Historical
35 A Joseia a gynhaliodd Basg i’r Arglwydd yn Jerwsalem: a hwy a laddasant y Pasg y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis cyntaf. 2 Ac efe a gyfleodd yr offeiriaid yn eu goruchwyliaethau, ac a’u hanogodd hwynt i weinidogaeth tŷ yr Arglwydd; 3 Ac a ddywedodd wrth y Lefiaid, y rhai oedd yn dysgu holl Israel, ac oedd sanctaidd i’r Arglwydd, Rhoddwch yr arch sanctaidd yn y tŷ a adeiladodd Solomon mab Dafydd brenin Israel; na fydded hi mwyach i chwi yn faich ar ysgwydd: gwasanaethwch yn awr yr Arglwydd eich Duw, a’i bobl Israel, 4 Ac ymbaratowch wrth deuluoedd eich tadau, yn ôl eich dosbarthiadau, yn ôl ysgrifen Dafydd brenin Israel, ac yn ôl ysgrifen Solomon ei fab ef. 5 A sefwch yn y cysegr yn ôl dosbarthiadau tylwyth tadau eich brodyr y bobl, ac yn ôl dosbarthiad tylwyth y Lefiaid. 6 Felly lleddwch y Pasg, ac ymsancteiddiwch, a pharatowch eich brodyr, i wneuthur yn ôl gair yr Arglwydd trwy law Moses. 7 A Joseia a roddodd i’r bobl ddiadell o ŵyn, a mynnod, i gyd tuag at y Pasg-aberthau, sef i bawb a’r a gafwyd, hyd rifedi deng mil ar hugain, a thair mil o eidionau; hyn oedd o gyfoeth y brenin. 8 A’i dywysogion ef a roddasant yn ewyllysgar i’r bobl, i’r offeiriaid, ac i’r Lefiaid: Hilceia, a Sechareia, a Jehiel, blaenoriaid tŷ Dduw, a roddasant i’r offeiriaid tuag at y Pasg-aberthau, ddwy fil a chwe chant o ddefaid, a thri chant o eidionau. 9 Cononeia hefyd, a Semaia, a Nethaneel, ei frodyr, a Hasabeia, a Jehiel, a Josabad, tywysogion y Lefiaid, a roddasant i’r Lefiaid yn Basg-ebyrth, bum mil o ddefaid, a phum cant o eidionau. 10 Felly y paratowyd y gwasanaeth; a’r offeiriaid a safasant yn eu lle, a’r Lefiaid yn eu dosbarthiadau, yn ôl gorchymyn y brenin. 11 A hwy a laddasant y Pasg; a’r offeiriaid a daenellasant y gwaed o’u llaw hwynt, a’r Lefiaid oedd yn eu blingo hwynt. 12 A chymerasant ymaith y poethoffrymau, i’w rhoddi yn ôl dosbarthiadau teuluoedd y bobl, i offrymu i’r Arglwydd, fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr Moses: ac felly am yr eidionau. 13 A hwy a rostiasant y Pasg wrth dân yn ôl y ddefod: a’r cysegredig bethau eraill a ferwasant hwy mewn crochanau, ac mewn pedyll, ac mewn peiriau, ac a’u rhanasant ar redeg i’r holl bobl. 14 Wedi hynny y paratoesant iddynt eu hunain, ac i’r offeiriaid; canys yr offeiriaid meibion Aaron oedd yn offrymu’r poethoffrymau a’r braster hyd y nos; am hynny y Lefiaid oedd yn paratoi iddynt eu hunain, ac i’r offeiriaid meibion Aaron. 15 A meibion Asaff y cantorion oedd yn eu sefyllfa, yn ôl gorchymyn Dafydd, ac Asaff, a Heman, a Jeduthun gweledydd y brenin; a’r porthorion ym mhob porth: ni chaent hwy ymado o’u gwasanaeth; canys eu brodyr y Lefiaid a baratoent iddynt hwy. 16 Felly y paratowyd holl wasanaeth yr Arglwydd y dwthwn hwnnw, i gynnal y Pasg, ac i offrymu poethoffrymau ar allor yr Arglwydd, yn ôl gorchymyn y brenin Joseia. 17 A meibion Israel y rhai a gafwyd, a gynaliasant y Pasg yr amser hwnnw, a gŵyl y bara croyw, saith niwrnod. 18 Ac ni chynaliasid Pasg fel hwnnw yn Israel, er dyddiau Samuel y proffwyd: ac ni chynhaliodd neb o frenhinoedd Israel gyffelyb i’r Pasg a gynhaliodd Joseia, a’r offeiriaid, a’r Lefiaid, a holl Jwda, a’r neb a gafwyd o Israel, a thrigolion Jerwsalem. 19 Yn y ddeunawfed flwyddyn o deyrnasiad Joseia y cynhaliwyd y Pasg hwn.
20 Wedi hyn oll, pan baratoesai Joseia y tŷ, Necho brenin yr Aifft a ddaeth i fyny i ryfela yn erbyn Charcemis wrth Ewffrates: a Joseia a aeth allan yn ei erbyn ef. 21 Yntau a anfonodd genhadau ato ef, gan ddywedyd, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, O frenin Jwda? nid yn dy erbyn di y deuthum i heddiw, ond yn erbyn tŷ arall y mae fy rhyfel i; a Duw a archodd i mi frysio: paid di â Duw, yr hwn sydd gyda mi, fel na ddifetho efe dydi. 22 Ond ni throai Joseia ei wyneb oddi wrtho ef, eithr newidiodd ei ddillad i ymladd yn ei erbyn ef, ac ni wrandawodd ar eiriau Necho o enau Duw, ond efe a ddaeth i ymladd i ddyffryn Megido. 23 A’r saethyddion a saethasant at y brenin Joseia: a’r brenin a ddywedodd wrth ei weision, Dygwch fi ymaith, canys clwyfwyd fi yn dost. 24 Felly ei weision a’i tynasant ef o’r cerbyd, ac a’i gosodasant ef yn yr ail gerbyd yr hwn oedd ganddo: dygasant ef hefyd i Jerwsalem, ac efe fu farw, ac a gladdwyd ym meddrod ei dadau. A holl Jwda a Jerwsalem a alarasant am Joseia.
25 Jeremeia hefyd a alarnadodd am Joseia, a’r holl gantorion a’r cantoresau yn eu galarnadau a soniant am Joseia hyd heddiw, a hwy a’i gwnaethant yn ddefod yn Israel; ac wele hwynt yn ysgrifenedig yn y galarnadau. 26 A’r rhan arall o hanes Joseia a’i ddaioni ef, yn ôl yr hyn oedd ysgrifenedig yng nghyfraith yr Arglwydd, 27 A’i weithredoedd ef, cyntaf a diwethaf, wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda.
36 Yna pobl y wlad a gymerasant Joahas mab Joseia, ac a’i hurddasant ef yn frenin yn lle ei dad yn Jerwsalem. 2 Mab tair blwydd ar hugain oedd Joahas pan ddechreuodd efe deyrnasu; a thri mis y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. 3 A brenin yr Aifft a’i diswyddodd ef yn Jerwsalem; ac a drethodd ar y wlad gan talent o arian, a thalent o aur. 4 A brenin yr Aifft a wnaeth Eliacim ei frawd ef yn frenin ar Jwda a Jerwsalem, ac a drodd ei enw ef yn Joacim. A Necho a gymerodd Joahas ei frawd ef, ac a’i dug i’r Aifft.
5 Mab pum mlwydd ar hugain oedd Joacim pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd ei Dduw. 6 Nebuchodonosor brenin Babilon a ddaeth i fyny yn ei erbyn ef, ac a’i rhwymodd ef mewn cadwynau pres, i’w ddwyn i Babilon. 7 Nebuchodonosor hefyd a ddug o lestri tŷ yr Arglwydd i Babilon, ac a’u rhoddodd hwynt yn ei deml o fewn Babilon. 8 A’r rhan arall o hanes Joacim, a’i ffieidd-dra ef y rhai a wnaeth efe, a’r hyn a gafwyd arno ef, wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda. A Joachin ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
9 Mab wyth mlwydd oedd Joachin pan ddechreuodd efe deyrnasu, a thri mis a deng niwrnod y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd. 10 Ac ymhen y flwyddyn yr anfonodd y brenin Nebuchodonosor, ac a’i dug ef i Babilon, gyda llestri dymunol tŷ yr Arglwydd: ac efe a wnaeth Sedeceia ei frawd ef yn frenin ar Jwda a Jerwsalem.
11 Mab un flwydd ar hugain oedd Sedeceia pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. 12 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd ei Dduw, ac nid ymostyngodd efe o flaen Jeremeia y proffwyd, yr hwn oedd yn llefaru o enau yr Arglwydd. 13 Ond efe a wrthryfelodd yn erbyn brenin Nebuchodonosor, yr hwn a wnaethai iddo dyngu i Dduw: ond efe a galedodd ei war, ac a gryfhaodd ei galon, rhag dychwelyd at Arglwydd Dduw Israel.
14 Holl dywysogion yr offeiriaid hefyd, a’r bobl, a chwanegasant gamfucheddu, yn ôl holl ffieidd-dra’r cenhedloedd; a hwy a halogasant dŷ yr Arglwydd, yr hwn a sancteiddiasai efe yn Jerwsalem. 15 Am hynny Arglwydd Dduw eu tadau a anfonodd atynt hwy trwy law ei genhadau, gan foregodi, ac anfon: am ei fod ef yn tosturio wrth ei bobl, ac wrth ei breswylfod. 16 Ond yr oeddynt hwy yn gwatwar cenhadau Duw, ac yn tremygu ei eiriau ef, ac yn gwawdio ei broffwydi ef; nes cyfodi o ddigofaint yr Arglwydd yn erbyn ei bobl, fel nad oedd iachâd. 17 Am hynny efe a ddygodd i fyny arnynt hwy frenin y Caldeaid, yr hwn a laddodd eu gwŷr ieuaninc hwy â’r cleddyf yn nhŷ eu cysegr, ac nid arbedodd na gŵr ieuanc na morwyn, na hen, na’r hwn oedd yn camu gan oedran: efe a’u rhoddodd hwynt oll yn ei law ef. 18 Holl lestri tŷ Dduw hefyd, mawrion a bychain, a thrysorau tŷ yr Arglwydd, a thrysorau y brenin a’i dywysogion: y rhai hynny oll a ddug efe i Babilon. 19 A hwy a losgasant dŷ Dduw, ac a ddistrywiasant fur Jerwsalem; a’i holl balasau hi a losgasant hwy â than, a’i holl lestri dymunol a ddinistriasant. 20 A’r rhai a ddianghasai gan y cleddyf a gaethgludodd efe i Babilon; lle y buant hwy yn weision iddo ef ac i’w feibion, nes teyrnasu o’r Persiaid: 21 I gyflawni gair yr Arglwydd trwy enau Jeremeia, nes mwynhau o’r wlad ei Sabothau; canys yr holl ddyddiau y bu hi yn anghyfannedd, y gorffwysodd hi, i gyflawni deng mlynedd a thrigain.
22 Ac yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Persia, fel y cyflawnid gair yr Arglwydd yr hwn a ddywedwyd trwy enau Jeremeia, yr Arglwydd a gyffrôdd ysbryd Cyrus brenin Persia, fel y cyhoeddodd efe trwy ei holl frenhiniaeth, a hynny mewn ysgrifen, gan ddywedyd, 23 Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia, Arglwydd Dduw y nefoedd a roddodd holl deyrnasoedd y ddaear i mi, ac efe a orchmynnodd i mi adeiladu tŷ iddo yn Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwda. Pwy sydd yn eich mysg chwi o’i holl bobl ef? yr Arglwydd ei Dduw fyddo gydag ef, ac eled i fyny.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.