M’Cheyne Bible Reading Plan
11 Car dithau yr Arglwydd dy Dduw, a chadw ei gadwraeth ef, a’i ddeddfau a’i farnedigaethau, a’i orchmynion, byth. 2 A chydnabyddwch heddiw: canys nid wyf yn ymddiddan â’ch plant, y rhai nid adnabuant, ac ni welsant gerydd yr Arglwydd eich Duw chwi, ei fawredd, ei law gref, a’i fraich estynedig; 3 Ei arwyddion hefyd, a’i weithredoedd, y rhai a wnaeth efe yng nghanol yr Aifft, i Pharo brenin yr Aifft, ac i’w holl dir; 4 A’r hyn a wnaeth efe i lu yr Aifft, i’w feirch ef, ac i’w gerbydau; y modd y gwnaeth efe i ddyfroedd y môr coch lenwi dros eu hwynebau hwynt, pan oeddynt yn ymlid ar eich ôl, ac y difethodd yr Arglwydd hwynt, hyd y dydd hwn: 5 A’r hyn a wnaeth efe i chwi yn yr anialwch, nes eich dyfod i’r lle hwn; 6 A’r hyn a wnaeth efe i Dathan, ac i Abiram, meibion Elïab, mab Reuben; y modd yr agorodd y ddaear ei safn, ac a’u llyncodd hwynt, a’u teuluoedd, a’u pebyll, a’r holl olud oedd ganddynt, ymysg holl Israel. 7 Eithr eich llygaid chwi oedd yn gweled holl fawrion weithredoedd yr Arglwydd, y rhai a wnaeth efe. 8 Cedwch chwithau bob gorchymyn yr ydwyf fi yn ei orchymyn i chwi heddiw; fel y byddoch gryfion, ac yr eloch i mewn, ac y meddiannoch y tir yr ydych yn myned trosodd iddo i’w feddiannu: 9 Ac fel yr estynnoch ddyddiau yn y tir yr hwn a dyngodd yr Arglwydd i’ch tadau, ar ei roddi iddynt, ac i’w had; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl.
10 Oherwydd y tir yr wyt yn myned iddo i’w feddiannu, nid fel tir yr Aifft y mae, yr hwn y daethoch allan ohono, lle yr heuaist dy had, ac y dyfrheaist â’th droed, fel gardd lysiau: 11 Ond y tir yr ydych yn myned trosodd iddo i’w feddiannu, sydd fynydd‐dir, a dyffryndir, yn yfed dwfr o law y nefoedd; 12 Tir yw, yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei ymgeleddu: llygaid yr Arglwydd dy Dduw sydd bob amser arno, o ddechreuad y flwyddyn hyd ddiwedd y flwyddyn hefyd.
13 A bydd, os gan wrando y gwrandewch ar fy ngorchmynion, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i chwi heddiw, i garu yr Arglwydd eich Duw, ac i’w wasanaethu, â’ch holl galon, ac â’ch holl enaid; 14 Yna y rhoddaf law i’ch tir yn ei amser, sef y cynnar‐law, a’r diweddar‐law; fel y casglech dy ŷd, a’th win, a’th olew; 15 A rhoddaf laswellt yn dy faes, i’th anifeiliaid; fel y bwytaech, ac y’th ddigoner. 16 Gwyliwch arnoch rhag twyllo eich calon, a chilio ohonoch, a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt; 17 Ac enynnu dicllonedd yr Arglwydd i’ch erbyn, a chau ohono ef y nefoedd, fel na byddo glaw, ac na roddo y ddaear ei chnwd, a’ch difetha yn fuan o’r tir yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei roddi i chwi.
18 Am hynny gosodwch fy ngeiriau hyn yn eich calon, ac yn eich meddwl, a rhwymwch hwynt yn arwydd ar eich dwylo, a byddant yn rhactalau rhwng eich llygaid: 19 A dysgwch hwynt i’ch plant; gan grybwyll amdanynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan rodiech ar y ffordd, pan orweddych hefyd, a phan godych. 20 Ac ysgrifenna hwynt ar byst dy dŷ, ac ar dy byrth; 21 Fel yr amlhao eich dyddiau chwi, a dyddiau eich plant chwi, ar y ddaear yr hon a dyngodd yr Arglwydd wrth eich tadau am ei rhoddi iddynt, fel dyddiau y nefoedd ar y ddaear.
22 Canys os gan gadw y cedwch yr holl orchmynion hyn, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi i’w gwneuthur, i garu yr Arglwydd eich Duw, i rodio yn ei holl ffyrdd ef, ac i lynu wrtho ef; 23 Yna y gyr yr Arglwydd allan yr holl genhedloedd hyn o’ch blaen chwi, a chwi a feddiennwch genhedloedd mwy a chryfach na chwi. 24 Pob man y sathro gwadn eich troed chwi arno, fydd eiddo chwi: o’r anialwch, a Libanus, ac o’r afon, sef afon Ewffrates, hyd y môr eithaf, y bydd eich terfyn chwi. 25 Ni saif gŵr yn eich wyneb: eich arswyd a’ch ofn a rydd yr Arglwydd eich Duw ar wyneb yr holl dir yr hwn y sathroch arno, megis y llefarodd wrthych
26 Wele, rhoddi yr ydwyf fi o’ch blaen chwi heddiw fendith a melltith: 27 Bendith, os gwrandewch ar orchmynion yr Arglwydd eich Duw, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw; 28 A melltith, oni wrandewch ar orchmynion yr Arglwydd eich Duw, ond cilio ohonoch allan o’r ffordd yr ydwyf fi yn ei gorchymyn i chwi heddiw, i fyned ar ôl duwiau dieithr, y rhai nid adnabuoch 29 Bydded gan hynny, pan ddygo yr Arglwydd dy Dduw di i’r tir yr ydwyt yn myned iddo i’w feddiannu, roddi ohonot y fendith ar fynydd Garisim, a’r felltith ar fynydd Ebal. 30 Onid yw y rhai hyn o’r tu hwnt i’r Iorddonen, tua’r lle y machluda’r haul, yn nhir y Canaaneaid, yr hwn sydd yn trigo yn y rhos ar gyfer Gilgal, gerllaw gwastadedd More? 31 Canys myned yr ydych dros yr Iorddonen, i fyned i feddiannu’r tir y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei roddi i chwi; a chwi a’i meddiennwch ac a breswyliwch ynddo. 32 Gwyliwch chwithau am wneuthur yr holl ddeddfau a’r barnedigaethau, y rhai yr ydwyf fi yn eu rhoddi o’ch blaen chwi heddiw.
95 Deuwch, canwn i’r Arglwydd: ymlawenhawn yn nerth ein hiechyd. 2 Deuwn ger ei fron ef â diolch: canwn yn llafar iddo â salmau. 3 Canys yr Arglwydd sydd Dduw mawr, a Brenin mawr goruwch yr holl dduwiau. 4 Yr hwn y mae gorddyfnderau y ddaear yn ei law, ac uchelderau y mynyddoedd yn eiddo. 5 Y môr sydd eiddo, ac efe a’i gwnaeth: a’i ddwylo a luniasant y sychdir. 6 Deuwch, addolwn, ac ymgrymwn: gostyngwn ar ein gliniau gerbron yr Arglwydd ein Gwneuthurwr. 7 Canys efe yw ein Duw ni; a ninnau ŷm bobl ei borfa, a defaid ei law. Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd, 8 Na chaledwch eich calonnau, megis yn yr ymrysonfa, fel yn nydd profedigaeth yn yr anialwch: 9 Pan demtiodd eich tadau fi, y profasant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd. 10 Deugain mlynedd yr ymrysonais â’r genhedlaeth hon, a dywedais, Pobl gyfeiliornus yn eu calon ydynt hwy, ac nid adnabuant fy ffyrdd: 11 Wrth y rhai y tyngais yn fy llid, na ddelent i’m gorffwysfa.
96 Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd; cenwch i’r Arglwydd, yr holl ddaear. 2 Cenwch i’r Arglwydd, bendigwch ei enw; cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef. 3 Datgenwch ymysg y cenhedloedd ei ogoniant ef, ymhlith yr holl bobloedd ei ryfeddodau. 4 Canys mawr yw yr Arglwydd, a chanmoladwy iawn: ofnadwy yw efe goruwch yr holl dduwiau. 5 Canys holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod: ond yr Arglwydd a wnaeth y nefoedd. 6 Gogoniant a harddwch sydd o’i flaen ef; nerth a hyfrydwch sydd yn ei gysegr. 7 Tylwythau y bobl, rhoddwch i’r Arglwydd, rhoddwch i’r Arglwydd ogoniant a nerth. 8 Rhoddwch i’r Arglwydd ogoniant ei enw: dygwch offrwm, a deuwch i’w gynteddoedd. 9 Addolwch yr Arglwydd mewn prydferthwch sancteiddrwydd: yr holl ddaear, ofnwch ger ei fron ef. 10 Dywedwch ymysg y cenhedloedd, Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; a’r byd a sicrhaodd efe, fel nad ysgogo: efe a farna y bobl yn uniawn. 11 Llawenhaed y nefoedd, a gorfoledded y ddaear; rhued y môr a’i gyflawnder. 12 Gorfoledded y maes, a’r hyn oll y sydd ynddo: yna holl brennau y coed a ganant. 13 O flaen yr Arglwydd; canys y mae yn dyfod, canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd trwy gyfiawnder, a’r bobloedd â’i wirionedd.
39 Yn yr amser hwnnw Merodach‐Baladan, mab Baladan, brenin Babilon, a anfonodd lythyrau ac anrheg at Heseceia: canys efe a glywsai ei fod ef yn glaf, a’i fyned yn iach. 2 A Heseceia a lawenychodd o’u herwydd hwynt, ac a ddangosodd iddynt dŷ ei drysorau, yr arian, a’r aur, a’r llysieuau, a’r olew gwerthfawr, a holl dŷ ei arfau, a’r hyn oll a gafwyd yn ei drysorau ef: nid oedd dim yn ei dŷ ef, nac yn ei holl gyfoeth ef, a’r nas dangosodd Heseceia iddynt.
3 Yna y daeth Eseia y proffwyd at y brenin Heseceia, ac a ddywedodd wrtho, Beth a ddywedodd y gwŷr hyn? ac o ba le y daethant atat? A dywedodd Heseceia, O wlad bell y daethant ataf fi, sef o Babilon. 4 Yntau a ddywedodd, Beth a welsant hwy yn dy dŷ di? A dywedodd Heseceia, Yr hyn oll oedd yn fy nhŷ i a welsant: nid oes dim yn fy nhrysorau a’r nas dangosais iddynt. 5 Yna Eseia a ddywedodd wrth Heseceia, Gwrando air Arglwydd y lluoedd. 6 Wele y dyddiau yn dyfod, pan ddygir i Babilon yr hyn oll sydd yn dy dŷ di, a’r hyn a gynilodd dy dadau di hyd y dydd hwn: ni adewir dim, medd yr Arglwydd. 7 Cymerant hefyd o’th feibion di, y rhai a ddaw ohonot, sef y rhai a genhedli, fel y byddont ystafellyddion yn llys brenin Babilon. 8 Yna y dywedodd Heseceia wrth Eseia, Da yw gair yr Arglwydd, yr hwn a leferaist. Dywedodd hefyd, Canys bydd heddwch a gwirionedd yn fy nyddiau i.
9 A’r pumed angel a utganodd; ac mi a welais seren yn syrthio o’r nef i’r ddaear: a rhoddwyd iddo ef agoriad y pydew heb waelod. 2 Ac efe a agorodd y pydew heb waelod; a chododd mwg o’r pydew, fel mwg ffwrn fawr: a thywyllwyd yr haul a’r awyr gan fwg y pydew. 3 Ac o’r mwg y daeth allan locustiaid ar y ddaear; a rhoddwyd awdurdod iddynt, fel y mae gan ysgorpionau’r ddaear awdurdod. 4 A dywedwyd wrthynt, na wnaent niwed i laswellt y ddaear, nac i ddim gwyrddlas, nac i un pren; ond yn unig i’r dynion oedd heb sêl Duw yn eu talcennau. 5 A rhoddwyd iddynt na laddent hwynt, ond bod iddynt eu blino hwy bum mis: ac y byddai eu gofid hwy fel gofid oddi wrth ysgorpion, pan ddarfyddai iddi frathu dyn. 6 Ac yn y dyddiau hynny y cais dynion farwolaeth, ac nis cânt; ac a chwenychant farw, a marwolaeth a gilia oddi wrthynt. 7 A dull y locustiaid oedd debyg i feirch wedi eu paratoi i ryfel; ac yr oedd ar eu pennau megis coronau yn debyg i aur, a’u hwynebau fel wynebau dynion. 8 A gwallt oedd ganddynt fel gwallt gwragedd, a’u dannedd oedd fel dannedd llewod. 9 Ac yr oedd ganddynt lurigau fel llurigau haearn; a llais eu hadenydd oedd fel llais cerbydau llawer o feirch yn rhedeg i ryfel. 10 Ac yr oedd ganddynt gynffonnau tebyg i ysgorpionau, ac yr oedd colynnau yn eu cynffonnau hwy: a’u gallu oedd i ddrygu dynion bum mis. 11 Ac yr oedd ganddynt frenin arnynt, sef angel y pydew diwaelod: a’i enw ef yn Hebraeg ydyw Abadon, ac yn Roeg y mae iddo enw Apolyon. 12 Un wae a aeth heibio; wele, y mae yn dyfod eto ddwy wae ar ôl hyn. 13 A’r chweched angel a utganodd; ac mi a glywais lef allan o bedwar corn yr allor aur, yr hon sydd gerbron Duw. 14 Yn dywedyd wrth y chweched angel, yr hwn oedd â’r utgorn ganddo, Gollwng yn rhydd y pedwar angel sydd yn rhwym yn yr afon fawr Ewffrates. 15 A gollyngwyd y pedwar angel, y rhai oedd wedi eu paratoi erbyn awr, a diwrnod, a mis, a blwyddyn, fel y lladdent y traean o’r dynion. 16 A rhifedi’r llu o wŷr meirch oedd ddwy fyrddiwn o fyrddiynau: ac mi a glywais eu rhifedi hwynt. 17 Ac fel hyn y gwelais i’r meirch yn y weledigaeth, a’r rhai oedd yn eistedd arnynt, a chanddynt lurigau tanllyd, ac o liw hyacinth a brwmstan: a phennau’r meirch oedd fel pennau llewod; ac yr oedd yn myned allan o’u safnau, dân, a mwg, a brwmstan. 18 Gan y tri hyn y llas traean y dynion, gan y tân, a chan y mwg, a chan y brwmstan, oedd yn dyfod allan o’u safnau hwynt. 19 Canys eu gallu hwy sydd yn eu safn, ac yn eu cynffonnau: canys y cynffonnau oedd debyg i seirff, a phennau ganddynt; ac â’r rhai hynny y maent yn drygu. 20 A’r dynion eraill, y rhai ni laddwyd gan y plâu hyn, nid edifarhasant oddi wrth weithredoedd eu dwylo eu hun, fel nad addolent gythreuliaid, a delwau aur, ac arian, a phres, a main, a phrennau, y rhai ni allant na gweled, na chlywed, na rhodio: 21 Ac nid edifarhasant oddi wrth eu llofruddiaeth, nac oddi wrth eu cyfareddion, nac oddi wrth eu godineb, nac oddi wrth eu lladrad.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.