Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Exodus 14

14 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, Dywed wrth feibion Israel, am ddychwelyd a gwersyllu o flaen Pihahiroth, rhwng Migdol a’r môr, o flaen Baal‐seffon: ar ei chyfer y gwersyllwch wrth y môr. Canys dywed Pharo am feibion Israel, Rhwystrwyd hwynt yn y tir; caeodd yr anialwch arnynt. A mi a galedaf galon Pharo, fel yr erlidio ar eu hôl hwynt: felly y’m gogoneddir ar Pharo, a’i holl fyddin; a’r Eifftiaid a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd. Ac felly y gwnaethant.

A mynegwyd i frenin yr Aifft, fod y bobl yn ffoi: yna y trodd calon Pharo a’i weision yn erbyn y bobl; a dywedasant, Beth yw hyn a wnaethom, pan ollyngasom Israel o’n gwasanaethu? Ac efe a daclodd ei gerbyd, ac a gymerodd ei bobl gydag ef. A chymerodd chwe chant o ddewis gerbydau, a holl gerbydau yr Aifft, a chapteiniaid ar bob un ohonynt. A’r Arglwydd a galedasai galon Pharo brenin yr Aifft, ac efe a ymlidiodd ar ôl meibion Israel: ond yr oedd meibion Israel yn myned allan â llaw uchel. A’r Eifftiaid a ymlidiasant ar eu hôl hwynt, sef holl feirch a cherbydau Pharo, a’i wŷr meirch, a’i fyddin, ac a’u goddiweddasant yn gwersyllu wrth y môr, gerllaw Pihahiroth, o flaen Baal‐seffon.

10 A phan nesaodd Pharo, meibion Israel a godasant eu golwg; ac wele yr Eifftiaid yn dyfod ar eu hôl; a hwy a ofnasant yn ddirfawr: a meibion Israel a waeddasant ar yr Arglwydd. 11 A dywedasant wrth Moses, Ai am nad oedd beddau yn yr Aifft, y dygaist ni i farw yn yr anialwch? Paham y gwnaethost fel hyn â ni, gan ein dwyn allan o’r Aifft? 12 Onid dyma y peth a lefarasom wrthyt yn yr Aifft, gan ddywedyd, Paid â ni, fel y gwasanaethom yr Eifftiaid? canys gwell fuasai i ni wasanaethu’r Eifftiaid, na marw yn yr anialwch.

13 A Moses a ddywedodd wrth y bobl, Nac ofnwch; sefwch, ac edrychwch ar iachawdwriaeth yr Arglwydd, yr hwn a wna efe i chwi heddiw; oblegid yr Eifftiaid y rhai a welsoch chwi heddiw, ni chewch eu gweled byth ond hynny. 14 Yr Arglwydd a ymladd drosoch; am hynny tewch chwi â sôn.

15 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Paham y gwaeddi arnaf? dywed wrth feibion Israel am gerdded rhagddynt. 16 A chyfod dithau dy wialen, ac estyn dy law ar y môr, a hollta ef: a meibion Israel a ânt trwy ganol y môr ar dir sych. 17 Wele, fi, ie myfi a galedaf galon yr Eifftiaid, fel y delont ar eu hôl hwynt: a mi a ogoneddir ar Pharo, ac ar ei holl fyddin, ar ei gerbydau ef, ac ar ei farchogion. 18 A’r Eifftiaid a gânt wybod mai myfi yw’r Arglwydd, pan y’m gogoneddir ar Pharo, ar ei gerbydau, ac ar ei farchogion.

19 Ac angel Duw, yr hwn oedd yn myned o flaen byddin Israel, a symudodd, ac a aeth o’u hôl hwynt; a’r golofn niwl a aeth ymaith o’u tu blaen hwynt, ac a safodd o’u hôl hwynt. 20 Ac efe a ddaeth rhwng llu yr Eifftiaid a llu Israel; ac yr ydoedd yn gwmwl ac yn dywyllwch i’r Eifftiaid, ac yn goleuo y nos i Israel: ac ni nesaodd y naill at y llall ar hyd y nos. 21 A Moses a estynnodd ei law ar y môr: a’r Arglwydd a yrrodd y môr yn ei ôl, trwy ddwyreinwynt cryf ar hyd y nos, ac a wnaeth y môr yn sychdir, a holltwyd y dyfroedd. 22 A meibion Israel a aethant trwy ganol y môr ar dir sych: a’r dyfroedd oedd yn fur iddynt, o’r tu deau, ac o’r tu aswy.

23 A’r Eifftiaid a erlidiasant, ac a ddaethant ar eu hôl hwynt; sef holl feirch Pharo, a’i gerbydau, a’r farchogion, i ganol y môr. 24 Ac ar yr wyliadwriaeth fore yr Arglwydd a edrychodd ar fyddin yr Eifftiaid trwy’r golofn dân a’r cwmwl, ac a derfysgodd fyddin yr Eifftiaid. 25 Ac efe a dynnodd ymaith olwynion eu cerbydau; ac yr oeddynt yn gyrru yn drwm: fel y dywedodd yr Eifftiaid, Ffown oddi wrth Israel; oblegid yr Arglwydd sydd yn ymladd drostynt hwy yn erbyn yr Eifftiaid.

26 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law ar y môr; fel y dychwelo’r dyfroedd ar yr Eifftiaid, ar eu cerbydau, ac ar eu marchogion. 27 A Moses a estynnodd ei law ar y môr: a dychwelodd y môr cyn y bore i’w nerth; a’r Eifftiaid a ffoesant yn ei erbyn ef: a’r Arglwydd a ddymchwelodd yr Eifftiaid yng nghanol y môr. 28 A’r dyfroedd a ddychwelasant, ac a orchuddiasant gerbydau, a marchogion, a holl fyddin Pharo, y rhai a ddaethant ar eu hôl hwynt i’r môr: ni adawyd ohonynt gymaint ag un. 29 Ond meibion Israel a gerddasant ar dir sych yng nghanol y môr: a’r dyfroedd oedd yn fur iddynt, ar y llaw ddeau, ac ar y llaw aswy. 30 Felly yr Arglwydd a achubodd Israel y dydd hwnnw o law yr Eifftiaid: a gwelodd Israel yr Eifftiaid yn feirw ar fin y môr. 31 A gwelodd Israel y grymuster mawr a wnaeth yr Arglwydd yn erbyn yr Eifftiaid: a’r bobl a ofnasant yr Arglwydd, ac a gredasant i’r Arglwydd, ac i’w was ef Moses.

Luc 17

17 Ac efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Ni all na ddêl rhwystrau: ond gwae efe trwy’r hwn y deuant! Gwell fyddai iddo pe rhoddid maen melin o amgylch ei wddf ef, a’i daflu i’r môr, nag iddo rwystro un o’r rhai bychain hyn.

Edrychwch arnoch eich hunain. Os pecha dy frawd yn dy erbyn, cerydda ef; ac os edifarha efe, maddau iddo. Ac os pecha yn dy erbyn seithwaith yn y dydd, a seithwaith yn y dydd droi atat, gan ddywedyd, Y mae yn edifar gennyf; maddau iddo. A’r apostolion a ddywedasant wrth yr Arglwydd, Anghwanega ein ffydd ni. A’r Arglwydd a ddywedodd, Pe byddai gennych ffydd gymaint â gronyn o had mwstard, chwi a allech ddywedyd wrth y sycamorwydden hon, Ymddadwreiddia, a phlanner di yn y môr; a hi a ufuddhâi i chwi. Eithr pwy ohonoch chwi ac iddo was yn aredig, neu’n bugeilio, a ddywed wrtho yn y man pan ddêl o’r maes, Dos ac eistedd i lawr i fwyta? Ond yn hytrach a ddywed wrtho, Arlwya i mi i swperu, ac ymwregysa, a gwasanaetha arnaf fi, nes i mi fwyta ac yfed: ac wedi hynny y bwytei ac yr yfi dithau? Oes ganddo ddiolch i’r gwas hwnnw, am wneuthur ohono y pethau a orchmynasid iddo? Nid wyf yn tybied. 10 Felly chwithau hefyd, gwedi i chwi wneuthur y cwbl oll ag a orchmynnwyd i chwi, dywedwch, Gweision anfuddiol ydym: oblegid yr hyn a ddylasem ei wneuthur, a wnaethom.

11 Bu hefyd, ac efe yn myned i Jerwsalem, fyned ohono ef trwy ganol Samaria a Galilea. 12 A phan oedd efe yn myned i mewn i ryw dref, cyfarfu ag ef ddeg o wŷr gwahangleifion, y rhai a safasant o hirbell: 13 A hwy a godasant eu llef, gan ddywedyd, Iesu Feistr, trugarha wrthym. 14 A phan welodd efe hwynt, efe a ddywedodd wrthynt, Ewch a dangoswch eich hunain i’r offeiriaid. A bu, fel yr oeddynt yn myned, fe a’u glanhawyd hwynt. 15 Ac un ohonynt, pan welodd ddarfod ei iacháu, a ddychwelodd, gan foliannu Duw â llef uchel. 16 Ac efe a syrthiodd ar ei wyneb wrth ei draed ef, gan ddiolch iddo. A Samariad oedd efe. 17 A’r Iesu gan ateb a ddywedodd, Oni lanhawyd y deg? ond pa le y mae y naw? 18 Ni chaed a ddychwelasant i roi gogoniant i Dduw, ond yr estron hwn. 19 Ac efe a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos ymaith: dy ffydd a’th iachaodd.

20 A phan ofynnodd y Phariseaid iddo, pa bryd y deuai teyrnas Dduw, efe a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Ni ddaw teyrnas Dduw wrth ddisgwyl. 21 Ac ni ddywedant, Wele yma; neu, Wele acw: canys wele, teyrnas Dduw, o’ch mewn chwi y mae. 22 Ac efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Y dyddiau a ddaw pan chwenychoch weled un o ddyddiau Mab y dyn, ac nis gwelwch. 23 A hwy a ddywedant wrthych, Wele yma; neu, Wele acw: nac ewch, ac na chanlynwch hwynt. 24 Canys megis y mae’r fellten a felltenna o’r naill ran dan y nef, yn disgleirio hyd y rhan arall dan y nef; felly y bydd Mab y dyn hefyd yn ei ddydd ef. 25 Eithr yn gyntaf rhaid iddo ddioddef llawer, a’i wrthod gan y genhedlaeth hon. 26 Ac megis y bu yn nyddiau Noe, felly y bydd hefyd yn nyddiau Mab y dyn. 27 Yr oeddynt yn bwyta, yn yfed, yn gwreica, yn gwra hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i’r arch; a daeth y dilyw, ac a’u difethodd hwynt oll. 28 Yr un modd hefyd ag y bu yn nyddiau Lot: yr oeddynt yn bwyta, yn yfed, yn prynu, yn gwerthu, yn plannu, yn adeiladu; 29 Eithr y dydd yr aeth Lot allan o Sodom, y glawiodd tân a brwmstan o’r nef, ac a’u difethodd hwynt oll: 30 Fel hyn y bydd yn y dydd y datguddir Mab y dyn. 31 Yn y dydd hwnnw y neb a fyddo ar ben y tŷ, a’i ddodrefn o fewn y tŷ, na ddisgynned i’w cymryd hwynt; a’r hwn a fyddo yn y maes, yr un ffunud na ddychweled yn ei ôl. 32 Cofiwch wraig Lot. 33 Pwy bynnag a geisio gadw ei einioes, a’i cyll; a phwy bynnag a’i cyll, a’i bywha hi. 34 Yr wyf yn dywedyd i chwi, Y nos honno y bydd dau yn yr un gwely; y naill a gymerir, a’r llall a adewir. 35 Dwy a fydd yn malu yn yr un lle; y naill a gymerir, a’r llall a adewir. 36 Dau a fyddant yn y maes; y naill a gymerir, a’r llall a adewir. 37 A hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Pa le, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa le bynnag y byddo y corff, yno yr ymgasgl yr eryrod.

Job 32

32 Felly y tri gŵr yma a beidiasant ag ateb i Job, am ei fod ef yn gyfiawn yn ei olwg ei hun. Yna digofaint Elihu, mab Barachel y Busiad, o genedl Ram, a gyneuodd: ei ddigofaint ef a enynnodd yn erbyn Job, am farnu ohono ei enaid yn gyfiawn o flaen Duw. A’i ddigofaint ef a gyneuodd yn erbyn ei dri chyfaill, am na chawsent hwy ateb, ac er hynny, farnu ohonynt Job yn euog. Elihu hefyd a arosasai ar Job nes darfod iddo lefaru: canys yr oeddynt hwy yn hŷn nag ef o oedran. Pan welodd Elihu nad oedd ateb gan y triwyr hyn, yna y cyneuodd ei ddigofaint ef. Ac Elihu, mab Barachel y Busiad, a atebodd ac a ddywedodd, Ieuanc ydwyf o oedran, chwithau ydych hen iawn: am hynny yr arswydais, ac yr ofnais ddangos fy meddwl i chwi. Dywedais, Dyddiau a draethant, a lliaws o flynyddoedd a ddysgant ddoethineb. Ond y mae ysbryd mewn dyn; ac ysbrydoliaeth yr Hollalluog sydd yn gwneuthur iddynt hwy ddeall. Nid yw gwŷr mawrion ddoeth bob amser: ac nid yw hynafgwyr yn deall barn. 10 Am hynny y dywedais, Gwrando fi; minnau a ddangosaf fy meddwl. 11 Wele, disgwyliais wrth eich geiriau; clustymwrandewais â’ch rhesymau, tra y chwiliasoch chwi am eiriau. 12 Ie, mi a ddeliais arnoch: ac wele, nid oedd un ohonoch yn argyhoeddi Job, gan ateb ei eiriau ef: 13 Rhag dywedyd ohonoch, Ni a gawsom ddoethineb: Duw sydd yn ei wthio ef i lawr, ac nid dyn. 14 Er na hwyliodd efe ei ymadroddion yn fy erbyn i: ac nid atebaf finnau iddo â’ch geiriau chwi. 15 Hwy a synasant, nid atebasant mwy; peidiasant â llefaru. 16 Wedi disgwyl ohonof, (canys ni lefarant, eithr sefyll heb ateb mwy,) 17 Dywedais, Minnau a atebaf fy rhan, minnau a ddangosaf fy meddwl. 18 Canys yr ydwyf yn llawn geiriau: y mae yr ysbryd sydd ynof yn fy nghymell i. 19 Wele, fy mol sydd fel gwin nid agorid arno: y mae efe yn hollti fel costrelau newyddion. 20 Dywedaf, fel y caffwyf fy anadl: agoraf fy ngwefusau, ac atebaf. 21 Ni dderbyniaf yn awr wyneb neb: ni wenieithiaf wrth ddyn. 22 Canys ni fedraf wenieithio; pe gwnelwn, buan y’m cymerai fy Ngwneuthurwr ymaith.

2 Corinthiaid 2

Eithr mi a fernais hyn ynof fy hunan, na ddelwn drachefn mewn tristwch atoch. Oblegid os myfi a’ch tristâf chwi, pwy yw’r hwn a’m llawenha i, ond yr hwn a dristawyd gennyf fi? Ac mi a ysgrifennais hyn yma atoch, fel, pan ddelwn, na chawn dristwch oddi wrth y rhai y dylwn lawenhau; gan hyderu amdanoch oll, fod fy llawenydd i yn llawenydd i chwi oll. Canys o orthrymder mawr, a chyfyngder calon, yr ysgrifennais atoch â dagrau lawer; nid fel y’ch tristeid chwi, eithr fel y gwybyddech y cariad sydd gennyf yn helaethach tuag atoch chwi. Ac os gwnaeth neb dristáu, ni wnaeth efe i mi dristáu, ond o ran; rhag i mi bwyso arnoch chwi oll. Digon i’r cyfryw ddyn y cerydd yma, a ddaeth oddi wrth laweroedd. Yn gymaint ag y dylech, yn y gwrthwyneb, yn hytrach faddau iddo, a’i ddiddanu; rhag llyncu’r cyfryw gan ormod tristwch. Am hynny yr ydwyf yn atolwg i chwi gadarnhau eich cariad tuag ato ef. Canys er mwyn hyn hefyd yr ysgrifennais, fel y gwybyddwn brawf ohonoch, a ydych ufudd ym mhob peth. 10 I’r hwn yr ydych yn maddau dim iddo, yr wyf finnau: canys os maddeuais ddim, i’r hwn y maddeuais, er eich mwyn chwi y maddeuais, yng ngolwg Crist; 11 Fel na’n siomer gan Satan: canys nid ydym heb wybod ei ddichellion ef. 12 Eithr gwedi i mi ddyfod i Droas i bregethu efengyl Crist, ac wedi agoryd i mi ddrws gan yr Arglwydd, 13 Ni chefais lonydd yn fy ysbryd, am na chefais Titus fy mrawd: eithr gan ganu’n iach iddynt, mi a euthum ymaith i Facedonia. 14 Ond i Dduw y byddo’r diolch, yr hwn yn wastad sydd yn peri i ni oruchafiaeth yng Nghrist, ac sydd yn eglurhau arogledd ei wybodaeth trwom ni ym mhob lle. 15 Canys perarogl Crist ydym ni i Dduw, yn y rhai cadwedig, ac yn y rhai colledig: 16 I’r naill yr ydym yn arogl marwolaeth i farwolaeth; ac i’r lleill, yn arogl bywyd i fywyd: a phwy sydd ddigonol i’r pethau hyn? 17 Canys nid ydym ni, megis llawer, yn gwneuthur masnach o air Duw: eithr megis o burdeb, eithr megis o Dduw, yng ngŵydd Duw yr ydym yn llefaru yng Nghrist.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.