Historical
5 Felly y gorffennwyd yr holl waith a wnaeth Solomon i dŷ yr Arglwydd; a Solomon a ddug i mewn yr hyn a gysegrasai Dafydd ei dad; ac a osododd yn nhrysorau tŷ Dduw, yr arian, a’r aur, a’r holl lestri.
2 Yna y cynullodd Solomon henuriaid Israel, a holl bennau y llwythau, pennau-cenedl meibion Israel, i Jerwsalem, i ddwyn i fyny arch cyfamod yr Arglwydd o ddinas Dafydd, honno yw Seion. 3 Am hynny holl wŷr Israel a ymgynullasant at y brenin ar yr ŵyl oedd yn y seithfed mis. 4 A holl henuriaid Israel a ddaethant, a’r Lefiaid a godasant yr arch. 5 A hwy a ddygasant i fyny yr arch, a phabell y cyfarfod, a holl lestri y cysegr, y rhai oedd yn y babell, yr offeiriaid a’r Lefiaid a’u dygasant hwy i fyny. 6 Hefyd y brenin Solomon, a holl gynulleidfa Israel, y rhai a gynullasid ato ef o flaen yr arch, a aberthasant o ddefaid, a gwartheg, fwy nag a ellid eu rhifo na’u cyfrif gan luosowgrwydd. 7 A’r offeiriaid a ddygasant arch cyfamod yr Arglwydd i’w lle, i gafell y tŷ, i’r cysegr sancteiddiolaf, hyd dan adenydd y ceriwbiaid. 8 A’r ceriwbiaid oedd yn lledu eu hadenydd dros le yr arch: a’r ceriwbiaid a gysgodent yr arch a’i throsolion, oddi arnodd. 9 A thynasant allan y trosolion, fel y gwelid pennau y trosolion o’r arch o flaen y gafell, ac ni welid hwynt oddi allan. Ac yno y mae hi hyd y dydd hwn. 10 Nid oedd yn yr arch ond y ddwy lech a roddasai Moses ynddi yn Horeb, lle y gwnaethai yr Arglwydd gyfamod â meibion Israel, pan ddaethant hwy allan o’r Aifft.
11 A phan ddaeth yr offeiriaid o’r cysegr; canys yr holl offeiriaid, y rhai a gafwyd, a ymsancteiddiasent, heb gadw dosbarthiad: 12 Felly y Lefiaid, y rhai oedd gantorion, hwynt-hwy oll o Asaff, o Heman, o Jeduthun, â’u meibion hwynt, ac â’u brodyr, wedi eu gwisgo â lliain main, â symbalau, ac â nablau a thelynau, yn sefyll o du dwyrain yr allor, a chyda hwynt chwe ugain o offeiriaid yn utganu mewn utgyrn. 13 Ac fel yr oedd yr utganwyr a’r cantorion, megis un, i seinio un sain i glodfori ac i foliannu yr Arglwydd; ac wrth ddyrchafu sain mewn utgyrn, ac mewn symbalau, ac mewn offer cerdd, ac wrth foliannu yr Arglwydd, gan ddywedyd, Canys da yw; ac yn dragywydd y mae ei drugaredd ef: yna y llanwyd y tŷ â chwmwl, sef tŷ yr Arglwydd; 14 Fel na allai yr offeiriaid sefyll i wasanaethu gan y cwmwl: oherwydd gogoniant yr Arglwydd a lanwasai dŷ Dduw.
6 Yna y llefarodd Solomon, Yr Arglwydd a ddywedodd yr arhosai efe yn y tywyllwch; 2 A minnau a adeiledais dŷ yn drigfa i ti, a lle i’th breswylfod yn dragywydd. 3 A’r brenin a drodd ei wyneb, ac a fendithiodd holl gynulleidfa Israel: a holl gynulleidfa Israel oedd yn sefyll. 4 Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a lefarodd â’i enau wrth Dafydd fy nhad, ac a gwblhaodd â’i ddwylo, gan ddywedyd, 5 Er y dydd y dygais i fy mhobl allan o wlad yr Aifft, ni ddetholais ddinas o holl lwythau Israel i adeiladu tŷ, i fod fy enw ynddo; ac ni ddewisais ŵr i fod yn flaenor ar fy mhobl Israel: 6 Ond mi a etholais Jerwsalem, i fod fy enw yno; ac a ddewisais Dafydd i fod ar fy mhobl Israel. 7 Ac yr oedd ym mryd Dafydd fy nhad adeiladu tŷ i enw Arglwydd Dduw Israel. 8 Ond dywedodd yr Arglwydd wrth Dafydd fy nhad, Oherwydd bod yn dy fryd di adeiladu tŷ i’m henw i, da y gwnaethost fod hynny yn dy galon: 9 Er hynny nid adeiledi di y tŷ; ond dy fab di, yr hwn a ddaeth allan o’th lwynau, efe a adeilada y tŷ i’m henw i. 10 Am hynny yr Arglwydd a gwblhaodd ei air a lefarodd efe: canys mi a gyfodais yn lle Dafydd fy nhad, ac a eisteddais ar orseddfa Israel, fel y llefarodd yr Arglwydd, ac a adeiledais dŷ i enw Arglwydd Dduw Israel. 11 Ac yno y gosodais yr arch; yn yr hon y mae cyfamod yr Arglwydd, yr hwn a amododd efe â meibion Israel.
12 A Solomon a safodd o flaen allor yr Arglwydd, yng ngŵydd holl gynulleidfa Israel, ac a estynnodd ei ddwylo: 13 Canys Solomon a wnaethai bulpud pres, ac a’i gosodasai yng nghanol y cyntedd, yn bum cufydd ei hyd, a phum cufydd ei led, a thri chufydd ei uchder; ac a safodd arno, ac a ostyngodd ar ei liniau gerbron holl gynulleidfa Israel, ac a estynnodd ei ddwylo tua’r nefoedd: 14 Ac efe a ddywedodd, O Arglwydd Dduw Israel, nid oes Duw cyffelyb i ti yn y nefoedd, nac ar y ddaear; yn cadw cyfamod a thrugaredd â’th weision, sydd yn rhodio ger dy fron di â’u holl galon: 15 Yr hwn a gedwaist â’th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho; fel y lleferaist â’th enau, felly y cwblheaist â’th law, megis y mae y dydd hwn. 16 Ac yn awr, O Arglwydd Dduw Israel, cadw â’th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho, gan ddywedyd, Ni thorrir ymaith oddi wrthyt na byddo gŵr ger fy mron i yn eistedd ar deyrngadair Israel; os dy feibion a wyliant ar eu ffordd, i rodio yn fy nghyfraith i, fel y rhodiaist ti ger fy mron i. 17 Yn awr gan hynny, O Arglwydd Dduw Israel, poed gwir fyddo dy air a leferaist wrth dy was Dafydd. 18 Ai gwir yw, y preswylia Duw gyda dyn ar y ddaear? Wele y nefoedd, a nefoedd y nefoedd, ni allant dy amgyffred; pa faint llai y dichon y tŷ hwn a adeiledais i? 19 Edrych gan hynny ar weddi dy was, ac ar ei ddeisyfiad ef, O Arglwydd fy Nuw, i wrando ar y llef ac ar y weddi y mae dy was yn ei gweddïo ger dy fron: 20 Fel y byddo dy lygaid yn agored tua’r tŷ yma ddydd a nos, tua’r lle am yr hwn y dywedaist, y gosodit dy enw yno; i wrando ar y weddi a weddïo dy was di yn y fan hon. 21 Gwrando gan hynny ddeisyfiadau dy was, a’th bobl Israel, y rhai a weddïant yn y lle hwn: gwrando di hefyd o le dy breswylfod, sef o’r nefoedd; a phan glywech, maddau.
22 Os pecha gŵr yn erbyn ei gymydog, a gofyn ganddo raith, gan ei dyngu ef, a dyfod y llw o flaen dy allor di yn y tŷ hwn: 23 Yna gwrando di o’r nefoedd; gwna hefyd, a barna dy weision; gan dalu i’r drygionus, trwy roddi ei ffordd ef ar ei ben ei hun; a chan gyfiawnhau y cyfiawn, trwy roddi iddo yntau yn ôl ei gyfiawnder.
24 A phan drawer dy bobl Israel o flaen y gelyn, am iddynt bechu yn dy erbyn; os dychwelant, a chyfaddef dy enw, a gweddïo ac ymbil ger dy fron di yn y tŷ hwn: 25 Yna gwrando di o’r nefoedd, a maddau bechod dy bobl Israel, a dychwel hwynt i’r tir a roddaist iddynt hwy, ac i’w tadau.
26 Pan gaeer y nefoedd, fel na byddo glaw, oherwydd pechu ohonynt i’th erbyn; os gweddïant yn y lle hwn, a chyfaddef dy enw, a dychwelyd oddi wrth eu pechod, pan gystuddiech hwynt: 27 Yna gwrando di o’r nefoedd, a maddau bechod dy weision, a’th bobl Israel, pan ddysgech iddynt dy ffordd dda yr hon y rhodient ynddi; a dyro law ar dy wlad a roddaist i’th bobl yn etifeddiaeth.
28 Os bydd newyn yn y tir, os bydd haint, deifiad, neu falltod, os bydd locustiaid neu lindys; os gwarchae ei elyn arno ef yn ninasoedd ei wlad; neu pa bla bynnag, neu glefyd bynnag a fyddo; 29 Pob gweddi, pob deisyfiad a fyddo gan bob dyn, neu gan holl bobl Israel; pan wypo pawb ei bla ei hun, a’i ddolur, ac estyn ei ddwylo tua’r tŷ hwn: 30 Yna gwrando di o’r nefoedd, o fangre dy breswylfod, a maddau, a dyro i bob un yn ôl ei holl ffyrdd, yr hwn a adwaenost ei galon ef, (canys tydi yn unig a adwaenost galon meibion dynion;) 31 Fel y’th ofnont, gan rodio yn dy ffyrdd di yr holl ddyddiau y byddont hwy byw ar wyneb y ddaear, yr hon a roddaist i’n tadau ni.
32 Ac am y dieithrddyn hefyd, yr hwn ni byddo o’th bobl di Israel, ond wedi dyfod o wlad bell, er mwyn dy enw mawr, a’th law gadarn, a’th fraich estynedig; os deuant a gweddïo yn y tŷ hwn: 33 Yna gwrando di o’r nefoedd, o fangre dy breswylfod, a gwna yn ôl yr hyn oll a lefo y dieithrddyn arnat; fel yr adwaeno holl bobl y ddaear dy enw di, ac y’th ofnont, fel y mae dy bobl Israel, ac y gwypont mai ar dy enw di y gelwir y tŷ yma a adeiledais i.
34 Os â dy bobl allan i ryfel yn erbyn eu gelynion ar hyd y ffordd yr anfonych hwynt, os gweddïant arnat ti tua’r ddinas yma yr hon a ddetholaist, a’r tŷ a adeiledais i’th enw di: 35 Yna gwrando o’r nefoedd ar eu gweddi hwynt ac ar eu deisyfiad, a gwna farn iddynt.
36 Os pechant i’th erbyn, (canys nid oes dyn ni phecha,) a diclloni ohonot i’w herbyn hwynt, a’u rhoddi o flaen eu gelynion, ac iddynt eu caethgludo yn gaethion i wlad bell neu agos; 37 Os dychwelant at eu calon yn y wlad y caethgludwyd hwynt iddi, a dychwelyd, ac ymbil â thi yng ngwlad eu caethiwed, gan ddywedyd, Pechasom, troseddasom, a gwnaethom yn annuwiol; 38 Os dychwelant atat â’u holl galon, ac â’u holl enaid, yng ngwlad eu caethiwed, lle y caethgludasant hwynt, a gweddïo tua’u gwlad a roddaist i’w tadau, a’r ddinas a ddetholaist, a’r tŷ a adeiledais i’th enw di: 39 Yna gwrando di o’r nefoedd, o fangre dy breswylfod, eu gweddi hwynt a’u deisyfiadau, a gwna farn iddynt, a maddau i’th bobl a bechasant i’th erbyn. 40 Yn awr, O fy Nuw, bydded, atolwg, dy lygaid yn agored, a’th glustiau yn ymwrando â’r weddi a wneir tua’r lle yma. 41 Ac yn awr cyfod, O Arglwydd Dduw, i’th orffwysfa, ti ac arch dy gadernid: dillader dy offeiriaid, O Arglwydd Dduw, â iachawdwriaeth, a llawenyched dy saint mewn daioni. 42 O Arglwydd Dduw, na thro ymaith wyneb dy eneiniog: cofia drugareddau Dafydd dy was.
7 Ac wedi gorffen o Solomon weddïo, tân a ddisgynnodd o’r nefoedd, ac a ysodd y poethoffrwm a’r ebyrth; a gogoniant yr Arglwydd a lanwodd y tŷ. 2 Ac ni allai yr offeiriaid fyned i mewn i dŷ yr Arglwydd, oherwydd gogoniant yr Arglwydd a lanwasai dŷ yr Arglwydd. 3 A phan welodd holl feibion Israel y tân yn disgyn, a gogoniant yr Arglwydd ar y tŷ, hwy a ymgrymasant â’u hwynebau i lawr ar y palmant, ac a addolasant, ac a glodforasant yr Arglwydd, canys daionus yw efe; oherwydd bod ei drugaredd ef yn dragywydd.
4 Yna y brenin a’r holl bobl a aberthasant ebyrth gerbron yr Arglwydd. 5 A’r brenin Solomon a aberthodd aberth o ddwy fil ar hugain o ychen, a chwech ugain mil o ddefaid: felly y brenin a’r holl bobl a gysegrasant dŷ Dduw. 6 A’r offeiriaid oedd yn sefyll yn eu goruchwyliaeth: a’r Lefiaid ag offer cerdd yr Arglwydd, y rhai a wnaethai Dafydd y brenin i gyffesu yr Arglwydd, oherwydd yn dragywydd y mae ei drugaredd ef, pan oedd Dafydd yn moliannu Duw trwyddynt hwy: a’r offeiriaid oedd yn utganu ar eu cyfer hwynt, a holl Israel oedd yn sefyll. 7 A Solomon a gysegrodd ganol y cyntedd yr hwn oedd o flaen tŷ yr Arglwydd: canys yno yr offrymodd efe boethoffrymau, a braster yr aberthau hedd; canys ni allai yr allor bres a wnaethai Solomon dderbyn y poethoffrwm, a’r bwyd-offrwm, a’r braster.
8 A Solomon a gadwodd ŵyl y pryd hwnnw saith niwrnod, a holl Israel gydag ef, cynulleidfa fawr iawn, o ddyfodfa Hamath hyd afon yr Aifft. 9 Gwnaethant hefyd yr wythfed dydd gymanfa: canys cysegriad yr allor a gadwasant hwy saith niwrnod, a’r ŵyl saith niwrnod. 10 Ac yn y trydydd dydd ar hugain o’r seithfed mis y gollyngodd efe y bobl i’w pabellau, yn hyfryd ac yn llawen eu calon, am y daioni a wnaethai yr Arglwydd i Dafydd, ac i Solomon, ac i Israel ei bobl. 11 Fel hyn y gorffennodd Solomon dŷ yr Arglwydd, a thŷ y brenin: a’r hyn oll oedd ym mryd Solomon ei wneuthur yn nhŷ yr Arglwydd, ac yn ei dŷ ei hun, a wnaeth efe yn llwyddiannus.
12 A’r Arglwydd a ymddangosodd i Solomon liw nos, ac a ddywedodd wrtho, Gwrandewais dy weddi, a mi a ddewisais y fan hon i mi yn dŷ aberth. 13 Os caeaf fi y nefoedd, fel na byddo glaw, neu os gorchmynnaf i’r locustiaid ddifa y ddaear, ac os anfonaf haint ymysg fy mhobl; 14 Os fy mhobl, y rhai y gelwir fy enw arnynt, a ymostyngant, ac a weddïant, ac a geisiant fy wyneb, ac a droant o’u ffyrdd drygionus: yna y gwrandawaf o’r nefoedd, ac y maddeuaf iddynt eu pechodau, ac yr iachâf eu gwlad hwynt. 15 Yn awr fy llygaid a fyddant yn agored, a’m clustiau yn ymwrando â’r weddi a wneir yn y fan hon. 16 Ac yn awr mi a ddetholais ac a sancteiddiais y tŷ hwn, i fod fy enw yno hyd byth: fy llygaid hefyd a’m calon a fyddant yno yn wastadol. 17 A thithau, os rhodi ger fy mron i, fel y rhodiodd Dafydd dy dad, a gwneuthur yr hyn oll a orchmynnais i ti, a chadw fy neddfau a’m barnedigaethau: 18 Yna y sicrhaf deyrngadair dy frenhiniaeth di, megis yr amodais â Dafydd dy dad, gan ddywedyd, Ni thorrir ymaith oddi wrthyt na byddo gŵr yn arglwyddiaethu yn Israel. 19 Ond os dychwelwch, ac os gwrthodwch fy neddfau a’m gorchmynion a roddais ger eich bron, ac os ewch a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt hwy: 20 Yna mi a’u diwreiddiaf hwynt o’m gwlad a roddais iddynt, a’r tŷ a sancteiddiais i’m henw a fwriaf allan o’m golwg, a mi a’i rhoddaf ef yn ddihareb, ac yn wawd ymysg yr holl bobloedd. 21 A’r tŷ yma, yr hwn sydd uchel, a wna i bawb a’r a êl heibio iddo synnu: fel y dywedo, Paham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i’r wlad hon, ac i’r tŷ hwn? 22 Yna y dywedant, Am iddynt wrthod Arglwydd Dduw eu tadau, yr hwn a’u dug hwy allan o wlad yr Aifft, ac am iddynt ymaflyd mewn duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt, a’u gwasanaethu hwynt: am hynny y dug efe yr holl ddrwg yma arnynt hwy.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.