Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
2 Cronicl 13

13 Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i’r brenin Jeroboam y dechreuodd Abeia deyrnasu ar Jwda. Tair blynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac enw ei fam ef oedd Michaia, merch Uriel o Gibea. Ac yr oedd rhyfel rhwng Abeia a Jeroboam. Ac Abeia a gydiodd y rhyfel â llu o ryfelwyr grymus, sef pedwar can mil o wŷr etholedig: a Jeroboam a luniaethodd y rhyfel yn ei erbyn ef ag wyth gan mil o wŷr etholedig, grymus, nerthol.

Ac Abeia a gyfododd ar fynydd Semaraim, yr hwn sydd ym mynydd Effraim, ac a ddywedodd, O Jeroboam, a holl Israel, gwrandewch fi; Oni ddylech chwi wybod roddi o Arglwydd Dduw Israel y frenhiniaeth i Dafydd ar Israel yn dragywydd, iddo ef ac i’w feibion, trwy gyfamod halen? Eto Jeroboam mab Nebat, gwas Solomon mab Dafydd, a gyfododd ac a wrthryfelodd yn erbyn ei arglwydd. Ac ofer ddynion, sef meibion y fall, a ymgasglasant ato ef, ac a ymgadarnhasant yn erbyn Rehoboam mab Solomon, pan oedd Rehoboam yn fachgen, ac yn wan ei galon, ac ni allai ymgadarnhau i’w herbyn hwynt. Ac yn awr yr ydych yn meddwl ymgadarnhau yn erbyn brenhiniaeth yr Arglwydd, yr hon sydd yn llaw meibion Dafydd; ac yr ydych yn dyrfa fawr, a chyda chwi y mae y lloi aur a wnaeth Jeroboam yn dduwiau i chwi. Oni yrasoch ymaith offeiriaid yr Arglwydd, meibion Aaron, a’r Lefiaid? ac oni wnaethoch i chwi offeiriaid fel pobl y gwledydd eraill? pwy bynnag sydd yn dyfod i’w gysegru â bustach ieuanc ac â saith o hyrddod, hwnnw sydd yn offeiriad i’r rhai nid ydynt dduwiau. 10 Ninnau, yr Arglwydd yw ein Duw ni, ac nis gwrthodasom ef; a’r offeiriaid y rhai sydd yn gwasanaethu yr Arglwydd yw meibion Aaron, a’r Lefiaid sydd yn eu gorchwyl. 11 Ac y maent hwy yn llosgi i’r Arglwydd boethoffrymau bob bore a phob hwyr, ac arogl-darth peraidd; ac yn cadw trefn y bara gosod ar y bwrdd pur, a’r canhwyllbren aur a’i lampau, i losgi bob prynhawn: canys yr ydym ni yn cadw goruchwyliaeth yr Arglwydd ein Duw; ond chwi a’i gwrthodasoch ef. 12 Ac wele, Duw sydd ben gyda ni, a’i offeiriaid ef ag utgyrn soniarus i utganu yn eich erbyn chwi. O feibion Israel, nac ymleddwch yn erbyn Arglwydd Dduw eich tadau; canys ni lwyddwch chwi.

13 Ond Jeroboam a barodd osod cynllwyn o amgylch, a dyfod o’u hôl hwynt: felly yr oeddynt hwy o flaen Jwda, a’r cynllwyn o’r tu ôl iddynt. 14 A Jwda a edrychodd yn ôl, ac wele ryfel iddynt ymlaen ac yn ôl; a hwy a waeddasant ar yr Arglwydd, a’r offeiriaid a leisiasant mewn utgyrn. 15 A gwŷr Jwda a floeddiasant: a phan waeddodd gwŷr Jwda, Duw a drawodd Jeroboam, a holl Israel, a flaen Abeia a Jwda. 16 A meibion Israel a ffoesant o flaen Jwda: a Duw a’u rhoddodd hwynt i’w llaw hwynt. 17 Ac Abeia a’i bobl a’u trawsant hwy â lladdfa fawr: a syrthiodd yn archolledig o Israel bum can mil o wŷr etholedig. 18 Felly y darostyngwyd meibion Israel y pryd hwnnw; a meibion Jwda a orfuant, oherwydd iddynt bwyso ar Arglwydd Dduw eu tadau. 19 Ac Abeia a erlidiodd ar ôl Jeroboam, ac a ddug oddi arno ef ddinasoedd, Bethel a’i phentrefi, a Jesana a’i phentrefi, ac Effraim a’i phentrefi. 20 Ac ni chafodd Jeroboam nerth mwyach yn nyddiau Abeia: ond yr Arglwydd a’i trawodd ef, fel y bu efe farw.

21 Ond Abeia a ymgryfhaodd, ac a gymerth iddo bedair ar ddeg o wragedd, ac a genhedlodd ddau fab ar hugain, ac un ar bymtheg o ferched. 22 A’r rhan arall o hanes Abeia, a’i ffyrdd ef, a’i eiriau, y maent yn ysgrifenedig yn llyfr y proffwyd Ido.

Datguddiad 3

Ac at angel yr eglwys sydd yn Sardis, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae’r hwn sydd â saith Ysbryd Duw a’r saith seren ganddo, yn eu dywedyd; Mi a adwaen dy weithredoedd di, oblegid y mae gennyt enw dy fod yn fyw, a marw ydwyt. Bydd wyliadwrus, a sicrha’r pethau sydd yn ôl, y rhai sydd barod i farw: canys ni chefais dy weithredoedd yn gyflawn gerbron Duw. Cofia gan hynny pa fodd y derbyniaist ac y clywaist, a chadw, ac edifarha. Os tydi gan hynny ni wyli, mi a ddeuaf arnat ti fel lleidr, ac ni chei di wybod pa awr y deuaf atat. Eithr y mae gennyt ychydig enwau, ie, yn Sardis, y rhai ni halogasant eu dillad; a hwy a rodiant gyda mi mewn dillad gwynion: oblegid teilwng ydynt. Yr hwn sydd yn gorchfygu, hwnnw a wisgir mewn dillad gwynion; ac ni ddileaf ei enw ef allan o lyfr y bywyd, ond mi a gyffesaf ei enw ef gerbron fy Nhad, a cherbron ei angylion ef. Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.

Ac at angel yr eglwys sydd yn Philadelffia, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae y Sanctaidd, y Cywir, yn eu dywedyd, yr hwn sydd ganddo agoriad Dafydd, yr hwn sydd yn agoryd, ac nid yw neb yn cau; ac yn cau, ac nid yw neb yn agoryd; Mi a adwaen dy weithredoedd: wele, rhoddais ger dy fron ddrws agored, ac ni ddichon neb ei gau: canys y mae gennyt ychydig nerth, a thi a gedwaist fy ngair, ac ni wedaist fy enw. Wele, mi a wnaf iddynt hwy o synagog Satan, y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn Iddewon, ac nid ydynt, ond dywedyd celwydd y maent; wele, meddaf, gwnaf iddynt ddyfod ac addoli o flaen dy draed, a gwybod fy mod i yn dy garu di. 10 O achos cadw ohonot air fy amynedd i, minnau a’th gadwaf di oddi wrth awr y brofedigaeth, yr hon a ddaw ar yr holl fyd, i brofi’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear. 11 Wele, yr wyf yn dyfod ar frys: dal yr hyn sydd gennyt, fel na ddygo neb dy goron di. 12 Yr hwn sydd yn gorchfygu, mi a’i gwnaf ef yn golofn yn nheml fy Nuw i, ac allan nid â efe mwyach: ac mi a ysgrifennaf arno ef enw fy Nuw i, ac enw dinas fy Nuw i, yr hon ydyw Jerwsalem newydd, yr hon sydd yn disgyn o’r nef oddi wrth fy Nuw i: ac mi a ysgrifennaf arno ef fy enw newydd i. 13 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.

14 Ac at angel eglwys y Laodiceaid, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae Amen yn eu dywedyd, y Tyst ffyddlon a chywir, dechreuad creadigaeth Duw; 15 Mi a adwaen dy weithredoedd di, nad ydwyt nac oer na brwd: mi a fynnwn pe bait oer neu frwd. 16 Felly, am dy fod yn glaear, ac nid yn oer nac yn frwd, mi a’th chwydaf di allan o’m genau: 17 Oblegid dy fod yn dywedyd, Goludog wyf, ac mi a gyfoethogais, ac nid oes arnaf eisiau dim; ac ni wyddost dy fod yn druan, ac yn resynol, ac yn dlawd, ac yn ddall, ac yn noeth. 18 Yr wyf yn dy gynghori i brynu gennyf fi aur wedi ei buro trwy dân, fel y’th gyfoethoger; a dillad gwynion, fel y’th wisger, ac fel nad ymddangoso gwarth dy noethder di; ira hefyd dy lygaid ag eli llygaid, fel y gwelech. 19 Yr wyf fi yn argyhoeddi, ac yn ceryddu’r sawl yr wyf yn eu caru: am hynny bydded gennyt sêl, ac edifarha. 20 Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws, ac yn curo: os clyw neb fy llais i, ac agoryd y drws, mi a ddeuaf i mewn ato ef, ac a swperaf gydag ef, ac yntau gyda minnau. 21 Yr hwn sydd yn gorchfygu, rhoddaf iddo ef eistedd gyda mi ar fy ngorseddfainc, megis y gorchfygais innau, ac yr eisteddais gyda’m Tad ar ei orseddfainc ef. 22 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.

Haggai 1

Yn yr ail flwyddyn i’r brenin Dareius, yn y chweched mis, ar y dydd cyntaf o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd trwy law Haggai y proffwyd at Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda, ac at Josua mab Josedec yr archoffeiriad, gan ddywedyd, Fel hyn y llefara Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd, Y bobl hyn a ddywedant, Ni ddaeth yr amser, yr amser i adeiladu tŷ yr Arglwydd. Yna y daeth gair yr Arglwydd trwy law Haggai y proffwyd, gan ddywedyd, Ai amser yw i chwi eich hunain drigo yn eich tai byrddiedig, a’r tŷ hwn yn anghyfannedd? Fel hyn gan hynny yn awr y dywed Arglwydd y lluoedd; Ystyriwch eich ffyrdd. Heuasoch lawer, a chludasoch ychydig; bwyta yr ydych, ond nid hyd ddigon; yfed, ac nid hyd fod yn ddiwall; ymwisgasoch, ac nid hyd glydwr i neb; a’r hwn a enillo gyflog, sydd yn casglu cyflog i god dyllog.

Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Ystyriwch eich ffyrdd. Esgynnwch i’r mynydd, a dygwch goed, ac adeiledwch y tŷ; mi a ymfodlonaf ynddo, ac y’m gogoneddir, medd yr Arglwydd. Edrychasoch am lawer, ac wele, yr oedd yn ychydig; a phan ei dygasoch adref, chwythais arno. Am ba beth? medd Arglwydd y lluoedd. Am fy nhŷ i, yr hwn sydd yn anghyfannedd, a chwithau yn rhedeg bawb i’w dŷ ei hun. 10 Am hynny gwaharddwyd i’r nefoedd oddi arnoch wlitho, a gwaharddwyd i’r ddaear roddi ei ffrwyth. 11 Gelwais hefyd am sychder ar y ddaear, ac ar y mynyddoedd, ac ar yr ŷd ac ar y gwin, ac ar yr olew, ac ar yr hyn a ddwg y ddaear allan; ar ddyn hefyd, ac ar anifail, ac ar holl lafur dwylo.

12 Yna y gwrandawodd Sorobabel mab Salathiel, a Josua mab Josedec yr archoffeiriad, a holl weddill y bobl, ar lais yr Arglwydd eu Duw, ac ar eiriau Haggai y proffwyd, megis yr anfonasai eu Harglwydd Dduw hwynt ef; a’r bobl a ofnasant gerbron yr Arglwydd. 13 Yna Haggai cennad yr Arglwydd a lefarodd trwy genadwri yr Arglwydd wrth y bobl, gan ddywedyd, Yr wyf fi gyda chwi, medd yr Arglwydd. 14 Felly y cynhyrfodd yr Arglwydd ysbryd Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda, ac ysbryd Josua mab Josedec yr archoffeiriad, ac ysbryd holl weddill y bobl; a hwy a ddaethant ac a weithiasant y gwaith yn nhŷ Arglwydd y lluoedd eu Duw hwynt, 15 Y pedwerydd dydd ar hugain o’r chweched mis, yn yr ail flwyddyn i Dareius y brenin.

Ioan 2

A’r trydydd dydd yr oedd priodas yng Nghana Galilea: a mam yr Iesu oedd yno. A galwyd yr Iesu hefyd a’i ddisgyblion i’r briodas. A phan ballodd y gwin, mam yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, Nid oes ganddynt mo’r gwin. Iesu a ddywedodd wrthi, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, wraig? ni ddaeth fy awr i eto. Ei fam ef a ddywedodd wrth y gwasanaethwyr, Beth bynnag a ddywedo efe wrthych, gwnewch. Ac yr oedd yno chwech o ddyfrlestri meini wedi eu gosod, yn ôl defod puredigaeth yr Iddewon, y rhai a ddalient bob un ddau ffircyn neu dri. Iesu a ddywedodd wrthynt, Llenwch y dyfrlestri o ddwfr. A hwy a’u llanwasant hyd yr ymyl. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gollyngwch yn awr, a dygwch at lywodraethwr y wledd. A hwy a ddygasant. A phan brofodd llywodraethwr y wledd y dwfr a wnaethid yn win, (ac ni wyddai o ba le yr ydoedd, eithr y gwasanaethwyr, y rhai a ollyngasent y dwfr, a wyddent,) llywodraethwr y wledd a alwodd ar y priodfab, 10 Ac a ddywedodd wrtho, Pob dyn a esyd y gwin da yn gyntaf; ac wedi iddynt yfed yn dda, yna un a fo gwaeth: tithau a gedwaist y gwin da hyd yr awr hon. 11 Hyn o ddechrau gwyrthiau a wnaeth yr Iesu yng Nghana Galilea, ac a eglurodd ei ogoniant; a’i ddisgyblion a gredasant ynddo.

12 Wedi hyn efe a aeth i waered i Gapernaum, efe, a’i fam, a’i frodyr, a’i ddisgyblion: ac yno nid arosasant nemor o ddyddiau.

13 A phasg yr Iddewon oedd yn agos: a’r Iesu a aeth i fyny i Jerwsalem; 14 Ac a gafodd yn y deml rai yn gwerthu ychen, a defaid, a cholomennod, a’r newidwyr arian yn eistedd. 15 Ac wedi gwneuthur fflangell o fân reffynnau, efe a’u gyrrodd hwynt oll allan o’r deml, y defaid hefyd a’r ychen; ac a dywalltodd allan arian y newidwyr, ac a ddymchwelodd y byrddau: 16 Ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod, Dygwch y rhai hyn oddi yma; na wnewch dŷ fy Nhad i yn dŷ marchnad. 17 A’i ddisgyblion a gofiasant fod yn ysgrifenedig, Sêl dy dŷ di a’m hysodd i.

18 Yna yr Iddewon a atebasant ac a ddywedasant wrtho ef, Pa arwydd yr wyt ti yn ei ddangos i ni, gan dy fod yn gwneuthur y pethau hyn? 19 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Dinistriwch y deml hon, ac mewn tridiau y cyfodaf hi. 20 Yna yr Iddewon a ddywedasant, Chwe blynedd a deugain y buwyd yn adeiladu y deml hon; ac a gyfodi di hi mewn tridiau? 21 Ond efe a ddywedasai am deml ei gorff. 22 Am hynny pan gyfododd efe o feirw, ei ddisgyblion ef a gofiasant iddo ddywedyd hyn wrthynt hwy: a hwy a gredasant yr ysgrythur, a’r gair a ddywedasai yr Iesu.

23 Ac fel yr oedd efe yn Jerwsalem ar y pasg yn yr ŵyl, llawer a gredasant yn ei enw ef, wrth weled ei arwyddion a wnaethai efe. 24 Ond nid ymddiriedodd yr Iesu iddynt amdano ei hun, am yr adwaenai efe hwynt oll; 25 Ac nad oedd raid iddo dystiolaethu o neb iddo am ddyn: oherwydd yr oedd efe yn gwybod beth oedd mewn dyn.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.