Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Genesis 1

Yn y dechreuad y creodd Duw y nefoedd a’r ddaear. A’r ddaear oedd afluniaidd a gwag, a thywyllwch oedd ar wyneb y dyfnder, ac Ysbryd Duw yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd. A Duw a ddywedodd, Bydded goleuni, a goleuni a fu. A Duw a welodd y goleuni, mai da oedd: a Duw a wahanodd rhwng y goleuni a’r tywyllwch. A Duw a alwodd y goleuni yn Ddydd, a’r tywyllwch a alwodd efe yn Nos: a’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y dydd cyntaf.

Duw hefyd a ddywedodd, Bydded ffurfafen yng nghanol y dyfroedd, a bydded hi yn gwahanu rhwng y dyfroedd a’r dyfroedd. A Duw a wnaeth y ffurfafen, ac a wahanodd rhwng y dyfroedd oddi tan y ffurfafen, a’r dyfroedd oddi ar y ffurfafen: ac felly y bu. A’r ffurfafen a alwodd Duw yn Nefoedd: a’r hwyr a fu, a’r bore a fu, yr ail ddydd.

Duw hefyd a ddywedodd, Casgler y dyfroedd oddi tan y nefoedd i’r un lle, ac ymddangosed y sychdir: ac felly y bu. 10 A’r sychdir a alwodd Duw yn Ddaear, a chasgliad y dyfroedd a alwodd efe yn Foroedd: a Duw a welodd mai da oedd. 11 A Duw a ddywedodd, Egined y ddaear egin, sef llysiau yn hadu had, a phrennau ffrwythlon yn dwyn ffrwyth, wrth eu rhywogaeth, y rhai y mae eu had ynddynt ar y ddaear: ac felly y bu. 12 A’r ddaear a ddug egin, sef llysiau yn hadu had wrth eu rhywogaeth, a phrennau yn dwyn ffrwyth, y rhai y mae eu had ynddynt wrth eu rhywogaeth: a Duw a welodd mai da oedd. 13 A’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y trydydd dydd.

14 Duw hefyd a ddywedodd, Bydded goleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i wahanu rhwng y dydd a’r nos; a byddant yn arwyddion, ac yn dymhorau, ac yn ddyddiau, a blynyddoedd. 15 A byddant yn oleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i oleuo ar y ddaear: ac felly y bu. 16 A Duw a wnaeth ddau oleuad mawrion; y goleuad mwyaf i lywodraethu’r dydd, a’r goleuad lleiaf i lywodraethu’r nos: a’r sêr hefyd a wnaeth efe. 17 Ac yn ffurfafen y nefoedd y rhoddes Duw hwynt, i oleuo ar y ddaear, 18 Ac i lywodraethu’r dydd a’r nos, ac i wahanu rhwng y goleuni a’r tywyllwch: a gwelodd Duw mai da oedd. 19 A’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y pedwerydd dydd.

20 Duw hefyd a ddywedodd, Heigied y dyfroedd ymlusgiaid byw, ac eheded ehediaid uwch y ddaear, yn wyneb ffurfafen y nefoedd. 21 A Duw a greodd y morfeirch mawrion, a phob ymlusgiad byw, y rhai a heigiodd y dyfroedd yn eu rhywogaeth, a phob ehediad asgellog yn ei rywogaeth: a gwelodd Duw mai da oedd. 22 A Duw a’u bendigodd hwynt, gan ddywedyd, Ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwch y dyfroedd yn y moroedd, a lluosoged yr ehediaid ar y ddaear, 23 A’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y pumed dydd.

24 Duw hefyd a ddywedodd, Dyged y ddaear bob peth byw wrth ei rywogaeth, yr anifail, a’r ymlusgiad, a bwystfil y ddaear wrth ei rywogaeth: ac felly y bu. 25 A Duw a wnaeth fwystfil y ddaear wrth ei rywogaeth, a’r anifail wrth ei rywogaeth, a phob ymlusgiad y ddaear wrth ei rywogaeth: a gwelodd Duw mai da oedd.

26 Duw hefyd a ddywedodd, Gwnawn ddyn ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain: ac arglwyddiaethant ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar yr anifail, ac ar yr holl ddaear, ac ar bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear. 27 Felly Duw a greodd y dyn ar ei ddelw ei hun, ar ddelw Duw y creodd efe ef: yn wryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt. 28 Duw hefyd a’u bendigodd hwynt, a Duw a ddywedodd wrthynt, Ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwch y ddaear, a darostyngwch hi; ac arglwyddiaethwch ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar bob peth byw a ymsymudo ar y ddaear.

29 A Duw a ddywedodd, Wele, mi a roddais i chwi bob llysieuyn yn hadu had, yr hwn sydd ar wyneb yr holl ddaear, a phob pren yr hwn y mae ynddo ffrwyth pren yn hadu had, i fod yn fwyd i chwi. 30 Hefyd i bob bwystfil y ddaear, ac i bob ehediad y nefoedd, ac i bob peth a ymsymudo ar y ddaear, yr hwn y mae einioes ynddo, y bydd pob llysieuyn gwyrdd yn fwyd: ac felly y bu. 31 A gwelodd Duw yr hyn oll a wnaethai, ac wele da iawn ydoedd: felly yr hwyr a fu, a’r bore a fu, y chweched dydd.

Mathew 1

Llyfr cenhedliad Iesu Grist, fab Dafydd, fab Abraham. Abraham a genhedlodd Isaac; ac Isaac a genhedlodd Jacob; a Jacob a genhedlodd Jwdas a’i frodyr; A Jwdas a genhedlodd Phares a Sara o Thamar; a Phares a genhedlodd Esrom; ac Esrom a genhedlodd Aram; Ac Aram a genhedlodd Aminadab; ac Aminadab a genhedlodd Naason; a Naason a genhedlodd Salmon; A Salmon a genhedlodd Boos o Rachab; a Boos a genhedlodd Obed o Ruth; ac Obed a genhedlodd Jesse; A Jesse a genhedlodd Dafydd frenin; a Dafydd frenin a genhedlodd Solomon o’r hon a fuasai wraig Ureias; A Solomon a genhedlodd Roboam; a Roboam a genhedlodd Abeia; ac Abeia a genhedlodd Asa; Ac Asa a genhedlodd Josaffat; a Josaffat a genhedlodd Joram; a Joram a genhedlodd Oseias; Ac Oseias a genhedlodd Joatham; a Joatham a genhedlodd Achas; ac Achas a genhedlodd Eseceias; 10 Ac Eseceias a genhedlodd Manasses; a Manasses a genhedlodd Amon; ac Amon a genhedlodd Joseias; 11 A Joseias a genhedlodd Jechoneias a’i frodyr, ynghylch amser y symudiad i Fabilon; 12 Ac wedi’r symudiad i Fabilon, Jechoneias a genhedlodd Salathiel; a Salathiel a genhedlodd Sorobabel; 13 A Sorobabel a genhedlodd Abïud; ac Abïud a genhedlodd Eliacim; ac Eliacim a genhedlodd Asor; 14 Ac Asor a genhedlodd Sadoc; a Sadoc a genhedlodd Achim; ac Achim a genhedlodd Elïud; 15 Ac Elïud a genhedlodd Eleasar; ac Eleasar a genhedlodd Mathan; a Mathan a genhedlodd Jacob; 16 A Jacob a genhedlodd Joseff, gŵr Mair, o’r hon y ganed Iesu, yr hwn a elwir Crist. 17 Felly yr holl genedlaethau o Abraham hyd Dafydd, sydd bedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o Dafydd hyd y symudiad i Fabilon, pedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o’r symudiad i Fabilon hyd Grist, pedair cenhedlaeth ar ddeg.

18 A genedigaeth yr Iesu Grist oedd fel hyn: Wedi dyweddïo Mair ei fam ef â Joseff, cyn eu dyfod hwy ynghyd, hi a gafwyd yn feichiog o’r Ysbryd Glân. 19 A Joseff ei gŵr hi, gan ei fod yn gyfiawn, ac heb chwennych ei gwneuthur hi yn siampl, a ewyllysiodd ei rhoi hi ymaith yn ddirgel. 20 Ac efe yn meddwl y pethau hyn, wele, angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Joseff, mab Dafydd, nac ofna gymryd Mair dy wraig: oblegid yr hyn a genhedlwyd ynddi sydd o’r Ysbryd Glân. 21 A hi a esgor ar fab, a thi a elwi ei enw ef IESU: oblegid efe a wared ei bobl oddi wrth eu pechodau. 22 (A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy’r proffwyd, gan ddywedyd, 23 Wele, morwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab; a hwy a alwant ei enw ef Emanuel; yr hyn o’i gyfieithu yw, Duw gyda ni.) 24 A Joseff, pan ddeffroes o gwsg, a wnaeth megis y gorchmynasai angel yr Arglwydd iddo, ac a gymerodd ei wraig: 25 Ac nid adnabu efe hi hyd onid esgorodd hi ar ei mab cyntaf‐anedig. A galwodd ei enw ef IESU.

Esra 1

Yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Persia, i gyflawni gair yr Arglwydd o enau Jeremeia, y cyffrôdd yr Arglwydd ysbryd Cyrus brenin Persia, fel y cyhoeddodd efe trwy ei holl deyrnas, a hynny hefyd mewn ysgrifen, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia, Arglwydd Dduw y nefoedd a roddes i mi holl deyrnasoedd y ddaear, ac efe a orchmynnodd i mi adeiladu iddo ef dŷ yn Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwda. Pwy sydd ohonoch o’i holl bobl ef? bydded ei Dduw gydag ef, ac eled i fyny i Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwda, ac adeiladed dŷ Arglwydd Dduw Israel, (dyna y Duw,) yr hwn sydd yn Jerwsalem. A phwy bynnag a adawyd mewn un man lle y mae efe yn ymdeithio, cynorthwyed gwŷr ei wlad ef ag arian, ac ag aur, ac â golud, ac ag anifeiliaid, gydag ewyllysgar offrwm tŷ Dduw, yr hwn sydd yn Jerwsalem.

Yna y cododd pennau‐cenedl Jwda a Benjamin, a’r offeiriaid a’r Lefiaid, a phob un y cyffrôdd Duw ei ysbryd, i fyned i fyny i adeiladu tŷ yr Arglwydd yr hwn oedd yn Jerwsalem. A’r rhai oll o’u hamgylch a’u cynorthwyasant hwy â llestri arian, ac aur, a golud, ac ag anifeiliaid, ac â phethau gwerthfawr, heblaw yr hyn oll a offrymwyd yn ewyllysgar.

A’r brenin Cyrus a ddug allan lestri tŷ yr Arglwydd, y rhai a ddygasai Nebuchodonosor allan o Jerwsalem, ac a roddasai efe yn nhŷ ei dduwiau ei hun: Y rhai hynny a ddug Cyrus brenin Persia allan trwy law Mithredath y trysorydd, ac a’u rhifodd hwynt at Sesbassar pennaeth Jwda. A dyma eu rhifedi hwynt; Deg ar hugain o gawgiau aur, mil o gawgiau arian, naw ar hugain o gyllyll, 10 Deg ar hugain o orflychau aur, deg a phedwar cant o ail fath o orflychau arian, a mil o lestri eraill. 11 Yr holl lestri, yn aur ac yn arian, oedd bum mil a phedwar cant. Y rhai hyn oll a ddug Sesbassar i fyny gyda’r gaethglud a ddygwyd i fyny o Babilon i Jerwsalem.

Actau 1

Y traethawd cyntaf a wneuthum, O Theoffilus, am yr holl bethau a ddechreuodd yr Iesu eu gwneuthur a’u dysgu, Hyd y dydd y derbyniwyd ef i fyny wedi iddo trwy’r Ysbryd Glân roddi gorchmynion i’r apostolion a etholasai: I’r rhai hefyd yr ymddangosodd efe yn fyw wedi iddo ddioddef, trwy lawer o arwyddion sicr; gan fod yn weledig iddynt dros ddeugain niwrnod, a dywedyd y pethau a berthynent i deyrnas Dduw. Ac wedi ymgynnull gyda hwynt, efe a orchmynnodd iddynt nad ymadawent o Jerwsalem, eithr disgwyl am addewid y Tad, yr hwn, eb efe, a glywsoch gennyf fi. Oblegid Ioan yn ddiau a fedyddiodd â dwfr; ond chwi a fedyddir â’r Ysbryd Glân, cyn nemor o ddyddiau. Gan hynny wedi eu dyfod hwy ynghyd, hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, ai’r pryd hwn y rhoddi drachefn y frenhiniaeth i Israel? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ni pherthyn i chwi wybod yr amseroedd na’r prydiau, y rhai a osododd y Tad yn ei feddiant ei hun. Eithr chwi a dderbyniwch nerth yr Ysbryd Glân wedi y delo efe arnoch; ac a fyddwch dystion i mi yn Jerwsalem, ac yn holl Jwdea, a Samaria, ac hyd eithaf y ddaear. Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, a hwynt‐hwy yn edrych, efe a ddyrchafwyd i fyny; a chwmwl a’i derbyniodd ef allan o’u golwg hwynt. 10 Ac fel yr oeddynt yn edrych yn ddyfal tua’r nef, ac efe yn myned i fyny, wele, dau ŵr a safodd gerllaw iddynt mewn gwisg wen; 11 Y rhai hefyd a ddywedasant, Chwi wŷr o Galilea, paham y sefwch yn edrych tua’r nef? yr Iesu hwn, yr hwn a gymerwyd i fyny oddi wrthych i’r nef, a ddaw felly yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn myned i’r nef. 12 Yna y troesant i Jerwsalem, o’r mynydd a elwir Olewydd, yr hwn sydd yn agos i Jerwsalem, sef taith diwrnod Saboth. 13 Ac wedi eu dyfod i mewn, hwy a aethant i fyny i oruwchystafell, lle yr oedd Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac Andreas, Philip, a Thomas, Bartholomew, a Mathew, Iago mab Alffeus, a Simon Selotes, a Jwdas brawd Iago, yn aros. 14 Y rhai hyn oll oedd yn parhau yn gytûn mewn gweddi ac ymbil, gyda’r gwragedd, a Mair mam yr Iesu, a chyda’i frodyr ef.

15 Ac yn y dyddiau hynny Pedr a gyfododd i fyny yng nghanol y disgyblion, ac a ddywedodd, (a nifer yr enwau yn yr un man oedd ynghylch ugain a chant,) 16 Ha wŷr frodyr, yr oedd yn rhaid cyflawni’r ysgrythur yma a ragddywedodd yr Ysbryd Glân trwy enau Dafydd am Jwdas, yr hwn a fu flaenor i’r rhai a ddaliasant yr Iesu: 17 Canys efe a gyfrifwyd gyda ni, ac a gawsai ran o’r weinidogaeth hon. 18 A hwn a bwrcasodd faes â gwobr anwiredd; ac wedi ymgrogi, a dorrodd yn ei ganol, a’i holl ymysgaroedd ef a dywalltwyd allan. 19 A bu hysbys hyn i holl breswylwyr Jerwsalem, hyd oni elwir y maes hwnnw yn eu tafod priodol hwy, Aceldama, hynny yw, Maes y gwaed. 20 Canys ysgrifennwyd yn llyfr y Salmau, Bydded ei drigfan ef yn ddiffeithwch, ac na bydded a drigo ynddi: a chymered arall ei esgobaeth ef. 21 Am hynny y mae’n rhaid, o’r gwŷr a fu yn cydymdaith â ni yr holl amser yr aeth yr Arglwydd Iesu i mewn ac allan yn ein plith ni, 22 Gan ddechrau o fedydd Ioan hyd y dydd y cymerwyd ef i fyny oddi wrthym ni, bod un o’r rhai hyn gyda ni yn dyst o’i atgyfodiad ef. 23 A hwy a osodasant ddau gerbron, Joseff, yr hwn a enwid Barsabas, ac a gyfenwid Jwstus, a Matheias. 24 A chan weddïo, hwy a ddywedasant, Tydi, Arglwydd, yr hwn a wyddost galonnau pawb, dangos pa un o’r ddau hyn a etholaist, 25 I dderbyn rhan o’r weinidogaeth hon, a’r apostoliaeth, o’r hon y cyfeiliornodd Jwdas, i fyned i’w le ei hun. 26 A hwy a fwriasant eu coelbrennau hwynt: ac ar Matheias y syrthiodd y coelbren; ac efe a gyfrifwyd gyda’r un apostol ar ddeg.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.