Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Genesis 42

42 Pan welodd Jacob fod ŷd yn yr Aifft, dywedodd Jacob wrth ei feibion, Paham yr edrychwch ar eich gilydd? Dywedodd hefyd, Wele, clywais fod ŷd yn yr Aifft: ewch i waered yno, a phrynwch i ni oddi yno; fel y bôm fyw, ac na byddom feirw.

A deg brawd Joseff a aethant i waered, i brynu ŷd, i’r Aifft. Ond ni ollyngai Jacob Benjamin, brawd Joseff, gyda’i frodyr: oblegid efe a ddywedodd, Rhag digwydd niwed iddo ef. A meibion Israel a ddaethant i brynu ymhlith y rhai oedd yn dyfod; oblegid yr ydoedd y newyn yng ngwlad Canaan. A Joseff oedd lywydd ar y wlad, ac oedd ei hun yn gwerthu i holl bobl y wlad: a brodyr Joseff a ddaethant, ac a ymgrymasant i lawr iddo ef ar eu hwynebau. A Joseff a ganfu ei frodyr, ac a’u hadnabu hwynt, ac a ymddieithrodd iddynt hwy, ac a lefarodd wrthynt yn arw, ac a ddywedodd wrthynt, O ba le y daethoch? Hwythau a atebasant, O wlad Canaan, i brynu lluniaeth. A Joseff oedd yn adnabod ei frodyr; ond nid oeddynt hwy yn ei adnabod ef. A Joseff a gofiodd ei freuddwydion a freuddwydiasai efe amdanynt hwy; ac a ddywedodd wrthynt, Ysbïwyr ydych chwi; i edrych noethder y wlad y daethoch. 10 Hwythau a ddywedasant wrtho ef, Nage, fy arglwydd; ond dy weision a ddaethant i brynu lluniaeth. 11 Nyni oll ydym feibion un gŵr: gwŷr cywir ydym ni; nid yw dy weision di ysbïwyr. 12 Yntau a ddywedodd wrthynt hwy, Nage; ond i edrych noethder y wlad y daethoch. 13 Hwythau a ddywedasant, Dy weision di oedd ddeuddeg brawd, meibion un gŵr yng ngwlad Canaan: ac wele, y mae yr ieuangaf heddiw gyda’n tad ni, a’r llall nid yw fyw. 14 A Joseff a ddywedodd wrthynt, Dyma yr hyn a adroddais, wrthych, gan ddywedyd, Ysbïwyr ydych chwi. 15 Wrth hyn y’ch profir: Myn einioes Pharo, nid ewch allan oddi yma, onid trwy ddyfod o’ch brawd ieuangaf yma. 16 Hebryngwch un ohonoch i gyrchu eich brawd, a rhwymer chwithau; fel y profer eich geiriau chwi, a oes gwirionedd ynoch: oblegid onid e, myn einioes Pharo, ysbïwyr yn ddiau ydych chwi. 17 As efe a’u rhoddodd hwynt i gyd yng ngharchar dridiau. 18 Ac ar y trydydd dydd y dywedodd Joseff wrthynt, Gwnewch hyn, fel y byddoch fyw: ofni Duw yr wyf fi. 19 Os gwŷr cywir ydych chwi, rhwymer un o’ch brodyr chwi yn eich carchardy; ac ewch chwithau, dygwch ŷd rhag newyn i’ch tylwyth. 20 A dygwch eich brawd ieuangaf ataf fi: felly y cywirir eich geiriau chwi, ac ni byddwch feirw. Hwythau a wnaethant felly.

21 Ac a ddywedasant wrth ei gilydd, Diau bechu ohonom yn erbyn ein brawd; oblegid gweled a wnaethom gyfyngdra ei enaid ef, pan ymbiliodd efe â ni, ac ni wrandawsom ef: am hynny y daeth y cyfyngdra hwn arnom ni. 22 A Reuben a’u hatebodd hwynt, gan ddywedyd, Oni ddywedais i wrthych, gan ddywedyd, Na phechwch yn erbyn yr herlod; ac ni wrandawech chwi? wele am hynny ynteu y gofynnir ei waed ef. 23 Ac nis gwyddynt hwy fod Joseff yn eu deall; am fod cyfieithydd rhyngddynt. 24 Yntau a drodd oddi wrthynt, ac a wylodd; ac a ddaeth eilchwyl atynt, ac a lefarodd wrthynt hwy, ac a gymerth o’u mysg hwynt Simeon, ac a’i rhwymodd ef o flaen eu llygaid hwynt.

25 Joseff hefyd a orchmynnodd lenwi eu sachau hwynt o ŷd, a rhoddi drachefn arian pob un ohonynt yn ei sach, a rhoddi bwyd iddynt i’w fwyta ar y ffordd: ac felly y gwnaeth iddynt hwy. 26 Hwythau a gyfodasant eu hŷd ar eu hasynnod, ac a aethant oddi yno. 27 Ac un a agorodd ei sach, ar fedr rhoddi ebran i’w asyn yn y llety; ac a ganfu ei arian; canys wele hwynt yng ngenau ei ffetan ef. 28 Ac a ddywedodd wrth ei frodyr, Rhoddwyd adref fy arian; ac wele hwynt hefyd yn fy ffetan: yna y digalonasant hwy, ac a ofnasant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Paham y gwnaeth Duw i ni hyn?

29 A hwy a ddaethant at Jacob eu tad i wlad Canaan; ac a fynegasant iddo ef eu holl ddamweiniau, gan ddywedyd, 30 Dywedodd y gŵr oedd arglwydd y wlad yn arw wrthym ni, ac a’n cymerth ni fel ysbïwyr y wlad. 31 Ninnau a ddywedasom wrtho ef, Gwŷr cywir ydym ni; nid ysbïwyr ydym. 32 Deuddeg o frodyr oeddem ni, meibion ein tad ni: un nid yw fyw, ac y mae yr ieuangaf heddiw gyda’n tad ni yng ngwlad Canaan. 33 A dywedodd y gŵr oedd arglwydd y wlad wrthym ni, Wrth hyn y caf wybod mai cywir ydych chwi; gadewch gyda myfi un o’ch brodyr, a chymerwch luniaeth i dorri newyn eich teuluoedd, ac ewch ymaith. 34 A dygwch eich brawd ieuangaf ataf fi, fel y gwybyddwyf nad ysbïwyr ydych chwi, ond eich bod yn gywir: yna y rhoddaf eich brawd i chwi, a chewch farchnata yn y wlad.

35 Fel yr oeddynt hwy yn tywallt eu sachau, yna wele godaid arian pob un yn ei sach: a phan welsant y codau arian, hwynt‐hwy a’u tad, ofni a wnaethant. 36 A Jacob, eu tad hwynt, a ddywedodd wrthynt hwy, Diblantasoch fi: Joseff nid yw fyw, a Simeon yntau nid yw fyw, a Benjamin a ddygech ymaith: yn fy erbyn i y mae hyn oll. 37 A dywedodd Reuben wrth ei dad, gan ddywedyd, Lladd fy nau fab i, oni ddygaf ef drachefn atat ti: dyro ef yn fy llaw i, a mi a’i dygaf ef atat ti eilwaith. 38 Yntau a ddywedodd, Nid â fy mab i waered gyda chwi: oblegid bu farw ei frawd, ac yntau a adawyd ei hunan: pe digwyddai iddo ef niwed ar y ffordd yr ewch ar hyd‐ddi, yna chwi a barech i’m penwynni ddisgyn i’r bedd mewn tristwch.

Marc 12

12 Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt ar ddamhegion. Gŵr a blannodd winllan, ac a ddododd gae o’i hamgylch, ac a gloddiodd le i’r gwingafn, ac a adeiladodd dŵr, ac a’i gosododd hi allan i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref. Ac efe a anfonodd was mewn amser at y llafurwyr, i dderbyn gan y llafurwyr o ffrwyth y winllan. A hwy a’i daliasant ef, ac a’i baeddasant, ac a’i gyrasant ymaith yn waglaw. A thrachefn yr anfonodd efe atynt was arall; a hwnnw y taflasant gerrig ato, ac yr archollasant ei ben, ac a’i gyrasant ymaith yn amharchus. A thrachefn yr anfonodd efe un arall; a hwnnw a laddasant: a llawer eraill; gan faeddu rhai, a lladd y lleill. Am hynny eto, a chanddo un mab, ei anwylyd, efe a anfonodd hwnnw hefyd atynt yn ddiwethaf gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab i. Ond y llafurwyr hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Hwn yw’r etifedd; deuwch, lladdwn ef, a’r etifeddiaeth fydd eiddom ni. A hwy a’i daliasant ef, ac a’i lladdasant, ac a’i bwriasant allan o’r winllan. Beth gan hynny a wna arglwydd y winllan? efe a ddaw, ac a ddifetha’r llafurwyr, ac a rydd y winllan i eraill. 10 Oni ddarllenasoch yr ysgrythur hon? Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a wnaethpwyd yn ben y gongl: 11 Hyn a wnaethpwyd gan yr Arglwydd; a rhyfedd yw yn ein golwg ni. 12 A hwy a geisiasant ei ddala ef; ac yr oedd arnynt ofn y dyrfa: canys hwy a wyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedasai efe y ddameg: a hwy a’i gadawsant ef, ac a aethant ymaith.

13 A hwy a anfonasant ato rai o’r Phariseaid, ac o’r Herodianiaid, i’w rwydo ef yn ei ymadrodd. 14 Hwythau, pan ddaethant, a ddywedasant wrtho, Athro, ni a wyddom dy fod di yn eirwir, ac nad oes arnat ofal rhag neb: canys nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion, ond yr wyt yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd: Ai cyfreithlon rhoi teyrnged i Gesar, ai nid yw? a roddwn, ai ni roddwn hi? 15 Ond efe, gan wybod eu rhagrith hwynt, a ddywedodd wrthynt, Paham y temtiwch fi? dygwch i mi geiniog, fel y gwelwyf hi. 16 A hwy a’i dygasant. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eiddo pwy yw’r ddelw hon a’r argraff? A hwy a ddywedasant wrtho, Eiddo Cesar. 17 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch yr eiddo Cesar i Gesar, a’r eiddo Duw i Dduw. A rhyfeddu a wnaethant o’i blegid.

18 Daeth y Sadwceaid hefyd ato, y rhai a ddywedant nad oes atgyfodiad; a gofynasant iddo, gan ddywedyd, 19 Athro, Moses a ysgrifennodd i ni, O bydd marw brawd neb, a gadu ei wraig, ac heb adu plant, am gymryd o’i frawd ei wraig ef, a chodi had i’w frawd. 20 Yr oedd gan hynny saith o frodyr: a’r cyntaf a gymerth wraig; a phan fu farw, ni adawodd had. 21 A’r ail a’i cymerth hi, ac a fu farw, ac ni adawodd yntau had: a’r trydydd yr un modd. 22 A hwy a’i cymerasant hi ill saith, ac ni adawsant had. Yn ddiwethaf o’r cwbl bu farw’r wraig hefyd. 23 Yn yr atgyfodiad gan hynny, pan atgyfodant, gwraig i ba un ohonynt fydd hi? canys y saith a’i cawsant hi yn wraig. 24 A’r Iesu a atebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Onid am hyn yr ydych yn cyfeiliorni, am nad ydych yn gwybod yr ysgrythurau, na gallu Duw? 25 Canys pan atgyfodant o feirw, ni wreicant, ac ni ŵrant; eithr y maent fel yr angylion sydd yn y nefoedd. 26 Ond am y meirw, yr atgyfodir hwynt; oni ddarllenasoch chwi yn llyfr Moses, y modd y llefarodd Duw wrtho yn y berth, gan ddywedyd, Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob? 27 Nid yw efe Dduw’r meirw, ond Duw’r rhai byw: am hynny yr ydych chwi yn cyfeiliorni’n fawr.

28 Ac un o’r ysgrifenyddion a ddaeth, wedi eu clywed hwynt yn ymresymu, a gwybod ateb ohono iddynt yn gymwys, ac a ofynnodd iddo, Pa un yw’r gorchymyn cyntaf o’r cwbl? 29 A’r Iesu a atebodd iddo, Y cyntaf o’r holl orchmynion yw, Clyw, Israel; Yr Arglwydd ein Duw, un Arglwydd yw: 30 A châr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl, ac â’th holl nerth. Hwn yw’r gorchymyn cyntaf. 31 A’r ail sydd gyffelyb iddo; Câr dy gymydog fel ti dy hun. Nid oes orchymyn arall mwy na’r rhai hyn. 32 A dywedodd yr ysgrifennydd wrtho, Da, Athro, mewn gwirionedd y dywedaist, mai un Duw sydd, ac nad oes arall ond efe: 33 A’i garu ef â’r holl galon, ac â’r holl ddeall, ac â’r holl enaid, ac â’r holl nerth, a charu ei gymydog megis ei hun, sydd fwy na’r holl boethoffrymau a’r aberthau. 34 A’r Iesu, pan welodd iddo ateb yn synhwyrol, a ddywedodd wrtho, Nid wyt ti bell oddi wrth deyrnas Dduw. Ac ni feiddiodd neb mwy ymofyn ag ef.

35 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, wrth ddysgu yn y deml, Pa fodd y dywed yr ysgrifenyddion fod Crist yn fab Dafydd? 36 Canys Dafydd ei hun a ddywedodd trwy’r Ysbryd Glân, Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed. 37 Y mae Dafydd ei hun, gan hynny, yn ei alw ef yn Arglwydd; ac o ba le y mae efe yn fab iddo? A llawer o bobl a’i gwrandawent ef yn ewyllysgar.

38 Ac efe a ddywedodd wrthynt yn ei athrawiaeth, Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a chwenychant rodio mewn gwisgoedd llaesion, a chael cyfarch yn y marchnadoedd, 39 A’r prif gadeiriau yn y synagogau, a’r prif eisteddleoedd mewn swperau; 40 Y rhai sydd yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddïo: y rhai hyn a dderbyniant farnedigaeth fwy.

41 A’r Iesu a eisteddodd gyferbyn â’r drysorfa, ac a edrychodd pa fodd yr oedd y bobl yn bwrw arian i’r drysorfa: a chyfoethogion lawer a fwriasant lawer. 42 A rhyw wraig weddw dlawd a ddaeth, ac a fwriodd i mewn ddwy hatling, yr hyn yw ffyrling. 43 Ac efe a alwodd ei ddisgyblion ato, ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, fwrw o’r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na’r rhai oll a fwriasant i’r drysorfa. 44 Canys hwynt‐hwy oll a fwriasant o’r hyn a oedd yng ngweddill ganddynt: ond hon o’i heisiau a fwriodd i mewn yr hyn oll a feddai, sef ei holl fywyd.

Job 8

Yna Bildad y Suhiad a atebodd ac a ddywedodd, Pa hyd y dywedi di hynny? ac y bydd geiriau dy enau megis gwynt cryf? A ŵyra Duw farn? neu a ŵyra yr Hollalluog gyfiawnder? Os dy feibion a bechasant yn ei erbyn ef; a bwrw ohono ef hwynt ymaith am eu camwedd; Os tydi a foregodi at Dduw, ac a weddïi ar yr Hollalluog; Os pur ac uniawn fyddi, yn wir efe a ddeffry atat ti yr awron, ac a wna drigfa dy gyfiawnder yn llwyddiannus. Er bod dy ddechreuad yn fychan, eto dy ddiwedd a gynydda yn ddirfawr. Oblegid gofyn, atolwg, i’r oes gynt, ac ymbaratoa i chwilio eu hynafiaid hwynt: (Canys er doe yr ydym ni, ac ni wyddom ddim, oherwydd cysgod yw ein dyddiau ni ar y ddaear:) 10 Oni ddysgant hwy di? ac oni ddywedant i ti? ac oni ddygant ymadroddion allan o’u calon? 11 A gyfyd brwynen heb wlybaniaeth? a dyf hesg heb ddwfr? 12 Tra fyddo hi eto yn wyrddlas heb ei thorri, hi a wywa o flaen pob glaswelltyn. 13 Felly y mae llwybrau pawb a’r sydd yn gollwng Duw dros gof, ac y derfydd am obaith y rhagrithiwr: 14 Yr hwn y torrir ymaith ei obaith; ac fel tŷ pryf copyn y bydd ei hyder ef. 15 Efe a bwysa ar ei dŷ, ond ni saif; efe a ymeifl ynddo, ond ni phery. 16 Y mae efe yn ir o flaen yr haul, ac yn ei ardd y daw ei frig allan. 17 Plethir ei wraidd ef ynghylch y pentwr, ac efe a wêl le cerrig. 18 Os diwreiddia efe ef allan o’i le, efe a’i gwad ef, gan ddywedyd, Ni’th welais. 19 Wele, dyma lawenydd ei ffordd ef: ac o’r ddaear y blagura eraill. 20 Wele, ni wrthyd Duw y perffaith, ac nid ymeifl efe yn llaw y rhai drygionus; 21 Oni lanwo efe dy enau di â chwerthin, a’th wefusau â gorfoledd. 22 A gwisgir dy gaseion di â chywilydd, ac ni bydd lluesty yr annuwiol.

Rhufeiniaid 12

12 Am hynny yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, er trugareddau Duw, roddi ohonoch eich cyrff yn aberth byw, sanctaidd, cymeradwy gan Dduw; yr hyn yw eich rhesymol wasanaeth chwi. Ac na chydymffurfiwch â’r byd hwn: eithr ymnewidiwch trwy adnewyddiad eich meddwl; fel y profoch beth yw daionus, a chymeradwy, a pherffaith ewyllys Duw. Canys yr wyf yn dywedyd, trwy y gras a roddwyd i mi, wrth bob un a’r sydd yn eich plith, na byddo i neb uchel synied yn amgen nag y dylid synied; eithr synied i sobrwydd, fel y rhannodd Duw i bob un fesur ffydd. Canys megis y mae gennym aelodau lawer mewn un corff, ac nad oes gan yr holl aelodau yr un swydd: Felly ninnau, a ni yn llawer, ydym un corff yng Nghrist, a phob un yn aelodau i’w gilydd. A chan fod i ni amryw ddoniau yn ôl y gras a roddwyd i ni, pa un bynnag ai proffwydoliaeth, proffwydwn yn ôl cysondeb y ffydd; Ai gweinidogaeth, byddwn ddyfal yn y weinidogaeth; neu yr hwn sydd yn athrawiaethu, yn yr athrawiaeth; Neu yr hwn sydd yn cynghori, yn y cyngor: yr hwn sydd yn cyfrannu, gwnaed mewn symlrwydd; yr hwn sydd yn llywodraethu, mewn diwydrwydd; yr hwn sydd yn trugarhau, mewn llawenydd. Bydded cariad yn ddiragrith. Casewch y drwg, a glynwch wrth y da. 10 Mewn cariad brawdol byddwch garedig i’ch gilydd; yn rhoddi parch, yn blaenori eich gilydd: 11 Nid yn ddiog mewn diwydrwydd; yn wresog yn yr ysbryd; yn gwasanaethu yr Arglwydd: 12 Yn llawen mewn gobaith; yn ddioddefgar mewn cystudd; yn dyfalbarhau mewn gweddi: 13 Yn cyfrannu i gyfreidiau’r saint; ac yn dilyn lletygarwch. 14 Bendithiwch y rhai sydd yn eich ymlid: bendithiwch, ac na felltithiwch. 15 Byddwch lawen gyda’r rhai sydd lawen, ac wylwch gyda’r rhai sydd yn wylo. 16 Byddwch yn unfryd â’ch gilydd: heb roi eich meddwl ar uchel bethau; eithr yn gydostyngedig â’r rhai iselradd. Na fyddwch ddoethion yn eich tyb eich hunain. 17 Na thelwch i neb ddrwg am ddrwg. Darperwch bethau onest yng ngolwg pob dyn. 18 Os yw bosibl, hyd y mae ynoch chwi, byddwch heddychlon â phob dyn. 19 Nac ymddielwch, rai annwyl, ond rhoddwch le i ddigofaint: canys y mae yn ysgrifenedig, I mi y mae dial; myfi a dalaf, medd yr Arglwydd. 20 Am hynny, os dy elyn a newyna, portha ef; os sycheda, dyro iddo ddiod: canys wrth wneuthur hyn ti a bentyrri farwor tanllyd ar ei ben ef. 21 Na orchfyger di gan ddrygioni, eithr gorchfyga di ddrygioni trwy ddaioni.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.