Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Historical

Read the books of the Bible as they were written historically, according to the estimated date of their writing.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Esra 3-5

A phan ddaeth y seithfed mis, a meibion Israel yn eu dinasoedd, y bobl a ymgasglasant i Jerwsalem megis un gŵr. Yna y cyfododd Jesua mab Josadac, a’i frodyr yr offeiriaid, a Sorobabel mab Salathiel, a’i frodyr, ac a adeiladasant allor Duw Israel, i offrymu arni offrymau poeth, fel yr ysgrifenasid yng nghyfraith Moses gŵr Duw. A hwy a osodasant yr allor ar ei hystolion, (canys yr oedd arnynt ofn pobl y wlad,) ac a offrymasant arni boethoffrymau i’r Arglwydd, poethoffrymau bore a hwyr. Cadwasant hefyd ŵyl y pebyll, fel y mae yn ysgrifenedig, ac a offrymasant boethaberth beunydd dan rifedi, yn ôl y ddefod, dogn dydd yn ei ddydd; Ac wedi hynny y poethoffrwm gwastadol, ac offrwm y newyddloerau, a holl sanctaidd osodedig wyliau yr Arglwydd, offrwm ewyllysgar pob un a offrymai ohono ei hun, a offrymasant i’r Arglwydd. O’r dydd cyntaf i’r seithfed mis y dechreuasant offrymu poethoffrymau i’r Arglwydd. Ond teml yr Arglwydd ni sylfaenasid eto. Rhoddasant hefyd arian i’r seiri maen, ac i’r seiri pren; a bwyd, a diod, ac olew, i’r Sidoniaid, ac i’r Tyriaid, am ddwyn coed cedr o Libanus hyd y môr i Jopa: yn ôl caniatâd Cyrus brenin Persia iddynt hwy.

Ac yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwy i dŷ Dduw i Jerwsalem, yn yr ail fis, y dechreuodd Sorobabel mab Salathiel, a Jesua mab Josadac, a’r rhan arall o’u brodyr hwynt yr offeiriaid a’r Lefiaid, a’r rhai oll a ddaethai o’r caethiwed i Jerwsalem; ac a osodasant y Lefiaid, o fab ugeinmlwydd ac uchod, yn olygwyr ar waith tŷ yr Arglwydd. Yna y safodd Jesua, a’i feibion a’i frodyr, Cadmiel a’i feibion, meibion Jwda yn gytûn, i oruchwylio ar weithwyr y gwaith yn nhŷ Dduw: meibion Henadad, â’u meibion hwythau a’u brodyr y Lefiaid. 10 A phan oedd y seiri yn sylfaenu teml yr Arglwydd, hwy a osodasant yr offeiriaid yn eu gwisgoedd ag utgyrn, a’r Lefiaid meibion Asaff â symbalau, i foliannu yr Arglwydd, yn ôl ordinhad Dafydd brenin Israel. 11 A hwy a gydganasant, wrth foliannu ac wrth glodfori yr Arglwydd, mai da oedd, mai yn dragywydd yr ydoedd ei drugaredd ef ar Israel. A’r holl bobl a floeddiasant â bloedd fawr, gan foliannu yr Arglwydd, am sylfaenu tŷ yr Arglwydd. 12 Ond llawer o’r offeiriaid a’r Lefiaid, a’r pennau‐cenedl, y rhai oedd hen, ac a welsent y tŷ cyntaf, wrth sylfaenu y tŷ hwn yn eu golwg, a wylasant â llef uchel; a llawer oedd yn dyrchafu llef mewn bloedd gorfoledd: 13 Fel nad oedd y bobl yn adnabod sain bloedd y llawenydd oddi wrth sain wylofain y bobl: canys y bobl oedd yn bloeddio â bloedd fawr, a’r sŵn a glywid ymhell.

Yna gwrthwynebwyr Jwda a Benjamin a glywsant fod meibion y gaethglud yn adeiladu y deml i Arglwydd Dduw Israel; Ac a ddaethant at Sorobabel, ac at y pennau‐cenedl, ac a ddywedasant wrthynt, Adeiladwn gyda chwi: canys fel chwithau y ceisiwn eich Duw chwi; ac iddo ef yr ydym ni yn aberthu, er dyddiau Esarhadon brenin Assyria, yr hwn a’n dug ni i fyny yma. Eithr dywedodd Sorobabel a Jesua, a’r rhan arall o bennau‐cenedl Israel, wrthynt, Nid yw i chwi ac i ninnau adeiladu tŷ i’n Duw ni; eithr nyni a gyd-adeiladwn i Arglwydd Dduw Israel, megis y’n gorchmynnodd y brenin Cyrus, brenin Persia. A phobl y wlad oedd yn anghysuro pobl Jwda, ac yn eu rhwystro hwy i adeiladu, Ac yn cyflogi cynghorwyr yn eu herbyn hwynt, i ddiddymu eu cyngor hwynt, holl ddyddiau Cyrus brenin Persia, a hyd deyrnasiad Dareius brenin Persia. Ac yn nheyrnasiad Ahasferus, yn nechreuad ei deyrnasiad ef, yr ysgrifenasant ato achwyn yn erbyn trigolion Jwda a Jerwsalem.

Ac yn nyddiau Artacsercses yr ysgrifennodd Bislam, Mithredath, Tabeel, a’r rhan arall o’u cyfeillion, at Artacsercses brenin Persia; ac ysgrifen y llythyr a ysgrifennwyd yn Syriaeg, ac a eglurwyd yn Syriaeg. Rehum y cofiadur a Simsai yr ysgrifennydd a ysgrifenasant lythyr yn erbyn Jerwsalem at Artacsercses y brenin, fel hyn: Yna yr ysgrifennodd Rehum y cofiadur, a Simsai yr ysgrifennydd, a’r rhan arall o’u cyfeillion, y Dinaiaid, yr Affarsathchiaid, y Tarpeliaid, yr Affarsiaid, yr Archefiaid, y Babiloniaid, y Susanchiaid, y Dehafiaid, yr Elamiaid, 10 A’r rhan arall o’r bobl y rhai a ddug Asnappar mawr ac enwog, ac a osododd efe yn ninasoedd Samaria, a’r rhan arall tu yma i’r afon, a’r amser a’r amser.

11 Dyma ystyr y llythyr a anfonasant ato ef, sef at Artacsercses y brenin; Dy wasanaethwyr o’r tu yma i’r afon, a’r amser a’r amser. 12 Bid hysbys i’r brenin, fod yr Iddewon a ddaethant i fyny oddi wrthyt ti atom ni, wedi dyfod i Jerwsalem, ac yn adeiladu y ddinas wrthryfelgar ddrygionus, a’r muriau a sylfaenasant hwy, ac a gydwniasant y sylfaenau. 13 Yn awr bydded hysbys i’r brenin, os adeiledir y ddinas hon, a gorffen ei chaerau, na roddant na tholl, na theyrnged, na threth; felly y drygi drysor y brenhinoedd. 14 Ac yn awr oherwydd ein bod ni yn cael ein cynhaliaeth o lys y brenin, ac nad oedd weddaidd i ni weled gwarth y brenin; am hynny yr anfonasom ac yr hysbysasom i’r brenin, 15 Fel y ceisier yn llyfr historïau dy dadau: a thi a gei yn llyfr yr historïau, ac a elli wybod, fod y ddinas hon yn ddinas wrthryfelgar, niweidiol i frenhinoedd a thaleithiau, a bod yn gwneuthur brad‐fwriad o fewn hon er ys talm: am hynny y dinistriwyd y ddinas hon. 16 Yr ydym yn hysbysu i’r brenin, os y ddinas hon a adeiledir, a’r muriau a sylfaenir, wrth hynny ni fydd i ti ran o’r tu yma i’r afon.

17 Yna yr anfonodd y brenin air at Rehum y cofiadur, a Simsai yr ysgrifennydd, a’r rhan arall o’u cyfeillion hwynt y rhai a drigent yn Samaria, ac at y lleill o’r tu hwnt i’r afon, Tangnefedd, a’r amser a’r amser. 18 Y llythyr a anfonasoch ataf, a ddarllenwyd yn eglur ger fy mron. 19 A mi a osodais orchymyn, a chwiliwyd; a chafwyd fod y ddinas hon er ys talm yn ymddyrchafu yn erbyn brenhinoedd, a gwneuthur ynddi anufudd‐dod a gwrthryfel. 20 A brenhinoedd cryfion a fu ar Jerwsalem, yn llywodraethu ar bawb o’r tu hwnt i’r afon; ac iddynt hwy y rhoddid toll, teyrnged, a threth. 21 Yn awr rhoddwch orchymyn, i beri i’r gwŷr hynny beidio, ac nad adeilader y ddinas honno, hyd oni roddwyf fi orchymyn eto. 22 A gwyliwch wneuthur yn amryfus yn hyn: paham y tyf niwed i ddrygu y brenhinoedd?

23 Yna pan ddarllenwyd ystyr llythyr Artacsercses y brenin o flaen Rehum a Simsai yr ysgrifennydd, a’u cyfeillion, hwy a aethant i fyny ar frys i Jerwsalem at yr Iddewon, ac a wnaethant iddynt beidio trwy fraich a chryfder. 24 Yna y peidiodd gwaith tŷ Dduw yr hwn sydd yn Jerwsalem; ac y bu yn sefyll hyd yr ail flwyddyn o deyrnasiad Dareius brenin Persia.

Yna y proffwydi, Haggai y proffwyd, a Sechareia mab Ido, a broffwydasant i’r Iddewon oedd yn Jwda ac yn Jerwsalem; yn enw Duw Israel y proffwydasant iddynt. Yna Sorobabel mab Salathiel, a Jesua mab Josadac, a godasant, ac a ddechreuasant adeiladu tŷ Dduw yr hwn sydd yn Jerwsalem: a phroffwydi Duw oedd gyda hwynt yn eu cynorthwyo.

Y pryd hwnnw y daeth atynt hwy Tatnai tywysog y tu yma i’r afon, a Setharbosnai, a’u cyfeillion, ac fel hyn y dywedasant wrthynt; Pwy a roddes i chwi orchymyn i adeiladu y tŷ hwn, ac i sylfaenu y muriau hyn? Yna fel hyn y dywedasom wrthynt; Beth yw enwau y gwŷr a adeiladant yr adeiladaeth yma? A golwg eu Duw oedd ar henuriaid yr Iddewon, fel na wnaethant iddynt beidio, nes dyfod yr achos at Dareius: ac yna yr atebasant trwy lythyr am hyn.

Ystyr y llythyr a anfonodd Tatnai tywysog y tu yma i’r afon, a Setharbosnai, a’i gyfeillion yr Affarsachiaid, y rhai oedd o’r tu yma i’r afon, at y brenin Dareius: Anfonasant lythyr ato ef, ac fel hyn yr ysgrifenasid ynddo; Pob heddwch i’r brenin Dareius. Bydded hysbys i’r brenin, fyned ohonom ni i dalaith Jwdea, i dŷ y Duw mawr, a bod yn ei adeiladu ef â meini mawr, a bod yn gosod coed yn ei barwydydd ef; a bod y gwaith yn myned rhagddo ar frys, a’i fod yn llwyddo yn eu dwylo hwynt. Yna y gofynasom i’r henuriaid hynny, ac a ddywedasom wrthynt fel hyn; Pwy a roddes i chwi orchymyn i adeiladu y tŷ hwn, ac i sylfaenu y mur yma? 10 Gofynasom hefyd iddynt eu henwau, fel yr hysbysem i ti, ac fel yr ysgrifennem enwau y gwŷr oedd yn bennau iddynt. 11 A’r geiriau hyn a atebasant hwy i ni, gan ddywedyd, Nyni ydym weision Duw nef a daear, ac yn adeiladu y tŷ yr hwn a adeiladwyd cyn hyn lawer o flynyddoedd; a brenin mawr o Israel a’i hadeiladodd, ac a’i seiliodd ef. 12 Eithr wedi i’n tadau ni ddigio Duw y nefoedd, efe a’u rhoddes hwynt yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, y Caldead; a’r tŷ hwn a ddinistriodd efe, ac a gaethgludodd y bobl i Babilon. 13 Ond yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Babilon y rhoddes y brenin Cyrus orchymyn i adeiladu y tŷ Dduw hwn. 14 A llestri tŷ Dduw hefyd o aur ac arian, y rhai a ddygasai Nebuchodonosor o’r deml yn Jerwsalem, ac a’u dygasai i deml Babilon, y rhai hynny a ddug y brenin Cyrus allan o deml Babilon, a rhoddwyd hwynt i un Sesbassar wrth ei enw, yr hwn a osodasai efe yn dywysog; 15 Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer y llestri hyn, dos, dwg hwynt i’r deml yn Jerwsalem, ac adeilader tŷ Dduw yn ei le. 16 Yna y daeth y Sesbassar hwnnw, ac a osododd sylfeini tŷ Dduw yn Jerwsalem. Ac o’r pryd hwnnw hyd yr awr hon yr ydys yn ei adeiladu, ac nis gorffennwyd ef. 17 Ac yn awr, os da gan y brenin, ceisier yn nhrysordy y brenin yna yn Babilon, a ddarfu i’r brenin Cyrus osod gorchymyn am adeiladu y tŷ Dduw hwn yn Jerwsalem; ac anfoned y brenin ei ewyllys atom am y peth hyn.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.