Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Historical

Read the books of the Bible as they were written historically, according to the estimated date of their writing.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Diarhebion 24-26

24 Na chenfigenna wrth wŷr annuwiol; ac na chwennych fod gyda hwynt: Canys eu calon a fyfyria anrhaith, a’u gwefusau a draetha flinder. Trwy ddoethineb yr adeiledir tŷ, a thrwy ddeall y sicrheir ef: A thrwy wybodaeth y llenwir y celloedd o bob golud gwerthfawr a hyfryd. Gŵr doeth sydd nerthol; a gŵr pwyllog a chwanega ei nerth. Canys trwy gyngor doeth y gwnei dy ryfel: a thrwy lawer o gynghorwyr y bydd diogelwch. Rhy uchel yw doethineb i ffôl; ni egyr efe ei enau yn y porth. Y neb a fwriada ddrygau, a elwir yn ysgeler. Bwriad y ffôl sydd bechod; a ffiaidd gan ddynion y gwatwarus. 10 Os llwfrhei mewn amser cyfyngder, bychan yw dy nerth. 11 Gwared y rhai a lusgir i angau: a ymadawit â’r neb sydd barod i’w lladd? 12 Os dywedi, Wele, ni wyddom ni hyn: onid yw pwyswr y calonnau yn deall? a’r hwn sydd yn cadw dy enaid, oni ŵyr efe? ac oni thâl efe i bob un yn ôl ei weithred? 13 Fy mab, bwyta fêl, canys da yw; a’r dil mêl, canys melys yw i’th enau. 14 Felly y bydd gwybodaeth doethineb i’th enaid: os cei di hi, yn ddiau fe fydd gwobr, a’th obaith ni phalla. 15 Na chynllwyn di, O annuwiol, wrth drigfa y cyfiawn; na anrheithia ei orffwysfa ef. 16 Canys seithwaith y syrth y cyfiawn, ac efe a gyfyd drachefn: ond yr annuwiolion a syrthiant mewn drygioni. 17 Pan syrthio dy elyn, na lawenycha: a phan dramgwyddo, na orfoledded dy galon: 18 Rhag i’r Arglwydd weled, a bod hynny yn ddrwg yn ei olwg ef, ac iddo droi ei ddig oddi wrtho ef atat ti. 19 Nac ymddigia oherwydd y drwgweithredwyr; na chenfigenna wrth yr annuwiolion: 20 Canys ni bydd gwobr i’r drygionus: cannwyll yr annuwiolion a ddiffoddir. 21 Fy mab, ofna yr Arglwydd a’r brenin, ac nac ymyrr â’r rhai anwastad: 22 Canys yn ddisymwth y cyfyd eu distryw hwy: a phwy a ŵyr eu dinistr hwy ill dau?

23 Dyma hefyd bethau doethion. Nid da derbyn wyneb mewn barn. 24 Y neb a ddywedo wrth yr annuwiol, Cyfiawn wyt; y bobl a’i melltithiant ef, cenhedloedd a’i ffieiddiant ef: 25 Ond i’r neb a’i ceryddo, y bydd hyfrydwch; a bendith dda a ddigwydd iddynt. 26 Pawb a gusana wefusau y neb a atebo eiriau uniawn. 27 Darpara dy orchwyl oddi allan, a dosbartha ef i ti yn y maes: ac wedi hynny adeilada dy dŷ. 28 Na fydd dyst heb achos yn erbyn dy gymydog: ac na huda â’th wefusau. 29 Na ddywed, Mi a wnaf iddo ef fel y gwnaeth yntau i minnau; mi a dalaf i’r gŵr yn ôl ei weithred. 30 Mi a euthum heibio i faes y dyn diog, a heibio i winllan yr angall; 31 Ac wele, codasai drain ar hyd-ddo oll; danadl a guddiasai ei wyneb ef; a’i fagwyr gerrig a syrthiasai i lawr. 32 Gwelais hyn, a mi a ystyriais yn ddwys; edrychais arno, a chymerais addysg. 33 Ychydig gysgu, ychydig hepian, ychydig wasgu dwylo i gysgu: 34 Felly y daw dy dlodi megis ymdeithydd, a’th angen fel gŵr arfog.

25 Dyma hefyd ddiarhebion Solomon, y rhai a gasglodd gwŷr Heseceia brenin Jwda. Anrhydedd Duw yw dirgelu peth: ond anrhydedd brenin yw chwilio peth allan. Y nefoedd am uchder, y ddaear am ddyfnder, a chalon brenhinoedd, ni ellir eu chwilio. Tyn yr amhuredd oddi wrth yr arian, a daw i’r gof arian lestr. Tyn yr annuwiol o olwg y brenin, a’i orseddfa ef a gadarnheir trwy gyfiawnder. Nac ymogonedda gerbron y brenin; ac na saf yn lle gwŷr mawr: Canys gwell i ti ddywedyd wrthyt, Tyred yma i fyny, na’th fwrw yn is gerbron pendefig yr hwn a welodd dy lygaid. Na ddos allan i gynhennu ar frys: rhag na wypych beth a wnelych yn ei diwedd, wedi dy gywilyddio gan dy gymydog. Ymresyma â’th gymydog ei hun: ond na ddatguddia gyfrinach i arall: 10 Rhag i’r neb a fyddo yn gwrando ddwyn gwarth arnat ti; ac i’th gywilydd na thro ymaith. 11 Gair a ddyweder mewn amser sydd megis afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig. 12 Ceryddwr doeth i’r glust a wrandawo, sydd fel anwyldlws euraid, a gwisg o aur rhagorol. 13 Megis oerder eira yn amser cynhaeaf, yw cennad ffyddlon i’r rhai a’i gyrrant: canys efe a lawenycha enaid ei feistriaid. 14 Y neb a ymffrostio o achos gau rodd, sydd gyffelyb i gymylau a gwynt heb law. 15 Trwy hirymaros y bodlonir pendefig: a thafod esmwyth a dyr asgwrn. 16 Pan gaffech fêl, bwyta a’th wasanaetho: rhag wedi dy lenwi ohono, i ti ei chwydu ef. 17 Cadw dy droed allan o dŷ dy gymydog: rhag iddo flino arnat, a’th gasáu. 18 Y neb a ddygo gamdystiolaeth yn erbyn ei gymydog, sydd megis gordd, a chleddyf, a saeth lem. 19 Hyder ar ffalswr yn nydd cyfyngder, sydd megis dant wedi ei dorri, a throed wedi tyrfu. 20 Fel yr hwn a ddygo ymaith wisg yn amser oerfel, ac fel finegr ar nitr, felly y mae yr hwn sydd yn canu caniadau i galon drist. 21 Os dy elyn a newyna, portha ef â bara; ac os sycheda, dod iddo ddiod i’w hyfed: 22 Canys marwor a bentyrri ar ei ben ef; a’r Arglwydd a dâl i ti. 23 Gwynt y gogledd a yrr y glaw ymaith: felly y gyr wynepryd dicllon dafod athrotgar. 24 Gwell yw trigo mewn congl yn nen tŷ, na chyda gwraig anynad mewn tŷ eang. 25 Fel dyfroedd oerion i enaid sychedig, yw newyddion da o wlad bell. 26 Gŵr cyfiawn wedi syrthio i lawr gerbron y drygionus, sydd megis ffynnon wedi ei chymysgu â gofer budr. 27 Nid da bwyta llawer o fêl: ac felly chwilio eu hanrhydedd, nid anrhydedd yw. 28 Y neb ni byddo ganddo atal ar ei ysbryd ei hun, sydd megis dinas ddrylliog heb gaer.

26 Megis ôd yr haf, neu law y cynhaeaf, felly nid cymwys i’r ffôl anrhydedd. Fel yr aderyn wrth grwydro, a’r wennol wrth ehedeg, felly y felltith ddiachos ni ddaw. Ffrewyll i farch, ffrwyn i asyn, a gwialen i gefn yr ynfyd. Na ateb ynfyd yn ôl ei ynfydrwydd; rhag dy fod yn gyffelyb iddo. Ateb yr ynfyd yn ôl ei ynfydrwydd; rhag iddo fod yn ddoeth yn ei olwg ei hun. Y neb a yrro negesau gydag un angall, a dyr ymaith y traed, ac a yf golled. Nid gogyhyd esgeiriau y cloff: felly dameg yng ngenau ffyliaid. Fel un yn rhwymo carreg mewn tafl; felly y gwna y neb a anrhydeddo ffôl. Fel draen yn myned i law dyn meddw; felly y mae dihareb yng ngenau yr angall. 10 Y Duw mawr yr hwn a luniodd bob peth, sydd yn gobrwyo y ffôl ac yn talu i’r troseddwyr. 11 Megis y mae y ci yn dychwelyd at ei chwydfa; felly y mae y ffôl yn dychwelyd at ei ffolineb. 12 A weli di ŵr doeth yn ei olwg ei hun? gwell yw y gobaith am ffôl nag am hwnnw. 13 Y mae llew mawr ar y ffordd, medd y diog, y mae llew yn yr heolydd. 14 Fel y drws yn troi ar ei golyn, felly y try y diog yn ei wely. 15 Y diog a guddia ei law yn ei fynwes; blin ganddo ei hestyn at ei enau drachefn. 16 Doethach yw y diog yn ei olwg ei hun, na seithwyr yn adrodd rheswm. 17 Y neb wrth fyned heibio a ymyrro â chynnen ni pherthyn iddo, sydd megis un yn cymryd ci erbyn ei glustiau. 18 Fel dyn gwallgofus a daflo bentewynion tân, saethau, ac arfau marwolaeth; 19 Felly y mae y gŵr a dwyllo ei gymydog, ac a ddywed, Onid cellwair yr ydwyf? 20 Megis pan ddarfyddo y coed, y diffydd y tân: felly pryd na byddo athrodwr, derfydd y gynnen. 21 Fel glo i’r marwor, a choed i’r tân; felly y mae gŵr cynhennus i ennyn cynnen. 22 Geiriau yr athrodwr sydd megis archollion, a hwy a ddisgynnant i gelloedd y bol. 23 Fel sorod arian wedi eu bwrw dros ddryll o lestr pridd; felly y mae gwefusau poeth, a chalon ddrwg. 24 Y digasog a ragrithia â’i wefusau, ac yn ei galon yn bwriadu twyll: 25 Pan ddywedo efe yn deg, nac ymddiried iddo: canys y mae saith ffieidd‐dra yn ei galon ef. 26 Trwy gyfrwyster y cuddir digasedd: ond ei ddrygioni a ddatguddir yn y gynulleidfa. 27 Y neb a gloddio bydew, a syrth ynddo; a’r neb a dreiglo garreg, ato y dychwel. 28 Y tafod celwyddog a gasâ y neb a gystuddio efe; a’r genau gwenieithus a wna ddinistr.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.