Historical
4 A’r Iesu yn llawn o’r Ysbryd Glân, a ddychwelodd oddi wrth yr Iorddonen, ac a arweiniwyd gan yr ysbryd i’r anialwch, 2 Yn cael ei demtio gan ddiafol ddeugain niwrnod. Ac ni fwytaodd efe ddim o fewn y dyddiau hynny: ac wedi eu diweddu hwynt, ar ôl hynny y daeth arno chwant bwyd. 3 A dywedodd diafol wrtho, Os mab Duw ydwyt ti, dywed wrth y garreg hon fel y gwneler hi yn fara. 4 A’r Iesu a atebodd iddo, gan ddywedyd, Ysgrifenedig yw, Nad ar fara yn unig y bydd dyn fyw, ond ar bob gair Duw. 5 A diafol, wedi ei gymryd ef i fyny i fynydd uchel, a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y ddaear mewn munud awr. 6 A diafol a ddywedodd wrtho, I ti y rhoddaf yr awdurdod hon oll, a’u gogoniant hwynt: canys i mi y rhoddwyd; ac i bwy bynnag y mynnwyf y rhoddaf finnau hi. 7 Os tydi gan hynny a addoli o’m blaen, eiddot ti fyddant oll. 8 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Dos ymaith, Satan, yn fy ôl i; canys ysgrifenedig yw, Addoli yr Arglwydd dy Dduw, ac ef yn unig a wasanaethi. 9 Ac efe a’i dug ef i Jerwsalem, ac a’i gosododd ar binacl y deml, ac a ddywedodd wrtho, Os mab Duw ydwyt, bwrw dy hun i lawr oddi yma: 10 Canys ysgrifenedig yw, Y gorchymyn efe i’w angylion o’th achos di, ar dy gadw di; 11 Ac y cyfodant di yn eu dwylo, rhag i ti un amser daro dy droed wrth garreg. 12 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Dywedwyd, Na themtia yr Arglwydd dy Dduw. 13 Ac wedi i ddiafol orffen yr holl demtasiwn, efe a ymadawodd ag ef dros amser.
14 A’r Iesu a ddychwelodd trwy nerth yr ysbryd i Galilea: a sôn a aeth amdano ef trwy’r holl fro oddi amgylch. 15 Ac yr oedd efe yn athrawiaethu yn eu synagogau hwynt, ac yn cael anrhydedd gan bawb.
16 Ac efe a ddaeth i Nasareth, lle y magesid ef: ac yn ôl ei arfer, efe a aeth i’r synagog ar y Saboth, ac a gyfododd i fyny i ddarllen. 17 A rhodded ato lyfr y proffwyd Eseias. Ac wedi iddo agoryd y llyfr, efe a gafodd y lle yr oedd yn ysgrifenedig, 18 Ysbryd yr Arglwydd sydd arnaf fi, oherwydd iddo fy eneinio i; i bregethu i’r tlodion yr anfonodd fi, i iacháu’r drylliedig o galon, i bregethu gollyngdod i’r caethion, a chaffaeliad golwg i’r deillion, i ollwng y rhai ysig mewn rhydd-deb, 19 I bregethu blwyddyn gymeradwy yr Arglwydd. 20 Ac wedi iddo gau’r llyfr, a’i roddi i’r gweinidog, efe a eisteddodd. A llygaid pawb oll yn y synagog oedd yn craffu arno. 21 Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt, Heddiw y cyflawnwyd yr ysgrythur hon yn eich clustiau chwi. 22 Ac yr oedd pawb yn dwyn tystiolaeth iddo, ac yr oeddynt yn rhyfeddu am y geiriau grasusol a ddeuai allan o’i enau ef. A hwy a ddywedasant, Onid hwn yw mab Joseff? 23 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn hollol y dywedwch y ddihareb hon wrthyf, Y meddyg, iachâ di dy hun: y pethau a glywsom ni eu gwneuthur yng Nghapernaum, gwna yma hefyd yn dy wlad dy hun. 24 Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nad yw un proffwyd yn gymeradwy yn ei wlad ei hun. 25 Eithr mewn gwirionedd meddaf i chwi, Llawer o wragedd gweddwon oedd yn Israel yn nyddiau Eleias, pan gaewyd y nef dair blynedd a chwe mis, fel y bu newyn mawr trwy’r holl dir; 26 Ac nid at yr un ohonynt yr anfonwyd Eleias, ond i Sarepta yn Sidon, at wraig weddw. 27 A llawer o wahangleifion oedd yn Israel yn amser Eliseus y proffwyd; ac ni lanhawyd yr un ohonynt, ond Naaman y Syriad. 28 A’r rhai oll yn y synagog, wrth glywed y pethau hyn, a lanwyd o ddigofaint; 29 Ac a godasant i fyny, ac a’i bwriasant ef allan o’r ddinas, ac a’i dygasant ef hyd ar ael y bryn yr hwn yr oedd eu dinas wedi ei hadeiladu arno, ar fedr ei fwrw ef bendramwnwgl i lawr. 30 Ond efe, gan fyned trwy eu canol hwynt, a aeth ymaith; 31 Ac a ddaeth i waered i Gapernaum, dinas yng Ngalilea: ac yr oedd yn eu dysgu hwynt ar y dyddiau Saboth. 32 A bu aruthr ganddynt wrth ei athrawiaeth ef: canys ei ymadrodd ef oedd gydag awdurdod.
33 Ac yn y synagog yr oedd dyn â chanddo ysbryd cythraul aflan; ac efe a waeddodd â llef uchel, 34 Gan ddywedyd, Och, beth sydd i ni a wnelom â thi, Iesu o Nasareth? a ddaethost ti i’n difetha ni? Myfi a’th adwaen pwy ydwyt; Sanct Duw. 35 A’r Iesu a’i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Distawa, a dos allan ohono. A’r cythraul, wedi ei daflu ef i’r canol, a aeth allan ohono, heb wneuthur dim niwed iddo. 36 A daeth braw arnynt oll: a chyd-ymddiddanasant â’i gilydd, gan ddywedyd, Pa ymadrodd yw hwn! gan ei fod ef trwy awdurdod a nerth yn gorchymyn yr ysbrydion aflan, a hwythau yn myned allan. 37 A sôn amdano a aeth allan i bob man o’r wlad oddi amgylch.
38 A phan gyfododd yr Iesu o’r synagog, efe a aeth i mewn i dŷ Simon. Ac yr oedd chwegr Simon yn glaf o gryd blin: a hwy a atolygasant arno drosti hi. 39 Ac efe a safodd uwch ei phen hi, ac a geryddodd y cryd; a’r cryd a’i gadawodd hi: ac yn y fan hi a gyfododd, ac a wasanaethodd arnynt hwy.
40 A phan fachludodd yr haul, pawb a’r oedd ganddynt rai cleifion o amryw glefydau, a’u dygasant hwy ato ef; ac efe a roddes ei ddwylo ar bob un ohonynt, ac a’u hiachaodd hwynt. 41 A’r cythreuliaid hefyd a aethant allan o lawer dan lefain a dywedyd, Ti yw Crist, Mab Duw. Ac efe a’u ceryddodd hwynt, ac ni adawai iddynt ddywedyd y gwyddent mai efe oedd y Crist. 42 Ac wedi ei myned hi yn ddydd, efe a aeth allan, ac a gychwynnodd i le diffaith: a’r bobloedd a’i ceisiasant ef; a hwy a ddaethant hyd ato, ac a’i hataliasant ef rhag myned ymaith oddi wrthynt. 43 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir y mae yn rhaid i mi bregethu teyrnas Dduw i ddinasoedd eraill hefyd: canys i hyn y’m danfonwyd. 44 Ac yr oedd efe yn pregethu yn synagogau Galilea.
5 Bu hefyd, a’r bobl yn pwyso ato i wrando gair Duw, yr oedd yntau yn sefyll yn ymyl llyn Gennesaret; 2 Ac efe a welai ddwy long yn sefyll wrth y llyn: a’r pysgodwyr a aethent allan ohonynt, ac oeddynt yn golchi eu rhwydau. 3 Ac efe a aeth i mewn i un o’r llongau, yr hon oedd eiddo Simon, ac a ddymunodd arno wthio ychydig oddi wrth y tir. Ac efe a eisteddodd, ac a ddysgodd y bobloedd allan o’r llong. 4 A phan beidiodd â llefaru, efe a ddywedodd wrth Simon, Gwthia i’r dwfn, a bwriwch eich rhwydau am helfa. 5 A Simon a atebodd ac a ddywedodd wrtho, O Feistr, er i ni boeni ar hyd y nos, ni ddaliasom ni ddim: eto ar dy air di mi a fwriaf y rhwyd. 6 Ac wedi iddynt wneuthur hynny, hwy a ddaliasant liaws mawr o bysgod: a’u rhwyd hwynt a rwygodd. 7 A hwy a amneidiasant ar eu cyfeillion, oedd yn y llong arall, i ddyfod i’w cynorthwyo hwynt. A hwy a ddaethant; a llanwasant y ddwy long, onid oeddynt hwy ar soddi. 8 A Simon Pedr, pan welodd hynny, a syrthiodd wrth liniau’r Iesu, gan ddywedyd, Dos ymaith oddi wrthyf; canys dyn pechadurus wyf fi, O Arglwydd. 9 Oblegid braw a ddaethai arno ef, a’r rhai oll oedd gydag ef, oherwydd yr helfa bysgod a ddaliasent hwy; 10 A’r un ffunud ar Iago ac Ioan hefyd, meibion Sebedeus, y rhai oedd gyfranogion â Simon. A dywedodd yr Iesu wrth Simon, Nac ofna: o hyn allan y deli ddynion. 11 Ac wedi iddynt ddwyn y llongau i dir, hwy a adawsant bob peth, ac a’i dilynasant ef.
12 A bu, fel yr oedd efe mewn rhyw ddinas, wele ŵr yn llawn o’r gwahanglwyf: a phan welodd efe yr Iesu, efe a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, O Arglwydd, os ewyllysi, ti a elli fy nglanhau. 13 Yntau a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, Yr wyf yn ewyllysio; bydd lân. Ac yn ebrwydd y gwahanglwyf a aeth ymaith oddi wrtho. 14 Ac efe a orchmynnodd iddo na ddywedai i neb: eithr dos ymaith, a dangos dy hun i’r offeiriad, ac offrwm dros dy lanhad, fel y gorchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt. 15 A’r gair amdano a aeth yn fwy ar led: a llawer o bobloedd a ddaethant ynghyd i’w wrando ef, ac i’w hiacháu ganddo o’u clefydau.
16 Ac yr oedd efe yn cilio o’r neilltu yn y diffeithwch, ac yn gweddïo. 17 A bu ar ryw ddiwrnod, fel yr oedd efe yn athrawiaethu, fod Phariseaid a doctoriaid y gyfraith yn eistedd yno, y rhai a ddaethent o bob pentref yng Ngalilea, a Jwdea, a Jerwsalem: ac yr oedd gallu’r Arglwydd i’w hiacháu hwynt.
18 Ac wele wŷr yn dwyn mewn gwely ddyn a oedd glaf o’r parlys: a hwy a geisiasant ei ddwyn ef i mewn, a’i ddodi ger ei fron ef. 19 A phan na fedrent gael pa ffordd y dygent ef i mewn, o achos y dyrfa, hwy a ddringasant ar nen y tŷ, ac a’i gollyngasant ef i waered yn y gwely trwy’r priddlechau, yn y canol gerbron yr Iesu. 20 A phan welodd efe eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd wrtho, Y dyn, maddeuwyd i ti dy bechodau. 21 A’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid a ddechreuasant ymresymu, gan ddywedyd, Pwy yw hwn sydd yn dywedyd cabledd? pwy a ddichon faddau pechodau ond Duw yn unig? 22 A’r Iesu, yn gwybod eu hymresymiadau hwynt, a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pa resymu yn eich calonnau yr ydych? 23 Pa un hawsaf, ai dywedyd, Maddeuwyd i ti dy bechodau; ai dywedyd, Cyfod, a rhodia? 24 Ond fel y gwypoch fod gan Fab y dyn awdurdod ar y ddaear i faddau pechodau, (eb efe wrth y claf o’r parlys,) Yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod, a chymer dy wely, a dos i’th dŷ. 25 Ac yn y man y cyfododd efe i fyny yn eu gŵydd hwynt; ac efe a gymerth yr hyn y gorweddai arno, ac a aeth ymaith i’w dŷ ei hun, gan ogoneddu Duw. 26 A syndod a ddaeth ar bawb, a hwy a ogoneddasant Dduw; a hwy a lanwyd o ofn, gan ddywedyd, Gwelsom bethau anhygoel heddiw.
27 Ac ar ôl y pethau hyn yr aeth efe allan, ac a welodd bublican, a’i enw Lefi, yn eistedd wrth y dollfa; ac efe a ddywedodd wrtho, Dilyn fi. 28 Ac efe a adawodd bob peth, ac a gyfododd i fyny, ac a’i dilynodd ef. 29 A gwnaeth Lefi iddo wledd fawr yn ei dŷ: ac yr oedd tyrfa fawr o bublicanod ac eraill, yn eistedd gyda hwynt ar y bwrdd. 30 Eithr eu hysgrifenyddion a’u Phariseaid hwynt a furmurasant yn erbyn ei ddisgyblion ef, gan ddywedyd, Paham yr ydych chwi yn bwyta ac yn yfed gyda phublicanod a phechaduriaid? 31 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid i’r rhai iach wrth feddyg; ond i’r rhai cleifion. 32 Ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifeirwch.
33 A hwy a ddywedasant wrtho, Paham y mae disgyblion Ioan yn ymprydio yn fynych, ac yn gwneuthur gweddïau, a’r un modd yr eiddo y Phariseaid; ond yr eiddot ti yn bwyta ac yn yfed? 34 Yntau a ddywedodd wrthynt, A ellwch chwi beri i blant yr ystafell briodas ymprydio, tra fyddo’r priodasfab gyda hwynt? 35 Ond y dyddiau a ddaw, pan ddyger y priodasfab oddi arnynt: ac yna yr ymprydiant yn y dyddiau hynny.
36 Ac efe a ddywedodd hefyd ddameg wrthynt: Ni rydd neb lain o ddilledyn newydd mewn hen ddilledyn: os amgen, y mae’r newydd yn gwneuthur rhwygiad, a’r llain o’r newydd ni chytuna â’r hen. 37 Ac nid yw neb yn bwrw gwin newydd i hen gostrelau: os amgen, y gwin newydd a ddryllia’r costrelau, ac efe a red allan, a’r costrelau a gollir. 38 Eithr gwin newydd sydd raid ei fwrw mewn costrelau newyddion; a’r ddau a gedwir. 39 Ac nid oes neb, gwedi iddo yfed gwin hen, a chwennych y newydd yn y fan: canys efe a ddywed, Gwell yw’r hen.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.