Historical
5 Belsassar y brenin a wnaeth wledd fawr i fil o’i dywysogion, ac a yfodd win yng ngŵydd y mil. 2 Wrth flas y gwin y dywedodd Belsassar am ddwyn y llestri aur ac arian, a ddygasai Nebuchodonosor ei dad ef o’r deml yr hon oedd yn Jerwsalem, fel yr yfai y brenin a’i dywysogion, ei wragedd a’i ordderchadon, ynddynt. 3 Yna y dygwyd y llestri aur a ddygasid o deml tŷ Dduw, yr hwn oedd yn Jerwsalem: a’r brenin a’i dywysogion, ei wragedd a’i ordderchadon, a yfasant ynddynt. 4 Yfasant win, a molianasant y duwiau o aur, ac o arian, o bres, o haearn, o goed, ac o faen.
5 Yr awr honno bysedd llaw dyn a ddaethant allan, ac a ysgrifenasant ar gyfer y canhwyllbren ar galchiad pared llys y brenin; a gwelodd y brenin ddarn y llaw a ysgrifennodd. 6 Yna y newidiodd lliw y brenin, a’i feddyliau a’i cyffroesant ef, fel y datododd rhwymau ei lwynau ef, ac y curodd ei liniau ef y naill wrth y llall. 7 Gwaeddodd y brenin yn groch am ddwyn i mewn yr astronomyddion, y Caldeaid, a’r brudwyr: a llefarodd y brenin, a dywedodd wrth ddoethion Babilon, Pa ddyn bynnag a ddarlleno yr ysgrifen hon, ac a ddangoso i mi ei dehongliad, efe a wisgir â phorffor, ac a gaiff gadwyn aur am ei wddf, a chaiff lywodraethu yn drydydd yn y deyrnas. 8 Yna holl ddoethion y brenin a ddaethant i mewn; ond ni fedrent ddarllen yr ysgrifen, na mynegi i’r brenin ei dehongliad. 9 Yna y mawr gyffrôdd y brenin Belsassar, a’i wedd a ymnewidiodd ynddo, a’i dywysogion a synasant.
10 Y frenhines, oherwydd geiriau y brenin a’i dywysogion, a ddaeth i dŷ y wledd: a llefarodd y frenhines, a dywedodd, Bydd fyw byth, frenin; na chyffroed dy feddyliau di, ac na newidied dy wedd. 11 Y mae gŵr yn dy deyrnas, yr hwn y mae ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo; ac yn nyddiau dy dad y caed ynddo ef oleuni, a deall, a doethineb fel doethineb y duwiau: a’r brenin Nebuchodonosor dy dad a’i gosododd ef yn bennaeth y dewiniaid, astronomyddion, Caldeaid, a brudwyr, sef y brenin dy dad di. 12 Oherwydd cael yn y Daniel hwnnw, yr hwn y rhoddes y brenin iddo enw Beltesassar, ysbryd rhagorol, a gwybodaeth a deall, deongl breuddwydion, ac egluro damhegion, a datod clymau: galwer Daniel yr awron, ac efe a ddengys y dehongliad. 13 Yna y ducpwyd Daniel o flaen y brenin: a llefarodd y brenin, a dywedodd wrth Daniel, Ai tydi yw Daniel, yr hwn wyt o feibion caethglud Jwda, y rhai a ddug y brenin fy nhad i o Jwda? 14 Myfi a glywais sôn amdanat, fod ysbryd y duwiau ynot, a chael ynot ti oleuni, a deall, a doethineb rhagorol. 15 Ac yr awr hon dygwyd y doethion, yr astronomyddion, o’m blaen, i ddarllen yr ysgrifen hon, ac i fynegi i mi ei dehongliad: ond ni fedrent ddangos dehongliad y peth. 16 Ac mi a glywais amdanat ti, y medri ddeongl deongliadau, a datod clymau; yr awr hon os medri ddarllen yr ysgrifen, a hysbysu i mi ei dehongliad, tydi a wisgir â phorffor, ac a gei gadwyn aur am dy wddf, ac a gei lywodraethu yn drydydd yn y deyrnas.
17 Yna yr atebodd Daniel, ac y dywedodd o flaen y brenin, Bydded dy roddion i ti, a dod dy anrhegion i arall; er hynny yr ysgrifen a ddarllenaf i’r brenin, a’r dehongliad a hysbysaf iddo. 18 O frenin, y Duw goruchaf a roddes i Nebuchodonosor dy dad di frenhiniaeth, a mawredd, a gogoniant, ac anrhydedd. 19 Ac oherwydd y mawredd a roddasai efe iddo, y bobloedd, y cenhedloedd, a’r ieithoedd oll, oedd yn crynu ac yn ofni rhagddo ef: yr hwn a fynnai a laddai, a’r hwn a fynnai a gadwai yn fyw; hefyd y neb a fynnai a gyfodai, a’r neb a fynnai a ostyngai. 20 Eithr pan ymgododd ei galon ef, a chaledu o’i ysbryd ef mewn balchder, efe a ddisgynnwyd o orseddfa ei frenhiniaeth, a’i ogoniant a dynasant oddi wrtho: 21 Gyrrwyd ef hefyd oddi wrth feibion dynion, a gwnaethpwyd ei galon fel bwystfil, a chyda’r asynnod gwylltion yr oedd ei drigfa: â gwellt y porthasant ef fel eidion, a’i gorff a wlychwyd gan wlith y nefoedd, hyd oni wybu mai y Duw goruchaf oedd yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion, ac yn gosod arni y neb a fynno. 22 A thithau, Belsassar ei fab ef, ni ddarostyngaist dy galon, er gwybod ohonot hyn oll; 23 Eithr ymddyrchefaist yn erbyn Arglwydd y nefoedd, a llestri ei dŷ ef a ddygasant ger dy fron di, a thithau a’th dywysogion, dy wragedd a’th ordderchadon, a yfasoch win ynddynt; a thi a foliennaist dduwiau o arian, ac o aur, o bres, haearn, pren, a maen, y rhai ni welant, ac ni chlywant, ac ni wyddant ddim: ac nid anrhydeddaist y Duw y mae dy anadl di yn ei law, a’th holl ffyrdd yn eiddo. 24 Yna yr anfonwyd darn y llaw oddi ger ei fron ef, ac yr ysgrifennwyd yr ysgrifen hon.
25 A dyma yr ysgrifen a ysgrifennwyd: MENE, MENE, TECEL, UFFARSIN. 26 Dyma ddehongliad y peth: MENE; Duw a rifodd dy frenhiniaeth, ac a’i gorffennodd. 27 TECEL; Ti a bwyswyd yn y cloriannau, ac a’th gaed yn brin. 28 PERES: Rhannwyd dy frenhiniaeth, a rhoddwyd hi i’r Mediaid a’r Persiaid. 29 Yna y gorchmynnodd Belsassar, a hwy a wisgasant Daniel â phorffor, ac â chadwyn aur am ei wddf; a chyhoeddwyd amdano, y byddai efe yn drydydd yn llywodraethu yn y frenhiniaeth.
30 Y noson honno y lladdwyd Belsassar brenin y Caldeaid. 31 A Dareius y Mediad a gymerodd y frenhiniaeth, ac efe yn ddwy flwydd a thrigain oed.
6 Gwelodd Dareius yn dda osod ar y deyrnas chwe ugain o dywysogion, i fod ar yr holl deyrnas; 2 Ac arnynt hwy yr oedd tri rhaglaw, y rhai yr oedd Daniel yn bennaf ohonynt, i’r rhai y rhoddai y tywysogion gyfrif, fel na byddai y brenin mewn colled. 3 Yna y Daniel hwn oedd yn rhagori ar y rhaglawiaid a’r tywysogion, oherwydd bod ysbryd rhagorol ynddo ef: a’r brenin a feddyliodd ei osod ef ar yr holl deyrnas.
4 Yna y rhaglawiaid a’r tywysogion oedd yn ceisio cael achlysur yn erbyn Daniel o ran y frenhiniaeth: ond ni fedrent gael un achos na bai; oherwydd ffyddlon oedd efe, fel na chaed ynddo nac amryfusedd na bai. 5 Yna y dywedodd y gwŷr hyn, Ni chawn yn erbyn y Daniel hwn ddim achlysur, oni chawn beth o ran cyfraith ei Dduw yn ei erbyn ef. 6 Yna y rhaglawiaid a’r tywysogion hyn a aethant ynghyd at y brenin, ac a ddywedasant wrtho fel hyn; Dareius frenin, bydd fyw byth. 7 Holl raglawiaid y deyrnas, y swyddogion, a’r tywysogion, y cynghoriaid, a’r dugiaid, a ymgyngorasant am osod deddf frenhinol, a chadarnhau gorchymyn, fod bwrw i ffau y llewod pwy bynnag a archai arch gan un Duw na dyn dros ddeng niwrnod ar hugain, ond gennyt ti, O frenin. 8 Yr awr hon, O frenin, sicrha y gorchymyn, a selia yr ysgrifen, fel nas newidier; yn ôl cyfraith y Mediaid a’r Persiaid, yr hon ni newidir. 9 Oherwydd hyn y seliodd y brenin Dareius yr ysgrifen a’r gorchymyn.
10 Yna Daniel, pan wybu selio yr ysgrifen, a aeth i’w dŷ, a’i ffenestri yn agored yn ei ystafell tua Jerwsalem; tair gwaith yn y dydd y gostyngai efe ar ei liniau, ac y gweddïai, ac y cyffesai o flaen ei Dduw, megis y gwnâi efe cyn hynny. 11 Yna y gwŷr hyn a ddaethant ynghyd, ac a gawsant Daniel yn gweddïo ac yn ymbil o flaen ei Dduw. 12 Yna y nesasant, ac y dywedasant o flaen y brenin am orchymyn y brenin; Oni seliaist ti orchymyn, mai i ffau y llewod y bwrid pa ddyn bynnag a ofynnai gan un Duw na dyn ddim dros ddeng niwrnod ar hugain, ond gennyt ti, O frenin? Atebodd y brenin, a dywedodd, Y mae y peth yn wir, yn ôl cyfraith y Mediaid a’r Persiaid, yr hon ni newidir. 13 Yna yr atebasant ac y dywedasant o flaen y brenin, Y Daniel, yr hwn sydd o feibion caethglud Jwda, ni wnaeth gyfrif ohonot ti, frenin, nac o’r gorchymyn a seliaist, eithr tair gwaith yn y dydd y mae yn gweddïo ei weddi. 14 Yna y brenin, pan glybu y gair hwn, a aeth yn ddrwg iawn ganddo, ac a roes ei fryd gyda Daniel ar ei waredu ef: ac a fu hyd fachludiad haul yn ceisio ei achub ef. 15 Yna y gwŷr hynny a ddaethant ynghyd at y brenin, ac a ddywedasant wrth y brenin, Gwybydd, frenin, mai cyfraith y Mediaid a’r Persiaid yw, na newidier un gorchymyn na deddf a osodo y brenin. 16 Yna yr archodd y brenin, a hwy a ddygasant Daniel, ac a’i bwriasant i ffau y llewod. Yna y brenin a lefarodd ac a ddywedodd wrth Daniel, Dy Dduw, yr hwn yr ydwyt yn ei wasanaethu yn wastad, efe a’th achub di. 17 A dygwyd carreg ac a’i gosodwyd ar enau y ffau; a’r brenin a’i seliodd hi â’i sêl ei hun, ac â sêl ei dywysogion, fel na newidid yr ewyllys am Daniel.
18 Yna yr aeth y brenin i’w lys, ac a fu y noson honno heb fwyd: ac ni adawodd ddwyn difyrrwch o’i flaen; ei gwsg hefyd a giliodd oddi wrtho. 19 Yna y cododd y brenin yn fore iawn ar y wawrddydd, ac a aeth ar frys at ffau y llewod. 20 A phan nesaodd efe at y ffau, efe a lefodd ar Daniel â llais trist. Llefarodd y brenin, a dywedodd wrth Daniel, Daniel, gwasanaethwr y Duw byw, a all dy Dduw di, yr hwn yr wyt yn ei wasanaethu yn wastad, dy gadw di rhag y llewod? 21 Yna y dywedodd Daniel wrth y brenin, O frenin, bydd fyw byth. 22 Fy Nuw a anfonodd ei angel, ac a gaeodd safnau y llewod, fel na wnaethant i mi niwed: oherwydd puredd a gaed ynof ger ei fron ef; a hefyd ni wneuthum niwed o’th flaen dithau, frenin. 23 Yna y brenin fu dda iawn ganddo o’i achos ef, ac a archodd gyfodi Daniel allan o’r ffau. Yna y codwyd Daniel o’r ffau; ac ni chaed niwed arno, oherwydd credu ohono yn ei Dduw.
24 Yna y gorchmynnodd y brenin, a hwy a ddygasant y gwŷr hynny a gyhuddasent Daniel, ac a’u bwriasant i ffau y llewod, hwy, a’u plant, a’u gwragedd; ac ni ddaethant i waelod y ffau hyd oni orchfygodd y llewod hwynt, a dryllio eu holl esgyrn.
25 Yna yr ysgrifennodd y brenin Dareius at y bobloedd, at y cenhedloedd, a’r ieithoedd oll, y rhai oedd yn trigo yn yr holl ddaear; Heddwch a amlhaer i chwi. 26 Gennyf fi y gosodwyd cyfraith, ar fod trwy holl lywodraeth fy nheyrnas, i bawb grynu ac ofni rhag Duw Daniel: oherwydd efe sydd Dduw byw, ac yn parhau byth; a’i frenhiniaeth ef yw yr hon ni ddifethir, a’i lywodraeth fydd hyd y diwedd. 27 Y mae yn gwaredu ac yn achub, ac yn gwneuthur arwyddion a rhyfeddodau yn y nefoedd ac ar y ddaear; yr hwn a waredodd Daniel o feddiant y llewod. 28 A’r Daniel hwn a lwyddodd yn nheyrnasiad Dareius, ac yn nheyrnasiad Cyrus y Persiad.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.