Historical
12 Dyma hefyd yr offeiriaid a’r Lefiaid, y rhai a ddaethant i fyny gyda Sorobabel mab Salathiel, a Jesua: sef Seraia, Jeremeia, Esra, 2 Amareia, Maluch, Hattus, 3 Sechaneia, Rehum, Meremoth, 4 Ido, Ginnetho, Abeia, 5 Miamin, Maadia, Bilga, 6 Semaia, a Joiarib, Jedaia, 7 Salu, Amoc, Hilceia, Jedaia: dyma benaethiaid yr offeiriaid a’u brodyr yn nyddiau Jesua. 8 A’r Lefiaid: Jesua, Binnui, Cadmiel, Serebeia, Jwda; a Mataneia oedd ar y gerdd, efe a’i frodyr. 9 Bacbuceia hefyd ac Unni, eu brodyr hwynt, oedd ar eu cyfer yn y gwyliadwriaethau.
10 A Jesua a genhedlodd Joiacim, a Joiacim a genhedlodd Eliasib, ac Eliasib a genhedlodd Joiada, 11 A Joiada a genhedlodd Jonathan, a Jonathan a genhedlodd Jadua. 12 Ac yn nyddiau Joiacim, yr offeiriaid hyn oedd bennau‐cenedl: o Seraia, Meraia; o Jeremeia, Hananei; 13 O Esra, Mesulam; o Amareia Jehohanan; 14 O Melichu, Jonathan; o Sebaneia, Joseff; 15 O Harim, Adna; o Meraioth, Helcai; 16 O Ido, Sechareia; o Ginnethon, Mesulam; 17 O Abeia, Sichri; o Miniamin, o Moadeia, Piltai; 18 O Bilga, Sammua; o Semaia, Jehonathan; 19 Ac o Joiarib, Matenai; o Jedaia, Ussi; 20 O Salai, Calai; o Amoc, Eber; 21 O Hilceia, Hasabeia: o Jedaia, Nethaneel.
22 Y Lefiaid yn nyddiau Eliasib, Joiada, a Johanan, a Jadua, oedd wedi eu hysgrifennu yn bennau‐cenedl: a’r offeiriaid, hyd deyrnasiad Dareius y Persiad. 23 Meibion Lefi, y pennau‐cenedl, wedi eu hysgrifennu yn llyfr y croniclau, hyd ddyddiau Johanan mab Eliasib. 24 A phenaethiaid y Lefiaid, oedd Hasabeia, Serebeia, a Jesua mab Cadmiel, a’u brodyr ar eu cyfer, i ogoneddu ac i foliannu, yn ôl gorchymyn Dafydd gŵr Duw, gwyliadwriaeth ar gyfer gwyliadwriaeth. 25 Mataneia, a Bacbuceia, Obadeia, Mesulam, Talmon, Accub, oedd borthorion, yn cadw gwyliadwriaeth wrth drothwyau y pyrth. 26 Y rhai hyn oedd yn nyddiau Joiacim mab Jesua, fab Josadac, ac yn nyddiau Nehemeia y tywysog, ac Esra yr offeiriad a’r ysgrifennydd.
27 Ac yng nghysegriad mur Jerwsalem y ceisiasant y Lefiaid o’u holl leoedd, i’w dwyn i Jerwsalem, i wneuthur y cysegriad â gorfoledd, mewn diolchgarwch, ac mewn cân, â symbalau, nablau, ac â thelynau. 28 A meibion y cantorion a ymgynullasant o’r gwastadedd o amgylch i Jerwsalem, ac o drefydd Netoffathi, 29 Ac o dŷ Gilgal, ac o feysydd Geba ac Asmafeth: canys y cantorion a adeiladasent bentrefi iddynt o amgylch Jerwsalem. 30 Yr offeiriaid hefyd a’r Lefiaid a ymlanhasant; glanhasant hefyd y bobl, a’r pyrth, a’r mur. 31 A mi a berais i dywysogion Jwda ddringo ar y mur; a gosodais ddwy fintai fawr o rai yn moliannu; a mynediad y naill oedd ar y llaw ddeau ar y mur tua phorth y dom: 32 Ac ar eu hôl hwynt yr aeth Hosaia, a hanner tywysogion Jwda, 33 Asareia hefyd, Esra, a Mesulam, 34 Jwda, a Benjamin, a Semaia, a Jeremeia, 35 Ac o feibion yr offeiriaid ag utgyrn, Sechareia mab Jonathan, fab Semaia, fab Mataneia, fab Michaia, fab Saccur, fab Asaff; 36 A’i frodyr ef, Semaia, ac Asarael, Milalai, Gilalai, Maai, Nethaneel, a Jwda, Hanani, ag offer cerdd Dafydd gŵr Duw, ac Esra yr ysgrifennydd o’u blaen hwynt. 37 Ac wrth borth y ffynnon, yr hon oedd ar eu cyfer hwynt, y dringasant ar risiau dinas Dafydd yn nringfa y mur, oddi ar dŷ Dafydd, hyd borth y dwfr tua’r dwyrain. 38 A’r ail fintai o’r rhai oedd yn moliannu, oedd yn myned ar eu cyfer hwynt, a minnau ar eu hôl; a hanner y bobl oedd ar y mur, oddi ar dŵr y ffyrnau, hyd y mur llydan; 39 Ac oddi ar borth Effraim, ac oddi ar yr hen borth, ac oddi ar borth y pysgod, a thŵr Hananeel, a thŵr Mea, hyd borth y defaid; a hwy a safasant ym mhorth yr wyliadwriaeth. 40 Felly y ddwy fintai, y rhai oedd yn moliannu, a safasant yn nhŷ Dduw, a minnau, a hanner y swyddogion gyda mi: 41 Yr offeiriaid hefyd; Eliacim, Maaseia, Miniamin, Michaia, Elioenai, Sechareia, Hananeia, ag utgyrn: 42 Maaseia hefyd, a Semaia, ac Eleasar, ac Ussi, a Jehohanan, a Malcheia, ac Elam, ac Esra. A’r cantorion a ganasant yn groch, a Jasraheia eu blaenor. 43 A’r diwrnod hwnnw yr aberthasant ebyrth mawrion, ac y llawenhasant: canys Duw a’u llawenychasai hwynt â llawenydd mawr: y gwragedd hefyd a’r plant a orfoleddasant: fel y clybuwyd llawenydd Jerwsalem hyd ymhell.
44 A’r dwthwn hwnnw y gosodwyd gwŷr ar gelloedd y trysorau, ar yr offrymau, ar y blaenffrwyth, ac ar y degymau, i gasglu iddynt hwy o feysydd y dinasoedd y rhannau cyfreithlon i’r offeiriaid a’r Lefiaid: canys llawenydd Jwda oedd ar yr offeiriaid ac ar y Lefiaid y rhai oedd yn sefyll yno. 45 Y cantorion hefyd a’r porthorion a gadwasant wyliadwriaeth eu Duw, a gwyliadwriaeth y glanhad, yn ôl gorchymyn Dafydd, a Solomon ei fab. 46 Canys gynt, yn nyddiau Dafydd ac Asaff, yr oedd y pen‐cantorion, a chaniadau canmoliaeth a moliant i Dduw. 47 Ac yn nyddiau Sorobabel, ac yn nyddiau Nehemeia, holl Israel oedd yn rhoddi rhannau i’r cantorion, a’r porthorion, dogn dydd yn ei ddydd: a hwy a gysegrasant bethau sanctaidd i’r Lefiaid; a’r Lefiaid a’u cysegrasant i feibion Aaron.
13 Y dwthwn hwnnw y darllenwyd yn llyfr Moses lle y clybu’r bobl; a chafwyd yn ysgrifenedig ynddo, na ddylai yr Ammoniad na’r Moabiad ddyfod i gynulleidfa Duw yn dragywydd; 2 Am na chyfarfuasent â meibion Israel â bara ac â dwfr, eithr cyflogasent Balaam yn eu herbyn i’w melltithio hwynt: eto ein Duw ni a drodd y felltith yn fendith. 3 A phan glywsant hwy y gyfraith, hwy a neilltuasant yr holl rai cymysg oddi wrth Israel.
4 Ac o flaen hyn, Eliasib yr offeiriad, yr hwn a osodasid ar ystafell tŷ ein Duw ni, oedd gyfathrachwr i Tobeia: 5 Ac efe a wnaeth iddo ef ystafell fawr; ac yno y byddent o’r blaen yn rhoddi y bwyd‐offrymau, y thus, a’r llestri, a degwm yr ŷd, y gwin, a’r olew, a orchmynasid eu rhoddi i’r Lefiaid, a’r cantorion, a’r porthorion, ac offrymau yr offeiriaid. 6 Ac yn hyn i gyd o amser ni bûm i yn Jerwsalem: canys yn y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i Artacsercses brenin Babilon y deuthum i at y brenin, ac ymhen talm o ddyddiau y cefais gennad gan y brenin; 7 Ac a ddeuthum i Jerwsalem, ac a ddeellais y drygioni a wnaethai Eliasib er Tobeia, gan wneuthur iddo ystafell yng nghynteddoedd tŷ Dduw. 8 A bu ddrwg iawn gennyf; am hynny mi a fwriais holl ddodrefn tŷ Tobeia allan o’r ystafell. 9 Erchais hefyd iddynt lanhau yr ystafelloedd: a mi a ddygais yno drachefn lestri tŷ Dduw, yr offrwm a’r thus.
10 Gwybûm hefyd fod rhannau y Lefiaid heb eu rhoddi iddynt: canys ffoesai y Lefiaid a’r cantorion, y rhai oedd yn gwneuthur y gwaith, bob un i’w faes. 11 Yna y dwrdiais y swyddogion, ac y dywedais, Paham y gwrthodwyd tŷ Dduw? A mi a’u cesglais hwynt ynghyd, ac a’u gosodais yn eu lle. 12 Yna holl Jwda a ddygasant ddegwm yr ŷd, a’r gwin, a’r olew, i’r trysordai. 13 A mi a wneuthum yn drysorwyr ar y trysorau, Selemeia yr offeiriad, a Sadoc yr ysgrifennydd, a Phedaia, o’r Lefiaid: a cherllaw iddynt hwy yr oedd Hanan mab Saccur, mab Mataneia: canys ffyddlon y cyfrifid hwynt, ac arnynt hwy yr oedd rhannu i’w brodyr. 14 Cofia fi, fy Nuw oherwydd hyn; ac na ddilea fy ngharedigrwydd a wneuthum i dŷ fy Nuw, ac i’w wyliadwriaethau ef.
15 Yn y dyddiau hynny y gwelais yn Jwda rai yn sengi gwinwryfau ar y Saboth, ac yn dwyn i mewn ysgubau ŷd, ac yn llwytho asynnod, gwin hefyd, a grawnwin, a ffigys, a phob beichiau, ac yn eu dwyn i Jerwsalem ar y dydd Saboth: a mi a dystiolaethais yn eu herbyn ar y dydd y gwerthasant luniaeth. 16 Y Tyriaid hefyd oedd yn trigo ynddi, ac yn dwyn pysgod, a phob peth gwerthadwy, y rhai yr oeddynt hwy yn eu gwerthu ar y Saboth i feibion Jwda, ac yn Jerwsalem. 17 Yna y dwrdiais bendefigion Jwda, ac y dywedais wrthynt, Pa beth drygionus yw hwn yr ydych chwi yn ei wneuthur, gan halogi’r dydd Saboth? 18 Onid fel hyn y gwnaeth eich tadau chwi? ac oni ddug ein Duw ni yr holl ddrwg hyn arnom ni, ac ar y ddinas hon? a chwithau ydych yn ychwanegu digofaint ar Israel, trwy halogi’r Saboth. 19 A phan dywyllasai pyrth Jerwsalem cyn y Saboth, yr erchais gau’r dorau, ac a orchmynnais nad agorid hwynt hyd wedi’r Saboth: a mi a osodais rai o’m gweision wrth y pyrth, fel na ddelai baich i mewn ar ddydd y Saboth. 20 Felly y marchnadwyr, a gwerthwyr pob peth gwerthadwy, a letyasant o’r tu allan i Jerwsalem unwaith neu ddwy. 21 A mi a dystiolaethais yn eu herbyn hwynt, ac a ddywedais wrthynt, Paham yr ydych chwi yn aros dros nos wrth y mur? os gwnewch eilwaith, mi a estynnaf fy llaw i’ch erbyn. O’r pryd hwnnw ni ddaethant ar y Saboth mwyach. 22 A mi a ddywedais wrth y Lefiaid, am iddynt ymlanhau, a dyfod i gadw y pyrth, gan sancteiddio’r dydd Saboth. Am hyn hefyd cofia fi, fy Nuw, ac arbed fi yn ôl lliaws dy drugaredd.
23 Yn y dyddiau hynny hefyd y gwelais Iddewon a briodasent Asdodesau, Ammonesau, a Moabesau, yn wragedd iddynt: 24 A’u plant hwy oedd yn llefaru y naill hanner o’r Asdodeg, ac heb fedru ymddiddan yn iaith yr Iddewon, ond yn ôl tafodiaith y ddeubar bobl. 25 Yna yr ymrysonais â hwynt, ac y melltithiais hwynt; trewais hefyd rai ohonynt, ac a bliciais eu gwallt hwynt: a mi a’u tyngais hwynt trwy Dduw, gan ddywedyd, Na roddwch eich merched i’w meibion hwynt, ac na chymerwch o’u merched hwynt i’ch meibion, nac i chwi eich hunain. 26 Onid o achos y rhai hyn y pechodd Solomon brenin Israel? er na bu brenin cyffelyb iddo ef ymysg cenhedloedd lawer, yr hwn oedd hoff gan ei Dduw, a Duw a’i gwnaeth ef yn frenin ar holl Israel; eto gwragedd dieithr a wnaethant iddo ef bechu. 27 Ai arnoch chwi y gwrandawn, i wneuthur yr holl ddrygioni mawr hwn, gan droseddu yn erbyn ein Duw, trwy briodi gwragedd dieithr? 28 Ac un o feibion Joiada, mab Eliasib yr archoffeiriad, oedd ddaw i Sanbalat yr Horoniad: yr hwn a ymlidiais i oddi wrthyf. 29 O fy Nuw, cofia hwynt, am iddynt halogi’r offeiriadaeth, a chyfamod yr offeiriadaeth, a’r Lefiaid. 30 Yna y glanheais hwynt oddi wrth bob estron; gosodais hefyd oruchwyliaethau i’r offeiriaid ac i’r Lefiaid, pob un yn ei waith; 31 Ac at goed yr offrwm mewn amserau nodedig, ac at y blaenffrwythau. Cofia fi, O fy Nuw, er daioni.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.