Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Historical

Read the books of the Bible as they were written historically, according to the estimated date of their writing.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Effesiaid 1-3

Paul, apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, at y saint sydd yn Effesus, a’r ffyddloniaid yng Nghrist Iesu: Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist. Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn a’n bendithiodd ni â phob bendith ysbrydol yn y nefolion leoedd yng Nghrist: Megis yr etholodd efe ni ynddo ef cyn seiliad y byd, fel y byddem yn sanctaidd ac yn ddifeius ger ei fron ef mewn cariad: Wedi iddo ein rhagluniaethu ni i fabwysiad trwy Iesu Grist iddo ei hun, yn ôl bodlonrwydd ei ewyllys ef, Er mawl gogoniant ei ras ef, trwy yr hwn y gwnaeth ni yn gymeradwy yn yr Anwylyd: Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau, yn ôl cyfoeth ei ras ef; Trwy yr hwn y bu efe helaeth i ni ym mhob doethineb a deall, Gwedi iddo hysbysu i ni ddirgelwch ei ewyllys, yn ôl ei fodlonrwydd ei hun, yr hon a arfaethasai efe ynddo ei hun: 10 Fel yng ngoruchwyliaeth cyflawnder yr amseroedd, y gallai grynhoi ynghyd yng Nghrist yr holl bethau sydd yn y nefoedd, ac ar y ddaear, ynddo ef: 11 Yn yr hwn y’n dewiswyd hefyd, wedi ein rhagluniaethu yn ôl arfaeth yr hwn sydd yn gweithio pob peth wrth gyngor ei ewyllys ei hun: 12 Fel y byddem ni er mawl i’w ogoniant ef, y rhai o’r blaen a obeithiasom yng Nghrist. 13 Yn yr hwn y gobeithiasoch chwithau hefyd, wedi i chwi glywed gair y gwirionedd, efengyl eich iachawdwriaeth: yn yr hwn hefyd, wedi i chwi gredu, y’ch seliwyd trwy Lân Ysbryd yr addewid; 14 Yr hwn yw ernes ein hetifeddiaeth ni, hyd bryniad y pwrcas, i fawl ei ogoniant ef. 15 Oherwydd hyn minnau hefyd, wedi clywed eich ffydd yn yr Arglwydd Iesu, a’ch cariad tuag ar yr holl saint, 16 Nid wyf yn peidio â diolch drosoch, gan wneuthur coffa amdanoch yn fy ngweddïau; 17 Ar i Dduw ein Harglwydd Iesu Grist, Tad y gogoniant, roddi i chwi Ysbryd doethineb a datguddiad, trwy ei adnabod ef: 18 Wedi goleuo llygaid eich meddyliau; fel y gwypoch beth yw gobaith ei alwedigaeth ef, a pheth yw golud gogoniant ei etifeddiaeth ef yn y saint, 19 A pheth yw rhagorol fawredd ei nerth ef tuag atom ni y rhai ŷm yn credu, yn ôl gweithrediad nerth ei gadernid ef; 20 Yr hon a weithredodd efe yng Nghrist, pan ei cyfododd ef o feirw, ac a’i gosododd i eistedd ar ei ddeheulaw ei hun yn y nefolion leoedd, 21 Goruwch pob tywysogaeth, ac awdurdod, a gallu, ac arglwyddiaeth, a phob enw a enwir, nid yn unig yn y byd hwn, ond hefyd yn yr hwn a ddaw: 22 Ac a ddarostyngodd bob peth dan ei draed ef, ac a’i rhoddes ef yn ben uwchlaw pob peth i’r eglwys, 23 Yr hon yw ei gorff ef, ei gyflawnder ef, yr hwn sydd yn cyflawni oll yn oll.

A chwithau a fywhaodd efe, pan oeddech feirw mewn camweddau a phechodau; Yn y rhai y rhodiasoch gynt yn ôl helynt y byd hwn, yn ôl tywysog llywodraeth yr awyr, yr ysbryd sydd yr awron yn gweithio ym mhlant anufudd‐dod; Ymysg y rhai hefyd y bu ein hymarweddiad ni oll gynt, yn chwantau ein cnawd, gan wneuthur ewyllysiau y cnawd a’r meddyliau; ac yr oeddem ni wrth naturiaeth yn blant digofaint, megis eraill. Eithr Duw, yr hwn sydd gyfoethog o drugaredd, oherwydd ei fawr gariad trwy yr hwn y carodd efe ni, Ie, pan oeddem feirw mewn camweddau, a’n cydfywhaodd ni gyda Christ, (trwy ras yr ydych yn gadwedig;) Ac a’n cydgyfododd, ac a’n gosododd i gydeistedd yn y nefolion leoedd yng Nghrist Iesu: Fel y gallai ddangos yn yr oesoedd a ddeuai, ragorol olud ei ras ef, trwy ei gymwynasgarwch i ni yng Nghrist Iesu. Canys trwy ras yr ydych yn gadwedig, trwy ffydd; a hynny nid ohonoch eich hunain: rhodd Duw ydyw: Nid o weithredoedd, fel nad ymffrostiai neb. 10 Canys ei waith ef ydym, wedi ein creu yng Nghrist Iesu i weithredoedd da, y rhai a ragddarparodd Duw, fel y rhodiem ni ynddynt. 11 Am hynny cofiwch, a chwi gynt yn Genhedloedd yn y cnawd, y rhai a elwid yn ddienwaediad, gan yr hyn a elwir enwaediad o waith llaw yn y cnawd; 12 Eich bod chwi y pryd hwnnw heb Grist, wedi eich dieithrio oddi wrth wladwriaeth Israel, ac yn estroniaid oddi wrth amodau’r addewid, heb obaith gennych, ac heb Dduw yn y byd: 13 Eithr yr awron yng Nghrist Iesu, chwychwi, y rhai oeddech gynt ymhell, a wnaethpwyd yn agos trwy waed Crist. 14 Canys efe yw ein tangnefedd ni, yr hwn a wnaeth y ddau yn un, ac a ddatododd ganolfur y gwahaniaeth rhyngom ni: 15 Ac a ddirymodd trwy ei gnawd ei hun y gelyniaeth, sef deddf y gorchmynion mewn ordeiniadau, fel y creai’r ddau ynddo’i hun yn un dyn newydd, gan wneuthur heddwch; 16 Ac fel y cymodai’r ddau â Duw yn un corff trwy’r groes, wedi lladd y gelyniaeth trwyddi hi. 17 Ac efe a ddaeth, ac a bregethodd dangnefedd i chwi’r rhai pell, ac i’r rhai agos. 18 Oblegid trwyddo ef y mae i ni ein dau ddyfodfa mewn un Ysbryd at y Tad. 19 Weithian gan hynny nid ydych chwi mwyach yn ddieithriaid a dyfodiaid, ond yn gyd‐ddinasyddion â’r saint, ac yn deulu Duw; 20 Wedi eich goruwchadeiladu ar sail yr apostolion a’r proffwydi, ac Iesu Grist ei hun yn benconglfaen; 21 Yn yr hwn y mae’r holl adeilad wedi ei chymwys gydgysylltu, yn cynyddu’n deml sanctaidd yn yr Arglwydd: 22 Yn yr hwn y’ch cydadeiladwyd chwithau yn breswylfod i Dduw trwy’r Ysbryd.

Er mwyn hyn, myfi Paul, carcharor Iesu Grist trosoch chwi’r Cenhedloedd; Os clywsoch am oruchwyliaeth gras Duw, yr hon a roddwyd i mi tuag atoch chwi: Mai trwy ddatguddiad yr hysbysodd efe i mi y dirgelwch, (megis yr ysgrifennais o’r blaen ar ychydig eiriau, Wrth yr hyn y gellwch, pan ddarllenoch, wybod fy neall i yn nirgelwch Crist,) Yr hwn yn oesoedd eraill nid eglurwyd i feibion dynion, fel y mae yr awron wedi ei ddatguddio i’w sanctaidd apostolion a’i broffwydi trwy’r Ysbryd; Y byddai’r Cenhedloedd yn gyd‐etifeddion, ac yn gyd‐gorff, ac yn gyd‐gyfranogion o’i addewid ef yng Nghrist, trwy’r efengyl: I’r hon y’m gwnaed i yn weinidog, yn ôl rhodd gras Duw yr hwn a roddwyd i mi, yn ôl grymus weithrediad ei allu ef. I mi, y llai na’r lleiaf o’r holl saint, y rhoddwyd y gras hwn, i efengylu ymysg y Cenhedloedd anchwiliadwy olud Crist; Ac i egluro i bawb beth yw cymdeithas y dirgelwch, yr hwn oedd guddiedig o ddechreuad y byd yn Nuw, yr hwn a greodd bob peth trwy Iesu Grist: 10 Fel y byddai yr awron yn hysbys i’r tywysogaethau ac i’r awdurdodau yn y nefolion leoedd, trwy’r eglwys, fawr amryw ddoethineb Duw, 11 Yn ôl yr arfaeth dragwyddol yr hon a wnaeth efe yng Nghrist Iesu ein Harglwydd ni: 12 Yn yr hwn y mae i ni hyfdra, a dyfodfa mewn hyder, trwy ei ffydd ef. 13 Oherwydd paham yr wyf yn dymuno na lwfrhaoch oblegid fy mlinderau i drosoch, yr hyn yw eich gogoniant chwi. 14 Oherwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau at Dad ein Harglwydd Iesu Grist, 15 O’r hwn yr enwir yr holl deulu yn y nefoedd ac ar y ddaear, 16 Ar roddi ohono ef i chwi, yn ôl cyfoeth ei ogoniant, fod wedi ymgadarnhau mewn nerth, trwy ei Ysbryd ef, yn y dyn oddi mewn; 17 Ar fod Crist yn trigo trwy ffydd yn eich calonnau chwi; 18 Fel y galloch, wedi eich gwreiddio a’ch seilio mewn cariad, amgyffred gyda’r holl saint, beth yw’r lled, a’r hyd, a’r dyfnder, a’r uchder; 19 A gwybod cariad Crist, yr hwn sydd uwchlaw gwybodaeth, fel y’ch cyflawner â holl gyflawnder Duw. 20 Ond i’r hwn a ddichon wneuthur yn dra rhagorol, y tu hwnt i bob peth yr ydym ni yn eu dymuno, neu yn eu meddwl, yn ôl y nerth sydd yn gweithredu ynom ni, 21 Iddo ef y byddo’r gogoniant yn yr eglwys trwy Grist Iesu, dros yr holl genedlaethau, hyd yn oes oesoedd. Amen.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.