M’Cheyne Bible Reading Plan
7 Eithr ei dŷ ei hun a adeiladodd Solomon mewn tair blynedd ar ddeg, ac a orffennodd ei holl dŷ.
2 Efe a adeiladodd dŷ coedwig Libanus, yn gan cufydd ei hyd, ac yn ddeg cufydd a deugain ei led, ac yn ddeg cufydd ar hugain ei uchder, ar bedair rhes o golofnau cedrwydd, a thrawstiau cedrwydd ar y colofnau. 3 Ac efe a dowyd â chedrwydd oddi arnodd ar y trawstiau oedd ar y pum colofn a deugain, pymtheg yn y rhes. 4 Ac yr oedd tair rhes o ffenestri, golau ar gyfer golau, yn dair rhenc. 5 A’r holl ddrysau a’r gorsingau oedd ysgwâr, felly yr oedd y ffenestri; a golau ar gyfer golau, yn dair rhenc.
6 Hefyd efe a wnaeth borth o golofnau, yn ddeg cufydd a deugain ei hyd, ac yn ddeg cufydd ar hugain ei led: a’r porth oedd o’u blaen hwynt; a’r colofnau eraill a’r swmerau oedd o’u blaen hwythau.
7 Porth yr orseddfa hefyd, yr hwn y barnai efe ynddo, a wnaeth efe yn borth barn: ac efe a wisgwyd â chedrwydd o’r naill gwr i’r llawr hyd y llall.
8 Ac i’w dŷ ei hun, yr hwn y trigai efe ynddo, yr oedd cyntedd arall o fewn y porth o’r un fath waith. Gwnaeth hefyd dŷ i ferch Pharo, yr hon a briodasai Solomon, fel y porth hwn. 9 Hyn oll oedd o feini costus, wedi eu naddu wrth fesur, a’u lladd â llif, oddi fewn ac oddi allan, a hynny o’r sylfaen hyd y llogail; ac felly o’r tu allan hyd y cyntedd mawr. 10 Ac efe a sylfaenesid â meini costus, â meini mawr, â meini o ddeg cufydd, ac â meini o wyth gufydd. 11 Ac oddi arnodd yr oedd meini costus, wedi eu naddu wrth fesur, a chedrwydd. 12 Ac i’r cyntedd mawr yr oedd o amgylch, dair rhes o gerrig nadd, a rhes o drawstiau cedrwydd, i gyntedd tŷ yr Arglwydd oddi fewn, ac i borth y tŷ.
13 A’r brenin Solomon a anfonodd ac a gyrchodd Hiram o Tyrus. 14 Mab gwraig weddw oedd hwn o lwyth Nafftali, a’i dad yn ŵr o Tyrus: gof pres ydoedd efe; a llawn ydoedd o ddoethineb, a deall, a gwybodaeth, i weithio pob gwaith o bres. Ac efe a ddaeth at y brenin Solomon, ac a weithiodd ei holl waith ef. 15 Ac efe a fwriodd ddwy golofn o bres; deunaw cufydd oedd uchder pob colofn; a llinyn o ddeuddeg cufydd a amgylchai bob un o’r ddwy. 16 Ac efe a wnaeth ddau gnap o bres tawdd, i’w rhoddi ar bennau y colofnau; pum cufydd oedd uchder y naill gnap, a phum cufydd uchder y cnap arall. 17 Efe a wnaeth rwydwaith, a phlethiadau o gadwynwaith, i’r cnapiau oedd ar ben y colofnau; saith i’r naill gnap, a saith i’r cnap arall. 18 Ac efe a wnaeth y colofnau, a dwy res o bomgranadau o amgylch ar y naill rwydwaith, i guddio’r cnapiau oedd uwchben; ac felly y gwnaeth efe i’r cnap arall. 19 A’r cnapiau y rhai oedd ar y colofnau oedd o waith lili, yn y porth, yn bedwar cufydd. 20 Ac i’r cnapiau ar y ddwy golofn oddi arnodd, ar gyfer y canol, yr oedd pomgranadau, y rhai oedd wrth y rhwydwaith; a’r pomgranadau oedd ddau cant, yn rhesau o amgylch, ar y cnap arall. 21 Ac efe a gyfododd y colofnau ym mhorth y deml: ac a gyfododd y golofn ddeau, ac a alwodd ei henw hi Jachin; ac efe a gyfododd y golofn aswy, ac a alwodd ei henw hi Boas. 22 Ac ar ben y colofnau yr oedd gwaith lili. Felly y gorffennwyd gwaith y colofnau.
23 Ac efe a wnaeth fôr tawdd yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl: yn grwn oddi amgylch, ac yn bum cufydd ei uchder; a llinyn o ddeg cufydd ar hugain a’i hamgylchai oddi amgylch. 24 A chnapiau a’i hamgylchent ef dan ei ymyl o amgylch, deg mewn cufydd oedd yn amgylchu’r môr o amgylch: y cnapiau oedd yn ddwy res, wedi eu bwrw pan fwriwyd yntau. 25 Sefyll yr oedd ar ddeuddeg o ychen; tri oedd yn edrych tua’r gogledd, a thri yn edrych tua’r gorllewin, a thri yn edrych tua’r deau, a thri yn edrych tua’r dwyrain: a’r môr arnynt oddi arnodd, a’u pennau ôl hwynt oll o fewn. 26 Ei dewder hefyd oedd ddyrnfedd, a’i ymyl fel gwaith ymyl cwpan, a blodau lili: dwy fil o bathau a annai ynddo.
27 Hefyd efe a wnaeth ddeg o ystolion pres; pedwar cufydd oedd hyd pob ystôl, a phedwar cufydd ei lled, a thri chufydd ei huchder. 28 A dyma waith yr ystolion: ystlysau oedd iddynt, a’r ystlysau oedd rhwng y delltennau: 29 Ac ar yr ystlysau oedd rhwng y delltennau, yr oedd llewod, ychen, a cheriwbiaid; ac ar y dellt yr oedd ystôl oddi arnodd; ac oddi tan y llewod a’r ychen yr oedd cysylltiadau o waith tenau. 30 A phedair olwyn bres oedd i bob ystôl, a phlanciau pres; ac yn eu pedair congl yr oedd ysgwyddau iddynt: dan y noe yr oedd ysgwyddau, wedi eu toddi ar gyfer pob cysylltiad. 31 A’i genau oddi fewn y cwmpas, ac oddi arnodd, oedd gufydd; a’i genau hi oedd grwn, ar waith yr ystôl, yn gufydd a hanner; ac ar ei hymyl hi yr oedd cerfiadau, a’i hystlysau yn bedwar ochrog, nid yn grynion. 32 A’r pedair olwyn oedd dan yr ystlysau, ac echelau yr olwynion yn yr ystôl; ac uchder pob olwyn yn gufydd a hanner cufydd. 33 Gwaith yr olwynion hefyd oedd fel gwaith olwynion men; eu hechelau, a’u bothau, a’u camegau, a’u hadenydd, oedd oll yn doddedig. 34 Ac yr oedd pedair ysgwydd wrth bedair congl pob ystôl: o’r ystôl yr oedd ei hysgwyddau hi. 35 Ac ar ben yr ystôl yr oedd cwmpas o amgylch, o hanner cufydd o uchder; ar ben yr ystôl hefyd yr oedd ei hymylau a’i thaleithiau o’r un. 36 Ac efe a gerfiodd ar ystyllod ei hymylau hi, ac ar ei thaleithiau hi, geriwbiaid, llewod, a phalmwydd, wrth noethder pob un, a chysylltiadau oddi amgylch. 37 Fel hyn y gwnaeth efe y deg ystôl: un toddiad, un mesur, ac un agwedd, oedd iddynt hwy oll.
38 Gwnaeth hefyd ddeng noe bres: deugain bath a ddaliai pob noe; yn bedwar cufydd bob noe; ac un noe ar bob un o’r deg ystôl. 39 Ac efe a osododd bum ystôl ar ystlys ddeau y tŷ, a phump ar yr ystlys aswy i’r tŷ: a’r môr a osododd efe ar y tu deau i’r tŷ, tua’r dwyrain, ar gyfer y deau.
40 Gwnaeth Hiram hefyd y noeau, a’r rhawiau, a’r cawgiau: a Hiram a orffennodd wneuthur yr holl waith, yr hwn a wnaeth efe i’r brenin Solomon yn nhŷ yr Arglwydd. 41 Y ddwy golofn, a’r cnapiau coronog y rhai oedd ar ben y ddwy golofn; a’r ddau rwydwaith, i guddio y ddau gnap coronog oedd ar ben y colofnau; 42 A phedwar cant o bomgranadau i’r ddau rwydwaith, dwy res o bomgranadau i un rhwydwaith, i guddio y ddau gnap coronog oedd ar y colofnau; 43 A’r deg ystôl, a’r deg noe ar yr ystolion; 44 Ac un môr, a deuddeg o ychen dan y môr; 45 A’r crochanau, a’r rhawiau, a’r cawgiau; a’r holl lestri a wnaeth Hiram i’r brenin Solomon, i dŷ yr Arglwydd, oedd o bres gloyw. 46 Yng ngwastadedd yr Iorddonen y toddodd y brenin hwynt mewn cleidir, rhwng Succoth a Sarthan. 47 A Solomon a beidiodd â phwyso yr holl lestri, oherwydd eu lluosowgrwydd anfeidrol hwynt: ac ni wybuwyd pwys y pres chwaith. 48 A Solomon a wnaeth yr holl ddodrefn a berthynai i dŷ yr Arglwydd; yr allor aur, a’r bwrdd aur, yr hwn yr oedd y bara gosod arno; 49 A phum canhwyllbren o’r tu deau, a phump o’r tu aswy, o flaen y gafell, yn aur pur; a’r blodau, a’r llusernau, a’r gefeiliau, o aur; 50 Y ffiolau hefyd, a’r saltringau, a’r cawgiau, a’r llwyau, a’r thuserau, o aur coeth; a bachau dorau y tŷ, o fewn y cysegr sancteiddiaf, a dorau tŷ y deml, oedd aur. 51 Felly y gorffennwyd yr holl waith a wnaeth y brenin Solomon i dŷ yr Arglwydd. A Solomon a ddug i mewn yr hyn a gysegrasai Dafydd ei dad; yr arian, a’r aur, a’r dodrefn, a roddodd efe ymhlith trysorau tŷ yr Arglwydd.
4 Deisyf gan hynny arnoch yr wyf fi, y carcharor yn yr Arglwydd, ar rodio ohonoch yn addas i’r alwedigaeth y’ch galwyd iddi, 2 Gyda phob gostyngeiddrwydd ac addfwynder, ynghyd â hirymaros, gan oddef eich gilydd mewn cariad; 3 Gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr Ysbryd yng nghwlwm tangnefedd. 4 Un corff sydd, ac un Ysbryd, megis ag y’ch galwyd yn un gobaith eich galwedigaeth; 5 Un Arglwydd, un ffydd, un bedydd, 6 Un Duw a Thad oll, yr hwn sydd goruwch oll, a thrwy oll, ac ynoch oll. 7 Eithr i bob un ohonom y rhoed gras, yn ôl mesur dawn Crist. 8 Oherwydd paham y mae efe yn dywedyd, Pan ddyrchafodd i’r uchelder, efe a gaethiwodd gaethiwed, ac a roddes roddion i ddynion. 9 (Eithr efe a ddyrchafodd, beth yw ond darfod iddo hefyd ddisgyn yn gyntaf i barthau isaf y ddaear? 10 Yr hwn a ddisgynnodd, yw’r hwn hefyd a esgynnodd goruwch yr holl nefoedd, fel y cyflawnai bob peth.) 11 Ac efe a roddes rai yn apostolion, a rhai yn broffwydi, a rhai yn efengylwyr, a rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon; 12 I berffeithio’r saint, i waith y weinidogaeth, i adeilad corff Crist: 13 Hyd onid ymgyfarfyddom oll yn undeb ffydd, a gwybodaeth Mab Duw, yn ŵr perffaith, at fesur oedran cyflawnder Crist: 14 Fel na byddom mwyach yn blantos, yn bwhwman, ac yn ein cylcharwain â phob awel dysgeidiaeth, trwy hoced dynion, trwy gyfrwystra i gynllwyn i dwyllo: 15 Eithr, gan fod yn gywir mewn cariad, cynyddu ohonom iddo ef ym mhob peth, yr hwn yw’r pen, sef Crist: 16 O’r hwn y mae’r holl gorff wedi ei gydymgynnull a’i gydgysylltu, trwy bob cymal cynhaliaeth, yn ôl y nerthol weithrediad ym mesur pob rhan, yn gwneuthur cynnydd y corff, i’w adeiladu ei hun mewn cariad. 17 Hyn gan hynny yr wyf yn ei ddywedyd, ac yn ei dystiolaethu yn yr Arglwydd, na rodioch chwi mwyach fel y mae’r Cenhedloedd eraill yn rhodio, yn oferedd eu meddwl, 18 Wedi tywyllu eu deall, wedi ymddieithrio oddi wrth fuchedd Dduw, trwy’r anwybodaeth sydd ynddynt, trwy ddallineb eu calon: 19 Y rhai wedi diddarbodi, a ymroesant i drythyllwch, i wneuthur pob aflendid yn unchwant. 20 Eithr chwychwi, nid felly y dysgasoch Grist; 21 Os bu i chwi ei glywed ef, ac os dysgwyd chwi ynddo, megis y mae’r gwirionedd yn yr Iesu: 22 Dodi ohonoch heibio, o ran yr ymarweddiad cyntaf, yr hen ddyn, yr hwn sydd lygredig yn ôl y chwantau twyllodrus; 23 Ac ymadnewyddu yn ysbryd eich meddwl; 24 A gwisgo’r dyn newydd, yr hwn yn ôl Duw a grewyd mewn cyfiawnder a gwir sancteiddrwydd. 25 Oherwydd paham, gan fwrw ymaith gelwydd, dywedwch y gwir bob un wrth ei gymydog: oblegid aelodau ydym i’n gilydd. 26 Digiwch, ac na phechwch: na fachluded yr haul ar eich digofaint chwi: 27 Ac na roddwch le i ddiafol. 28 Yr hwn a ladrataodd, na ladrated mwyach: eithr yn hytrach cymered boen, gan weithio â’i ddwylo yr hyn sydd dda; fel y byddo ganddo beth i’w gyfrannu i’r hwn y mae angen arno. 29 Na ddeued un ymadrodd llygredig allan o’ch genau chwi, ond y cyfryw un ag a fyddo da i adeiladu yn fuddiol, fel y paro ras i’r gwrandawyr. 30 Ac na thristewch Lân Ysbryd Duw, trwy’r hwn y’ch seliwyd hyd ddydd prynedigaeth. 31 Tynner ymaith oddi wrthych bob chwerwedd, a llid, a dig, a llefain, a chabledd, gyda phob drygioni: 32 A byddwch gymwynasgar i’ch gilydd, yn dosturiol, yn maddau i’ch gilydd, megis y maddeuodd Duw er mwyn Crist i chwithau.
37 Bu llaw yr Arglwydd arnaf, ac a’m dug allan yn ysbryd yr Arglwydd, ac a’m gosododd yng nghanol dyffryn, a hwnnw oedd yn llawn esgyrn. 2 Ac efe a wnaeth i mi fyned heibio iddynt o amgylch ogylch: ac wele hwynt yn aml iawn ar wyneb y dyffryn; wele hefyd, sychion iawn oeddynt. 3 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ha fab dyn, a fydd byw yr esgyrn hyn? A mi a ddywedais, O Arglwydd Dduw, ti a’i gwyddost. 4 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Proffwyda am yr esgyrn hyn, a dywed wrthynt, O esgyrn sychion, clywch air yr Arglwydd. 5 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth yr esgyrn hyn; Wele fi yn dwyn anadl i’ch mewn, fel y byddoch byw. 6 Giau hefyd a roddaf arnoch, a pharaf i gig gyfodi arnoch, gwisgaf chwi hefyd â chroen, a rhoddaf anadl ynoch: fel y byddoch byw, ac y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd. 7 Yna y proffwydais fel y’m gorchmynasid; ac fel yr oeddwn yn proffwydo, bu sŵn, ac wele gynnwrf, a’r esgyrn a ddaethant ynghyd, asgwrn at ei asgwrn. 8 A phan edrychais, wele, cyfodasai giau a chig arnynt, a gwisgasai croen amdanynt; ond nid oedd anadl ynddynt. 9 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Proffwyda tua’r gwynt, proffwyda, fab dyn, a dywed wrth y gwynt. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; O anadl, tyred oddi wrth y pedwar gwynt, ac anadla ar y lladdedigion hyn, fel y byddont byw. 10 Felly y proffwydais fel y’m gorchmynasid; a’r anadl a ddaeth ynddynt, a buant fyw, a safasant ar eu traed, yn llu mawr iawn.
11 Yna y dywedodd wrthyf, Ha fab dyn, yr esgyrn hyn ydynt dŷ Israel oll: wele, dywedant, Ein hesgyrn a wywasant, a’n gobaith a gollodd; torrwyd ni ymaith o’n rhan ni. 12 Am hynny proffwyda, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn agori eich beddau, fy mhobl, codaf chwi hefyd o’ch beddau, a dygaf chwi i dir Israel. 13 A chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan agorwyf eich beddau, a phan gyfodwyf chwi i fyny o’ch beddau, fy mhobl; 14 Ac y rhoddwyf fy ysbryd ynoch, ac y byddoch byw, ac y gosodwyf chwi yn eich tir eich hun: yna y cewch wybod mai myfi yr Arglwydd a leferais, ac a wneuthum hyn, medd yr Arglwydd.
15 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 16 Tithau fab dyn, cymer i ti un pren, ac ysgrifenna arno, I Jwda, ac i feibion Israel ei gyfeillion. A chymer i ti bren arall, ac ysgrifenna arno, I Joseff, pren Effraim, ac i holl dŷ Israel ei gyfeillion: 17 A chydia hwynt y naill wrth y llall yn un pren i ti; fel y byddont yn un yn dy law di.
18 A phan lefaro meibion dy bobl wrthyt, gan ddywedyd, Oni fynegi i ni beth yw hyn gennyt? 19 Dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn cymryd pren Joseff, yr hwn sydd yn llaw Effraim, a llwythau Israel ei gyfeillion, a mi a’u rhoddaf hwynt gydag ef, sef gyda phren Jwda, ac a’u gwnaf hwynt yn un pren, fel y byddont yn fy llaw yn un.
20 A bydded yn dy law, o flaen eu llygaid hwynt, y prennau yr ysgrifennych arnynt; 21 A dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn cymryd meibion Israel o fysg y cenhedloedd yr aethant atynt, ac mi a’u casglaf hwynt o amgylch, ac a’u dygaf hwynt i’w tir eu hun; 22 A gwnaf hwynt yn un genedl o fewn y tir ym mynyddoedd Israel, ac un brenin fydd yn frenin iddynt oll: ni byddant hefyd mwy yn ddwy genedl, ac ni rennir hwynt mwyach yn ddwy frenhiniaeth: 23 Ac ni ymhalogant mwy wrth eu heilunod, na thrwy eu ffieidd‐dra, nac yn eu holl anwireddau: eithr cadwaf hwynt o’u holl drigfaon, y rhai y pechasant ynddynt, a mi a’u glanhaf hwynt; fel y byddont yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn Dduw iddynt hwythau. 24 A’m gwas Dafydd fydd frenin arnynt; ie, un bugail fydd iddynt oll: yn fy marnedigaethau hefyd y rhodiant, a’m deddfau a gadwant ac a wnânt. 25 Trigant hefyd yn y tir a roddais i’m gwas Jacob, yr hwn y trigodd eich tadau ynddo; a hwy a drigant ynddo, hwy a’u meibion, a meibion eu meibion byth; a Dafydd fy ngwas fydd dywysog iddynt yn dragywydd. 26 Gwnaf hefyd â hwynt gyfamod hedd; amod tragwyddol a fydd â hwynt: a gosodaf hwynt, ac a’u hamlhaf, a rhoddaf fy nghysegr yn eu mysg hwynt yn dragywydd. 27 A’m tabernacl fydd gyda hwynt; ie, myfi a fyddaf iddynt yn Dduw, a hwythau a fyddant i mi yn bobl. 28 A’r cenhedloedd a gânt wybod mai myfi yr Arglwydd sydd yn sancteiddio Israel; gan fod fy nghysegr yn eu mysg hwynt yn dragywydd.
Salm neu Gân meibion Cora.
87 Ei sail sydd ar y mynyddoedd sanctaidd. 2 Yr Arglwydd a gâr byrth Seion yn fwy na holl breswylfeydd Jacob. 3 Gogoneddus bethau a ddywedir amdanat ti, O ddinas Duw. Sela. 4 Cofiaf Rahab a Babilon wrth fy nghydnabod: wele Philistia, a Thyrus, ynghyd ag Ethiopia. Yno y ganwyd hwn. 5 Ac am Seion y dywedir, Y gŵr a’r gŵr a anwyd ynddi: a’r Goruchaf ei hun a’i sicrha hi. 6 Yr Arglwydd a gyfrif pan ysgrifenno y bobl, eni hwn yno. Sela. 7 Y cantorion a’r cerddorion a fyddant yno: fy holl ffynhonnau sydd ynot ti.
Salm neu Gân meibion Cora, i’r Pencerdd ar Mahalath Leannoth, Maschil Heman yr Esrahiad.
88 O Arglwydd Dduw fy iachawdwriaeth, gwaeddais o’th flaen ddydd a nos. 2 Deued fy ngweddi ger dy fron: gostwng dy glust at fy llefain. 3 Canys fy enaid a lanwyd o flinderau; a’m heinioes a nesâ i’r beddrod. 4 Cyfrifwyd fi gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll: ydwyf fel gŵr heb nerth. 5 Yn rhydd ymysg y meirw, fel rhai wedi eu lladd, yn gorwedd mewn bedd, y rhai ni chofi mwy; a hwy a dorrwyd oddi wrth dy law. 6 Gosodaist fi yn y pwll isaf, mewn tywyllwch, yn y dyfnderau. 7 Y mae dy ddigofaint yn pwyso arnaf: ac â’th holl donnau y’m cystuddiaist. Sela. 8 Pellheaist fy nghydnabod oddi wrthyf; gwnaethost fi yn ffieidd‐dra iddynt: gwarchaewyd fi, fel nad awn allan. 9 Fy llygad a ofidiodd gan fy nghystudd: llefais arnat Arglwydd, beunydd; estynnais fy nwylo atat. 10 Ai i’r meirw y gwnei ryfeddod? a gyfyd y meirw a’th foliannu di? Sela. 11 A draethir dy drugaredd mewn bedd? a’th wirionedd yn nistryw? 12 A adwaenir dy ryfeddod yn y tywyllwch? a’th gyfiawnder yn nhir angof? 13 Ond myfi a lefais arnat, Arglwydd; yn fore yr achub fy ngweddi dy flaen. 14 Paham, Arglwydd, y gwrthodi fy enaid? y cuddi dy wyneb oddi wrthyf? 15 Truan ydwyf fi, ac ar drancedigaeth o’m hieuenctid: dygais dy ofn, ac yr ydwyf yn petruso. 16 Dy soriant a aeth drosof; dy ddychrynedigaethau a’m torrodd ymaith. 17 Fel dwfr y’m cylchynasant beunydd, ac y’m cydamgylchasant. 18 Câr a chyfaill a yrraist ymhell oddi wrthyf, a’m cydnabod i dywyllwch.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.