Historical
11 A phan ddaeth Rehoboam i Jerwsalem, efe a gasglodd o holl dŷ Jwda, ac o Benjamin, gant a phedwar ugain mil o wŷr dewisol, cymwys i ryfel, i ymladd ag Israel, ac i ddwyn drachefn y frenhiniaeth i Rehoboam. 2 Ond gair yr Arglwydd a ddaeth at Semaia gŵr Duw, gan ddywedyd, 3 Dywed wrth Rehoboam mab Solomon brenin Jwda, ac wrth holl Israel yn Jwda a Benjamin, gan ddywedyd, 4 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Nac ewch i fyny, ac nac ymleddwch yn erbyn eich brodyr; dychwelwch bob un i’w dŷ ei hun: canys trwof fi y gwnaethpwyd y peth hyn. A hwy a wrandawsant ar eiriau yr Arglwydd, ac a ddychwelasant, heb fyned yn erbyn Jeroboam.
5 A Rehoboam a drigodd yn Jerwsalem, ac a adeiladodd ddinasoedd cedyrn yn Jwda. 6 Ac efe a adeiladodd Bethlehem, ac Etam, a Thecoa, 7 A Bethsur, a Socho, ac Adulam, 8 A Gath, a Maresa, a Siff, 9 Ac Adoraim, a Lachis, ac Aseca, 10 A Sora, ac Ajalon, a Hebron, y rhai oedd yn Jwda, ac yn Benjamin; dinasoedd o gadernid. 11 Ac efe a gadarnhaodd yr amddiffynfaoedd, ac a osododd flaenoriaid ynddynt hwy, a chellau bwyd, ac olew, a gwin. 12 Ac ym mhob dinas y gosododd efe darianau, a gwaywffyn, ac a’u cadarnhaodd hwynt yn gadarn iawn, ac eiddo ef oedd Jwda a Benjamin.
13 A’r offeiriaid a’r Lefiaid, y rhai oedd yn holl Israel, a gyrchasant ato ef o’u holl derfynau. 14 Canys y Lefiaid a adawsant eu meysydd pentrefol, a’u meddiant, ac a ddaethant i Jwda, ac i Jerwsalem: canys Jeroboam a’i feibion a’u bwriasai hwynt ymaith o fod yn offeiriaid i’r Arglwydd. 15 Ac efe a osododd iddo offeiriaid i’r uchelfeydd, ac i’r cythreuliaid, ac i’r lloi a wnaethai efe. 16 Ac ar eu hôl hwynt, o holl lwythau Israel, y rhai oedd yn rhoddi eu calon i geisio Arglwydd Dduw Israel, a ddaethant i Jerwsalem, i aberthu i Arglwydd Dduw eu tadau. 17 Felly hwy a gadarnhasant frenhiniaeth Jwda, ac a gryfhasant Rehoboam mab Solomon, dros dair blynedd: canys hwy a rodiasant yn ffordd Dafydd a Solomon dair blynedd.
18 A Rehoboam a gymerth Mahalath, merch Jerimoth mab Dafydd, yn wraig iddo, ac Abihail merch Eliab mab Jesse: 19 A hi a ymddûg iddo ef feibion, sef Jeus, a Samareia, a Saham. 20 Ac ar ei hôl hi efe a gymerth Maacha merch Absalom: a hi a ymddûg iddo ef Abeia, ac Attai, a Sisa, a Selomith. 21 A Rehoboam a garodd Maacha merch Absalom yn fwy na’i holl wragedd a’i ordderchadon: canys deunaw o wragedd a gymerth efe, a thrigain o ordderchadon; ac efe a genhedlodd wyth ar hugain o feibion, a thrigain o ferched. 22 A Rehoboam a osododd Abeia mab Maacha yn ben, yn flaenor ar ei frodyr; canys yr oedd yn ei fryd ei urddo ef yn frenin. 23 Ac efe a fu gall, ac a wasgarodd rai o’i feibion i holl wledydd Jwda a Benjamin, i bob dinas gadarn, ac a roddes iddynt hwy luniaeth yn helaeth: ac efe a geisiodd liaws o wragedd.
12 Ac wedi i Rehoboam sicrhau y frenhiniaeth, a’i chadarnhau, efe a wrthododd gyfraith yr Arglwydd, a holl Israel gydag ef. 2 Ac yn y bumed flwyddyn i’r brenin Rehoboam, y daeth Sisac brenin yr Aifft i fyny yn erbyn Jerwsalem, oherwydd iddynt wrthryfela yn erbyn yr Arglwydd, 3 A mil a dau cant o gerbydau, a thrigeinmil o wŷr meirch; ac nid oedd nifer ar y bobl a ddaeth gydag ef o’r Aifft, sef y Lubiaid, y Succiaid, a’r Ethiopiaid. 4 Ac efe a enillodd y dinasoedd cedyrn, y rhai oedd yn Jwda, ac a ddaeth hyd Jerwsalem.
5 Yna Semaia y proffwyd a ddaeth at Rehoboam a thywysogion Jwda, y rhai oedd wedi ymgasglu yn Jerwsalem rhag ofn Sisac, ac a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Chwi a’m gwrthodasoch i, am hynny myfi a’ch gadewais chwi yn llaw Sisac. 6 Yna tywysogion Israel a’r brenin a ymostyngasant ac a ddywedasant, Cyfiawn yw yr Arglwydd. 7 A phan welodd yr Arglwydd iddynt hwy ymostwng, daeth gair yr Arglwydd at Semaia, gan ddywedyd, Hwy a ymostyngasant; am hynny ni ddifethaf hwynt, ond rhoddaf iddynt ymwared ar fyrder; ac ni thywelltir fy llid yn erbyn Jerwsalem trwy law Sisac. 8 Eto byddant yn weision iddo ef, fel yr adnabyddont fy ngwasanaeth i, a gwasanaeth teyrnasoedd y gwledydd. 9 Yna Sisac brenin yr Aifft a ddaeth i fyny yn erbyn Jerwsalem, ac a gymerth drysorau tŷ yr Arglwydd, a thrysorau tŷ y brenin, ac a’u dug hwynt ymaith oll: dug ymaith hefyd y tarianau aur a wnaethai Solomon. 10 A’r brenin Rehoboam a wnaeth yn eu lle hwynt darianau pres, ac a’u rhoddodd hwynt i gadw dan law tywysogion gwŷr y gard, y rhai oedd yn cadw drws tŷ y brenin. 11 A phan elai y brenin i dŷ yr Arglwydd, gwŷr y gard a ddeuent ac a’u cyrchent hwy, ac a’u dygent drachefn i ystafell gwŷr y gard. 12 A phan ymostyngodd efe, llid yr Arglwydd a ddychwelodd oddi wrtho ef, fel nas dinistriai ef yn hollol; ac yn Jwda hefyd yr oedd pob peth yn dda.
13 Felly y brenin Rehoboam a ymgryfhaodd yn Jerwsalem, ac a deyrnasodd: a mab un flwydd a deugain oedd Rehoboam pan ddechreuodd efe deyrnasu, a dwy flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisasai yr Arglwydd i osod ei enw ef ynddi, o holl lwythau Israel: ac enw ei fam oedd Naama, Ammones. 14 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg, canys ni pharatôdd efe ei galon i geisio yr Arglwydd. 15 Am y gweithredoedd cyntaf a diwethaf i Rehoboam, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yng ngeiriau Semaia y proffwyd, ac Ido y gweledydd, yn yr achau? A bu rhyfeloedd rhwng Rehoboam a Jeroboam yn wastadol. 16 A Rehoboam a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yn ninas Dafydd; ac Abeia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
13 Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i’r brenin Jeroboam y dechreuodd Abeia deyrnasu ar Jwda. 2 Tair blynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac enw ei fam ef oedd Michaia, merch Uriel o Gibea. Ac yr oedd rhyfel rhwng Abeia a Jeroboam. 3 Ac Abeia a gydiodd y rhyfel â llu o ryfelwyr grymus, sef pedwar can mil o wŷr etholedig: a Jeroboam a luniaethodd y rhyfel yn ei erbyn ef ag wyth gan mil o wŷr etholedig, grymus, nerthol.
4 Ac Abeia a gyfododd ar fynydd Semaraim, yr hwn sydd ym mynydd Effraim, ac a ddywedodd, O Jeroboam, a holl Israel, gwrandewch fi; 5 Oni ddylech chwi wybod roddi o Arglwydd Dduw Israel y frenhiniaeth i Dafydd ar Israel yn dragywydd, iddo ef ac i’w feibion, trwy gyfamod halen? 6 Eto Jeroboam mab Nebat, gwas Solomon mab Dafydd, a gyfododd ac a wrthryfelodd yn erbyn ei arglwydd. 7 Ac ofer ddynion, sef meibion y fall, a ymgasglasant ato ef, ac a ymgadarnhasant yn erbyn Rehoboam mab Solomon, pan oedd Rehoboam yn fachgen, ac yn wan ei galon, ac ni allai ymgadarnhau i’w herbyn hwynt. 8 Ac yn awr yr ydych yn meddwl ymgadarnhau yn erbyn brenhiniaeth yr Arglwydd, yr hon sydd yn llaw meibion Dafydd; ac yr ydych yn dyrfa fawr, a chyda chwi y mae y lloi aur a wnaeth Jeroboam yn dduwiau i chwi. 9 Oni yrasoch ymaith offeiriaid yr Arglwydd, meibion Aaron, a’r Lefiaid? ac oni wnaethoch i chwi offeiriaid fel pobl y gwledydd eraill? pwy bynnag sydd yn dyfod i’w gysegru â bustach ieuanc ac â saith o hyrddod, hwnnw sydd yn offeiriad i’r rhai nid ydynt dduwiau. 10 Ninnau, yr Arglwydd yw ein Duw ni, ac nis gwrthodasom ef; a’r offeiriaid y rhai sydd yn gwasanaethu yr Arglwydd yw meibion Aaron, a’r Lefiaid sydd yn eu gorchwyl. 11 Ac y maent hwy yn llosgi i’r Arglwydd boethoffrymau bob bore a phob hwyr, ac arogl-darth peraidd; ac yn cadw trefn y bara gosod ar y bwrdd pur, a’r canhwyllbren aur a’i lampau, i losgi bob prynhawn: canys yr ydym ni yn cadw goruchwyliaeth yr Arglwydd ein Duw; ond chwi a’i gwrthodasoch ef. 12 Ac wele, Duw sydd ben gyda ni, a’i offeiriaid ef ag utgyrn soniarus i utganu yn eich erbyn chwi. O feibion Israel, nac ymleddwch yn erbyn Arglwydd Dduw eich tadau; canys ni lwyddwch chwi.
13 Ond Jeroboam a barodd osod cynllwyn o amgylch, a dyfod o’u hôl hwynt: felly yr oeddynt hwy o flaen Jwda, a’r cynllwyn o’r tu ôl iddynt. 14 A Jwda a edrychodd yn ôl, ac wele ryfel iddynt ymlaen ac yn ôl; a hwy a waeddasant ar yr Arglwydd, a’r offeiriaid a leisiasant mewn utgyrn. 15 A gwŷr Jwda a floeddiasant: a phan waeddodd gwŷr Jwda, Duw a drawodd Jeroboam, a holl Israel, a flaen Abeia a Jwda. 16 A meibion Israel a ffoesant o flaen Jwda: a Duw a’u rhoddodd hwynt i’w llaw hwynt. 17 Ac Abeia a’i bobl a’u trawsant hwy â lladdfa fawr: a syrthiodd yn archolledig o Israel bum can mil o wŷr etholedig. 18 Felly y darostyngwyd meibion Israel y pryd hwnnw; a meibion Jwda a orfuant, oherwydd iddynt bwyso ar Arglwydd Dduw eu tadau. 19 Ac Abeia a erlidiodd ar ôl Jeroboam, ac a ddug oddi arno ef ddinasoedd, Bethel a’i phentrefi, a Jesana a’i phentrefi, ac Effraim a’i phentrefi. 20 Ac ni chafodd Jeroboam nerth mwyach yn nyddiau Abeia: ond yr Arglwydd a’i trawodd ef, fel y bu efe farw.
21 Ond Abeia a ymgryfhaodd, ac a gymerth iddo bedair ar ddeg o wragedd, ac a genhedlodd ddau fab ar hugain, ac un ar bymtheg o ferched. 22 A’r rhan arall o hanes Abeia, a’i ffyrdd ef, a’i eiriau, y maent yn ysgrifenedig yn llyfr y proffwyd Ido.
14 Felly Abeia a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef yn ninas Dafydd; ac Asa ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. Yn ei ddyddiau ef y cafodd y wlad lonydd ddeng mlynedd. 2 Ac Asa a wnaeth yr hyn oedd dda ac uniawn yng ngolwg yr Arglwydd ei Dduw. 3 Canys efe a fwriodd ymaith allorau y duwiau dieithr, a’r uchelfeydd, ac a ddrylliodd y delwau, ac a dorrodd y llwyni: 4 Ac a orchmynnodd i Jwda geisio Arglwydd Dduw eu tadau, a gwneuthur y gyfraith a’r gorchymyn. 5 Ac efe a fwriodd ymaith o holl ddinasoedd Jwda yr uchelfeydd a’r delwau: a chafodd y frenhiniaeth lonydd o’i flaen ef.
6 Ac efe a adeiladodd ddinasoedd cedyrn yn Jwda, oherwydd bod y wlad yn cael llonydd, ac nad oedd rhyfel yn ei erbyn ef yn y blynyddoedd hynny; oblegid yr Arglwydd a roddasai lonyddwch iddo. 7 Am hynny efe a ddywedodd wrth Jwda, Adeiladwn y dinasoedd hyn, ac amgylchwn hwynt â mur, â thyrau, â drysau, ac â barrau, tra fyddo y wlad o’n blaen ni; oherwydd i ni geisio yr Arglwydd ein Duw, ni a’i ceisiasom, ac efe a roddodd lonyddwch i ni o amgylch. Felly hwy a adeiladasant, ac a lwyddasant. 8 Ac yr oedd gan Asa lu o wŷr yn dwyn tarianau a gwaywffyn, o Jwda tri chan mil, ac o Benjamin dau cant a phedwar ugain mil yn dwyn tarianau, ac yn tynnu bwa: y rhai hyn oll oedd wŷr grymus.
9 A Sera yr Ethiopiad a ddaeth allan yn eu herbyn hwynt, â llu o fil o filoedd, ac â thri chant o gerbydau; ac a ddaeth hyd Maresa. 10 Yna Asa a aeth allan yn ei erbyn ef, a hwy a luniaethasant ryfel yn nyffryn Seffatha wrth Maresa. 11 Ac Asa a waeddodd ar yr Arglwydd ei Dduw, ac a ddywedodd, O Arglwydd, nid yw ddim i ti gynorthwyo, pa un bynnag ai gyda llawer, ai gyda’r rhai nid oes ganddynt gryfder: cynorthwya di ni, O Arglwydd ein Duw; canys pwyso yr ydym ni arnat ti, ac yn dy enw di y daethom yn erbyn y dorf hon: O Arglwydd, ein Duw ni ydwyt ti, na orfydded dyn i’th erbyn. 12 Felly yr Arglwydd a drawodd yr Ethiopiaid o flaen Asa, ac o flaen Jwda; a’r Ethiopiaid a ffoesant. 13 Ac Asa a’r bobl oedd gydag ef a’u herlidiasant hwy hyd Gerar: a syrthiodd yr Ethiopiaid fel na allent ymatgryfhau; canys drylliasid hwynt o flaen yr Arglwydd, ac o flaen ei lu ef; a hwy a ddygasant ymaith anrhaith fawr iawn. 14 A thrawsant yr holl ddinasoedd o amgylch Gerar; canys yr oedd dychryn yr Arglwydd arnynt hwy: a hwy a anrheithiasant yr holl ddinasoedd; canys anrhaith fawr oedd ynddynt. 15 Lluestai yr anifeiliaid hefyd a drawsant hwy, ac a gaethgludasant lawer o ddefaid a chamelod, ac a ddychwelasant i Jerwsalem.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.