Historical
Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.
133 Wele mor ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodyr ynghyd! 2 Y mae fel yr ennaint gwerthfawr ar y pen, yn disgyn ar hyd y farf, sef barf Aaron; yr hwn oedd yn disgyn ar hyd ymyl ei wisgoedd ef: 3 Fel gwlith Hermon, ac fel y gwlith yn disgyn ar fynyddoedd Seion: canys yno y gorchmynnodd yr Arglwydd y fendith, sef bywyd yn dragywydd.
Caniad y graddau.
134 Wele, holl weision yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd, y rhai ydych yn sefyll yn nhŷ yr Arglwydd y nos. 2 Dyrchefwch eich dwylo yn y cysegr; a bendithiwch yr Arglwydd. 3 Yr Arglwydd yr hwn a wnaeth nefoedd a daear, a’th fendithio di allan o Seion.
135 Molwch yr Arglwydd. Molwch enw yr Arglwydd; gweision yr Arglwydd, molwch ef. 2 Y rhai ydych yn sefyll yn nhŷ yr Arglwydd, yng nghynteddoedd tŷ ein Duw ni, 3 Molwch yr Arglwydd; canys da yw yr Arglwydd: cenwch i’w enw; canys hyfryd yw. 4 Oblegid yr Arglwydd a ddetholodd Jacob iddo ei hun, ac Israel yn briodoriaeth iddo. 5 Canys mi a wn mai mawr yw yr Arglwydd; a bod ein Harglwydd ni goruwch yr holl dduwiau. 6 Yr Arglwydd a wnaeth yr hyn oll a fynnai yn y nefoedd, ac yn y ddaear, yn y môr, ac yn yr holl ddyfnderau. 7 Y mae yn codi tarth o eithafoedd y ddaear; mellt a wnaeth efe ynghyd â’r glaw; gan ddwyn y gwynt allan o’i drysorau. 8 Yr hwn a drawodd gyntaf‐anedig yr Aifft, yn ddyn ac yn anifail. 9 Danfonodd arwyddion a rhyfeddodau i’th ganol di, yr Aifft; ar Pharo, ac ar ei holl weision. 10 Yr hwn a drawodd genhedloedd lawer, ac a laddodd frenhinoedd cryfion; 11 Sehon brenin yr Amoriaid, ac Og brenin Basan, a holl freniniaethau Canaan: 12 Ac a roddodd eu tir hwynt yn etifeddiaeth, yn etifeddiaeth i Israel ei bobl. 13 Dy enw, O Arglwydd, a bery yn dragywydd; dy goffadwriaeth, O Arglwydd, o genhedlaeth i genhedlaeth. 14 Canys yr Arglwydd a farna ei bobl, a bydd edifar ganddo o ran ei weision. 15 Delwau y cenhedloedd ydynt arian ac aur, gwaith dwylo dyn. 16 Genau sydd iddynt, ond ni lefarant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant. 17 Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant; nid oes chwaith anadl yn eu genau. 18 Fel hwynt y mae y rhai a’u gwnânt, a phob un a ymddiriedo ynddynt. 19 Tŷ Israel, bendithiwch yr Arglwydd: bendithiwch yr Arglwydd, tŷ Aaron. 20 Tŷ Lefi, bendithiwch yr Arglwydd: y rhai a ofnwch yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd. 21 Bendithier yr Arglwydd o Seion, yr hwn sydd yn trigo yn Jerwsalem. Molwch yr Arglwydd.
136 Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. 2 Clodforwch Dduw y duwiau: oblegid ei drugaredd sydd yn dragywydd. 3 Clodforwch Arglwydd yr arglwyddi: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. 4 Yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd. 5 Yr hwn a wnaeth y nefoedd mewn doethineb: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. 6 Yr hwn a estynnodd y ddaear oddi ar y dyfroedd: oblegid ei drugaredd sydd yn dragywydd. 7 Yr hwn a wnaeth oleuadau mawrion: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd: 8 Yr haul, i lywodraethu y dydd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd: 9 Y lleuad a’r sêr, i lywodraethu y nos: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd. 10 Yr hwn a drawodd yr Aifft yn eu cyntaf‐anedig: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd; 11 Ac a ddug Israel o’u mysg hwynt: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd: 12 A llaw gref, ac â braich estynedig: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. 13 Yr hwn a rannodd y môr coch yn ddwy ran: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. 14 Ac a wnaeth i Israel fyned trwy ei ganol: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. 15 Ac a ysgytiodd Pharo a’i lu yn y môr coch: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. 16 Ac a dywysodd ei bobl trwy yr anialwch: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. 17 Yr hwn a drawodd frenhinoedd mawrion: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd: 18 Ac a laddodd frenhinoedd ardderchog: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd: 19 Sehon brenin yr Amoriaid: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd: 20 Ac Og brenin Basan: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd: 21 Ac a roddodd eu tir hwynt yn etifeddiaeth: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd: 22 Yn etifeddiaeth i Israel ei was: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. 23 Yr hwn yn ein hiselradd a’n cofiodd ni: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd: 24 Ac a’n hachubodd ni oddi wrth ein gelynion: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. 25 Yr hwn sydd yn rhoddi ymborth i bob cnawd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd. 26 Clodforwch Dduw y nefoedd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
137 Wrth afonydd Babilon, yno yr eisteddasom, ac wylasom, pan feddyliasom am Seion. 2 Ar yr helyg o’u mewn y crogasom ein telynau. 3 Canys yno y gofynnodd y rhai a’n caethiwasent i ni gân; a’r rhai a’n hanrheithiasai, lawenydd, gan ddywedyd; Cenwch i ni rai o ganiadau Seion. 4 Pa fodd y canwn gerdd yr Arglwydd mewn gwlad ddieithr? 5 Os anghofiaf di, Jerwsalem, anghofied fy neheulaw ganu. 6 Glyned fy nhafod wrth daflod fy ngenau, oni chofiaf di; oni chodaf Jerwsalem goruwch fy llawenydd pennaf. 7 Cofia, Arglwydd, blant Edom yn nydd Jerwsalem; y rhai a ddywedent. Dinoethwch, dinoethwch hi, hyd ei sylfaen. 8 O ferch Babilon, a anrheithir: gwyn ei fyd a dalo i ti fel y gwnaethost i ninnau. 9 Gwyn ei fyd a gymero ac a drawo dy rai bach wrth y meini.
Salm Dafydd.
138 Clodforaf di â’m holl galon: yng ngŵydd y duwiau y canaf i ti. 2 Ymgrymaf tua’th deml sanctaidd, a chlodforaf dy enw, am dy drugaredd a’th wirionedd: oblegid ti a fawrheaist dy air uwchlaw dy enw oll. 3 Y dydd y llefais, y’m gwrandewaist; ac a’m cadarnheaist â nerth yn fy enaid. 4 Holl frenhinoedd y ddaear a’th glodforant, O Arglwydd, pan glywant eiriau dy enau. 5 Canant hefyd am ffyrdd yr Arglwydd: canys mawr yw gogoniant yr Arglwydd. 6 Er bod yr Arglwydd yn uchel, eto efe a edrych ar yr isel: ond y balch a edwyn efe o hirbell. 7 Pe rhodiwn yng nghanol cyfyngder, ti a’m bywheit: estynnit dy law yn erbyn digofaint fy ngelynion, a’th ddeheulaw a’m hachubai. 8 Yr Arglwydd a gyflawna â mi: dy drugaredd, Arglwydd, sydd yn dragywydd: nac esgeulusa waith dy ddwylo.
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
139 Arglwydd, chwiliaist, ac adnabuost fi. 2 Ti a adwaenost fy eisteddiad a’m cyfodiad: deelli fy meddwl o bell. 3 Amgylchyni fy llwybr a’m gorweddfa; a hysbys wyt yn fy holl ffyrdd. 4 Canys nid oes air ar fy nhafod, ond wele, Arglwydd, ti a’i gwyddost oll. 5 Amgylchynaist fi yn ôl ac ymlaen, a gosodaist dy law arnaf. 6 Dyma wybodaeth ry ryfedd i mi: uchel yw, ni fedraf oddi wrthi. 7 I ba le yr af oddi wrth dy ysbryd? ac i ba le y ffoaf o’th ŵydd? 8 Os dringaf i’r nefoedd, yno yr wyt ti: os cyweiriaf fy ngwely yn uffern, wele di yno. 9 Pe cymerwn adenydd y wawr, a phe trigwn yn eithafoedd y môr: 10 Yno hefyd y’m tywysai dy law, ac y’m daliai dy ddeheulaw. 11 Pe dywedwn, Diau y tywyllwch a’m cuddiai; yna y byddai y nos yn oleuni o’m hamgylch. 12 Ni thywylla y tywyllwch rhagot ti; ond y nos a oleua fel dydd: un ffunud yw tywyllwch a goleuni i ti. 13 Canys ti a feddiennaist fy arennau: toaist fi yng nghroth fy mam. 14 Clodforaf di; canys ofnadwy a rhyfedd y’m gwnaed: rhyfedd yw dy weithredoedd; a’m henaid a ŵyr hynny yn dda. 15 Ni chuddiwyd fy sylwedd oddi wrthyt, pan y’m gwnaethpwyd yn ddirgel, ac y’m cywreiniwyd yn iselder y ddaear. 16 Dy lygaid a welsant fy annelwig ddefnydd; ac yn dy lyfr di yr ysgrifennwyd hwynt oll, y dydd y lluniwyd hwynt, pan nad oedd yr un ohonynt. 17 Am hynny mor werthfawr yw dy feddyliau gennyf, O Dduw! mor fawr yw eu swm hwynt! 18 Pe cyfrifwn hwynt, amlach ydynt na’r tywod: pan ddeffrowyf, gyda thi yr ydwyf yn wastad. 19 Yn ddiau, O Dduw, ti a leddi yr annuwiol: am hynny y gwŷr gwaedlyd, ciliwch oddi wrthyf: 20 Y rhai a ddywedant ysgelerder yn dy erbyn; dy elynion a gymerant dy enw yn ofer. 21 Onid cas gennyf, O Arglwydd, dy gaseion di? onid ffiaidd gennyf y rhai a gyfodant i’th erbyn? 22 A chas cyflawn y caseais hwynt: cyfrifais hwynt i mi yn elynion. 23 Chwilia fi, O Dduw, a gwybydd fy nghalon: prawf fi, a gwybydd fy meddyliau; 24 A gwêl a oes ffordd annuwiol gennyf, a thywys fi yn y ffordd dragwyddol.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.