Historical
23 A’r holl liaws ohonynt a gyfodasant, ac a’i dygasant ef at Peilat: 2 Ac a ddechreuasant ei gyhuddo ef, gan ddywedyd, Ni a gawsom hwn yn gŵyrdroi’r bobl, ac yn gwahardd rhoi teyrnged i Gesar, gan ddywedyd mai efe ei hun yw Crist Frenin. 3 A Pheilat a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? Ac efe a atebodd iddo, ac a ddywedodd, Yr wyt ti yn dywedyd. 4 A dywedodd Peilat wrth yr archoffeiriaid a’r bobl, Nid wyf fi yn cael dim bai ar y dyn hwn. 5 A hwy a fuant daerach, gan ddywedyd, Y mae efe yn cyffroi’r bobl, gan ddysgu trwy holl Jwdea, wedi dechrau o Galilea hyd yma. 6 A phan glybu Peilat sôn am Galilea, efe a ofynnodd ai Galilead oedd y dyn. 7 A phan wybu efe ei fod ef o lywodraeth Herod, efe a’i hanfonodd ef at Herod, yr hwn oedd yntau yn Jerwsalem y dyddiau hynny.
8 A Herod, pan welodd yr Iesu, a lawenychodd yn fawr: canys yr oedd efe yn chwennych er ys talm ei weled ef, oblegid iddo glywed llawer amdano ef; ac yr ydoedd yn gobeithio cael gweled gwneuthur rhyw arwydd ganddo ef. 9 Ac efe a’i holodd ef mewn llawer o eiriau; eithr efe nid atebodd ddim iddo. 10 A’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a safasant, gan ei gyhuddo ef yn haerllug. 11 A Herod a’i filwyr, wedi iddo ei ddiystyru ef, a’i watwar, a’i wisgo â gwisg glaerwen, a’i danfonodd ef drachefn at Peilat.
12 A’r dwthwn hwnnw yr aeth Peilat a Herod yn gyfeillion: canys yr oeddynt o’r blaen mewn gelyniaeth â’i gilydd.
13 A Pheilat, wedi galw ynghyd yr archoffeiriaid, a’r llywiawdwyr, a’r bobl, 14 A ddywedodd wrthynt, Chwi a ddygasoch y dyn hwn ataf fi, fel un a fyddai’n gŵyrdroi’r bobl: ac wele, myfi a’i holais ef yn eich gŵydd chwi, ac ni chefais yn y dyn hwn ddim bai, o ran y pethau yr ydych chwi yn ei gyhuddo ef amdanynt: 15 Na Herod chwaith: canys anfonais chwi ato ef; ac wele, dim yn haeddu marwolaeth nis gwnaed iddo. 16 Am hynny mi a’i ceryddaf ef, ac a’i gollyngaf ymaith. 17 Canys yr ydoedd yn rhaid iddo ollwng un yn rhydd iddynt ar yr ŵyl. 18 A’r holl liaws a lefasant ar unwaith, gan ddywedyd, Bwrw hwn ymaith, a gollwng i ni Barabbas yn rhydd: 19 (Yr hwn, am ryw derfysg a wnaethid yn y ddinas, a llofruddiaeth, oedd wedi ei daflu i garchar.) 20 Am hynny Peilat a ddywedodd wrthynt drachefn, gan ewyllysio gollwng yr Iesu yn rhydd. 21 Eithr hwy a lefasant arno, gan ddywedyd, Croeshoelia, croeshoelia ef. 22 Ac efe a ddywedodd wrthynt y drydedd waith, Canys pa ddrwg a wnaeth efe? ni chefais i ddim achos marwolaeth ynddo; am hynny mi a’i ceryddaf ef, ac a’i gollyngaf yn rhydd. 23 Hwythau a fuont daerion â llefau uchel, gan ddeisyfu ei groeshoelio ef. A’u llefau hwynt a’r archoffeiriaid a orfuant. 24 A Pheilat a farnodd wneuthur eu deisyfiad hwynt. 25 Ac efe a ollyngodd yn rhydd iddynt yr hwn am derfysg a llofruddiaeth a fwriasid yng ngharchar, yr hwn a ofynasant: eithr yr Iesu a draddododd efe i’w hewyllys hwynt. 26 Ac fel yr oeddynt yn ei arwain ef ymaith, hwy a ddaliasant un Simon o Cyrene, yn dyfod o’r wlad, ac a ddodasant y groes arno ef, i’w dwyn ar ôl yr Iesu.
27 Ac yr oedd yn ei ganlyn ef liaws mawr o bobl, ac o wragedd, y rhai hefyd oedd yn cwynfan ac yn galaru o’i blegid ef. 28 A’r Iesu, wedi troi atynt, a ddywedodd, Merched Jerwsalem, nac wylwch o’m plegid i: eithr wylwch o’ch plegid eich hunain, ac oblegid eich plant. 29 Canys wele, y mae’r dyddiau yn dyfod, yn y rhai y dywedant, Gwyn eu byd y rhai amhlantadwy, a’r crothau nid epiliasant, a’r bronnau ni roesant sugn. 30 Yna y dechreuant ddywedyd wrth y mynyddoedd, Syrthiwch arnom; ac wrth y bryniau, Cuddiwch ni. 31 Canys os gwnânt hyn yn y pren ir, pa beth a wneir yn y crin? 32 Ac arweiniwyd gydag ef hefyd ddau eraill, drwgweithredwyr, i’w rhoi i’w marwolaeth. 33 A phan ddaethant i’r lle a elwir Calfaria, yno y croeshoeliasant ef, a’r drwgweithredwyr; un ar y llaw ddeau, a’r llall ar yr aswy.
34 A’r Iesu a ddywedodd, O Dad, maddau iddynt: canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur. A hwy a ranasant ei ddillad ef, ac a fwriasant goelbren. 35 A’r bobl a safodd yn edrych. A’r penaethiaid hefyd gyda hwynt a watwarasant, gan ddywedyd, Eraill a waredodd efe; gwareded ef ei hun, os hwn yw Crist, etholedig Duw. 36 A’r milwyr hefyd a’i gwatwarasant ef, gan ddyfod ato, a chynnig iddo finegr, 37 A dywedyd, Os tydi yw Brenin yr Iddewon, gwared dy hun. 38 Ac yr ydoedd hefyd arysgrifen wedi ei hysgrifennu uwch ei ben ef, â llythrennau Groeg, a Lladin, a Hebraeg, HWN YW BRENIN YR IDDEWON.
39 Ac un o’r drwgweithredwyr a grogasid a’i cablodd ef, gan ddywedyd, Os tydi yw Crist, gwared dy hun a ninnau. 40 Eithr y llall a atebodd, ac a’i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Onid wyt ti yn ofni Duw, gan dy fod dan yr un ddamnedigaeth? 41 A nyni yn wir yn gyfiawn; canys yr ydym yn derbyn yr hyn a haeddai’r pethau a wnaethom: eithr hwn ni wnaeth ddim allan o’i le. 42 Ac efe a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, cofia fi pan ddelych i’th deyrnas. 43 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir meddaf i ti, Heddiw y byddi gyda mi ym mharadwys. 44 Ac yr ydoedd hi ynghylch y chweched awr, a thywyllwch a fu ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr. 45 A’r haul a dywyllwyd, a llen y deml a rwygwyd yn ei chanol.
46 A’r Iesu, gan lefain â llef uchel, a ddywedodd, O Dad, i’th ddwylo di y gorchmynnaf fy ysbryd. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a drengodd. 47 A’r canwriad, pan welodd y peth a wnaethpwyd, a ogoneddodd Dduw, gan ddywedyd, Yn wir yr oedd hwn yn ŵr cyfiawn. 48 A’r holl bobloedd y rhai a ddaethent ynghyd i edrych hyn, wrth weled y pethau a wnaethpwyd, a ddychwelasant, gan guro eu dwyfronnau. 49 A’i holl gydnabod ef a safasant o hirbell, a’r gwragedd y rhai a’i canlynasent ef o Galilea, yn edrych ar y pethau hyn.
50 Ac wele, gŵr a’i enw Joseff, yr hwn oedd gynghorwr, gŵr da a chyfiawn: 51 (Hwn ni chytunasai â’u cyngor ac â’u gweithred hwynt;) o Arimathea, dinas yr Iddewon, yr hwn oedd yntau yn disgwyl hefyd am deyrnas Dduw; 52 Hwn a ddaeth at Peilat, ac a ofynnodd gorff yr Iesu. 53 Ac efe a’i tynnodd i lawr, ac a’i hamdôdd mewn lliain main, ac a’i rhoddes mewn bedd wedi ei naddu mewn carreg, yn yr hwn ni roddasid dyn erioed. 54 A’r dydd hwnnw oedd ddarpar‐ŵyl, a’r Saboth oedd yn nesáu. 55 A’r gwragedd hefyd, y rhai a ddaethent gydag ef o Galilea, a ganlynasant, ac a welsant y bedd, a pha fodd y dodwyd ei gorff ef. 56 A hwy a ddychwelasant, ac a baratoesant beraroglau ac ennaint; ac a orffwysasant ar y Saboth, yn ôl y gorchymyn.
24 A’r dydd cyntaf o’r wythnos, ar y cynddydd, hwy a ddaethant at y bedd, gan ddwyn y peraroglau a baratoesent, a rhai gyda hwynt. 2 A hwy a gawsant y maen wedi ei dreiglo ymaith oddi wrth y bedd. 3 Ac wedi iddynt fyned i mewn, ni chawsant gorff yr Arglwydd Iesu. 4 A bu, a hwy yn petruso am y peth hwn, wele, dau ŵr a safodd yn eu hymyl mewn gwisgoedd disglair. 5 Ac wedi iddynt ofni, a gostwng eu hwynebau tua’r ddaear, hwy a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn ceisio y byw ymysg y meirw? 6 Nid yw efe yma, ond efe a gyfododd. Cofiwch pa fodd y dywedodd wrthych, ac efe eto yng Ngalilea, 7 Gan ddywedyd, Rhaid yw rhoi Mab y dyn yn nwylo dynion pechadurus, a’i groeshoelio, a’r trydydd dydd atgyfodi. 8 A hwy a gofiasant ei eiriau ef; 9 Ac a ddychwelasant oddi wrth y bedd, ac a fynegasant hyn oll i’r un ar ddeg, ac i’r lleill oll. 10 A Mair Magdalen, a Joanna, a Mair mam Iago, a’r lleill gyda hwynt, oedd y rhai a ddywedasant y pethau hyn wrth yr apostolion. 11 A’u geiriau a welid yn eu golwg hwynt fel gwegi, ac ni chredasant iddynt. 12 Eithr Pedr a gododd i fyny, ac a redodd at y bedd; ac wedi ymgrymu, efe a ganfu’r llieiniau wedi eu gosod o’r neilltu; ac a aeth ymaith, gan ryfeddu rhyngddo ac ef ei hun am y peth a ddarfuasai.
13 Ac wele, dau ohonynt oedd yn myned y dydd hwnnw i dref a’i henw Emaus, yr hon oedd ynghylch tri ugain ystad oddi wrth Jerwsalem. 14 Ac yr oeddynt hwy yn ymddiddan â’i gilydd am yr holl bethau hyn a ddigwyddasent. 15 A bu, fel yr oeddynt yn ymddiddan, ac yn ymofyn â’i gilydd, yr Iesu ei hun hefyd a nesaodd, ac a aeth gyda hwynt. 16 Eithr eu llygaid hwynt a ataliwyd, fel nas adwaenent ef. 17 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ryw ymadroddion yw’r rhai hyn yr ydych yn eu bwrw at ei gilydd, dan rodio, ac yn wyneptrist? 18 Ac un ohonynt, a’i enw Cleopas, gan ateb a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn unig yn ymdeithydd yn Jerwsalem, ac ni wybuost y pethau a wnaethpwyd ynddi hi yn y dyddiau hyn? 19 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa bethau? Hwythau a ddywedasant wrtho, Y pethau ynghylch Iesu o Nasareth, yr hwn oedd ŵr o broffwyd, galluog mewn gweithred a gair gerbron Duw a’r holl bobl; 20 A’r modd y traddododd yr archoffeiriaid a’n llywodraethwyr ni ef i farn marwolaeth, ac a’i croeshoeliasant ef. 21 Ond yr oeddem ni yn gobeithio mai efe oedd yr hwn a waredai’r Israel. Ac heblaw hyn oll, heddiw yw’r trydydd dydd er pan wnaethpwyd y pethau hyn. 22 A hefyd rhai gwragedd ohonom ni a’n dychrynasant ni, gwedi iddynt fod yn fore wrth y bedd: 23 A phan na chawsant ei gorff ef, hwy a ddaethant, gan ddywedyd weled ohonynt weledigaeth o angylion, y rhai a ddywedent ei fod ef yn fyw. 24 A rhai o’r rhai oedd gyda nyni a aethant at y bedd, ac a gawsant felly, fel y dywedasai’r gwragedd: ond ef nis gwelsant. 25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, O ynfydion, a hwyrfrydig o galon i gredu’r holl bethau a ddywedodd y proffwydi! 26 Onid oedd raid i Grist ddioddef y pethau hyn, a myned i mewn i’w ogoniant? 27 A chan ddechrau ar Moses, a’r holl broffwydi, efe a esboniodd iddynt yn yr holl ysgrythurau y pethau amdano ei hun. 28 Ac yr oeddynt yn nesáu i’r dref lle yr oeddynt yn myned: ac yntau a gymerth arno ei fod yn myned ymhellach. 29 A hwy a’i cymellasant ef, gan ddywedyd, Aros gyda ni; canys y mae hi yn hwyrhau, a’r dydd yn darfod. Ac efe a aeth i mewn i aros gyda hwynt. 30 A darfu, ac efe yn eistedd gyda hwynt, efe a gymerodd fara, ac a’i bendithiodd, ac a’i torrodd, ac a’i rhoddes iddynt. 31 A’u llygaid hwynt a agorwyd, a hwy a’i hadnabuant ef: ac efe a ddiflannodd allan o’u golwg hwynt. 32 A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Onid oedd ein calon ni yn llosgi ynom tra ydoedd efe yn ymddiddan â ni ar y ffordd, a thra ydoedd efe yn agoryd i ni yr ysgrythurau? 33 A hwy a godasant yr awr honno, ac a ddychwelasant i Jerwsalem, ac a gawsant yr un ar ddeg wedi ymgasglu ynghyd, a’r sawl oedd gyda hwynt, 34 Yn dywedyd, Yr Arglwydd a gyfododd yn wir, ac a ymddangosodd i Simon. 35 A hwythau a adroddasant y pethau a wnaethid ar y ffordd, a pha fodd yr adnabuwyd ef ganddynt wrth doriad y bara.
36 Ac a hwy yn dywedyd y pethau hyn, yr Iesu ei hun a safodd yn eu canol hwynt, ac a ddywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi. 37 Hwythau, wedi brawychu ac ofni, a dybiasant weled ohonynt ysbryd. 38 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham y’ch trallodir? a phaham y mae meddyliau yn codi yn eich calonnau? 39 Edrychwch fy nwylo a’m traed, mai myfi fy hun ydyw: teimlwch fi, a gwelwch: canys nid oes gan ysbryd gnawd ac esgyrn, fel y gwelwch fod gennyf fi. 40 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylo a’i draed. 41 Ac a hwy eto heb gredu gan lawenydd, ac yn rhyfeddu, efe a ddywedodd wrthynt, A oes gennych chwi yma ddim bwyd? 42 A hwy a roesant iddo ddarn o bysgodyn wedi ei rostio, ac o ddil mêl. 43 Yntau a’i cymerodd, ac a’i bwytaodd yn eu gŵydd hwynt. 44 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Dyma’r geiriau a ddywedais i wrthych, pan oeddwn eto gyda chwi, bod yn rhaid cyflawni pob peth a ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses, a’r proffwydi, a’r salmau, amdanaf fi. 45 Yna yr agorodd efe eu deall hwynt, fel y deallent yr ysgrythurau. 46 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Felly yr ysgrifennwyd, ac felly yr oedd raid i Grist ddioddef, a chyfodi o feirw y trydydd dydd: 47 A phregethu edifeirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef ymhlith yr holl genhedloedd, gan ddechrau yn Jerwsalem. 48 Ac yr ydych chwi yn dystion o’r pethau hyn.
49 Ac wele, yr ydwyf fi yn anfon addewid fy Nhad arnoch: eithr arhoswch chwi yn ninas Jerwsalem, hyd oni wisger chwi â nerth o’r uchelder.
50 Ac efe a’u dug hwynt allan hyd ym Methania; ac a gododd ei ddwylo, ac a’u bendithiodd hwynt. 51 Ac fe a ddarfu, tra oedd efe yn eu bendithio hwynt, ymadael ohono ef oddi wrthynt, ac efe a ddygwyd i fyny i’r nef. 52 Ac wedi iddynt ei addoli ef, hwy a ddychwelasant i Jerwsalem, gyda llawenydd mawr: 53 Ac yr oeddynt yn wastadol yn y deml, yn moli ac yn bendithio Duw. Amen.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.