Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Historical

Read the books of the Bible as they were written historically, according to the estimated date of their writing.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Cronicl 16-17

16 Felly y dygasant hwy arch Duw i mewn, ac a’i gosodasant hi yng nghanol y babell a osodasai Dafydd iddi hi: a hwy a offrymasant offrymau poeth ac ebyrth hedd gerbron Duw. Ac wedi i Dafydd orffen aberthu offrymau poeth ac ebyrth hedd, efe a fendithiodd y bobl yn enw yr Arglwydd. Ac efe a rannodd i bob un o Israel, yn ŵr ac yn wraig, dorth o fara, a dryll o gig, a chostrelaid o win.

Ac efe a osododd gerbron arch yr Arglwydd weinidogion o’r Lefiaid, i gofio, ac i foliannu, ac i glodfori Arglwydd Dduw Israel. Asaff oedd bennaf, ac yn ail iddo ef Sechareia, Jeiel, a Semiramoth, a Jehiel, a Matitheia, ac Eliab, a Benaia, ac Obed‐edom: a Jeiel ag offer nablau, a thelynau; ac Asaff oedd yn lleisio â symbalau. Benaia hefyd a Jahasiel yr offeiriaid oedd ag utgyrn yn wastadol o flaen arch cyfamod Duw.

Yna y dydd hwnnw y rhoddes Dafydd y salm hon yn gyntaf i foliannu yr Arglwydd, yn llaw Asaff a’i frodyr. Moliennwch yr Arglwydd, gelwch ar ei enw ef, hysbyswch ei weithredoedd ef ymhlith y bobloedd. Cenwch iddo, clodforwch ef, ymadroddwch am ei holl ryfeddodau. 10 Ymlawenychwch yn ei enw sanctaidd ef; ymhyfryded calon y sawl a geisiant yr Arglwydd. 11 Ceiswch yr Arglwydd a’i nerth ef, ceisiwch ei wyneb ef yn wastadol. 12 Cofiwch ei wyrthiau y rhai a wnaeth efe, ei ryfeddodau, a barnedigaethau ei enau; 13 Chwi had Israel ei was ef, chwi feibion Jacob ei etholedigion ef. 14 Efe yw yr Arglwydd ein Duw ni; ei farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear. 15 Cofiwch yn dragywydd ei gyfamod; y gair a orchmynnodd efe i fil o genedlaethau; 16 Yr hwn a gyfamododd efe ag Abraham, a’i lw i Isaac: 17 Ac a osododd efe yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel, 18 Gan ddywedyd, I ti y rhoddaf dir Canaan, rhandir eich etifeddiaeth. 19 Pan nad oeddech ond ychydig, ie, ychydig, a dieithriaid ynddi; 20 A phan rodient o genhedlaeth i genhedlaeth, ac o un frenhiniaeth at bobl eraill; 21 Ni adawodd efe i neb eu gorthrymu: ond efe a geryddodd frenhinoedd o’u plegid hwy, gan ddywedyd, 22 Na chyffyrddwch â’m heneiniog, ac na ddrygwch fy mhroffwydi. 23 Cenwch i’r Arglwydd yr holl ddaear: mynegwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef. 24 Adroddwch ei ogoniant ef ymhlith y cenhedloedd; a’i wyrthiau ymhlith yr holl bobloedd. 25 Canys mawr yw yr Arglwydd, a chanmoladwy iawn: ofnadwy hefyd yw efe goruwch yr holl dduwiau. 26 Oherwydd holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod; ond yr Arglwydd a wnaeth y nefoedd. 27 Gogoniant a harddwch sydd ger ei fron ef: nerth a gorfoledd yn ei fangre ef. 28 Moeswch i’r Arglwydd, chwi deuluoedd y bobloedd, moeswch i’r Arglwydd ogoniant a nerth. 29 Moeswch i’r Arglwydd ogoniant ei enw: dygwch aberth, a deuwch ger ei fron ef; ymgrymwch i’r Arglwydd mewn prydferthwch sancteiddrwydd. 30 Ofnwch rhagddo ef yr holl ddaear: y byd hefyd a sicrheir, fel na syflo. 31 Ymlawenyched y nefoedd, ac ymhyfryded y ddaear; a dywedant ymhlith y cenhedloedd, Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu. 32 Rhued y môr a’i gyflawnder; llawenhaed y maes, a’r hyn oll y sydd ynddo. 33 Yna prennau y coed a ganant o flaen yr Arglwydd, am ei fod yn dyfod i farnu y ddaear. 34 Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. 35 A dywedwch, Achub ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth, casgl ni hefyd, a gwared ni oddi wrth y cenhedloedd, i foliannu dy enw sanctaidd di, ac i ymogoneddu yn dy foliant. 36 Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. A dywedodd yr holl bobl, Amen, gan foliannu yr Arglwydd.

37 Ac efe a adawodd yno, o flaen arch cyfamod yr Arglwydd, Asaff a’i frodyr, i weini gerbron yr arch yn wastadol, gwaith dydd yn ei ddydd: 38 Ac Obed‐edom a’u brodyr, wyth a thrigain; Obed‐edom hefyd mab Jeduthun, a Hosa, i fod yn borthorion: 39 Sadoc yr offeiriad, a’i frodyr yr offeiriaid, o flaen tabernacl yr Arglwydd, yn yr uchelfa oedd yn Gibeon, 40 I offrymu poethoffrymau i’r Arglwydd ar allor y poethoffrwm yn wastadol fore a hwyr, yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig yng nghyfraith yr Arglwydd, yr hon a orchmynnodd efe i Israel: 41 A chyda hwynt Heman, a Jedwthwn, a’r etholedigion eraill, y rhai a hysbysasid wrth eu henwau, i foliannu yr Arglwydd, am fod ei drugaredd ef yn dragywydd: 42 A chyda hwynt Heman, a Jedwthwn, yn lleisio ag utgyrn, ac â symbalau i’r cerddorion, ac offer cerdd Duw: a meibion Jedwthwn oedd wrth y porth. 43 A’r holl bobl a aethant bob un i’w dŷ ei hun: a Dafydd a ddychwelodd i fendigo ei dŷ yntau.

17 A phan oedd Dafydd yn trigo yn ei dŷ, Dafydd a ddywedodd wrth Nathan y proffwyd, Wele fi yn trigo mewn tŷ o gedrwydd, ac arch cyfamod yr Arglwydd dan gortynnau. Yna Nathan a ddywedodd wrth Dafydd, Gwna yr hyn oll sydd yn dy galon; canys y mae Duw gyda thi.

A’r noson honno y daeth gair Duw at Nathan, gan ddywedyd, Dos, a dywed wrth Dafydd fy ngwas, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Nid adeiledi di i mi dŷ i breswylio ynddo. Canys ni phreswyliais i mewn tŷ er y dydd y dygais i fyny Israel hyd y dydd hwn, ond bûm o babell i babell, ac o dabernacl bwygilydd. Ym mha le bynnag y rhodiais gyda holl Israel, a yngenais i air wrth un o farnwyr Israel, i’r rhai y gorchmynaswn borthi fy mhobl, gan ddywedyd, Paham nad adeiladasoch i mi dŷ o gedrwydd? Ac yr awr hon fel hyn y dywedi wrth Dafydd fy ngwas, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Myfi a’th gymerais di o’r gorlan, oddi ar ôl y praidd, i fod yn dywysog ar fy mhobl Israel. A bûm gyda thi, i ba le bynnag y rhodiaist, torrais ymaith hefyd dy holl elynion o’th flaen, a gwneuthum enw i ti megis enw y gwŷr mawr sydd ar y ddaear. Gosodaf hefyd i’m pobl Israel le, ac a’u plannaf, a hwy a drigant yn eu lle, ac ni symudir hwynt mwyach; a meibion anwiredd ni chwanegant eu cystuddio, megis yn y cyntaf, 10 Ac er y dyddiau y gorchmynnais i farnwyr fod ar fy mhobl Israel; darostyngaf hefyd dy holl elynion di, a mynegaf i ti yr adeilada yr Arglwydd i ti dŷ.

11 A bydd pan gyflawner dy ddyddiau di i fyned at dy dadau, y cyfodaf dy had ar dy ôl di, yr hwn a fydd o’th feibion di, a mi a sicrhaf ei deyrnas ef. 12 Efe a adeilada i mi dŷ, a minnau a sicrhaf ei deyrngadair ef byth. 13 Myfi a fyddaf iddo ef yn dad, ac yntau fydd i mi yn fab, a’m trugaredd ni thynnaf oddi wrtho ef, megis y tynnais oddi wrth yr hwn a fu o’th flaen di. 14 Ond mi a’i gosodaf ef yn fy nhŷ, ac yn fy nheyrnas byth; a’i deyrngadair ef a sicrheir byth. 15 Yn ôl yr holl eiriau hyn, ac yn ôl yr holl weledigaeth hon, felly y llefarodd Nathan wrth Dafydd.

16 A daeth Dafydd y brenin, ac a eisteddodd gerbron yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Pwy ydwyf fi, O Arglwydd Dduw, a pheth yw fy nhŷ, pan ddygit fi hyd yma? 17 Eto bychan yw hyn yn dy olwg di, O Dduw; canys dywedaist am dŷ dy was dros hir o amser, a thi a edrychaist arnaf, O Arglwydd Dduw, fel ar gyflwr dyn uchelradd. 18 Pa beth a chwanega Dafydd ei ddywedyd wrthyt mwyach am anrhydedd dy was? canys ti a adwaenost dy was. 19 O Arglwydd, er mwyn dy was, ac yn ôl dy feddwl dy hun, y gwnaethost yr holl fawredd hyn, i ddangos pob mawredd. 20 O Arglwydd, nid oes neb fel tydi, ac nid oes Duw ond tydi, yn ôl yr hyn oll a glywsom â’n clustiau. 21 A pha un genedl ar y ddaear sydd megis dy bobl Israel, yr hon yr aeth Duw i’w gwaredu yn bobl iddo ei hun, i osod i ti enw mawr ac ofnadwy, gan fwrw allan genhedloedd o flaen dy bobl, y rhai a waredaist ti o’r Aifft? 22 Ti hefyd a wnaethost dy bobl Israel yn bobl i ti byth: a thi, Arglwydd, a aethost yn Dduw iddynt hwy. 23 Am hynny yr awr hon, Arglwydd, y gair a leferaist am dy was, ac am ei dŷ ef, poed sicr fyddo byth: gwna fel y lleferaist. 24 A phoed sicr fyddo, fel y mawrhaer dy enw yn dragywydd, gan ddywedyd, Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, sydd Dduw i Israel: a bydded tŷ Dafydd dy was yn sicr ger dy fron di. 25 Canys ti, O fy Nuw, a ddywedaist i’th was, yr adeiladit ti dŷ iddo ef: am hynny y cafodd dy was weddïo ger dy fron di. 26 Ac yr awr hon, Arglwydd, ti ydwyt Dduw, a thi a leferaist am dŷ dy was, y daioni hwn; 27 Yn awr gan hynny bid wiw gennyt fendigo tŷ dy was, i fod ger dy fron yn dragywydd: am i ti, O Arglwydd, ei fendigo, bendigedig fydd yn dragywydd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.