Historical
26 Am ddosbarthiad y porthorion: O’r Corhiaid yr oedd Meselemia mab Core, o feibion Asaff. 2 A meibion Meselemia oedd, Sechareia y cyntaf‐anedig, Jediael yr ail, Sebadeia y trydydd, Jathniel y pedwerydd, 3 Elam y pumed, Jehohanan y chweched, Elioenai y seithfed. 4 A meibion Obed‐edom; Semaia y cyntaf‐anedig, Jehosabad yr ail, Joa y trydydd, a Sachar y pedwerydd, a Nethaneel y pumed, 5 Ammiel y chweched, Issachar y seithfed, Peulthai yr wythfed: canys Duw a’i bendithiodd ef. 6 Ac i Semaia ei fab ef y ganwyd meibion, y rhai a arglwyddiaethasant ar dŷ eu tad: canys cedyrn o nerth oeddynt hwy. 7 Meibion Semaia; Othni, a Reffael, ac Obed, Elsabad; ei frodyr ef oedd wŷr nerthol, sef Elihu, a Semacheia. 8 Y rhai hyn oll o feibion Obed‐edom: hwynt‐hwy, a’u meibion, a’u brodyr, yn wŷr nerthol mewn cryfder, tuag at y weinidogaeth, oedd drigain a dau o Obed‐edom. 9 Ac i Meselemia, yn feibion ac yn frodyr, yr oedd tri ar bymtheg o wŷr nerthol. 10 O Hosa hefyd, o feibion Merari, yr oedd meibion; Simri y pennaf, (er nad oedd efe gyntaf‐anedig, eto ei dad a’i gosododd ef yn ben;) 11 Hilceia yr ail, Tebaleia y trydydd, Sechareia y pedwerydd: holl feibion a brodyr Hosa oedd dri ar ddeg. 12 Ymhlith y rhai hyn yr oedd dosbarthiadau y porthorion, sef ymhlith y penaethiaid, ac iddynt oruchwyliaeth ar gyfer eu brodyr i wasanaethu yn nhŷ yr Arglwydd.
13 A hwy a fwriasant goelbrennau, fychan a mawr, yn ôl tŷ eu tadau, am bob porth. 14 A choelbren Selemeia a syrthiodd tua’r dwyrain: a thros Sechareia ei fab, cynghorwr deallgar, y bwriasant hwy goelbrennau; a’i goelbren ef a ddaeth tua’r gogledd. 15 I Obed‐edom tua’r deau, ac i’w feibion, y daeth tŷ Asuppim. 16 I Suppim, a Hosa, tua’r gorllewin, gyda phorth Salecheth, yn ffordd y rhiw, yr oedd y naill oruchwyliaeth ar gyfer y llall. 17 Tua’r dwyrain yr oedd chwech o Lefiaid, tua’r gogledd pedwar beunydd, tua’r deau pedwar beunydd, a thuag Asuppim dau a dau. 18 A Pharbar tua’r gorllewin, pedwar ar y ffordd, a dau yn Parbar. 19 Dyma ddosbarthiadau y porthorion, o feibion Core, ac o feibion Merari.
20 Ac o’r Lefiaid, Ahïa oedd ar drysorau tŷ Dduw, ac ar drysorau y pethau cysegredig. 21 Am feibion Laadan: meibion y Gersoniad Laadan, pennau tylwyth Laadan y Gersoniad, oedd Jehieli. 22 Meibion Jehieli; Setham, a Joel ei frawd, oedd ar drysorau tŷ yr Arglwydd. 23 O’r Amramiaid, a’r Ishariaid, o’r Hebroniaid, a’r Ussieliaid: 24 A Sebuel mab Gersom, mab Moses, oedd olygwr ar y trysorau. 25 A’i frodyr ef o Eleasar; Rehabia ei fab ef, a Jesaia ei fab yntau, a Joram ei fab yntau, a Sichri ei fab yntau, a Selomith ei fab yntau. 26 Y Selomith hwnnw a’i frodyr oedd ar holl drysorau y pethau cysegredig a gysegrasai Dafydd frenin, a’r tadau pennaf, a thywysogion y miloedd a’r cannoedd, a thywysogion y llu. 27 O’r rhyfeloedd ac o’r ysbail y cysegrasant bethau i gynnal tŷ yr Arglwydd. 28 A’r hyn oll a gysegrodd Samuel y gweledydd, a Saul mab Cis, ac Abner mab Ner, a Joab mab Serfia, a phwy bynnag a gysegrasai ddim, yr oedd efe dan law Selomith a’i frodyr.
29 O’r Ishariaid, Chenaneia a’i feibion oedd yn Israel yn swyddogion, ac yn farnwyr, ar y gwaith oddi allan. 30 O’r Hebroniaid, Hasabeia a’i frodyr, meibion nerthol, mil a saith gant, oedd mewn swydd yn Israel, o’r tu hwnt i’r Iorddonen tua’r gorllewin, yn holl waith yr Arglwydd, ac yng ngwasanaeth y brenin. 31 O’r Hebroniaid, Jereia oedd ben o’r Hebroniaid, yn ôl cenedlaethau ei dadau: yn y ddeugeinfed flwyddyn o deyrnasiad Dafydd y ceisiwyd hwynt, a chafwyd yn eu mysg hwy wŷr cryfion nerthol, yn Jaser Gilead. 32 A’i frodyr ef yn feibion nerthol oedd ddwy fil a saith gant o bennau‐cenedl: a Dafydd y brenin a’u gosododd hwynt ar y Reubeniaid, a’r Gadiaid, a hanner llwyth Manasse, ym mhob gorchwyl Duw, a gorchwyl y brenin.
27 Pedair mil ar hugain oedd pob dosbarthiad o feibion Israel dan eu rhif, yn bennau‐cenedl, ac yn dywysogion miloedd a channoedd, a’u swyddogion yn gwasanaethu y brenin ym mhob achos o’r dosbarthiadau, yn dyfod i mewn, ac yn myned allan, o fis i fis, trwy holl fisoedd y flwyddyn. 2 Ar y dosbarthiad cyntaf, dros y mis cyntaf, yr oedd Jasobeam mab Sabdiel; ac yn ei ddosbarthiad ef yr oedd pedair mil ar hugain. 3 O feibion Peres yr oedd y pennaf o holl dywysogion y llu dros y mis cyntaf. 4 Ac ar ddosbarthiad yr ail fis yr oedd Dodai yr Ahohiad, ac o’i ddosbarthiad ef yr oedd Micloth hefyd yn gapten; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. 5 Trydydd tywysog y llu dros y trydydd mis oedd Benaia mab Jehoiada yr offeiriad pennaf; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. 6 Y Benaia hwn oedd gadarn ymhlith y deg ar hugain, ac oddi ar y deg ar hugain; ac yn ei ddosbarthiad ef yr oedd Amisabad ei fab ef. 7 Y pedwerydd dros y pedwerydd mis oedd Asahel brawd Joab, a Sebadeia ei fab ar ei ôl ef; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. 8 Y pumed dros y pumed mis oedd dywysog, Samhuth yr Israhiad; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. 9 Y chweched dros y chweched mis oedd Ira mab Icces y Tecoad; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. 10 Y seithfed dros y seithfed mis oedd Heles y Peloniad, o feibion Effraim; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. 11 Yr wythfed dros yr wythfed mis oedd Sibbechai yr Husathiad, o’r Sarhiaid; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. 12 Y nawfed dros y nawfed mis oedd Abieser yr Anathothiad, o’r Benjaminiaid; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. 13 Y degfed dros y degfed mis oedd Maharai y Netoffathiad, o’r Sarhiaid; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. 14 Yr unfed ar ddeg dros yr unfed mis ar ddeg oedd Benaia y Pirathoniad, o feibion Effraim; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. 15 Y deuddegfed dros y deuddegfed mis oedd Heldai y Netoffathiad, o Othniel; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.
16 Ac ar lwythau Israel: ar y Reubeniaid, Elieser mab Sichri oedd dywysog: ar y Simeoniaid, Seffatia mab Maacha: 17 Ar y Lefiaid, Hasabeia mab Cemuel: ar yr Aaroniaid, Sadoc: 18 Ar Jwda, Elihu, un o frodyr Dafydd: ar Issachar, Omri mab Michael: 19 Ar Sabulon, Ismaia mab Obadeia: ar Nafftali, Jerimoth mab Asriel: 20 Ar feibion Effraim, Hosea mab Asaseia: ar hanner llwyth Manasse, Joel mab Pedaia: 21 Ar hanner llwyth Manasse yn Gilead, Ido mab Sechareia: ar Benjamin, Jaasiel mab Abner: 22 Ar Dan, Asarel mab Jeroham. Dyma dywysogion llwythau Israel.
23 Ond ni chymerth Dafydd eu rhifedi hwynt o fab ugain mlwydd ac isod; canys dywedasai yr Arglwydd yr amlhâi efe Israel megis sêr y nefoedd. 24 Joab mab Serfia a ddechreuodd gyfrif, ond ni orffennodd efe, am fod o achos hyn lidiowgrwydd yn erbyn Israel, ac nid aeth y cyfrif hwn ymysg cyfrifon cronicl y brenin Dafydd.
25 Ac ar drysorau y brenin yr oedd Asmafeth mab Adiel: ac ar y trysordai yn y meysydd, yn y dinasoedd, yn y pentrefi hefyd, ac yn y tyrau, yr oedd Jehonathan mab Usseia. 26 Ac ar weithwyr y maes, y rhai oedd yn llafurio y ddaear, yr oedd Esri mab Celub. 27 Ac ar y gwinllannoedd yr oedd Simei y Ramathiad: ac ar yr hyn oedd yn dyfod o’r gwinllannoedd i’r selerau gwin, yr oedd Sabdi y Siffmiad. 28 Ac ar yr olewydd, a’r sycamorwydd, y rhai oedd yn y dyffrynnoedd, yr oedd Baalhanan y Gederiad: ac ar y selerau olew yr oedd Joas. 29 Ac ar yr ychen pasgedig yn Saron, yr oedd Sitrai y Saroniad: ac ar yr ychen yn y dyffrynnoedd, yr oedd Saffat mab Adlai. 30 Ac ar y camelod yr oedd Obil yr Ismaeliad: ac ar yr asynnod Jehdeia y Meronothiad. 31 Ac ar y defaid yr oedd Jasis yr Hageriad. Y rhai hyn oll oedd dywysogion y golud eiddo y brenin Dafydd. 32 A Jehonathan ewythr Dafydd frawd ei dad oedd gynghorwr, gŵr doeth, ac ysgrifennydd: Jehiel hefyd mab Hachmom oedd gyda meibion y brenin. 33 Ac Ahitoffel oedd gynghorwr y brenin; a Husai yr Arciad oedd gyfaill y brenin. 34 Ac ar ôl Ahitoffel yr oedd Jehoiada mab Benaia, ac Abiathar: a thywysog llu y brenin oedd Joab.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.