Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Historical

Read the books of the Bible as they were written historically, according to the estimated date of their writing.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
2 Cronicl 22-24

22 A thrigolion Jerwsalem a urddasant Ahaseia ei fab ieuangaf ef yn frenin yn ei le ef: canys y fyddin a ddaethai gyda’r Arabiaid i’r gwersyll, a laddasai y rhai hynaf oll. Felly Ahaseia mab Jehoram brenin Jwda a deyrnasodd. Mab dwy flwydd a deugain oedd Ahaseia pan ddechreuodd efe deyrnasu; ac un flwyddyn y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Athaleia merch Omri. Yntau hefyd a rodiodd yn ffyrdd tŷ Ahab: canys ei fam oedd ei gyngor ef i wneuthur drwg. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, fel tŷ Ahab: canys hwynt-hwy oedd gynghoriaid iddo ef, ar ôl marwolaeth ei dad, i’w ddinistr ef.

Ac efe a rodiodd yn ôl eu cyngor hwynt, ac a aeth gyda Jehoram mab Ahab brenin Israel i ryfel, yn erbyn Hasael brenin Syria, yn Ramoth-Gilead: a’r Syriaid a drawsant Joram. Ac efe a ddychwelodd i ymiacháu i Jesreel, oherwydd yr archollion â’r rhai y trawsant ef yn Rama, pan ymladdodd efe â Hasael brenin Syria. Ac Asareia mab Jehoram brenin Jwda a aeth i waered i ymweled â Jehoram mab Ahab i Jesreel, canys claf oedd efe. A dinistr Ahaseia oedd oddi wrth Dduw, wrth ddyfod at Joram: canys pan ddaeth, efe a aeth gyda Jehoram yn erbyn Jehu mab Nimsi, yr hwn a eneiniasai yr Arglwydd i dorri ymaith dŷ Ahab. A phan farnodd Jehu yn erbyn tŷ Ahab, efe a gafodd dywysogion Jwda, a meibion brodyr Ahaseia, y rhai oedd yn gwasanaethu Ahaseia, ac efe a’u lladdodd hwynt. Ac efe a geisiodd Ahaseia; a hwy a’i daliasant ef, (canys yr oedd efe yn llechu yn Samaria;) a hwy a’i dygasant ef at Jehu: lladdasant ef hefyd, a chladdasant ef; canys dywedasant, Mab Jehosaffat yw efe, yr hwn a geisiodd yr Arglwydd â’i holl galon. Felly nid oedd gan dŷ Ahaseia nerth i lynu yn y deyrnas.

10 Ond pan welodd Athaleia mam Ahaseia farw o’i mab, hi a gyfododd, ac a ddifethodd holl frenhinol had tŷ Jwda. 11 Ond Josabea merch y brenin a gymerth Joas mab Ahaseia, ac a’i lladrataodd ef o fysg meibion y brenin y rhai a laddwyd, ac a’i rhoddodd ef a’i famaeth yn ystafell y gwelyau. Felly Josabea merch y brenin Jehoram, gwraig Jehoiada yr offeiriad, (canys chwaer Ahaseia ydoedd hi,) a’i cuddiodd ef rhag Athaleia, fel na laddodd hi ef. 12 Ac efe a fu yng nghudd gyda hwynt yn nhŷ Dduw chwe blynedd: ac Athaleia oedd yn teyrnasu ar y wlad.

23 Ac yn y seithfed flwyddyn yr ymgadarnhaodd Jehoiada, ac y cymerodd dywysogion y cannoedd, Asareia mab Jeroham, ac Ismael mab Johanan, ac Asareia mab Obed, a Maaseia mab Adaia, ac Elisaffat mab Sichri, gydag ef mewn cyfamod. A hwy a aethant o amgylch yn Jwda, ac a gynullasant y Lefiaid o holl ddinasoedd Jwda, a phennau-cenedl Israel, ac a ddaethant i Jerwsalem. A’r holl gynulleidfa a wnaethant gyfamod â’r brenin yn nhŷ Dduw: ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Wele, mab y brenin a deyrnasa, fel y llefarodd yr Arglwydd am feibion Dafydd. Dyma y peth a wnewch chwi; Y drydedd ran ohonoch, yr rhai a ddeuant i mewn ar y Saboth, o’r offeiriaid ac o’r Lefiaid, fydd yn borthorion i’r trothwyau; A’r drydedd ran fydd yn nhŷ y brenin; a’r drydedd ran wrth borth y sylfaen; a’r holl bobl yng nghynteddau tŷ yr Arglwydd. Ac na ddeled neb i dŷ yr Arglwydd, ond yr offeiriaid, a’r gweinidogion o’r Lefiaid; deuant hwy i mewn, canys sanctaidd ydynt: ond yr holl bobl a gadwant wyliadwriaeth yr Arglwydd. A’r Lefiaid a amgylchant y brenin o bob tu, pob un â’i arfau yn ei law; a phwy bynnag arall a ddelo i’r tŷ, lladder ef: ond byddwch chwi gyda’r brenin, pan ddelo efe i mewn, a phan elo efe allan. A’r Lefiaid a holl Jwda a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Jehoiada yr offeiriad, a hwy a gymerasant bawb eu gwŷr, y rhai oedd yn dyfod i mewn ar y Saboth, gyda’r rhai oedd yn myned allan ar y Saboth: (canys ni ryddhasai Jehoiada yr offeiriad y dosbarthiadau.) A Jehoiada yr offeiriad a roddodd i dywysogion y cannoedd, y gwaywffyn, a’r tarianau, a’r estylch, a fuasai yn eiddo y brenin Dafydd, y rhai oedd yn nhŷ Dduw. 10 Ac efe a gyfleodd yr holl bobl, a phob un â’i arf yn ei law, o’r tu deau i’r tŷ hyd y tu aswy i’r tŷ, ynghylch yr allor a’r tŷ, yn ymyl y brenin oddi amgylch. 11 Yna y dygasant allan fab y brenin, a rhoddasant y goron arno ef, a’r dystiolaeth, ac a’i hurddasant ef yn frenin: Jehoiada hefyd a’i feibion a’i heneiniasant ef, ac a ddywedasant, Byw fyddo y brenin.

12 A phan glybu Athaleia drwst y bobl yn rhedeg, ac yn moliannu y brenin, hi a ddaeth at y bobl i dŷ yr Arglwydd. 13 A hi a edrychodd, ac wele y brenin yn sefyll wrth ei golofn yn y ddyfodfa, a’r tywysogion a’r utgyrn yn ymyl y brenin; a holl bobl y wlad yn llawen, ac yn lleisio mewn utgyrn; a’r cantorion ag offer cerdd, a’r rhai a fedrent foliannu. Yna Athaleia a rwygodd ei dillad, ac a ddywedodd, Bradwriaeth, bradwriaeth! 14 A Jehoiada yr offeiriad a ddug allan dywysogion y cannoedd, sef swyddogion y llu, ac a ddywedodd wrthynt, Dygwch hi allan o’r rhesau: a’r hwn a ddelo ar ei hôl hi, lladder ef â’r cleddyf. Canys dywedasai yr offeiriad, Na leddwch hi yn nhŷ yr Arglwydd. 15 A hwy a roddasant ddwylo arni hi, a hi a ddaeth tua’r porth y deuai y meirch i dŷ y brenin, ac yno y lladdasant hwy hi.

16 A Jehoiada a wnaeth gyfamod rhyngddo ei hun, a rhwng yr holl bobl, a rhwng y brenin, i fod yn bobl i’r Arglwydd. 17 Yna yr holl bobl a aethant i dŷ Baal, ac a’i distrywiasant ef, a’i allorau, ei ddelwau hefyd a ddrylliasant hwy, ac a laddasant Mattan offeiriad Baal o flaen yr allor. 18 A Jehoiada a osododd swyddau yn nhŷ yr Arglwydd, dan law yr offeiriaid y Lefiaid, y rhai a ddosbarthasai Dafydd yn nhŷ yr Arglwydd, i offrymu poethoffrymau yr Arglwydd, fel y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith Moses, mewn llawenydd a chân, yn ôl trefn Dafydd. 19 Ac efe a gyfleodd y porthorion wrth byrth tŷ yr Arglwydd, fel na ddelai i mewn neb a fyddai aflan mewn dim oll. 20 Cymerodd hefyd dywysogion y cannoedd, a’r pendefigion, a’r rhai oedd yn arglwyddiaethu ar y bobl, a holl bobl y wlad, ac efe a ddug y brenin i waered o dŷ yr Arglwydd: a hwy a ddaethant trwy y porth uchaf i dŷ y brenin, ac a gyfleasant y brenin ar orseddfa y frenhiniaeth. 21 A holl bobl y wlad a lawenychasant, a’r ddinas a fu lonydd wedi iddynt ladd Athaleia â’r cleddyf.

24 Mab saith mlwydd oedd Joas pan ddechreuodd efe deyrnasu, a deugain mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Sibia o Beerseba. A Joas a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd holl ddyddiau Jehoiada yr offeiriad. A Jehoiada a gymerth iddo ddwy wraig: ac efe a genhedlodd feibion a merched.

Ac wedi hyn Joas a roes ei fryd ar adnewyddu tŷ yr Arglwydd. Ac efe a gynullodd yr offeiriaid a’r Lefiaid, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch i ddinasoedd Jwda, a chesglwch gan holl Israel arian i gyweirio tŷ eich Duw, o flwyddyn i flwyddyn: prysurwch chwithau y peth. Ond ni frysiodd y Lefiaid. A’r brenin a alwodd am Jehoiada, yr offeiriad pennaf, ac a ddywedodd wrtho, Paham na cheisiaist gan y Lefiaid ddwyn o Jwda, ac o Jerwsalem, dreth Moses gwas yr Arglwydd, a chynulleidfa Israel, i babell y dystiolaeth? Canys meibion Athaleia, y wraig ddrygionus honno, a rwygasent dŷ Dduw; a holl gysegredig bethau tŷ yr Arglwydd a roesant hwy i Baalim. Ac wrth orchymyn y brenin hwy a wnaethant gist, ac a’i gosodasant hi ym mhorth tŷ yr Arglwydd oddi allan. A rhoddasant gyhoeddiad yn Jwda, ac yn Jerwsalem, ar ddwyn i’r Arglwydd dreth Moses gwas Duw, yr hon a roesid ar Israel yn yr anialwch. 10 A’r holl dywysogion a’r holl bobl a lawenychasant, ac a ddygasant, ac a fwriasant i’r gist, nes gorffen ohonynt. 11 A bu, yr amser y ducpwyd y gist at swyddog y brenin trwy law y Lefiaid, a phan welsant fod llawer o arian, ddyfod o ysgrifennydd y brenin, a swyddog yr archoffeiriad, a thywallt y gist, a’i chymryd hi, a’i dwyn drachefn i’w lle ei hun. Felly y gwnaethant o ddydd i ddydd, a chasglasant arian lawer. 12 A’r brenin a Jehoiada a’i rhoddodd i’r rhai oedd yn gweithio gwasanaeth tŷ yr Arglwydd; a chyflogasant seiri maen, a seiri pren, i gyweirio tŷ yr Arglwydd; a gofaint haearn a phres, i gadarnhau tŷ yr Arglwydd. 13 Felly y gweithwyr a weithiasant, a’r gwaith a orffennwyd trwy eu dwylo hwynt: a hwy a wnaethant dŷ Dduw yn ei drefn ei hun, ac a’i cadarnhasant ef. 14 A phan orffenasant hwy ef, hwy a ddygasant y gweddill o’r arian gerbron y brenin a Jehoiada; a hwy a wnaethant ohonynt lestri i dŷ yr Arglwydd, sef llestri y weinidogaeth, a’r morterau, a’r llwyau, a’r llestri aur ac arian. Ac yr oeddynt hwy yn offrymu poethoffrymau yn nhŷ yr Arglwydd yn wastadol, holl ddyddiau Jehoiada.

15 Ond Jehoiada a heneiddiodd, ac oedd gyflawn o ddyddiau, ac a fu farw: mab can mlwydd a deg ar hugain oedd efe pan fu farw. 16 A hwy a’i claddasant ef yn ninas Dafydd gyda’r brenhinoedd; canys efe a wnaethai ddaioni yn Israel, tuag at Dduw a’i dŷ. 17 Ac wedi marw Jehoiada, tywysogion Jwda a ddaethant, ac a ymgrymasant i’r brenin: yna y brenin a wrandawodd arnynt hwy. 18 A hwy a adawsant dŷ Arglwydd Dduw eu tadau, ac a wasanaethasant y llwyni, a’r delwau: a daeth digofaint ar Jwda a Jerwsalem, oherwydd eu camwedd hyn. 19 Eto efe a anfonodd atynt hwy broffwydi, i’w troi hwynt at yr Arglwydd; a hwy a dystiolaethasant yn eu herbyn hwynt, ond ni wrandawsant hwy. 20 Ac ysbryd Duw a ddaeth ar Sechareia mab Jehoiada yr offeiriad, ac efe a safodd oddi ar y bobl, ac a ddywedodd wrthynt hwy, Fel hyn y dywedodd Duw, Paham yr ydych chwi yn troseddu gorchmynion yr Arglwydd? diau na ffynnwch chwi; canys gwrthodasoch yr Arglwydd, am hynny yntau a’ch gwrthyd chwithau. 21 A hwy a gydfwriadasant yn ei erbyn ef, ac a’i llabyddiasant ef â meini wrth orchymyn y brenin, yng nghyntedd tŷ yr Arglwydd. 22 Ac ni chofiodd Joas y brenin y caredigrwydd a wnaethai Jehoiada ei dad ef ag ef, ond efe a laddodd ei fab ef: a phan oedd efe yn marw, efe a ddywedodd, Edryched yr Arglwydd, a gofynned.

23 Ac ymhen y flwyddyn y daeth llu y Syriaid i fyny yn ei erbyn ef: a hwy a ddaethant yn erbyn Jwda a Jerwsalem, ac a ddifethasant holl dywysogion y bobl o blith y bobl, ac a anfonasant eu holl anrhaith hwynt i frenin Damascus. 24 Canys llu y Syriaid a ddaethai ag ychydig wŷr, a’r Arglwydd a roddodd yn eu llaw hwynt lu mawr iawn, am iddynt wrthod Arglwydd Dduw eu tadau: felly y gwnaethant hwy farn yn erbyn Joas. 25 A phan aethant hwy oddi wrtho ef, (canys hwy a’i gadawsant ef mewn clefydau mawrion,) ei weision ei hun a gydfwriadodd i’w erbyn ef, oherwydd gwaed meibion Jehoiada yr offeiriad, ac a’i lladdasant ef ar ei wely; ac efe a fu farw: a hwy a’i claddasant ef yn ninas Dafydd, ond ni chladdasant ef ym meddau y brenhinoedd. 26 A dyma y rhai a fradfwriadasant yn ei erbyn ef; Sabad mab Simeath yr Ammones, a Jehosabad mab Simrith y Foabes.

27 Am ei feibion ef, a maint y baich a roddwyd arno, a sylfaeniad tŷ Dduw, wele hwy yn ysgrifenedig yn histori llyfr y brenhinoedd. Ac Amaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.