M’Cheyne Bible Reading Plan
3 A Solomon a ddechreuodd adeiladu tŷ yr Arglwydd yn Jerwsalem ym mynydd Moreia, lle yr ymddangosasai yr Arglwydd i Dafydd ei dad ef, yn y lle a ddarparasai Dafydd, yn llawr dyrnu Ornan y Jebusiad. 2 Ac efe a ddechreuodd adeiladu ar yr ail ddydd o’r ail fis, yn y bedwaredd flwyddyn o’i deyrnasiad.
3 A dyma fesurau sylfaeniad Solomon wrth adeiladu tŷ Dduw. Yr hyd oedd o gufyddau wrth y mesur cyntaf yn drigain cufydd; a’r lled yn ugain cufydd. 4 A’r porth oedd wrth dalcen y tŷ oedd un hyd â lled y tŷ, yn ugain cufydd, a’i uchder yn chwech ugain cufydd; ac efe a wisgodd hwn o fewn ag aur pur. 5 A’r tŷ mawr a fyrddiodd efe â ffynidwydd, y rhai a wisgodd efe ag aur dilin, ac a gerfiodd balmwydd a chadwynau ar hyd-ddo ef. 6 Ac efe a addurnodd y tŷ â meini gwerthfawr yn hardd; a’r aur oedd aur Parfaim. 7 Ie, efe a wisgodd y tŷ, y trawstiau, y rhiniogau, a’i barwydydd, a’i ddorau, ag aur, ac a gerfiodd geriwbiaid ar y parwydydd. 8 Ac efe a wnaeth dŷ y cysegr sancteiddiolaf; ei hyd oedd un hyd â lled y tŷ, yn ugain cufydd, a’i led yn ugain cufydd: ac efe a’i gwisgodd ef ag aur da, sef â chwe chan talent. 9 Ac yr oedd pwys yr hoelion o ddeg sicl a deugain o aur; y llofftydd hefyd a wisgodd efe ag aur.
10 Ac efe a wnaeth yn nhŷ y cysegr sancteiddiolaf ddau geriwb o waith cywraint, ac a’u gwisgodd hwynt ag aur. 11 Ac adenydd y ceriwbiaid oedd ugain cufydd eu hyd: y naill adain o bum cufydd, yn cyrhaeddyd pared y tŷ; a’r adain arall o bum cufydd yn cyrhaeddyd at adain y ceriwb arall. 12 Ac adain y ceriwb arall o bum cufydd, yn cyrhaeddyd pared y tŷ; a’r adain arall o bum cufydd, ynghyd ag adain y ceriwb arall. 13 Adenydd y ceriwbiaid hyn a ledwyd yn ugain cufydd: ac yr oeddynt hwy yn sefyll ar eu traed, a’u hwynebau tuag i mewn.
14 Ac efe a wnaeth y wahanlen o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, ac a weithiodd geriwbiaid ar hynny. 15 Gwnaeth hefyd ddwy golofn o flaen y tŷ, yn bymtheg cufydd ar hugain o hyd, a’r cnap ar ben pob un ohonynt oedd bum cufydd. 16 Ac efe a wnaeth gadwyni fel yn y gafell, ac a’u rhoddodd ar ben y colofnau; ac efe a wnaeth gant o bomgranadau, ac a’u rhoddodd ar y cadwynau. 17 A chyfododd y colofnau o flaen y deml, un o’r tu deau, ac un o’r tu aswy; ac a alwodd enw y ddeau, Jachin; ac enw yr aswy, Boas.
4 Ac efe a wnaeth allor bres, o ugain cufydd ei hyd, ac ugain cufydd ei lled, a deg cufydd ei huchder.
2 Gwnaeth hefyd fôr tawdd, yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl, yn grwn o amgylch, ac yn bum cufydd ei uchder, a llinyn o ddeg cufydd ar hugain a’i hamgylchai oddi amgylch. 3 A llun ychen oedd dano yn ei amgylchu o amgylch, mewn deg cufydd yr oeddynt yn amgylchu y môr oddi amgylch: dwy res o ychen oedd wedi eu toddi, pan doddwyd yntau. 4 Sefyll yr oedd ar ddeuddeg o ychen; tri yn edrych tua’r gogledd, a thri yn edrych tua’r gorllewin, a thri yn edrych tua’r deau, a thri yn edrych tua’r dwyrain: a’r môr arnynt oddi arnodd, a’u holl bennau ôl hwynt oedd o fewn. 5 A’i dewder oedd ddyrnfedd, a’i ymyl fel gwaith ymyl cwpan, â blodau lili: a thair mil o bathau a dderbyniai, ac a ddaliai.
6 Gwnaeth hefyd ddeg o noeau, ac efe a roddodd bump o’r tu deau, a phump o’r tu aswy, i ymolchi ynddynt: trochent ynddynt ddefnydd y poethoffrwm; ond y môr oedd i’r offeiriaid i ymolchi ynddo. 7 Ac efe a wnaeth ddeg canhwyllbren aur yn ôl eu portreiad, ac a’u gosododd yn y deml, pump o’r tu deau, a phump o’r tu aswy. 8 Gwnaeth hefyd ddeg o fyrddau, ac a’u gosododd yn y deml, pump o’r tu deau, a phump o’r tu aswy: ac efe a wnaeth gant o gawgiau aur.
9 Ac efe a wnaeth gyntedd yr offeiriaid, a’r cyntedd mawr, a dorau i’r cynteddoedd; a’u dorau hwynt a wisgodd efe â phres. 10 Ac efe a osododd y môr ar yr ystlys ddeau, tua’r dwyrain, ar gyfer y deau. 11 Gwnaeth Hiram hefyd y crochanau, a’r rhawiau, a’r cawgiau: a darfu i Hiram wneuthur y gwaith a wnaeth efe dros frenin Solomon i dŷ Dduw: 12 Y ddwy golofn, a’r cnapiau, a’r coronau ar ben y ddwy golofn, a’r ddwy bleth i guddio y ddau gnap coronog, y rhai oedd ar ben y colofnau: 13 A phedwar cant o bomgranadau ar y ddwy bleth; dwy res oedd o bomgranadau ar bob pleth, i guddio y ddau gnap coronog oedd ar bennau y colofnau. 14 Ac efe a wnaeth ystolion, ac a wnaeth noeau ar yr ystolion; 15 Un môr, a deuddeg o ychen dano: 16 Y crochanau hefyd, a’r rhawiau, a’r cigweiniau, a’u holl lestri hwynt, a wnaeth Hiram ei dad i’r brenin Solomon, yn nhŷ yr Arglwydd, o bres gloyw. 17 Yng ngwastadedd yr Iorddonen y toddodd y brenin hwynt, mewn cleidir, rhwng Succoth a Seredatha. 18 Fel hyn y gwnaeth Solomon yr holl lestri hyn, yn lluosog iawn; canys anfeidrol oedd bwys y pres.
19 A Solomon a wnaeth yr holl lestri oedd yn nhŷ Dduw, a’r allor aur, a’r byrddau oedd â’r bara gosod arnynt, 20 A’r canwyllbrennau, a’u lampau, i oleuo yn ôl y ddefod o flaen y gafell, o aur pur; 21 Y blodau hefyd, a’r lampau, a’r gefeiliau, oedd aur, a hwnnw yn aur perffaith. 22 Y saltringau hefyd, a’r cawgiau, a’r llwyau, a’r thuserau, oedd aur pur: a drws y tŷ, a’i ddorau, o du mewn y cysegr sancteiddiolaf, a dorau tŷ y deml, oedd aur.
3 Gwelwch pa fath gariad a roes y Tad arnom, fel y’n gelwid yn feibion i Dduw: oblegid hyn nid edwyn y byd chwi, oblegid nad adnabu efe ef. 2 Anwylyd, yr awr hon meibion i Dduw ydym, ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn: eithr ni a wyddom, pan ymddangoso efe, y byddwn gyffelyb iddo: oblegid ni a gawn ei weled ef megis ag y mae. 3 Ac y mae pob un sydd ganddo’r gobaith hwn ynddo ef, yn ei buro’i hun, megis y mae yntau yn bur. 4 Pob un a’r sydd yn gwneuthur pechod, sydd hefyd yn gwneuthur anghyfraith: oblegid anghyfraith yw pechod. 5 A chwi a wyddoch ymddangos ohono ef, fel y dileai ein pechodau ni: ac ynddo ef nid oes pechod. 6 Pob un a’r sydd yn aros ynddo ef, nid yw yn pechu: pob un a’r sydd yn pechu, nis gwelodd ef, ac nis adnabu ef. 7 O blant bychain, na thwylled neb chwi: yr hwn sydd yn gwneuthur cyfiawnder, sydd gyfiawn, megis y mae yntau yn gyfiawn. 8 Yr hwn sydd yn gwneuthur pechod, o ddiafol y mae; canys y mae diafol yn pechu o’r dechreuad. I hyn yr ymddangosodd Mab Duw, fel y datodai weithredoedd diafol. 9 Pob un a aned o Dduw, nid yw yn gwneuthur pechod; oblegid y mae ei had ef yn aros ynddo ef: ac ni all efe bechu, am ei eni ef o Dduw. 10 Yn hyn y mae yn amlwg plant Duw, a phlant diafol: Pob un a’r sydd heb wneuthur cyfiawnder, nid yw o Dduw, na’r hwn nid yw yn caru ei frawd. 11 Oblegid hon yw’r genadwri a glywsoch o’r dechreuad; bod i ni garu ein gilydd. 12 Nid fel Cain, yr hwn oedd o’r drwg, ac a laddodd ei frawd. A phaham y lladdodd ef? Oblegid bod ei weithredoedd ef yn ddrwg, a’r eiddo ei frawd yn dda. 13 Na ryfeddwch, fy mrodyr, os yw’r byd yn eich casáu chwi. 14 Nyni a wyddom ddarfod ein symud ni o farwolaeth i fywyd, oblegid ein bod yn caru’r brodyr. Yr hwn nid yw yn caru ei frawd, y mae yn aros ym marwolaeth. 15 Pob un a’r sydd yn casáu ei frawd, lleiddiad dyn yw: a chwi a wyddoch nad oes i un lleiddiad dyn fywyd tragwyddol yn aros ynddo. 16 Yn hyn yr adnabuom gariad Duw, oblegid dodi ohono ef ei einioes drosom ni: a ninnau a ddylem ddodi ein heinioes dros y brodyr. 17 Eithr yr hwn sydd ganddo dda’r byd hwn, ac a welo ei frawd mewn eisiau, ac a gaeo ei dosturi oddi wrtho, pa fodd y mae cariad Duw yn aros ynddo ef? 18 Fy mhlant bychain, na charwn ar air nac ar dafod yn unig, eithr mewn gweithred a gwirionedd. 19 Ac wrth hyn y gwyddom ein bod o’r gwirionedd, ac y sicrhawn ein calonnau ger ei fron ef. 20 Oblegid os ein calon a’n condemnia, mwy yw Duw na’n calon, ac efe a ŵyr bob peth. 21 Anwylyd, os ein calon ni’n condemnia, y mae gennym hyder ar Dduw. 22 A pha beth bynnag a ofynnom, yr ydym yn ei dderbyn ganddo ef; oblegid ein bod yn cadw ei orchmynion ef, ac yn gwneuthur y pethau sydd yn rhyngu bodd yn ei olwg ef. 23 A hwn yw ei orchymyn ef; Gredu ohonom yn enw ei Fab ef Iesu Grist, a charu ein gilydd, megis y rhoes efe orchymyn i ni. 24 A’r hwn sydd yn cadw ei orchmynion ef, sydd yn trigo ynddo ef, ac yntau ynddo yntau. Ac wrth hyn y gwyddom ei fod ef yn aros ynom, sef o’r Ysbryd a roddes efe i ni.
2 Daeth y chwalwr i fyny o flaen dy wyneb: cadw yr amddiffynfa, gwylia y ffordd, nertha dy lwynau, cadarnha dy nerth yn fawr. 2 Canys dychwelodd yr Arglwydd ardderchowgrwydd Jacob, fel ardderchowgrwydd Israel: canys y dihysbyddwyr a’u dihysbyddodd hwynt, ac a lygrasant eu cangau gwinwydd. 3 Tarian ei wŷr grymus a liwiwyd yn goch, ei wŷr o ryfel a wisgwyd ag ysgarlad; y cerbydau fyddant gyda lampau tanllyd y dydd y byddo ei arlwy, a’r ffynidwydd a ysgydwir yn aruthrol. 4 Y cerbydau a gynddeiriogant yn yr heolydd, trawant wrth ei gilydd yn y priffyrdd: eu gwelediad fydd fel fflamau, ac fel mellt y saethant. 5 Efe a gyfrif ei weision gwychion; tramgwyddant wrth gerdded; prysurant at ei chaer hi, a’r amddiffyn a baratoir. 6 Pyrth y dwfr a agorir, a’r palas a ymddetyd. 7 A Hussab a gaethgludir, dygir hi i fyny, a’i morynion yn ei harwain megis â llais colomennod, yn curo ar eu dwyfronnau. 8 A Ninefe sydd er ys dyddiau fel llyn o ddwfr: ond hwy a ffoant. Sefwch, sefwch, meddant; ac ni bydd a edrycho yn ôl. 9 Ysglyfaethwch arian, ysglyfaethwch aur; canys nid oes diben ar yr ystôr, a’r gogoniant o bob dodrefn dymunol. 10 Gwag, a gorwag, ac anrheithiedig yw hi, a’r galon yn toddi, a’r gliniau yn taro ynghyd, ac anhwyl ar bob lwynau, a’u hwynebau oll a gasglant barddu. 11 Pa le y mae trigfa y llewod, a phorfa cenawon y llewod? lle y rhodiai y llew, sef yr hen lew, a’r cenau llew, ac nid oedd a’u tarfai? 12 Y llew a ysglyfaethodd ddigon i’w genawon, ac a dagodd i’w lewesau, ac a lanwodd ag ysglyfaeth ei ffau, a’i loches ag ysbail. 13 Wele fi yn dy erbyn, medd Arglwydd y lluoedd; a mi a losgaf ei cherbydau yn y mwg, a’r cleddyf a ddifa dy lewod ieuainc; a thorraf ymaith o’r ddaear dy ysglyfaeth, ac ni chlywir mwy lais dy genhadau.
18 Ac efe a ddywedodd hefyd ddameg wrthynt, fod yn rhaid gweddïo yn wastad, ac heb ddiffygio; 2 Gan ddywedyd, Yr oedd rhyw farnwr mewn rhyw ddinas, yr hwn nid ofnai Dduw, ac ni pharchai ddyn. 3 Yr oedd hefyd yn y ddinas honno wraig weddw; a hi a ddaeth ato ef, gan ddywedyd, Dial fi ar fy ngwrthwynebwr. 4 Ac efe nis gwnâi dros amser: eithr wedi hynny efe a ddywedodd ynddo ei hun, Er nad ofnaf Dduw, ac na pharchaf ddyn; 5 Eto am fod y weddw hon yn peri i mi flinder, mi a’i dialaf hi; rhag iddi yn y diwedd ddyfod a’m syfrdanu i. 6 A’r Arglwydd a ddywedodd, Gwrandewch beth a ddywed y barnwr anghyfiawn. 7 Ac oni ddial Duw ei etholedigion, sydd yn llefain arno ddydd a nos, er ei fod yn hir oedi drostynt? 8 Yr wyf yn dywedyd i chwi, y dial efe hwynt ar frys. Eithr Mab y dyn, pan ddêl, a gaiff efe ffydd ar y ddaear?
9 Ac efe a ddywedodd y ddameg hon hefyd wrth y rhai oedd yn hyderu arnynt eu hunain eu bod yn gyfiawn, ac yn diystyru eraill: 10 Dau ŵr a aeth i fyny i’r deml i weddïo; un yn Pharisead, a’r llall yn bublican. 11 Y Pharisead o’i sefyll a weddïodd rhyngddo ac ef ei hun fel hyn; O Dduw, yr wyf yn diolch i ti nad wyf fi fel y mae dynion eraill, yn drawsion, yn anghyfiawn, yn odinebwyr; neu, fel y publican hwn chwaith. 12 Yr wyf yn ymprydio ddwywaith yn yr wythnos; yr wyf yn degymu cymaint oll ag a feddaf. 13 A’r publican, gan sefyll o hirbell, ni fynnai gymaint â chodi ei olygon tua’r nef; eithr efe a gurodd ei ddwyfron, gan ddywedyd, O Dduw, bydd drugarog wrthyf bechadur. 14 Dywedaf i chwi, Aeth hwn i waered i’w dŷ wedi ei gyfiawnhau yn fwy na’r llall: canys pob un a’r y sydd yn ei ddyrchafu ei hun, a ostyngir; a phob un a’r y sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyrchefir.
15 A hwy a ddygasant ato blant bychain hefyd, fel y cyffyrddai efe â hwynt: a’r disgyblion pan welsant, a’u ceryddasant hwy. 16 Eithr yr Iesu a’u galwodd hwynt ato, ac a ddywedodd, Gadewch i’r plant bychain ddyfod ataf fi, ac na waherddwch hwynt: canys eiddo’r cyfryw rai yw teyrnas Dduw. 17 Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn bach, nid â efe i mewn iddi.
18 A rhyw lywodraethwr a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Athro da, wrth wneuthur pa beth yr etifeddaf fi fywyd tragwyddol? 19 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y’m gelwi yn dda? nid oes neb yn dda ond un, sef Duw. 20 Ti a wyddost y gorchmynion, Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth, Anrhydedda dy dad a’th fam. 21 Ac efe a ddywedodd, Hyn oll a gedwais o’m hieuenctid. 22 A’r Iesu pan glybu hyn, a ddywedodd wrtho, Y mae un peth eto yn ôl i ti: gwerth yr hyn oll sydd gennyt, a dyro i’r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, canlyn fi. 23 Ond pan glybu efe y pethau hyn, efe a aeth yn athrist: canys yr oedd efe yn gyfoethog iawn. 24 A’r Iesu, pan welodd ef wedi myned yn athrist, a ddywedodd, Mor anodd yr â’r rhai y mae golud ganddynt i mewn i deyrnas Dduw! 25 Canys haws yw i gamel fyned trwy grau’r nodwydd ddur, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw. 26 A’r rhai a glywsent a ddywedasant, A phwy a all fod yn gadwedig? 27 Ac efe a ddywedodd, Y pethau sydd amhosibl gyda dynion, sydd bosibl gyda Duw. 28 A dywedodd Pedr, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a’th ganlynasom di. 29 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a’r a adawodd dŷ, neu rieni, neu frodyr, neu wraig, neu blant, er mwyn teyrnas Dduw, 30 A’r ni dderbyn lawer cymaint yn y pryd hwn, ac yn y byd a ddaw fywyd tragwyddol.
31 Ac efe a gymerodd y deuddeg ato, ac a ddywedodd wrthynt, Wele, yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem; a chyflawnir pob peth a’r sydd yn ysgrifenedig trwy’r proffwydi am Fab y dyn. 32 Canys efe a draddodir i’r Cenhedloedd, ac a watwerir, ac a amherchir, ac a boerir arno: 33 Ac wedi iddynt ei fflangellu, y lladdant ef: a’r trydydd dydd efe a atgyfyd. 34 A hwy ni ddeallasant ddim o’r pethau hyn; a’r gair hwn oedd guddiedig oddi wrthynt, ac ni wybuant y pethau a ddywedwyd.
35 A bu, ac efe yn nesáu at Jericho, i ryw ddyn dall fod yn eistedd yn ymyl y ffordd yn cardota: 36 A phan glybu efe y dyrfa yn myned heibio, efe a ofynnodd pa beth oedd hyn. 37 A hwy a ddywedasant iddo, Mai Iesu o Nasareth oedd yn myned heibio. 38 Ac efe a lefodd, gan ddywedyd, Iesu, Mab Dafydd, trugarha wrthyf. 39 A’r rhai oedd yn myned o’r blaen a’i ceryddasant ef i dewi: eithr efe a lefodd yn fwy o lawer, Mab Dafydd, trugarha wrthyf. 40 A’r Iesu a safodd, ac a orchmynnodd ei ddwyn ef ato. A phan ddaeth efe yn agos, efe a ofynnodd iddo, 41 Gan ddywedyd, Pa beth a fynni di i mi ei wneuthur i ti? Yntau a ddywedodd, Arglwydd, cael ohonof fy ngolwg. 42 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Cymer dy olwg: dy ffydd a’th iachaodd. 43 Ac allan o law y cafodd efe ei olwg, ac a’i canlynodd ef, gan ogoneddu Duw. A’r holl bobl, pan welsant, a roesant foliant i Dduw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.