Historical
21 A Satan a safodd i fyny yn erbyn Israel, ac a anogodd Dafydd i gyfrif Israel. 2 A dywedodd Dafydd wrth Joab, ac wrth benaethiaid y bobl, Ewch, cyfrifwch Israel o Beerseba hyd Dan; a dygwch ataf fi, fel y gwypwyf eu rhifedi hwynt. 3 A dywedodd Joab, Chwaneged yr Arglwydd ei bobl yn gan cymaint ag ydynt: O fy arglwydd frenin, onid gweision i’m harglwydd ydynt hwy oll? paham y cais fy arglwydd hyn? paham y bydd efe yn achos camwedd i Israel? 4 Ond gair y brenin a fu drech na Joab: a Joab a aeth allan, ac a dramwyodd trwy holl Israel, ac a ddaeth i Jerwsalem.
5 A rhoddes Joab nifer rhifedi y bobl i Dafydd. A holl Israel oedd fil o filoedd a chan mil o wŷr yn tynnu cleddyf; a Jwda oedd bedwar can mil a deng mil a thrigain o wŷr yn tynnu cleddyf. 6 Ond Lefi a Benjamin ni chyfrifasai efe yn eu mysg hwynt; canys ffiaidd oedd gan Joab air y brenin. 7 A bu ddrwg y peth hyn yng ngolwg Duw, ac efe a drawodd Israel. 8 A Dafydd a ddywedodd wrth Dduw, Pechais yn ddirfawr, oherwydd i mi wneuthur y peth hyn: ac yr awr hon, dilea, atolwg, anwiredd dy was, canys gwneuthum yn ynfyd iawn.
9 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Gad, gweledydd Dafydd, gan ddywedyd, 10 Dos, a llefara wrth Dafydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Tri pheth yr ydwyf fi yn eu gosod o’th flaen di; dewis i ti un ohonynt, a mi a’i gwnaf i ti. 11 Yna Gad a ddaeth at Dafydd, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Cymer i ti. 12 Naill ai tair blynedd o newyn; ai dy ddifetha dri mis o flaen dy wrthwynebwyr, a chleddyf dy elynion yn dy oddiweddyd; ai ynteu cleddyf yr Arglwydd, sef haint y nodau, yn y tir dri diwrnod, ac angel yr Arglwydd yn dinistrio trwy holl derfynau Israel. Ac yr awr hon edrych pa air a ddygaf drachefn i’r hwn a’m hanfonodd. 13 A Dafydd a ddywedodd wrth Gad, Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi; syrthiwyf, atolwg, yn llaw yr Arglwydd, canys ei drugareddau ef ydynt aml iawn, ac na syrthiwyf yn llaw dyn.
14 Yna y rhoddes yr Arglwydd haint y nodau ar Israel: a syrthiodd o Israel ddeng mil a thrigain mil o wŷr. 15 A Duw a anfonodd angel i Jerwsalem i’w dinistrio hi: ac fel yr oedd yn ei dinistrio, yr Arglwydd a edrychodd, ac a edifarhaodd am y drwg, ac a ddywedodd wrth yr angel oedd yn dinistrio, Digon, bellach, atal dy law. Ac angel yr Arglwydd oedd yn sefyll wrth lawr dyrnu Ornan y Jebusiad. 16 A Dafydd a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu angel yr Arglwydd yn sefyll rhwng y ddaear a’r nefoedd, a’i gleddyf noeth yn ei law wedi ei estyn tua Jerwsalem. A syrthiodd Dafydd a’r henuriaid, y rhai oedd wedi ymwisgo mewn sachliain, ar eu hwynebau. 17 A Dafydd a ddywedodd wrth Dduw, Onid myfi a ddywedais am gyfrif y bobl? a mi yw yr hwn a bechais, ac a wneuthum fawr ddrwg; ond y defaid hyn, beth a wnaethant hwy? O Arglwydd fy Nuw, bydded, atolwg, dy law arnaf fi, ac ar dŷ fy nhad, ac nid yn bla ar dy bobl.
18 Yna angel yr Arglwydd a archodd i Gad ddywedyd wrth Dafydd, am fyned o Dafydd i fyny i gyfodi allor i’r Arglwydd yn llawr dyrnu Ornan y Jebusiad. 19 A Dafydd a aeth i fyny, yn ôl gair Gad, yr hwn a lefarasai efe yn enw yr Arglwydd. 20 Yna y trodd Ornan, ac a ganfu yr angel, a’i bedwar mab gydag ef a ymguddiasant; ac Ornan oedd yn dyrnu gwenith. 21 A Dafydd a ddaeth at Ornan; ac edrychodd Ornan, ac a ganfu Dafydd, ac a aeth allan o’r llawr dyrnu, ac a ymgrymodd i Dafydd, â’i wyneb tua’r ddaear. 22 A dywedodd Dafydd wrth Ornan, Moes i mi le y llawr dyrnu, fel yr adeiladwyf ynddo allor i’r Arglwydd: dyro ef i mi am ei lawn werth; fel yr atalier y pla oddi wrth y bobl. 23 Ac Ornan a ddywedodd wrth Dafydd, Cymer i ti, a gwnaed fy arglwydd frenin yr hyn fyddo da yn ei olwg. Wele, rhoddaf yr ychen yn boethoffrwm, a’r offer dyrnu yn gynnud, a’r gwenith yn fwyd‐offrwm: hyn oll a roddaf. 24 A’r brenin Dafydd a ddywedodd wrth Ornan, Nid felly, ond gan brynu y prynaf ef am ei lawn werth: canys ni chymeraf i’r Arglwydd yr eiddot ti, ac nid offrymaf boethoffrwm yn rhad. 25 Felly y rhoddes Dafydd i Ornan am y lle chwe chan sicl o aur wrth bwys. 26 Ac yno yr adeiladodd Dafydd allor i’r Arglwydd, ac a offrymodd boethoffrymau, ac ebyrth hedd, ac a alwodd ar yr Arglwydd; ac efe a’i hatebodd ef o’r nefoedd trwy dân ar allor y poethoffrwm. 27 A dywedodd yr Arglwydd wrth yr angel; ac yntau a roes ei gleddyf yn ei wain drachefn.
28 Y pryd hwnnw, pan ganfu Dafydd ddarfod i’r Arglwydd wrando arno ef yn llawr dyrnu Ornan y Jebusiad, efe a aberthodd yno. 29 Ond tabernacl yr Arglwydd, yr hon a wnaethai Moses yn yr anialwch, ac allor y poethoffrwm, oedd y pryd hwnnw yn yr uchelfa yn Gibeon: 30 Ac ni allai Dafydd fyned o’i blaen hi i ymofyn â Duw; canys ofnasai rhag cleddyf angel yr Arglwydd.
22 A Dywedodd Dafydd, Hwn yw tŷ yr Arglwydd Dduw, a dyma allor y poethoffrwm i Israel. 2 Dywedodd Dafydd hefyd am gasglu y dieithriaid oedd yn nhir Israel; ac efe a osododd seiri meini i naddu cerrig nadd, i adeiladu tŷ Dduw. 3 A pharatôdd Dafydd haearn yn helaeth, tuag at hoelion drysau y pyrth, ac i’r cysylltiadau, a phres mor helaeth ag nad oedd arno bwys; 4 Coed cedr hefyd allan o rif: canys y Sidoniaid a’r Tyriaid a ddygent gedrwydd lawer i Dafydd. 5 A dywedodd Dafydd, Solomon fy mab sydd ieuanc a thyner, a’r tŷ a adeiledir i’r Arglwydd, rhaid iddo fod mewn mawredd, mewn rhagoriaeth, mewn enw, ac mewn gogoniant, trwy yr holl wledydd: paratoaf yn awr tuag ato ef. Felly y paratôdd Dafydd yn helaeth cyn ei farwolaeth.
6 Ac efe a alwodd ar Solomon ei fab, ac a orchmynnodd iddo adeiladu tŷ i Arglwydd Dduw Israel. 7 Dywedodd Dafydd hefyd wrth Solomon, Fy mab, yr oedd yn fy mryd i adeiladu tŷ i enw yr Arglwydd fy Nuw. 8 Eithr gair yr Arglwydd a ddaeth ataf fi, gan ddywedyd, Gwaed lawer a dywelltaist ti, a rhyfeloedd mawrion a wnaethost ti: nid adeiledi di dŷ i’m henw i, canys gwaed lawer a dywelltaist ar y ddaear yn fy ngŵydd i. 9 Wele, mab a enir i ti, efe a fydd ŵr llonydd, a mi a roddaf lonyddwch iddo ef gan ei holl elynion o amgylch: canys Solomon fydd ei enw ef, heddwch hefyd a thangnefedd a roddaf i Israel yn ei ddyddiau ef. 10 Efe a adeilada dŷ i’m henw, ac efe a fydd i mi yn fab, a minnau yn dad iddo yntau: sicrhaf hefyd orseddfa ei frenhiniaeth ef ar Israel byth. 11 Yn awr fy mab, yr Arglwydd fyddo gyda thi, a ffynna dithau, ac adeilada dŷ yr Arglwydd dy Dduw, megis ag y llefarodd efe amdanat ti. 12 Yn unig rhodded yr Arglwydd i ti ddoethineb, a deall, a rhodded i ti orchmynion am Israel, fel y cadwech gyfraith yr Arglwydd dy Dduw. 13 Yna y ffynni, os gwyli ar wneuthur y deddfau a’r barnedigaethau a orchmynnodd yr Arglwydd i Moses am Israel. Ymgryfha, ac ymwrola; nac ofna, ac nac arswyda. 14 Ac wele, yn fy nhlodi y paratoais i dŷ yr Arglwydd gan mil o dalentau aur, a mil o filoedd o dalentau arian; ar bres hefyd, ac ar haearn, nid oes bwys; canys y mae yn helaeth: coed hefyd a meini a baratoais i; ychwanega dithau atynt hwy. 15 Hefyd y mae yn aml gyda thi weithwyr gwaith, sef cymynwyr, a seiri maen a phren, a phob rhai celfydd ym mhob gwaith. 16 Ar aur, ar arian, ar bres, ac ar haearn, nid oes rifedi. Cyfod dithau, a gweithia, a’r Arglwydd a fydd gyda thi.
17 A Dafydd a orchmynnodd i holl dywysogion Israel gynorthwyo Solomon ei fab, gan ddywedyd, 18 Onid yw yr Arglwydd eich Duw gyda chwi? ac oni roddes efe lonyddwch i chwi oddi amgylch? canys rhoddes yn fy llaw i drigolion y tir; a’r tir a ddarostyngwyd o flaen yr Arglwydd, ac o flaen ei bobl ef. 19 Yn awr rhoddwch eich calon a’ch enaid i geisio yr Arglwydd eich Duw; cyfodwch hefyd, ac adeiledwch gysegr yr Arglwydd Dduw, i ddwyn arch cyfamod yr Arglwydd, a sanctaidd lestri Duw, i’r tŷ a adeiledir i enw yr Arglwydd.
23 A phan oedd Dafydd yn hen, ac yn llawn o ddyddiau, efe a osododd Solomon ei fab yn frenin ar Israel.
2 Ac efe a gynullodd holl dywysogion Israel, a’r offeiriaid, a’r Lefiaid. 3 A’r Lefiaid a gyfrifwyd o fab deng mlwydd ar hugain, ac uchod: a’u nifer hwy wrth eu pennau, bob yn ŵr, oedd onid dwy fil deugain. 4 O’r rhai yr oedd pedair mil ar hugain i oruchwylio ar waith tŷ yr Arglwydd; ac yn swyddogion, ac yn farnwyr, chwe mil: 5 A phedair mil yn borthorion, a phedair mil yn moliannu yr Arglwydd â’r offer a wnaethwn i, ebe Dafydd, i foliannu. 6 A dosbarthodd Dafydd hwynt yn ddosbarthiadau ymysg meibion Lefi, sef Gerson, Cohath, a Merari.
7 O’r Gersoniaid yr oedd Laadan a Simei. 8 Meibion Laadan; y pennaf Jehiel, a Setham, a Joel, tri. 9 Meibion Simei; Selomith, a Hasiel, a Haran, tri. Y rhai hyn oedd bennau‐cenedl Laadan. 10 Meibion Simei hefyd oedd, Jahath, Sina, a Jeus, a Bereia. Dyma bedwar mab Simei. 11 A Jahath oedd bennaf, a Sisa yn ail: ond Jeus a Bereia nid oedd nemor o feibion iddynt; am hynny yr oeddynt hwy yn un cyfrif wrth dŷ eu tad.
12 Meibion Cohath; Amram, Ishar, Hebron, ac Ussiel, pedwar. 13 Meibion Amram oedd, Aaron a Moses; ac Aaron a neilltuwyd i sancteiddio y cysegr sancteiddiolaf, efe a’i feibion byth, i arogldarthu gerbron yr Arglwydd, i’w wasanaethu ef, ac i fendigo yn ei enw ef yn dragywydd. 14 A Moses gŵr Duw, ei feibion ef a alwyd yn llwyth Lefi. 15 Meibion Moses oedd, Gersom ac Elieser. 16 O feibion Gersom; Sebuel oedd y pennaf. 17 A meibion Elieser oedd, Rehabia y cyntaf. Ac i Elieser nid oedd meibion eraill; ond meibion Rehabia a amlhasant yn ddirfawr. 18 O feibion Ishar; Selomith y pennaf. 19 O feibion Hebron; Jereia y cyntaf, Amareia yr ail, Jahasiel y trydydd, a Jecameam y pedwerydd. 20 O feibion Ussiel; Micha y cyntaf, a Jeseia yr ail.
21 Meibion Merari oedd, Mahli a Musi. Meibion Mahli; Eleasar a Chis. 22 A bu farw Eleasar, a meibion nid oedd iddo ef, ond merched; a meibion Cis eu brodyr a’u priododd hwynt. 23 Meibion Musi; Mahli, ac Eder a Jerimoth, tri.
24 Dyma feibion Lefi, yn ôl tŷ eu tadau, pennau eu cenedl, wrth eu rhifedi, dan nifer eu henwau wrth eu pennau, y rhai oedd yn gwneuthur y gwaith i wasanaeth tŷ yr Arglwydd, o fab ugain mlwydd ac uchod. 25 Canys dywedodd Dafydd, Arglwydd Dduw Israel a roddes lonyddwch i’w bobl, i aros yn Jerwsalem byth; 26 A hefyd i’r Lefiaid: ni ddygant mwyach y tabernacl, na dim o’i lestri, i’w wasanaeth ef. 27 Canys yn ôl geiriau diwethaf Dafydd y cyfrifwyd meibion Lefi, o fab ugain mlwydd ac uchod: 28 A’u gwasanaeth hwynt oedd i fod wrth law meibion Aaron yng ngweinidogaeth tŷ yr Arglwydd, yn y cynteddau, ac yn y celloedd, ac ym mhuredigaeth pob sancteiddbeth, ac yng ngwaith gweinidogaeth tŷ Dduw; 29 Yn y bara gosod hefyd, ac ym mheilliaid y bwyd‐offrwm, ac yn y teisennau croyw, yn y radell hefyd, ac yn y badell ffrio, ac ym mhob mesur a meidroldeb: 30 Ac i sefyll bob bore i foliannu ac i ogoneddu yr Arglwydd, felly hefyd brynhawn: 31 Ac i offrymu pob offrwm poeth i’r Arglwydd ar y Sabothau, ar y newyddloerau, ac ar y gwyliau gosodedig, wrth rifedi, yn ôl y ddefod sydd arnynt yn wastadol gerbron yr Arglwydd: 32 Ac i gadw goruchwyliaeth pabell y cyfarfod, a goruchwyliaeth y cysegr, a goruchwyliaeth meibion Aaron eu brodyr, yng ngwasanaeth tŷ yr Arglwydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.