Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Historical

Read the books of the Bible as they were written historically, according to the estimated date of their writing.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Mathew 21-22

21 Aphan ddaethant yn gyfagos i Jerwsalem, a’u dyfod hwy i Bethffage, i fynydd yr Olewydd, yna yr anfonodd yr Iesu ddau ddisgybl, Gan ddywedyd wrthynt, Ewch i’r pentref sydd ar eich cyfer, ac yn y man chwi a gewch asen yn rhwym, ac ebol gyda hi: gollyngwch hwynt, a dygwch ataf fi. Ac os dywed neb ddim wrthych, dywedwch, Y mae’n rhaid i’r Arglwydd wrthynt: ac yn y man efe a’u denfyn hwynt. A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy’r proffwyd, yn dywedyd, Dywedwch i ferch Seion, Wele, dy frenin yn dyfod i ti, yn addfwyn, ac yn eistedd ar asen, ac ebol llwdn asen arferol â’r iau. Y disgyblion a aethant, ac a wnaethant fel y gorchmynasai’r Iesu iddynt. A hwy a ddygasant yr asen a’r ebol, ac a ddodasant eu dillad arnynt, ac a’i gosodasant ef i eistedd ar hynny. A thyrfa ddirfawr a daenasant eu dillad ar y ffordd; eraill a dorasant gangau o’r gwŷdd, ac a’u taenasant ar hyd y ffordd. A’r torfeydd, y rhai oedd yn myned o’r blaen, a’r rhai oedd yn dyfod ar ôl, a lefasant, gan ddywedyd, Hosanna i fab Dafydd: Bendigedig yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd: Hosanna yn y goruchafion. 10 Ac wedi ei ddyfod ef i mewn i Jerwsalem, y ddinas oll a gynhyrfodd, gan ddywedyd, Pwy yw hwn? 11 A’r torfeydd a ddywedasant, Hwn yw Iesu y proffwyd o Nasareth yng Ngalilea.

12 A’r Iesu a aeth i mewn i deml Dduw, ac a daflodd allan bawb a’r oedd yn gwerthu ac yn prynu yn y deml, ac a ddymchwelodd i lawr fyrddau’r newidwyr arian, a chadeiriau’r rhai oedd yn gwerthu colomennod: 13 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ysgrifennwyd, Tŷ gweddi y gelwir fy nhŷ i; eithr chwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron. 14 A daeth y deillion a’r cloffion ato yn y deml; ac efe a’u hiachaodd hwynt. 15 A phan welodd yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion y rhyfeddodau a wnaethai efe, a’r plant yn llefain yn y deml, ac yn dywedyd, Hosanna i fab Dafydd; hwy a lidiasant, 16 Ac a ddywedasant wrtho, A wyt ti yn clywed beth y mae’r rhai hyn yn ei ddywedyd? A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ydwyf. Oni ddarllenasoch chwi erioed, O enau plant bychain a rhai yn sugno y perffeithiaist foliant?

17 Ac efe a’u gadawodd hwynt, ac a aeth allan o’r ddinas i Fethania, ac a letyodd yno. 18 A’r bore, fel yr oedd efe yn dychwelyd i’r ddinas, yr oedd arno chwant bwyd. 19 A phan welodd efe ffigysbren ar y ffordd, efe a ddaeth ato, ac ni chafodd ddim arno, ond dail yn unig: ac efe a ddywedodd wrtho, Na thyfed ffrwyth arnat byth mwyach. Ac yn ebrwydd y crinodd y ffigysbren. 20 A phan welodd y disgyblion, hwy a ryfeddasant, gan ddywedyd, Mor ddisymwth y crinodd y ffigysbren! 21 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Os bydd gennych ffydd, ac heb amau, ni wnewch yn unig hyn a wneuthum i i’r ffigysbren, eithr hefyd os dywedwch wrth y mynydd hwn, Coder di i fyny, a bwrier di i’r môr; hynny a fydd. 22 A pha beth bynnag a ofynnoch mewn gweddi, gan gredu, chwi a’i derbyniwch.

23 Ac wedi ei ddyfod ef i’r deml, yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl a ddaethant ato, fel yr oedd efe yn athrawiaethu, gan ddywedyd, Trwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy a roddes i ti yr awdurdod hon? 24 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Minnau a ofynnaf i chwithau un gair, yr hwn os mynegwch i mi, minnau a fynegaf i chwithau trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn. 25 Bedydd Ioan, o ba le yr oedd? ai o’r nef, ai o ddynion? A hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O’r nef; efe a ddywed wrthym, Paham gan hynny nas credasoch ef? 26 Ond os dywedwn, O ddynion; y mae arnom ofn y bobl: canys y mae pawb yn cymryd Ioan megis proffwyd. 27 A hwy a atebasant i’r Iesu, ac a ddywedasant, Ni wyddom ni. Ac yntau a ddywedodd wrthynt, Nid wyf finnau yn dywedyd i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

28 Ond beth dybygwch chwi? Yr oedd gan ŵr ddau fab: ac efe a ddaeth at y cyntaf, ac a ddywedodd, Fy mab, dos, gweithia heddiw yn fy ngwinllan. 29 Ac yntau a atebodd ac a ddywedodd, Nid af: ond wedi hynny efe a edifarhaodd, ac a aeth. 30 A phan ddaeth efe at yr ail, efe a ddywedodd yr un modd. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Myfi a af, arglwydd; ac nid aeth efe. 31 Pa un o’r ddau a wnaeth ewyllys y tad? Dywedasant wrtho, Y cyntaf. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, yr â’r publicanod a’r puteiniaid i mewn i deyrnas Dduw o’ch blaen chwi. 32 Canys daeth Ioan atoch yn ffordd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef; ond y publicanod a’r puteiniaid a’i credasant ef: chwithau, yn gweled, nid edifarhasoch wedi hynny, fel y credech ef.

33 Clywch ddameg arall. Yr oedd rhyw ddyn o berchen tŷ, yr hwn a blannodd winllan, ac a osododd gae yn ei chylch hi, ac a gloddiodd ynddi winwryf, ac a adeiladodd dŵr, ac a’i gosododd hi allan i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref. 34 A phan nesaodd amser ffrwythau, efe a ddanfonodd ei weision at y llafurwyr, i dderbyn ei ffrwythau hi. 35 A’r llafurwyr a ddaliasant ei weision ef, ac un a gurasant, ac arall a laddasant, ac arall a labyddiasant. 36 Trachefn, efe a anfonodd weision eraill, fwy na’r rhai cyntaf: a hwy a wnaethant iddynt yr un modd. 37 Ac yn ddiwethaf oll, efe a anfonodd atynt ei fab ei hun, gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab i. 38 A phan welodd y llafurwyr y mab, hwy a ddywedasant yn eu plith eu hun, Hwn yw’r etifedd; deuwch, lladdwn ef, a daliwn ei etifeddiaeth ef. 39 Ac wedi iddynt ei ddal, hwy a’i bwriasant ef allan o’r winllan, ac a’i lladdasant. 40 Am hynny pan ddêl arglwydd y winllan, pa beth a wna efe i’r llafurwyr hynny? 41 Hwy a ddywedasant wrtho, Efe a ddifetha yn llwyr y dynion drwg hynny, ac a esyd y winllan i lafurwyr eraill, y rhai a dalant iddo’r ffrwythau yn eu hamserau. 42 Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch chwi erioed yn yr ysgrythurau, Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a wnaethpwyd yn ben congl: gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni? 43 Am hynny meddaf i chwi, Y dygir teyrnas Dduw oddi arnoch chwi, ac a’i rhoddir i genedl a ddygo ei ffrwythau. 44 A phwy bynnag a syrthio ar y maen hwn, efe a ddryllir: ac ar bwy bynnag y syrthio, efe a’i mâl ef yn chwilfriw. 45 A phan glybu’r archoffeiriaid a’r Phariseaid ei ddamhegion ef, hwy a wybuant mai amdanynt hwy y dywedai efe. 46 Ac a hwy yn ceisio ei ddala, hwy a ofnasant y torfeydd; am eu bod yn ei gymryd ef fel proffwyd.

22 A’r Iesu a atebodd, ac a lefarodd wrthynt drachefn mewn damhegion, gan ddywedyd, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ryw frenin a wnaeth briodas i’w fab, Ac a ddanfonodd ei weision i alw y rhai a wahoddasid i’r briodas: ac ni fynnent hwy ddyfod. Trachefn, efe a anfonodd weision eraill, gan ddywedyd, Dywedwch wrth y rhai a wahoddwyd, Wele, paratoais fy nghinio: fy ychen a’m pasgedigion a laddwyd, a phob peth sydd barod: deuwch i’r briodas. A hwy yn ddiystyr ganddynt, a aethant ymaith, un i’w faes, ac arall i’w fasnach: A’r lleill a ddaliasant ei weision ef, ac a’u hamharchasant, ac a’u lladdasant. A phan glybu’r brenin, efe a lidiodd; ac a ddanfonodd ei luoedd, ac a ddinistriodd y lleiddiaid hynny, ac a losgodd eu dinas hwynt. Yna efe a ddywedodd wrth ei weision, Yn wir y briodas sydd barod, ond y rhai a wahoddasid nid oeddynt deilwng. Ewch gan hynny i’r priffyrdd, a chynifer ag a gaffoch, gwahoddwch i’r briodas. 10 A’r gweision hynny a aethant allan i’r priffyrdd, ac a gasglasant ynghyd gynifer oll ag a gawsant, drwg a da: a llanwyd y briodas o wahoddedigion.

11 A phan ddaeth y brenin i mewn i weled y gwahoddedigion, efe a ganfu yno ddyn heb wisg priodas amdano: 12 Ac efe a ddywedodd wrtho, Y cyfaill, pa fodd y daethost i mewn yma, heb fod gennyt wisg priodas? Ac yntau a aeth yn fud. 13 Yna y dywedodd y brenin wrth y gweinidogion, Rhwymwch ei draed a’i ddwylo, a chymerwch ef ymaith, a theflwch i’r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd. 14 Canys llawer sydd wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis.

15 Yna yr aeth y Phariseaid, ac a gymerasant gyngor pa fodd y rhwydent ef yn ei ymadrodd. 16 A hwy a ddanfonasant ato eu disgyblion ynghyd â’r Herodianiaid, gan ddywedyd, Athro, ni a wyddom dy fod yn eirwir, ac yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd, ac nad oes arnat ofal rhag neb: oblegid nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion. 17 Dywed i ni gan hynny, Beth yr wyt ti yn ei dybied? Ai cyfreithlon rhoddi teyrnged i Gesar, ai nid yw? 18 Ond yr Iesu a wybu eu drygioni hwy, ac a ddywedodd, Paham yr ydych yn fy nhemtio i, chwi ragrithwyr? 19 Dangoswch i mi arian y deyrnged. A hwy a ddygasant ato geiniog: 20 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eiddo pwy yw’r ddelw hon a’r argraff? 21 Dywedasant wrtho, Eiddo Cesar. Yna y dywedodd wrthynt, Telwch chwithau yr eiddo Cesar i Gesar, a’r eiddo Duw i Dduw. 22 A phan glywsant hwy hyn, rhyfeddu a wnaethant, a’i adael ef, a myned ymaith.

23 Y dydd hwnnw y daeth ato y Sadwceaid, y rhai sydd yn dywedyd nad oes atgyfodiad, ac a ofynasant iddo, 24 Gan ddywedyd, Athro, dywedodd Moses, Os bydd marw neb heb iddo blant, prioded ei frawd ei wraig ef, a chyfoded had i’w frawd. 25 Ac yr oedd gyda ni saith o frodyr: a’r cyntaf a briododd wraig, ac a fu farw; ac efe heb hiliogaeth iddo, a adawodd ei wraig i’w frawd. 26 Felly hefyd yr ail, a’r trydydd, hyd y seithfed. 27 Ac yn ddiwethaf oll bu farw’r wraig hefyd. 28 Yn yr atgyfodiad, gan hynny, gwraig i bwy o’r saith fydd hi? canys hwynt‐hwy oll a’i cawsant hi. 29 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydych yn cyfeiliorni, gan na wyddoch yr ysgrythurau, na gallu Duw. 30 Oblegid yn yr atgyfodiad nid ydynt nac yn gwreica, nac yn gwra; eithr y maent fel angylion Duw yn y nef. 31 Ac am atgyfodiad y meirw, oni ddarllenasoch yr hyn a ddywedwyd wrthych gan Dduw, gan ddywedyd, 32 Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob? Nid yw Duw Dduw y rhai meirw, ond y rhai byw. 33 A phan glybu’r torfeydd hynny, hwy a synasant wrth ei athrawiaeth ef.

34 Ac wedi clywed o’r Phariseaid ddarfod i’r Iesu ostegu’r Sadwceaid, hwy a ymgynullasant ynghyd i’r un lle. 35 Ac un ohonynt, yr hwn oedd gyfreithiwr, a ofynnodd iddo, gan ei demtio, a dywedyd, 36 Athro, pa un yw’r gorchymyn mawr yn y gyfraith? 37 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Ceri yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl. 38 Hwn yw’r cyntaf, a’r gorchymyn mawr. 39 A’r ail sydd gyffelyb iddo; Câr dy gymydog fel ti dy hun. 40 Ar y ddau orchymyn hyn y mae’r holl gyfraith a’r proffwydi yn sefyll.

41 Ac wedi ymgasglu o’r Phariseaid ynghyd, yr Iesu a ofynnodd iddynt, 42 Gan ddywedyd, Beth a dybygwch chwi am Grist? mab i bwy ydyw? Dywedent wrtho, Mab Dafydd. 43 Dywedai yntau wrthynt, Pa fodd gan hynny y mae Dafydd yn yr ysbryd yn ei alw ef yn Arglwydd, gan ddywedyd, 44 Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed di? 45 Os yw Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd, pa fodd y mae efe yn fab iddo? 46 Ac ni allodd neb ateb gair iddo, ac ni feiddiodd neb o’r dydd hwnnw allan ymofyn ag ef mwyach.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.