhagddo yn gildynnus ar hyd ffordd ei galon. 18 Ei ffyrdd a welais, a mi a’i hiachâf ef: tywysaf ef hefyd, ac adferaf gysur iddo, ac i’w alarwyr. 19 Myfi sydd yn creu ffrwyth y gwefusau; Heddwch, heddwch, i bell, ac i agos, medd yr Arglwydd: a mi a’i hiachâf ef. 20 Ond y rhai anwir sydd fel y môr yn dygyfor, pan na allo fod yn llonydd, yr hwn y mae ei ddyfroedd yn bwrw allan dom a llaid. 21 Ni bydd heddwch, medd fy Nuw, i’r rhai annuwiol.

Mathew 5

A phan welodd yr Iesu y tyrfaoedd, efe a esgynnodd i’r mynydd: ac wedi iddo eistedd, ei ddisgyblion a ddaethant ato. Ac efe a agorodd ei enau, ac a’u dysgodd hwynt, gan ddywedyd, Gwyn eu byd y tlodion yn yr ysbryd: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd. Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru: canys hwy a ddiddenir. Gwyn eu byd y rhai addfwyn: canys hwy a etifeddant y ddaear. Gwyn eu byd y rhai sydd arnynt newyn a syched am gyfiawnder: canys hwy a ddiwellir. Gwyn eu byd y rhai trugarogion: canys hwy a gânt drugaredd. Gwyn eu byd y rhai pur o galon: canys hwy a welant Dduw. Gwyn eu byd y tangnefeddwyr: canys hwy a elwir yn blant i Dduw. 10 Gwyn eu byd y rhai a erlidir o achos cyfiawnder: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd. 11 Gwyn eich byd pan y’ch gwaradwyddant, ac y’ch erlidiant, ac y dywedant bob drygair yn eich erbyn er fy mwyn i, a hwy yn gelwyddog. 12 Byddwch lawen a hyfryd: canys mawr yw eich gwobr yn y nefoedd: oblegid felly yr erlidiasant hwy’r proffwydi a fu o’ch blaen chwi.

13 Chwi yw halen y ddaear: eithr o diflasodd yr halen, â pha beth yr helltir ef? ni thâl efe mwy ddim ond i’w fwrw allan, a’i sathru gan ddynion. 14 Chwi yw goleuni’r byd. Dinas a osodir ar fryn, ni ellir ei chuddio. 15 Ac ni oleuant gannwyll, a’i dodi dan lestr, ond mewn canhwyllbren; a hi a oleua i bawb sydd yn y tŷ. 16 Llewyrched felly eich goleuni gerbron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd.

17 Na thybiwch fy nyfod i dorri’r gyfraith, neu’r proffwydi: ni ddeuthum i dorri, ond i gyflawni. 18 Canys yn wir meddaf i chwi, Hyd onid êl y nef a’r ddaear heibio, nid â un iod nac un tipyn o’r gyfraith heibio, hyd oni chwblhaer oll. 19 Pwy bynnag gan hynny a dorro un o’r gorchmynion lleiaf hyn, ac a ddysgo i ddynion felly, lleiaf y gelwir ef yn nheyrnas nefoedd: ond pwy bynnag a’u gwnelo, ac a’u dysgo i eraill, hwn a elwir yn fawr yn nheyrnas nefoedd. 20 Canys meddaf i chwi, Oni bydd eich cyfiawnder yn helaethach na chyfiawnder yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid, nid ewch i mewn i deyrnas nefoedd.

21 Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na ladd; a phwy bynnag a laddo, euog fydd o farn: 22 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, Pob un a ddigio wrth ei frawd heb ystyr, a fydd euog o farn: a phwy bynnag a ddywedo wrth ei frawd, Raca, a fydd euog o gyngor: a phwy bynnag a ddywedo, O ynfyd, a fydd euog o dân uffern. 23 Gan hynny, os dygi dy rodd i’r allor, ac yno dyfod i’th gof fod gan dy frawd ddim yn dy erbyn; 24 Gad yno dy rodd gerbron yr allor, a dos ymaith: yn gyntaf cymoder di â’th frawd, ac yna tyred ac offrwm dy rodd. 25 Cytuna â’th wrthwynebwr ar frys, tra fyddech ar y ffordd gydag ef; rhag un amser i’th wrthwynebwr dy roddi di yn llaw’r barnwr, ac i’r barnwr dy roddi at y swyddog, a’th daflu yng ngharchar. 26 Yn wir meddaf i ti, Ni ddeui di allan oddi yno, hyd oni thalech y ffyrling eithaf.

27 Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na wna odineb; 28 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi fod pob un sydd yn edrych ar wraig i’w chwenychu hi, wedi gwneuthur eisoes odineb â hi yn ei galon. 29 Ac os dy lygad deau a’th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o’th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i uffern. 30 Ac os dy law ddeau a’th rwystra, tor hi ymaith, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o’th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i uffern. 31 A dywedwyd, Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, rhoed iddi lythyr ysgar: 32 Ond yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, fod pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, ond o achos godineb, yn peri iddi wneuthur godineb: a phwy bynnag a briodo’r hon a ysgarwyd, y mae efe yn gwneuthur godineb.

33 Trachefn, clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na thwng anudon; eithr tâl dy lwon i’r Arglwydd: 34 Ond yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na thwng ddim: nac i’r nef; canys gorseddfa Duw ydyw: 35 Nac i’r ddaear; canys troedfainc ei draed ydyw: nac i Jerwsalem; canys dinas y brenin mawr ydyw. 36 Ac na thwng i’th ben; am na elli wneuthur un blewyn yn wyn, neu yn ddu. 37 Eithr bydded eich ymadrodd chwi, Ie, ie; Nage, nage; oblegid beth bynnag sydd dros ben hyn, o’r drwg y mae.

38 Clywsoch ddywedyd, Llygad am lygad, a dant am ddant: 39 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na wrthwynebwch ddrwg: ond pwy bynnag a’th drawo ar dy rudd ddeau, tro’r llall iddo hefyd. 40 Ac i’r neb a fynno ymgyfreithio â thi, a dwyn dy bais, gad iddo dy gochl hefyd. 41 A phwy bynnag a’th gymhello un filltir, dos gydag ef ddwy. 42 Dyro i’r hwn a ofynno gennyt; ac na thro oddi wrth yr hwn sydd yn ewyllysio echwynna gennyt.

43 Clywsoch ddywedyd, Câr dy gymydog, a chasâ dy elyn. 44 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a’ch melltithiant, gwnewch dda i’r sawl a’ch casânt, a gweddïwch dros y rhai a wnêl niwed i chwi, ac a’ch erlidiant; 45 Fel y byddoch blant i’ch Tad yr hwn sydd yn y nefoedd: canys y mae efe yn peri i’w haul godi ar y drwg a’r da, ac yn glawio ar y cyfiawn a’r anghyfiawn. 46 Oblegid os cerwch y sawl a’ch caro, pa wobr sydd i chwi? oni wna’r publicanod hefyd yr un peth? 47 Ac os cyferchwch well i’ch brodyr yn unig, pa ragoriaeth yr ydych chwi yn ei wneuthur? onid ydyw’r publicanod hefyd yn gwneuthur felly? 48 Byddwch chwi gan hynny yn berffaith, fel y mae eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd yn berffaith.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.