Historical
12 Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt ar ddamhegion. Gŵr a blannodd winllan, ac a ddododd gae o’i hamgylch, ac a gloddiodd le i’r gwingafn, ac a adeiladodd dŵr, ac a’i gosododd hi allan i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref. 2 Ac efe a anfonodd was mewn amser at y llafurwyr, i dderbyn gan y llafurwyr o ffrwyth y winllan. 3 A hwy a’i daliasant ef, ac a’i baeddasant, ac a’i gyrasant ymaith yn waglaw. 4 A thrachefn yr anfonodd efe atynt was arall; a hwnnw y taflasant gerrig ato, ac yr archollasant ei ben, ac a’i gyrasant ymaith yn amharchus. 5 A thrachefn yr anfonodd efe un arall; a hwnnw a laddasant: a llawer eraill; gan faeddu rhai, a lladd y lleill. 6 Am hynny eto, a chanddo un mab, ei anwylyd, efe a anfonodd hwnnw hefyd atynt yn ddiwethaf gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab i. 7 Ond y llafurwyr hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Hwn yw’r etifedd; deuwch, lladdwn ef, a’r etifeddiaeth fydd eiddom ni. 8 A hwy a’i daliasant ef, ac a’i lladdasant, ac a’i bwriasant allan o’r winllan. 9 Beth gan hynny a wna arglwydd y winllan? efe a ddaw, ac a ddifetha’r llafurwyr, ac a rydd y winllan i eraill. 10 Oni ddarllenasoch yr ysgrythur hon? Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a wnaethpwyd yn ben y gongl: 11 Hyn a wnaethpwyd gan yr Arglwydd; a rhyfedd yw yn ein golwg ni. 12 A hwy a geisiasant ei ddala ef; ac yr oedd arnynt ofn y dyrfa: canys hwy a wyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedasai efe y ddameg: a hwy a’i gadawsant ef, ac a aethant ymaith.
13 A hwy a anfonasant ato rai o’r Phariseaid, ac o’r Herodianiaid, i’w rwydo ef yn ei ymadrodd. 14 Hwythau, pan ddaethant, a ddywedasant wrtho, Athro, ni a wyddom dy fod di yn eirwir, ac nad oes arnat ofal rhag neb: canys nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion, ond yr wyt yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd: Ai cyfreithlon rhoi teyrnged i Gesar, ai nid yw? a roddwn, ai ni roddwn hi? 15 Ond efe, gan wybod eu rhagrith hwynt, a ddywedodd wrthynt, Paham y temtiwch fi? dygwch i mi geiniog, fel y gwelwyf hi. 16 A hwy a’i dygasant. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eiddo pwy yw’r ddelw hon a’r argraff? A hwy a ddywedasant wrtho, Eiddo Cesar. 17 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch yr eiddo Cesar i Gesar, a’r eiddo Duw i Dduw. A rhyfeddu a wnaethant o’i blegid.
18 Daeth y Sadwceaid hefyd ato, y rhai a ddywedant nad oes atgyfodiad; a gofynasant iddo, gan ddywedyd, 19 Athro, Moses a ysgrifennodd i ni, O bydd marw brawd neb, a gadu ei wraig, ac heb adu plant, am gymryd o’i frawd ei wraig ef, a chodi had i’w frawd. 20 Yr oedd gan hynny saith o frodyr: a’r cyntaf a gymerth wraig; a phan fu farw, ni adawodd had. 21 A’r ail a’i cymerth hi, ac a fu farw, ac ni adawodd yntau had: a’r trydydd yr un modd. 22 A hwy a’i cymerasant hi ill saith, ac ni adawsant had. Yn ddiwethaf o’r cwbl bu farw’r wraig hefyd. 23 Yn yr atgyfodiad gan hynny, pan atgyfodant, gwraig i ba un ohonynt fydd hi? canys y saith a’i cawsant hi yn wraig. 24 A’r Iesu a atebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Onid am hyn yr ydych yn cyfeiliorni, am nad ydych yn gwybod yr ysgrythurau, na gallu Duw? 25 Canys pan atgyfodant o feirw, ni wreicant, ac ni ŵrant; eithr y maent fel yr angylion sydd yn y nefoedd. 26 Ond am y meirw, yr atgyfodir hwynt; oni ddarllenasoch chwi yn llyfr Moses, y modd y llefarodd Duw wrtho yn y berth, gan ddywedyd, Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob? 27 Nid yw efe Dduw’r meirw, ond Duw’r rhai byw: am hynny yr ydych chwi yn cyfeiliorni’n fawr.
28 Ac un o’r ysgrifenyddion a ddaeth, wedi eu clywed hwynt yn ymresymu, a gwybod ateb ohono iddynt yn gymwys, ac a ofynnodd iddo, Pa un yw’r gorchymyn cyntaf o’r cwbl? 29 A’r Iesu a atebodd iddo, Y cyntaf o’r holl orchmynion yw, Clyw, Israel; Yr Arglwydd ein Duw, un Arglwydd yw: 30 A châr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl, ac â’th holl nerth. Hwn yw’r gorchymyn cyntaf. 31 A’r ail sydd gyffelyb iddo; Câr dy gymydog fel ti dy hun. Nid oes orchymyn arall mwy na’r rhai hyn. 32 A dywedodd yr ysgrifennydd wrtho, Da, Athro, mewn gwirionedd y dywedaist, mai un Duw sydd, ac nad oes arall ond efe: 33 A’i garu ef â’r holl galon, ac â’r holl ddeall, ac â’r holl enaid, ac â’r holl nerth, a charu ei gymydog megis ei hun, sydd fwy na’r holl boethoffrymau a’r aberthau. 34 A’r Iesu, pan welodd iddo ateb yn synhwyrol, a ddywedodd wrtho, Nid wyt ti bell oddi wrth deyrnas Dduw. Ac ni feiddiodd neb mwy ymofyn ag ef.
35 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, wrth ddysgu yn y deml, Pa fodd y dywed yr ysgrifenyddion fod Crist yn fab Dafydd? 36 Canys Dafydd ei hun a ddywedodd trwy’r Ysbryd Glân, Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed. 37 Y mae Dafydd ei hun, gan hynny, yn ei alw ef yn Arglwydd; ac o ba le y mae efe yn fab iddo? A llawer o bobl a’i gwrandawent ef yn ewyllysgar.
38 Ac efe a ddywedodd wrthynt yn ei athrawiaeth, Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a chwenychant rodio mewn gwisgoedd llaesion, a chael cyfarch yn y marchnadoedd, 39 A’r prif gadeiriau yn y synagogau, a’r prif eisteddleoedd mewn swperau; 40 Y rhai sydd yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddïo: y rhai hyn a dderbyniant farnedigaeth fwy.
41 A’r Iesu a eisteddodd gyferbyn â’r drysorfa, ac a edrychodd pa fodd yr oedd y bobl yn bwrw arian i’r drysorfa: a chyfoethogion lawer a fwriasant lawer. 42 A rhyw wraig weddw dlawd a ddaeth, ac a fwriodd i mewn ddwy hatling, yr hyn yw ffyrling. 43 Ac efe a alwodd ei ddisgyblion ato, ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, fwrw o’r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na’r rhai oll a fwriasant i’r drysorfa. 44 Canys hwynt‐hwy oll a fwriasant o’r hyn a oedd yng ngweddill ganddynt: ond hon o’i heisiau a fwriodd i mewn yr hyn oll a feddai, sef ei holl fywyd.
13 Ac fel yr oedd efe yn myned allan o’r deml, un o’i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Athro, edrych pa ryw feini, a pha fath adeiladau sydd yma. 2 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, A weli di’r adeiladau mawrion hyn? ni edir maen ar faen, a’r nis datodir. 3 Ac fel yr oedd efe yn eistedd ar fynydd yr Olewydd, gyferbyn â’r deml, Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac Andreas, a ofynasant iddo o’r neilltu, 4 Dywed i ni pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd pan fo’r pethau hyn oll ar ddibennu? 5 A’r Iesu a atebodd iddynt, ac a ddechreuodd ddywedyd, Edrychwch rhag twyllo o neb chwi: 6 Canys llawer un a ddaw yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; ac a dwyllant lawer. 7 Ond pan glywoch am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd, na chyffroer chwi: canys rhaid i hynny fod; ond nid yw’r diwedd eto. 8 Canys cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: a daeargrynfâu fyddant mewn mannau, a newyn a thrallod fyddant.
9 Dechreuad gofidiau yw’r pethau hyn. Eithr edrychwch chwi arnoch eich hunain: canys traddodant chwi i’r cynghorau, ac i’r synagogau; chwi a faeddir, ac a ddygir gerbron rhaglawiaid a brenhinoedd o’m hachos i, er tystiolaeth iddynt hwy. 10 Ac y mae yn rhaid yn gyntaf bregethu’r efengyl ymysg yr holl genhedloedd. 11 Ond pan ddygant chwi, a’ch traddodi, na ragofelwch beth a ddywedoch, ac na fyfyriwch: eithr pa beth bynnag a rodder i chwi yn yr awr honno, hynny dywedwch: canys nid chwychwi sydd yn dywedyd, ond yr Ysbryd Glân. 12 A’r brawd a ddyry frawd i farwolaeth, a thad ei blentyn: a phlant a gyfyd yn erbyn eu rhieni, ac a’u rhoddant hwy i farwolaeth. 13 A chwi a fyddwch gas gan bawb er mwyn fy enw i: eithr y neb a barhao hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig.
14 Ond pan weloch chwi y ffieidd‐dra anghyfanheddol, yr hwn a ddywedwyd gan Daniel y proffwyd, wedi ei osod lle nis dylid, (y neb a ddarlleno, dealled;) yna y rhai a fyddant yn Jwdea, ffoant i’r mynyddoedd: 15 A’r neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgynned i’r tŷ, ac nac aed i mewn i gymryd dim o’i dŷ. 16 A’r neb a fyddo yn y maes, na throed yn ei ôl i gymryd ei wisg. 17 Ond gwae’r rhai beichiog, a’r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny! 18 Ond gweddïwch na byddo eich fföedigaeth yn y gaeaf. 19 Canya yn y dyddiau hynny y bydd gorthrymder, y cyfryw ni bu’r fath o ddechrau y creaduriaeth a greodd Duw, hyd y pryd hwn, ac ni bydd chwaith. 20 Ac oni bai fod i’r Arglwydd fyrhau y dyddiau, ni chadwesid un cnawd: eithr er mwyn yr etholedigion a etholodd, efe a fyrhaodd y dyddiau. 21 Ac yna os dywed neb wrthych, Wele, llyma y Crist; neu, Wele, acw; na chredwch: 22 Canys gau Gristiau a gau broffwydi a gyfodant, ac a ddangosant arwyddion a rhyfeddodau, i hudo ymaith, pe byddai bosibl, ie, yr etholedigion. 23 Eithr ymogelwch chwi: wele, rhagddywedais i chwi bob peth.
24 Ond yn y dyddiau hynny, wedi’r gorthrymder hwnnw, y tywylla’r haul, a’r lloer ni rydd ei goleuni, 25 A sêr y nef a syrthiant, a’r nerthoedd sydd yn y nefoedd a siglir. 26 Ac yna y gwelant Fab y dyn yn dyfod yn y cymylau, gyda gallu mawr a gogoniant. 27 Ac yna yr enfyn efe ei angylion, ac y cynnull ei etholedigion oddi wrth y pedwar gwynt, o eithaf y ddaear hyd eithaf y nef. 28 Ond dysgwch ddameg oddi wrth y ffigysbren: Pan fo ei gangen eisoes yn dyner, a’r dail yn torri allan, chwi a wyddoch fod yr haf yn agos: 29 Ac felly chwithau, pan weloch y pethau hyn wedi dyfod, gwybyddwch ei fod yn agos, wrth y drysau. 30 Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, nad â’r oes hon heibio, hyd oni wneler y pethau hyn oll. 31 Nef a daear a ânt heibio: ond y geiriau mau fi nid ânt heibio ddim.
32 Eithr am y dydd hwnnw a’r awr ni ŵyr neb, na’r angylion sydd yn y nef, na’r Mab, ond y Tad. 33 Ymogelwch, gwyliwch a gweddïwch: canys ni wyddoch pa bryd y bydd yr amser. 34 Canys Mab y dyn sydd fel gŵr yn ymdaith i bell, wedi gadael ei dŷ, a rhoi awdurdod i’w weision, ac i bob un ei waith ei hun, a gorchymyn i’r drysor wylio. 35 Gwyliwch gan hynny, (canys ni wyddoch pa bryd y daw meistr y tŷ, yn yr hwyr, ai hanner nos, ai ar ganiad y ceiliog, ai’r boreddydd;) 36 Rhag iddo ddyfod yn ddisymwth, a’ch cael chwi’n cysgu. 37 A’r hyn yr wyf yn eu dywedyd wrthych chwi, yr wyf yn eu dywedyd wrth bawb, Gwyliwch.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.