Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Historical

Read the books of the Bible as they were written historically, according to the estimated date of their writing.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Esra 6-7

Yna y brenin Dareius a osododd orchymyn; a chwiliwyd yn nhŷ y llyfrau, lle y cedwid y trysorau yn Babilon. A chafwyd yn Achmetha, yn y llys yn nhalaith Media, ryw lyfr, ac fel hyn yr ysgrifenasid ynddo yn goffadwriaeth: Yn y flwyddyn gyntaf i’r brenin Cyrus y gosododd y brenin Cyrus orchymyn am dŷ Dduw o fewn Jerwsalem, Adeilader y tŷ, y fan lle yr aberthent aberthau, a gwnaer yn gadarn ei sylfeini; yn drigain cufydd ei uchder, ac yn drigain cufydd ei led: Yn dair rhes o feini mawr, a rhes o goed newydd: a rhodder y draul o dŷ y brenin. A llestri tŷ Dduw hefyd, yn aur ac yn arian, y rhai a ddug Nebuchodonosor o’r deml yn Jerwsalem, ac a ddug efe adref i Babilon, rhodder hwynt i’w dwyn i’r deml yn Jerwsalem, i’w lle, a gosoder hwynt yn nhŷ Dduw. Yn awr Tatnai tywysog y tu hwnt i’r afon, Setharbosnai, a’ch cyfeillion yr Affarsachiaid, y rhai ydych o’r tu hwnt i’r afon, ciliwch oddi yno. Gadewch yn llonydd waith y tŷ Dduw hwn: adeiladed tywysogion a henuriaid yr Iddewon y tŷ hwn i Dduw yn ei le. Gosodais hefyd orchymyn am yr hyn a wnewch i henuriaid yr Iddewon hyn wrth adeiladu y tŷ Dduw hwn; mai o gyfoeth y brenin, sef o’r deyrnged o’r tu hwnt i’r afon, y rhoddir traul i’r gwŷr hyn, fel na pheidio y gwaith. A’r hyn a fyddo angenrheidiol i boethoffrymau Duw y nefoedd, yn eidionau, neu yn hyrddod, neu yn ŵyn, yn ŷd, yn halen, yn win, ac yn olew, yn ôl yr hyn a ddywedo yr offeiriaid sydd yn Jerwsalem, rhodder iddynt bob dydd yn ddi‐baid: 10 Fel yr offrymont aroglau peraidd i Dduw y nefoedd, ac y gweddïont dros einioes y brenin, a’i feibion. 11 Gosodais hefyd orchymyn, pa ddyn bynnag a newidio y gair hwn, tynner coed o’i dŷ ef, a gosoder i sefyll, ac ar hwnnw croger ef; a bydded ei dŷ ef yn domen am hynny. 12 A’r Duw, yr hwn a wnaeth i’w enw breswylio yno, a ddinistria bob brenin a phobl a estynno ei law i newidio ac i ddistrywio y tŷ hwn eiddo Duw yn Jerwsalem. Myfi Dareius a osodais y gorchymyn; gwneler ef yn ebrwydd.

13 Yna Tatnai tywysog y tu yma i’r afon, Setharbosnai, a’u cyfeillion, megis yr anfonodd y brenin Dareius, felly y gwnaethant yn ebrwydd. 14 A henuriaid yr Iddewon a adeiladasant, ac a lwyddasant trwy broffwydoliaeth Haggai y proffwyd, a Sechareia mab Ido; ie, adeiladasant, a gorffenasant, wrth orchymyn Duw Israel, ac wrth orchymyn Cyrus a Dareius, ac Artacsercses brenin Persia. 15 A’r tŷ hwn a orffennwyd y trydydd dydd o fis Adar, pan oedd y chweched flwyddyn o deyrnasiad y brenin Dareius.

16 A meibion Israel, yr offeiriaid a’r Lefiaid, a’r rhan arall o feibion y gaethglud, a gysegrasant y tŷ hwn eiddo Duw mewn llawenydd; 17 Ac a offrymasant wrth gysegru y tŷ hwn eiddo Duw, gant o ychen, dau cant o hyrddod, pedwar cant o ŵyn, a deuddeg o fychod geifr, yn bech‐aberth dros Israel, yn ôl rhifedi llwythau Israel. 18 Gosodasant hefyd yr offeiriaid yn eu dosbarthiadau, a’r Lefiaid yn eu cylchoedd hwythau, i wasanaeth Duw yn Jerwsalem, yn ôl ysgrifen llyfr Moses. 19 Meibion y gaethglud hefyd a gadwasant y Pasg ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis cyntaf. 20 Canys yr offeiriaid a’r Lefiaid a ymlanhasant yn gytûn, yn lân i gyd oll, ac a aberthasant y Pasg dros holl feibion y gaethglud, a thros eu brodyr yr offeiriaid, a throstynt eu hunain. 21 A meibion Israel, y rhai a ddychwelasent o’r gaethglud, a phob un a ymneilltuasai oddi wrth halogedigaeth cenhedloedd y wlad atynt hwy, i geisio Arglwydd Dduw Israel, a fwytasant, 22 Ac a gadwasant ŵyl y bara croyw saith niwrnod mewn llawenydd: canys yr Arglwydd a’u llawenhasai hwynt, ac a droesai galon brenin Asyria atynt hwy, i’w cynorthwyo hwynt yng ngwaith tŷ Dduw, Duw Israel.

Ac wedi y pethau hyn, yn nheyrnasiad Artacsercses brenin Persia, Esra, mab Seraia, fab Asareia, fab Hilceia, Fab Salum, fab Sadoc, fab Ahitub, Fab Amareia, fab Asareia, fab Meraioth, Fab Seraheia, fab Ussi, fab Bucci, Fab Abisua, fab Phinees, fab Eleasar, fab Aaron yr offeiriad pennaf: Yr Esra hwn a aeth i fyny o Babilon; ac efe oedd ysgrifennydd cyflym yng nghyfraith Moses, yr hon a roddasai Arglwydd Dduw Israel: a’r brenin a roddes iddo ef ei holl ddymuniad, fel yr ydoedd llaw yr Arglwydd ei Dduw arno ef. A rhai a aethant i fyny o feibion Israel, ac o’r offeiriaid, a’r Lefiaid, a’r cantorion, a’r porthorion, a’r Nethiniaid, i Jerwsalem, yn y seithfed flwyddyn i’r brenin Artacsercses. Ac efe a ddaeth i Jerwsalem yn y pumed mis, yr hwn oedd yn y seithfed flwyddyn i’r brenin. Canys ar y dydd cyntaf o’r mis cyntaf y dechreuodd efe fyned i fyny o Babilon; ac ar y dydd cyntaf o’r pumed mis y daeth efe i Jerwsalem, fel yr oedd daionus law ei Dduw gydag ef. 10 Canys Esra a baratoesai ei galon i geisio cyfraith yr Arglwydd, ac i’w gwneuthur, ac i ddysgu yn Israel ddeddfau a barnedigaethau.

11 A dyma ystyr y llythyr a roddodd y brenin Artacsercses i Esra yr offeiriad a’r ysgrifennydd, sef ysgrifennydd geiriau gorchmynion yr Arglwydd, a’i ddeddfau ef i Israel. 12 Artacsercses brenin y brenhinoedd at Esra yr offeiriad, ysgrifennydd deddf Duw y nefoedd, perffaith dangnefedd, a’r amser a’r amser. 13 Myfi a osodais orchymyn, fod i bwy bynnag yn fy nheyrnas i o bobl Israel, ac o’i offeiriaid ef, a’i Lefiaid, sydd ewyllysgar i fyned i Jerwsalem, gael myned gyda thi. 14 Oherwydd dy anfon di oddi wrth y brenin, a’i saith gynghoriaid, i ymweled â Jwda ac â Jerwsalem, wrth gyfraith dy Dduw yr hon sydd yn dy law di; 15 Ac i ddwyn yr arian a’r aur a offrymodd y brenin a’i gynghoriaid, ohonynt eu hunain, i Dduw Israel, yr hwn y mae ei breswylfa yn Jerwsalem, 16 A’r holl arian a’r aur a fedrych ei gael yn holl dalaith Babilon, gydag offrymau gwirfodd y bobl a’r offeiriaid, y rhai a offrymant ohonynt eu hunain tuag at dŷ eu Duw yn Jerwsalem: 17 Fel y prynych yn ebrwydd â’r arian hynny ychen, hyrddod, ŵyn, a’u bwyd‐offrymau, a’u diod‐offrymau, a’u hoffrwm hwynt ar allor tŷ eich Duw yn Jerwsalem. 18 A’r hyn a fyddo da gennyt ti, a chan dy frodyr, ei wneuthur â’r rhan arall o’r arian a’r aur, gwnewch yn ôl ewyllys eich Duw. 19 A’r llestri, y rhai a roddwyd i ti i wasanaeth tŷ dy Dduw, dod adref o flaen dy Dduw yn Jerwsalem. 20 A pheth bynnag ychwaneg a fyddo anghenraid i dŷ dy Dduw, yr hyn a ddigwyddo i ti ei roddi, a roddi di o drysordy y brenin. 21 A minnau y brenin Artacsercses ydwyf yn gosod gorchymyn i holl drysorwyr y tu hwnt i’r afon, beth bynnag a geisio Esra, offeiriad, ac ysgrifennydd deddf Duw y nefoedd, gennych, gwneler yn ebrwydd; 22 Hyd gan talent o arian, a hyd gan corus o wenith, a hyd gan bath o win, a hyd gan bath o olew, a halen heb fesur. 23 Beth bynnag yw gorchymyn Duw y nefoedd, gwneler yn ddyfal i dŷ Duw y nefoedd: canys paham y byddai llidiowgrwydd yn erbyn teyrnas y brenin a’i feibion? 24 Yr ydym yn hysbysu i chwi hefyd, am yr holl offeiriaid, a’r Lefiaid, cantorion, porthorion, Nethiniaid, a gweinidogion y tŷ Dduw hwn, na ellir bwrw arnynt doll, na theyrnged, na threth. 25 Tithau, Esra, yn ôl doethineb dy Dduw, yr hwn sydd yn dy law, gosod swyddogion a barnwyr, i farnu yr holl bobl o’r tu hwnt i’r afon, y rhai oll a fedrant gyfraith dy Dduw; a dysgwch y rhai nis medrant. 26 A phwy bynnag ni wnelo gyfraith dy Dduw, a chyfraith y brenin, gwneler barn yn ebrwydd arno ef, pa un bynnag ai i farwolaeth, ai i’w ddeol, ai i ddirwy o dda, ai i garchar.

27 Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw ein tadau, yr hwn a roddes fel hyn yng nghalon y brenin, i harddu tŷ yr Arglwydd yr hwn sydd yn Jerwsalem: 28 Ac a barodd i mi drugaredd o flaen y brenin a’i gynghoriaid, ac o flaen holl gedyrn dywysogion y brenin. A mi a gynorthwywyd, fel yr oedd llaw yr Arglwydd fy Nuw arnaf fi, a chesglais o Israel benaethiaid i fyned i fyny gyda mi.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.